Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr:- Elwyn Jones, Dilwyn Lloyd, Eirwyn Williams a
Gareth Williams. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2021 fel rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd
y Swyddog Monitro fuddiant personol yn eitem 7 - Adolygiad Blynyddol – Polisi
Tâl y Cyngor 2022/23, ar ran y prif swyddogion oedd yn bresennol, gan fod yr
adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau. Roedd o’r farn bod
gan y swyddogion fuddiant o sylwedd, ac ynghyd â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Y
Pennaeth Cyllid Statudol a’r Pennaeth Tai ac Eiddo, gadawodd y Swyddog
Monitro'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem, gan nad oeddent angen bod
yn bresennol i gynghori. Arhosodd y Prif
Weithredwr a’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol i mewn yn y cyfarfod i
gynghori. Gan
gyfeirio at eitem 12 – Adroddiad Adolygu – Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd,
nododd y Swyddog Monitro fod ambell aelod o’r Cyngor ymhlith y sawl oedd wedi
ymateb i’r ymgynghoriad, ond oherwydd natur yr adroddiad, a chan gymryd na
fyddai trafodaeth benodol ar fanylion y cynllun, na chredai bod angen i unrhyw
un ddatgan buddiant. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â theulu cyn-gadeirydd y Cyngor hwn, Evie Morgan Jones,
a rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cynghorydd Annwen Hughes. Cydymdeimlwyd â’r canlynol hefyd:- ·
Y
Cynghorydd Menna Baines a’r teulu ar golli tad Menna. ·
Y
Cynghorydd Eirwyn Williams a’r teulu ar golli mam Eirwyn yn gant oed. ·
Aelod
Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts a’r teulu ar golli mam Liz. ·
Teulu Aled Roberts, y
Comisiynydd Iaith, a fu farw’n ddiweddar.
Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir
oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth. Rhoddwyd datganiad gan yr
Arweinydd ar ran y Cyngor ar y sefyllfa yn Wcráin. Nododd:- ·
Y dymunai ddatgan cefnogaeth y Cyngor i bobl Wcráin
a’u hawl sylfaenol i benderfynu eu tynged eu hunain, heb gael eu gormesu drwy
drais gan wladwriaeth unbeniaethol. ·
Y byddai Cyngor Gwynedd yn barod i wneud ei ran i
groesawu unrhyw ffoaduriaid a chynnig lloches iddynt yn ddiamod. ·
Ei fod yn flin nad yw Llywodraeth San Steffan yn
derbyn ffoaduriaid yn ddiamod fel mae gwleydd eraill Ewrop wedi gwneud, a bod
eu hagwedd yn ddidrugaredd a chreulon. ·
Iddo fod mewn cyfarfod y diwrnod cynt rhwng
arweinyddion cynghorau Cymru a Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o fudiadau
gwirfoddol, a bod o gwaith o gydlynu a pharatoi yn mynd rhagddo. ·
Bod pobl Gwynedd yn awyddus i helpu ymhob ffordd
bosib’, ac y byddai’r Cyngor yn gwneud ei orau i roi arweiniad a chymorth ble
gallai. ·
Y byddai cysylltiadau a argymhellir gan y
Llywodraeth o ran cynorthwyo a gwneud cyfraniadau yn cael eu rhannu gyda’r
aelodau maes o law. Nododd yr Arweinydd
ymhellach iddo dderbyn cwestiwn ynglŷn ag unrhyw gysylltiad masnachol gyda
chwmnïau o Rwsia, ac yn benodol ynglŷn â buddsoddiadau Cronfa Bensiwn
Gwynedd. Eglurodd fod Cronfa Bensiwn
Gwynedd yn buddsoddi trwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru, a bod datganiad a
baratowyd gan y bartneriaeth honno yn nodi:- “Mae
cyfanswm ein cysylltiad â Buddsoddiadau Rwsiaidd yn fach iawn ac yn llai nag
1%. Er hynny, yng ngoleuni'r
digwyddiadau ofnadwy yr ydym wedi'u gweld a'r sancsiynau economaidd a osodwyd
yn rhyngwladol, rydym wedi penderfynu'n gyfunol y dylid dadfuddsoddi o'r
daliannau hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. O ystyried
yr amgylchiadau, nid ydym yn credu bod ymwneud â'r cwmnïau hyn yn opsiwn
posibl.” Nododd yr Arweinydd ymhellach mai’r drasiedi
fawr yn yr achos yma oedd bod perthynas agos a chyfeillgar yn bodoli rhwng pobl
Wcráin a
phobl Rwsia, a’i bod yn bwysig sylweddoli fod pobl Rwsia yn dioddef hefyd, ac
nad eu rhyfel hwy oedd hwn. Ychwanegodd
yr edmygid dewrder y sawl sy’n barod i fynegi eu gwrthwynebiad i’r rhyfel yma
yn wyneb erledigaeth lem, a mawr obeithid y byddai’r trafodaethau’n parhau, ac
y deuai heddwch maes o law. Nododd y Cadeirydd, ar drothwy etholiadau lleol 2022, bod 22 arweinydd cynghorau Cymru wedi cymeradwyo datganiad ynglŷn â chynnal yr ymgyrch etholiadol, oedd yn galw ar bleidiau ac ymgeiswyr i ymrwymo i ymgyrchu mewn modd sydd yn deg a pharchus. Eglurwyd bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd
rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r
aelodau ymlaen llaw.) (1) Cwestiwn
gan y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones “Pa bryd mae’r Cyngor hwn yn rhagweld fydd staff yn ôl wrth eu desgiau?” Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia
Jeffreys “Diolch i holl staff y Cyngor am eu gwaith yn ystod
yr argyfwng. Mae’r cwestiwn yn gofyn
pryd fydd y staff yn ôl wrth eu desgiau.
Wrth gwrs, mae holl staff y Cyngor wedi parhau i weithio er lles pobl
Gwynedd, er bod y ddesg weithiau mewn atig neu ar y bwrdd gegin. Mae’r ffordd mae’r staff wedi addasu ar fyr
rybudd wedi bod yn anhygoel, ac rydw i’n hynod o ddiolchgar iddyn nhw. Mae yna lawer o waith wedi mynd i mewn i hyn,
ac rydw i wedi cael y cyfle i adrodd i’r Cabinet, ac mae adroddiad wedi mynd
i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, ond rydw i’n falch heddiw o’r cyfle i
ail-adrodd i’r Cyngor llawn. Mae yna gryn dipyn o sôn a sylw wedi’i roi i “fyd
gwaith y dyfodol” ar lefel Cymru gyfan dros y flwyddyn ddiwethaf gyda
Llywodraeth Cymru yn datgan nod o alluogi 30% o weithlu’r wlad i fedru gweithio
yn agos at, neu o’u cartrefi. Nid yw Cyngor Gwynedd yn
wahanol i nifer o sefydliadau eraill yn ei gynllunio ar gyfer hyn. Mae yna “Grŵp Swyddfeydd” wedi’i sefydlu
ers yn gynnar yn 2021, sy’n cydlynu’r gwaith paratoi yn lleol, gyda’r Prif
Weithredwr, y Cyfarwyddwr, y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a swyddogion
adnoddau dynol, iechyd a diogelwch, technoleg gwybodaeth ac eiddo yn rhan o’r
Grŵp hwnnw. Mae’r weledigaeth ar
gyfer gweithio i’r dyfodol o fewn y Cyngor wedi’i chymeradwyo gan y Cabinet ym
mis Chwefror a bu i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu graffu’r cynnwys cyn
hynny. Mae’r weledigaeth honno yn ffrwyth
llafur y Grŵp Swyddfeydd, ond hefyd yn seiliedig ar ymgynghoriad efo
gwahanol garfannau o staff y Cyngor yn ogystal â chynrychiolwyr yr undebau
llafur yn lleol. Nôd y weledigaeth yw bod
y Cyngor yn darparu’r gwasanaethau gorau bosib’ ar gyfer pobl Gwynedd, tra
hefyd yn arddangos y Cyngor fel lle da i weithio, a thrwy hynny gadw a denu
staff o safon. Gyda’r datganiadau mwyaf diweddar gan Lywodraeth
Cymru, a’r tebygolrwydd o lacio pellach ar y cyfyngiadau yn y dyfodol agos,
mae’r amser i weithredu’r weledigaeth yn prysur agosáu ac mae’r Prif Weithredwr
wedi rhannu amlinelliad o gynllun gweithredu efo staff, sef cynllun sy’n edrych
i gael ei weithredu yn raddol, mewn tri cham, dros yr wythnosau a’r misoedd
nesaf, sef:- ·
Caniatáu i’r holl
weithwyr hynny sydd yn gorfod, neu’n dymuno, gweithio yn eu canolfannau gwaith
gydol yr amser, wneud hynny oddi ar y 7fed o Fawrth, ·
Cadarnhau trefniadau ar gyfer y gweithwyr hynny
fydd yn gweithio o adra yn bennaf gyda golwg i gwblhau'r cam yma cyn gwyliau’r
Pasg. · Cytuno’n derfynol efo pob unigolyn, sydd wedi nodi dymuniad i weithio’n rhannol o adra ac yn rhannol o’r swyddfa, ar y trefniadau gwaith ar gyfer y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2022/23 PDF 268 KB Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i
fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2022/23. Cofnod: Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion, y Cynghorydd
Mair Rowlands, adroddiad yn argymell i’r Cyngor
gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi
Tâl ar gyfer 2022/23. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Nododd aelod na ddeallai pam nad oedd Cyngor Gwynedd yn gwneud gofalwyr
yn achos arbennig, gan ein bod yn colli staff o’r Adran Gofal. Mewn ymateb, eglurwyd:- ·
Bod Llywodraeth Cymru wedi gosod allan ddyhead i weld
gweithwyr gofal yn cael taliad sy’n cyfateb â’r cyflog byw. Byddai hynny’n digwydd yma yng Ngwynedd, a
byddai uwchlaw lefel y cyflog byw petai’r cynnydd a ddisgwylir i’r cyflogau
cenedlaethol ym mis Ebrill yn cael ei wireddu. ·
Bod y rhan helaethaf o ofalwyr y Cyngor yn dilyn y
cytundeb hir-ddisgwyliedig a gafwyd ddechrau’r wythnos hon ynglŷn â’r
codiad cyflog cenedlaethol. Roedd y rhan
helaethaf o’r gofalwyr ar gyflog o £9.99 yr awr, wedi’i ôl-ddyddio i 1 Ebrill,
2021. Byddai trafodaethau yn cychwyn eto
yn ystod mis Ebrill / Mai yn genedlaethol ar godiad cyflog 2022/23, ac roedd
yna debygolrwydd cryf y byddai’r codiad cyflog y flwyddyn nesaf yn ganran uwch
na’r hyn a ddyfarnwyd ar gyfer y flwyddyn sydd newydd fynd heibio. Golygai hynny y byddai’r gofalwyr yn sicr ar
gyflog rhwng £10 a £10.50 yr awr, wedi ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill, 2022. PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor
Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2022/23. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD - 2018-23 - ADOLYGIAD 2022/23 PDF 327 KB Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023: Adolygiad
2022/23 er mwyn ei weithredu yn ystod 2022/23. Cofnod: Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig
Siencyn, adroddiad yn gwahodd y Cyngor i
fabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23: Adolygiad 2022/23 er mwyn ei
weithredu yn ystod 2022/23. Diolchodd yr Arweinydd i’r Rheolwr Gwasanaeth
Cefnogi Busnes a’i dîm am eu gwaith arwrol wrth baratoi’r cynllun. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:- ·
Croesawyd bwriad y Llywodraeth i ddarparu cinio am
ddim i bob disgybl cynradd, ond holwyd a oedd yna gostau ychwanegol ynghlwm â
hynny y byddai’n rhaid i’r Cyngor eu hysgwyddo.
Mewn ymateb, nodwyd nad oedd y cynllun mor syml ag yr oedd yn ymddangos,
ond hyd yma, bod yna ymrwymiad ariannol gan Lywodraeth Cymru i gyfarch y gost
ychwanegol. Roedd trafodaethau’n digwydd
rhwng pob cyngor a’r Llywodraeth er mwyn sefydlu faint yn union fyddai’r costau
hynny. Eglurwyd bod y gost o ddarparu,
neu dalu, am y cinio yn un elfen, a bod y gost o ddarparu adeiladau, gofod o
fewn yr adeiladau hynny a gwasanaethau cefnogol, ayb, yn elfen ychwanegol nad
oedd, o bosib’, wedi’i llawn gostio ar hyn o bryd. Byddai mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu
gyda’r aelodau wrth i’r manylder ddatblygu, ond roedd y swyddogion yn eithaf
ffyddiog ynglŷn â’r sefyllfa ar hyn o bryd. Nododd yr Arweinydd y byddai yntau’n pwyso’n
arw ar y Llywodraeth i ariannu hyn yn llawn.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach ynglŷn ag effaith y cynllun ar
gyllidebau ysgolion, nodwyd bod pawb yn sylweddoli bod y cynllun yn cael
effaith sylweddol ar rai ysgolion, yn enwedig ysgolion mawr, ond cadarnhawyd
bod hyn yn rhan o’r trafodaethau gyda’r Llywodraeth. ·
Mynegwyd pryder ynglŷn â’r cyfeiriad dan
Flaenoriaeth Gwella 6 at roi blaenoriaeth i ardal Dolgellau a Meirionnydd yn
ehangach wrth adnabod cyfleon am ddarpariaethau gofal, a phwysleisiwyd y
dylai’r flaenoriaeth uchaf gael ei rhoi i ddarparu cartref gofal nyrsio ar
safle Penrhos, gan nad oedd yna unrhyw welyau nyrsio ar ôl ym Mhen Llŷn
bellach. Mewn ymateb, pwysleisiwyd nad
oedd cystadleuaeth rhwng Meirionnydd a Phen Llŷn. Roedd yna gyfle gwych ym Mhenrhos i greu
adnodd arbennig iawn fyddai’n cyfuno’r holl wasanaethau gofal a nyrsio ar un
safle, a chadarnhawyd y byddai’r Cyngor yn parhau i bwyso a chydweithio gyda’r
Gwasanaeth Iechyd a’r gymdeithas dai i wireddu’r uchelgais yma. · Gan gyfeirio at y bid (dan eitem 9 ar y rhaglen) i ddileu’r ffi o £300 am docyn teithio ôl-16, nodwyd bod rhieni yn Nwyfor a Meirionnydd (yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig) fu’n talu’r ffi yma dros y 10 mlynedd diwethaf wedi dioddef anghysondeb ac annhegwch enbyd, ac awgrymwyd bod y Cyngor wedi darganfod yr arian ychwanegol fel abwyd i rieni yn Arfon anfon eu plant i’r colegau. Mewn ymateb, nodwyd petai’r Cyngor yn cymeradwyo’r bid, y byddai diddymu’r tâl yn cynorthwyo teuluoedd mewn cyfnod lle mae costau byw’n cynyddu’n sylweddol, ac hefyd yn gwella mynediad pobl ifanc i gyrsiau a gwell llwybrau gyrfaoedd. Eglurwyd hefyd y gwnaethpwyd y penderfyniad i godi ffi am docyn teithio ôl-16 flynyddoedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Cymeradwyo’r
argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:- (a) Sefydlu cyllideb o £295,232,820 ar gyfer
2022/23 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £213,210,400 a £82,022,420 o incwm
o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 2.95%. (b) Sefydlu rhaglen gyfalaf o £59,074,980 yn
2022/23 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. 2. Nodi fod yr
Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen
benderfyniad dyddiedig 9 Tachwedd 2021, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yn unol â’r rheoliadau
a luniwyd dan Adran 33 (5)
o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):- (a) 53,715.10 yw’r swm a gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol Gwynedd
yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel
ei sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn. (b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen drethiannol
Cymuned –
sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i
ardal lle bo un eitem arbennig
neu fwy’n berthnasol. 3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr
gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-
|