Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Dilwyn Lloyd,
Dewi Wyn Roberts (Aelod Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol. Cofnod: (a) Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Gruffydd Williams
(a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.3 ar y rhaglen (cais
cynllunio C18/0023/42/LL); ·
Y Cynghorydd Simon Glyn (a
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.6 ar y rhaglen (cais
cynllunio C18/0322/46/LL); Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2018, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2018, fel rhai cywir. |
|
I gyflwyno
adroddiad y Pennaeth Adran Amgylchedd. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Louise Hughes Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Adran yr Amgylchedd yn deillio
o gais i gofrestru llwybr cyhoeddus yng Nghymuned Arthog ar Fap Swyddogol
Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Nododd y Cadeirydd y derbyniwyd llythyr hwyr gan Gyngor Tref
Abermaw yn cwyno nad oedd y Cyngor hwnnw wedi cael y cyfle i gyflwyno sylwadau
ar y cais. Mewn ymateb, eglurodd y
Rheolwr Amgylchedd bod y tir dan sylw o fewn tiriogaeth Cyngor Cymuned
Arthog ac nad oedd yn rheidrwydd i
gysylltu gydag unrhyw Gyngor Cymuned / Tref arall ar y mater. Ymhelaethwyd ar gefndir y cais, cefndir cyfreithiol ynghyd
â thystiolaeth i gefnogi’r cais gan y
Rheolwr Amgylchedd a chanolbwyntir ar y llwybr rhwng A a B ar gynllun y
cais. Gwnaed y cais yn seiliedig â
chyd-destun Adran 53 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Wrth ystyried ceisiadau o’r fath rhaid edrych
ar y dystiolaeth dros ac yn erbyn y cais ac yn y cyd-destun hwn yn seiliedig ar
y ddeddf a gyfeirir ati uchod ynghyd â Deddf Priffyrdd 1980. O edrych ar y dystiolaeth i gofrestru ar sail
defnydd ac yn benodol oherwydd bod y
cyhoedd wedi cerdded ar hyd y llwybr yn ddi-rwystr dros gyfnod o fwy nag ugain
mlynedd, rhaid bod yn sicr bod y perchnogion tir wedi rhoi hawl a chaniatâd i’r
defnydd. Edrychir ar wybodaeth o blaid
ac yn erbyn y cais a’r ffactor allweddol ydoedd bodolaeth arwyddion a’r hyn mae
arwyddion yn ddweud. Cyfeirir at Adran
31 (3) o’r ddeddf sef: “Where the owner of
the land over which any such way as aforesaid passes- (a)
Has erected in such manner as to be visible to persons using the way a
notice inconsistent with the dedication of the way as a highway; and (b)
Has maintained the notice after the 1st January 1934, or any later date on
which it was erected, the notice, in the
absence of proof of a contrary intention, is sufficient evidence to negative
the intention to dedicate the way as a highway”. Hynny yw, bod arwyddion wedi eu codi ar y safle sydd yn
groes i’r honiad bod hawl cyhoeddus yn bodoli.
Drwy wneud hyn rhaid ystyried dealltwriaeth defnyddiwr cyffredin o’r hyn
sydd ar yr arwydd ynghyd â nod y perchnogion tir. Cyfeiriwyd hefyd at ffactorau a oedd yn amherthnasol i’r
cais e.e. a yw’r llwybr yn ddymunol a golygfeydd ohono. Felly yr unig beth a
ellir ei ystyried ydoedd prun ai oedd hawliau tramwy cyhoeddus yn bodoli. Tynnwyd sylw at gefndir hanesyddol y llwybr i ddatblygiad
Mawddach Crescent a’r ardal o gwmpas.
O safbwynt y dystiolaeth sy’n cefnogi’r cais, cyfeiriwyd at
grynodeb o dros 100 o ddatganiadau gan unigolion sydd yn datgan iddynt
ddefnyddio’r llwybr. Gweler grynodebau
llawn yn Atodiad 4 a 4.2 i’r adroddiad.
Yn ychwanegol ar y ffurflen sylwadau hwyr ceir gwybodaeth o faint mor
aml y defnyddiwyd y llwybr. Yng nghyd-destun y dystiolaeth i’r gwrthwyneb, cyfeiriwyd at Atodiad 8 i’r adroddiad, lle ceir datganiad gan berchnogion / cyn-berchnogion sydd yn nodi rhesymeg i beidio defnyddio’r llwybr a chyfeirir yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif: C17/0330/14/LL - Cyn Safle Gwesty Marine, North Road, Caernarfon PDF 134 KB Adeiladu 5 tŷ (gan gynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â chreu mynedfa i'r gefnffordd. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu
5 tŷ (gan gynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â chreu mynedfa i'r
gefnffordd (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan atgoffa’r Pwyllgor y
gohirwyd y cais ym mhwyllgor mis Mawrth er mwyn asesu effaith y datblygiad ar y
goeden sydd â Gorchymyn Coed arni ac sydd wedi ei lleoli yng ngardd gefn Ynys
Tudur sydd gyfochrog â safle’r cais. O
ganlyniad fe gyflwynwyd Arolwg Coed gan yr ymgeisydd a daw’r Arolwg i’r
canlyniad gellir sicrhau diogelwch y goeden yn amodol ar ddilyn ac ymgymryd â
thechnegau adeiladu gofalus. O’r 5 uned a fwriedir, bydd 3 uned breswyl wedi eu lleoli yn nhu blaen y
safle a 2 dŷ ar wahân yng nghefn y safle.
Lleolir y safle oddi fewn i ffin ddatblygu Caernarfon yn y Cynllun
Datblygu Lleol Gwynedd a Môn ar y Cyd ond nid yw wedi ei ddynodi ar gyfer
unrhyw ddefnydd arbennig. Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio perthnasol o fewn yr adroddiad ynghyd
â’r ymatebion i’r ymgynghoriad statudol. Nodwyd nad oedd y
wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Mawrth wedi newid a bod y gohiriad
yn ymwneud â materion bioamrywiaeth sef pryder ynglŷn ag effaith ar goeden
a Gorchymyn Coed. Yn seiliedig ar y
pryderon gofynnir i arbenigwr coed fod ar safle yn ystod y gwaith adeiladu er
mwyn sicrhau bod y gwaith tir yn cael ei oruchwylio o fewn ardal diogelu
gwreiddiau’r goeden. Roedd y Swyddog Coed yn cadarnhau y dylid cynnwys amod mewn
unrhyw ganiatâd cynllunio sy’n datgan bydd rhaid i’r ymgeisydd ddilyn
mesuriadau lliniaru sydd wedi eu nodi yn yr Arolwg Coed er mwyn osgoi niwed i’r
goeden. Roedd yr
argymhelliad yn parhau fel yr hyn drafodwyd yn y Pwyllgor mis Mawrth sef i’w
ganiatáu yn unol ag amodau perthnasol. PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r
Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau
cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 er mwyn sicrhau bod y 2 dŷ
fforddiadwy allan o gyfanswm o 5 yn dai fforddiadwy yn y lle cyntaf ac am byth
ac i amodau perthnasol yn ymwneud â:- 1. 5 mlynedd. 2. Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig. 3. Llechi
naturiol. 4. Cytuno gyda
deunyddiau allanol y tai. 5. Tynnu hawliau
datblygiad a ganiateir parthed lleoli ffenestri. 6. Tynnu hawliau
datblygu ar gyfer estyniadau. 7. Amod diogelu
coeden a gorchymyn coed arni. 8. Amodau
priffyrdd yr Uned Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru. 9. Amod Dŵr
Cymru parthed diogelu’r brif garthffos gyfunol. |
|
Cais Rhif: C17/1172/19/LL - Cartref Nyrsio Plas y Bryn, Bontnewydd, Caernarfon PDF 146 KB Newid defnydd cyn gartref
nyrsio preswyl i greu 4 uned
gwyliau hunan gynaliol, codi adeilad ar wahân
i'w defnyddio fel pwll nofio
ynghyd ag estyniadau a newidiadau i'r adeilad presennol AELOD LLEOL: Cynghorydd
Peter Garlick Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid
defnydd cyn gartref nyrsio preswyl i greu 4 uned gwyliau hunan gynhaliol, codi
adeilad ar wahan i’w ddefnyddio fel pwll nofio ynghyd ag estyniadau a
newidiadau i’r adeilad presennol. (a) Eglurodd y Swyddog Rheolaeth Dablygu yn seiliedig ar bryderon sydd wedi
codi ynghylch y cais, a gofynnwyd i’r Pwyllgor ei ohirio ar gyfer cynnal
ymweliad á’r safle ar ddiwrnod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio. PENDERFYNWYD: Gohirio’r cais a
chynnal ymweliad á’r safle fel awgrymir uchod. |
|
Cais Rhif: C18/0023/42/LL - Bwthyn Tynpwll, Lon-ty'n-pwll, Nefyn, Pwllheli PDF 92 KB Dymchwel uned storio bresennol ac adeiladu 2 uned wyliau (cais diwygiedig). AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gruffydd Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel uned storio bresennol
ac adeiladu 2 uned wyliau (cais diwygiedig) (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod y safle yn gorwedd yng
nghefn gwlad ac oddi fewn i’r
tirwedd o ddiddordeb hanesyddol eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli. Ceir mynediad i’r safle
ar hyd ffordd
ddi-ddosbarth sydd gyda mynediad i
ffordd ddosbarth 2 oddeutu 85 medr i’r de o’r safle.
Cyfeiriwyd at yr
ymatebion i’r broses ymgynghori statudol ynghyd â’r polisïau cynllunio
perthnasol o fewn yr adroddiad. Nodwyd bod polisi TWR 2 Cynllun Datblygu Lleol yn
gefnogol i ddatblygu llety gwyliau parhaol cyn belled a’u bod o ansawdd uchel o
ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad. Galluoga’r polisi hefyd i godi llety sy’n
adeilad newydd os yw’r safle o fewn ffin datblygu neu’n gwneud defnydd o safle
addas a ddatblygwyd o’r blaen. Ceir uned
wyliau bresennol ym Mwthyn Tynpwll a byddai’r bwriad dan sylw yn ymestyn
sefydliad llety gwyliau presennol. Ystyrir felly bod y datblygiad yn dderbyniol
o ran egwyddor adeiladu unedau gwyliau newydd. Eglurwyd bod y cais yn ailgyflwyniad o gais blaenorol a gafodd ei wrthod oherwydd bod graddfa’r bwriad
yn ormodol ar gyfer y safle ac nad oedd yn adlewyrchu’r hyn oedd o’i amgylch ac
ystyrir o ran niferoedd unedau a dyluniad bod y bwriad dan sylw yn welliant ar
y cais blaenorol. Nid oedd gwrthwynebiad
gan yr Uned Drafnidiaeth o safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad. Yn dilyn asesu’r holl
ystyriaethau ynghyd â’r ymatebion a sylwadau, ystyrir bod y defnydd, dyluniad
a’r deunyddiau yn dderbyniol ac ddim yn amharu ar fwynderau, cymeriad neu
edrychiad y safle na’r ardal o’i gwmpas.
Argymhelliad y swyddogion ydoedd caniatáu’r cais a oedd yn cynnwys amod
i gyfynu’r defnydd i uned gwyliau a chadw cofrestr
o’r defnyddwyr. (a)
Nododd
yr Aelod Lleol nad oedd yn gefnogol i’r cais am y rhesymau canlynol: ·
nad
oedd prinder llety na galw am fwy o lety gwyliau ·
y
byddai dymchwel y cwt gwair ac adeiladu dau uned yn ei le yn gosod cynsail i
geisiadau cyffelyb i’r dyfodol ·
ni
ddylid caniatáu i droi adeiladau fferm fel hyn (b)
Ategodd
Aelod y sylwadau uchod gan nodi ymhellach bod digon o dai haf a rhoddodd
enghraifft o 4 tŷ wedi eu gwerthu ym mhentref Edern yn ddiweddar ar gyfer
tai gwyliau. Pryderwyd hefyd am y
tueddiad i ail-enwi a seisnigeiddio enwau tai. Gwelwyd stadau o dai yn y pentref ar gyfer
tai gwyliau a gofynnwyd faint o’r tai hyn oedd wedi cofrestru fel unedau
gwyliau ar gyfer treth busnes. (c)
Cynigwyd
ac eilwyd i wrthod y cais yn seiliedig ar ormodedd o
dai gwyliau. (dd) Mewn ymateb, eglurodd y Rheolwr Cynllunio y gellir gofyn i swyddogion wneud mwy o waith ymchwil er mwyn asesu’r effaith gronnol o unedau gwyliau, fodd bynnag eglurwyd nad oedd cystadleuaeth yn fater cynllunio. Fodd bynnag, pwysleislwyd bod polisi TWR2 yn caniatau adeilad newydd ar safle priodol ac roedd y swyddogion o’r farn bod y safle dan sylw yn un priodol. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.3 |
|
Cais Rhif: C18/0098/39/LL - Cwt Glan y Môr Ynys Fawr, Porth Mawr, Abersoch, Pwllheli PDF 100 KB Dymchwel cwt glan y mor presennol a codi cwt newydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Dewi Wyn Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel cwt glan y môr presennol
a chodi cwt newydd. (a) Nododd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu y derbyniwyd sylwadau
hwyr gan yr Aelod Lleol a oedd yn datgan ei bryder ynglŷn â maint yr adeilad
a’r cwt yn sefyll ar draeth oddi mewn i’r AHNE.
Teimlai bod datblygiadau o’r fath yn niweidiol i edrychiad y traeth ac
nad oedd yn gweddu ac yn or-ddatlbygiad. (a)
Ymhelaethodd y swyddog ar
gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i ddisodli
cwt glan môr Ynys Fawr gyda cwt newydd
mwy ar draeth
Borth Fawr, Abersoch. Lleolir y cwt presennol i’r cefn o’r
rhes o gytiau glan y môr sydd
ar y traeth. Yn dilyn pryderon y swyddogion perthnasol ynglŷn ag uchder y cwt arfaethedig derbyniwyd gynllun diwygiedig sy’n dangos lleihad
yn yr uchder. Saif y cwt ar safle arfordirol
cefn gwlad o fewn yr AHNE, ger
Arfordir Treftadaeth ac o fewn dynodiad Ardal
Rheoli Newid Arfordirol. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd â’r broses ymgynghori a’r ymatebion o fewn yr adroddiad.
O safbwynt y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol, mynegwyd pryder yn deillio
o’r ymgynghoriadau cyhoeddus yn seiliedig
ar faint ac uchder. Er bod y bwriad yn golygu
cyfnewid cwt am un mwy, ni ystyrir bod y cynnig yn afresymol
o ran graddfa, uchder a
mas, nac yn or-ddatblygiad, gan ei fod i
raddau helaeth yn dilyn yr
un patrwm maint â chytiau eraill gerllaw. Gan bod dyluniad y bwriad yn addas
i gwt glan
môr a’i osodiad,
ymddangosiad, graddfa, uchder a thriniaeth drychiadau’r bwriad yn gymharol debyg
i weddill y cytiau ar y traeth,
ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol ac yn parchu ei
gyd-destun safle a’i le yn nhirwedd
yr AHNE. Yn dilyn asesu’r
holl ystyriaethau, ystyriwyd bod y cwt glan môr arfaethedig yn dderbyniol o ran maint, dyluniad a deunyddiau, ac argymhelliad y swyddogion ydoedd caniatau’r cais gyda’r amodau perthnasol
a oedd yn cynnwys dim defnydd byw na chysgu
achlysurol. (b)
Cynigiwyd, eilwyd a phleidleiswyd i ganiatáu’r cais.
PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau: 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol â’r cynlluniau 3. Lliw glas BS 18 E 53
i’r cwt oni bai y cytunir yn wahanol ymlaen llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio
Lleol. 4. Dim defnydd byw na
chysgu achlysurol. |
|
Cais Rhif: C18/0235/45/LL - 25, Stryd Moch, Pwllheli PDF 109 KB Newid defnydd siop (dosbarth defnydd A1) i gaffi (dosbarth defnydd A3). AELOD LLEOL: Cynghorydd
Dylan Bullard Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd siop (dosbarth defnydd A1) i gaffi (dosbarth
defnydd A3). (a) Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu
ar gefndir y cais, gan nodi
ei fod ar
gyfer newid defnydd siop (A1) i gaffi (A3) themau
Cymraeg a fyddai’n arddangos crefftau a chynnyrch lleol a cherddoriaeth Cymraeg. Nodwyd nad oedd
bwriad i wneud newidiadau allanol, ond bod bwriad i osod
echdynydd ar dalcen yr adeilad. Esboniwyd mai defnydd diwethaf
yr uned oedd
fel siop Ethel Austin, a’I bod wedi cau
ers nifer o flynyddoedd, a bod caniatâd cynllunio wedi ei roi ers
hynny i’w newid i ddwy
siop ar wahân
gyda stiwdio dawns uwchben. Saif yr adeilad o fewn
prif ardal siopa a chanol tref canolfan wasanaeth
drefol Pwllheli, a parth llifogi C1. Cyfeiriwyd at yr ymatebion i’r
ymgynghoriadau o fewn yr adroddiad. Nodwyd
nad oedd unrhyw wybodaeth newydd wedi ei
derbyn ers hynny. Derbyniwyd sylwadau gan y cyhoedd ar y cais
ac maent wedi eu nodi yn
yr adroddiad. Ers derbyn caniatâd i drosi’r adeilad
yn ddwy siop
yn 2014, eglurwyd nad oedd y siop
dan sylw erioed wedi ei
meddiannu ond bod y siop gyfochrog yn gweithredu fel
bwci William Hill. Cyn hynny, siop Ethel Austin oedd yn meddiannu’r
holl eiddo, cyn i’r gadwyn
fynd i ddwylo’r
gweinyddwyr yn 2010 ac fe’i meddianwyd yn fyr yn
dilyn hynny gan fusnes Life and Style Retail
tan 2011. O ystyried cyfnod
hir sydd wedi pasio ers
i’r siop sefyll yn wag, credir fod sail a chyfiawnhad i gytuno
ar y newid defnydd er mwyn
dod a’r adeilad
yn ôl i
ddefnydd a chael ymadael ar flaen
gwag mewn lleoliad amlwg a chanolog yn y dref.
Mae’r defnydd bwriedig fel caffi
yn atyniad o fewn canol dref,
ac ni ystyrir y byddai’r newid defnydd yn cael
effaith andwyol ar swyddogaeth y prif ardal siop,
na’r canol dref. Bwriedir gosod echdynnydd ar yr adeilad,
a disgwylir am sylwadau Uned Gwarchod y Cyhoedd arno ac yn dilyn derbyn
sylwadau ffafriol, ystyrir fod y newid
defnydd yn dderbyniol, ac na fydd yn cael
effaith andwyol ar fwynderau unrhyw
drigolyn cyfagos. Oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd
â’i nodweddion presennol ystyrir bod y bwriad yn cydymffurfio
gyda’r polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol. Argymhellir felly i ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostynedig i dderbyn sylwadau
ffafriol gan Uned Gwarchod y Cyhoedd ar addasrwydd
y system echdynnu/ffliw arfaethedig ac i’r amodau a restrir ar ddiwedd yr
adroddiad. (b) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r
cais. PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau
ffafriol gan Uned Gwarchod y Cyhoedd ar addasrwydd y system echdynnu/ffliw
arfaethedig ac i amodau perthnasol: 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol â’r cynlluniau 3. Amodau argymhellir gan Uned Gwarchod y Cyhoedd o ran
sŵn/echdynnydd/ffliw Nodyn: 1. Copi o lythyr Cyfoeth Naturiol Cymru dyddiedig ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.5 |
|
Cais Rhif: C18/0322/46/LL - Maes Carafanau Ty'n Llan, Tudweiliog, Pwllheli PDF 93 KB Cais diwygiedig
i ymestyn safle carafanau sefydlog presennol er cynyddu niferoedd
o 31 i 35, ail leoli 3 carafan sefydlog a creu ardal chwarae
newydd AELOD LLEOL: Cynghorydd
Simon Glyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
diwygiedig i ymestyn safle carafanau sefydlog presennol er cynyddu niferoedd o
31 i 35, ail leoli 3 carafan sefydlog a chreu ardal chwarae newydd. (a) Nododd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu nad oedd yr ymgeisydd na’i asiant
wedi cyflwyno ymholiad ynglŷn â’r hyn sy’n bosibl ar y safle dan sylw yn
dilyn tynnu cais blaenorol yn ôl, er gwaethaf bod y swyddogion wedi mynegi
pryderon polisi sylfaenol ynglŷn â’r bwriad. Ymhelaethodd y swyddog ar gefndir y cais,
gan nodi ei fod ar gyfer ymestyn maes carafanau sefydlog presennol i gynyddu
niferoedd o 31 i 35 ynghyd ag ail-leoli 3 carafan sefydlog a chreu ardal
chwarae newydd. Byddai’r bwriad yn
cynnwys tirlunio ychwanegol ar ffiniau gorllewinol a deheuol y rhan estyngedig
o’r safle. Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio perthnasol ynghyd â’r broses ymgynghori
a’r ymatebion dderbyniwyd fel a nodir yn yr adroddiad. O safbwynt y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol, y prif bolisi ydoedd TWR
3 sy’n gallu caniatáu estyniadau bychan i arwynebedd y safle a / neu ail-leoli
unedau o leoliadau amlwg i leoliadau llai amlwg. Un o’r meini prawf ydoedd nad yw’r
gwelliannau yn cynyddu nifer y carafanau sefydlog ar safleoedd oddi mewn ir
AHNE na’r Ardaloedd Tirwedd Arbennig.
Roedd y cais yn un i gynyddu’r niferoedd o unedau ar y safle drwy
ychwanegu 4 uned. Nodwyd nad oedd y
bwriad felly yn cydymffurfio gyda gofynion y polisi o safbwynt safleoedd oddi
fewn i’r Ardal Tirwedd Arbennig. Drwy
ail-leoli 3 carafán sefydlog i’r cae chwarae presennol, golygai y byddai’r
gwrych ar ochr deheuol safle’r cae chwarae yn cael ei golli er creu lón newydd
ac yn gwneud safle’r cae chwarae yn llawer mwy agored a gweledol sensitif na’r
hyn ydyw. Byddai ymestyn y safle yn
gwneud y safle yn fwy amlwg yn y dirwedd a lle ceir llwybrau cyhoeddus yn rhedeg yn agos
iawn. Ni ystyrir felly byddai’r bwriad
yn ei ffurf bresennol yn gwella gosodiad y safle yn y dirwedd o’i amgylch. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, byddai ymestyn y safle yn ei wneud yn
fwy amlwg yn y dirwedd ac er bod y cais yn dangos bwriad i ymgymryd á thirlunio
ar hyd terfynau gorllewinol a deheuol byddir yn cymryd amser i aeddfedu. Derbyniwyd sylwadau’r Uned Drafnidiaeth yn datgan pryder am y fynedfa ac y
byddai’r bwriad yn cynyddu’r defnydd o fynedfa sydd eisoes yn is-safonol. Byddai’r cynnydd heb welliannau i’r fynedfa
yn annerbyniol. Oherwydd nad ydoedd polisi TWR 3 yn caniatáu cynnydd mewn niferoedd
carafanu sefydlog ar safleoedd presennol oddi fewn i’r Ardal Tirwedd Arbennig,
ac ni ystyrir y byddai ymestyn y safle yn gwella ei osodiad yn y dirwedd,
ynghyd á pryderon diogelwch ffyrdd, argymhellwyd i wrthod y cais. (b) Nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol: ·
Nad yw’r sefyllfa yn amlwg
glir a derbyniwyd caniatád yn 1962 i gadw’r safle yn gyfreithiol ·
Derbyniwyd llythyr gan y
Cyngor yn egluro sut fath o ddyluniad ddylai fod ar y fynedfa ac roedd y
perchnogion wedi cydymffurfio â hyn · Cydnabuwyd bod angen a modd i wella’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.6 |
|
Cais Rhif: C18/0365/11/AM - Maes Berea, Bangor PDF 130 KB Cais amlinellol
gyda'r holl faterion wedi eu
cadw yn ôl
i godi 9 tŷ newydd gyda modurdai integredig. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth A. Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu
cadw yn ôl i godi 9 tŷ newydd gyda mordurdai integredig. (a)
Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cynlluniau mynegol
wedi eu cyflwyno sy’n awgrymu maint, gosodiad ac edrychiadau tebygol y
datblygiad – sy’n cynnwys 3 rhes o 3 ty trillawr gyda 3 llofft yr un. Byddai 7
o’r unedau ar gyfer marchnad agored a 2 yn cael eu cynnig fel tai fforddiadwy. Lleolir y safle o
fewn ffin ddatblygu dinas Bangor ond heb ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd
penodol. Eglurwyd bod y tir yn codi mewn
uchder o’i flaen sydd yn ochri a’r ffordd fynediad bresennol tuag at stad Maes
Berea i’r de a’r gorllewin. Mae’r stad bresennol yn sefydliedig ac yn cynnwys
oddeutu 55 o dai sy’n gymysgedd o dai deulawr a thrillawr. Tynnwyd sylw at y
polisiau cynllunio perthnasol a’r ymatebion i’r
ymgynghoriadau a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Derbyniwyd llythyrau yn gwrthwynebu’r bwriad
fel sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad. Nodwyd bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol
a’r bwriad yn estyniad rhesymegol i’r stad bresennol ac fe welir fod y
cynlluniau mynegol yn cyfleu ag adlewyrchu’r hyn sydd eisoes wedi ei ganiatau
ac adeiladu o fewn gweddill y stad. Cynigir 2 allan o’r 9 uned yn dai fforddiadwy. Derbyniwyd sylwadau
ychwanegol gan yr Uned Polisi ar y Cyd sy’n datgan yr angen ar gyfer tai sydd
wedi ei adnabod gan Tai Teg yn 2018. Awgryma’r ystadegau mai tai 1-3 llofft
sydd yn mynd i fod yn fwy tebygol o gyfarch y galw cyfredol a’r galw a ragwelir
yn y dyfodol o ran tai marchnad a thai fforddiadwy. Nodwyd nad oedd y
dystiolaeth angenrheidiol ar hyn o bryd i gefnogi argymhelliad i wrthod y cais
ar sail cymysgedd tai gan gofio fod y bwriad yn paratoi 2 uned fforddiadwy fel
rhan o’r bwriad. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw
wrthwynebiad i’r bwriad Oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd
â’i nodweddion naturiol presennol ystyrir fod y bwriad yn cydymffurfio gyda’r
polisiau lleol a chenedlaethol perthnasol.
Argymhellir felly i ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn ddarostynedig i gwblhau cytundeb 106 i sicrhau fod 2 o’r 9
tŷ sy’n destun y cais hwn yn fforddiadwy ac i amodau cynllunio perthnasol.
(b) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais. (c) Tynnwyd sylw bod Tai Teg wedi nodi ar y
ffurflen sylwadau ychwanegol am yr angen o 180 o unedau 2 ystafell wely yn
erbyn 124 o unedau 3 stafell wely, felly gofynnwyd pam nad oedd cymysgedd gwell
o dai ar y safle dan sylw. (ch) Mewn ymateb, cyfeiriodd y Rheolwr Cynllunio at sylwadau Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ar y ffurflen sylwadau ychwanegol a’r ffaith nad oedd swyddogion yn ffyddiog bod ganddynt y dystiolaeth angenrheidiol ar hyn o bryd i gefnogi argymhelliad i wrthod y cais ar sail cymysgedd. Amlygwyd fod y safle ym Mangor ac fod nifer uchel o dai wedi eu caniatau yn ddiweddar gyda cymysgedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.7 |