Lleoliad: Hybrid Meeting - Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, LL55 1SH and on Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 21 IONAWR 2025 Dogfennau ychwanegol: |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2023/24 CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd
Adroddiad Blynyddol 2023/24 Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur Cyngor Gwynedd. |
|
ADOLYGU DALGYLCH YSGOL FELINWNDA Cyflwynwyd gan: Cyng. Dewi Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ystyriwyd yr ymatebion a
dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ar adolygu dalgylch Ysgol Felinwnda,
ynghyd â’r gwerthusiad o’r opsiynau a gyflwynir yn yr adroddiad. Penderfynwyd
cymeradwyo’r opsiwn ffafriedig, sef: ‘Opsiwn 2:
Trosglwyddo dalgylch Felinwnda yn ei gyfanrwydd i
ddalgylch Ysgol Bontnewydd’ |
|
YSGOL GYNRADD NEBO AC YSGOL BALADEULYN Cyflwynwyd gan: Cyng. Dewi Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i gychwyn trafodaethau
ffurfiol gyda Chorff Llywodraethol a budd-ddeiliaid perthnasol Ysgol Gynradd
Nebo gan drafod opsiynau posib yn ymwneud â dyfodol yr ysgol yn sgil niferoedd
isel o ddysgwyr a’r pryderon am gynaladwyedd yr ysgol. Cytunwyd i gychwyn trafodaethau ffurfiol gyda Chorff Llywodraethol a budd-ddeiliaid perthnasol Ysgol Baladeulyn gan drafod opsiynau posib yn ymwneud â dyfodol yr ysgol yn sgil niferoedd isel o ddysgwyr a’r pryderon am gynaladwyedd yr ysgol. |
|
CYNLLUN ARBEDION A THORIADAU 2025/26 Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd yr arbedion a
thoriadau a restrir yn Atodiad A (£519k) i’w defnyddio fel cyfraniad tuag at
ein bwlch cyllidol yn 2025/26, a chomisiynu’r Adrannau i symud ymlaen i
weithredu'r cynlluniau gan ddal sylw at y materion a amlygwyd yn yr adroddiad. Cymeradwywyd dirprwyo’r hawl i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Cyllid, i wneud addasiadau i’r Cynllun Arbedion a Thoriadau hwn o fewn y cyfansymiau Adrannol wrth i aeddfedrwydd y cynlluniau a restrir yn Atodiad A ddatblygu, o fewn y cyfansymiau cyllidol. |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Argymell
i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 6 Mawrth 2025) y dylid sefydlu cyllideb o
£355,243,800 ar gyfer 2025/26 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £246,818,190
a £108,425,610 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 8.66%). Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 6 Mawrth 2025) y dylid sefydlu rhaglen gyfalaf o £53,736,190 yn 2025/26 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. |
|
ADDASIAD I GYNLLUN Y CYNGOR Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd ychwanegu prosiect
Gofal Cartref i’r rhestr prosiectau o dan faes blaenoriaeth Gwynedd ofalgar yng
Nghynllun y Cyngor 2023 – 2028. |
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT: RHEOLI'R DEFNYDD O DAI FEL LLETY GWYLIAU Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ystyriwyd y CCA Drafft: Rheoli’r Defnydd o Dai
fel Llety Gwyliau (Ail Gartrefi a Llety Gwyliau Tymor Byr) a chynnig sylwadau
ac unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol fel yn briodol. Cymeradwywyd rhyddhau’r
Canllaw Cynllunio Atodol drafft: Rheoli’r Defnydd o Dai fel Llety Gwyliau (yn
ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol) ar gyfer cyfnod ymgynghori
cyhoeddus. Cymeradwywyd dirprwyo'r hawl i Bennaeth Adran yr Amgylchedd wneud unrhyw addasiadau ansylweddol y gallai fod yn ofynnol i'r CCA drafft. |
|
TROSGLWYDDO CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU I GYD BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (1) Cytunwyd
i lunio Cytundeb Partneriaeth a Chyllido (Atodiad 1) lle trosglwyddir rôl corff
Atebol, cyfrifoldeb dros gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a'r trefniadau
cyllido ar gyfer y Cynllun Twf i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn
31 Mawrth 2025. (2) Cytunwyd
i amnewid a neilltuo yn ôl y galw, cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a hawliau
a rhwymedigaethau ym mhob cytundeb cyllido a ddaw i mewn a ddelir gan Gyngor
Gwynedd fel Corff Atebol ar ran trosglwyddiad Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru ("y Bwrdd Uchelgais") i Gyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd ("y CBC"); (3) Cytunwyd
i drosglwyddo ac amnewid a/neu neilltuo'r holl fuddiannau yn y portffolio o
brosiectau a ariennir gan Gynllun Twf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw
gytundebau, taliadau a phrydlesi ategol gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar
ran y Bwrdd Uchelgais i'r CBC. (4) Cytunwyd
i drosglwyddo a / neu aseinio'r holl falansau
ariannol, arian sy'n ddyledus ac asedau fel a ddelir ar ran Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru gan Gyngor Gwynedd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd. (5) Cytunwyd
i ddirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro
a'r Swyddog Adran 151, i gytuno a gweithredu'r cytundebau, y gweithredoedd a
phob dogfen gyfreithiol arall yn eu ffurf terfynol, sy'n angenrheidiol i
weithredu'r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1), (2) a (3)
uchod. (6) Ar
ôl cwblhau'r Cytundeb Partneriaeth a Chyllido, cytunwyd i derfynu cytundeb GA2
a dirwyn Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ben. (7) Cytunwyd
i drosglwyddo atebolrwydd i'r CBC a bod y CBC yn derbyn cyfrifoldeb am wneud
penderfyniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru yn amodol ar
amnewid y Cynllun Twf a chymeradwyo Rheolau Sefydlog Tud.
251 ychwanegol sy'n ymgorffori telerau allweddol y Cytundeb Cyd-weithio
("GA2") rhwng y 6 Cyngor Cyfansoddol a'r 4 parti Addysg. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU CORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL Cyflwynwyd gan: Cyng. Llio Elenid Owen Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. |