Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi Estynwyd cydymdeimlad dwys tuag at deulu y Cynghorydd Charles Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Y Cyfreithiwr Rhun ap
Gareth, yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1072/11/LL) oherwydd bod
ei ewythr yn byw gerllaw'r
safle. Roedd y swyddog o’r farn
ei fod yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu
a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar y cais. b)
Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: Y Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0607/42/DT) Y Cynghorydd John Brynmor Hughes (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0070/39/DT) |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20
Hydref 2020 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 20fed o Hydref
2020 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C20/0607/42/DT - Garth Hudol Rhodfa'r Môr, Nefyn, Pwllheli PDF 320 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD gwrthod y cais
Rhesymau:
Cofnod: Estyniad deulawr a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
ar gyfer estyniad deulawr i dŷ
presennol fyddai’n ymestyn 3.6m o’r wal bresennol. Byddai elfen unllawr
i’r estyniad, gyda tho unllethr
ar ben deheuol y strwythur; yn 5.5m o hyd gyda 1.5m ohono’n
unllawr; yn
creu lolfa ychwanegol i lawr
grisiau ac ymestyn llofft bresennol a chreu ystafell ymolchi ychwanegol ar y llawr cyntaf.
Amlygwyd bod yr eiddo yn dŷ sylweddol yn sefyll ar
wahân mewn ardal anheddol o fewn ffin datblygu
Canolfan Gwasanaeth Lleol Nefyn. Ategwyd
bod y cais yn cael ei gyflwyno
i Bwyllgor ar gais yr
Aelod Lleol. Cyfeiriwyd at bolisi AT 3 sydd yn anelu at amddiffyn
asedau treftadaeth nad ydynt
wedi’u dynodi, ond sydd o arwyddocâd lleol.
Cydnabyddir fod peth arwyddocâd hanesyddol i Garth Hudol o’i gysylltiad
llenyddol ac yn wir ei fod
yn adeilad nodedig a deniadol sy’n werthfawr o ran ei le yn y strydlun.
Er hynny, nodwyd bod graddfa eithaf bychan i’r
estyniad arfaethedig o’i gymharu â’r
tŷ ynghyd a dyluniad sydd yn
gweddu’n dderbyniol gyda’r gwreiddiol o safbwynt nodweddion megis siâp ac uchder
y to a maint a lleoliad y ffenestri. O ganlyniad, ystyriwyd bod y datblygiad yn sympathetig i’w amgylchedd adeiledig a, thrwy amodau priodol, gellid sicrhau’r defnydd o ddeunyddiau addas er sicrhau
cysondeb gyda’r tŷ gwreiddiol. Ategwyd nad oedd
yr adeilad yn rhestredig ac nid oedd yr
adeilad, na’i nodweddion, wedi eu hamddiffyn yn
statudol. O ystyried y byddai’r estyniad i’r gorllewin
o eiddo drws nesaf, adroddwyd y byddai’n anorfod y bydd peth colled
goleuni i ffenestri Ceris yn deillio o’r
datblygiad yn enwedig yn hwyrach
yn y dydd. Er hynny, nodwyd
bod ffenestri ochr Ceris eisoes yn
edrych ar edrychiad ochr Garth Hudol ac, yn y bôn, effaith y datblygiad fyddai dod a 5.5m o’r
edrychiad ochr 3.6m yn agosach gyda
4m yn unig yn ddeulawr. Tynnwyd
sylw pellach at y ffaith y gall Garth Hudol gwblhau datblygiadau dan hawliau datblygiad
a ganiateir a fyddai’n galluogi codi strwythur
3m o uchder yn union ger y ffin gyda’r
cymdogion. Cydnabuwyd y byddai peth niwed
mwynderol i eiddo Ceris o safbwynt
cysgodi a cholled goleuni, ond ni ystyriwyd y byddai’r effeithiau niweidiol hynny ynddo’u hunain yn ddigon arwyddocaol
o’u cymharu â’r sefyllfa bresennol
i gyfiawnhau gwrthod y cais. Mewn ymateb i
bryderon ynghylch yr effaith ar
breifatrwydd Ceris nodwyd y byddai’r ffenestri yn edrychiad
gogleddol yr estyniad yn edrych
dros ardd y cymdogion gyda gardd flaen Ceris
eisoes yn weladwy o’r ffordd
gerllaw. O ganlyniad, ni ystyriwyd
y byddai’r estyniad yn ychwanegu’n arwyddocaol at or-edrych dros ardaloedd allanol eiddo’r cymdogion. Wedi pwyso a mesur y cais cynllunio
yn erbyn gofynion y polisïau lleol a chenedlaethol ynghyd a’r sylwadau
ar wrthwynebiadau a dderbyniwyd, ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol. b) Yn manteisio ar yr hawl ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C20/0070/39/DT - Ty Wiggins, 12 Lôn Cernyw, Bwlchtocyn, Pwllheli PDF 323 KB Estyniad
yn cynnwys codi uchder y to AELOD
LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio er
mwyn paratoi fideo a lluniau ychwanegol o’r ystâd a’r safle Cofnod:
Estyniad yn cynnwys codi uchder y to Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
am estyniad yn cynnwys codi uchder
to i eiddo wedi ei leoli
yng nghefn gwlad ardal Bwlchtocyn
ac o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ategwyd ei fod
hefyd oddi fewn i Dirwedd
o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol ac wedi ei leoli mewn
ystâd o dai . Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor ar gais yr
Aelod Lleol. Eglurwyd,
o edrych o flaen yr eiddo, byddai
uchder brig y to yn cael ei godi
o rhyw 5 medr i 6.5 medr gyda
to brig hefyd i’w osod uwchben y modurdy presennol. Byddai’r estyniad cefn yn creu
balconi ar lefel llawr cyntaf
gyda decin yn parhau oddi
tano ar lefel
llawr daear. Ystyriwyd
fod y bwriad o ran ei ddyluniad, graddfa
a maint yn dderbyniol ac yn gymesur gyda’r eiddo presennol - ni fyddai
yn orddatblygiad gyda thir mwynderol
digonol yn parhau ar gyfer
defnydd yr eiddo. Cydnabuwyd y pryderon oedd wedi ei
cyflwyno am godi lefel y to a’r ffaith fod gweddill
y tai o fewn yr ystâd yn dai
unllawr. Er yn creu eiddo
uwch ystyriwyd bod y dyluniad ar y cyfan
yn cadw edrychiad
cyffelyb i’r presennol yn arbennig
felly i’r edrychiad blaen sy’n wynebu’r
ystâd nac yn cael effaith
ormesol ar weddill yr ystâd. Ategwyd bod yr eiddo wedi
ei leoli ym mhen pellaf
yr ystâd ble mae’r tir
ar lefel is ac felly ni fyddai’r
codi’r uchder yn cael effaith
andwyol ar fwynderau gweledol yr ardal. Cydnabuwyd hefyd y pryderon y byddai’r bwriad yn creu
cynsail ar gyfer datblygiadau cyffelyb ar weddill
yr ystâd, fodd bynnag, bydd
gofyn asesu pob cais ar
ei rinweddau ei hun ac nid
yw’r ffaith y byddai’r cais yma
yn cael caniatâd
cynllunio yn ffurfio cynsail ar gyfer gweddill
yr ystâd. Cyfeiriwyd at sylwadau’r Uned AHNE gan nodi nad oedd gwrthwynebiad ganddynt o ystyried bod yr eiddo yn dŷ
unllawr lled-ddiweddar ac nad ydoedd mewn
lleoliad amlwg o fannau cyhoeddus. O ganlyniad, ni ystyriwyd
y byddai’r addasiadau bwriededig yn gwneud
i’r adeilad amharu
ar yr AHNE. Er wedi ei leoli
o fewn yr AHNE mae’r eiddo wedi
ei leoli yng nghanol tai
eraill ac yn ffurfio rhan o ffurf adeiledig bresennol y rhan yma o Bwlchtocyn ac yn sgil hyn
ni fyddai’n sefyll allan yn
y dirwedd. O ganlyniad,
ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn cael
effaith niweidiol andwyol ar yr
ardal na’r AHNE a bod dyluniad y bwriad yn dderbyniol. Hefyd ni ystyriwyd
bod goblygiadau o ran diogelwch
ffyrdd na mwynderau trigolion cyfagos. b)
Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:- · Nad cais i droi tŷ un llawr i dŷ dau lawr oedd y cais ond un i godi to'r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C20/0350/42/DT - Fferm Cae Rhug Ffordd Dewi Sant, Nefyn, Pwllheli PDF 315 KB Adeiladu
modurdy ac ymestyn cwrtil AELOD LLEOL:
Cynghorydd Gruffydd Williams Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Yr ymgeisydd
wedi tynnu’r cais yn ôl Cofnod: Roedd yr ymgeisydd wedi tynnu y cais yn ol |
|
Cais Rhif C20/0623/19/AC - Tir ger Lon Cefnwerthyd, Bontnewydd, Caernarfon PDF 350 KB Cais i newid
amodau 2 a 21 o ganiatad cynllunio C19/0014/19/LL er mwyn symud plot 14 a 29 a
symud modurdy plot 17, lleihau lefel slab plotiau 18 a 26 a tynnu rhan o'r
llwybr troed i'r 'hammerhead' AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod: 1.
Amser 2.
Cydymffurfio gyda chynlluniau perthnasol a’r
holl adroddiadau 3.
Deunyddiau/llechi - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan
C19/0994/19/AC 4.
Tirlunio a ffiniau'r safle - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan
C19/0994/19/AC, C19/1082/19/RA ac C20/0226/19/RA 5.
Priffyrdd CEMP - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan C19/0994/19/AC 6.
Draenio 7.
Bioamrywiaeth a rheoli effeithiau amgylcheddol - manylion yn unol â’r hyn a
gytunwyd o dan C19/0994/19/AC 8.
Archaeoleg - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan C19/1082/19/RA 9.
Cynllun
Rheolaeth Adeiladu 10.
Tynnu
hawliau datblygu cyffredinol oddi ar y tai fforddiadwy 11.
Tynnu
hawliau datblygu cyffredinol oddi ar blotiau 14, 15, 16, 17 (gan gynnwys gosod
ffenestri ychwanegol a ffenestri to) 12.
Cytuno gwydr afloyw i ffenestr llofft sydd ar
gefn plot 14 a chytuno dull agor 13.
Enw
Cymraeg i’r stad a’r tai 14.
Manylion
ac amserlen gosod offer o fewn y llecyn agored. 15.
Cytuno ar drefniadau sicrhau tai fforddiadwy. - manylion yn unol â’r hyn a
gytunwyd o dan C19/0994/19/AC Nodyn SUDS Cofnod: Cais
i newid amodau 2 a 21 o ganiatâd cynllunio C19/0014/19/LL er mwyn symud plot 14
a 29 a symud modurdy plot 17, lleihau lefel slab plotiau 18 a 26 a thynnu rhan
o'r llwybr troed i'r 'hammerhead' Tynnwyd sylw at
y ffurflen sylwadau hwyr a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer newid
amodau 2 a 21 o ganiatâd cynllunio C19/0014/19/LL. Adroddwyd bod caniatâd
cynllunio gwreiddiol C19/0014/19/LL ar gyfer codi 29 uned byw ynghyd â chreu
mynedfa gerbydol newydd, llecynnau parcio, gwaith tirlunio a chreu ardal
gyhoeddus agored.
Tynnwyd sylw bod
cais ar gyfer newid di-faterol ar gyfer y newidiadau gerbron wedi ei gyflwyno o
dan gyfeirnod C20/0198/19/DA ac wedi ei wrthod oherwydd bod symud plot 14 yn
debygol o gael effaith ar eiddo cyfagos sydd angen ei asesu fel rhan o gais
ffurfiol. Nodir fod gweddill y newidiadau yn ddi-faterol ac yn destun y cais
yma o ran hwylustod delio gyda’r holl faterion gyda’i gilydd. Atgoffwyd
yr Aelodau bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle yma eisoes wedi derbyn caniatâd
cynllunio o dan C19/0014/19/LL, ac nad oedd y newidiadau i’r bwriad gerbron yn
cael unrhyw effaith ar leoliad, cyfanswm nifer, y canran o dai fforddiadwy,
cymysgedd tai na chynllun cyffredinol y safle ac felly ystyriwyd fod y bwriad
yn parhau i gydymffurfio gyda gofynion polisïau PS 16, PS 17, PCYFF 1, TAI 3 a
TAI 15 o'r CDLL fel y cadarnhawyd yn y cais blaenorol. Ategwyd bod y gwaith
adeiladu eisoes wedi dechrau ar y safle Amlygwyd bod y bwriad yn golygu symud plot 14 oddeutu 1m yn agosach i blot 15 (sydd union ddrws nesaf) er mwyn pellhau’r eiddo oddi wrth y gwrych sy’n ffinio o gwmpas y safle i gyd. Cyfeiriwyd at eiddo ‘Tywyn’ sydd wedi ei leoli gydag ochr y safle ac yn ffinio a chefnau plotiau 14, 15 ac 16, gyda chefn plot 14 yn wynebu gardd gefn Tywyn. Byddai symud plot 14 fel y cynigir yn y cais yma yn golygu y byddai’r ffenestr oriel ar gefn eiddo plot 14 yn edrych dros ran fechan o gornel ben draw ardd gefn eiddo Tywyn. Ystyriwyd fod yr ardal yma mor fychan â chan ei fod wedi ei leoli o fewn cornel ym mhen draw’r ardd (sydd yn ardd eang ac oddi wrth y rhannau union gerllaw tŷ ‘Tywyn’) ni ystyriwyd y byddai’n cael effaith andwyol sylweddol ar breifatrwydd eiddo Tywyn. Amlygwyd bod perchennog Tywyn yn gwrthwynebu’r bwriad ar sail unrhyw or-edrych dros ei eiddo. Er hynny, yn yr achos yma ystyriwyd fod y goredrych posib yn lleiafrifol ac o’i gymharu â’r ardal eang o ardd eiddo Tywyn, nad yw’n cael ei effeithio - ni fyddai’n rhesymol i wrthod y bwriad ar y sail yma. Nodwyd mai lleoliad eiddo plot 14 o fewn y plot yn unig oedd yn destun y cais, ac mae ei ddyluniad a lefel llawr yn unol â’r hyn sydd eisoes wedi ei ganiatáu o dan y cais blaenorol. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |