Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Penderfynu ar ethol Cadeirydd ar gyfer 2020/21. Penderfyniad: Peidio
symud ymlaen i benodi Cadeirydd, a chaniatáu i’r Cadeirydd presennol barhau
mewn swydd hyd at Gyfarfod Blynyddol 2021. Cofnod: Gofynnwyd i’r Cyngor benderfynu
ar ethol Cadeirydd ar gyfer
2020/21. Eglurodd y Swyddog Monitro fod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020, mewn ymateb i’r argyfwng,
yn caniatáu ystod o newidiadau yn y ffordd y gweinyddir
trefniadau democrataidd y Cyngor, gan gynnwys
caniatáu i’r Cyngor ymestyn cyfnod y Cadeirydd ac Is-gadeirydd presennol. Gan hynny, gellid hepgor
yr angen i benodi a chaniatáu
i’r Cadeirydd ac Is-gadeirydd presennol barhau mewn swydd
hyd at Gyfarfod Blynyddol 2021 fan bellaf. Cynigiwyd ac eiliwyd i beidio
symud ymlaen i benodi Cadeirydd,
a chaniatáu i’r Cadeirydd presennol barhau mewn swydd
hyd at Gyfarfod Blynyddol 2021. Mewn ymateb i gwestiwn,
eglurodd y cynigydd mai’r rhesymeg y tu ôl i’w
gynnig oedd nad oedd y Cadeirydd presennol wedi cael blwyddyn lawn yn y swydd oherwydd
y pandemig, ac y byddai penodi cadeirydd newydd yn golygu
na fyddai’r
person hwnnw ond yn cael 6 mis
o gadeiryddiaeth. PENDERFYNWYD peidio
symud ymlaen i benodi Cadeirydd,
a chaniatáu i’r Cadeirydd presennol barhau mewn swydd
hyd at Gyfarfod Blynyddol 2021. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Penderfynu ar ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2020/21. Penderfyniad: Peidio symud ymlaen i benodi Is-gadeirydd,
a chaniatáu i’r Is-gadeirydd presennol barhau mewn swydd
hyd at Gyfarfod Blynyddol 2021. Cofnod: Gofynnwyd i’r Cyngor
benderfynu ar ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2020/21. PENDERFYNWYD peidio symud
ymlaen i benodi Is-gadeirydd, a chaniatáu i’r Is-gadeirydd presennol barhau mewn swydd
hyd at Gyfarfod Blynyddol 2021. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr: Freya Bentham, Anwen Davies,
Charles W.Jones, Elwyn Jones, Dewi Owen a Cemlyn Williams. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Mawrth, 2020 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd
ar 5 Mawrth, 2020 fel rhai cywir. Gan gyfeirio at eitem 4 o’r cofnodion - Cyhoeddiadau’r Cadeirydd, nododd aelod nad
oedd yn hoffi’r
defnydd o’r gair ‘Prydeinwr’ wrth gyfeirio at lwyddiant Elfyn Evans yn Rali Sweden, gan mai Cymro
o Ddinas Mawddwy ydoedd. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Cofnod: Nododd y Cadeirydd fod pawb wedi
profi newid mawr yn eu
ffordd o fyw dros y chwe mis
diwethaf. Roedd nifer fawr
o deuluoedd Gwynedd wedi colli anwyliaid. Hyd yn hyn, roedd
83 o drigolion Gwynedd wedi
marw o’r aflwydd difrifol hwn, aflwydd a oedd, yn anffodus,
yn dal o’n cwmpas o hyd. Nodwyd hefyd bod sawl un
o aelodau’r Cyngor hwn wedi colli
anwyliaid ers i’r Cyngor gyfarfod
ddiwethaf, a chydymdeimlwyd
â phawb oedd wedi cael profedigaeth. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd
o barch a choffadwriaeth. Dymunwyd yn dda i’r
Cynghorydd Charles Wyn Jones, oedd
ar hyn o bryd yn yr
ysbyty. Llongyfarchwyd y canlynol:- ·
Y Cynghorydd Craig ab
Iago a’r teulu ar enedigaeth merch; ·
Y Cynghorydd Freya
Bentham a’r teulu ar enedigaeth merch. |
|
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn unrhyw
ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan
gyfarwyddyd y Cadeirydd. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.9 o’r Cyfansoddiad. Cofnod: (Dosbarthwyd
atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen
llaw.) (1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Gruffydd
Williams “A oes modd
i’r Cyngor ddwyn perswâd ar
Un Llais Cymru i gynnwys, nid
yn unig y Cadeirydd a’r clerc,
ond yn ogystal
pob Aelod o Gyngor Tref a Chymuned,
yn y drefn o gynghori cyfreithlon? Rwy’n gofyn oherwydd mae’r gŵyn
yn aml yn
ymwneud â ffrae rhwng Clerc a neu
Gadeirydd ac Aelodau Cynghorau Tref a Chymuned. Ar hyn o bryd,
nid oes bosib’
i Aelodau unigol gael
cyngor gan Un Llais Cymru parthed
materion sydd yn ymwneud â Chynghorau
Cymuned, megis camweinyddu ar ran y Clerc a neu'r Cadeirydd.” Ateb gan
yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys “Mae pob un o’r 64 Cyngor
Tref a Chymuned yng Ngwynedd yn
gorfforaeth sydd yn atebol a chyfrifol
am ei weithdrefnau ei hun. Ac eithrio rôl Pwyllgor Safonau
ynglŷn â materion Cod Ymddygiad, nid oes gan Gyngor
Gwynedd swyddogaeth drosolwg
ffurfiol ynglŷn
â rhedeg y cyrff yma. Fodd bynnag, fel
partneriaid allweddol mewn sawl agwedd
o’n gwaith, rydym yn awyddus
bod ganddynt y trefniadau llywodraethu priodol. Yn ôl eu gwefan:- “Un Llais Cymru yw’r prif
gorff ar gyfer cynghorau cymuned a thref Cymru, ac mae’n sicrhau llais cryf
i gynrychioli diddordebau’r cynghorau, a darparu ystod o wasanaethau o safon i gefnogi eu
gwaith”. Mae agos i 740 o gynghorau
Tref a Chymuned yng Nghymru. Ond, deallaf fod Un Llais Cymru yn
darparu gwasanaeth ar gyfer y Cynghorau
Tref a Chymuned hynny sydd yn
dewis talu tâl aelodaeth iddynt. Gwneir hynny drwy’r pwynt
cyswllt arferol, sef y Clerc neu’r
Cadeirydd ar ran y Cyngor Tref neu
Gymuned. Yn amlwg mae ystod y gwasanaethau sydd yn cael eu
darparu a’r hyn a gynigir gan
Un Llais Cymru yn fater busnes
iddynt hwy. Nid oes gennyf ffigyrau
am sawl Cyngor Cymuned sydd yn
dewis aelodi ag Un Llais Cymru. Ar y llaw arall gallaf
ddyfalu fod darparu gwasanaethau cynghori a chefnogi ar gyfer oddeutu
8,000 o gynghorwyr Tref a Chymuned yng Nghymru
yn golygu dipyn o adnoddau a chapasiti. Efallai, o ystyried y darpariaethau ynglŷn â Chynghorau Cymuned Cymwys o fewn y Bil Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2019, ei bod yn amserol i
gael y drafodaeth
ynglŷn a natur y gefnogaeth mae Cynghorau Tref a Chymuned ei angen
i’r dyfodol. Ond, yn fy marn i, y ffordd
briodol o fynd â’r mater yma ymlaen
fyddai i’r Cynghorau Tref a Chymuned a’u haelodau
wneud yr achos yn uniongyrchol
i Un Llais Cymru.” Cwestiwn Atodol
gan y Cynghorydd Gruffydd
Williams “Oni fyddai’n cael mwy o rym petai’r
cwestiwn yn mynd i Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru gan Gyngor
Gwynedd, ar ran y cynghorau
cymuned?” Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2019/20 PDF 115 KB Cyflwyno adroddiad
Arweinydd y Cyngor (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r adroddiad fel adlewyrchiad
cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2019/20, a’i fabwysiadu. Cofnod: Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad
Perfformiad Cyngor Gwynedd 2019/20 fel darlun clir, cytbwys a chywir o
berfformiad y Cyngor yn ystod 2019/20. Nododd yr
Arweinydd, oherwydd y pandemig, fod holl ymdrechion adrannau’r Cyngor wedi’u
cyfeirio tuag at ymateb i’r argyfwng o ganol mis Mawrth, a’i bod yn rhyfedd
edrych yn ôl ar adeg oedd yn normal.
Nododd fod yr argyfwng wedi amlygu pwysigrwydd llywodraeth leol wrth
ddarparu gwasanaeth i’r trigolion, a diolchodd i staff yr holl wasanaethau am
eu gwaith caled yn cefnogi cymunedau’r sir, ac i’r cynghorwyr am wneud gwaith
arwrol ar ran eu hetholwyr. Nododd yr
Arweinydd ymhellach nad oedd yr aelodau wedi cael y
cyfle arferol i graffu mewn pwyllgorau eleni, a diolchodd iddynt am eu hamynedd
yn ystod y cyfnod. Eglurodd hefyd, gan
ei fod yn ymwybodol o’r bwlch yn y ddeialog arferol rhwng yr aelodau i gyd a’r
Weithrediaeth, ei fod yn bwriadu trefnu cyfres o gyfarfodydd briffio gyda’r
aelodau cabinet a’r penaethiaid i ddiweddaru’r aelodau ynglŷn â’r gwaith
oedd wedi digwydd yn y gwahanol feysydd, ac i roi cyfle i’r aelodau drafod a
gofyn cwestiynau. Diolchodd i Bethan
Richardson (Swyddog Cefnogi Busnes) a Dewi Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi
Busnes y Cyngor) am baratoi’r adroddiad mewn ffordd mor
ddealladwy. Dymunodd yr
Arweinydd yn dda i’r Cynghorydd Cemlyn Williams (Aelod Cabinet Addysg), oedd yn
methu bod yn bresennol yn y cyfarfod, gan iddo dderbyn triniaeth yn yr ysbyty
yn ddiweddar iawn. Yna estynnodd
wahoddiad i bob aelod cabinet arall ddweud gair yn eu tro. Yn ystod eu cyflwyniadau, bu i’r aelodau
cabinet uchafu rhai pwyntiau o’r adroddiad oedd yn berthnasol i’w meysydd
gwaith, gan fanylu ar flaenoriaethau’r gwasanaethau dros y cyfnod nesaf a’r
heriau oedd yn eu hwynebu. Bu iddynt
hefyd adrodd ar sut y bu i’r adrannau gyfrannu’n sylweddol at yr ymateb i’r
argyfwng, gan ddiolch i’r penaethiaid a’r staff am eu holl waith caled. Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Diolchwyd i holl staff y Cyngor am eu gwaith clodwiw
yn ystod cyfnod yr argyfwng, a hefyd i’r cynghorwyr, y gwirfoddolwyr lleol, y
trydydd sector, Mantell Gwynedd, a busnesau bach y sir. ·
Mynegwyd siomedigaeth
ynglŷn â dymuniad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i dynnu’r agos at 40 o
welyau nyrsio o Ben Llŷn, a gofynnwyd i’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a
Llesiant godi’r mater gyda’r Bwrdd Iechyd. ·
Diolchwyd i’r Aelod
Cabinet Amgylchedd am ymweld â Phen Llŷn yn ddiweddar, a nodwyd ei bod yn
dda gweld sut roedd bywyd gwyllt wedi ffynnu a llygredd wedi lleihau yn ystod y
cyfnod clo. ·
Nodwyd y pryderid
ynglŷn â’r hyn oedd o’n blaenau o ran y pandemig, a’r holl swyddi fyddai’n
cael eu colli yma yng Ngwynedd dros y gaeaf. ·
Croesawyd yr
adroddiad a nodwyd bod yr ystadegau’n dangos bod y gwaith sy’n cael ei roi i
mewn gan Wynedd yn arwain at ganlyniadau da. · Nodwyd y gwelwyd cynnydd aruthrol yn y galw am ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. [Yn unol a gofynion adran 14
o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor Llawn sydd i benodi cadeirydd y
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac ni all benodi aelod o grŵp
gwleidyddol sy’n cael ei gynrychioli ar y weithrediaeth.] Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am
2020/21. Cofnod: Gwahoddwyd y Cyngor i benodi
cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2020/21. PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Anne Lloyd
Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2020/21. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRAFFU 2019/20 PDF 203 KB Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Craffu (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd Cadeirydd y Fforwm Craffu, y Cynghorydd Beth Lawton,
adroddiad blynyddol craffu ar gyfer
2019/20. Diolchodd
i bob aelod o’r pwyllgorau craffu am eu gwaith,
ac i’r swyddogion am gefnogi’r aelodau a llunio’r adroddiad. Pwysleisiodd ei bod yn bwysig
bod pawb yn cael y cyfle i
weld bod craffu’n cael ei gymryd o ddifri’
yng Ngwynedd, a nododd fod 40 o faterion wedi bod gerbron y craffwyr yn ystod y flwyddyn. Ychwanegodd y cynhaliwyd cyfarfod o’r Fforwm Craffu
yn ddiweddar, ynghyd â chyfres o gyfarfodydd rhwng Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y
pwyllgorau craffu, yr aelodau cabinet a’r penaethiaid i adnabod materion
i’w craffu. Nododd na ddymunid
rhoi pwysau ychwanegol ar yr
adrannau yn yr hinsawdd sydd
ohoni, ond roedd dyddiadau wedi’u pennu ar
gyfer ail-gychwyn y broses graffu, gan gyfyngu
ar nifer y materion dan ystyriaeth,
hyd oni fyddai
pawb wedi ymgynefino â’r drefn. Nododd, petai unrhyw
aelod o’r farn bod mater angen sylw, bod croeso iddynt gysylltu â hi, neu un o’i
chyd-gadeiryddion craffu. Diolchwyd i Gadeirydd y Fforwm
Craffu am gyflwyno’r adroddiad ar ran y cadeiryddion craffu. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2019/20 PDF 196 KB Cyflwyno adroddiad y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei hadroddiad blynyddol yn
cynnig trosolwg o berfformiad 2019/20 ac yn amlinellu’r daith yng Ngwynedd wrth
ddarparu gwasanaethau i’r unigolion sydd angen cyngor, cefnogaeth neu ofal gan
y Cyngor. Nododd y
Cyfarwyddwr ei bod yn hapus gyda pherfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol ar
gyfer 2019/20, er bod yna rai heriau i’w goresgyn. Roedd y flwyddyn dan sylw, oedd yn cyfeirio’n
ôl at gyfnod cyn Covid, yn teimlo’n hen hanes bellach, ac fel roedd y flwyddyn
honno’n dirwyn i ben, roedd yr argyfwng yn cychwyn. Cydymdeimlodd â’r nifer o bobl oedd wedi’u
heffeithio gan y firws. Diolchodd o
galon i holl staff y sector yng Ngwynedd am eu gwaith arwrol yn ystod y misoedd
diwethaf, ac am eu gwaith dros y misoedd i ddod. Diolchodd hefyd i eraill oedd wedi cefnogi’r
ymdrech arwrol hon, yn wirfoddolwyr, gofalwyr, aelodau o’r trydydd sector a
phartneriaid y Cyngor, a hefyd adrannau eraill y Cyngor am eu parodrwydd i
ryddhau staff i gynorthwyo mewn sawl ffordd, fel bod modd i’r adrannau yn y
maes gofal ganolbwyntio ar ymateb i’r argyfwng.
Nododd y bu’n her iddi ganfod yr amser i roi’r adroddiad blynyddol at ei
gilydd eleni, a diolchodd i Sophie, Nia a Bethan am wirfoddoli i’w helpu gyda’r
gwaith. Manteisiodd y Cyfarwyddwr ar y cyfle hefyd i ddiolch i Marian Parry
Hughes (Pennaeth Plant a Theuluoedd) ac Aled Davies (Pennaeth Oedolion, Iechyd
a Llesiant) am eu gwaith arwrol dros y flwyddyn, ac i’r Aelodau Cabinet yn y
maes gofal, y Cynghorwyr Dilwyn Morgan a Dafydd Meurig am eu cefnogaeth a’u
cymorth parhaus. Nododd fod croeso i’r
aelodau gysylltu â’r ddau bennaeth ar ôl y cyfarfod gydag unrhyw gwestiynau
manwl. I gloi, nododd y Cyfarwyddwr fod y cyfnod hwn wedi caniatáu i’r ddwy
adran wthio nifer o’u prosiectau a’u gweledigaeth ymlaen, a’u bod yn awyddus i
barhau â’r gwaith da oedd wedi digwydd yn sgil sefyllfa mor drist. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn:- ·
Nodwyd bod dymuniad
Llywodraeth Cymru i osod targed fel ffordd o sicrhau eu bod yn gweld lleihad yn
nifer y plant mewn gofal yn cyfleu’r neges anghywir, ac y croesawid y ffaith
nad oedd Gwynedd wedi gosod targed ar gyfer lleihau’r nifer, gan y byddai
hynny’n arwain at risg o ostwng safonau o safbwynt diogelu’r mwyaf bregus, ac
yn rhedeg y risg ein bod yn peidio gweithredu yr hyn oedd yn bwysig o ran y
plant. ·
Croesawyd y ffaith
bod yr unedau dementia yn mynd yn eu blaenau yn sgil blynyddoedd o frwydro am
hynny. ·
Nodwyd bod yr
adroddiad yn un clodwiw, oedd yn ategu’r gwaith gwych oedd wedi mynd ymlaen yn
y ddwy adran. ·
Croesawyd yr
arweiniad ieithyddol mewn 8 iaith ar gychwyn yr adroddiad, a llongyfarchwyd y
Gwasanaethau Cymdeithasol am ddangos dychymyg trwy ddangos bod yna fwy nag un
iaith bosib’ yn bodoli yn yr ardal hon. · Nodwyd bod y ddwy adran wedi bod trwy gyfnod caled iawn a bod y staff wedi gorfod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR PDF 416 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm). Penderfyniad: PENDERFYNIAD (a) Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer
y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn
yr atodiad i’r adroddiad i’r
Cyngor, ynghyd â mabwysiadu’r
dyraniad seddau yn unol â’r
hyn a nodir yn yr atodiad. (b) Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth
Gwasanaeth Democratiaeth wneud penodiadau
i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol. (c) Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi Grŵp Plaid Cymru Pwyllgor Craffu Cymunedau Grŵp Annibynnol Pwyllgor Craffu Gofal Grŵp Annibynnol Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar yr adolygiad
blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor a materion perthynol. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Nodwyd
bod Aelod Unigol yn colli ei
sedd ar y Pwyllgor Craffu Gofal, er na
fu gostyngiad yn nifer yr
aelodau unigol. Yn yr un modd, nodwyd
bod Grŵp Llais Gwynedd
yn colli un sedd ar y Pwyllgor
Craffu Addysg ac Economi, er na
chollwyd aelod o’r Grŵp, ac nad oedd penderfyniad
y Grŵp Busnes ar y cydbwysedd yn unfrydol. Mewn ymateb, atgoffwyd yr aelodau o’r
prif reolau ynglŷn â dyrannu seddau, fel y nodwyd
yn yr adroddiad. ·
Holwyd a roddid
ystyriaeth o gwbl i ddyrannu seddau gweigion ar bwyllgorau i grwpiau gwleidyddol
eraill. Mewn ymateb, eglurwyd mai
cyfrifoldeb y grwpiau gwleidyddol oedd llenwi’r seddau ar bwyllgor, ond mai’r
Cyngor llawn oedd yn gosod y fframwaith.
Petai grŵp heb benodi i sedd ar bwyllgor, roedd modd gofyn i’r
Cyngor llawn ddyrannu’r sedd honno, ac nid oedd raid i’r penodiad hwnnw fod yn
unol â’r cydbwysedd gwleidyddol. PENDERFYNWYD (a) Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer
y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn
yr atodiad i’r cofnodion hyn,
ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau yn unol â’r
hyn a nodir yn yr atodiad. (b) Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth
Gwasanaeth Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol. (c) Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi Grŵp Plaid Cymru Pwyllgor Craffu Cymunedau Grŵp
Annibynnol Pwyllgor Craffu Gofal Grŵp Annibynnol |
|
ABSENOLDEB AELOD O'R CYNGOR PDF 298 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm). Penderfyniad: Cymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Charles W.Jones o
gyfarfodydd y Cyngor am gyfnod o 6 mis o ddyddiad y cyfarfod hwn oherwydd
amgylchiadau personol, yn unol ag Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972, gan ei
alluogi i barhau i fod yn aelod o Gyngor Gwynedd. Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn gofyn i’r
Cyngor gymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Charles W.Jones o gyfarfodydd y Cyngor oherwydd amgylchiadau personol, yn unol ag
Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972, er mwyn ei
alluogi i barhau i fod
yn aelod o Gyngor Gwynedd. Nodwyd bod y Cyngor yn anfon
eu dymuniadau gorau at yr aelod. PENDERFYNWYD cymeradwyo absenoldeb
y Cynghorydd Charles W.Jones o gyfarfodydd y Cyngor am gyfnod o 6 mis o
ddyddiad y cyfarfod hwn oherwydd amgylchiadau personol, yn unol ag Adran 85 Deddf
Llywodraeth Leol 1972, gan ei alluogi i barhau i fod yn aelod o Gyngor Gwynedd. |
|
RHYBUDDION O GYNNIG |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Glyn Daniels Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi
wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Glyn Daniels yn cynnig
fel a ganlyn:- “‘Rwy’n cynnig fod Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad
â Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar
ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r Parc, yn arbennig felly ar, ac o amgylch, yr
Wyddfa ei hun. Credaf y buasai hyn yn fanteisiol mewn mwy nag un
ffordd:- a) Buasai codi tâl sylweddol am gael mynd i gopa’r
Wyddfa yn gallu chwyddo coffrau Cyngor Gwynedd a’r Parc ar adeg pan mae
ansicrwydd economaidd yn ein wynebu oherwydd sgil-effeithiau Covid-19. b) O ganlyniad i’r uchod, mae lle i gredu y buasai
camau o’r fath yn gallu cyfrannu at leihau y problemau difrifol o ormodedd o
geir yn cronni ac yn creu tagfeydd a pheryglon ar ffyrdd y cylch.” Penderfyniad: Bod Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad
â Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ymchwilio
ar frys i’r
posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr
sy’n ymweld â rhannau o’r Parc,
yn arbennig felly ar, ac o amgylch, yr Wyddfa ei
hun. Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd
Glyn Daniels o dan Adran
4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i
eiliwyd:- Bod Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad â Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ymchwilio
ar frys i’r
posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr
sy’n ymweld â rhannau o’r Parc,
yn arbennig felly ar, ac o amgylch, yr Wyddfa ei
hun. Credaf y buasai hyn yn fanteisiol
mewn mwy nag un ffordd:- a) Buasai codi tâl
sylweddol am gael
mynd i gopa’r
Wyddfa yn gallu chwyddo coffrau
Cyngor Gwynedd a’r Parc ar adeg
pan mae ansicrwydd economaidd yn ein
wynebu oherwydd sgil-effeithiau Covid-19. b) O ganlyniad i’r uchod,
mae lle
i gredu y buasai camau o’r
fath yn gallu
cyfrannu at leihau'r problemau difrifol o ormodedd o geir yn cronni ac yn
creu tagfeydd a pheryglon ar ffyrdd
y cylch. Yn ystod y drafodaeth ar y cynnig, nodwyd:- ·
Y cytunid bod angen
cael y drafodaeth gyda’r Parc Cenedlaethol, ond bod angen bod yn fwy pendant o
ran yr hyn a olygir gyda ‘tâl sylweddol’. ·
Bod y diwydiant
twristiaeth yn bwysig i Wynedd, ond y dymunir gweld y sir yn elwa o dwristiaeth
gynaliadwy, gyda’r bobl hynny sy’n ymweld â’r ardal yn dangos parch i’r
amgylchedd a’r gymuned leol. ·
Bod y cynnig yn
amserol iawn, a’i bod yn bwysig mynd i’r afael â hyn ar fyr rybudd, gan gynnal
cyfarfod ar y cyd â’r Parc Cenedlaethol cyn gynted â phosib’ gyda’r nod o gael
system codi tâl yn weithredol erbyn tymor 2021. ·
Bod gan Wynedd asedau
naturiol bendigedig, ond nad oedd y cymunedau’n cael budd llawn ohonynt ar hyn
o bryd. ·
Ei bod yn bwysig
sicrhau darpariaeth barcio ddigonol, gan ystyried creu rhwydwaith o feysydd
parcio yn ein cymunedau. Awgrymwyd y
gellid ystyried creu cyfleuster parcio a theithio yng Nglyn Rhonwy,
gan gynnig tocyn rhad ac am ddim i breswylwyr Llanberis. ·
Y gellid defnyddio
technoleg megis Adnabod Rhifau Cerbydau Awtomatig (ANPR) a system synwyryddion
newydd y Cyngor i fonitro a rheoli parcio yn yr ardal. Gellid hefyd ddefnyddio technoleg megis
system cofrestru ymlaen llaw ar gyfer ymweld ag ardal yr Wyddfa, gyda phobl
leol yn talu pris llai, neu’n cael mynediad yn ddi-dâl. ·
Bod hon yn broblem
sydd wedi amlygu ei hun ar draws Gwynedd, a bod Yr Wyddfa yn enghraifft
glasurol or-dwristiaeth. ·
Bod llu o alwadau ar
y Cyngor i ymateb i’r sefyllfa, e.e. roedd Cyngor Cymuned Llanllyfni ac eraill
wedi galw ar Gyngor Gwynedd i drefnu cynhadledd i drafod hyn. Er yn anodd oherwydd y pandemig,
roedd yna fwriad i drefnu digwyddiad rhithiol maes o law. ·
Nad oedd yn
gyfreithiol i godi tâl i fynd ar lwybrau cyhoeddus, ond y croesawid yr alwad i
edrych i mewn i hyn ymhellach. ·
Bod adroddiad a
gomisiynwyd gan y Parc Cenedlaethol ar drafnidiaeth o gwmpas Yr Wyddfa yn
crybwyll rhai syniadau gwych, ond roedd angen ehangu’r drafodaeth i gynnwys
Gwynedd gyfan. · Y cwblhawyd darn o waith i edrych ar enghreifftiau o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 17. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gruffydd Williams Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi
wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn
cynnig fel a ganlyn:- “Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar
Lywodraeth Cymru i newid y Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol cael hawl
cynllunio i drosi tŷ anedd yn dŷ haf /uned wyliau, ac yn addasu’r fframwaith bolisi i
ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf
mewn unrhyw ardal i ffigur na ddylai fod yn uwch nag oddeutu 5% o’r stoc dai.” Penderfyniad: Bod Cyngor Gwynedd yn galw
ar Lywodraeth Cymru i newid
y Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn
orfodol cael hawl cynllunio i drosi tŷ
anedd yn dŷ haf
/uned wyliau, ac yn addasu’r fframwaith
bolisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn unrhyw
ardal. Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd
Gruffydd Williams o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth
Cymru i newid
y Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn
orfodol cael hawl cynllunio i drosi tŷ
annedd yn dŷ haf /uned
wyliau, ac yn addasu’r fframwaith bolisi i ganiatáu
gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn
unrhyw ardal i ffigur na
ddylai fod yn uwch nag oddeutu
5% o’r stoc dai. Ar gychwyn y drafodaeth, nododd aelod fod
perchennog ail gartref yn ei ward wedi
cysylltu â hi i ofyn pa gefnogaeth fyddai ar gael pe na
chaniateid i ragor na 5% o
dai fod yn
ail gartrefi, ac y byddai’n
pasio’r llythyr ymlaen i’r Aelod
Cabinet Tai. Yn ystod y drafodaeth ar y cynnig, nodwyd:- ·
Bod y nifer uchel o
ail-gartrefi yng Ngwynedd yn ei gwneud yn amhosib’ i bobl ifanc lleol gael tai. ·
Nad hwn oedd y tro
cyntaf i’r Cyngor ddwyn hyn i sylw Llywodraeth Cymru. ·
Bod y broblem wedi
cynyddu dros y blynyddoedd, a bod cyfle i wneud rhywbeth ynglŷn â’r
sefyllfa drwy’r drefn gynllunio. Roedd y
Llywodraeth eisoes wedi rhoi’r hawl i gynghorau ei gwneud yn orfodol cael hawl
cynllunio i drosi tŷ annedd yn dŷ aml-feddiannaeth, felly dylai fod
yn eithaf syml cyflwyno’r un rheol yng nghyswllt tai haf ac ail gartrefi. Roedd angen gwahaniaethu hefyd rhwng ail
gartrefi a llety gwyliau, gan fod llety gwyliau yn dod â budd economaidd. Nodwyd ymhellach, os oes
pobl yn methu
cael tŷ o gwbl, na ddylid
caniatáu unrhyw dai haf o gwbl,
a chynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ddileu
cymal olaf y cynnig, sef ‘i ffigur na ddylai
fod yn uwch
nag oddeutu 5% o’r stoc dai’, fel bod y cap ar y niferoedd yn cael
ei bennu yn ôl doethineb
cynllunwyr a chymunedau ar raddfa sy’n
addas i’r ardal dan sylw.
Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r
cynnig ar y llinellau yma gyda
chydsyniad y Cyngor. Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, nodwyd:- ·
Nad oedd y broblem yn
unigryw i Wynedd na’r cyfnod hwn. ·
Mai digon yw digon, a
bod pobl leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai. ·
Bod mwy na 5% o’r tai
yn dai haf mewn rhai pentrefi, a bod y ffigur hyd at 30% mewn rhai rhannau o
Wynedd. ·
Y croesawid yr awgrym
y dylai cymunedau lleol gael llais yn y penderfyniad. ·
Mai un o brif
egwyddorion y system gynllunio ar adeg ei chreu oedd creu system oedd yn deg i
bawb, ond pobl ariannog oedd yn rheoli’r system bresennol. Roedd sefyllfa tai haf yn un elfen o’r hyn
oedd o’i le gyda’r system gynllunio, sef system oedd yn gweithredu dan ddeddf a
basiwyd yn 1990, ac mewn gwlad wahanol. · Y dylid rhybuddio pobl y gallai cais i drosi eiddo sydd wedi’i gofrestru fel busnes, megis ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 18. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gareth Thomas Yn
unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gareth Thomas yn cynnig fel a ganlyn:- “Mae’r Cyngor yn galw ar
Lywodraeth y DU i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol ar y môr yn yr un modd a beiciau modur ar y
tir. Hynny yw bod pob cerbyd dŵr personol yn gorfod cael
trwydded ac yswiriant cyn ei ddefnyddio ar y môr a bod pob gyrrwr yn cael prawf
ar ei allu i drin y peiriant ac ei wybodaeth o reolau mordrwyo.” Penderfyniad: Bod y Cyngor yn galw
ar Lywodraeth y DU i greu deddfwriaeth
i reoli cerbydau
dŵr personol a badau pŵer ar y môr yn
yr un modd
a beiciau modur ar y tir. Hynny
yw bod pob cerbyd dŵr personol a bad pŵer yn gorfod cael
trwydded ac yswiriant cyn ei ddefnyddio
ar y môr a bod pob gyrrwr yn
cael prawf ar ei allu
i drin
y peiriant ac ei wybodaeth o reolau mordrwyo. Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd
Gareth Thomas o dan Adran
4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i
eiliwyd:- Bod y Cyngor yn galw ar
Lywodraeth y DU i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau
dŵr personol ar y môr yn
yr un modd
a beiciau modur ar y tir. Hynny
yw bod pob cerbyd dŵr personol yn gorfod
cael trwydded ac yswiriant cyn ei
ddefnyddio ar y môr a bod pob gyrrwr
yn cael prawf
ar ei allu
i drin
y peiriant ac ei wybodaeth o reolau mordwyo. Yn ystod y drafodaeth ar y cynnig, nodwyd:- ·
Mai Prydain oedd yr
unig wlad, ac eithrio’r Aifft, oedd heb reolaeth ar gerbydau dŵr personol. ·
Y gellid cymharu
gyrru cerbyd dŵr personol i berson di-brofiad yn gyrru beic modur pwerus
yng nghanol pobl. ·
Bod gwerthiant
beiciau dŵr wedi cynyddu eleni yn sgil Covid, ac
felly roedd y broblem yn debygol o fod hyd yn oed yn waeth flwyddyn nesaf. ·
Ei bod yn ymddangos
nad oedd yr heddlu yn gallu erlid mewn achosion o yrru cerbydau dŵr
personol yn anghyfrifol ac ymosodgar. ·
Bod hyn yn broblem ar
hyd arfordir Gwynedd a bod gwir angen deddfwriaeth i sicrhau bod ein traethau’n
ddiogel. Nodwyd ymhellach nad
oedd angen cofrestru na chael
trwydded i yrru badau pŵer
chwaith, a chynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i gynnwys badau
pŵer yn y cynnig. Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r
cynnig ar y llinellau yma gyda
chydsyniad y Cyngor. Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, nodwyd:- ·
Nad oedd yna ddull o
fonitro os yw gyrrwr cerbyd dŵr personol neu fad pŵer wedi bod yn
yfed alcohol. ·
Bod diffyg rheolaeth
yn thema gyffredin i’r tri chynnig gerbron y cyfarfod hwn o’r Cyngor, a
phwysleisiwyd pwysigrwydd datganoli pwerau dros faterion o’r fath. ·
Bod yna App ar gael i reoli symudiadau cychod. ·
Y dylai pawb gael
hyfforddiant cyn gyrru cerbydau o’r fath. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod ynglŷn â’r sefyllfa ar draethau’r
Cyngor, eglurodd y Swyddog Monitro fod yna hawliau
cyfyngedig o ran, er enghraifft, rheoli cyflymder mewn rhannau penodol o draeth, ayb, oedd
wedi’u ddynodi mewn is-ddeddfau. Fodd bynnag, nid oedd
yn ofynnol cael yswiriant na chofrestru
i ddefnyddio’r cerbydau hyn, a dyna’r bwlch yn
y gyfraith roedd y cynnig yn cyfeirio
ato. Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe gariodd. Gan i’r gwelliant gael ei dderbyn,
eglurodd y Swyddog Monitro fod y cynnig
gwreiddiol wedi’i addasu a bod angen pleidlais bellach gyda geiriad y gwelliant yn hytrach
na’r geiriad gwreiddiol. Pleidleisiodd mwyafrif o blaid y cynnig. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:- Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth y DU i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol a badau pŵer ar y môr yn yr un modd a beiciau modur ar y tir. Hynny yw bod pob ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 19. |
|