Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Gweddarllediad: Gwylio'r gweddarllediad
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 26 IONAWR 2021 Dogfennau ychwanegol: |
|
CYNLLUN BRYS AR GYFER BYSIAU Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd fod y Cyngor yn ymuno a Chynllun BES2 yn unol â’r
adroddiad. Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Amgylchedd mewn ymgynghoriad
â’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno a chwblhau Cytundeb
Partneriaeth Rhanbarthol Gwirfoddol ar gyfer rhoi’r cynllun ar waith yn y
Gogledd. |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadwyd yr addasiadau i’r Strategaeth Barcio drwy newid
trefniadau rheoli parcio a gweithredu’r strwythur ffioedd parcio yng Ngwynedd
fel bod modd ei weithredu o’r 1 Ebrill 2021. Cytunwyd addasiad hwyr ychwanegol
i’r adroddiad, yn cysoni oriau gorfodi Meysydd Parcio Band 1 i fod yn
weithredol rhwng yr oriau 10am a 4:30pm, ac i gadw’r lefel incwm dan adolygiad
yn ystod 2021/22, gyda golwg ar gynorthwyo’r Adran Amgylchedd pe bai’r gwir
incwm o ffioedd parcio yn is na’r targed yn y gyllideb oherwydd yr addasiad
hwyr yma. Awdurdodwyd y Pennaeth Amgylchedd i gymryd y camau statudol
angenrheidiol i roi’r gyfundrefn ffioedd diwygiedig ar waith erbyn 1 Ebrill
2021. |
|
CYNLLUN PRYNU TAI I'W GOSOD I DRIGOLION GWYNEDD Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd yr achos busnes dros fuddsoddi £15.4m i brynu
oddeutu 100 o dai i’w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy gyda phob
pryniant i ddangos ei hyfywdra ariannol ei hun ar sail achos wrth achos. Cytunwyd fod y Pennaeth Tai ac Eiddo mewn ymgynghoriad a’r
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid yn adolygu'r trefniadau
statudol ar gyfer gweithredu'r Cynllun yn dilyn cyhoeddi Canllawiau Diwygiedig
ar Gyfrif Refeniw Tai gan y Llywodraeth ac adrodd yn ôl i’r Cabinet petai angen
penderfyniadau ychwanegol. |
|
CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2018-23 - ADOLYGIAD 2021-22 Cyflwynwyd gan: Cyng Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23 Adolygiad
2021/22 yn amodol ar addasiadau i eiriad Blaenoriaeth 4 a Blaenoriaeth 7, ac argymell
i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yng Nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 4 Mawrth 2021. |
|
STRATEGAETH GYFALAF Y CYNGOR Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i:
|
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd
i argymell i’r Cyngor Llawn ar y 4 Mawrth y dylid:
Nodwyd
byddai’r ffigyrau yn argymhelliad 1 uchod yn newid yn unol â’r ffigyrau yn
Atodiad 6 o’r adroddiad pe bai’r Cyngor llawn yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor
o 50% i 100%. |
|
PREMIWM TRETH CYNGOR AR AIL GARTREFI AC EIDDO GWAG HIRDYMOR Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth fod
Cyngor Gwynedd:
|