Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
Eric M. Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Y Cynghorydd Simon Glyn (sydd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar
y rhaglen (cais cynllunio rhif C19/0812/39/LL) oherwydd ei fod
yn dad i un a gyflogwyd gan y cwmni Roedd yr aelod o’r farn
ei fod yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu
a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth
ar y cais. b)
Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: · Y Cynghorydd Linda Ann Wyn
Jones (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.5 ar y rhaglen (cais
cynllunio C19/1028/03/LL) · Y Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.6 ar y rhaglen
(cais cynllunio
C20/0022/42/DT) |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
10.02.2020 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10fed o Chwefror 2020, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth
i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
Cais Rhif C19/0444/11/LL 196-200, Stryd Fawr, Bangor PDF 153 KB Trosi a newid defnydd rhan cefn o’r cyn siop Debenhams yn 6 uned byw (5 x 1 ystafell wely ac 1 x 2 ystafell wely) AELOD LLEOL: Cynghorydd Steve Collings Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Trosi a newid defnydd rhan
cefn o’r cyn siop Debenhams yn 6 uned byw
(5 x 1 ystafell wely ac 1 x
2 ystafell wely) a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi fe ohiriwyd
y cais ym Mhwyllgor Ionawr 2020 er mwyn derbyn
gwybodaeth ychwanegol am
bris rhent yr unedau byw. Eglurwyd
ei fod yn
gais llawn ar gyfer newid
defnydd rhan cefn o’r adeilad
a arferai fod yn safle
Debenhams yn 6 uned byw hunangynhaliol ynghyd a man addasiadau i’r adeilad. Nodwyd
nad oedd
unrhyw bryderon ar sail y mwynderau na materion trafnidiaeth. Yn dilyn y gohiriad ar y cais er
mwyn derbyn gwybodaeth am bris rhent yr unedau fforddiadwy
derbyniwyd gwybodaeth bellach gan yr
asiant a’r Uned Polisi Cynllunio
ar y Cyd. Mae Polisi TAI 15 o’r CDLl yn gofyn
ceisio sicrhau darpariaeth briodol o dai fforddiadwy
yn ardal y Cynllun a’r trothwy
ar gyfer tai fforddiadwy ym Mangor yw 20%. Mae’r adroddiad prisiad marchnad agored yn datgan
bod pris marchnad agored yr holl
unedau yn is na lefel
fforddiadwy’r ardal, sef £50,000, ac felly mae’r unedau i gyd
yn disgyn o dan ddiffiniad fforddiadwy er mai dim ond 1.2 o unedau fforddiadwy sy’n ofynnol. O ganlyniad, pwysleisiwyd yn yr achos
hwn ni
fydd angen cytundeb cyfreithiol nac amod cynllunio
ar gyfer sicrhau darpariaeth tai fforddiadwy gan y byddent yn fforddiadwy
beth bynnag. Esboniwyd bod lleoliad, maint a math yr unedau yn sicrhau
bod prisiad y farchnad yn fforddiadwy ac felly mae’r bwriad yn
cydymffurfio â’r polisïau perthnasol sef TAI 15 o’r CDLl a’r CCA. Esboniwyd ar sail yr hyn
a nodir ym mharagraff 3.3.2 o Ganllaw Cynllunio Atodol ‘Tai Fforddiadwy’ (Ebrill 2019) disgwylir i ddeiliaid
tŷ dalu 25% neu lai o’u
hincwm gros ar rent. Ar sail yr holl wybodaeth
o’r adroddiad, 25% o ganolrif incwm
Bangor yw £464 y mis. Adroddwyd bod yr asiant wedi cadarnhau
y byddai 5 o’r 6 uned a darperir gyda rhent marchnad
agored o £400 y mis. Er bod y canolrif incwm yn amrywio
rhwng wardiau, eglurwyd bod angen ystyried y bwriad yng nghyswllt canolrif
incwm Bangor yn ei gyfanrwydd. Eglurwyd bod datblygiad mewn un man yn
gallu cwrdd â’r angen am dai
o fewn y ddinas gyfan oherwydd symudiad rhwydd a naturiol rhwng wardiau ac agosrwydd y wardiau at ei gilydd
(nodwyd bod ward Pentir wedi ei hepgor
o’r ffigyrau ar y sail ei fod
yn cynnwys ardaloedd sydd y tu allan i
Fangor). Adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi
darparu gwybodaeth yn seiliedig ar
yr asesiad marchnad dai
lleol Môn a Gwynedd sy’n datgan bod angen cyfredol ar gyfer
fflatiau 1 a 2 llofft yn yr ardal
ac mae hyn yn cael ei
ategu gan sylwadau’r Uned Strategol Tai. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais c) Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ganiatáu’r cais gydag amod cynllunio i gyfyngu rhent un o’r unedau i lefel fforddiadwy am ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C19/0995/11/LL 233-235, Stryd Fawr, Bangor PDF 141 KB Diddymu amod rhif 3 o ganiatad Cynllunio C19/0323/11/LL sy’n cyfyngu 2 uned allan o’r 8 i fod yn unedau fforddiadwy AELOD LLEOL: Cynghorydd
Steve Collings Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diddymu amod rhif
3 o ganiatâd Cynllunio C19/0323/11/LL sy’n cyfyngu 2 uned allan o’r 8 i fod yn
unedau fforddiadwy a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi fe ohiriwyd y cais ym Mhwyllgor
Ionawr 2020 er mwyn derbyn gwybodaeth ychwanegol am bris rhent yr unedau byw,
ac yn benodol yr unedau fforddiadwy sydd i’w darparu fel rhan o’r bwriad.
Gosodwyd yr amod yn wreiddiol gan nad oedd gwybodaeth glir a phendant wedi ei
gyflwyno (yn benodol prisiad marchnad agored) fel rhan o’r cais blaenorol am y
ddarpariaeth fforddiadwy. Yn dilyn y gohiriad ar y cais, derbyniwyd gwybodaeth
gan y datblygwr am bris rhent a phris marchnad agored yr unedau byw. Derbyniwyd hefyd asesiad o werth yr unedau
gan gwmni Syrfewyr Siartredig sydd wedi ei selio ar ofynion y Llyfr Coch
(2017). Byddai gwerth marchnad agored yr unedau yn amrywio o £45,000 i £60,000
a byddai rhent misol yr unedau i gyd yn amrywio o £425 i £475 gydag unedau 4 a
8 o fewn y datblygiad yn cael eu cynnig ar rent o £425 y mis. Mae Atodiad 4 o’r
ddogfen CCA: Tai Fforddiadwy ar gyfer prisiau rhagwelir ar gyfer tai canolradd
ar werth yn ward Deiniol ym Mangor (2018) yn cadarnhau bod gwerth tŷ
canolradd yn £67,876, sy’n golygu bod yr unedau arfaethedig o fewn cyrraedd i
ddeiliad ar gyflog canolig. Mae Uned Strategol Tai y Cyngor hefyd wedi
cadarnhau bod prisiad yr unedau preswyl arfaethedig yn is na lefel prisiau
fforddiadwy (canolradd) ar gyfer ward Deiniol ym Mangor. Nodwyd yn yr
adroddiad fe ymgynghorwyd gyda’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd er mwyn cael
mwy o wybodaeth am y sefyllfa rent. Cadarnhawyd ganddynt fod paragraff 3.3.2 o
Ganllaw Cynllunio Atodol ‘Tai Fforddiadwy’ (Ebrill 2019) yn datgan y disgwylir
i ddeiliaid tŷ dalu 25% neu lai o’u hincwm gros ar rent ar gyfer unedau a
ddisgrifir fel rhai fforddiadwy. Er bod y canolrif incwm yn amrywio rhwng
wardiau, eglurwyd bod angen ystyried y bwriad yng nghyswllt canolrif incwm
Bangor yn ei gyfanrwydd. Eglurwyd bod datblygiad mewn un man yn gallu cwrdd â’r
angen am dai o fewn y ddinas gyfan oherwydd symudiad rhwydd a naturiol rhwng
wardiau ac agosrwydd y wardiau at ei gilydd (nodwyd bod ward Pentir wedi ei
hepgor o’r ffigyrau ar y sail ei fod yn cynnwys ardaloedd sydd y tu allan i
Fangor). Adroddwyd fod rhent y ddwy uned fforddiadwy sydd wedi eu nodi i fod yn
£425 yr un yn fforddiadwy yng nghyd-destun canolrif incwm Bangor ac o ran
gofynion y CCA a’r NCT perthnasol. Nodwyd bod prisiau marchnad agored yr unedau wedi eu cyfyngu’n naturiol i bris fforddiadwy oherwydd natur, lleoliad a graddfa’r safle a maint yr unedau eu hunain. Datganwyd pe bai’r wybodaeth yma i gyd wedi ei gyflwyno gyda’r cais gwreiddiol ni fyddai amod o’r fath wedi cael ei osod gan na fyddai’n angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau darpariaeth o unedau fforddiadwy h.y. ar sail eu pris marchnad agored byddent yn fforddiadwy beth bynnag. Byddai lleihau’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C19/0524/14/R3 TIr Canolfan Segontiwm, Caernarfon PDF 177 KB Cais llawn i godi 4 uned byw hunan gynhaliol a chreu ffordd fynediad ynghyd ag adnoddau cysylltiol AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD JASON W PARRY Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i godi
4 uned byw hunan gynhaliol
a chreu ffordd fynediad ynghyd ag adnoddau cysylltiol Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a’r
sylwadau manwl a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd. Roedd yr aelodau
wedi ymweld â’r safle Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan egluro bod y cais wedi ei
ohirio yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 10/02/20 oherwydd penderfynwyd yn y cyfarfod hwnnw bod angen cynnal ymweliad
safle; derbyn mwy o wybodaeth am y dull o sgrinio’r fynedfa o dai cyfagos; derbyn
mwy o wybodaeth am reolaeth y safle a chynnal cyfarfod i drafod egwyddorion
y cais gyda’r Aelod Lleol. Eglurwyd bod y bwriad yn ymwneud a chodi
4 uned / pod byw sydd wedi eu
cynllunio a’u darparu er mwyn
cyrraedd anghenion unigolion bregus. Nodwyd y byddai’r unedau ym mherchnogaeth
y Cyngor ac yn cael eu rheoli
ar gyfer llety tymor byr
drwy’r Cyngor neu Gymdeithas Tai cofrestredig. Amlygwyd bod y datblygiad wedi ei leoli ar
ran o gyn safle Canolfan Segontiwm o fewn ffiniau datblygu
tref Caernarfon sydd wedi ei ddynodi
yn y Cynllun Datblygu Lleol fel Canolfan Gwasanaeth
Trefol. Ategwyd bod y safle ger Caer
Rufeinig Segontiwm sydd yn heneb
gofrestredig a bod trafodaethau wedi ei cynnal
gyda CADW a Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd ynglŷn ag effaith
y datblygiad arfaethedig ar yr heneb
gofrestredig. Nodwyd bod y safle yn un
eang ac mewn ymateb i bryderon
trigolion lleol o ddefnydd gweddill y safle i’r dyfodol,
adroddwyd bod CADW wedi awgrymu fod bwriad
i ddynodi gweddill y safle fel heneb gofrestredig
fyddai’n debygol o atal datblygiadau pellach. Adroddwyd bod cyfarfod wedi ei
gynnal gyda’r Aelod Lleol a bod y cyfarfod hwnnw wedi bod yn un
buddiol. Nid oedd gan yr Uned
Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad ac yng
nghyd-destun mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol
o ran dyluniad, maint, graddfa a deunyddiau allanol ac na fydd
y bwriad yn debygol o gael effaith andwyol sylweddol annerbyniol ar unrhyw drigolion
neu eiddo lleol. Wedi ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r holl
sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a gofynion polisïau perthnasol. a) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu y cais b) Mewn ymateb
i gais o ddarparu ffens bren ychwanegol
ar hyd ffin
rhan o’r safle a thŷ cyfochrog, nodwyd na ystyriwyd fod
hyn yn angenrheidiol
ac nad oedd yn wybyddus os
oedd perchennog yr eiddo yn
dymuno cael ffens soled ar ei ffin. Er
hyn, awgrymwyd fod yr ymgeisydd
yn cynnal trafodaethau pellach gyda’r perchennog i dderbyn cadarnhad
o’u dymuniad ynglŷn â gosod ffens ac i adrodd
hyn yn ôl
i’r swyddogion cynllunio er mwyn
cadarnhau barn y perchennog
a llunio amod priodol os oedd
angen un. c) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau: · Bod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C19/0812/39/LL Maes Carafanau The Warren, Lôn Pont Morgan, Abersoch, Pwllheli PDF 122 KB Ymestyn cyfnod meddiannu gwyliau i fod yn agored drwy’r
flwyddyn i bwrpas gwyliau AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD DEWI W ROBERTS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ymestyn
cyfnod meddiannu gwyliau i fod yn agored drwy’r flwyddyn i bwrpas gwyliau a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
i ymestyn
y cyfnod meddiannu ar y safle carafanau
gwyliau sefydlog fel bod tymor gwyliau
o 12 mis. Amlygwyd bod caniatadau presennol y parc yn cyfyngu amser
meddiannu’r carafanau i rhwng 1 Mawrth
mewn un flwyddyn
a 17 Ionawr yn y flwyddyn ganlynol. Byddai’r bwriad yn cynyddu’r
cyfnod meddiannu am ryw 6 wythnos
yn y flwyddyn. Pwysleisiwyd nad
oedd bwriad ychwanegu at y nifer carafanau sefydlog sydd ar y safle,
dim ond ehangu’r cyfnod meddiannu. Ategwyd bod sawl maes carafanau
eisoes wedi cael caniatâd i
ymestyn y cyfnod meddiannu ac felly bod y cynsail eisoes wedi ei
osod. Nodwyd
bod Polisi TWR 4 yn gefnogol i gynigion
i ymestyn y tymor gwyliau ar
gyfer safleoedd carafanau sefydlog a sialetau presennol os gellid dangos
bod y llety yn cael ei ddefnyddio
at ddibenion gwyliau yn unig ac nad yw’n dod yn brif
neu unig gartref y deilydd. Adroddwyd
bod gan Grŵp Haulfryn fesurau eu hunain yn
eu lle i
sicrhau fod y carafanau sefydlog yn cael eu
defnyddio i bwrpas gwyliau yn unig ac nad yw’r perchennog i ddefnyddio’r
garafán fel preswylfa barhaol. Er y mesurau
hyn, ystyriwyd os caniateir y cais y byddai’n briodol cynnwys amod bod y carafanau sefydlog at ddefnydd gwyliau yn unig
a bod cofrestr yn cael ei gadw
o enwau meddianwyr y carafanau, hyd y cyfnod aros a chyfeiriad
eu prif gartref. Cyfeiriwyd
at y ffaith bod Grŵp Haulfryn yn berchen
ar bum Parc Gwyliau yng Ngwynedd
gan gynnwys Y Warren. Nodwyd bod y parc yn cael ei
ystyried yn ased twristiaeth werthfawr i’r ardal
ac yn darparu nifer o swyddi yn lleol. Eglurwyd
bod galw am lety gwyliau yn ystod
hanner tymor ysgol mis Chwefror
ac ar gyfer Santes Dwynwen a Gŵyl Sant Ffolant. Ategwyd bod Grŵp Haulfryn yn cynnig gwasanaeth
gosod ar ran perchnogion y carafanau i gynorthwyo gydag
arosiadau byr yn ystod y flwyddyn. Ystyriwyd y byddai ymestyn y tymor gwyliau yn
annog ymwelwyr i wario yn
yr economi leol gan gynorthwyo
i gynnal y gymuned leol, diogelu
a chreu cyflogaeth leol fyddai’n arwain
at fuddsoddiad pellach.
Yn bresennol
mae 60 o staff rhan amser a 40 llawn amser yn
y Warren ac ystyriwyd y byddai
hyn yn newid
i 80 rhan amser a 55 llawn amser drwy fod
yn agored trwy’r flwyddyn. Ystyriwyd
bod y cais, gydag amodau priodol i sicrhau y defnyddir
y carafanau sefydlog ar gyfer gwyliau
yn unig ac i gadw cofrestr
yn dderbyniol ar sail polisi. Adroddwyd y byddai modd hefyd
gynnwys amodau a argymhellwyd gan
Cyfoeth Naturiol Cymru ar faterion
llifogydd. b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd asiant ar ran yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- · Bod galw am lety gwyliau yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C19/1028/03/LL Gwesty Wynnes Arms, Ffordd Manod, Manod, Blaenau Ffestiniog PDF 119 KB Cais
ar gyfer addasu tŷ tafarn yn 5 fflat ynghyd â chodi estyniad cefn a
llefydd parcio AELOD LLEOL: CYNGHORYDD
LINDA A JONES Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ar gyfer
addasu tŷ tafarn yn 5 fflat ynghyd â chodi estyniad cefn a llefydd parcio Tynnwyd sylw at
y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi bod y cais yn un
ar gyfer addasu tŷ tafarn i 5 fflat
preswyl hunangynhaliol ynghyd a chreu llefydd parcio a mynedfa ar safle
Gwesty’r Manod Arms. Amlygwyd bod defnydd tafarn wedi dod i ben ar ddechrau 2017 a bod yr adeilad wedi
cau. Ategwyd bod caniatâd cynllunio ar gyfer newid
defnydd o dy
tafarn i swyddfeydd ynghyd a llefydd parcio ar y safle, ond
nad oedd hyn wedi ei
ddechrau. Cyfeiriwyd at adran 5.1 - 5.7 yn yr adroddiad oedd
yn amlinellu bod y datblygiad yn dderbyniol
mewn egwyddor a bod yr Uned Strategol
Tai yn datgan angen cydnabyddedig am fflatiau 1 a 2 ystafell wely yn y dref. Disgwylid i
10% o’r unedau fod yn fforddiadwy
a chyfeiriwyd at wybodaeth
a ddaeth gyda’r cais ynghyd a gwybodaeth
hwyr a ddaeth i law, yn cadarnhau
bod y prisiau marchnad agored a rhent ar gyfer pob
uned eisoes yn fforddiadwy i’r ardal ac nad
oedd angen cyfyngiad pellach. Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol, nodwyd bod y safle wedi ei leol
o fewn ffin datblygu Blaenau Ffestiniog ac mewn lle amlwg
o fewn ardal breswyl a chyhoeddus. Derbyniwyd gwrthwynebiadau
yn nodi’r effaith negyddol sylweddol ar ddeiliad
tai cyfagos, ond gan ystyried
mai defnydd tafarn yw defnydd
cyfreithiol yr adeilad, byddai potential i’r dafarn greu
mwy o broblemau nag uned breswyl. Ystyriwyd
y byddai fflatiau yn addas ac yn
y tymor hwy yn fodd o sicrhau
cyflwr yr adeilad i’r dyfodol.
Yng nghyd-destun
materion priffyrdd, amlygwyd bod bwriad creu mynedfa a llefydd parcio newydd ac er nad oedd gan yr Uned
Trafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad roeddynt
yn argymell cynnwys amodau priodol ar unrhyw
ganiatad. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant
ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y cynlluniau yn cynnwys estyniad newydd
fyddai yn gwella golwg yr adeilad ·
Bod defnydd preswyl i’r adeilad yn fwy addas na
thafarn ·
Bod lleoliad pwrpasol ar gyfer gosod biniau
ysbwriel a storfa beiciau ·
Er bod Cyngor Tref wedi herio’r angen am
fflatiau, yr Uned Strategol Tai wedi datgan bod angen cydnabyddedig am fflatiau
1 a 2 stafell wely yn y dref ·
Er nad oes prinder tai yn y dref, mae prinder
fflatiau ·
O ran fforddiadwyedd,
mae’r prisiau yn isel oherwydd ardal incwm isel ·
Bod gwybodaeth gan ddau gwmni
gwerthu tai yn datgan gwerth prynu
a rhentu'r fflatiau c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod
Lleol y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod trigolion Manod wedi llofnodi deiseb yn
gwrthwynebu’r cais ·
Bod y tŷ tafarn yn ei
amser wedi bod yn llwyddiannus iawn ac y byddai’r gymuned leol wedi dymuno
defnyddio’r safle ar gyfer Canolfan
i’r pentref · Anghytuno gyda’r farn bod angen fflatiau ym Manod - yn dilyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif C20/0022/42/DT Tan y Mynydd, Mynydd Nefyn, Nefyn, PDF 88 KB Dymchwel
storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif dŷ presennol ac estyniad
rhanol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr a'r cefn AELOD LLEOL: CYNGHORYDD
GRUFFYDD WILLIAMS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif dŷ presennol ac estyniad rhannol unllawr, rhannol ddeulawr i'r ochr
a'r cefn. a)
Adroddwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth
yn argymell y dylid cynnal arolwg
Rhywogaethau Gwarchodedig (ystlumod ac adar
sy’n nythu) cyn caniatáu’r datblygiad. Nodwyd na fyddai’n
briodol ystyried y cais heb dderbyn
yr arolwg yma oherwydd ei
fod yn allweddol
er mwyn asesu
egwyddor y bwriad. Argymhellwyd i ohirio’r cais er
mwyn cael derbyn yr arolwg. b) Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r
cais am y rhesymau canlynol: ·
Er mwyn derbyn arolwg Rhywogaethau
Gwarchodedig (ystlumod ac adar sy’n
nythu). ·
Nododd Aelod bod hefyd angen ymweliad
safle oherwydd bod gymaint o ddatblygiadau wedi digwydd yno
dros y blynyddoedd. PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn
derbyn arolwg Rhywogaethau Gwarchodedig (ystlumod ac adar
sy’n nythu) a chynnal ymweliad safle. |