Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Linda A Wyn Jones a’r Cynghorydd Annwen Daniels (Aelodau Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL COFNODION: a)
Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: Y Cynghorydd Gareth M Jones (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0898/42/DT) Y Cynghorydd Eirwyn Williams (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0698/35/LL) Y Cynghorydd Simon Glyn (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0746/46/LL) |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 1af o Chwefror 2021 fel rhai cywir COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1af o Chwefror 2021 fel rhai cywir
|
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. COFNODION: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C20/0898/42/DT Ty Pen Lôn Las, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BG PDF 313 KB Estyniadau
a newidiadau i dŷ presennol. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth M Jones Dolen
i'r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu y cais Amodau:
Nodyn
– Dŵr Cymru COFNODION: Estyniadau a newidiadau i dŷ presennol. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod sawl
elfen i’r cais ar gyfer
estyniadau ac addasiadau i dŷ deulawr
presennol oedd yn cynnwys : ·
Codi estyniad llawr cyntaf ar
flaen yr annedd ·
Newid
estyniad llawr gwaelod ar flaen
/ ochr yr eiddo i gael
to gyda “hip” yn hytrach na tho
gyda thalcen ·
Dymchwel
y simdde ·
Codi estyniad llawr cyntaf ar
gefn yr eiddo ·
Amnewid
dau estyniad unllawr cefn to brig presennol gydag estyniad to fflat - fe fyddai’r estyniad
newydd yn ymestyn 1.2m ymhellach i’r cefn na’r
estyniad presennol Fe
drafodwyd y cais hwn yn y Pwyllgor
Cynllunio ar 21/12/2020. Gohiriwyd gwneud penderfyniad fel bod modd derbyn rhagor
o wybodaeth ynghylch effaith posib y balconi a oedd
yn rhan o’r
cynllun gwreiddiol. Eglurwyd bod y balconi erbyn hyn wedi
ei dynnu o’r cynlluniau a body bwriad
bellach yn cynnwys gosod to fflat tyfiant byw.
Ategwyd y byddai wal sgrinio yn
cael ei hadeiladu
i ymateb i bryderon goredrych.
Cynhaliwyd ail ymgynghoriad,
ond ni
dderbyniwyd sylwadau pellach. Ystyriwyd bod y cais cynllunio yn cwrdd gyda
gofynion polisi cynllunio lleol a chenedlaethol. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
Aelod Lleol y pwyntiau canlynol: ·
Mai’r balconi oedd y pryder mwyaf yn
y cynlluniau gwreiddiol – croesawu bod y balconi wedi ei ddiddymu
o’r cynlluniau diwygiedig ·
Gobaith na fydd y to fflat tyfiant byw yn cael
ei ddefnyddio fel teras – angen
pwysleisio bod amod 4 yn allweddol bwysig c) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan
aelodau: ·
Bod to gwyrdd /
to tyfiant byw yn gallu bod yn
broblemus
d) Mewn
ymateb i sylw ynglŷn â chynnal a chadw'r to tyfiant byw, nodwyd
bod hyn yn ddibynnol ar yr
hadau a bod modd gosod amod i
gadarnhau’r defnydd PENDERFYNWYD: caniatáu
y cais Amodau: 1. 5 mlynedd 2. Unol a’r
cynlluniau diwygiedig 3. Manylion deunyddiau’r
waliau a’r toeau i’w cytuno 4. NI CHANIATEIR DEFNYDDIO
UNRHYW DO FFLAT A GRËIR FEL RHAN O’R DATBLYGIAD HWN FEL BALCONI NEU DERAS Nodyn – Dŵr Cymru |
|
Cais i estynnu'r adeilad cartref nyrsio a maes parcio
ynghyd a chadarnhau lleoliad presennol uned biomass AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu Amodau:
COFNODION: Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a) Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio bod y safle wedi ei leoli mewn lleoliad canolog o fewn Tref
Cricieth gyda’r
adeilad presennol eisoes wedi ei ymestyn yn sylweddol ac yn cael ei ddefnyddio
fel cartref nyrsio. Eglurwyd bod y prif estyniad bwriedig yn mesur 28m wrth 16m
ar ei fwyaf, 7.9m o uchder i’r crib a 5m o uchder i’r bondo; wedi ei leoli ar
ran o’r safle sy’n is na’r briffordd a’r rhan blaen yr adeilad. Byddai’n darparu
11 ystafell wely ynghyd ac ystafelloedd staff/nyrs cysylltiol ar y llawr
gwaelod a 9 ystafell ychwanegol ar y llawr cyntaf
ynghyd a derbynfa ac ystafelloedd eraill cysylltiol. Ategwyd bod y bwriad
hefyd yn golygu ymestyn y maes parcio presennol i ran o dir gwyrdd sydd wedi ei
leoli drws nesaf i’r safle i ddarparu 14 llecyn parcio ynghyd a llecyn ar gyfer
yr anabl. Y bwriad yw cadw gweddill y tir gwyrdd ar gyfer bywyd gwyllt. Tra
bod Polisi TAI 11 yn ymwneud a cheisiadau ar gyfer datblygu Cartrefi Gofal preswyl
/ychwanegol / arbenigol o’r newydd, ystyriwyd egwyddorion a meini prawf y
Polisi gyda’r cais. Eglurwyd bod maen prawf (1) o’r Polisi yn cyfeirio tuag at
y ffaith fod y bwriad wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Canolfan Isranbarthol,
Trefol neu Leol. Nodwyd bod Cricieth wedi ei adnabod fel Canolfan Wasanaeth
Lleol yn y Cynllun. Yn ogystal, mae maen prawf (4) yn
cyfeirio at yr angen i sicrhau na fydd y bwriad yn arwain at orddarpariaeth o
lety gofal o gymharu ag anghenion yr ardal leol. Adroddwyd bod Gwasanaeth Cymdeithasol Cyngor Gwynedd
wedi cadarnhau bod prinder cartrefi yng Ngwynedd sy’n gallu darparu gofal
nyrsio, yn benodol gofal nyrsio dementia. Ategwyd ,
fel comisiynwyr, eu bod yn falch o weld cartref sydd yn cynnig y math yma o
ofal ac yn un sydd yn edrych i ddatblygu a chynyddu capasiti i’r dyfodol. Yng nghyd-destun
yr ardal agored, nodwyd bod pwysigrwydd i’r ardal agored yma yng nghanol tref
Criccieth, a’r golygfeydd allan dros y safle tua’r
arfordir, wedi ei amlygu ym mhenderfyniadau cynllunio ar /ger y safle yn y
gorffennol. Mynegwyd bod yr ardal wedi ei gwarchod fel llecyn agored o dan y
Cynllun Datblygu Unedol ond nad oedd ganddo'r un
warchodaeth ffurfiol o dan y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol. Eglurwyd bod y
term ‘man agored’, a gynhwysir ym mholisi ISA 4, yn cynnwys mannau gwyrdd
amwynder, rhandiroedd, parciau a gerddi cyhoeddus, cyfleusterau chwaraeon awyr
agored a darpariaeth chwarae i blant a phobl ifanc fel y disgrifir o fewn Nodyn
Cyngor Technegol 16: Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored. Ystyriwyd bod yr ardal agored yma yn fan gwyrdd
amwynder a bod gofynion polisi ISA 4 yn berthnasol i’r bwriad. Ategwyd bod y
polisi yn gwrthod cynigion fyddai’n arwain at golli llecynnau agored presennol oni
bai fod y bwriad yn cydymffurfio gyda’r meini prawf. Nodwyd bod yr ‘ardal
agored’ dan sylw yn dir preifat ac nad oedd mynediad
i’r cyhoedd iddo. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, cyffredinol a ... view the full COFNODION text for item 7. |
|
Cais Rhif C19/0746/46/LL Trefgraig Isaf, Rhydlios, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8LR PDF 317 KB Gosod 10 carafan symudol a 4
pabell AELOD LLEOL:
Cynghorydd Simon Glyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio er mwyn
ail-ymgynghori ac ail-asesu cynlluniau diwygiedig COFNODION: Gosod 10 carafán symudol a 4 pabell Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a) Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod cynlluniau diwygiedig wedi ei cyflwyno. Gofynnwyd
am ohiriad i’r penderfyniad er mwyn ail-ymgynghori ac ail-asesu cynlluniau diwygiedig. b) Cynigwyd ac eiliwyd
i ohirio’r cais PENDERFYNWYD: Gohirio er mwyn
ail-ymgynghori ac ail-asesu
cynlluniau diwygiedig |
|
Cais
i ddiwygio amodau 2 a 13 o ganiatâd cynllunio C14/0248/03/LL yn ymwneud a
gosodiad y safle a dyluniad tai AELOD
LLEOL: Cynghorydd Linda Ann W Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau
canlynol:
Nodiadau
COFNODION: Cais i ddiwygio
amodau 2 a 13 o ganiatâd cynllunio C14/0248/03/LL yn ymwneud a gosodiad y safle a dyluniad tai Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais gan nodi mai cais
llawn ydoedd ar gyfer newid
amod 2 (cydymffurfio gyda chynlluniau) ac amod 13 (cwblhau’r lôn stad yn
unol â’r cynlluniau) o ganiatâd cynllunio C14/0248/03/LL. Amlygwyd
bod y safle wedi ei leoli yn
ardal Manod o Flaenau Ffestiniog ac oddi mewn i’r
ffin datblygu fel y’i cynhwysir
yn y CDLl. Byddai’r cais
presennol yn newid rhai o agweddau’r
cais blaenorol a ganiatawyd sef addasu gosodiad a dyluniad 3 o’r tai marchnad agored a rhan o’r ffordd
stad. Nid oes bwriad i
newid y nifer, y math na’r cymysgedd tai i’r hyn sydd
eisoes wedi ei ganiatáu ag sy’n parhau yn
fyw. Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol, mwynderau cyffredinol a phreswyl, amlygwyd bod y cais yn golygu newidiadau
i edrychiadau’r tai marchnad agored yn unig ar
sail dyluniad. Nodwyd bod y
dyluniad yn parhau i fod
yn un cyfoes a bod hynny yn cael
ei wneud drwy addasu rhai
nodweddion ar yr edrychiad blaen.
Ategwyd, yn ogystal bydd yr eiddo ar blot 5 yn cael ei
osod rhywfaint yn ôl o fewn
y safle a bod y tai ar blotiau 3 a 4 yn newid gosodiad a ffurf. Ystyriwyd bod yr addasiadau hyn
yn dderbyniol gan nad yw’n
sylweddol wahanol i'r hyn a ganiatawyd
yn flaenorol ac na fyddai'n arwain
at fwy o effaith na'r hyn sydd
wedi ei gymeradwyo.
Ystyriwyd na fydd y bwriad yn
creu strwythurau anghydnaws o fewn yr ardal leol
ac y byddai’r tai yn eistedd yn gyfforddus
yn y tirlun. O ganlyniad,
ystyriwyd bod
y bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion polisi PCYFF 3 o’r CDLl, gofynion
polisi NCT 12: Dylunio, ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau
cynllunio lleol a chenedlaethol. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais c)
Mewn ymateb i
gwestiwn, nodwyd nad oedd sylwadau
wedi eu derbyn
gan y Cyngor Cymuned / Tref PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol: 1. 5 mlynedd 2. Yn unol â’r cynlluniau 3. Llechi fel deunydd to 4. Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar
gyfer yr adeiladau i’w cytuno
gyda’r ACLL 5. Amodau Priffyrdd ar gyfer
parcio/mynedfa 6. Tirlunio meddal a chaled. 7. Cytuno manylion parthed enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad
o fewn ac oddi allan y safle. 8. Tynnu hawliau datblygu cyffredinol yr unedau fforddiadwy. 9. Cyflwyno cynllun draenio cynhwysfawr ar gyfer y safle 10. Materion trefn gwaith/amser
gweithio 11. Amod blychau bywyd gwyllt Nodiadau 1. NODYN: Rhaid dylunio ac adeiladu'r ffordd/ffyrdd stadau a'r fynedfa'n unol ac 'Arweiniad Cymru Gyfan' (mae copïau o'r ddogfen ... view the full COFNODION text for item 9. |
|
Cais
o dan A.73 i diddymu amod 2 (cyfyngiad amser) ac amrywio amod 3 (cynlluniau
wedi eu diweddaru ar gyfer symud deunydd, adfer ac ôl-ofal y safle) ar ganiatad
cynllunio C99M/0105/03/MW ar gyfer symud deunydd o ddyddodion gweithio mwynau AELOD
LLEOL: Cynghorydd Annwen Daniels Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo'r hawl i
Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid
isod i Amod 2 a 3 ar ganiatâd cynllunio C99M/0105/03/MW, i adlewyrchu'r tunelli
o fwynau wrth gefn sydd ar gael yn ardal y cais: Daw'r gwaith o echdynnu
gwastraff a'r gweithrediadau ategol i ben erbyn 31/12/2058. Erbyn y dyddiad
hwnnw, bydd yr holl beiriannau, adeiladau a strwythurau sy'n perthyn i, neu
wedi eu lleoli o ganlyniad i'r caniatâd cynllunio hwn yn cael eu tynnu erbyn y
dyddiad hwnnw. Bydd gwaith adfer y safle
wedi ei gwblhau erbyn 31/12/2060. Oni bai bod angen
hynny gan amod cynllunio neu gytundeb ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio
lleol, bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau yn unol â manylion Lluniadau'r cais
yn unig, Cyfeirnod ’19-404-D-002, 19-404-D-002’ a gwybodaeth ategol sydd wedi'i
chofrestru â'r awdurdod ar 27 Tachwedd 2020, Strategaeth Adfer ac Ôl-ofal a
gofrestrwyd ar 29 Rhagfyr 2020, a'r Datganiad Achos Cynllunio a gofrestrwyd ar
21 Ionawr 2021 ac unrhyw fanylion eraill o'r fath a gaiff eu cymeradwyo'n
ysgrifenedig wedi hynny gan yr awdurdod cynllunio mwynau. Bydd y datblygiad
yn ddarostyngedig i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol
C99M/0105/03/MW i reoli sŵn, llwch a gwarchod yr amgylchedd dŵr. Fodd
bynnag, diweddarwyd yr atodlen amodau gyda chytundeb yr ymgeisydd, fel a ganlyn
yn unol â'r
cynllun adfer ac ôl-ofal a gyflwynwyd
Nodyn i'r ymgeisydd yn ei
gynghori y dylai'r llwybrau cyhoeddus barhau yn agored ac i gysylltu â Hawliau
Tramwy Gwynedd pe cyfyd unrhyw broblemau. Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth
Naturiol Cymru i'w atodi i'r daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid cysylltu
â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol
penodol a'r ddarpariaeth o wasanaeth o fewn eu cylch gwaith. COFNODION: Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr. a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio
Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i ddiwygio amodau
ar ganiatâd presennol i ymestyn oes gwaith mwynau a symud deunydd o ddyddodion
gweithio mwynau o waith mwynau Maenofferen, Chwarel Llechwedd. Nodwyd bod y
Chwarel yn ymestyn dros 8.3 hectar o dir gweithredol ac wedi'i leoli i'r
gogledd o Flaenau Ffestiniog ar gefnffordd yr A470 tuag at Foel Bowydd a Ffridd
y Bwlch. Eglurwyd, yn dilyn trafodaeth bellach
gyda’r ymgeisydd, cytunwyd
bod rhaid, gydag unrhyw
gais am ganiatâd cynllunio adlewyrchu’r tunelledd o ddeunydd sydd ar gael. Yn seiliedig ar lefel allbwn cyfredol,
rhagwelwyd y bydd oddeutu 3.4 miliwn tunnell o lechi ar gael
yn sicrhau cronfa wrth gefn o ddeunydd gweithiadwy am hyd at 40 mlynedd.
Cytunwyd amrywio cyfyngiad amser yr amodau presennol i sicrhau caniatâd hyd at
2058 gyda dwy flynedd ychwanegol i gwblhau cynllun adfer. Eglurwyd bod y domen wedi ei gweithio ers
oddeutu 1999 ac fe’i disgrifwiyd fel un nad oedd yn
cynnwys gorlwyth a baw ac felly yn gynnyrch defnyddiol. Amlygwyd bod y cais yn
cynnwys cynllun adfer cyfnodol, cynhwysfawr fydd yn sicrhau bod y safle yn cael
ei adfer i gyfuniad o brysgwydd Coed Derw Uwchdirol/cymuned arloesol ynghyd a
phrysglwyni ymylon rhostir/coetir fydd yn gweithredu fel cymuned fagu. Ategwyd
y byddai amcanion allweddol y cynllun adfer yn cyfannu/cydweddu’r safle yn ei
amgylchedd; yn gwella bioamrywiaeth a chryfhau patrwm y tirlun gan gyd-fynd â'r
amcanion a amlinellwyd yn yr asesiadau cymeriad y
tirlun. O ystyried y gweithfeydd o amgylch yr
ardal ynghyd a’r gwaith sydd wedi digwydd yno yn barod, ni
ystyriwyd y bydd fawr o newid i gymeriad yr ardal o symud y domen yng
nghyd-destun mwynderau gweledol. Ni ystyriwyd y bydd effaith andwyol ar y
dirwedd, na’r Parc Cenedlaethol nac effaith sylweddol ar
Dirwedd Hanesyddol Ffestiniog na lleoliad Safle
Treftadaeth y Byd Arfaethedig. Tynnwyd sylw at
sylwadau hwyr gan yr Uned HawliauTramwy ynglŷn a Llwybr Cyhoeddus oedd yn
mynd drwy’r chwarel. Er nad oedd yr Uned yn gwrthwynebu’r datblygiad mewn
egwyddor, roeddynt yn argymell bod angen i’r llwybr gael ei ddiogelu yn ystod
ac yn dilyn cwblhau’r datblygiad arfaethedig. Argymhellwyd amod yn nodi y dylid
gosod arwyddion diogelwch ger trywydd y llwybr i rybuddio staff sydd yn
gweithredu ar y safle o leoliad y llwybr, a hefyd yn rhybuddio defnyddwyr y
llwybr o’r ffaith fod traffig y chwarel yn gweithredu ger/ar yr hawl tramwy.
Byddai angen cytuno ar gynnwys yr arwyddion hyn yn ysgrifenedig o fewn amser
penodol, ei lleoli ar safle a’i chadw mewn cyflwr derbyniol cyn ymgymryd ag
unrhyw waith datblygu pellach. Adroddwyd nad oedd unrhyw faterion polisi cynllunio arwyddocaol i gyfiawnhau gwrthod caniatâd cynllunio gyda’r materion sy’n ymwneud â rheolaethau sŵn, aflonyddwch a llwch eisoes mewn bodolaeth i liniaru yn erbyn effeithiau amgylcheddol posib y datblygiad. Y bwriad yw dyblygu’r amodau hyn. Nodwyd, bod yr ymgeisydd wedi cytuno i gyfyngu ar yr oriau gweithredu presennol o '06:30awr - 20:00awr' i '07:00awr ... view the full COFNODION text for item 10. |