Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion
protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn eitem 5.3 (C21/0767/14/LL) ar y rhaglen, oherwydd
ei fod yn
aelod o Fwrdd Adra b) Y Cynghorydd Owain Williams yn eitem 5.8 (C21/0988/39/LL) ar y rhaglen, oherwydd
ei fod yn
berchen maes carafanau Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau. c) Datganodd yr aelodau
canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
E Selwyn Griffiths (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 5.1 (C20/0649/44/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd Berwyn
P Jones (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C21/0934/15/AC) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Cemlyn Williams (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C21/0767/14/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Gareth Williams (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.6 (C21/1010/32/LL) ar y rhaglen
·
Y Cynghorydd
Gareth T M Jones (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 (C21/0859/42/DT) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
John Brynmor Hughes (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 5.8 (C21/0988/39/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C20/0649/44/LL Tir ger Gelert, Penamser, Porthmadog, LL49 9NX PDF 396 KB Cais ar gyfer gosod pwerdy
~5MWe nwy wrth gefn gyda isadeiledd cysylltiol AELOD LLEOL: Cynghorydd Selwyn Griffiths Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: GWRTHOD Rhesymau
Cofnod: Cais ar gyfer gosod
pwerdy ~5MWe nwy wrth gefn gydag
isadeiledd cysylltiol Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a) Ymhelaethodd Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu ar
gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer lleoli cyfleuster gorsaf
cynhyrchu trydan yn gyflym ac hyblyg hyd at 5MWe ynghyd a gwaith cysylltiedig i
gynnwys camerâu cylch-cyfyng, cabanau amwynder, ciosg nwy, tanciau, ffensio ac
adeiladwaith amrywiol ar dir wrth ochr safle Gelert,
Parc Busnes Penamser ar gyrion Porthmadog. Ategwyd bod
y safle o fewn parth llifogi C1 ac yn safle
Cyflogaeth i’w warchod fel y diffinnir o fewn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Byddai’r bwriad, o'i ganiatáu, yn galluogi cynhyrchu
trydan mewn amser byr pe byddai ei angen a phan na all y rhwydwaith lleol ei
gynhyrchu. Eglurwyd y byddai’r cyfleuster yn rhedeg (er yn achlysurol) oddi ar
nwy, ac felly yn ddibynadwy ar danwydd ffosil. Cydnabuwyd fod ceisiadau tebyg
wedi eu cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol mewn lleoliadau eraill ar y
sail y byddent yn ffurfio rhan o’r rhwydwaith cefnogol a gellid ei ddefnyddio
pan nad yw’r cyflenwad adnewyddol yn ddigonol o fewn
y rhwydwaith lleol. Erbyn hyn, mae cynigion tebyg wedi cael eu gwrthod ar apêl
oherwydd eu dibyniaeth ar danwydd ffosil mewn amgylchiadau ble mae cynghorau
wedi datgan argyfwng hinsawdd a ble mae diffyg tystiolaeth am yr angen i greu
egni trwy losgi tanwydd ffosil. Nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi cydnabod a
datgan argyfwng hinsawdd ym mis Mawrth 2019 ac yn hyrwyddo lleihau defnydd o
garbon fel rhan o’u strategaeth. I leddfu effeithiau newid hinsawdd, caniateir cynigion
ar yr amod y gellid dangos bod ystyriaeth ac ymateb lawn i’r meini prawf sy’n
cynnwys yr hierarchaeth ynni sy’n hyrwyddo lleihau’r galw am ynni,
effeithlonrwydd ynni a defnyddio technolegau ynni carbon isel neu ynni di
garbon lle bo hynny’n ymarferol manteisio
i’r eithaf cyfraniad o dechnoleg ynni adnewyddadwy neu garbon isel i fodloni
gofynion y cynnig am drydan a gwres. Amlygwyd
bod datganiadau wedi eu cyflwyno gan yr asiant ond nad oedd tystiolaeth am
angen penodol i’r ddarpariaeth yma, nac y byddai modd darparu’r cyflenwad drwy
fodd arall carbon isel neu adnewyddadwy.
Nid oedd y bwriad gerbron yn
cynnig defnydd cyflogaeth, heibio’r cyfnod o osod y
cyfarpar, ac er y cydnabuwyd bod y safle bwriedig yn
fychan a lletchwith, ac unedau gwag o fewn y parc busnes, nid oedd cyfiawnhad
penodol ar gyfer y bwriad ac na ellid cadarnhau bod colled o dir cyflogaeth yn
dderbyniol yn nhermau polisïau PS13, CYF 1 na CYF 3 o’r CDLl. Ategwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn parth llifogi C1 a’r bwriad yn un ar gyfer darparu pwerdy nwy ar
gyfer creu trydan, sydd yn ôl diffiniadau a gynhwysir o fewn Nodyn Cyngor
Technegol 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd yn ddatblygiad sy’n agored iawn i
niwed. Yn gryno, ystyriwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar sail diffyg cyfiawnhad ar ei gyfer, bod ei leoliad o fewn tir sydd wedi ei ddynodi ar gyfer defnydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C21/0934/15/AC Glyn Rhonwy, Pumped Storage, Glyn Rhonwy, Llanberis, LL55 4EL PDF 527 KB Cais ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio
cyfeirnod C16/0886/15/LL ar gyfer gosod llinell cyswllt grid 132KV tanddaearol
rhwng safle storio pwmp Glyn Rhonwy ac Is-orsaf
Pentir er mwyn ymestyn y cyfnod dechreuad y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol AELODAU LLEOL: Cynghorwyr
Kevin Morris Jones, Elfed Williams, Menna Baines, Elwyn Jones, Sion Wyn Jones a
Berwyn Parry Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau canlynol.
Cofnod: Cais ar gyfer
diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C16/0886/15/LL ar gyfer gosod llinell
cyswllt grid 132KV tanddaearol
rhwng safle storio pwmp Glyn Rhonwy ac Is-orsaf Pentir er mwyn
ymestyn y cyfnod dechreuad y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bod hyd y cysylltiad yn mesur
oddeutu 9km ac yn gwbl danddaearol - yn rhedeg o fewn
safle Glyn Rhonwy tuag at yr is-orsaf
ym Mhentir. Eglurwyd bod y ceblau yn cael eu
gosod o fewn dwythell wedi ei
warchod mewn dyfnder o 1.7m yn y ffos. Atgoffwyd yr
Aelodau mai cais i newid amod
1 o ganiatâd cynllunio
C16/0886/15/LL er mwyn ymestyn cyfnod cychwyn y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol oedd gerbron, heb
newid i’r cynllun gwreiddiol. O ganlyniad, roedd egwyddor y bwriad eisoes wedi ei
dderbyn a’i sefydlu gan yr
Awdurdod Cynllunio Lleol drwy ganiatâd
cynllunio C16/0886/15/LL. Er
hynny, amlygwyd yr angen i
ystyried os oedd amgylchiadau neu’r sefyllfa polisi cynllunio wedi newid ers
caniatáu’r cais yn wreiddiol. Ategwyd
pwysigrwydd asesu a chadarnhau os yw’r
sefyllfa, yn nhermau cydymffurfio â’r Polisïau Cynllunio,
yn parhau i fod yr
un fath. Yn sgil polisïau lleol, penderfynodd yr Awdurdod Cynllunio Lleol y cais gwreiddiol
ar sail polisïau Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd ond sydd bellach wedi
ei ddisodli gan y Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd, felly, rhaid oedd ystyried unrhyw
newidiadau materol yn y polisïau ers
penderfynu’r cais blaenorol. Eglurwyd mai’r polisïau perthnasol oedd yn ymwneud a derbynioldeb
egwyddor y cais diweddarafoedd Polisi ISA 1 ‘Darpariaeth Isadeiledd’ a PS 7 ‘Technoleg Adnewyddadwy’. Nodwyd bod rhan
o'r bwriad yn arwain drwy'r
Ardal Tirwedd Arbennig 'Ymylon Gogledd-orllewin Eryri', yn gyfan gwbl
o fewn tirwedd hanesyddol eithriadol 'Dinorwig' ac union gyferbyn Ardal Treftadaeth y Byd 'Ardal y Llechi'.
Drwy hynny, ystyriwyd fod y bwriad i osod
y llinell gyswllt tan ddaearol yn cyd
fynd ag arweiniad ym mholisi PS 7 ac yn parhau i
gydymffurfio gyda pholisïau perthnasol b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd Aelod Lleol
ward Cwm y Glo, y Cynghorydd Berwyn P Jones nad oedd ganddo
wrthwynebiad i’r cais. c) Cynigwyd
ac eiliwyd caniatáu’r cais PENDERFYNWYD Dirprwyo’r
hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio
i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau canlynol. 1. 5 mlynedd 2. Cwblheir y diwygiad/au a ganiateir drwy hyn yn
llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynlluniau
a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 22/10/2021, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau
eraill gyda'r cais, os nad
oes amod(au) sy'n ei diwygio
wedi ei gynnwys
ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf
y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid
cwblhau gweddill y datblygiad mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio rhif C16/0886/15/LL. |
|
Cais Rhif C21/0767/14/LL Cyn rhandiroedd Cae'r Glyn, Ffordd Bethel, Caernarfon, LL55 1HW PDF 457 KB Adeiladu 17
o dai fforddiadwy, mynedfa, llefydd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Cemlyn Williams Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio’r cais er mwyn derbyn asesiad trafnidiaeth pellach ynghyd
a mwy o luniau / fideo o’r safle a’i berthnasedd i’r ysgol uwchradd gyfagos Cofnod: Adeiladu 17 o dai fforddiadwy,
mynedfa, llefydd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiol Tynnwyd sylw at y ffurflen
sylwadau hwyr a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu 17
o dai fforddiadwy fyddai’n cynnwys 6 tŷ deulawr 4 person, 6 tŷ
deulawr 5 person, 2 dŷ deulawr 7 person a 3 byngalo 3
person ynghyd ag adeiladu mynedfa a ffordd mynediad, llefydd parcio,
tirlunio a phantiau draenio tir (swales) yng nghornel de ddwyreiniol y safle ar
gyfer dal dŵr wyneb. Lleolir y
safle ymysg tai o fewn tref Caernarfon, gyferbyn ac Ysgol Uwchradd Syr Hugh
Owen gyda’r safle oddeutu 0.55ha - mae 17 uned yn golygu dwysedd o 30.9
tŷ i’r hectar sydd yn cydymffurfio efo Polisi PCYFF 2 yn y Cynllun. Eglurwyd bod yr egwyddor o godi tai ar y safle hwn
wedi ei selio ym Mholisi PCYFF 1, TAI 1, TAI 15 a PS 5 o’r CDLL lle nodir y
caniateir cynigion tu mewn i ffiniau datblygu yn unol â pholisïau a chynigion
eraill y Cynllun, polisïau cynllunio cenedlaethol ac ystyriaethau cynllunio
perthnasol eraill. Yn ôl Polisi ISA 5, disgwylir i gynigion ar gyfer
10 tŷ neu fwy mewn ardaloedd ble na all llecynnau agored presennol fodloni
anghenion y datblygiad tai arfaethedig gynnig darpariaeth addas o fannau agored
yn unol â safonau meincod Fields in Trust (FiT). Mae’r wybodaeth
gyfredol a dderbyniwyd gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn dangos bod
diffyg llecynnau chwarae gyda chyfarpar offer i blant yn lleol fel rhan o’r
bwriad ac i’r perwyl hyn, felly, bydd angen gwneud cyfraniad ariannol ar gyfer
cyfarfod a’r diffyg darpariaeth yma. Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd yn
datgan y byddai yn fodlon gwneud cyfraniad o £3346.16 a gellir sicrhau hynny
trwy gytundeb cyfreithiol 106. Ni ystyriwyd bod y bwriad yn groes i ofynion
Polisi ISA 5 o’r CDLL ynghyd a’r CCA: Llecynnau Agored mewn Datblygiadau Tai
Newydd. Nodwyd bod Uned Trafnidiaeth y Cyngor wedi cyflwyno
sylwadau yn datgan na fyddai'r bwriad yn amharu ar ddiogelwch ffyrdd er
cydnabuwyd sylwadau a dderbyniwyd yn gwrthwynebu’r cais ar sail diogelwch
ffyrdd. Gydag amodau a chyfraniad ariannol i sicrhau gwelliannau i’r ffordd
trwy gytundeb 106, ystyriwyd y bwriad yn unol â’r polisïau trafnidiaeth. Adroddwyd bod y Cyngor wedi derbyn gohebiaeth gan
drigolion lleol yn datgan bod rhan isaf o’r safle yn gorlifo yn ystod cyfnod o
law trwm ac yn pryderu y byddai'r datblygiad
yn gwaethygu'r sefyllfa yn hytrach na datrys y broblem gorlifo ar y
safle. Er hynny, derbyniwyd gwybodaeth gyda’r cais i ddangos gellid dylunio
system draenio gynaliadwy effeithiol ar gyfer y safle a fyddai’n gwella’r sefyllfa
bresennol. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Bod y safle tir glas yn
wag ers i’r defnydd rhandiroedd ddod i ben ac nad oedd dyraniad tir penodol na chyfyngiad datblygiad iddo ·
Nad yw'r tir yn fan agored hygyrch i'r cyhoedd felly does neb yn cael
defnydd ohono ar hyn o bryd. · Gan fod y safle yn wag ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C21/0431/45/LL Y Llew Du, Lôn Abererch, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5LE PDF 434 KB Dymchwel
tŷ tafarn presennol a chodi chwech tŷ AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dylan Bullard Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod Rhesymau: 1.
Wrth ystyried graddfa,
dyluniad a nifer yr anheddau arfaethedig, ni chredir y byddai’r datblygiad yn
gweddu i'r safle ac ni fyddai ei ymddangosiad yn dderbyniol o fewn yr ardal
leol. Yn ogystal, o ystyried natur gyfyng y safle, nifer yr unedau sy'n rhan o’r
cynllun a'r diffyg gofod amwynder ynghlwm a’r tai unigol, credir y byddai'r
cynnig yn or-ddatblygiad o’r safle ac yn niweidiol i fwynderau preswyl. Fe
ystyrir felly bod y cynnig yn groes i ofynion perthnasol polisïau PCYFF 2 a
PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. 2.
Ar sail diffyg cymysgedd briodol o dai ynghyd â'r ddarpariaeth
annigonol o dai fforddiadwy fe gredi’r bod y bwriad yn methu cyfarfod gofynion
polisïau TAI 8 a THAI 15 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn,
ynghyd a'r cyngor perthnasol a roddir o fewn Canllawiau Cynllunio Atodol
"Tai Fforddiadwy" a "Cymysgedd Tai". 3.
Ni chredir fod digon o
wybodaeth wedi ei chyflwyno i asesu os yw’r bwriad yn cwrdd â gofynion maen
prawf 1c o Bolisi PS1 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn sydd yn
gofyn am ddatganiad iaith Gymraeg fyddai’n dangos sut byddai datblygiadau
arfaethedig yn gwarchod, hyrwyddo a chryfhau’r iaith Gymraeg. Ar y sail yma,
nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na fyddai’r bwriad yn cael
effaith negyddol ar yr Iaith Gymraeg yn ardal y cynllun 4.
Ni chredir fod gwybodaeth
ddigonol wedi ei chyflwyno i gyfiawnhau colli’r cyfleuster tafarn i gwrdd
gyda'r gofynion perthnasol a nodir ym Mholisi ISA 2 C Gynllun Datblygu Lleol ar
y Cyd Gwynedd a Môn ynghyd a Chanllaw Cynllunio Atodol: "Newid defnydd
cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol, safleoedd cyflogaeth ac
unedau manwerthu"; sy'n nodi'r angen i gadarnhau, trwy dystiolaeth, bod
ymdrechion wedi bod i farchnata’r safle
Cofnod: Dymchwel
tŷ tafarn presennol a chodi chwech tŷ Tynnwyd sylw at y ffurflen
sylwadau hwyr a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar
gyfer dymchwel tŷ tafarn deulawr presennol ac adeiladu chwe thŷ dau
neu dri llofft mewn rhes. Eglurwyd bod y safle y tu
mewn i ffin ddatblygu tref Pwllheli fel y'i nodir yng Nghynllun Datblygu Lleol
ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn a bod egwyddor y datblygiad yn cael ei ystyried yn
erbyn Polisi PCYFF 1 ('Ffiniau Datblygu'), Polisi PS 5 (Datblygu cynaliadwy),
Polisi TAI 1 (Tai yn y ganolfan isranbarthol a'r canolfannau gwasanaeth
trefol), a Pholisi TAI 15 ('Trothwy a Dosbarthiad Tai Fforddiadwy'). Yng
nghyd-destun polisi PCYFF 1, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor
oherwydd lleoliad y safle o fewn y ffin ddatblygu gyfredol ac yn yr un modd,
bod polisi PS 5 yn annog datblygiadau ar safleoedd a ddatblygwyd o'r blaen. Er hynny, gan fod yr
anheddle wedi gweld ei lefel twf disgwyliedig, trwy unedau wedi eu cwblhau yn y
cyfnod 2011 i 2021, datblygu’r unedau yn y banc tir presennol a datblygu’r
safleoedd wedi eu dynodi am dai, roedd angen cyfiawnhad ar gyfer y cais yn
amlinellu sut byddai’r bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol. Disgwylid i bob ymgeisydd sy’n cyflwyno cais cynllunio ar gyfer 5 neu
fwy o unedau tai, gyflwyno Datganiad Tai i gefnogi cais cynllunio yn unol â'r
fethedoleg a amlinellir yn Atodiad 2 o’r CCA Cymysgedd
Tai: Ni ystyriwyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o'r cais hwn yn
ddigonol i ddangos yn eglur bod y datblygiad dan sylw yn cwrdd gydag angen
penodol o fewn y gymuned leol. Eglurwyd bod Polisi TAI 15 o'r CDLl yn datgan y bydd Cynghorau'n ceisio
sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y cynllun, a nodwyd ym
Mhwllheli, mai dau neu fwy o unedau tai yw'r trothwy ar gyfer angen darpariaeth
o'r fath. Gan fod y datblygiad arfaethedig yn cynnig cynnydd o 6 uned, mae’n
cyd-fynd â throthwy Polisi TAI 15 ar gyfer gwneud cyfraniad at dai fforddiadwy.
Gan fod Pwllheli y tu mewn i ardal pris tai 'Aneddleoedd Arfordirol Mwy’ yn y
CDLl nodwyd bod darparu 30% o dai fforddiadwy yn hyfyw - mae hyn yn gyfystyr â
1.8 uned yn y datblygiad yma. Amlygwyd mai un uned a gynigir yn y cais fel uned
fforddiadwy ac felly byddai disgwyl swm cymunedol sy'n werth 0.8 o dŷ i
gwrdd â'r gofyniad polisi. Ategwyd, petai'r ymgeisydd o’r farn nad yw’n hyfyw
darparu’r elfen fforddiadwy ddisgwyliedig yma, yna eu cyfrifoldeb hwy fydd i
amlygu’n glir ar bro-fforma asesiad hyfywdra'r amgylchiadau sydd yn cyfiawnhau
darpariaeth tai fforddiadwy is. Er hynny, adroddwyd nad oedd yr ymgeisydd wedi
cyflwyno gwybodaeth o ran ystyriaethau oedd yn ymwneud a hyfywdra'r datblygiad
a phe byddai darparu’r elfen fforddiadwy ddisgwyliedig yn effeithio ar
ystyriaethau o safbwynt yr elfen yma. Yn ogystal, ac o safbwynt asesu egwyddor y bwriad, rhaid ystyried defnydd presennol a sefydledig yr adeilad fel tŷ tafarn. Eglurwyd bod y wybodaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais rhif C21/0820/30/LL Cwrt, Uwchmynydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8DA PDF 303 KB Codi estyniad i'r sied wartheg
bresennol ac addasiadau i greu storfa dail ac iard fwydo dan do AELOD LLEOL:
Cynghorydd W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn canlyniad
boddhaol i'r Prawf Effaith Arwyddocaol Tebygol ar y safleoedd dynodedig
cyfagos. Amodau
Nodiadau : Cyfoeth
Naturiol Cymru Uned
Draenio Tir Angen
gwarchod y llwybr cyhoeddus Cofnod: Codi estyniad i'r sied wartheg
bresennol ac addasiadau i greu storfa dail ac iard fwydo dan do. a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai bwriad y cais oedd codi estyniad i sied wartheg
bresennol er mwyn creu storfa dail ac iard fwydo dan do. Eglurwyd y byddai'r
estyniad yn 36.3m o hyd a 10.9m o led ac yn 4.7m o uchder at frig y to ac wedi
ei ffurfio gan baneli cladin lliw llwyd ar wal isel o goncrid gyda’r to o
ddeunydd proffil lliw llwyd. Cyflwynwyd y cais i'r
Pwyllgor Cynllunio gan i’r ymgeisydd fod yn Aeod
Etholedig o’r Cyngor Eglurwyd na
ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynigiwyd
yn briodol ar gyfer y safle ac na fyddai’n debygol o achosi effeithiau andwyol
annerbyniol ar fwynderau lleol, bioamrywiaeth nag asedau treftadaeth. b)
Cynigwyd
ac eiliwyd caniatáu’r cais PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i
dderbyn canlyniad boddhaol i'r Prawf Effaith Arwyddocaol Tebygol ar y safleoedd
dynodedig cyfagos. Amodau 1. 5 mlynedd 2. Datblygiad yn cydymffurfio gyda’r
cynlluniau a gymeradwywyd 3. Dim gwaith clirio safle yn ystod y
tymor nythu adar heb gytundeb ymlaen llaw. Nodiadau : Cyfoeth Naturiol Cymru Uned Draenio Tir Angen gwarchod y llwybr
cyhoeddus |
|
Cais Rhif C21/1010/32/LL Caerau, Llangwnnadl, Pwllheli, LL53 8NS PDF 421 KB Trosi adeilad allanol i
ddarparu annedd fforddiadwy, ynghyd ag addasiadau i'r fynedfa gerbydol
presennol, gosod gwaith trin pecyn a gwaith cysylltiedig AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu yn
ddarostyngedig i dderbyn adroddiad pellach am fforddiadwyedd
y tŷ Cofnod: Trosi
adeilad allanol i ddarparu annedd fforddiadwy, ynghyd ag addasiadau i'r fynedfa
gerbydol bresennol, gosod gwaith trin pecyn a gwaith cysylltiedig. a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer trosi adeilad
allanol presennol (a fu gynt yn dŷ annedd) yn dŷ fforddiadwy gyda dwy
lofft, ystafell fyw ac ystafell fwyta / cegin ynghyd a chreu gardd gerllaw'r
adeilad. Eglurwyd bod bwriad cadw prif
strwythur yr adeilad ond dymchwel waliau adeiladau allanol cysylltiedig â chodi
estyniadau unllawr ar ochr a chefn y prif strwythur.
Adroddwyd bod y safle mewn ardal wledig (ymhell o unrhyw ffin ddatblygu a'i
diffinnir gan CDLl) , o fewn Ardal Tirwedd Arbennig a
thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli ac yn rhannol o
fewn Safle Bywyd Gwyllt Rhanbarthol Caerau. Cyflwynwyd y cais gerbron y pwyllgor ar gais yr aelod lleol. Ymhelaethodd y swyddog bod y safle tu allan i unrhyw ffin
ddatblygu a'i hadnabyddir dan bolisi PCYFF 1 y CDLl
lle nodi’r, y tu allan i ffiniau datblygu bydd cynigion yn cael eu gwrthod oni
bai eu bod yn unol â pholisi penodol yn y Cynllun. Yn yr achos yma, er i’r cais
fod am drosi adeilad allanol presennol, bod amheuaeth os gellid ystyried y
strwythur hwn fel "adeilad" yn hytrach nag adfail cyn eiddo anheddol.
Amlygwyd bod adroddiad strwythurol wedi ei gyflwyno gyda'r cais yn
honni i'r waliau presennol fod yn strwythurol gadarn ac yn addas i'w cadw heb
yr angen am ail-adeiladu sylweddol, ac yn ogystal, na fyddai angen ail-godi mwy
na 10% o gyfanswm arwynebedd y waliau gwreiddiol. Wrth asesu’r adroddiad,
adroddwyd bod cryn amheuaeth yn parhau ynglŷn âg
addasrwydd strwythur yr adeilad i'w drosi neu a fyddai'r gwaith fyddai ynghlwm
a'r datblygiad yn gyfystyr a chodi tŷ newydd yng nghefn-gwlad yn groes i
ofynion polisi PCYFF 1 y CDLl. Ar sail yr asesiad, hyd yn oed pe derbynnir bod yr adeilad
traddodiadol yng nghefn gwlad yn addas i'w drosi yn dŷ annedd, ni
ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gydag un o'r meini prawf penodol ar
gyfer datblygiadau o'r fath a restrir ym mholisi TAI 7 CDLl
Er yn cydnabod bod yr ymgeisydd mewn angen tŷ fforddiadwy a bod dyluniad
cyffredinol yr adeilad o ansawdd safonol, oherwydd y lleoliad gweledig, natur
anghyfannedd y safle presennol a’r nifer newidiadau a fwriedir eu gwneud i'r
strwythur, nid oedd dewis ond argymell gwrthod y cais. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
yr ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Ei bod eisiau parhau i fyw yn Llangwnnadl ond
bod prisiau tai lleol a chyfagos yn rhy bell o’i gafael. ·
Nad
oedd tŷ fforddiadwy yn ei milltir sgwâr ac felly’r opsiynau yn gyfyngedig. ·
Yn
lwcus iawn bod gan ei rhieni dir gyda hen dŷ arno fyddai’n rhoi cyfle i
aros yn lleol gan fagu teulu, parhau i weithio yn ei swydd a pharhau i helpu ei
rhieni ar y fferm a’i Nain gyda’r maes carafanau. · Bod yr hen dŷ wedi bod yn gartref i nifer o deuluoedd yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Dymchwel garej
presennol ac adeiladu garej newydd AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Morris
Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod Rhesymau - gorddatblygiad Cofnod: a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel modurdy presennol a chodi
modurdy newydd yn ei le. . Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin ddatblygu
gyfredol Morfa Nefyn ac o fewn ardal
breswyl sydd yn gymysg o ran math a ffurf.
Ategwyd bod y safle a’r ardal
oddi amgylch wedi ei leoli oddi fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol
Llŷn ac Enlli. Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor ar gais yr aelod lleol ar sail gôr
ddatblygiad o’r safle. Cydnabuwyd bod
pryderon wedi eu hamlygu gan gymydog, yr aelod lleol a’r Cyngor Cymuned ynglŷn
â’r bwriad, ac yn benodol am ddefnydd yr adeilad i’r dyfodol. Eglurwyd na ellid
rhagweld yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol, ond bod rhaid ystyried yr hyn
sydd gerbron, sef cais i ddymchwel modurdy presennol a chodi modurdy newydd yn
ei le. Nodwyd fod gofod to'r adeilad newydd i’w ddefnyddio fel swyddfa, ond nad
oedd unrhyw awgrymiad y byddai defnydd gwahanol i’r hyn a gyflwynwyd. Er hynny,
ystyriwyd y byddai’n rhesymol cynnwys amod i sicrhau na ddefnyddir yr adeilad
ar gyfer unrhyw reswm nad yw yn ddefnydd atodol i’r tŷ gan gynnwys ei osod
fel uned gwyliau. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y
sylwadau canlynol gan gyflwyno fideo yn egluro’r rhesymeg y tu ôl i’r cais
cynllunio ar gyfer adnewyddu’r adeilad allanol yn eu gardd ·
Eu bod wedi byw yn y tŷ ers 2016 a
chyn hynny yn berchen Bodfan gerllaw ·
Y teulu wedi bod yn yr ardal ers y 1960au - ei Nain a’i Daid a’i rieni yn berchen eiddo yn
yr ardal ac felly wedi ymrwymo’n fawr i’r ardal – nid ydynt yn bwriadu gwerthu
unrhyw eiddo, sy’n destun trafod y dyddiau hyn ·
Bod yr adeilad mewn cyflwr gwael ac
angen gosod rhywbeth yn ei le sy'n ddiogel, yn fwy modern ac yn addas i'r
pwrpas. ·
Bod bwriad i’w ddefnyddio ar gyfer
storio cychod a thractorau ·
Y to yn sigo sy’n awgrymu bod y distiau
yn rhoi. Ystyriwyd bod y distiau yn wreiddiol [o'r adeg y codwyd yr adeilad
dros 100 mlynedd yn ôl]. Y landeri bellach wedi disgyn a holltau yn y waliau i
gyd. ·
Yn ddiolchgar pe byddai’r Pwyllgor yn
edrych yn ffafriol ar y cais. c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol: ·
Bod gofod yn y to yn cael ei addasu yn
swyddfa ·
Trigolion lleol a Chyngor Tref yn gwrthwynebu ar sail
gorddatblygiad - bod y bwriad yn sylweddol fwy na’r un presennol ·
Bod 6 tŷ yn ffinio gyda’r safle ·
Y tŷ hefyd wedi ei ymestyn yn
ddiweddar ·
Digon o le parcio heb fod angen modurdy mwy ·
Bod Morfa Nefyn yn prysur droi yn bentref tai gwyliau - Môn Arfon
yn dŷ haf - defnydd busnes fydd i’r modurdy i’r dyfodol. ·
Nad yw amod berthnasol yn ddigon clir i rwystro addasiad i’r
dyfodol - angen cryfhau'r amod fel ei fod yn llai amwys Mewn ymateb ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Cais Rhif C21/0988/39/LL Maes Carafanau Ty Newydd, Sarn Bach, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7LE PDF 324 KB Ymestyn tymor
gwyliau o 8 mis i 10.5 mis i bwrpas gwyliau AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau
Nodyn - Swyddog
Trwyddedu Cofnod: Ymestyn tymor gwyliau o 8 mis i 10.5 mis i bwrpas
gwyliau a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu mai cais llawn ydoedd i ymestyn
y cyfnod y gellid defnyddio'r unedau ar safle carafanau sefydlog presennol o 8
mis (rhwng y 1af o Fawrth hyd y 31ain o Hydref) i 10.5 mis (rhwng y 1af o
Fawrth hyd y 15fed o Ionawr y flwyddyn ganlynol). Byddai’r bwriad yn cynyddu’r
cyfnod meddiannu am 3.5 mis yn y flwyddyn yn unig ac nad oedd bwriad ychwanegu at y nifer presennol o garafanau
sefydlog megis 32. Ni fydd ychwaith newidiadau nac ychwanegiadau i’r
cyfleusterau presennol sydd ar y safle. Fel rhan o’r cais cyflwynwyd Datganiad
Dyluniad a Mynediad yn egluro cefndir i’r cais gan nodi bod cynnydd sylweddol
wedi bod yn y galw am wyliau dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Nodwyd hefyd
bod y safle yn un parhaol sydd wedi ei
sefydlu ers cyfnod hir gydag unedau o ansawdd uchel sy’n addas ar gyfer defnydd
gaeaf. Daw’r cais hwn gerbron y Pwyllgor yn
unol â’r cynllun dirprwyo gan i arwynebedd y safle fod yn fwy na 0.5ha. Ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn gwaethygu’r sefyllfa bresennol
parthed ardrawiad y carafanau sefydlog ar yr amgylchedd, gan eu bod eisoes wedi
eu gosod ar y safle trwy’r flwyddyn ac nid oedd bwriad ymestyn eu niferoedd.
Gan na fydd unrhyw newid i fwynderau gweledol yr AHNE ystyriwyd y bwriad yn
dderbyniol ar sail gofynion Polisi AMG 1 y CDLL. Ystyriwyd hefyd bod diwygio'r
cyfnod meddiannaeth yn dderbyniol dan bolisïau’r Awdurdod Cynllunio Lleol drwy
osod amodau priodol er gosod cyfnod y tymor newydd a sicrhau y defnyddir y
carafanau sefydlog ar gyfer defnydd gwyliau yn unig gyda chofrestr gyflawn o
holl ddefnyddwyr yr unedau yn cael ei gadw. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol ·
Bod y cais yn cael ei gyflwyno oherwydd i berchnogion y carafanau
wneud cais i’r ymgeisydd i gael mynychu eu carafanau tu allan i’r tymor ·
Bod y cais yn un teg ·
Bod y carafanau o ansawdd ac yn addas
ar gyfer pob tywydd ·
Bod y maes mewn cyflwr da, yn drefnus
ac yn lan ·
Bod polisïau yn cefnogi mewnbwn ymwelwyr dros y gaeaf - creu gwaith yn lleol ·
Ei fod yn gefnogol i’r cais c)
Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais d)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod angen cadw cofrestr ·
Bod hawl gan y perchennog i fod yn
agored am 12 mis PENDERFYNWYD:
Caniatáu gydag amodau 1.
Cyfyngu ar y defnydd o'r safle i'r cyfnod rhwng y 1af o Fawrth hyd y
15fed o Ionawr y flwyddyn ganlynol 2.
Defnydd gwyliau yn unig a rhaid cadw cofrestr o’r holl ddefnyddwyr. 3.
Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn
ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg. Nodyn -
Swyddog Trwyddedu |