9. |
CYLLIDEB 2024/25 PDF 258 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1. Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd
gan y Cabinet, sef:-
(a) Sefydlu cyllideb o
£331,814,710 ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £233,316,780
a £98,497,930 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54%).
(b) Sefydlu rhaglen
gyfalaf o £85,224,800 yn 2024/25 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad
4 i’r adroddiad.
2. Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen
benderfyniad dyddiedig 23 Chwefror 2024, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a
ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran
33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-
(a) 56,109.27 yw’r swm a gyfrifwyd fel ei Sylfaen Dreth
Cyngor am y flwyddyn yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y
Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd.
(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen Drethiannol Cymuned –
Aberdaron
|
607.86
|
|
Llanddeiniolen
|
1,879.99
|
Aberdyfi
|
1,199.84
|
|
Llandderfel
|
513.67
|
Abergwyngregyn
|
127.25
|
|
Llanegryn
|
170.33
|
Abermaw (Barmouth)
|
1,279.39
|
|
Llanelltyd
|
316.11
|
Arthog
|
686.30
|
|
Llanengan
|
2,611.78
|
Y Bala
|
805.81
|
|
Llanfair
|
365.02
|
Bangor
|
4,216.67
|
|
Llanfihangel y Pennant
|
251.26
|
Beddgelert
|
342.39
|
|
Llanfrothen
|
237.05
|
Betws Garmon
|
146.14
|
|
Llangelynnin
|
469.59
|
Bethesda
|
1,729.69
|
|
Llangywer
|
154.76
|
Bontnewydd
|
470.78
|
|
Llanllechid
|
362.98
|
Botwnnog
|
470.80
|
|
Llanllyfni
|
1,485.90
|
Brithdir a Llanfachreth
|
470.72
|
|
Llannor
|
931.18
|
Bryncrug
|
348.73
|
|
Llanrug
|
1,148.76
|
Buan
|
239.47
|
|
Llanuwchllyn
|
335.02
|
Caernarfon
|
3,689.58
|
|
Llanwnda
|
848.52
|
Clynnog Fawr
|
489.48
|
|
Llanycil
|
211.80
|
Corris
|
323.38
|
|
Llanystumdwy
|
929.25
|
Criccieth
|
1,004.64
|
|
Maentwrog
|
328.15
|
Dolbenmaen
|
656.05
|
|
Mawddwy
|
377.08
|
Dolgellau
|
1,284.66
|
|
Nefyn
|
1,656.10
|
Dyffryn Ardudwy
|
861.12
|
|
Pennal
|
238.42
|
Y Felinheli
|
1,192.74
|
|
Penrhyndeudraeth
|
822.80
|
Ffestiniog
|
1,816.64
|
|
Pentir
|
1,300.06
|
Y Ganllwyd
|
90.89
|
|
Pistyll
|
306.53
|
Harlech
|
852.33
|
|
Porthmadog
|
2,268.75
|
Llanaelhaearn
|
482.64
|
|
Pwllheli
|
1,834.49
|
Llanbedr
|
373.86
|
|
Talsarnau
|
364.36
|
Llanbedrog
|
855.68
|
|
Trawsfynydd
|
517.21
|
Llanberis
|
797.48
|
|
Tudweiliog
|
512.69
|
Llandwrog
|
1,066.90
|
|
Tywyn
|
1,779.66
|
Llandygai
|
1,022.19
|
|
Waunfawr
|
577.90
|
sef y symiau a gyfrifwyd
fel symiau Sylfaen y Dreth Cyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y
rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.
3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer
y flwyddyn 2024/25 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-
(a)
|
£570,459,760
|
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu
hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf
(gwariant gros).
|
(b)
|
£236,024,890
|
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu
hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf
(incwm).
|
(c)
|
£334,434,870
|
Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng
cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol
ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn
(cyllideb net).
|
(ch)
|
£232,821,120
|
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif
y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth
Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r
Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a ganiateir.
|
(d)
|
£1,811.00
|
Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y
cyfan wedi ei rannu gan y swm ... view the full Penderfyniad text for item 9.
Cofnod:
Nododd y
Cadeirydd, yn ôl Cyfansoddiad y Cyngor, rhaid i’r Pennaeth Cyllid dderbyn
unrhyw welliant i’r eitem yma yn ysgrifenedig ymlaen llaw, a rhaid i’r
gwelliant hwnnw arwain at gyllideb hafal os yw am gael ei drafod. Roedd holl
aelodau’r Cyngor wedi cael eu hatgoffa o hyn wythnos ddiwethaf, ac ni
dderbyniodd y Pennaeth Cyllid unrhyw rybudd o welliant erbyn yr amser cau
dynodedig. O ganlyniad, ni fydd modd ystyried unrhyw rybudd o welliant i’r
gyllideb.
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y
Cynghorydd Ioan Thomas:-
·
Adroddiad
a chyflwyniad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2024/25;
·
Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar
argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 9.54%) ynghyd â thablau yn
dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.
Diolchodd i staff
yr Adran Gyllid am eu gwaith yn paratoi’r gyllideb. Ychwanegodd nad yw’n rhoi
unrhyw bleser o gwbl iddo i gynnig codi Treth Cyngor mewn cyfnod ble mae
gymaint o drigolion y Sir yn brwydro yn erbyn costau byw sydd wedi cynyddu yn
sylweddol.
Pwysleisiodd os bydd gan unrhyw un broblem i dalu Treth Cyngor neu angen
cymorth ar gostau byw ei bod yn bwysig iddynt gysylltu gyda’r Cyngor. Nodwyd
bod angen i Gynghorwyr drosglwyddo’r wybodaeth yma i’w hetholwyr. Rhannwyd y
manylion cyswllt perthnasol oedd yn cynnwys rhif ffôn Galw Gwynedd â’r
cyfeiriad e-bost ynghyd â chyfeiriad e-bost y gwasanaeth Treth Cyngor.
Atgoffodd y
Pennaeth Cyllid yr aelodau o rai o’r prif risgiau yn Atodiad 10 o’r adroddiad,
a chadarnhaodd, wedi ystyried yr holl risgiau a’r camau lliniaru, ei fod o’r
farn bod Cyllideb y Cyngor am 2024/25 yn gadarn, yn ddigonol, ac yn
gyraeddadwy.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y
materion a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Mynegwyd
bod gwariant Cyngor Gwynedd yn cael ei arwain gan anghenion pobl Gwynedd a bod
yr aelodau yma er mwyn ateb y gofynion a’r anghenion hynny. Nodwyd bod y
sefyllfa ariannol bresennol eisoes yn ddifrifol. Gofynnwyd faint o'r gorwariant
sy’n deillio o ddiffyg cyllido bwriadol a’r diffyg i gydnabod angen sylfaenol
gan Lywodraeth Prydain.
·
Mewn
ymateb nodwyd mai’r broblem yw tan-gylllido sylweddol gan y Llywodraeth Lafur
yng Nghaerdydd. Cydnabuwyd bod y sefyllfa yn un broblemus oherwydd mai drwy
Gaerdydd yn unig, ynghyd â thaliadau Treth Cyngor, y mae Cynghorau yn cael eu
harian. Pwysleisiwyd bod y Cyngor mewn sefyllfa o gael ei danariannu.
·
Nododd
un aelod y byddai yn pleidleisio o blaid y gyllideb ond yn gwneud hynny yn
anfoddog. Mynegodd ein bod wedi cael ein gwthio a’n gorfodi i’r sefyllfa yma
dros gyfnod o 10 mlynedd dan bolisi llymder Llywodraeth San Steffan. Nodwyd bod
San Steffan yn torri taliadau yswiriant gwladol ond yn tan-gyllido gwasanaethau
cyhoeddus gan orfodi Cynghorau i gynyddu’r Dreth Cyngor.
·
Credwyd ei bod yn bwysig
mynegi anfodlonrwydd efo’r sefyllfa mae’r Cyngor wedi cael ei orfodi i fod
ynddi. Ategwyd mai llesiant plant y dyfodol fydd yn dioddef yn y pen draw.
·
Cyfeiriwyd
at achosion unigol torcalonnus roedd aelodau wedi dod ar eu traws ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.
|
10. |
ADOLYGU TREFNIADAU CRAFFU PDF 263 KB
Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadu Opsiwn 1 – sef cadw at y trefniadau pwyllgorau
craffu cyfredol gan gymeradwyo’r camau gweithredu i wella effeithlonrwydd sydd
wedi eu cynnwys yn Atodiad 2 i’r adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth yr adroddiad oedd yn gofyn i’r Cyngor
fabwysiadu Opsiwn 1 yn dilyn adolygu trefniadau Craffu. Adroddodd ei fod yn
cyflwyno’r adroddiad ar ran y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio oedd wedi
cymeradwyo’r opsiwn yma yn ei gyfarfod ym mis Ionawr, yn ddarostyngedig bod gwaith
yn cael ei wneud i wella effeithlonrwydd a gweithrediadau’r Pwyllgorau Craffu.
Diolchwyd i’r aelodau am eu presenoldeb a’u cyfraniad yn y gweithdai
gafodd eu cynnal flwyddyn dwytha a cyfeiriwyd at yr
adroddiad oedd yn crynhoi negeseuon a ddeilliodd o’r gweithdai cyn i’r Fforwm
Craffu gyfarfod. Gwahoddwyd y Cynghorydd Paul Rowlinson, ar ran y Fforwm
Craffu, i ymhelaethu ar ystyriaethau’r Fforwm Craffu.
Adroddodd y Cynghorydd Paul Rowlinson
nad oedd consensws clir yn y gweithdai na’r Fforwm Craffu gyda gwahanol aelodau
yn ffafrio gwahanol opsiynau. Nododd hefyd bod mewnbwn Archwilio Cymru wedi bod
yn bositif ar y cyfan; cyfeiriwyd at enghreifftiau ble roedd mewnbwn Craffu
wedi gwella penderfyniadau’r Cabinet.
Mynegwyd nad oedd Archwilio Cymru yn awgrymu
newid i’r strwythur presennol nac i lwyth gwaith y Pwyllgorau Craffu. Serch
hyn, nodwyd bod rhai aelodai wedi cyfeirio at lwyth gwaith y Pwyllgor Craffu
Addysg ac Economi gan nodi ei fod yn ormod. Yn dilyn crynhoi’r sylwadau, gwnaethpwyd
cynnig ar ran y Fforwm Craffu i fabwysiadu opsiwn 1.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:-
Cyfeiriwyd at gam
gweithredu diwethaf yn yr atodiad ble roedd sôn am adrodd yn ôl. Gofynnwyd a
fydd hyn yn golygu bod adroddiad yn cael ei greu sy’n dangos i aelodau sut mae
sylwadau Craffu sy’n ymwneud a newidiadau geiriol i adroddiadau wedi cael
ystyriaeth a’u derbyn neu’u gwrthod. Dymuna’r aelod weld proses o adrodd ar hyn
yn bodoli fel bod aelodau yn cael gwybod os gafodd eu sylwadau eu derbyn neu
beidio.
·
Mewn
ymateb nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth y bydd adroddiad blynyddol
yn cael ei ddarparu ar yr argymhellion.
Nododd un aelod ei
fod wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ers 12 mlynedd ac o’r 13 o
eitemau yr oedd wedi ei roi ger bron, credodd na chafodd yr un eitem
ddatrysiad. Cwestiynodd os oes wir angen y Pwyllgorau Craffu o gwbl am mai
Craffu gwaith aelodau’r Cabinet sy’n digwydd a chredwyd nad oedd pwrpas i hynny
gan mai aelodau Plaid Cymru sydd â’r mwyafrif seddau ar y Pwyllgorau Craffu.
·
Mewn
ymateb nododd y Cynghorydd Paul Rowlinson nad yw aelodau yn gweithredu fel
plaid neu grŵp gwleidyddol penodol wrth graffu. Nododd ei fod yn ofyn
statudol ar bob Cyngor i gael cyfundrefn Craffu ac mai pwrpas Craffu yw ceisio
gwella penderfyniadau'r weithrediaeth. Credodd bod
nifer o enghreifftiau ble mae penderfyniad y Pwyllgor Craffu wedi cael effaith
gadarnhaol ar benderfyniad y Cabinet. Ychwanegodd ei bod hi’n anghyfreithlon
gweithredu ar sail plaid.
Gwnaethpwyd sylw
gan aelod a chyn-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal o bedair blynedd; dymunodd
dalu teyrnged bod Craffu yn gweithio. Adroddodd ei fod wedi gweithio’n agos
iawn efo aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol fel is-gadeirydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.
|
11. |
PROSES YMGYNGHORI - PLEIDLAIS SENGL DROSGLWYDDADWY AR GYFER ETHOLIADAU CYNGOR GWYNEDD PDF 209 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
- Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r amserlen a’r
broses arfaethedig ar gyfer cynnal yr ymgynghoriad ar newid i gyfundrefn
Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau i Gyngor Gwynedd o 2027
ymlaen.
- Bod y Cyngor yn dirprwyo paratoi a chynnal yr
ymgynghoriad i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol mewn ymgynghoriad a’r
Aelod Cabinet dros Gefnogaeth Corfforaethol a Chyfreithiol a’r Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol (Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth).
- Bod y ddogfen ymgynghori yn cael ei pharatoi
mewn ymgynghoriad gydag arweinyddion grwpiau gwleidyddol y Cyngor.
Cofnod:
Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Menna Trenholme yr
adroddiad oedd yn darparu cysyniad o’r trefniant i gychwyn proses all arwain at
fabwysiadu system pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau Cyngor
Gwynedd. Adroddwyd y bydd angen cymeradwyo’r broses ymgynghori ac amserlen
penderfynu ac yna ar ôl yr ymgynghori bydd angen galw cyfarfod o’r Cyngor Llawn
ar gyfer y penderfyniad yma yn unig.
Nid oedd unrhyw sylwadau na chwestiynau.
PENDERFYNWYD
1.
Bod y Cyngor yn
cymeradwyo’r amserlen a’r broses arfaethedig ar gyfer cynnal yr ymgynghoriad ar
newid i gyfundrefn Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau i Gyngor
Gwynedd o 2027 ymlaen.
2.
Bod y Cyngor yn
dirprwyo paratoi a chynnal yr ymgynghoriad i’r Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet dros Gefnogaeth Corfforaethol a
Chyfreithiol a’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol (Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth).
3.
Bod y ddogfen
ymgynghori yn cael ei pharatoi mewn ymgynghoriad gydag arweinyddion grwpiau
gwleidyddol y Cyngor.
|
12. |
STRATEGAETH GYFALAF 2024/25 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYCA) PDF 244 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r
Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2024/25
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y
Cynghorydd Ioan Thomas yr adroddiad oedd yn cyfarch y gofyn statudol ar
Gynghorau ac yn rhoi cyd-destun hir dymor i benderfyniadau gwariant cyfalaf a
buddsoddiadau gan Gynghorau. Nodwyd bod yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o
sut y rheolir risgiau cysylltiedig â'r goblygiadau i gynaliadwyedd ariannol yn
y dyfodol.
Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid fod yr adroddiad yn cyfeirio at 3 atodiad
ond yn anffodus nid yw’r atodiadau wedi eu cynnwys yn y Rhaglen. Nodwyd fod yr
atodiadau hyn yn rhoi manylder pellach ond bod gwybodaeth ddigonol wedi ei
gynnwys yn yr adroddiad.
Dangoswyd dabl “Gwrthbartion Buddsoddi sydd wedi’u Cymeradwyo a’r terfynau”
i’r aelodau gan adrodd bod y tabl oedd yn cael ei arddangos yn rhoi’r wybodaeth
oedd ar goll yn yr atodiadau. Ymddiheurwyd bod yr atodiadau heb eu cynnwys gan
ychwanegu eu bod nhw wedi eu cynnwys yn Rhaglen y Pwyllgor Llywodraethau ac
Archwilio ac wedi eu hystyried yno yn llawn.
Dyma gynnwys copi
o’r tabl.
Sicrhaodd y
Swyddog Monitro bod yr adroddiad sydd yn y Rhaglen yn gynhwysfawr ynghyd a’r tabl
uchod gafodd ei arddangos yn rhoi’r aelodau mewn sefyllfa i fedru pleidleisio a
mabwysiadu’r strategaeth.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:-
Diolchwyd am yr
adroddiad a mynegwyd diolch i gwmni Arlingclose am eu
cyflwyniad i aelodau’r Cyngor nol ym mis Chwefror. Nodwyd bod y maes yn un
technegol iawn ond bod Arlingclose wedi ei wneud yn
haws i ddeall. Gwerthfawrogwyd bod y cyflwyniad yma wedi bod ar gael i bob
Cynghorydd ac nid aelodau’r Pwyllgor Llywodraethau ac Archwilio yn unig fel
sy’n arfer digwydd.
Cadarnhawyd bod yr
aelodau mewn sefyllfa i wneud penderfyniad am fod yr adroddiad yn un
cynhwysfawr.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a
chymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2024/25.
|
13. |
CYTUNDEB CYFLAWNI - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL GWYNEDD PDF 216 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Amgylchedd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Bod y Cyngor yn:-
- Cymeradwyo
fersiwn terfynol o Gytundeb Cyflawni – Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd
(sydd wedi ymgorffori’r diwygiadau yn dilyn y cyfnod ymgynghori
cyhoeddus).
- Cytuno i gyflwyno’r Cytundeb Cyflawni i
Lywodraeth Cymru ar gyfer eu cymeradwyaeth.
- Dirprwyo hawl
i’r Pennaeth Adran wneud addasiadau golygyddol er sicrhau cywirdeb yn ôl
yr angen.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig yr
adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor Llawn i’r Cytundeb Cyflawni a
chytundeb i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer sêl bendith. Eglurwyd bod yr
adroddiad yn ymwneud a’r broses faith o greu Cynllun Datblygu Lleol a dyma’r
cam cyntaf yn y broses honno sef mabwysiadu’r Cytundeb Cyflawni.
Nodwyd bod y Cytundeb Cyflawni i’w
weld yn llawn yn y Rhaglen yn ogystal â chyd-destun a chyfeiriadau at y broses
o greu’r cytundeb, ynghyd ag amserlen a’r camau.
Manylwyd ar daith y Cytundeb Cyflawni
hyd yn hyn oedd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus a soniwyd am rai o’r sylwadau
a dderbyniwyd. Nodwyd bod sylwadau penodol wedi eu gwneud ynglŷn â’r
profion cadernid a’r posibilrwydd o’u diwygio er mwyn ystyried yr effaith ar yr
iaith Gymraeg fel rhan o’r profion. Rhedwyd drwy’r profion cadernid oedd yn
ymwneud ag addasrwydd y Cynllun, priodoldeb y Cynllun a gallu’r Cynllun i
gyflawni. Cyfeiriwyd at yr ymateb i’r sylw oedd wedi ei gynnwys ar dudalen 169
o’r Rhaglen.
Nodwyd bod y
Gweithgor Polisi Cynllunio a’r Cabinet wedi ystyried sylwadau’r ymgynghoriad yn
llawn; mynegwyd pryder am nifer isel yr ymatebion. Adroddwyd y bydd y gwaith o
greu'r Cynllun Datblygu Lleol yn cychwyn ar ôl iddo dderbyn cymeradwyaeth gan y
Llywodraeth, gall hyn gymryd o gwmpas bedair wythnos.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Gwnaethpwyd sylw
gan aelod nad oedd newid wedi digwydd i’r Cynllun o ganlyniad i sylwadau’r
ymgynghoriad a chredodd bod hynny yn dueddol o ddigwydd yn aml yn dilyn
ymgynghoriadau. Gwerthfawrogwyd eglurhad yr Aelod Cabinet Amgylchedd am pam na
gafodd y sylw ei dderbyn ond credwyd bod angen ystyried pa mor ddibynadwy ydi’r
asesiad gan y Llywodraeth wrth ymdrin ag ardrawiad ar yr iaith Gymraeg.
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:-
1.
Cymeradwyo fersiwn
terfynol o Gytundeb Cyflawni – Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd (sydd wedi
ymgorffori’r diwygiadau yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus).
2. Cytuno i
gyflwyno’r Cytundeb Cyflawni i Lywodraeth Cymru ar gyfer eu cymeradwyaeth.
3. Dirprwyo hawl i’r Pennaeth Adran wneud addasiadau
golygyddol er sicrhau cywirdeb yn ôl yr angen.
|
14. |
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2022-23 A CHYFLWYNO ADOLYGIAD O BOLISI DIOGELU CYNGOR GWYNEDD PDF 166 KB
Cyflwyno adroddiad
Cadeirydd y Panel Strategol Diogelu.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
- Derbyn yr
adroddiad sy’n adrodd ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y
flwyddyn 2022-23.
- Nodi’r Polisi
Diogelu diwygiedig (Atodiad 2 i’r adroddiad) ynghyd â’r Cylch Gorchwyl
diwygiedig ar gyfer y Panel Strategol Diogelu (Atodiad 3).
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth
Gorfforaethol, y Cynghorydd Menna Trenholme adroddiad blynyddol y Panel
Strategol Diogelu 2022-23 gan nodi bod yr Adran eisoes wedi cychwyn paratoi
adroddiad 2023-24. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r gwaith sydd
wedi digwydd gan y Panel Strategol Diogelu.
Cymerwyd y cyfle i godi ymwybyddiaeth am y
Polisi Diogelu diwygiedig gafodd ei fabwysiadu yn y bythefnos ddiwethaf. Nodwyd
bod y Polisi wedi ei gynnwys yn atodiad 2 o’r adroddiad ac o ganlyniad i’r
Polisi diwygiedig bod newid hefyd yn y Cylch Gorchwyl sydd i’w weld yn atodiad
3.
Cyfeiriwyd at un
newid mawr yn y Polisi sef y gwahaniaeth rhwng Amddiffyn a Diogelu gan nodi bod
y diffiniadau i’w gweld yn y Polisi.
Nid oedd unrhyw
sylwadau na chwestiynau.
PENDERFYNWYD
1. Derbyn yr adroddiad
sy’n adrodd ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2022-23.
2.
Nodi’r Polisi Diogelu
diwygiedig (Atodiad 2 i’r adroddiad) ynghyd â’r Cylch Gorchwyl diwygiedig ar
gyfer y Panel Strategol Diogelu (Atodiad 3).
|
15. |
DIWYGIO CYFANSODDIAD - TREFN DATRYS MEWNOL PDF 233 KB
Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Bod y Cyngor yn:-
- Mabwysiadu’r newidiadau i'r Drefn Datrys
Mewnol (Atodiad 1 i’r adroddiad).
- Mabwysiadu’r addasiadau i Adran 7 – Craffu
(Atodiad 2)
- Derbyn yr adroddiad ar yr addasiadau
dirprwyedig (Atodiad 3).
Cofnod:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro'r adroddiad oedd yn cynnig diwygiadau i’r
Drefn Datrys Mewnol a Chraffu ynghyd ac adrodd ar addasiadau dirprwyedig i’r
Cyfansoddiad. Adroddwyd bod tair elfen i’r adroddiad oedd yn cynnwys sut i
ymdrin â chwynion lefel isel rhwng aelodau o ganlyniad i’r ddyletswydd statudol
sydd bellach ar Arweinyddion Grwpiau. Nodwyd bod yr ail agwedd yn deillio o
benderfyniad yr adolygiad Craffu i ddiwygio’r Cyfansoddiad oedd yn cwmpasu mân
newidiadau ac yn olaf newidiadau i’r cynlluniau dirprwyo.
Nid oedd unrhyw
sylwadau na chwestiynau.
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:-
1. Mabwysiadu’r
newidiadau i'r Drefn Datrys Mewnol (Atodiad 1 i’r adroddiad).
2.
Mabwysiadu’r addasiadau i Adran 7 – Craffu (Atodiad
2)
3.
Derbyn yr adroddiad ar yr addasiadau dirprwyedig
(Atodiad 3).
|
16. |
AROLYGON CYMUNEDOL O DAN DDEDDF LLYWODRAETH LEOL (DEMOCRATIAETH) CYMRU 2013 PDF 175 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Bod y Cyngor yn cymeradwyo cynnal arolygon
cymunedol o dan adrannau 25 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth)
Cymru 2013 a’r cylch gwaith.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth
Gorfforaethol, y Cynghorydd Menna Trenholme yr adroddiad oedd yn adrodd ar y dyletswydd statudol sydd ar Gyngor
Gwynedd, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 i fonitro’r
cymunedau o fewn y Sir, a threfniadau etholiadol y cymunedau hynny.
Adroddwyd bod dau fath o arolwg cymunedol y dylai’r
Cyngor ystyried eu cynnal sef Arolwg o ffiniau cymunedol (adran 25 o’r Ddeddf)
ac Arolwg o’r trefniadau etholiadol (adran 31 o’r Ddeddf). Pwysleisiwyd nad
yw’n fwriad adolygu pob cymuned dim ond y rhai sydd yn amlygu angen am newid
oherwydd amgylchiadau penodol.
Adroddwyd ar y pedwar cam hanfodol i’r
broses sef Cyhoeddusrwydd cychwynnol, Ymchwiliad ac ymgynghoriad cychwynnol,
Cynigion drafft ac Argymhellion terfynol. Gofynnwyd i’r Cyngor gymeradwyo’r
broses a amlinellir. Nodwyd y bydd hyn yn caniatáu cynnal y broses ymgynghori.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:-
Gwnaethpwyd sylw am ddyddiad oedd wedi ei gynnwys yn y tabl ar dudalen
297 o’r pecyn oedd yn cyfeirio at Ymgynghoriad 2, gan holi os yw’r dyddiad
Ionawr/Chwefror 2024 yn gywir. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro mai
Ionawr/Chwefror 2025 ydi’r dyddiad cywir a byddai’r tabl yn cael ei gywiro.
Nodwyd bod
newidiadau i’r ffiniau eisoes wedi digwydd ble cafwyd lleihad yn nifer y
Cynghorwyr yng Ngwynedd o 75 i 69. Gofynnwyd a fydd newidiadau i’r Cynghorau
Plwyf.
Cadarnhaodd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau bod y Cyngor Sir yn
gweithredu o fewn yr un rôl a mae’r Comisiwn Ffiniau yn ei wneud efo ni fel
Cyngor Sir. Golygai hyn mai’r Cyngor sy’n gyfrifol am y Cynghorau Cymuned. Bydd
yr arolwg o ffiniau cymunedol yn cael ei wneud er mwyn cyd-fynd â’r Comisiwn
Democratiaeth pan fyddan nhw’n dod yn ôl i edrych ar ffiniau Sirol.
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn
cymeradwyo cynnal arolygon cymunedol o dan adrannau 25 a 31 o Ddeddf
Llywodraeth Leol (Democratiaeth) Cymru 2013 a’r cylch gwaith.
|
17. |
ADOLYGIAD O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR PDF 264 KB
Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
- Mabwysiadu’r dyraniad seddau fel a nodir isod
gan ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud
penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â
dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.
A
|
Plaid Cymru
|
Annibynnol
|
Llafur Rhydd
|
Cyfanswm
|
Pwyllgor Craffu Addysg
ac Economi
|
12
|
6
|
0
|
18
|
Pwyllgor Craffu
Cymunedau
|
12 11
|
5 6
|
1
|
18
|
Pwyllgor Craffu Gofal
|
12 11
|
5 6
|
1
|
18
|
Llywodraethu ac
Archwilio
|
8
|
4
|
0
|
12
|
B
|
Plaid Cymru
|
Annibynnol
|
Llafur Rhydd
|
Cyfanswm
|
Gwasanaethau
Democrataidd
|
10 9
|
4 5
|
1
|
15
|
Cynllunio
|
10 9
|
4 5
|
1
|
15
|
Trwyddedu
Canolog/Cyffredinol
|
10
|
5
|
0
|
15
|
Iaith
|
10
|
5
|
0
|
15
|
Penodi Prif Swyddogion
|
10
|
5
|
0
|
15
|
Apelau Cyflogaeth
|
5
|
2
|
0
|
7
|
Nifer y seddau
|
99
|
45
|
4
|
148
|
C
|
Plaid Cymru
|
Annibynnol
|
Llafur Rhydd
|
Cyfanswm
|
Pensiynau
|
4
|
2
|
1
|
7
|
Cydbwyllgor Ymgynghorol
Lleol
|
7
|
4
|
0
|
11
|
CYSAG
|
5 4
|
2 3
|
0
|
7
|
Cyfanswm y seddau
|
115
|
53
|
5
|
173
|
2.
Enwebu’r Cynghorydd Elwyn Jones (Grŵp
Annibynnol) i gynrychioli’r Cyngor ar y Panel Heddlu a Throsedd am dymor y
Cyngor hwn.
Cofnod:
Cyflwynodd
y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth, yr adroddiad oedd yn gofyn i’r Cyngor
fabwysiadu dyraniad seddau newydd yn dilyn i un aelod newid grŵp
gwleidyddol ac yn dilyn canlyniad isetholiad diweddar. Nodai bod hyn yn arwain
at newidiadau i ddyraniad seddau ar Bwyllgorau, sef grŵp gwleidyddol Plaid
Cymru yn ennill un sedd ar y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Pwyllgor Crafu Gofal,
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth, Pwyllgor Cynllunio a CYSAG. Cyfeiriwyd at
y manylion llawn o’r dyraniad seddau newydd sydd i’w gweld yn atodiad A o’r
adroddiad.
Ychwanegwyd bod y Cynghorydd Elwyn
Jones bellach wedi cael ei enwebu i gynrychioli’r Cyngor ar y Panel Heddlu a
Throsedd am dymor y Cyngor. Gofynnwyd i’r Cyngor Llawn gymeradwyo’r dewis yno
yn ogystal â mabwysiadu’r dyraniad seddau fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Cadarnhawyd y bydd un bleidlais yn cael ei gynnal ar y ddau gynnig.
Nid oedd unrhyw sylwadau
na chwestiynau.
PENDERFYNWYD
1.
Mabwysiadu’r dyraniad seddau fel a nodir isod gan
ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud penodiadau i’r
pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau
gwleidyddol.
A
|
Plaid
Cymru
|
Annibynnol
|
Llafur Rhydd
|
Cyfanswm
|
Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
|
12
|
6
|
0
|
18
|
Pwyllgor Craffu Cymunedau
|
12 11
|
5 6
|
1
|
18
|
Pwyllgor Craffu Gofal
|
12 11
|
5 6
|
1
|
18
|
Llywodraethu ac Archwilio
|
8
|
4
|
0
|
12
|
B
|
Plaid
Cymru
|
Annibynnol
|
Llafur Rhydd
|
Cyfanswm
|
Gwasanaethau Democrataidd
|
10 9
|
4 5
|
1
|
15
|
Cynllunio
|
10 9
|
4 5
|
1
|
15
|
Trwyddedu Canolog/Cyffredinol
|
10
|
5
|
0
|
15
|
Iaith
|
10
|
5
|
0
|
15
|
Penodi Prif Swyddogion
|
10
|
5
|
0
|
15
|
Apelau Cyflogaeth
|
5
|
2
|
0
|
7
|
Nifer y seddau
|
99
|
45
|
4
|
148
|
C
|
Plaid
Cymru
|
Annibynnol
|
Llafur Rhydd
|
Cyfanswm
|
Pensiynau
|
4
|
2
|
1
|
7
|
Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol
|
7
|
4
|
0
|
11
|
CYSAG
|
5 4
|
2 3
|
0
|
7
|
Cyfanswm y seddau
|
115
|
53
|
5
|
173
|
2.
Enwebu’r Cynghorydd Elwyn Jones (Grŵp Annibynnol) i
gynrychioli’r Cyngor ar y Panel Heddlu a Throsedd am dymor y Cyngor hwn.
|
18. |
CALENDR PWYLLGORAU 2024/25 PDF 121 KB
Cyflwyno adroddiad
y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer
2024/25.
Cofnod:
Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth yr adroddiad oedd yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu Calendr
Pwyllgorau ar gyfer 2024/25 a hynny yn sgil gwaith manwl oedd wedi digwydd yn y
cefndir o ran dewis dyddiadau gan osgoi gwrthdaro a chyfarfodydd eraill.
Diolchwyd i aelodau’r Pwyllgor Gwasnaaethau
Democratiaeth am eu sylwadau a’u gwaith manwl wrth drafod y Calendr a bu cytuno
ar welliannau yn sgil y drafodaeth honno. Tynnwyd sylw at gyfarfod arbennig o’r
Cyngor Llawn fydd bellach yn cael ei gynnal ym mis Medi.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Mynegodd aelod
awydd y grŵp annibynnol i sefydlu Cabinet Cysgodol a gofynnodd sut byddai
mynd o gwmpas hyn. Manylodd ers cael gwared â’r Byrddau bod teimlad ac awydd
cryf ymysg y grŵp annibynnol i sefydlu Cabinet Cysgodol er mwyn herio
penderfyniadau’r Cabinet gan nad oes aelod annibynnol yn eistedd ar y Cabinet.
Mynegodd hefyd bod llawer o aelodau’r grŵp Plaid Cymru yn eistedd ar y
Pwyllgorau Craffu.
Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro nad oedd y mater hwn yn fater i’r Cyngor Llawn ei drafod
heddiw. Awgrymodd i’r aelod gynnal trafodaeth efo’r Gwasanaeth Democratiaeth
fel man cychwyn.
Cymerwyd y cyfle gan aelod i dalu teyrnged i Gadeirydd y Cyngor gan
frolio’r modd oedd y Cadeirydd wedi cadeirio’r cyfarfod heddiw.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Calendr
Pwyllgorau ar gyfer 2024/25.
|
19. |
RHYBUDDION O GYNNIG
Dogfennau ychwanegol:
|
20. |
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gruffydd Williams
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig
fel a ganlyn:-
Gan gysidro fod Cyngor Gwynedd eisoes wedi pasio ym
Mis Medi rybudd o gynnig yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ail gysidro mynnu
rhoi 10% o dir ffermydd drosodd
i goedwigaeth fel rhan o’r
Cynllun Ffermio Cynaliadwy, galwaf ar Gyngor Gwynedd:-
I alw ar Lywodraeth Cymru i ymbwyllo ac ail ystyried (yng ngoleuni effaith
cronnus ar y diwydiant amaethyddol), cyn mynnu o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), rhoi 10% o dir
ffermydd Cymru yn dir Cynefin / Bioamrywiaeth ynghyd â’r newidiadau
i ofynion statudol a pholisïau megis Parthau Perygl
Nitradau (NVZ).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams
o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
Gan gysidro fod Cyngor Gwynedd eisoes wedi pasio ym
Mis Medi rybudd o gynnig yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ail gysidro mynnu
rhoi 10% o dir ffermydd drosodd
i goedwigaeth fel rhan o’r
Cynllun Ffermio Cynaliadwy, galwaf ar Gyngor Gwynedd:-
I alw ar Lywodraeth
Cymru i ymbwyllo ac ail ystyried (yng ngoleuni
effaith cronnus ar y diwydiant amaethyddol), cyn mynnu o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), rhoi 10% o dir ffermydd
Cymru yn dir Cynefin / Bioamrywiaeth ynghyd â’r newidiadau i ofynion statudol
a pholisïau megis Parthau Perygl Nitradau (NVZ).
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-
·
Bydd
difrod arwyddocaol yn cael ei wneud i’r diwydiant amaeth os bydd Llywodraeth
Cymru yn mabwysiadu'r SFS a’r NVZ.
·
Bod
costau cysylltiedig i ffermwyr Cymru pe baent yn colli 20% o’u tir rhwng rhoi
10% i fioamrywiaeth a 10% o’r tir i blannu coed; bydd hyn yn arwain at
ddiwydiant ffermio anghynaladwy a bydd llawer o ffermwyr yn gadael y diwydiant.
·
Bod
gwariant aruthrol i’r uned amaethyddol er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau
newydd sydd yn mynd i wasgu’r ffermydd bach allan o fusnes.
·
Bydd
y nitrogen fydd yn mynd ar y tir yn arwain at leihad yn y cnydau a golygai hyn
y bydd llai o gynnyrch. Ychwanegodd os na fydd digon o fwyd i’r cyhoedd bydd
prisiau yn codi.
·
Bod
angen sefyll i fyny efo’r ffermydd neu bydd dim pobl ar ôl yn byw yng nghefn
gwlad.
Gobeithiai’r
cynigydd dderbyn cefnogaeth yr holl aelodau i sicrhau ffyniant y diwydiant
amaethyddol a ffyniant yng nghefn gwlad.
Mynegwyd
cefnogaeth gref i’r cynnig gan nifer o aelodau ar y sail:-
·
Bod
dyletswydd foesol arnom yng Ngwynedd i gefnogi ffermwyr ein cymunedau, sydd yn
cynrychioli diwylliant, hanes ac iaith ein cymunedau. Adroddwyd y slogan Dim
ffermwyr, Dim bwyd, Dim dyfodol.
·
Bod
prisiau cyfredol defaid yn profi prinder a chredwyd y bydd prinder bwyd ac mai
nid tyfu coed fydd yr ateb.
·
Bod
amaeth yn bwysig iawn ym Mhen Llŷn. Gofynnwyd am gefnogaeth yr holl
aelodau gan bwysleisio bod angen rhoi stop ar gynlluniau’r Llywodraeth.
·
Bod
y broblem o blannu 10% o goed yn un enfawr ym Mhen Llŷn o gymharu â
Meirionnydd. Credwyd nad oedd digon o dargedu wedi ei wneud gan y Llywodraeth
ac yn hytrach eu bod wedi trin pob ardal yr un fath.
·
Bod
angen diolch i’r ddwy Undeb amaethyddol sydd wedi gweithio’n galed i gefnogi’r
amaethwyr. Mynegwyd bod angen i’r Cyngor gefnogi a chryfhau eu cais.
·
Nodwyd
mai amaeth yw sylfaen cefn gwlad a’i fod yn graidd i’n diwylliant. Nodwyd heb
amaeth ni fyddai Ysgolion na phobl ifanc yng nghefn gwlad; credwyd ei bod yn
hollbwysig cefnogi’r cynnig.
·
Bod
yr hyn a gynigiwyd gan y Llywodraeth yn niweidiol
a diystyriol o iechyd meddyliol a lles
emosiynol y diwydiant, sydd mewn gwirionedd yn ddiwydiant o unigolion. Credwyd
ei fod yn fygythiad i fyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 20.
|
21. |
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Dewi Jones
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Dewi Jones yn cynnig fel a ganlyn:-
Mae Cyngor Gwynedd yn datgan cefnogaeth
i'r sector amaeth ac amaethwyr Cymru.
Mae'r Cyngor yn credu bod
amaethwyr Cymru yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i economi ein gwlad, i'r iaith
Gymraeg, ein diwylliant a'n treftadaeth, a bod angen cefnogi'r sector pwysig
hwn.
Galwa'r Cyngor ar Lywodraeth
Cymru i wrando ar farn a phryderon amaethwyr - a'r undebau amaeth - wrth iddynt
ymgynghori ar deddfwriaeth newydd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Dewi Jones o dan
Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
Mae
Cyngor Gwynedd yn datgan cefnogaeth i'r sector amaeth ac amaethwyr Cymru.
Mae'r Cyngor yn credu bod
amaethwyr Cymru yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy
i economi ein gwlad, i'r iaith Gymraeg, ein diwylliant a'n treftadaeth,
a bod angen cefnogi'r sector pwysig hwn.
Galwa'r Cyngor ar Lywodraeth
Cymru i wrando ar farn a phryderon amaethwyr - a'r undebau amaeth - wrth iddynt
ymgynghori ar deddfwriaeth newydd.
Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig,
gan nodi:-
·
Bod
yr hyn sy’n digwydd i’r diwydiant amaeth yn effeithio ar bawb. Nododd ein bod
yn ddibynnol ar ffermwyr bob dydd ar gyfer derbyn ein llefrith, bara a chig.
Credodd bod derbyn bwyd o safon a bwyd lleol yn holl bwysig.
·
Cyfeiriodd
at y brotest fwyaf erioed oedd wedi cyrraedd y Senedd wythnos diwethaf gydag
dros 3,000 o ffermwyr yn teithio i Gaerdydd. Credai nad yw’r cynllun yn ei
ffordd bresennol yn hygyrch nac yn gynaliadwy.
·
Bod
angen i’r Llywodraeth ail gysidro eu bwriad o ofyn i bob ffermwr roi 10% o’u
tir i dyfu coed. Mynegwyd na wnaiff coed hybu diwylliant nac iaith. Credwyd bod
angen hyblygrwydd yn y cynnig a bod angen i Lywodraeth Cymru ail lunio’r
cynnig. Ychwanegwyd bod angen addasu’r cynlluniau i adlewyrchu'r tirwedd, y
tywydd ac amgylchedd y gweithiai’r ffermwyr ynddynt.
Mynegwyd cefnogaeth gref i’r cynnig gan
aelodau a nododd:-
·
Bod
ffermwyr wedi bod yn ffermio ers cenedlaethau sydd yn profi cynaliadwyedd y
diwydiant.
·
Bod
y Cyngor wedi ymateb i’r ymgynghoriad ac yn galw ar y Llywodraeth i gyd-drafod
gyda’r diwydiant ac i lunio cynlluniau sy’n briodol ar gyfer Gymru a chefn
gwlad. Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod wedi bod yn rhan o drafodaeth yn y
Fforwm Wledig, Cymdeithas Llywodraeth Leol a’u bod hwythau hefyd wedi ymateb yn
yr un modd. Mynegodd yr Arweinydd falchder bod y Cyngor eisoes wedi ymateb yn
gadarn.
·
Bod
gwers yma i Lywodraeth Cymru sydd ddim yn deall ystyr cyd-gynllunio a
chyd-gynhyrchu.
·
Bod
amaethwyr yn barod i gyfrannu at yr agenda i ostwng allyriadau carbon ac yn
barod i gyfrannu at fioamrywiaeth ac eisoes yn gwneud hynny i raddau helaeth.
·
Bod
ffermwyr yn adnabod eu tiroedd yn well na neb a bod yr amaethwyr efo gwybodaeth
am yr hyn sy’n digwydd ar eu tirwedd eu hunain.
·
Nad
oes son yn y Senedd am y posibilrwydd cryf iawn o
golli 5,500 o swyddi yn y diwydiant amaeth.
·
Atgoffwyd
o’r hunllef yn ystod y cyfnod clo pan nad oedd digon o fwyd ar silffoedd yr
archfarchnadoedd. Nodwyd bod NFU Cymru yn ddiweddar wedi nodi bod angen
cynhyrchu 25% yn fwy o fwyd erbyn 2050.
·
Bod
y diwydiant amaethu wedi defnyddio ychydig bach mwy o dir yn unig i gynhyrchu
bwyd nac oedden nhw’n ei ddefnyddio yn 1960. Credwyd bod hyn yn dangos bod
ffermwyr wedi gwneud y gorau ac wedi datblygu beth sydd ganddyn nhw.
·
Bod
yr hyn ddigwyddodd yn y Senedd yn dda o gymharu â’r hyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 21.
|
22. |
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Craig ab Iago
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Craig ab Iago yn cynnig
fel a ganlyn:-
Rydym yn galw ar Lywodraeth
Llafur Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu
i fynnu sicrwydd
gan eu cymheiriaid
ym Mhencadlys y Blaid Lafur yn Llundain eu bod, os yn fuddugol yn yr Etholiad Cyffredinol
nesaf, yn rhoi stop yn syth ar bolisïau llymder y Blaid Geidwadol sydd wedi bod mor ddifaol i gymunedau Gwynedd a Chymru dros y 13 mlynedd diwethaf.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Mynegodd y cynigydd ei awydd i dynnu’r cynnig isod a gyflwynodd dan Adran
4.19 y Cyfansoddiad yn ôl:-
Rydym yn galw ar
Lywodraeth Llafur Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i fynnu sicrwydd gan eu
cymheiriaid ym Mhencadlys y Blaid Lafur yn Llundain eu bod, os yn fuddugol yn
yr Etholiad Cyffredinol nesaf, yn rhoi stop yn syth ar bolisïau llymder y Blaid
Geidwadol sydd wedi bod mor ddifaol i gymunedau
Gwynedd a Chymru dros y 13 mlynedd diwethaf.
Cadarnhaodd y Swyddog
Monitro os nad yw’r cynigydd yn gwneud y cynnig yna fod y cynnig yn disgyn a
bydd angen ei ail gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol os mai hynny yw dymuniad yr
aelod.
Cadarnhaodd yr aelod na
fyddai yn gwneud yn cynnig.
|
23. |
YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL PDF 189 KB
(1) Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i
rybudd o gynnig y Cynghorydd Gruffydd Williams i gyfarfod 28 Medi, 2023 o’r
Cyngor ynglŷn â chefnogi’r fferm deuluol
Gymreig a throsi tiroedd amaethyddol yn goedwigoedd.
(2) Llythyr gan
Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd John Pughe Roberts
i gyfarfod 7 Rhagfyr, 2023 o’r Cyngor ynglŷn â mesurau
rheoli TB.
(3) Llythyr gan y Swyddfa Dramor, Y Gymanwlad a
Datblygu mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elin Hywel i gyfarfod 7
Rhagfyr, 2023 o’r Cyngor yn galw am gadoediad parhaol yn Gaza.
(4) Llythyr
gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Ellin Hywel i
gyfarfod 7 Rhagfyr, 2023 o’r Cyngor yn galw am gadoediad parhaol yn Gaza.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynwyd
er gwybodaeth –
(a) Llythyr gan Lywodraeth
Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Gruffydd Williams i gyfarfod
28 Medi, 2023 o’r Cyngor ynglŷn â chefnogi’r fferm deuluol Gymreig a
throsi tiroedd amaethyddol yn goedwigoedd.
(b) Llythyr gan Lywodraeth
Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd John Pughe Roberts i gyfarfod
7 Rhagfyr, 2023 o’r Cyngor ynglŷn â mesurau rheoli TB.
(c) Llythyr gan y Swyddfa
Dramor, Y Gymanwlad a Datblygu mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elin
Hywel i gyfarfod 7 Rhagfyr, 2023 o’r Cyngor yn galw am gadoediad parhaol yn Gaza.
(d) Llythyr gan Lywodraeth
Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elin Hywel i gyfarfod 7
Rhagfyr, 2023 o’r Cyngor yn galw am gadoediad parhaol yn Gaza
|
|
Atodiadau PDF 76 KB
Dogfennau ychwanegol:
|
|