Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Glyn Daniels, Anwen Davies, John Brynmor Hughes, Dafydd Meurig, Llio Elenid Owen, Gareth Roberts, Dyfrig Siencyn a Hefin Underwood.

2.

COFNODION pdf eicon PDF 240 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 11eg Gorffenaf, 2024 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

·         Teulu Mandy Parry o’r Adran Gwasanaethau Corfforaethol, a rhoddwyd teyrnged iddi gan Ian Jones, Pennaeth yr Adran.

·         Teulu Dewi 'Pws' Morris oedd wedi ymgartrefu yn Nefyn ers rhai blynyddoedd, ac a oedd yn fwyaf adnabyddus fel actor, canwr a thynnwr coes heb ei ail, ond oedd hefyd yn fardd, awdur, cyflwynydd, cyfansoddwr ac ymgyrchydd iaith.

Nodwyd ymhellach bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

Nodwyd bod sawl aelod o’r Cyngor wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar a dymunwyd iddynt adferiad llwyr a buan.

Llongyfarchwyd:-

·         Pawb o Wynedd fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn ddiweddar, yn enwedig Eurgain Haf, Pontypridd, ond yn wreiddiol o Benisarwaun, ar ennill y Fedal Ryddiaith, a Carwyn Eckley o Benygroes ar gipio’r Gadair am awdl goffa i’w dad, Padrig Eckley, fu’n gyfreithiwr yn y Cyngor hwn cyn ei farwolaeth ddisymwth a chynamserol yn 2002.

·         Cowbois Rhos Botwnnog ar ennill Albwm y Flwyddyn.

·         Y Cynghorydd Louise Hughes ar ei gwobrwyo fel gwirfoddolwr y flwyddyn Llu Cadetiaid y Fyddin.

·         Tîm o Wasanaeth Caffael y Cyngor a enwebwyd ar gyfer gwobr genedlaethol yn sgil eu gwaith i fynnu buddion cymdeithasol i Wynedd wrth dendro contract bwyd.

·         Yr Adran Tai ac Eiddo ar gyrraedd y rhestr fer am wobr Best Supported Housing Development: Rural/Suburban yng ngwobrau Inside Housing Development.  Nodwyd mai dyma’r ail waith i’r Adran gyrraedd y rhestr fer, ac er chafwyd llwyddiant y tro hwn, roedd yn glod eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer o’r cannoedd o enwebiadau a dderbyniwyd.

·         Grŵp celf cymunedol Cricieth Creadigol ar ddod i'r brig yng Ngwobrau Bywydau Creadigol 2024, sydd â’r nod o ddathlu a chydnabod pwysigrwydd gweithgareddau creadigol o bob math mewn cymunedau lleol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

CWESTIYNAU pdf eicon PDF 177 KB

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

(1)       Cwestiwn Y Cynghorydd Angela Russell

O ystyried fod hinsawdd Cymru yn mynd yn wlypach o flwyddyn i flwyddyn, hoffwn ofyn, pa gamau mae Cyngor Gwynedd yn gymryd i uwchraddio'r lôn A499 rhwng Pwllheli a Llanbedrog.  Byddai hyn yn arbed trigolion Llanbedrog, Abersoch, Botwnnog, Sarn ac Aberdaron rhag defnyddio lonydd cul heibio Cefn Llanfair a Rhydyclafdy ayyb sy’n golygu tagfeydd wrth i lorïau a bysus ddod wyneb yn wyneb ar y lonydd cul yma.

Ateb – Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones

Fel y gwelwch o’r ateb ysgrifenedig o’ch blaen, Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn arwain ar y Prosiect Rheoli Llifogydd yn ardal Pwllheli.  Fe welwch fod gwaith ar yr A499 yn opsiwn ychwanegol sy’n cael ei gysidro, ond bod angen gwaith pellach cyn creu cynllun gwelliant i’r ffordd yna.  Fodd bynnag, gallaf eich sicrhau y byddwn fel Cyngor yn pwyso i gael cynllun gwella i’r ffordd yn rhan o’r prosiect, ac wrth gwrs, fe wnawn eich diweddaru chi fel mae pethau yn symud yn eu blaenau.  

(2)       Cwestiwn Y Cynghorydd Huw Rowlands

Pa ddefnydd a wneir gan Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC Cyngor Gwynedd o gontractwyr allanol, a pha fonitro sy’n digwydd er mwyn sicrhau safon, gwerth am arian a chydymffurfiaeth â’u cytundebau?

Ateb – Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones

Mae’n wir i ddweud bod yr Adran yn defnyddio nifer o gontractwyr i’r gwahanol feysydd gwaith rydym ni’n ymgymeryd â hwy, sy’n golygu tipyn o waith monitro gan swyddogion.  Wrth symud ymlaen, rydym yn ceisio mewnoli rhai o’r contractau yma er mwyn sicrhau gwell atebolrwydd a chysondeb, a hefyd i ddatblygu sgiliau’r gweithlu mewnol a chadw’r budd yn lleol.  Yn ogystal â hyn, mae llawer o’r contractau torri gwair, er enghraifft, yn dod i ben a bydd angen ail-dendro.  Y gobaith yw y bydd modd creu pecynnau llai o waith fydd yn golygu y gall contractwyr mwy lleol ymdopi gyda’r gwaith, yn y gobaith y bydd hyn i gyd yn gwella’r gwasanaeth i drigolion Gwynedd.

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Huw Rowlands

A all yr Adran adrodd yn ôl wedi iddyn nhw gael cyfle i ail-ystyried sut mae pethau yn cael eu gweithredu?

Ateb – Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones

Yn sicr, fe wnawn ni adrodd yn ôl ar hynny.  Er gwybodaeth hefyd, bydd y contractau gwair yn mynd allan i dendr ddechrau’r flwyddyn gobeithio fel y bydd yna gontractwyr newydd mewn lle erbyn y gwanwyn.

(3)       Cwestiwn Y Cynghorydd Rhys Tudur

O ystyried sylwadau gan Swyddogion ac Aelod Cabinet y Cyngor hwn bod y drefn ar gyfer ceisiadau grantiau teithio llesol yn anffafrio ardaloedd gwledig, pa foddion y mae’r Cyngor hwn wedi eu defnyddio i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid y drefn, ac i ba raddau y mae’r pwyso wedi bod yn effeithiol?

Ateb – Y Dirprwy Arweinydd, Y Cynghorydd Nia Jeffreys  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL A HUNANASESIAD 2023/24 pdf eicon PDF 165 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2023/24.

Cofnod:

Yn absenoldeb yr Arweinydd, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd, Y Cynghorydd Nia Jeffreys, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad 2023/24.

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i holl weithwyr y Cyngor am eu gwaith dros y flwyddyn, a hynny mewn cyfnod hynod o heriol.  Diolchodd hefyd i aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am eu sylwadau ac i Dîm y Cabinet am eu gwaith yn arwain ar y meysydd penodol.

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at rai meysydd blaenoriaeth yn yr adroddiad, sef:-

·         Gwynedd Yfory – bron i 5,000 o blant oedran cynradd yn derbyn cinio poeth maethlon bob dydd yn yr ysgolion.

·         Gwynedd Glyd – creu dros 200 o gartrefi ychwanegol ar gyfer trigolion Gwynedd.

·         Gwynedd Ofalgar - y tŷ cyntaf wedi’i brynu ar gyfer y Gwasanaeth Cartrefi Bychan i Blant yn ardal Porthmadog a’r ddarpariaeth tai gofal ychwanegol ysgafn wedi’i agor ym Mhwllheli ar gyfer oedolion.

·         Gwynedd Werdd – y gwaith o drawsnewid dau o safleoedd tirlenwi Gwynedd wedi arwain at arbed 74 erw yn Ffridd Rasys, Harlech a 32 erw yn Llwyn Isaf, Penygroes.

Yna cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at un stori y tu ôl i’r ystadegau gan amlygu pwysigrwydd rhoi wynebau i waith y Cyngor ac enwau i’r ystadegau, a hefyd er mwyn cydnabod llwyddiannau.

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

·         Nodwyd nad oedd y stori y tu ôl i’r ystadegau yn stori unigryw o bell ffordd a bod yr holl waith mae’r swyddogion yn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl Gwynedd, a hynny er gwaethaf yr argyfwng ariannol.  Ategwyd diolchiadau’r Dirprwy Arweiniydd i holl staff y Cyngor.

·         Diolchwyd yn arbennig i’r Timau Ardal Ni, y glanhawyr strydoedd, y staff gorfodaeth stryd, a hefyd y staff gwaredu ysbwriel am eu gwaith caled ymhob tywydd.

·         Nodwyd bod ystadegau’n dangos bod 5,400 o bobl wedi gadael Gwynedd yn ystod y flwyddyn, a holwyd beth oedd y rheswm am hyn.  Mewn ymateb, eglurwyd bod canran uchel iawn o’r 5,400 o ganlyniad i farwolaethau a diffyg genedigaethau, yn hytrach nag allfudo.  Yn amlwg, roedd pobl ifanc yn gadael y sir hefyd, ond hyderid y byddai creu cyfleoedd gwaith, darparu tai fforddiadwy, ynghyd â nifer o’r cynlluniau eraill yng Nghynllun y Cyngor o gymorth yn hyn o beth.

·         Nodwyd bod Osian Rhys, swyddog ifanc sy’n gweithio ar y Cynllun Arfor, wedi rhoi cyflwyniad ysbrydoledig mewn noson Rhwydwaith Seren yn Pontio yn ddiweddar ar fanteision dychwelyd i’r ardal hon i fyw a gweithio.  Roedd bwriad i roi’r cyfle iddo roi’r cyflwyniad hwn yn ehangach gan y byddai llawer o bobl ifanc yn siŵr o uniaethu ag ef yn ei angerdd a’i ddyhead i weld pobl ifanc yn dychwelyd i Wynedd, ac roedd angen uchafu ac amlhau'r negeseuon hynny.

·         Diolchwyd i’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a phawb sy’n gwthio Cynllun Safle Penrhos yn ei flaen, ond pwysleisiwyd yr angen i ddal ati i wthio i gael y maen i’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

8a

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Cai Larsen

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Cai Larsen yn cynnig fel a ganlyn:-

A hithau bellach yn dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn mae Cyngor Gwynedd yn nodi bod:

Dros 40,000 o drigolion Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel - y mwyafrif llethol yn sifiliaid.

Tua 10,000 o bobl - sifiliaid yn bennaf - heb eu darganfod ond sydd bron yn sicr yn farw.

Dros 90,000 wedi eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn sifiliaid.

Yn agos i 200,000 wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch byddin Israel.

Bod mwyafrif llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi, neu wedi gorfod symud o’u cartrefi.

Bod pobl sydd â’u teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd.

O ystyried hyn, ac o ystyried nifer o sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcrain, Yemen a Maymar, geilw’r Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o adolygiad blynyddol y Strategaeth Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ychwanegu darpariaeth sydd yn cyfarch egwyddorion gwarchod  iawnderau dynol a parchu cyfraith rhyngwladol .

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

A hithau bellach yn dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn mae Cyngor Gwynedd yn nodi bod:

Dros 40,000 o drigolion Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel - y mwyafrif llethol yn sifiliaid.

Tua 10,000 o bobl - sifiliaid yn bennaf - heb eu darganfod ond sydd bron yn sicr yn farw.

Dros 90,000 wedi eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn sifiliaid.

Yn agos i 200,000 wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch byddin Israel.

Bod mwyafrif llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi, neu wedi gorfod symud o’u cartrefi.

Bod pobl sydd â’u teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd.

O ystyried hyn, ac o ystyried nifer o sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcráin, Yemen a Maymar, geilw’r Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o adolygiad blynyddol y Strategaeth Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ychwanegu darpariaeth sydd yn cyfarch egwyddorion gwarchod iawnderau dynol a pharchu cyfraith ryngwladol.

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Cai Larsen o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

A hithau bellach yn dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn mae Cyngor Gwynedd yn nodi bod:

Dros 40,000 o drigolion Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel - y mwyafrif llethol yn sifiliaid.

Tua 10,000 o bobl - sifiliaid yn bennaf - heb eu darganfod ond sydd bron yn sicr yn farw.

Dros 90,000 wedi eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn sifiliaid.

Yn agos i 200,000 wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch byddin Israel.

Bod mwyafrif llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi, neu wedi gorfod symud o’u cartrefi.

Bod pobl sydd â’u teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd.

O ystyried hyn, ac o ystyried nifer o sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcráin, Yemen a Maymar, geilw’r Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o adolygiad blynyddol y Strategaeth Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ychwanegu darpariaeth sydd yn cyfarch egwyddorion gwarchod iawnderau dynol a pharchu cyfraith ryngwladol.

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gifGosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

·         Bod pethau wedi symud ymlaen ers iddo lunio’r cynnig o ran nifer y marwolaethau a maint y dirfod, a hefyd o ran lleoliad daearyddol y distryw, ond nad oedd am gyfeirio at yr erchyllterau hynny yn benodol gan fod y cynnig yn siarad drosto’i hun.

·         Bod pobl Gwynedd wedi ymateb i’r hyn sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol drwy gynnal gwylnosau rheolaidd yng Nghaernarfon a gwrthdystiadau mewn gwahanol lefydd yn y sir, gan gynnwys gwrthdystiad hirhoedlog ac arwrol gan fyfyrwyr ym Mangor.

·         Y dymunai esbonio pam ei fod o’r farn y dylai’r Cyngor adolygu ei bolisïau a’i strategaethau buddsoddi i flaenori buddsoddiadau moesegol yng nghyd-destun Israel, ac yng nghyd-destun record hir gan arweinwyr y wlad honno o anwybyddu cyfraith ryngwladol a hawliau dynol, a gwneud hynny yn fwriadol dros gyfnod hir o amser pan nad oes yna ryfel yn mynd rhagddo.

·         Bod yr ymddygiad hirdymor yma yn cynnwys:-

Ø   Camdriniaeth gyson a hirhoedlog o Balesteiniaid.

Ø   Gorddefnydd o rym.

Ø   Llofruddiaethau di-gyfiawnhad.

Ø   Amddifadu pobl o’r hawl i ymgynnull a symud yn rhydd.

Ø   Yr arfer o ymestyn presenoldeb Israelaidd ar lan Gorllewinol yr Iorddonen, sy’n groes i 4ydd Confensiwn Genefa, confensiwn sy’n gwahardd pwerau meddiannol rhag symud ei phoblogaeth ei hun i diroedd maent wedi eu meddiannu.

Ø   Cosbi torfol - hyd yn oed cyn y cyrch presennol roedd blocâd Gaza yn amddifadu trigolion Gaza o fynediad hawdd i fwyd, meddyginiaeth a chyfleoedd economaidd, oedd ynddo’i hun yn creu argyfwng dyngarol cyn i’r cyrch yma gychwyn.

Ø   Gwahaniaethu yn erbyn pobl o gefndir Arabaidd oddi mewn i ffiniau Israel, gwahaniaethu o ran cynrychiolaeth ddemocrataidd, cyfleoedd economaidd a mynediad i wasanaethau.

Ø   Y defnydd o lysoedd milwrol i erlyn sifiliaid a defnyddio system erlyn gyfochrog filwrol sy’n lleihau tryloywder, lleihau hawliau sylfaenol ac yn arwain at gyfnodau hir o garcharu di-ddyfarniad.

Ø   Cyfyngu ar hawliau i hunanfynegiant  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8a

8b

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Dewi Jones

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Dewi Jones yn cynnig fel a ganlyn:-

1.      Mae Cyngor Gwynedd yn datgan ein bod yn credu y dylai'r cyfrifoldeb dros Stad y Goron gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Dylai unrhyw elw a gynhyrchir gan Stad y Goron, yma ar diroedd a dyfroedd Cymru, aros yng Nghymru, er budd ein trigolion a’n cymunedau. Mae cyfrifoldeb dros Stad y Goron eisoes wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Yr Alban.

2.      Mae'r Cyngor hwn hefyd yn datgan ein hanfodlonrwydd bod rheidrwydd arnom i dalu ffioedd blynyddol (ar ffurf prydlesi) er mwyn sicrhau bod trigolion Gwynedd ac ymwelwyr yn cael mynediad i wahanol safleoedd, gan gynnwys ein traethau a chyfleusterau eraill. Yn 2023, talodd Cyngor Gwynedd gyfanswm o dros £161,000 i Stad y Goron. Roedd ffioedd y prydlesi yn 2023 yn amrywio o £35 ar gyfer 'blaen draeth Bangor', i £8,500 ar gyfer 'blaen draeth Dwyfor', i £144,000 ar gyfer 'Hafan Pwllheli'. Mewn cyfnod o gynni ariannol difrifol i wasanaethau cyhoeddus, credwn ei fod yn anfoesol bod ffioedd o'r fath yn mynd tuag at gynnal y Frenhiniaeth Brydeinig ac i goffrau'r Trysorlys yn Llundain. Dylai'r arian hwn aros yng Ngwynedd er mwyn cefnogi pobl Gwynedd.

3.       Rydym yn galw ar y Prif Weithredwr i drefnu i agor trafodaethau gyda Stad Y Goron ynghylch y ffioedd sy'n cael eu talu gan Gyngor Gwynedd. Byddwn yn annog y Prif Weithredwr i geisio  dwyn perswâd ar Stad Y Goron i oedi anfonebu pellach nes bydd sefyllfa gyllidol y Cyngor wedi gwella. Nodwn fod elw Stad Y Goron wedi mwy na dyblu o £443 miliwn yn 2022/23 i £1.1biliwn yn 2023/24, yn yr un cyfnod mae Cyngor Gwynedd wedi gweld eu cyllideb yn cael ei dorri mewn termau real. 

3.          Rydym yn galw ar y Prif Weithredwr i drefnu i agor trafodaethau gyda Stad Y Goron ynghylch y ffioedd sy'n cael eu talu gan Gyngor Gwynedd. Byddwn yn annog y Prif Weithredwr i geisio dwyn perswâd ar Stad Y Goron i beidio codi rhent ar y Cyngor nes bydd sefyllfa gyllidol y Cyngor wedi gwella. Nodwn fod elw Stad Y Goron wedi mwy na dyblu o £443 miliwn yn 2022/23 i £1.1biliwn yn 2023/24, yn yr un cyfnod mae Cyngor Gwynedd wedi gweld eu cyllideb yn cael ei dorri mewn termau real.

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Dewi Jones o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

1.         Mae Cyngor Gwynedd yn datgan ein bod yn credu y dylai'r cyfrifoldeb dros Stad y Goron gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.  Dylai unrhyw elw a gynhyrchir gan Stad y Goron, yma ar diroedd a dyfroedd Cymru, aros yng Nghymru, er budd ein trigolion a’n cymunedau.  Mae cyfrifoldeb dros Stad y Goron eisoes wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Yr Alban.

2.         Mae'r Cyngor hwn hefyd yn datgan ein hanfodlonrwydd bod rheidrwydd arnom i dalu ffioedd blynyddol (ar ffurf prydlesi) er mwyn sicrhau bod trigolion Gwynedd ac ymwelwyr yn cael mynediad i wahanol safleoedd, gan gynnwys ein traethau a chyfleusterau eraill. Yn 2023, talodd Cyngor Gwynedd gyfanswm o dros £161,000 i Stad y Goron.  Roedd ffioedd y prydlesi yn 2023 yn amrywio o £35 ar gyfer 'blaen draeth Bangor', i £8,500 ar gyfer 'blaen draeth Dwyfor', i £144,000 ar gyfer 'Hafan Pwllheli'.  Mewn cyfnod o gyni ariannol difrifol i wasanaethau cyhoeddus, credwn ei fod yn anfoesol bod ffioedd o'r fath yn mynd tuag at gynnal y Frenhiniaeth Brydeinig ac i goffrau'r Trysorlys yn Llundain.  Dylai'r arian hwn aros yng Ngwynedd er mwyn cefnogi pobl Gwynedd.

3.         Rydym yn galw ar y Prif Weithredwr i drefnu i agor trafodaethau gyda Stad Y Goron ynghylch y ffioedd sy'n cael eu talu gan Gyngor Gwynedd. Byddwn yn annog y Prif Weithredwr i geisio dwyn perswâd ar Stad Y Goron i oedi anfonebu pellach nes bydd sefyllfa gyllidol y Cyngor wedi gwella.  Nodwn fod elw Stad Y Goron wedi mwy na dyblu o £443 miliwn yn 2022/23 i £1.1biliwn yn 2023/24, yn yr un cyfnod mae Cyngor Gwynedd wedi gweld eu cyllideb yn cael ei dorri mewn termau real.

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gifGosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

·         Mewn cyfnod o gyni ariannol difrifol, ei bod yn warth bod y Cyngor hwn yn gorfod talu nifer o brydlesi i Stad y Goron er mwyn sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr i Wynedd yn cael mynediad i’n traethau a chyfleusterau eraill.

·         Y byddai oedi unrhyw anfonebu pellach yn creu arbediad ariannol fyddai’n cyfrannu at amddiffyn gwasanaethau hanfodol sydd dan gymaint o straen ar hyn o bryd.

·         Bod Cymru yn wlad sy’n gyfoethog mewn adnoddau naturiol, gyda’i thir, ei harfordir a’i moroedd yn meddu ar y potensial i bweru ein heconomi, atgyfnerthu ein cymunedau a’n cefnogi i arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.  Ar hyn o bryd, fodd bynnag, roedd yr adnoddau hyn yn cael eu rheoli gan gorff sy’n atebol i Lywodraeth San Steffan, ac nid i bobl Cymru, a’r refeniw sy’n deillio o Stad y Goron yng Nghymru yn mynd i Drysorlys y Deyrnas Gyfunol yn Llundain.

·         Pe bai cyfrifoldeb am Stad y Goron yn cael ei ddatganoli, byddai’r elw a gynhyrchir o dir a môr Cymru yn aros yng Nghymru, gan ein galluogi i fuddsoddi mewn seilwaith, gwasanaethau cyhoeddus a phrosiectau cymunedol sy’n addas i’n hanghenion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8b

8c

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elwyn Edwards

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elwyn Edwards yn cynnig fel a ganlyn:-

Mae Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth San Steffan i drosglwyddo’r hawl i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd i ddynodi Mawrth y 1af o bob blwyddyn yn wyliau cenedlaethol swyddogol yng Nghymru gan gydnabod Dewi Sant yn Nawddsant Cymru. Fe wneir hyn gyda Seintiau Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Hefyd mae’r Cyngor yn gofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i hyn (mae wedi datgan ei chefnogaeth o’r blaen) yn ogystal â holl gynghorau Sir, Tref a Bro yng Nghymru.

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elwyn Edwards o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

Mae Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth San Steffan i drosglwyddo’r hawl i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd i ddynodi Mawrth y 1af o bob blwyddyn yn wyliau cenedlaethol swyddogol yng Nghymru gan gydnabod Dewi Sant yn Nawddsant Cymru.  Fe wneir hyn gyda Seintiau Yr Alban a Gogledd Iwerddon.  Hefyd mae’r Cyngor yn gofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i hyn (mae wedi datgan ei chefnogaeth o’r blaen) yn ogystal â holl gynghorau Sir, Tref a Bro yng Nghymru.

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

8d

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Meryl Roberts

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Meryl Roberts yn cynnig fel a ganlyn:-

Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr toriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf hwn. Bydd y toriadau yma yn golygu bod o leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y taliadau tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir Starmer, fel prif weinidog y Deyrnas Gyfunol, yn beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei wyrdroi.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr doriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf hwn. Bydd y toriadau yma yn golygu bod o leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y taliadau tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir Starmer, fel prif weinidog y Deyrnas Gyfunol, yn beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei wyrdroi.

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Meryl Roberts o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr doriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf hwn.  Bydd y toriadau yma yn golygu bod o leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y taliadau tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir Starmer, fel prif weinidog y Deyrnas Gyfunol, yn beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei wyrdroi.

Mynegodd sawl aelod gefnogaeth frwd i’r cynnig.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:-

Cyfeiriodd Pencampwr Oed Gyfeillgar y Cyngor, y Cynghorydd Dilwyn Morgan, at y gwaith sy’n mynd rhagddo o fewn y Cyngor i gefnogi pobl, megis:-

·         Annog pobl sy’n gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn i’w hawlio, a thrwy hynny dderbyn y taliad gwresogi yn awtomatig.

·         Cynorthwyo pobl sydd ar y ffin o gymhwyso am Gredyd Pensiwn drwy hyrwyddo’r cymhorthdal ychwanegol sydd ar gael iddynt.

·         Bwriedid sefydlu Tasglu Taliadau Gaeaf i Bensiynwyr trawsadrannol yn fuan iawn gyda’r nod o ddatblygu ymgyrch i sicrhau bod trigolion y sir yn ymwybodol o, ac yn derbyn yr hyn sy’n haeddiannol iddynt.

·         Cynnal cyfres o ddigwyddiadau Byw’n Iach Byw’n Dda.  Cynhelid y cyntaf o’r digwyddiadau hyn yng Nghanolfan Glaslyn, Porthmadog ar y 7fed o Hydref, lle byddai dros 20 o wahanol asiantaethau yn bresennol i roi gwybodaeth a chynorthwyo pobl i lenwi ffurflenni cais ayb.  Trefnwyd digwyddiad yng Nghaernarfon ar 1 Tachwedd, gyda digwyddiadau pellach i ddilyn yn Ne’r Sir ac ardal Bangor.

·         Gweithio gyda gwasanaethau’r Llywodraeth a’r Adran Gwaith a Phensiynau i benderfynu ar sut orau i gyfathrebu ag unigolion.

·         Cynhaliwyd cyfarfod gyda Rhian Bowen-Davies, Y Comisiynydd Pobl Hŷn, oedd hefyd yn ategu ei phryder ynglŷn â’r bwriad i ddiddymu’r taliadau gwresogi.

·         Cynhaliwyd sesiwn ym Mhorthmadog ar gyfer aelodau’r Cyngor i’w cynghori ynglŷn â ble i gyfeirio pobl sy’n dod atynt am wybodaeth.  Nodwyd mai siomedig oedd y nifer a ddaeth i’r sesiwn, ond bod bwriad i drefnu sesiwn arall yn fuan.

Nodwyd, yn ôl ffigurau diweddar, nad oedd 1,977 o bobl Gwynedd yn derbyn y Credyd Pensiwn sy’n ddyledus iddynt, sef colled i Wynedd o £456,000.  Fodd bynnag, ers i’r Llywodraeth wneud eu datganiad, roedd 20% o’r bobl hynny sy’n gymwys i dderbyn y Credyd Pensiwn bellach yn ei dderbyn oherwydd bod mudiadau fel Cyngor Gwynedd ac eraill wedi bod yn annog pobl i’w hawlio.  Golygai hynny y byddai’r arbediad yn sgil diddymu’r taliadau gwresogi yn llai nag oedd Llywodraeth San Steffan wedi disgwyl.

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr doriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf hwn.  Bydd y toriadau yma yn golygu bod o leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y taliadau tanwydd.  I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir Starmer, fel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8d