Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Glyn Daniels, Anwen Davies, John Brynmor
Hughes, Dafydd Meurig, Llio Elenid Owen, Gareth Roberts, Dyfrig Siencyn a Hefin
Underwood. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 11eg Gorffenaf, 2024 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â’r canlynol:- ·
Teulu Mandy Parry o’r
Adran Gwasanaethau Corfforaethol, a rhoddwyd teyrnged iddi gan Ian Jones,
Pennaeth yr Adran. ·
Teulu Dewi 'Pws' Morris
oedd wedi ymgartrefu yn Nefyn ers rhai blynyddoedd, ac a oedd yn fwyaf
adnabyddus fel actor, canwr a thynnwr coes heb ei ail, ond oedd hefyd yn fardd,
awdur, cyflwynydd, cyfansoddwr ac ymgyrchydd iaith. Nodwyd ymhellach bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r
sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth. Nodwyd
bod sawl aelod o’r Cyngor wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar a dymunwyd iddynt
adferiad llwyr a buan. Llongyfarchwyd:- ·
Pawb o Wynedd fu’n llwyddiannus
yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn ddiweddar, yn enwedig Eurgain Haf, Pontypridd, ond yn wreiddiol o Benisarwaun, ar ennill y Fedal Ryddiaith, a Carwyn Eckley o Benygroes ar gipio’r Gadair am awdl goffa i’w dad, Padrig Eckley, fu’n gyfreithiwr yn y Cyngor hwn cyn ei
farwolaeth ddisymwth a chynamserol yn 2002. ·
Cowbois Rhos Botwnnog ar ennill Albwm y Flwyddyn. ·
Y Cynghorydd Louise Hughes ar ei gwobrwyo fel
gwirfoddolwr y flwyddyn Llu Cadetiaid y Fyddin. ·
Tîm o Wasanaeth Caffael y Cyngor a enwebwyd ar
gyfer gwobr genedlaethol yn sgil eu gwaith i fynnu buddion cymdeithasol i
Wynedd wrth dendro contract bwyd. ·
Yr Adran Tai ac Eiddo ar gyrraedd y rhestr fer am wobr Best Supported Housing Development: Rural/Suburban yng ngwobrau Inside Housing Development.
Nodwyd mai dyma’r ail waith i’r Adran gyrraedd y rhestr fer, ac er
chafwyd llwyddiant y tro hwn, roedd yn glod eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer
o’r cannoedd o enwebiadau a dderbyniwyd. ·
Grŵp celf cymunedol Cricieth Creadigol ar ddod i'r brig yng
Ngwobrau Bywydau Creadigol 2024, sydd â’r nod o ddathlu a chydnabod pwysigrwydd gweithgareddau creadigol o bob
math mewn cymunedau lleol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Cyhoeddwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.) (1) Cwestiwn Y Cynghorydd
Angela Russell O ystyried fod
hinsawdd Cymru yn mynd yn wlypach o flwyddyn i flwyddyn, hoffwn ofyn, pa gamau
mae Cyngor Gwynedd yn gymryd i uwchraddio'r lôn A499 rhwng Pwllheli a
Llanbedrog. Byddai hyn yn arbed
trigolion Llanbedrog, Abersoch, Botwnnog, Sarn ac Aberdaron rhag defnyddio
lonydd cul heibio Cefn Llanfair a Rhydyclafdy ayyb sy’n golygu tagfeydd wrth i
lorïau a bysus ddod wyneb yn wyneb ar y lonydd cul yma. Ateb – Aelod Cabinet
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd,
Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones Fel y gwelwch o’r
ateb ysgrifenedig o’ch blaen, Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn arwain ar y
Prosiect Rheoli Llifogydd yn ardal Pwllheli.
Fe welwch fod gwaith ar yr A499 yn opsiwn ychwanegol sy’n cael ei
gysidro, ond bod angen gwaith pellach cyn creu cynllun gwelliant i’r ffordd
yna. Fodd bynnag, gallaf eich sicrhau y
byddwn fel Cyngor yn pwyso i gael cynllun gwella i’r ffordd yn rhan o’r
prosiect, ac wrth gwrs, fe wnawn eich diweddaru chi fel mae pethau yn symud yn
eu blaenau. (2)
Cwestiwn Y Cynghorydd Huw Rowlands Pa ddefnydd a wneir gan Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC Cyngor
Gwynedd o gontractwyr allanol, a pha fonitro sy’n digwydd er mwyn sicrhau
safon, gwerth am arian a chydymffurfiaeth â’u cytundebau? Ateb – Aelod Cabinet
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd,
Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones Mae’n wir i ddweud
bod yr Adran yn defnyddio nifer o gontractwyr i’r gwahanol feysydd gwaith rydym
ni’n ymgymeryd â hwy, sy’n golygu tipyn o waith
monitro gan swyddogion. Wrth symud
ymlaen, rydym yn ceisio mewnoli rhai o’r contractau yma er mwyn sicrhau gwell
atebolrwydd a chysondeb, a hefyd i ddatblygu sgiliau’r gweithlu mewnol a
chadw’r budd yn lleol. Yn ogystal â hyn,
mae llawer o’r contractau torri gwair, er enghraifft, yn dod i ben a bydd angen
ail-dendro. Y gobaith yw y bydd modd
creu pecynnau llai o waith fydd yn golygu y gall contractwyr mwy lleol ymdopi
gyda’r gwaith, yn y gobaith y bydd hyn i gyd yn gwella’r gwasanaeth i drigolion
Gwynedd. Cwestiwn Atodol y
Cynghorydd Huw Rowlands A all yr Adran adrodd yn ôl wedi iddyn nhw
gael cyfle i ail-ystyried sut mae pethau yn cael eu gweithredu? Ateb – Aelod Cabinet
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd,
Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones Yn sicr, fe wnawn ni adrodd yn ôl ar
hynny. Er gwybodaeth hefyd, bydd y
contractau gwair yn mynd allan i dendr ddechrau’r flwyddyn gobeithio fel y bydd
yna gontractwyr newydd mewn lle erbyn y gwanwyn. (3)
Cwestiwn Y Cynghorydd Rhys Tudur O ystyried
sylwadau gan Swyddogion ac Aelod Cabinet y
Cyngor hwn bod y drefn ar gyfer ceisiadau grantiau teithio llesol yn anffafrio ardaloedd gwledig, pa foddion y mae’r Cyngor hwn wedi eu
defnyddio i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid y drefn,
ac i ba raddau
y mae’r pwyso wedi bod yn effeithiol? Ateb – Y Dirprwy Arweinydd, Y Cynghorydd Nia Jeffreys ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL A HUNANASESIAD 2023/24 PDF 165 KB Cyflwyno
adroddiad Arweinydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad
Cyngor Gwynedd 2023/24. Cofnod: Yn absenoldeb yr Arweinydd, Y Cynghorydd
Dyfrig Siencyn, cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd, Y Cynghorydd Nia Jeffreys,
adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad
Blynyddol a Hunanasesiad 2023/24. Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i holl weithwyr y Cyngor am eu
gwaith dros y flwyddyn, a hynny mewn cyfnod hynod o heriol. Diolchodd hefyd i aelodau’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio am eu sylwadau ac i Dîm y Cabinet am eu gwaith yn
arwain ar y meysydd penodol. Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at rai meysydd
blaenoriaeth yn yr adroddiad, sef:- ·
Gwynedd Yfory – bron i
5,000 o blant oedran cynradd yn derbyn cinio poeth maethlon bob dydd yn yr
ysgolion. ·
Gwynedd Glyd – creu dros
200 o gartrefi ychwanegol ar gyfer trigolion Gwynedd. ·
Gwynedd Ofalgar - y
tŷ cyntaf wedi’i brynu ar gyfer y Gwasanaeth Cartrefi Bychan i Blant yn
ardal Porthmadog a’r ddarpariaeth tai gofal ychwanegol ysgafn wedi’i agor ym Mhwllheli ar gyfer oedolion. ·
Gwynedd Werdd – y gwaith
o drawsnewid dau o safleoedd tirlenwi Gwynedd wedi arwain at arbed 74 erw yn
Ffridd Rasys, Harlech a 32 erw yn Llwyn Isaf, Penygroes. Yna cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at un stori
y tu ôl i’r ystadegau gan amlygu pwysigrwydd rhoi wynebau i waith y Cyngor ac
enwau i’r ystadegau, a hefyd er mwyn cydnabod llwyddiannau. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:- ·
Nodwyd nad oedd y stori y
tu ôl i’r ystadegau yn stori unigryw o bell ffordd a bod yr holl waith mae’r
swyddogion yn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl Gwynedd,
a hynny er gwaethaf yr argyfwng ariannol.
Ategwyd diolchiadau’r Dirprwy Arweiniydd i
holl staff y Cyngor. ·
Diolchwyd yn arbennig i’r
Timau Ardal Ni, y glanhawyr strydoedd, y staff gorfodaeth stryd, a hefyd y
staff gwaredu ysbwriel am eu gwaith caled ymhob tywydd. ·
Nodwyd bod ystadegau’n
dangos bod 5,400 o bobl wedi gadael Gwynedd yn ystod y flwyddyn, a holwyd beth
oedd y rheswm am hyn. Mewn ymateb,
eglurwyd bod canran uchel iawn o’r 5,400 o ganlyniad i farwolaethau a diffyg genedigaethau,
yn hytrach nag allfudo. Yn amlwg, roedd
pobl ifanc yn gadael y sir hefyd, ond hyderid y byddai creu cyfleoedd gwaith,
darparu tai fforddiadwy, ynghyd â nifer o’r cynlluniau eraill yng Nghynllun y
Cyngor o gymorth yn hyn o beth. ·
Nodwyd
bod Osian Rhys, swyddog ifanc sy’n gweithio ar y Cynllun Arfor,
wedi rhoi cyflwyniad ysbrydoledig mewn noson Rhwydwaith Seren yn Pontio yn
ddiweddar ar fanteision dychwelyd i’r ardal hon i fyw a gweithio. Roedd bwriad i roi’r cyfle iddo roi’r
cyflwyniad hwn yn ehangach gan y byddai llawer o bobl ifanc yn siŵr o
uniaethu ag ef yn ei angerdd a’i ddyhead i weld pobl ifanc yn dychwelyd i
Wynedd, ac roedd angen uchafu ac amlhau'r negeseuon hynny. · Diolchwyd i’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a phawb sy’n gwthio Cynllun Safle Penrhos yn ei flaen, ond pwysleisiwyd yr angen i ddal ati i wthio i gael y maen i’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Cai Larsen Yn unol â’r Rhybudd
o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol
ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad,
bydd y Cynghorydd Cai Larsen yn cynnig
fel a ganlyn:- A hithau bellach yn dynesu at flwyddyn ers i’r
rhyfel yn Gaza gychwyn mae Cyngor Gwynedd yn nodi
bod: Dros 40,000 o drigolion Gaza
wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel - y mwyafrif llethol yn sifiliaid. Tua 10,000 o bobl - sifiliaid yn bennaf - heb eu
darganfod ond sydd bron yn sicr yn farw. Dros 90,000 wedi eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn
sifiliaid. Yn agos i 200,000 wedi marw oherwydd effeithiau
anuniongyrchol ymgyrch byddin Israel. Bod mwyafrif llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno
wedi colli eu cartrefi, neu wedi gorfod symud o’u cartrefi. Bod pobl sydd â’u teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd. O ystyried hyn, ac o
ystyried nifer o sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcrain, Yemen a Maymar,
geilw’r Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o adolygiad blynyddol y Strategaeth
Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ychwanegu darpariaeth sydd yn
cyfarch egwyddorion gwarchod iawnderau dynol a parchu cyfraith
rhyngwladol . Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: A hithau bellach yn dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn
mae Cyngor Gwynedd yn nodi bod: Dros 40,000 o drigolion Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel
- y mwyafrif llethol yn sifiliaid. Tua 10,000 o bobl - sifiliaid yn bennaf - heb eu darganfod ond sydd
bron yn sicr yn farw. Dros 90,000 wedi eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn sifiliaid. Yn agos i 200,000 wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch
byddin Israel. Bod mwyafrif llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi,
neu wedi gorfod symud o’u cartrefi. Bod pobl sydd â’u teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd. O ystyried hyn, ac o ystyried nifer o
sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcráin, Yemen a Maymar, geilw’r
Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o adolygiad blynyddol y Strategaeth
Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ychwanegu darpariaeth sydd yn
cyfarch egwyddorion gwarchod iawnderau dynol a pharchu cyfraith ryngwladol. Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd Cai Larsen o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- A hithau bellach
yn dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn
mae Cyngor Gwynedd yn nodi bod: Dros 40,000 o drigolion
Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel - y
mwyafrif llethol yn sifiliaid. Tua 10,000 o bobl
- sifiliaid yn bennaf - heb eu darganfod ond sydd bron yn sicr yn farw. Dros 90,000 wedi
eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn sifiliaid. Yn agos i 200,000
wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch byddin Israel. Bod mwyafrif
llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi, neu wedi gorfod
symud o’u cartrefi. Bod pobl sydd â’u
teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd. O ystyried hyn, ac
o ystyried nifer o sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcráin, Yemen a Maymar, geilw’r Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o
adolygiad blynyddol y Strategaeth Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i
ychwanegu darpariaeth sydd yn cyfarch egwyddorion gwarchod iawnderau dynol a
pharchu cyfraith ryngwladol. Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:- ·
Bod
pethau wedi symud ymlaen ers iddo lunio’r cynnig o ran nifer y marwolaethau a
maint y dirfod, a hefyd o ran lleoliad daearyddol y distryw, ond nad oedd am
gyfeirio at yr erchyllterau hynny yn benodol gan fod y cynnig yn siarad drosto’i hun. ·
Bod
pobl Gwynedd wedi ymateb i’r hyn sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol drwy gynnal
gwylnosau rheolaidd yng Nghaernarfon a gwrthdystiadau mewn gwahanol lefydd yn y
sir, gan gynnwys gwrthdystiad hirhoedlog ac arwrol gan fyfyrwyr ym Mangor. ·
Y
dymunai esbonio pam ei fod o’r farn y dylai’r Cyngor adolygu ei bolisïau a’i
strategaethau buddsoddi i flaenori buddsoddiadau moesegol yng nghyd-destun
Israel, ac yng nghyd-destun record hir gan arweinwyr y wlad honno o anwybyddu
cyfraith ryngwladol a hawliau dynol, a gwneud hynny yn fwriadol dros gyfnod hir
o amser pan nad oes yna ryfel yn mynd rhagddo. ·
Bod
yr ymddygiad hirdymor yma yn cynnwys:- Ø
Camdriniaeth
gyson a hirhoedlog o Balesteiniaid. Ø
Gorddefnydd
o rym. Ø
Llofruddiaethau
di-gyfiawnhad. Ø
Amddifadu
pobl o’r hawl i ymgynnull a symud yn rhydd. Ø
Yr
arfer o ymestyn presenoldeb Israelaidd ar lan Gorllewinol
yr Iorddonen, sy’n groes i 4ydd Confensiwn Genefa, confensiwn sy’n gwahardd
pwerau meddiannol rhag symud ei phoblogaeth ei hun i diroedd maent wedi eu
meddiannu. Ø
Cosbi
torfol - hyd yn oed cyn y cyrch presennol roedd blocâd Gaza
yn amddifadu trigolion Gaza o fynediad hawdd i fwyd,
meddyginiaeth a chyfleoedd economaidd, oedd ynddo’i
hun yn creu argyfwng dyngarol cyn i’r cyrch yma gychwyn. Ø
Gwahaniaethu
yn erbyn pobl o gefndir Arabaidd oddi mewn i ffiniau Israel, gwahaniaethu o ran
cynrychiolaeth ddemocrataidd, cyfleoedd economaidd a mynediad i wasanaethau. Ø
Y
defnydd o lysoedd milwrol i erlyn sifiliaid a defnyddio system erlyn gyfochrog
filwrol sy’n lleihau tryloywder, lleihau hawliau sylfaenol ac yn arwain at
gyfnodau hir o garcharu di-ddyfarniad. Ø Cyfyngu ar hawliau i hunanfynegiant ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8a |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Dewi Jones Yn unol â’r Rhybudd
o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol
ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad,
bydd y Cynghorydd Dewi Jones yn cynnig
fel a ganlyn:- 1.
Mae Cyngor
Gwynedd yn datgan ein bod yn credu y dylai'r cyfrifoldeb dros Stad y Goron gael
ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Dylai unrhyw elw a gynhyrchir gan Stad y
Goron, yma ar diroedd a dyfroedd Cymru, aros yng Nghymru, er budd ein trigolion
a’n cymunedau. Mae cyfrifoldeb dros Stad y Goron eisoes wedi ei ddatganoli i
Lywodraeth Yr Alban. 2.
Mae'r
Cyngor hwn hefyd yn datgan ein hanfodlonrwydd bod rheidrwydd arnom i dalu
ffioedd blynyddol (ar ffurf prydlesi) er mwyn sicrhau bod trigolion Gwynedd ac
ymwelwyr yn cael mynediad i wahanol safleoedd, gan gynnwys ein traethau a
chyfleusterau eraill. Yn 2023, talodd Cyngor Gwynedd gyfanswm o dros
£161,000 i Stad y Goron. Roedd ffioedd y prydlesi yn 2023 yn amrywio o £35
ar gyfer 'blaen draeth Bangor', i £8,500 ar gyfer 'blaen draeth Dwyfor', i
£144,000 ar gyfer 'Hafan Pwllheli'. Mewn cyfnod o gynni ariannol difrifol i
wasanaethau cyhoeddus, credwn ei fod yn anfoesol bod ffioedd o'r fath yn mynd
tuag at gynnal y Frenhiniaeth Brydeinig ac i goffrau'r Trysorlys yn Llundain.
Dylai'r arian hwn aros yng Ngwynedd er mwyn cefnogi pobl Gwynedd. 3.
Rydym yn galw ar y Prif
Weithredwr i drefnu i agor trafodaethau gyda Stad Y Goron ynghylch y ffioedd
sy'n cael eu talu gan Gyngor Gwynedd. Byddwn yn annog y Prif Weithredwr i
geisio dwyn perswâd ar Stad Y Goron i oedi anfonebu pellach nes bydd sefyllfa
gyllidol y Cyngor wedi gwella. Nodwn fod elw Stad Y Goron wedi mwy na dyblu o
£443 miliwn yn 2022/23 i £1.1biliwn yn 2023/24, yn yr un cyfnod mae Cyngor
Gwynedd wedi gweld eu cyllideb yn cael ei dorri mewn termau real. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Mae
Cyngor Gwynedd yn datgan ein bod yn credu y dylai'r cyfrifoldeb dros Stad y
Goron gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Dylai unrhyw elw a gynhyrchir gan
Stad y Goron, yma ar diroedd a dyfroedd Cymru, aros yng Nghymru, er budd ein
trigolion a’n cymunedau. Mae cyfrifoldeb dros Stad y Goron eisoes wedi ei
ddatganoli i Lywodraeth Yr Alban. 2.
Mae'r
Cyngor hwn hefyd yn datgan ein hanfodlonrwydd bod rheidrwydd arnom i dalu
ffioedd blynyddol (ar ffurf prydlesi) er mwyn sicrhau bod trigolion Gwynedd ac
ymwelwyr yn cael mynediad i wahanol safleoedd, gan gynnwys ein traethau a
chyfleusterau eraill. Yn 2023, talodd Cyngor Gwynedd gyfanswm o dros £161,000 i
Stad y Goron. Roedd ffioedd y prydlesi yn 2023 yn amrywio o £35 ar gyfer 'blaen
draeth Bangor', i £8,500 ar gyfer 'blaen draeth Dwyfor', i £144,000 ar gyfer
'Hafan Pwllheli'. Mewn cyfnod o gynni ariannol difrifol i wasanaethau
cyhoeddus, credwn ei fod yn anfoesol bod ffioedd o'r fath yn mynd tuag at
gynnal y Frenhiniaeth Brydeinig ac i goffrau'r Trysorlys yn Llundain. Dylai'r
arian hwn aros yng Ngwynedd er mwyn cefnogi pobl Gwynedd. 3.
Rydym
yn galw ar y Prif Weithredwr i drefnu i agor trafodaethau gyda Stad Y Goron
ynghylch y ffioedd sy'n cael eu talu gan Gyngor Gwynedd. Byddwn yn annog y Prif
Weithredwr i geisio dwyn perswâd ar Stad Y Goron i beidio codi rhent ar y
Cyngor nes bydd sefyllfa gyllidol y Cyngor wedi gwella. Nodwn fod elw Stad Y
Goron wedi mwy na dyblu o £443 miliwn yn 2022/23 i £1.1biliwn yn 2023/24, yn yr
un cyfnod mae Cyngor Gwynedd wedi gweld eu cyllideb yn cael ei dorri mewn
termau real. Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd Dewi Jones o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- 1.
Mae Cyngor Gwynedd yn datgan ein bod yn credu y
dylai'r cyfrifoldeb dros Stad y Goron gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Dylai unrhyw elw a gynhyrchir gan Stad y
Goron, yma ar diroedd a dyfroedd Cymru, aros yng Nghymru, er budd ein trigolion
a’n cymunedau. Mae cyfrifoldeb dros Stad
y Goron eisoes wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Yr Alban. 2.
Mae'r Cyngor hwn hefyd yn datgan ein hanfodlonrwydd
bod rheidrwydd arnom i dalu ffioedd blynyddol (ar ffurf prydlesi) er mwyn
sicrhau bod trigolion Gwynedd ac ymwelwyr yn cael mynediad i wahanol safleoedd,
gan gynnwys ein traethau a chyfleusterau eraill. Yn 2023, talodd Cyngor Gwynedd
gyfanswm o dros £161,000 i Stad y Goron.
Roedd ffioedd y prydlesi yn 2023 yn amrywio o £35 ar gyfer 'blaen draeth
Bangor', i £8,500 ar gyfer 'blaen draeth Dwyfor', i £144,000 ar gyfer 'Hafan
Pwllheli'. Mewn cyfnod o gyni ariannol
difrifol i wasanaethau cyhoeddus, credwn ei fod yn anfoesol bod ffioedd o'r
fath yn mynd tuag at gynnal y Frenhiniaeth Brydeinig ac i goffrau'r Trysorlys
yn Llundain. Dylai'r arian hwn aros yng
Ngwynedd er mwyn cefnogi pobl Gwynedd. 3.
Rydym yn galw ar y Prif Weithredwr i drefnu i agor
trafodaethau gyda Stad Y Goron ynghylch y ffioedd sy'n cael eu talu gan Gyngor
Gwynedd. Byddwn yn annog y Prif Weithredwr i geisio dwyn perswâd ar Stad Y
Goron i oedi anfonebu pellach nes bydd sefyllfa
gyllidol y Cyngor wedi gwella. Nodwn fod
elw Stad Y Goron wedi mwy na dyblu o £443 miliwn yn 2022/23 i £1.1biliwn yn
2023/24, yn yr un cyfnod mae Cyngor Gwynedd wedi gweld eu cyllideb yn cael ei
dorri mewn termau real. Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:- ·
Mewn
cyfnod o gyni ariannol difrifol, ei bod yn warth bod y Cyngor hwn yn gorfod
talu nifer o brydlesi i Stad y Goron er mwyn sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr
i Wynedd yn cael mynediad i’n traethau a chyfleusterau eraill. ·
Y
byddai oedi unrhyw anfonebu pellach yn creu arbediad ariannol fyddai’n cyfrannu
at amddiffyn gwasanaethau hanfodol sydd dan gymaint o straen ar hyn o bryd. ·
Bod
Cymru yn wlad sy’n gyfoethog mewn adnoddau naturiol, gyda’i thir, ei harfordir
a’i moroedd yn meddu ar y potensial i bweru ein heconomi, atgyfnerthu ein
cymunedau a’n cefnogi i arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â newid yn yr
hinsawdd. Ar hyn o bryd, fodd bynnag,
roedd yr adnoddau hyn yn cael eu rheoli gan gorff sy’n atebol i Lywodraeth San
Steffan, ac nid i bobl Cymru, a’r refeniw sy’n deillio o Stad y Goron yng
Nghymru yn mynd i Drysorlys y Deyrnas Gyfunol yn Llundain. · Pe bai cyfrifoldeb am Stad y Goron yn cael ei ddatganoli, byddai’r elw a gynhyrchir o dir a môr Cymru yn aros yng Nghymru, gan ein galluogi i fuddsoddi mewn seilwaith, gwasanaethau cyhoeddus a phrosiectau cymunedol sy’n addas i’n hanghenion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8b |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elwyn Edwards Yn unol â’r Rhybudd
o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol
ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad,
bydd y Cynghorydd Elwyn Edwards yn cynnig fel a ganlyn:- Mae Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth San Steffan
i drosglwyddo’r hawl i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd i ddynodi Mawrth y 1af o
bob blwyddyn yn wyliau cenedlaethol swyddogol yng Nghymru gan gydnabod Dewi
Sant yn Nawddsant Cymru. Fe wneir hyn gyda Seintiau Yr Alban a Gogledd
Iwerddon. Hefyd mae’r Cyngor yn gofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i hyn
(mae wedi datgan ei chefnogaeth o’r blaen) yn ogystal â holl gynghorau Sir,
Tref a Bro yng Nghymru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mae Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth San Steffan i drosglwyddo’r
hawl i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd i ddynodi Mawrth y 1af o bob blwyddyn yn
wyliau cenedlaethol swyddogol yng Nghymru gan gydnabod Dewi Sant yn Nawddsant
Cymru. Fe wneir hyn gyda Seintiau Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Hefyd mae’r
Cyngor yn gofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i hyn (mae wedi datgan ei
chefnogaeth o’r blaen) yn ogystal â holl gynghorau Sir, Tref a Bro yng Nghymru. Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd Elwyn Edwards o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:- Mae Cyngor Gwynedd yn
galw ar Lywodraeth San Steffan i drosglwyddo’r hawl i Lywodraeth Cymru yng
Nghaerdydd i ddynodi Mawrth y 1af o bob blwyddyn yn wyliau cenedlaethol
swyddogol yng Nghymru gan gydnabod Dewi Sant yn Nawddsant Cymru. Fe wneir hyn gyda Seintiau Yr Alban a Gogledd
Iwerddon. Hefyd mae’r Cyngor yn gofyn am
gefnogaeth Llywodraeth Cymru i hyn (mae wedi datgan ei chefnogaeth o’r blaen)
yn ogystal â holl gynghorau Sir, Tref a Bro yng Nghymru. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Meryl Roberts Yn unol â’r Rhybudd
o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi yn unol
ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad,
bydd y Cynghorydd Meryl Roberts yn cynnig fel a ganlyn:- Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr
toriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau
gwresogi cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf hwn. Bydd y toriadau yma yn golygu
bod o leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y
taliadau tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir Starmer, fel prif weinidog y
Deyrnas Gyfunol, yn beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei wyrdroi. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr
doriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi
cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf hwn. Bydd y toriadau yma yn golygu bod o
leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y taliadau
tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir
Starmer, fel prif weinidog y Deyrnas Gyfunol, yn
beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei wyrdroi. Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd Meryl Roberts o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr doriadau haerllug a chreulon y
Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi cartrefi pensiynwyr
Gwynedd y gaeaf hwn. Bydd y toriadau yma
yn golygu bod o leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan
ar y taliadau tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir Starmer, fel prif
weinidog y Deyrnas Gyfunol, yn beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei
wyrdroi. Mynegodd sawl
aelod gefnogaeth frwd i’r cynnig. Yn
ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:- Cyfeiriodd Pencampwr Oed Gyfeillgar y Cyngor, y
Cynghorydd Dilwyn Morgan, at y gwaith sy’n mynd rhagddo o fewn y Cyngor i
gefnogi pobl, megis:- ·
Annog pobl sy’n gymwys i dderbyn Credyd
Pensiwn i’w hawlio, a thrwy hynny dderbyn y taliad gwresogi yn awtomatig. ·
Cynorthwyo pobl sydd ar y ffin o gymhwyso
am Gredyd Pensiwn drwy hyrwyddo’r cymhorthdal ychwanegol sydd ar gael iddynt. ·
Bwriedid sefydlu Tasglu Taliadau Gaeaf i
Bensiynwyr trawsadrannol yn fuan iawn gyda’r nod o ddatblygu ymgyrch i sicrhau
bod trigolion y sir yn ymwybodol o, ac yn derbyn yr hyn sy’n haeddiannol
iddynt. ·
Cynnal cyfres o
ddigwyddiadau Byw’n Iach Byw’n Dda.
Cynhelid y cyntaf o’r digwyddiadau hyn yng Nghanolfan Glaslyn,
Porthmadog ar y 7fed o Hydref, lle byddai dros 20 o wahanol asiantaethau yn
bresennol i roi gwybodaeth a chynorthwyo pobl i lenwi ffurflenni cais ayb. Trefnwyd digwyddiad yng Nghaernarfon ar 1
Tachwedd, gyda digwyddiadau pellach i ddilyn yn Ne’r Sir ac ardal Bangor. ·
Gweithio gyda
gwasanaethau’r Llywodraeth a’r Adran Gwaith a Phensiynau i benderfynu ar sut
orau i gyfathrebu ag unigolion. ·
Cynhaliwyd
cyfarfod gyda Rhian Bowen-Davies, Y Comisiynydd Pobl Hŷn, oedd hefyd yn
ategu ei phryder ynglŷn â’r bwriad i ddiddymu’r taliadau gwresogi. ·
Cynhaliwyd sesiwn
ym Mhorthmadog ar gyfer aelodau’r Cyngor i’w cynghori ynglŷn â ble i
gyfeirio pobl sy’n dod atynt am wybodaeth.
Nodwyd mai siomedig oedd y nifer a ddaeth i’r sesiwn, ond bod bwriad i
drefnu sesiwn arall yn fuan. Nodwyd, yn ôl
ffigurau diweddar, nad oedd 1,977 o bobl Gwynedd yn derbyn y Credyd Pensiwn
sy’n ddyledus iddynt, sef colled i Wynedd o £456,000. Fodd bynnag, ers i’r Llywodraeth wneud eu
datganiad, roedd 20% o’r bobl hynny sy’n gymwys i dderbyn y Credyd Pensiwn
bellach yn ei dderbyn oherwydd bod mudiadau fel Cyngor Gwynedd ac eraill wedi
bod yn annog pobl i’w hawlio. Golygai
hynny y byddai’r arbediad yn sgil diddymu’r taliadau gwresogi yn llai nag oedd
Llywodraeth San Steffan wedi disgwyl. PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:- Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr doriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf hwn. Bydd y toriadau yma yn golygu bod o leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y taliadau tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir Starmer, fel ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8d |