Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD 2025 - 2026 I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2025 - 2026 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ELWYN EDWARDS YN
GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2025/26 Cofnod: PENDERFYNWYD: AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ELWYN EDWARDS YN
GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2025/26 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD 2025 - 2026 I ethol Is
gadeirydd ar gyfer 2025 - 2026 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: PENDERFYNWYD: AIL ETHOL Y CYNGHORYDD HUW ROWLANDS YN
IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2025/26 |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd yr Aelod canlynol fuddiant mewn
perthynas â’r eitem a nodir: Y Cynghorydd Menna Baines (nad
oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7 Deddf Bywyd Gwyllt a
Chefn Gwlad 1981: ar y rhaglen, oherwydd ei bod wedi bod yn hyrwyddo’r cais. Yn dilyn derbyn cyngor gan y
Swyddog Monitro, roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu ac felly nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod b)
Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol
mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Beca Roberts (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 8.1 (C18/0767/16/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd John Pughe Roberts (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 8.2 (C24/0072/02/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 8.3 (C24/1119/42/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd Edgar Owen (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 8.4 (C20/1079/12/AC) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd Gareth Coj Parry (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 8.5 (C25/0245/14/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o drefn, adroddwyd,
gyda’r Cadeirydd a’r Swyddog Cyfreithiol yn ymuno yn rhithiol, mai Pennaeth
Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd
fyddai’n cyhoeddi canlyniadau’r pleidleisiau ar y ceisiadau. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 28ain o Ebrill 2025 fel rhai cywir. |
|
I ystyried a ddylai'r Awdurdod lunio Gorchymyn Addasu Map Swyddogol AELOD
LLEOL: Cynghorydd Menna Baines Nodyn: Atodiadau 1 -19 wedi eu cynnwys Atodiad 20 – Llinell Amser Treborth
ar gael drwy
gais Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu i’r Cyngor wneud gorchymyn dan
Adran 53 (3)(c)(i), Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, i gofrestru llwybr
A-B-C-D-E-F, fel llwybr troed cyhoeddus ar y map a’r Datganiad Swyddogol. Nodyn: Gan mai'r Cyngor ei
hun oedd y tirfeddiannwr am y mwyafrif helaeth o’r cyfnod perthnasol (1995 -
2015), ni fyddai’n briodol i’r Cyngor gefnogi a hyrwyddo Gorchymyn o’r fath pe
byddai gwrthwynebiad i’r Gorchymyn. Bydd y mater felly yn cael ei gyfeirio at Lywodraeth
Cymru i’w benderfynu gyda’r Gorchymyn yn cael ei bennu drwy gynrychiolaeth
ysgrifenedig, gwrandawiad neu Ymchwiliad Cyhoeddus. Cofnod: a)
Adroddwyd, ym mis Awst 2021, derbyniodd y Cyngor
gais gyda thystiolaeth gefnogol gan Gyngor Cymuned Pentir o dan adran 53 Deddf
Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i gofrestru llwybr troed cyhoeddus ar y Map a'r
Datganiad Swyddogol yn yr ardal Treborth.
Gwnaed y cais ar y sail fod y cyhoedd wedi cerdded ar y llwybr hwn yn
ddirwystr ac yn gyson fel petai ganddynt yr hawl (hynny yw, heb ganiatâd y
tirfeddiannwr, heb fod yn gyfrinachol a heb rym) dros gyfnod o ugain mlynedd
neu fwy. Nodwyd bod y cais wedi ei gefnogi
gan 197 o ddatganiadau tystiolaeth gan bobl oedd yn honni eu bod wedi
defnyddio’r llwybr. Eglurwyd bod y dystiolaeth yn dangos defnydd cyhoeddus
rhwng 1940 a 2021, y dyddiad pan gafodd y cais ei wneud. Ategwyd bod pedwar
llythyr o gefnogaeth a lluniau cefnogol hefyd wedi eu cyflwyno gyda’r cais. Trafodwyd cyfeiriad y llwybr mewn manyler (o’i ddechrau ar
Lwybr Cyhoeddus Rhif 12 yng Nghymuned Pentir hyd cyffordd â Llwybr Cyhoeddus
Rhif 22 yng Nghymuned Pentir. Yng nghyd-destun perchnogaeth tir, nodwyd bod y llwybr yn
croesi tir Neuadd Treborth (yr hen ysgol) sydd yn berchen i Mr a Mrs Margetson
ers mis Gorffennaf 2014. Nodwyd bod y llwybr hefyd yn croesi tir y Cyngor, sef
y bont rheilffordd, drwy Gerddi Botaneg Treborth (sef tir Prifysgol Bangor), ac
yna drwy Barc Busnes Treborth, lle mae’r llwybr yn rhedeg ar dir heb gofrestru.
Ategwyd bod sawl tirfeddiannwr cyfagos hefyd yn cael ei heffeithio gan y
llwybr. Amlygwyd bod Cyngor Gwynedd wedi bod yn berchen ar yr hen ysgol ac y
tir rhwng 1950 a 2014. Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda’r holl dirfeddianwyr sydd yn
cael ei heffeithio gan y llwybr. Tynnwyd sylw at sylwadau’r tirfeddianwyr Mr a Mrs Margetson,
oedd yn datgan ar ôl iddynt brynu Neuadd Treborth yn ôl yn mis Gorffennaf 2014,
heriwyd pobl oedd yn cerdded y llwybr, gan gynnwys gosod ambell arwydd yn nodi
bod y tir yn breifat ac arwyddion yn dweud Dim Hawl Tramwy Cyhoeddus. Amlygwyd bod y teulu yn gwrthwynebu’r cais
gyda thystiolaeth yn nodi bod pobl oedd yn defnyddio’r llwybr wedi ei ddefnyddio
gyda chaniatâd yr hen Ysgol Treborth a Chlwb Pêl-droed Penrhosgarnedd. Ategwyd
bod y Cyngor yn ymwybodol bod rhaid defnyddwyr gydag awdurdod i ddefnyddio rhan
o’r llwybr a hawlir gyda chytundeb gyda’r Cyngor a Chlwb Pêl-droed
Penrhosgarnedd (ni all y defnyddwyr yma gael eu hystyried fel hir
ddefnydd). Amlygwyd, wrth ymchwilio’r cais, bod tystiolaeth yn awgrymu
bod defnyddwyr hefyd wedi cerdded y rhan sydd rhwng gerddi botanegol, Parc
Busnes Treborth tuag at Bont Borth. Er
nad oedd unrhyw hawliau mynediad cyhoeddus yn bodoli rhwng y ddau safle yma,
ymddengys bod defnyddwyr wedi ei ddefnyddio fel parhad i lwybr y cais i
gyrraedd llefydd fel yr Antelope Inn,
Bont y Borth neu fel rhan o gylchdaith o’u cartref sydd yn cychwyn o Dreborth, Penrhosgarnedd neu dopiau Bangor. Yn dilyn hyn a
chyngor cyfreithiol, diwygiwyd y cynllun. Yng nghyd-destun dyddiad Codi Cwestiwn, yn unol â threfn cyflwyno achos o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor
ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y
ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau
o’r polisïau |
|
Cais Rhif C18/0767/16/LL Tir yn Coed Wern, Glasinfryn,, Bangor, LL57 4BE Datblygiad
llety gwyliau (cynllun diwygiedig) sy'n golygu:- ·
Gosod
sylfeini ar gyfer cabannau gyda decio cysylltiedig. ·
Gosod
sylfeini ar gyfer podiau glampio. ·
Seilwaith
cysylltiedig i gynnwys ffyrdd mewnol, mannau parcio, systemau draenio
cynaliadwy ynghyd a draenio dwr aflan. ·
Tirlunio
meddal a chaled gan gynnwys torri rhai coed, cadw coed ac ymgymryd a
gwelliannau i'r goedlan presennol. ·
Codi
derbynfa/adeilad gwerthiant ynghyd ac ail-orchuddio'r adeilad presennol a'i
ddefnyddio fel hwb e-beicio gyda
pwyntiau gwefru trydan. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod
yn groes i’r argymhelliad Rhesymau: Gwrthod ar sail Polisi TWR 3
Rhan 1 maen prawf i, y byddai’r safle yn arwain at ormodedd o safleoedd
carafanau sefydlog neu safleoedd siale neu safleoedd gwersylla amgen parhaol yn
yr ardal leol a fyddai yn achosi effaith weledol andwyol ac effaith andwyol ar
fwynderau’r ardal a thrigolion lleol oherwydd aflonyddwch. Cofnod: Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr Roedd
rhai o’r Aeldoau wedi ymweld ar safle 12-05-25 Datblygiad llety gwyliau
(cynllun diwygiedig) sy'n golygu:- ·
Gosod sylfeini ar gyfer
cabannau gyda decio cysylltiedig. ·
Gosod sylfeini ar gyfer podiau glampio. ·
Seilwaith cysylltiedig i gynnwys ffyrdd mewnol,
mannau parcio, systemau draenio cynaliadwy ynghyd a draenio dŵr aflan. ·
Tirlunio meddal a chaled gan gynnwys torri rhai
coed, cadw coed ac ymgymryd â gwelliannau i'r goedlan bresennol. ·
Codi derbynfa/adeilad gwerthiant ynghyd ac
ail-orchuddio'r adeilad presennol a'i ddefnyddio fel hwb e-beicio gyda phwyntiau gwefru trydan. a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer darparu
llety gwyliau a gwaith
cysylltiedig o fewn coedlan bresennol i’r de-ddwyrain o bentref Glasinfryn.
Mynegwyd, ers cyflwyno’r cais yn wreiddiol yn 2018, bod y datblygiad wedi ei
ddiwygio a’i leihau nifer o weithiau a bellach y nifer o unedau wedi eu lleihau
i 25 caban gwyliau a 4 pod glampio. Nodwyd bod y goedlan, sy’n
ffurfio’r ffin gyda’r ffordd Dosbarth III tuag at Glasinfryn, yn destun
Gorchymyn Gwarchod Coed gyda gweddill y safle yn Safle Bywyd Gwyllt ymgeisiol. Cyfeiriwyd at Polisi TWR 3
sy’n caniatáu cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau neu siale
sefydlog newydd, neu lety gwersylla amgen parhaol y tu allan i Ardaloedd o
Harddwch Naturiol Eithriadol ac Ardaloedd Tirwedd Arbennig, yn ddarostyngedig i
feini prawf perthnasol. Adroddwyd bod y maen prawf
cyntaf yn cyfeirio’n benodol at ormodedd o ddatblygiadau newydd, ac ‘Astudiaeth
Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn Ynys Môn,
Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri’ er mwyn diffinio gormodedd ar gyfer y safle
yma. Ategwyd bod yr Astudiaeth yn nodi fod rhywfaint o gapasiti
ar gyfer datblygiadau bach i bach iawn y tu allan i’r safleoedd sy’n cyfrannu
tuag at osodiad Parc Cenedlaethol Eryri o fewn yr Ardal Cymeriad Tirwedd
penodol yma, gyda’r Astudiaeth yn diffinio datblygiadau ‘bach iawn’ fel rhai
hyd at 10 uned a datblygiadau ‘bach’ fel rhwng 10 - 25 uned. Er bod nifer
unedau sy’n destun y cais yma yn 29 a gan gydnabod bod y ffigwr yma yn uwch
na’r hyn a ddiffinnir fel datblygiad bychan yn yr Astudiaeth, rhoddwyd
ystyriaeth i gapasiti ardaloedd ar gyfartaledd yn
hytrach na lleoliadau unigol, ac ystyriaeth i’r safle fel un cuddiedig. I’r
perwyl hyn, ystyriwyd bod capasiti digonol i’r safle
yn yr ardal benodol yma, a gan ei fod yn safle anymwthiol sydd eisoes wedi ei
sgrinio’n dda roedd hefyd yn cydymffurfio gyda’r ail faen prawf. Yng nghyd-destun y maen
prawf sy’n cyfeirio at ddarparu mynediad digonol heb amharu’n sylweddol ar
nodweddion a chymeriad y dirwedd, ynghyd a sicrhau fod y safle yn agos at brif
rwydwaith ffyrdd, nodwyd bod mynedfa i’r safle yn bodoli’n bresennol gyda bwriad
i’w wella a darparu llain welededd i foddhad yr Uned Drafnidiaeth yn ogystal â
gwarchod y gwrych sydd yn destun Gorchymyn Gwarchod Coed. Cyfeiriwyd at gynnwys yr asesiad manwl ar effaith ar fwynderau trigolion cyfagos, ond yn y pen draw ac ar sail y pellter a natur guddiedig y safle, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.1 |
|
Cais Rhif C24/0072/02/LL Tir ger Pandy, Corris, SY20 9RJ Cynllun
arallgyfeirio fferm ar gyfer gosod 5 uned llety gwyliau ar y tir AELOD
LLEOL: Cynghorydd John Pughe Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod yn unol
ar argymhelliad Rhesymau:
Cofnod: Cynllun
arallgyfeirio fferm ar gyfer gosod 5 uned llety gwyliau ar y tir Roedd
rhai o’r Aelodau wedi ymweld ar safle 12-05-25 a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais
ydoedd ar gyfer newid defnydd
tir a datblygu llety gwyliau newydd
ar ffurf 5 pod glampio parhaol, parcio cysylltiedig, addasiadau i’r fynedfa, draenio a thirlunio. Ategwyd bod y safle wedi ei
leoli yng nghefn gwlad ac o fewn Ardal Tirwedd
Arbennig. I’r de o’r safle mae
Afon Dulas a gyda thopograffi’r safle yn goleddu lawr
o’r ffordd tuag at yr afon, byddai’r unedau wedi eu lleoli
ar y llethr uwchben yr afon. Aroddwyd bod eiddo preswyl yn ffinio
gyda’r safle ac un adeilad allanol
nad yw ym
mherchnogaeth yr ymgeisydd
ger y fynedfa bresennol. Eglurwyd bod y podiau o’r
math sy’n golygu mai polisi TWR 3 oedd yn berthnasol.
Tynnwyd sylw at bwynt 1 polisi TWR 3 sy’n cadarnhau y gwrthodir cynigion i ddatblygu safleoedd
carafanau sefydlog newydd, safleoedd sialé gwyliau newydd
neu lety gwersylla amgen parhaol o fewn Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol Môn neu
Llyn ac yn yr Ardaloedd Tirwedd Arbennig. Yn sgil hyn mae’r
bwriad yn sylfaenol groes i bwynt 1 o bolisi
TWR 3 a pholisi PCYFF 1 gan
y byddai’n sefydlu safle gwersylla amgen parhaol newydd
oddi fewn i’r Ardal Tirwedd
Arbennig. Amlygwyd bod y tŷ annedd
agosaf i’r safle wedi ei
leoli ar waelod y trac a fyddai’n cael ei ddefnyddio
gan ddefnyddwyr yr unedau gwyliau arfaethedig.Yn bresennol, caeau amaethyddol a’r afon sydd
o amgylch y tŷ annedd yma sydd
mewn lleoliad gymharol breifat, llonydd a thawel a lle nad oes
llawer o weithgareddau ac aflonyddwch i ddeiliaid
yr eiddo. Byddai cyflwyno safle gwersylla amgen yn y lleoliad hwn
gyda’r potensial i achosi effaith
andwyol annerbyniol ar yr eiddo cyfagos
oherwydd mwy o weithgaredd, sŵn ac aflonyddwch gan ymwelwyr. Mae natur defnydd gwyliau yn golygu symudiadau
gwahanol i unedau preswyl parhaol, ac nid yw’r ymgeisydd yn byw ar
y safle o ran gallu goruchwylio a rheoli’r safle ac ymateb i unrhyw faterion
neu broblemau allai godi ar y pryd.
Ystyriwyd fod y bwriad felly yn groes i ofynion
maen prawf 7 o Bolisi PCYFF 2 ar sail effaith ar mwynderau’r
cymdogion. Yng nghyd-destun
materion priffyrdd, bioamrywiaeth, archeolegol, cynaliadwyedd, llifogydd, draenio ac ieithyddol nodwyd eu bod wedi
derbyn sylw priodol ac ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol o ran y materion
hynny, ond nodwyd nad oedd
hynny yn goresgyn gwrthwynebiad sylfaenol i’r bwriad
ar sail yr egwyddor ei fod wedi
ei leoli o fewn Ardal Tirwedd
Arbennig Roedd y swyddogion yn argymell gwrthod y cais b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y
sylwadau canlynol; ·
Bod eu cartref Pandy,
gerllaw'r safle, yn hen felin, llawn cymeriad ·
Yr eiddo wedi ei brynu
gyda’r sicrwydd ei fod wedi ei warchod rhag datblygiad · Bod yr eiddo ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.2 |
|
Cais Rhif C24/1119/42/LL Tir ger Helyg, Tai Lôn, Nefyn, Pwllheli, LL53 6LG Cais llawn i godi hyd at 14 o dai fforddiadwy
(dosbarth defnydd C3) ynghyd a datblygiadau cysylltiol gan gynnwys creu mynedfa
gerbydol a ffordd stad newydd, gofod mwynderol, tirlunio a gwelliannau
bioamrywiaeth AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd
ganiatáu’r cais gyda’r amodau canlynol : 1. Amser 2. Datblygiad
yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd 3. Rhaid
cyflwyno a chytuno ar raglen ddarparu tai fforddiadwy 4. Rhaid
cytuno’r deunyddiau allanol gan gynnwys y llechi to 5. Tynnu’r
Hawliau Datblygu a Ganiateir 6. Amod
Dŵr Cymru 7. Amodau
Priffyrdd 8. Amodau
Bioamrywiaeth 9. Cynllun
Rheolaeth Adeiladu 10. Rhaid rhoi
enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol. 11. Cyfyngu’r
defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig 12. Cwblhau
tirlunio 13. Cytuno
manylion cyfarpar chwarae Cofnod: Tir Ger
Helyg, Tai Lôn, Nefyn, Pwllheli, LL53 6LG Cais llawn i godi hyd at 14 o dai fforddiadwy
(dosbarth defnydd C3) ynghyd a datblygiadau cysylltiol gan gynnwys creu mynedfa
gerbydol a ffordd stad newydd, gofod mwynderol,
tirlunio a gwelliannau bioamrywiaeth Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio mai cais llawn ydoedd i godi 14 uned byw newydd ynghyd a gwaith
cysylltiol ar safle tu mewn i ffin ddatblygu gyfredol tref Nefyn sydd wedi ei
ddynodi yn benodol ar gyfer codi tai yn y CDLl. Bydd
y datblygiad yn cynnig 4 fflat un ystafell wely, 5 tŷ dwy ystafell wely, 4
tŷ tair ystafell wely ac 1 tŷ 4 ystafell wely. Nodwyd bod yr
ymgeisydd yn cadarnhau mai ar ffurf cynllun niwtral o ran deiliadaeth y
cyflwynwyd y datblygiad sef cynllun fyddai’n darparu 100% o dai fforddiadwy
gyda chymysgedd o ran deiliadaeth yn cael ei ddarparu (e.e. tai rhent
cymdeithasol, tai rhent fforddiadwy canolradd, rhan berchnogaeth) i ddiwallu’r
angen ac i ganiatáu ar gyfer newid yn amgylchiadau aelwydydd unwaith y bydd y
cynllun wedi’i adeiladu. Eglurwyd bod y safle’n bresennol yn dir
amaethyddol agored gyda chloddiau a gwrychoedd yn ei amgylchynu gyda’r brif
ffordd B4437 yn gyfochrog a ffin gogleddol y safle; y safle a’r ardal ehangach
o fewn dynodiad Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Adroddwyd, yn unol â threfniadau cynllun
dirprwyo Gwasanaeth Cynllunio Gwynedd,
cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor gan fod nifer o dai sydd yn cael eu
darparu yn 5 neu fwy. Yn unol â’r drefn briodol fe dderbyniwyd Adroddiad
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fel rhan o’r cais a bod y datblygwr wedi hysbysebu’r
bwriad i’r cyhoedd ac ymgynghorwr statudol cyn cyflwyno cais cynllunio
ffurfiol. Cwblhawyd asesiad llawn o’r holl faterion perthnasol gan gynnwys
cydymffurfiaeth gyda pholisïau a chanllawiau mabwysiedig yn ogystal ag
ystyriaeth lawn o’r holl sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd. O ganlyniad,
ystyriwyd fod y bwriad fel a gyflwynwyd yn dderbyniol ar sail: ·
Bod polisïau mabwysiedig
yr Awdurdod yn datgan y bydd y cynghorau’n ceisio sicrhau lefel briodol o dai
fforddiadwy yn ardal y cynllun. Mae’r bwriad yn paratoi datblygiad fyddai’n
cynnwys 100% o unedau fforddiadwy gyda’r Uned Strategol Tai yn cadarnhau fod
tystiolaeth am yr angen er mwyn cyfiawnhau’r ddarpariaeth fel y bwriedir er
mwyn cyfarch anghenion y gymuned leol. ·
Bod y safle wedi ei
ddynodi yn benodol ar gyfer codi tai gyda amcangyfrif y safle yn dangos y
gellir darparu 19 uned ar y safle. Gyda’r cynnig fel y cyflwynwyd yn dderbyniol
ag yn bodloni gofynion y polisïau perthnasol, roedd y swyddogion yn argymell
caniatáu’r cais. b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol; ·
Bod y datblygiad am 14
uned byw fforddiadwy wedi ei baratoi i ddiwallu'r angen am dai yn lleol · Er bod y safle wedi ei ddyrannu ar gyfer 19 uned gyda’r angen am 10% ohonynt yn fforddiadwy, y bwriad yma yn cynnig 14 uned fyddai’n darparu 100% o dai fforddiadwy yn cwrdd â’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.3 |
|
Cais Rhif C20/1079/12/AC Hafod Y Wern, Waunfawr, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7AQ Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad
a Thref i Amrywio Amod 2 ar Ganiatad Cynllunio C04A/0771/12/MW (Symud Deunydd o
Ddyddodion Gweithio Mwynau) er mwyn Caniatau Estyniad o 2-Flynedd i Gwblhau'r
Gwaith Mwynau hyd at 31/12/2022, Gydag Adfer Terfynnol i'w Gwblhau Erbyn
31/12/2023 AELOD LLEOL: Cynghorydd Edgar Owen Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran
Amgylchedd wrthod y cais Rhesymau:
Cofnod: PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran
Amgylchedd wrthod y cais Rhesymau:
Hafod Y Wern, Waunfawr, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7AQ Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref i Amrywio Amod 2
ar Ganiatâd Cynllunio C04A/0771/12/MW (Symud Deunydd o Ddyddodion Gweithio
Mwynau) er mwyn Caniatáu Estyniad o 2-Flynedd i Gwblhau'r Gwaith Mwynau hyd at
31/12/2022, Gydag Adfer Terfynol i'w Gwblhau Erbyn 31/12/2023 a) Amlygodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod y caniatâd presennol ar gyfer tynnu
gwastraff llechi o ddyddodion gwaith mwynau yn chwarel Hafod y Wern, Betws
Garmon ger pentref Waunfawr. Yng nghyd-destun egwyddor y bwriad, nodwyd
bod Polisi MWYN 3 yn cefnogi datblygiad mwynau yn amodol ar gydymffurfio â
chyfres o feini prawf gyda maen prawf 10 yn gofyn bod "Y bwriad yn cynnwys
cynllun ôl-ddefnydd ar gyfer y safle a manylion y gwaith adfer ac ôl-ofal sy'n
ofynnol er mwyn cyflawni hynny yn unol â Pholisi MWYN 9". Dywed Polisi
Mwyn 9 bod ceisiadau ar gyfer gwaith mwynau yn cael eu gwrthod oni bai bod
cynllun adfer, ôl-ofal ac ôl-ddefnydd yn cael ei gyflwyno. Ategwyd, yn ogystal â gofynion y
polisi yma, mae'r caniatâd cynllunio cyfredol yn destun amod sy'n gofyn am
gyflwyno strategaeth adfer ac ôl-ofal o fewn blwyddyn o'r caniatâd. Er i’r
awdurdod ofyn lawer gwaith am y wybodaeth, nid yw’r ymgeisydd wedi darparu
cynllun adfer ac ôl-ofal ac o ganlyniad
mae’r cais yn groes i feini prawf 10 o bolisi MWYN 3 a pholisi MWYN 9. Wrth ystyried mwynderau gweledol a’r dirwedd
cyfeiriwyd at bolisïau PCYFF 3, AMG 2, MWYN 3 a MWYN 9 o'r CDLl
sy’n bolisïau perthnasol yn nhermau effaith gweledol a'r dirwedd. Nodwyd, heb
gynigion adfer ac ôl-ofal digonol ar gyfer y safle yn dilyn rhoi'r gorau i
waredu gwastraff mwynau, nid oedd modd i'r Awdurdod Cynllunio Mwynau fod yn
sicr na fyddai ymddangosiad y safle yn cael effaith andwyol ar fwynderau
gweledol a'r Ardal Tirwedd Arbennig ac, yn dilyn hynny, nid yw'n cydymffurfio â
pholisïau PCYFF 3, AMG 2, MWYN 3 a MWYN 9 o'r CDLl. Yng nghyd-destun mwynderau preswyl, nid yw'r
bwriad yn cynnwys unrhyw newidiadau i'r trefniadau gweithio a ganiatawyd ar
gyfer y safle ac ni ystyriwyd y bydd ymestyn hyd y datblygiad yn cael effaith
niweidiol ar fwynderau'r ardal ac felly, mae'n cydymffurfio ag anghenion
polisïau PCYFF 2. Fodd bynnag, nid yw hyn yn goresgyn y rhesymau dros wrthod
sy'n ymwneud ag egwyddor y datblygiad. Yng nghyd-destun priffyrdd, ni fydd y bwriad yn newid trefniadau mynediad cerbydol neu draffig yn deillio o'r datblygiad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.4 |
|
Uwchraddio
ac ail-adeiladu cae stadiwm presennol AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Coj Parry Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod a derbyn gwybodaeth
ychwanegol i ddod dros sylwadau’r Heneb a Dŵr Cymru. Amodau:
Cofnod: Uwchraddio ac ail-adeiladu cae stadiwm
presennol Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr a)
Amlygodd Arweinydd Tîm
Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd fyddai’n golygu lefelu ac ail greu’r
cae gwreiddiol gan osod haenau o ddefnyddiau gwahanol i gynnwys tywod a graean
er mwyn sicrhau draenio digonol. Bydd gwaith draenio yn cynnwys pibelli draenio
a wal gynnal gyda ffens o reiliau ysgafn yn cael ei osod o amgylch y cae
newydd. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn safle cae pêl droed presennol
Tref Caernarfon sydd o fewn ardal breswyl a ffin ddatblygu'r dref. Yn y bôn ailwampio ac uwchraddio’r
cyfleusterau presennol sydd ar y safle yw’r bwriad gyda chyfleusterau hamdden a
chymunedol lleol yn bwysig i anghenion iechyd, cymdeithasol, addysgol,
ieithyddol a diwylliannol Gwynedd, yn ogystal â’i les economaidd. Ystyriwyd fod
y bwriad a’i raddfa yn y lleoliad yma yn addas ac yn dderbyniol yn nhermau
polisïau PCYFF 1 ac ISA 2. Cydnabuwyd fod lleoliad y bwriad o fewn ardal
preswyl, ond mae hefyd yn gae pêl-droed presennol. Ni ystyriwyd y byddai’r
bwriad, gan gynnwys y ffens ar wal gynnal, yn creu nodwedd estronol o ystyried
yr adeiladau a strwythurau sy’n bodoli eisoes. Ategwyd bod y cae yn rhannol
weledol o fannau cyhoeddus, ond nid yw’r datblygiad yn cynnig elfennau gwbl
newydd i’r hyn sydd yn bodoli eisoes ar y safle; Ni fydd defnydd y safle yn
newid ac felly bydd effaith ar gymdogion o ran prysurdeb ac aflonyddwch yn
parhau yn yr un modd. Ategwyd y bydd amod yn cael ei osod yn dilyn sylwadau
Gwarchod Y Cyhoedd i reoli oriau adeiladu ar y safle er mwyn lleihau lefel
sŵn ac effeithiau bosib ar gymdogion cyfagos. I’r perwyl hyn felly
ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o ran effaith ar yr ardal a’r gymdogaeth
leol; ynghyd ag amodau cynllunio priodol i sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth o
ganlyniad i’r bwriad. Tynnwyd sylw fod sylwadau Heneb yn cadarnhau
bod angen ymgymryd ag arolwg geoffisegol o safle'r cais er mwyn gallu asesu’r
potensial ar gyfer archeoleg a sut mae angen mynd i’r afael a’r hyn a ganfyddir
ar y safle cyn i benderfyniad gael ei rhyddhau.. Yn dilyn cwblhau’r gwaith yma
byddai posib gosod amodau penodol ar gyfer gofynion archeolegol pellach, ac
felly ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o ran polisi AT 4. Yn yr un modd, roedd Dwr Cymru wedi cadarnhau
gwrthwynebiad sy’n sefyll ar sail lleoliad y garthfos gyhoeddus o’i gymharu â'r
gwaith arfaethedig. Nodwyd bod yr asiant yn gweithio gyda Dŵr Cymru er
mwyn canfod datrysiad. Ategwyd bod ymateb Dŵr Cymru hefyd yn cyfeirio at y
posibilrwydd o ddod i gytundeb ar gyfer symud y garthffos ac felly, yn y pen
draw ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol unwaith bydd datrysiad wedi ei gytuno
rhwng yr ymgeisydd a Dŵr Cymru. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i ddelio gyda’r materion archeoleg a Dŵr Cymru ac roedd y swyddogion yn argymell dirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais unwaith bydd y materion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.5 |