Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Stephen Churchman, Annwen Hughes, Linda Ann Jones, Eryl Jones-Williams ac Einir Wyn Williams.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 238 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2023 fel rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

‘Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag eitem 8 – Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2024/25 ac eitem 9 - Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2024/25.

 

(1)       Datganodd y Cynghorydd Rheinallt Puw fuddiant personol yn eitem 6 ar y rhaglen – Cyflwyniad gan Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oherwydd ei fod yn gweithio i’r Bwrdd Iechyd.

 

Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

(2)       Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 8 ar y rhaglen - Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2024/25 am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Dewi Jones oherwydd bod aelod o’r teulu wedi etifeddu cartref sy’n parhau yn eu meddiant, ac yn talu’r premiwm.

·         Y Cynghorydd Cai Larsen oherwydd ei fod wedi etifeddu tŷ sydd heb ei werthu eto, ac yn wag.

·         Y Cynghorydd Huw Rowlands oherwydd bod gan aelod agos o’r teulu dŷ sy’n disgyn i mewn i un o’r categorïau.

·         Y Cynghorydd Gareth A. Roberts oherwydd bod ganddo dŷ gwag heb unrhyw Dreth Cyngor yn daladwy arno am 6 mis.

·         Y Cynghorydd Menna Baines oherwydd bod aelod agos o’r teulu yn dod i mewn i un o’r categorïau.

 

Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

(3)     Datganodd y Cynghorydd Gareth A.Roberts fuddiant personol yn eitem 9 ar y rhaglen – Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2024/25 oherwydd bod aelod agos o’r teulu wedi derbyn disgownt Treth Cyngor.

 

Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

 

·                Teulu’r Cynghorydd Eirwyn Williams Cricieth, a rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cynghorydd Angela Russell.

·                Teulu Carey Cartwright, Rheolwr Dysgu a Datblygu, a rhoddwyd teyrnged iddo gan Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol.

·                Teuluoedd y pedwar bachgen ifanc o ardal Amwythig fu farw mewn damwain drasig ger Llanfrothen yn ddiweddar.

 

Nodwyd ymhellach bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Nodwyd bod sawl aelod o’r Cyngor wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar a dymunwyd iddynt adferiad llwyr a buan.

 

Llongyfarchwyd:-

 

·         Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Meirionnydd ar ddod yn drydydd yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru a gynhaliwyd ym Môn y mis diwethaf, ac hefyd ar fod yn fuddugol yng Nghystadleuaeth y Côr.

·         Y Tîm o Adran Priffyrdd ac Ymgynghoriaeth Gwynedd sydd wedi ennill gwobr yr NCE yn Llundain am ddefnyddio technoleg i reoli asedau, sef cynllun Gwarchod Llifogydd y Felinheli, a braf oedd nodi i’r gystadleuaeth fod yn erbyn cwmnïau mawr Prydain gyfan.

 

Croesawyd y newydd fod y gwaith helaeth, dros gyfnod o bedair blynedd, o adfer Traphont Abermaw wedi’i gwblhau, a nodwyd bod hyn yn fuddsoddiad ac yn newyddion gwych i Reilffordd y Cambrian.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

CYFLWYNIAD GAN GADEIRYDD BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BETSI CADWALADR

Derbyn cyflwyniad gan Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar brif flaenoriaethau’r Bwrdd ar gyfer gwella gwasanaethau i drigolion Gwynedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ynghyd â Carys Norgain, i’r cyfarfod i roi cyflwyniad i’r aelodau ar brif flaenoriaethau’r Bwrdd ar gyfer gwella gwasanaethau i drigolion Gwynedd.

 

Cyfeiriodd Cadeirydd y Bwrdd Iechyd at bapur a anfonwyd ar yr holl aelodau yn amlinellu gwaith y Bwrdd, yr heriau a’r cynnydd sydd wedi bod, gan nodi:-

 

·         Fel Cadeirydd newydd y Bwrdd Iechyd, y bu iddo ef a’r aelodau annibynnol newydd eraill ganfod sefydliad oedd yn ansefydlog, gyda llawer iawn o heriau o gwmpas llywodraethiant, cyllid ac ansawdd rhai o’r gwasanaethau.

·         Y bu iddynt hefyd, ar yr un pryd, ganfod bod yna nifer fawr o bobl yn gweithio yn y Bwrdd Iechyd yn gwneud gwaith rhagorol.  Gan hynny, y cam cyntaf, wrth adlewyrchu ar y sefyllfa, oedd ceisio creu sefydlogrwydd drwy ymgymryd â chamau i fod yn weledol.

·         Y credai ei bod yn deg dweud hefyd bod yna faterion yn ymwneud â diwylliant y Bwrdd Iechyd a dyma un o’r pethau yr oedd ef yn bersonol yn dymuno ceisio mynd i’r afael ag o, er nad oedd hynny’n mynd i ddigwydd dros nos.

·         Bod gan y Bwrdd raglen waith benodol, yn gweithio gyda phobl fel Michael West yn y maes arweinyddiaeth drugarog, ac yn awyddus iawn i greu cyd-destun lle mae pobl yn gallu llwyddo yn eu gwaith a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn rhan o dîm ehangach sy’n gallu darparu gwasanaeth iechyd a lles gorau bosib’.

·         Bod y Bwrdd wedi gwneud nifer o benodiadau allweddol yn rhai parhaol yn ddiweddar, sef swyddi fydd yn creu sefydlogrwydd yn y Bwrdd Iechyd a thu hwnt.

·         Bod y sefyllfa fel creu Bwrdd Iechyd o’r newydd bron, ac roedd yn bwysig cyflawni gofynion rhaglen o fesurau arbennig Llywodraeth Cymru, gan hefyd fynd i’r afael â materion eraill a chreu llwyddiant sy’n mynd i fod yn gynaliadwy.

·         Y gobeithid, felly, bod yna ddarlun i’r dyfodol o Fwrdd Iechyd sy’n mynd i fod yn uchelgeisiol, ond yn realistig ac yn deall yr heriau.

·         Mai’r her fwyaf yw mynediad i’r gwasanaethau ac roedd angen eglurdeb ynglŷn â’r ffordd ymlaen a beth yw’r disgwyliadau, yn arbennig disgwyliadau o gwmpas safonau.

·         Bod perygl mewn sefyllfa o fesurau arbennig i fynd yn amddiffynnol iawn, ond y ceisid gwneud i’r gwrthwyneb, a dyna un o’r rhesymau pam ei fod yn falch o’r cyfle hwn i annerch y Cyngor ac i fod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â’r heriau a wynebir.

·         Bod gan bartneriaid, fel cynghorau, rôl bwysig iawn i’w chwarae gyda’r Bwrdd Iechyd ar y siwrne yma, gan nad yw iechyd a lles yn perthyn i’r Bwrdd Iechyd yn unig.  Credid bod cyfle i wneud mwy gyda’r partneriaid yma i gyflawni’r hyn sydd ei angen i sicrhau bod pobl Gwynedd a phobl y Gogledd yn derbyn y gwasanaethau gorau bosib’.

·         Y byddai’r Bwrdd Iechyd yn hapus i ddod yn ôl gerbron y Cyngor, neu unrhyw fforwm o ddewis yr aelodau, er mwyn darparu mwy o fanylion ynglŷn â rhai o’r gwasanaethau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CWESTIYNAU pdf eicon PDF 182 KB

Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn Y Cynghorydd Rhys Tudur

 

O ystyried bod Ymchwil Tai Newydd a gyhoeddwyd gan y Cyngor yn 2021 wedi profi bod asesiadau ieithyddol ar geisiadau cynllunio yn anwireddau wrth amlygu fod canran uchel o dai wedi mynd yn aelwyddydd di-Gymraeg mewn ardal sy’n gadarnleoedd traddodiadol i’r iaith, 68% ym Mhen Llŷn a 41% ym Mhenllyn, onid yw’n amser bellach i ail wneud y drefn wallus sydd gennym ar gyfer asesiadau ieithyddol fel na fyddai’r asesydd ieithyddol yn gweithredu ar ran ac er budd datblygwr ond yn hytrach yn cael ei gyfarwyddo gan y Cyngor a bod y datblygwr yn talu comisiwn tuag at y gwasanaeth?

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Yn 2019 y comisiynwyd y gwaith yma ac fe wnaed hynny oherwydd bod yna ddiffyg gwybodaeth ddibynadwy ar gael am ba grwpiau o bobl sy’n tueddu i symud i dai newydd yng Ngwynedd, o lle mae’r bobl yma’n symud a pham eu bod yn dewis symud i dŷ newydd.  Fel y nodir yn yr ateb ysgrifenedig, prif gasgliadau’r gwaith ymchwil oedd:-

 

·           Bod dros 70% o breswylwyr tai newydd wedi symud yno o dŷ arall yng Ngwynedd.

·           Bod proffil oedran pobl sy’n symud i dai newydd yn eithaf ‘ifanc’ gyda dros 70% o drigolion tai newydd dan 45 oed.

·           Bod 69% o breswylwyr tai newydd yn gallu siarad Cymraeg sydd yn debyg iawn i’r canran o siaradwyr Cymraeg ar draws Gwynedd yn gyffredinol.

 

Yng nghwestiwn yr aelod, mae’n nodi bod y canrannau ym Mhen Llŷn a Phenllyn yn is na’r nifer sy’n siarad Cymraeg yn yr ardaloedd hynny, ond mae angen pwysleisio bod 7 allan o’r 10 ardal oedd yn destun y gwaith ymchwil yn dangos canrannau uwch fel y gwelwch yn y graff yn yr ateb ysgrifenedig.  Er enghraifft, roedd canran y siaradwyr Cymraeg oedd wedi symud i mewn i dai newydd yn ardal Porthmadog yn 78%, sy’n cymharu â 67%, sef y ganran o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal.  Yn Arfon, er enghraifft, roedd yn 91% o gymharu ag 81%, ac yn ddifyr iawn, ym Mangor roedd yn 59% o gymharu â 42%, sef y ganran sy’n siarad Cymraeg ym Mangor, ac mae hynny’n bennaf oherwydd stad o dai newydd, Goetre Uchaf, ym Mhenrhosgarnedd.  Ac yn nes at adre i mi, roedd yn 86% yn Nyffryn Ogwen o gymharu â 73% yn gyffredinol.

 

Fel rhan o’r ymchwil, roedd yna ddilyn y gadwyn hefyd o ran pwy oedd wedi symud i mewn i’r tai wrth i bobl eraill symud allan, ac mae’r ystadegau’n dangos bod y ffigurau’n eithaf tebyg o ddilyn y gadwyn.

 

Pwynt pwysig ydi bod yr ymchwil yn cynnwys pob tŷ newydd a gwblhawyd yng Ngwynedd rhwng 2015 a 2017, ond roedd yna rai tai ychwanegol oedd yn mynd yn ôl i 2012 mewn rhai ardaloedd er mwyn gwneud yn siŵr bod y samplau yn ddigon mawr.

 

Wrth gwrs, mae’r datblygiadau tai yma wedi’u penderfynu o dan yr hen Gynllun  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

TRETH CYNGOR - HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU A / NEU GODI PREMIWM 2024/25 pdf eicon PDF 325 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Bod y Cyngor yn gwneud dim newid i’r Premiwm Treth Cyngor ar gyfer 2024/25.  Hynny yw, ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25:-

 

  • Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
  • Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
  • Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2024/25 o’r penderfyniadau blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar eiddo gwag, ac i godi Premiwm o 150% ar anheddau sydd wedi eu meddiannu yn achlysurol a Phremiwm o 100% ar anheddau gwag hirdymor.

 

Yna cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at y gwaith ymchwil a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn er mwyn mesur effaith y Premiwm ar wardiau a chymunedau unigol gan nodi:-

 

·         Dros y misoedd diwethaf, y gwelwyd gostyngiad am y tro cyntaf yn nifer yr ail gartrefi ac unedau gwyliau hunan-ddarpar.

·         Nad oedd digon o ddata ar gael ar hyn o bryd i brofi bod hynny yn uniongyrchol o ganlyniad i’r Premiwm.  Gan hynny, nid oedd tystiolaeth yn bodoli ar hyn o bryd fyddai’n cyfiawnhau gosod lefel wahanol ar gyfer y Premiwm yn 2024/25.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. 

 

Mynegwyd pryder bod y lleihad yn nifer yr ail gartrefi a’r lleihad mewn twristiaeth yn sgil hynny yn arwain at gau busnesau, yn arbennig yn y trefi glan môr, a holwyd pa gymorth allai’r Cyngor ei gynnig i fusnesau lleol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y gallai’r Tim Ymchwil a Gwybodaeth, sy’n casglu gwybodaeth o nifer o wahanol sefydliadau ar ran y Cyngor, ddod â’r data sy’n cael ei dderbyn gan yr Adran Economi a Chymuned at ei gilydd i weld beth ydi’r effaith.

·         Os yw nifer yr ail gartrefi yn gostwng, a phobl yn byw’n barhaol yn y tai hynny, y gobaith yw y bydd y bobl hynny’n cefnogi busnesau lleol gydol y flwyddyn.

·         Y bydd y Cyngor yn edrych ar ganlyniad hynny dros gyfnod maith.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad i barhau i godi Premiwm o 150% ar ail gartrefi ar y sail nad ydi’r bobl sy’n symud i mewn i bentrefi fel Abersoch yn deall ein hiaith na’n ffordd o fyw nac yn gwneud defnydd o’n busnesau lleol, a rhaid i bobl o’r ardal sydd wedi etifeddu tai adael eu cynefin gan na allant fforddio cadw’r tai hynny.

 

Holwyd pa wybodaeth sydd ar gael am broffil y tai hynny sydd wedi newid o fod yn dai haf i fod yn dai preswyl parhaol, ac a oedd bwriad i geisio gweld ai brodorion sydd wedi prynu’r tai.  Mewn ymateb, nodwyd nad oedd y wybodaeth honno ar gael ar hyn o bryd.  Roedd gwybodaeth ynglŷn â’r tueddiadau mewn gwahanol ardaloedd ar gael, a’r cam nesaf fyddai gwneud y math hwn o ymchwil.

 

Nodwyd bod pobl yn llwyddo i gael caniatâd cynllunio i chwalu tai ac adeiladu tai enfawr yn eu lle mewn llefydd fel Abersoch, ond na allai pobl ifanc lleol gael caniatâd cynllunio i drosi adeiladau fferm yn gartref.  Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn fater cynllunio, ond y derbynnid y sylw.

 

Nodwyd y bydd y lleihad mewn twristiaeth yn sgil codi Premiwm ar ail gartrefi yn golygu bod rhaid i bobl ifanc fynd dros y ffin i chwilio am waith, a heb  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2024-25 pdf eicon PDF 198 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.         Bod Cynllun Lleol Cyngor Gwynedd am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2024 yn parhau fel ag yr oedd yn ystod 2023/24.  Felly, bydd yr amodau canlynol (a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:

a)    Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.

b)    Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sy’n y Cynllun Rhagnodedig.

c)    Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.

2.   Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2024/25, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gadarnhau parhad y Cynllun Lleol cyfredol ar gyfer darparu cymorth tuag at dalu’r Dreth Gyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill, 2024.

 

PENDERFYNWYD

 

1.      Bod Cynllun Lleol Cyngor Gwynedd am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2024 yn parhau fel ag yr oedd yn ystod 2023/24.  Felly, bydd yr amodau canlynol (a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:

a)      Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.

b)     Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sy’n y Cynllun Rhagnodedig.

c)      Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.

2.    Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2024/25, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun.

 

10.

STRATEGAETH IAITH GWYNEDD 2023-2033 pdf eicon PDF 143 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu Strategaeth Iaith 2023-2033.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad Arweinydd y Cyngor yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu Strategaeth Iaith ar gyfer 2023-2033 gan fod cyfnod y Strategaeth Iaith bresennol (Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd) yn dod i ben.

 

Yn ei gyflwyniad, cyfeiriodd yr Arweinydd at rai llwyddiannau sydd wedi deillio o’r strategaeth flaenorol gan nodi y credai y dylai’r Gymraeg hedfan yn uchel yng Ngwynedd.  Nododd hefyd ei fod yn gwrthod y negyddiaeth a glywir yn aml am y Gymraeg yng Ngwynedd ac y bydd hynny yn arwain at ddifodiant yr iaith.  Nododd bod rhaid wynebu’r her sydd o’n blaenau yn hyderus ac yn gynhwysol gan gryfhau’r Gymraeg, hyrwyddo ei defnydd ac ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni yng Ngwynedd o leiaf yn sefyll yn gadarn o safbwynt dyfodol yr iaith.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

Mynegwyd pryder mai ond 159 o bobl, a 3 o bobl yn unig dan 34 oed, oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y cytunid â’r sylw a bod hyn yn rhywbeth i roi sylw pellach iddo.

·         Y cynhaliwyd grwpiau ffocws yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ayb, a bod y Gwasanaeth yn cydweithio gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid.

·         Bod bwriad i wella’r dechnoleg a bod hynny’n rhan o’r ymateb hefyd er mwyn cael barn pobl ifanc.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys llawer o rethreg, ond mai hawdd oedd canmol rhywbeth heb fynd at y glo man.  O ran hynny, nodwyd:-

 

·         Bod 34% o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad wedi nodi nad oeddent yn gwybod a fyddai’r cynllun yn ei gyfanrwydd yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg yng Ngwynedd.  Roedd hynny ynddo’i hun yn ddamniol, ac roedd y nifer oedd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn ddamniol hefyd.

·         Bod yna lawer iawn o ddyheu pethau na ellir, o bosib’, eu mesur yn yr adroddiad.  Er enghraifft, roedd y golofn Mesur Llwyddiant yn y tabl Camau Gweithredu Hydref 2023 i Hydref 2024 yn cynnwys llawer o fylchau.

·         Bod Gwynedd yn crebachu ar y ddarpariaeth trochi gyda nifer y dyddiau mae plant yn cael eu trochi bob wythnos mewn canolfan iaith wedi cwtogi o 5 i 4 a nifer yr athrawon arbenigol sy’n dysgu mewn canolfannau trochi wedi haneru o 2 i 1 athro ymhob canolfan.

·         Bod Gwynedd ofn dynodi ysgolion yn rhai penodedig Cymraeg a’i bod yn bosib’, mewn theori, i 40% o blant y sir osgoi addysg cyfrwng Cymraeg gan fod y diffiniad categori rydym yn bodloni arno yn caniatáu hynny.

·         Bod Gwynedd, yn wahanol i siroedd eraill fel Môn, Dinbych a Phowys, wedi ymwrthod ag ariannu cynllun pontio sy’n rhoi amlygrwydd i’r Gymraeg yn y cylchoedd meithrin.

·         Bod y strategaeth yn ddiddannedd o ran mesuryddion cadarn ac na cheir unrhyw gyfeiriad at beth fyddai’n digwydd pe na fyddai’r targedau hynny yn cael eu cyflawni. 

·         Y gwelwyd gostyngiad rhwng 2016 a 2022 yn nifer y disgyblion sy’n astudio 5 neu fwy o bynciau TGAU drwy’r Gymraeg, ac nid oedd yna unrhyw weithredu yn dilyn o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - DEWIS AR FABWYSIADU SYSTEM PLEIDLAIS SENGL DROSGLWYDDADWY AR GYFER ETHOLIADAU CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 206 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn cychwyn proses all arwain at fabwysiadu sustem Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol yn gofyn i’r Cyngor ystyried a ddylid cychwyn proses all arwain at fabwysiadu sustem Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (PSD) ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Swyddog Monitro esboniad manwl o rai agweddau o’r ddeddf a’r broses.

 

Cynigiodd yr Aelod Cabinet na ddylid cychwyn proses all arwain at fabwysiadu sustem PSD ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. 

 

Er i ambell aelod fynegi peth pryder ynglŷn â maint y wardiau o dan y sustem PSD, gwrthwynebwyd y cynnig gan sawl aelod arall ar y sail:-

 

·         Bod angen i’r broses fynd rhagddi er mwyn i’r Cyngor fedru gwneud penderfyniad ystyrlon ar y ffordd ymlaen.

·         Bod sustem PSD yn rhagori ar y drefn etholiadol bresennol gan ei bod yn drefn fwy cyfrannol, teg a rhesymegol sy’n rhoi mwy o ystyriaeth i bleidleisiau pobl, yn golygu llai o bleidleisiau wedi’u gwastraffu ac yn hawdd i’r sawl sy’n pleidleisio ei defnyddio.

·         Yn wahanol i’r mwyafrif o sustemau cyfrannol eraill, bod sustem PSD yn cadw cysylltiad clos rhwng aelodau etholedig a’u wardiau ac yn rhoi mwy o’r grym i ddewis cynrychiolwyr etholedig yn nwylo etholwyr, a llai yn nwylo’r pleidiau gwleidyddol.

·         Mai un o brif wendidau’r drefn bresennol yw bod modd i aelodau gael eu dewis yn gynghorwyr yn ddi-wrthwynebiad, ac roedd y system PSD yn dileu hynny.

·         Na fyddai cynnal ymgynghoriad yn mynd â’r Cyngor ar hyd llwybr di-droi’n-ôl, ond yn hytrach yn cynnig cyfle i edrych ar yr holl fater a chael barn etholwyr arno.

·         Bod angen chwyldro yn y sustem os am rymuso ein hetholwyr, cynyddu diddordeb pobl mewn democratiaeth, ymgysylltu’n well gyda’n hetholwyr a chael trefn fwy teg, a dyna’n union roedd PSD yn ei gynnig.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd sylwadau cloi ar ran yr Aelod Cabinet oedd wedi gorfod gadael y cyfarfod yn gynnar.  Nododd, er ei fod yn cefnogi’r egwyddor o gael sustem bleidleisio newydd ar gyfer pob etholiad, bod penderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i beidio gorfodi’r drefn ar bob cyngor yng Nghymru, gan y byddai hynny’n gwanio sefyllfa’r Blaid Lafur, yn annheg.  Ar sail hynny, nid oedd yn gefnogol i symud ymlaen ar y mater ar hyn o bryd.

 

Pleidleisiodd yr aelodau ar y cynnig i beidio cychwyn proses all arwain at fabwysiadu sustem PSD ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd.  Disgynnodd y cynnig.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd bod y Cyngor yn cychwyn proses all arwain at fabwysiadu sustem PSD ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd.  Nododd y cynigydd ymhellach:-

 

·         Y byddai mabwysiadu’r cynnig hwn yn gam cadarn a hanesyddol tuag at fod yn fwy democrataidd.

·         Bod sustem PSD yn cael gwared â’r syniad nad oes pwynt bwrw pleidlais dros blaid benodol ac mae pob pleidlais yn cyfri’.

·         Bod y sustem yn cynyddu’r nifer o bobl sy’n cael y cyfle i leisio barn o ddifri’ a thrwy hynny’n cryfhau democratiaeth.

·         Nad oedd gan Lywodraeth Cymru'r asgwrn cefn i ddweud mai dyma fyddai’r drefn yng Nghymru ac roeddent yn ofni y byddai pobl Cymru yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL STRATEGOL DIOGELU 2022-23 pdf eicon PDF 104 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Panel Strategol Diogelu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gan ei bod wedi mynd yn hwyr yn y pnawn i ganiatáu trafodaeth ystyrlon, gohiriwyd yr eitem hon.

 

13.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

14.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd John Pughe Roberts

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd John Pughe Roberts yn cynnig fel a ganlyn:-

 

O ystyried ardrawiad canfod tiwbercwlosis ar fferm a phwysigrwydd rheoli yr haint fod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod profi anifeiliaid gwyllt, all fod yn trosglwyddo yr haint yng nghefn gwlad yng nghyffiniau fferm sydd wedi ei heffeithio, fel mater o drefn i ddarganfod os ydynt yn cario tiwbercwlosis a chaniatau mesurau rheoli.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

O ystyried ardrawiad canfod tiwbercwlosis ar fferm a phwysigrwydd rheoli yr haint, fod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod anifeiliaid gwyllt, all fod yn trosglwyddo yr haint yng nghefn gwlad yng nghyffiniau fferm sydd wedi ei heffeithio, yn cael eu profi fel mater o drefn i ddarganfod os ydynt yn cario tiwbercwlosis a chaniatáu mesurau rheoli.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd John Pughe Roberts o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

O ystyried ardrawiad canfod tiwbercwlosis ar fferm a phwysigrwydd rheoli'r haint, fod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod anifeiliaid gwyllt, all fod yn trosglwyddo'r haint yng nghefn gwlad yng nghyffiniau fferm sydd wedi ei heffeithio, yn cael eu profi fel mater o drefn i ddarganfod os ydynt yn cario tiwbercwlosis a chaniatáu mesurau rheoli.

 

Mynegodd aelod ei gefnogaeth i’r cynnig ar y sail ei fod yn gam tuag at dynnu ychydig o’r baich oddi ar ffermwyr sy’n dioddef o iselder a phroblemau iechyd meddwl.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

O ystyried ardrawiad canfod tiwbercwlosis ar fferm a phwysigrwydd rheoli'r haint, fod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod anifeiliaid gwyllt, all fod yn trosglwyddo'r haint yng nghefn gwlad yng nghyffiniau fferm sydd wedi ei heffeithio, yn cael eu profi fel mater o drefn i ddarganfod os ydynt yn cario tiwbercwlosis a chaniatáu mesurau rheoli.

 

15.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elin Hywel

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Hywel yn cynnig fel a ganlyn:-

 

1.    Bod y Cyngor yn cydnabod ein cyfrifoldeb i warchod lles a chydlyniad cymunedol Gwynedd. Ein bod am weld cymunedau a thrigolion Gwynedd yn cyd-fyw mewn heddwch, drwy barch a chefnogaeth i’w gilydd. Gwelwn fod digwyddiadau diweddar yn Palestina ac yn Israel yn effeithio yn negyddol ar ein gallu i fod yn llwyddiannus yn cyflawni’r cyfrifoldeb yma. Gwelwn fod effeithiau torcalonnus a thrychinebus i ryfeloedd yma yng Ngwynedd. Rydym yn estyn allan i drigolion Gwynedd ar yr adeg hon. Rydym yn cydymdeimlo ac yn cydalaru.

2.    Noda’r Cyngor ein cyfrifoldeb yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i chwarae ein rhan i sicrhau fod Cymru’n groesawgar, yn ddiogel ac yn deg i bawb.

3.    Fel cynrychiolwyr trigolion Gwynedd, galwn am ymateb heddychlon gan Lywodraeth Cymru. Galwn ar Lywodraeth Cymru, fel ein cynrychiolwyr ar y llwyfan rhyngwladol, i hwyluso sefydlu a gweithredu cynllun cymorth dyngarol ar unwaith i bobl Gaza.

4.    Bod y cynnig hwn yn datgan na ellir cyfiawnhau trais a gweithredoedd rhyfelgar yn erbyn sifiliaid. Bod hyn yn cynnwys gweithredoedd treisgar Hamas a'u gwrthodiad i ryddhau eu gwystlon ar unwaith, ynghyd â gweithredoedd anghymesur Israel yn erbyn pobl Palestina, sydd yn dorcyfraith rhyngwladol.

5.    Ein bod ni, Cyngor Gwynedd, yn galw am gadoediad parhaol a di-droi’n ôl yn Gaza. Galwn ar Lywodraeth Cymru, y DU a’r gymuned rhyngwladol i sicrhau dychwelyd at y bwrdd trafod, a datrysiad theg a chyfiawn i holl drigolion Palestina a Israel, nifer sydd wedi ymgartrefu, sydd â theulu ac anwyliaid yma yng Ngwynedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.       Bod y Cyngor yn cydnabod ein cyfrifoldeb i warchod lles a chydlyniad cymunedol Gwynedd.  Ein bod am weld cymunedau a thrigolion Gwynedd yn cyd-fyw mewn heddwch, drwy barch a chefnogaeth i’w gilydd.  Gwelwn fod digwyddiadau diweddar yn Palestina ac yn Israel yn effeithio yn negyddol ar ein gallu i fod yn llwyddiannus yn cyflawni’r cyfrifoldeb yma.  Gwelwn fod effeithiau torcalonnus a thrychinebus i ryfeloedd yma yng Ngwynedd.  Rydym yn estyn allan i drigolion Gwynedd ar yr adeg hon.  Rydym yn cydymdeimlo ac yn cydalaru.

2.    Noda’r Cyngor ein cyfrifoldeb yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i chwarae ein rhan i sicrhau fod Cymru’n groesawgar, yn ddiogel ac yn deg i bawb.

3.    Fel cynrychiolwyr trigolion Gwynedd, galwn am ymateb heddychlon gan Lywodraeth Cymru.  Galwn ar Lywodraeth Cymru, fel ein cynrychiolwyr ar y llwyfan rhyngwladol, i hwyluso sefydlu a gweithredu cynllun cymorth dyngarol ar unwaith i bobl Gaza.

4.    Bod y cynnig hwn yn datgan na ellir cyfiawnhau trais a gweithredoedd rhyfelgar yn erbyn sifiliaid.  Bod hyn yn cynnwys gweithredoedd treisgar Hamas a'u gwrthodiad i ryddhau eu gwystlon ar unwaith, ynghyd â gweithredoedd anghymesur Israel yn erbyn pobl Palestina, sydd yn dorcyfraith rhyngwladol.

5.    Ein bod ni, Cyngor Gwynedd, yn galw am gadoediad parhaol a di-droi’n ôl yn Gaza.  Galwn ar Lywodraeth Cymru, y DU a’r gymuned ryngwladol i sicrhau dychwelyd at y bwrdd trafod, a datrysiad teg a chyfiawn i holl drigolion Palestina ac Israel, nifer sydd wedi ymgartrefu, sydd â theulu ac anwyliaid yma yng Ngwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elin Hywel o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

1.      Bod y Cyngor yn cydnabod ein cyfrifoldeb i warchod lles a chydlyniad cymunedol Gwynedd.  Ein bod am weld cymunedau a thrigolion Gwynedd yn cyd-fyw mewn heddwch, drwy barch a chefnogaeth i’w gilydd.  Gwelwn fod digwyddiadau diweddar yn Palestina ac yn Israel yn effeithio yn negyddol ar ein gallu i fod yn llwyddiannus yn cyflawni’r cyfrifoldeb yma.  Gwelwn fod effeithiau torcalonnus a thrychinebus i ryfeloedd yma yng Ngwynedd.  Rydym yn estyn allan i drigolion Gwynedd ar yr adeg hon.  Rydym yn cydymdeimlo ac yn cydalaru.

2.      Noda’r Cyngor ein cyfrifoldeb yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i chwarae ein rhan i sicrhau fod Cymru’n groesawgar, yn ddiogel ac yn deg i bawb.

3.      Fel cynrychiolwyr trigolion Gwynedd, galwn am ymateb heddychlon gan Lywodraeth Cymru.  Galwn ar Lywodraeth Cymru, fel ein cynrychiolwyr ar y llwyfan rhyngwladol, i hwyluso sefydlu a gweithredu cynllun cymorth dyngarol ar unwaith i bobl Gaza.

4.      Bod y cynnig hwn yn datgan na ellir cyfiawnhau trais a gweithredoedd rhyfelgar yn erbyn sifiliaid.  Bod hyn yn cynnwys gweithredoedd treisgar Hamas a'u gwrthodiad i ryddhau eu gwystlon ar unwaith, ynghyd â gweithredoedd anghymesur Israel yn erbyn pobl Palestina, sydd yn dorcyfraith rhyngwladol.

5.      Ein bod ni, Cyngor Gwynedd, yn galw am gadoediad parhaol a di-droi’n ôl yn Gaza.  Galwn ar Lywodraeth Cymru, y DU a’r gymuned ryngwladol i sicrhau dychwelyd at y bwrdd trafod, a datrysiad teg a chyfiawn i holl drigolion Palestina ac Israel, nifer sydd wedi ymgartrefu, sydd â theulu ac anwyliaid yma yng Ngwynedd.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:-

 

·         Bod y BBC yn adrodd heddiw bod mwy na 16,200 o bobl, gan gynnwys tua 7,000 o blant, wedi marw yn Llain Gaza ers 7 Hydref, gyda miloedd mwy ar goll o dan y rwbel.

·         Y gobeithiai y byddai ei chyd-aelodau’n cefnogi ei chynnig i alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau rhaglen ddwys o gefnogaeth ddyngarol ar gyfer pobl Gaza, yn yr un modd ag y dewisodd y Cyngor yn gywir i ymateb i angen dirfawr yn y gorffennol.

·         Bod gan Gyngor Gwynedd gyfrifoldeb i ymateb i ddigwyddiadau sy’n effeithio ar drigolion Gwynedd, a chyfrifoldeb hefyd ar lefel byd-eang fel corff cyhoeddus Cymreig sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol.

·         Bod trigolion yng Ngwynedd wedi’u heffeithio’n ddirfawr gan y rhyfel yn Gaza a bod rhaid i ni ddatgan ein safbwynt fel Cyngor er mwyn hwyluso diwylliant iach, parchus a heddychlon a chefnogi datblygiad llesiant ein cymunedau.

·         Gyda diffyg llwyr mewn arweiniad gan Lywodraethau Cymru a San Steffan, bod rhaid i ni fel Cynghorwyr Gwynedd gamu i mewn a llenwi’r gwagle, er mwyn ein trigolion ac er mwyn heddwch.

 

Mynegwyd cefnogaeth gref i’r cynnig gan nifer o aelodau ar y sail:-

 

·         Bod y sefyllfa’n effeithio ar les pobl Gwynedd ac na chredid bod yna unrhyw berson sydd heb ei gyffwrdd gan y lluniau dychrynllyd sy’n ymddangos ar y teledu yn ddyddiol.

·         Bod gan rai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 15.

16.

YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 168 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth:-

 

(a)  Diweddariad i rybudd o gynnig y Cynghorydd Rhys Tudur i gyfarfod 4 Mai, 2023 o’r Cyngor ynglŷn â’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ysgolion uwchradd.

(b)  Llythyr oddi wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn i gyfarfod 6 Gorffennaf, 2023 o’r Cyngor ynglŷn â datganoli’r grymoedd dros gyfiawnder a chreu Awdurdodaeth Gyfreithiol i Gymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth –

 

(a)       Diweddariad i rybudd o gynnig y Cynghorydd Rhys Tudur i gyfarfod 4 Mai, 2023 o’r Cyngor ynglŷn â’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ysgolion uwchradd.

(b)       Llythyr oddi wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn i gyfarfod 6 Gorffennaf, 2023 o’r Cyngor ynglŷn â datganoli’r grymoedd dros gyfiawnder a chreu Awdurdodaeth Gyfreithiol i Gymru.