Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2023 fel rhai cywir. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
CYFLWYNIAD GAN GADEIRYDD BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BETSI CADWALADR Derbyn
cyflwyniad gan Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr,
ar brif flaenoriaethau’r Bwrdd ar gyfer gwella gwasanaethau i drigolion
Gwynedd. |
|
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau
etholedig, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad. |
|
TRETH CYNGOR - HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU A / NEU GODI PREMIWM 2024/25 Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol: |
|
CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2024-25 Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cyllid. |
|
STRATEGAETH IAITH GWYNEDD 2023-2033 Cyflwyno
adroddiad Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL STRATEGOL DIOGELU 2022-23 Cyflwyno adroddiad
Cadeirydd y Panel Strategol Diogelu. Dogfennau ychwanegol: |
|
RHYBUDDION O GYNNIG |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd John Pughe Roberts Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd John Pughe Roberts yn cynnig fel a
ganlyn:- O ystyried ardrawiad canfod tiwbercwlosis ar fferm a phwysigrwydd rheoli yr haint fod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod profi anifeiliaid gwyllt, all fod yn trosglwyddo yr haint yng nghefn gwlad yng nghyffiniau fferm sydd wedi ei heffeithio, fel mater o drefn i ddarganfod os ydynt yn cario tiwbercwlosis a chaniatau mesurau rheoli. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elin Hywel Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Hywel yn cynnig fel a ganlyn:- 1.
Bod y Cyngor yn cydnabod ein cyfrifoldeb i warchod
lles a chydlyniad cymunedol Gwynedd. Ein bod am weld cymunedau a thrigolion
Gwynedd yn cyd-fyw mewn heddwch, drwy barch a chefnogaeth i’w gilydd. Gwelwn
fod digwyddiadau diweddar yn Palestina ac yn Israel yn effeithio yn negyddol ar
ein gallu i fod yn llwyddiannus yn cyflawni’r cyfrifoldeb yma. Gwelwn fod
effeithiau torcalonnus a thrychinebus i ryfeloedd yma yng Ngwynedd. Rydym yn
estyn allan i drigolion Gwynedd ar yr adeg hon. Rydym yn cydymdeimlo ac yn
cydalaru. 2.
Noda’r
Cyngor ein cyfrifoldeb yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i chwarae
ein rhan i sicrhau fod Cymru’n groesawgar, yn ddiogel ac yn deg i bawb. 3.
Fel
cynrychiolwyr trigolion Gwynedd, galwn am ymateb heddychlon gan Lywodraeth
Cymru. Galwn ar Lywodraeth Cymru, fel ein cynrychiolwyr ar y llwyfan
rhyngwladol, i hwyluso sefydlu a gweithredu cynllun cymorth dyngarol ar unwaith
i bobl Gaza. 4.
Bod y cynnig hwn yn datgan na ellir cyfiawnhau
trais a gweithredoedd rhyfelgar yn erbyn sifiliaid. Bod hyn yn cynnwys
gweithredoedd treisgar Hamas a'u gwrthodiad i ryddhau eu gwystlon ar unwaith,
ynghyd â gweithredoedd anghymesur Israel yn erbyn pobl Palestina, sydd yn
dorcyfraith rhyngwladol. 5.
Ein
bod ni, Cyngor Gwynedd, yn galw am gadoediad parhaol a di-droi’n ôl yn Gaza.
Galwn ar Lywodraeth Cymru, y DU a’r gymuned rhyngwladol i sicrhau dychwelyd at
y bwrdd trafod, a datrysiad theg a chyfiawn i holl drigolion Palestina a
Israel, nifer sydd wedi ymgartrefu, sydd â theulu ac anwyliaid yma yng
Ngwynedd. |
|
YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL Cyflwyno, er gwybodaeth:- (a)
Diweddariad i
rybudd o gynnig y Cynghorydd Rhys Tudur i gyfarfod 4 Mai, 2023 o’r Cyngor ynglŷn
â’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ysgolion uwchradd. (b)
Llythyr oddi wrth
y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elfed Wyn
ap Elwyn i gyfarfod 6 Gorffennaf, 2023 o’r Cyngor ynglŷn â datganoli’r grymoedd dros gyfiawnder a chreu
Awdurdodaeth Gyfreithiol i Gymru. Dogfennau ychwanegol: |