Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi
materion protocol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am
y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Gruffydd Williams
yn eitem 5.2 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0614/43/LL) oherwydd ei fod
yn fab i’r ymgeisydd. ·
Y Cynghorydd Owain Williams yn
eitem 5.2 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0614/43/LL) oherwydd ef oedd
perchennog y safle. ·
Y Cynghorydd Berwyn Parry
Jones yn eitem 5.4 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0744/23/R3) oherwydd
ei fod yn ffrindiau hefo perchennog y tir. Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Gruffydd
Williams, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0614/43/LL); ·
Y Cynghorydd Aled Wyn Jones,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C18/0614/43/LL); ·
Y Cynghorydd Dewi Roberts (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C18/0715/39/LL); ·
Y Cynghorydd Gareth Griffith,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C18/0614/43/LL); Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24ain
o Fedi 2018 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Medi 2018, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO To submit the report of the Head of Environment Department. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd
ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau
ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Dymchwel uned storio bresennol ac adeiladu 2 uned wyliau (cais diwygiedig) AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gruffydd Williams Dolen
i'r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel uned storio
bresennol ac adeiladu 2 uned wyliau (cais diwygiedig) Tynnwyd
sylw at y sylwadau ychwanegol (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau
bod penderfyniad wedi ei wneud ym Mhwyllgor 25 Mehefin i ohirio’r penderfyniad
er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am effaith gronnol unedau gwyliau'r ardal y
cais. Ategwyd bod y cais yn ymwneud a
dymchwel sied bresennol ac adeiladu 2 uned gwyliau unllawr.
Nodwyd bod adroddiad diwygiedig wedi ei ddosbarthu i’r aelodau. O ran egwyddor y datblygiad nodwyd bod Polisi TWR 2 CDLL yn gefnogol i
ddatblygu llety gwyliau parhaol newydd gyda gwasanaeth neu rai hunanwasanaeth,
i drosi adeiladau presennol i lety o’r fath neu i ymestyn sefydliadau llety
gwyliau sy’n bodoli. Cyfeiriwyd at yr ychwanegiadau yn yr adroddiad diwygiedig gan dynnu sylw
penodol at baragraffau 5.3 a 5.4 oedd yn ymwneud a gwybodaeth ychwanegol a
gyflwynwyd gan yr asiant ynghyd a gwybodaeth a gasglwyd gan y swyddogion
cynllunio oedd yn ymateb i bryder y pwyllgor am effaith gronnol datblygiadau
llety gwyliau. Amlygwyd bod y paragraffau hyn yn egluro nad yw tai haf a llety
gwyliau yn cael eu ystyried i fod yr un peth yn nhermau cynllunio ac felly anodd
iawn yw rhoi ystyriaeth i dai haf wrth asesu effaith gronnol llety gwyliau.
Cyfeiriwyd at wybodaeth yn yr adroddiad oedd wedi ei ddarparu gan Uned Trethi’r
Cyngor ynglŷn â nifer unedau gwyliau hunangynhaliol plwyf Nefyn (oedd yn
cynnwys Nefyn, Morfa Nefyn ac Edern). Atgoffwyd yr Aelodau bod materion megis
mwynderau gweledol, cyffredinol a thrafnidiaeth eisoes wedi eu trafod ac
felly tynnu sylw penodol yn unig at y
wybodaeth ychwanegol a wnaed. 3.8% yn unig yw’r effaith gronnol o unedau
gwyliau yn yr ardal yma. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau
canlynol: ·
Bod Cynghorwyr wardiau ffiniol
yn rhannu ei bryderon ·
Nad oedd gwahaniaeth amlwg
rhwng ystyr tai haf ac uned gwyliau. Nid yw’r diffiniad yn bendant bellach yn
dilyn codi treth (hyd at 50%) ·
Gwelir cynnydd sylweddol mewn
tai haf yn cael eu trosi yn unedau gwyliau er mwyn osgoi talu’r dreth a
manteisio ar TWR 2 i godi mwy o unedau gwyliau mewn gerddi ·
Tŷ Haf yw Tŷ Haf sef
tŷ sydd ddim ar gael i bobl leol ond yn gysylltiedig â chodi pris y
farchnad sydd yn atal pobl fyw yn eu cynefinoedd ·
Bod mwy o lawer o niferoedd
na’r hyn sydd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad -Swyddogion heb gynnwys 318 o dai
haf ychwanego sydd o fewn y plwyf ac ni oeddynt wedi ystyried perthynas pentref
cyfagos Pistyll gyda Nefyn na datblygiad Natural Resources ·
Nid yw carfanau sefydlog wedi
cael eu hystyried ·
Bod hyn yn creu effaith
andwyol ar y defnydd o Gymraeg. Nifer siaradwyr Cymraeg wedi gostwng es y
cyfrifiad diwethaf ·
A oes gwir angen unedau
ychwanegol? ·
Beth yw gormodedd? Angen
ffigwr pendant cyn gweithredu TWR 2 · Nid yw ychwanegiad o ddau yn ymddangos yn llawer ond mae dau bob yn dipyn yn ychwanegu at y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Rhif Cais C18/0614/43/LL - Parc Carafanau a Cwrs Golff Gwynus, Pistyll, Pwllheli PDF 126 KB Ymestyn arwynebedd safle ar gyfer gosod 5 carafan gwyliau ychwanegol ar gae 470, cadw ffordd fynedfa wasanaethol dros dro a’i ymestyn ar gyfer yr unedau ychwanegol, codi clawdd pridd 1.2m ar hyd terfyn gogleddol a gorllewinol cae 410, newid gosodiad 5 carafan sydd ganiatawyd dan gais C15/0495/43/LL ac adleoli tanc septig AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ymestyn arwynebedd safle ar gyfer
gosod 5 carafán gwyliau ychwanegol ar gae 470, cadw ffordd fynedfa wasanaethol
dros dro a’i ymestyn ar gyfer yr unedau ychwanegol, codi clawdd pridd 1.2m ar
hyd terfyn gogleddol a gorllewinol cae 410, newid gosodiad 5 carafán sydd ganiatawyd
dan gais C15/0495/43/LL ac adleoli tanc septig Tynnwyd sylw at y sylwadau
ychwanegol a dderbyniwyd (a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i uwchraddio ac
ymestyn safle carafanau presennol. Roedd
y cais yn cynnwys bwriad i uwchraddio’r 10 carafán sefydlog bresennol am
gabanau gwyliau a’u hail leoli i ran o safle'r cwrs golff presennol. Rhoddwyd
caniatâd yn 2015 i ail-leoli 5 o unedau sefydlog i’r cwrs golff tra roedd y 5
arall i’w hail-leoli o fewn ffiniau presennol. Roedd y bwriad hefyd yn cynnwys
cadw ffordd wasanaethol dros dro a dderbyniodd ganiatâd fel rhan o gais
C15/0495/43/LL a’i hymestyn ar gyfer gwasanaethu’r unedau ychwanegol, codi
clawdd pridd 1.2 medr ar hyd terfyn gogleddol a gorllewinol y safle ac adleoli
tanc septig. Nodwyd bod hanes cynllunio maith i’r safle a phan ganiatawyd
cais C15/0495/43/LL roedd hwnnw ar gyfer y safle yn ei gyfanrwydd. Ategwyd bod
hynny wedi bod o gymorth i resymoli’r holl geisiadau hanesyddol ar y safle.
Lleolir y safle yng nghefn gwlad ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
(AHNE). Roedd hefyd oddifewn i’r Tirwedd o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol. Amlygwyd bod nifer o bolisïau o fewn y Cynllun Datblygu
Lleol (CDLL) oedd yn berthnasol i bennu’r cais. Y prif bolisi i’w ystyried wrth
asesu egwyddor y datblygiad oedd polisi TWR
3. Nodwyd bod y polisi yn
caniatáu estyniadau bach i arwynebedd safle a /neu ail leoli unedau o leoliadau
amlwg i leoliadau llai amlwg yn ddarostyngedig i gydymffurfio gyda meini prawf. Yng nghais C15/1495/43/LL, caniatawyd estyniad i’r safle
presennol o 3565medr sgwâr tra bod y cais presennol yn gofyn am ymestyn y safle
fel y byddai’n defnyddio cyfanswm o 7658 medr sgwâr. Byddai’r cynnydd yma yn
gynnydd o bron i 43% i faint y safle yn seiliedig ar ei faint cyn caniatâd
2015. Cyfeiriwyd at yr angen i ail leoli tanc trin carthion
ond nid oes rheswm i ymestyn y safle er lleoli’r tanc trin carthion. Wrth ystyried y rhesymau rhaid cwestiynu os yw bwriad yn
gymwys i’w ystyried fel estyniad o gwbl. Nid oedd unrhyw gysylltiad ffisegol
rhwng yr elfen parc gwyliau presennol a’r lleoliad bwriadedig
a bwriedir creu mynedfa a thrac cwbl ar wahân. Ymddengys y byddai’r adleoli yn
golygu yn ei gyfanrwydd safle newydd. Nid yw Polisi TWR 3 yn gefnogol i sefydlu
safleoedd carafanau sefydlog newydd oddi fewn i’r AHNE. Ystyriwyd bod y cynllun
a ganiatawyd yn 2015 wedi bod yn gyfaddawd priodol i ganiatáu ymestyn y safle
presennol er mwyn ail leoli. Amlygwyd y byddai nifer o lefydd gwag yn ymddangos heb
unrhyw eglurhad dros ddefnydd y gwagle ar wahân i le chwarae anffurfiol. Lleisiwyd pryder gan yr Uned AHNE o safbwynt effaith ymestyn arwynebedd y safle a gosod 5 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Rhif Cais C18/0715/39/LL - 68, Cae Du Estate, Abersoch, Pwllheli PDF 95 KB Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol i'r eiddo AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol
i'r eiddo Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais
ydoedd ar gyfer adeiladu estyniad deulawr gromen i sgwario blaen y tŷ,
gosod ffenestr gromen a balconi ar y blaen ynghyd ac estyniad unllawr blaen i ardal y modurdy cysylltiol presennol.
Eglurwyd bod yr eiddo yn sefyll ar lethr
mewn rhes o dai preswyl, yng nghornel cul de sac lled fodern Ystâd Cae Du ac yn
gyfochrog a thŷ Fferm draddodiadol Cae Du. Byngalo gromen oedd yr eiddo dan sylw oedd o ddyluniad ychydig yn wahanol i
weddill tai gromen y rhes, sydd eisoes a balconïau blaen uwchben modurdai
integredig. Nodwyd y byddai’r bwriad yn golygu llenwi cornel de ddwyreiniol i
sgwario’r tŷ gydag estyniad deulawr talcen gromen a chyflwyno ffenestr
gromen a balconi i’r blaen. Er nad yw talcen yn nodwedd gyffredin yn y rhes dan
sylw, ceir elfennau talcenni gwydr ar dai yn y cul de sac cyfochrog o fewn yr
Ystâd, felly nid yw’n nodwedd gwbl ddieithr yn y cyffiniau. Nodwyd bod gweddill
y tai yn y rhes yn cynnwys balconïau blaen ac yn nodwedd gyffredin ac amlwg
iawn yn nyluniad tai’r ystâd, felly nid oedd pryder sylweddol am yr
ychwanegiad. Derbyniwyd bod y tŷ yn weladwy o bellter oherwydd ei
leoliad uchel, fodd bynnag o ystyried fod dyluniad y tŷ presennol yn
wahanol i weddill y rhes a’r ffaith fod golygfeydd ohono mewn cyd-destun
adeiledig ymysg tai o amrywiol ddyluniadau, ni ystyriwyd y byddai’r
ymddangosiad yn cael ardrawiad arwyddocaol ar y strydwedd
na thirlun yr AHNE. Yng nghyd-destun materion cyffredinol a phreswyl amlygwyd bod
gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan gymdogion ar sail goredrych,
colli preifatrwydd, sŵn a thywyllu. Ystyriwyd oherwydd ongl gosodiad yr
eiddo ni fyddai’r ffenestri blaen newydd yn wynebu Fferm Cae Du yn
uniongyrchol. Nodwyd bod ffenestri ochr y cynnig yn cael eu newid, o ffenestri
ystafelloedd gwely i ffenestri bychan ystafelloedd ymolchi felly yn hynny o
beth yn welliant i’r gwrthwynebwyr ar y ddwy ochr, o’r hyn a brofir yn
bresennol. Oherwydd gwahaniaethau mewn lefel tir mae’r eiddo o flaen
safle’r cais, sef byngalo 67 Cae Du, ar lefel llawer is gyda dim ond to’r
adeilad yn weladwy o safle’r cais, felly ni fyddai ehangder ffenestri na’r
balconi blaen yn cyfaddawdu eu preifatrwydd. Byddai golygfeydd o’r balconi yn
edrych dros erddi agored a ffordd ystâd y cul de sac a dros ben to’r tŷ
i’r blaen. Oherwydd gosodiad y tŷ i’r gogledd o eiddo Fferm Cae Du, a
chwrs yr haul, ni ystyriwyd bod sail i’r honiad y byddai’r estyniad yn tywyllu
eu heiddo. Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu o agwedd
dyluniad, mwynderau gweledol, cyffredinol a thrafnidiaeth ac yn cydymffurfio
gyda gofynion y polisïau perthnasol. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol a oedd yn gwrthwynebu’r cais y prif bwyntiau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Rhif Cais C18/0744/23/R3 - Tir ger Ystad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon PDF 102 KB Creu maes parcio newydd, mynediad, golau stryd ynghyd á gwaith peirianyddol cysylltiedig AELODAU LLEOL:
Cynghorwyr Berwyn Parry Jones a Jason
Wayne Parry Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu maes parcio newydd,
mynediad, golau stryd ynghyd á gwaith peirianyddol cysylltiedig Tynnwyd
sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer
creu cyfleuster parcio a rhannu ar gyfer gwaith adeiladu gorsaf bŵer
Wylfa. Nodwyd y byddai’r cyfleuster ar gyfer oddeutu 153 o gerbydau sydd yn
cynnwys parcio ar gyfer yr anabl, cerbydau trydanol a beiciau modur. Cyfeiriwyd at y polisïau
perthnasol oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Adroddwyd bod y cyfnod ymgynghori
cyhoeddus wedi dod i ben a bod un gwrthwynebiad wedi ei dderbyn ar sail
byddai’r ffordd osgoi arfaethedig ar faes parcio yn cael effaith andwyol ar
fusnes llety gwyliau Fferm Bodrual. O ran egwyddor y
datblygiad a’r safle wedi ei leoli cyfochrog ond y tu allan
i ffin datblygu Caernarfon fel y’i cynhwysir yn y CDLL mae Polisi PCYFF1 yn
berthnasol yma ynghyd a pholisi PS12 a PS9. Wedi ystyried y polisïau hyn,
ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor gan fod y Cynllun Datblygu
Lleol yn caniatáu’r fath datblygiad ar y llecyn tir yma ynghyd a’r ffaith ei
fod wedi ei leoli gyferbyn a’r stad ddiwydiannol yn hanfodol gan ystyried ei
agosatrwydd at hygyrchedd i’r rhwydwaith ffyrdd lleol a fydd yn gwasanaethu
Wylfa. Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol er bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad ystyriwyd y
byddai ad-drawiad y ffordd osgoi yn llawer mwy ac ehangach nag ad-drawiad y
maes parcio ar y tirlun lleol gan ystyried ei ddyluniad, cynllun tirlunio a
graddfa’r bwriad o gymharu â dyluniad a graddfa’r ffordd osgoi. Yng nghyd-destun
mwynderau preswyl a chyffredinol nodwyd eisoes y bod gwrthwynebiad gan ddeiliad
Fferm Bodrual sydd wedi ei leoli oddeutu 100m o safle
cais. O fewn cyd-destun y cais, ystyriwyd na fydd creu maes parcio gyfochrog a
stad ddiwydiannol ac i’r gorllewin o’r ffordd osgoi newydd yn mynd i greu
cynnydd sylweddol mewn aflonyddwch sŵn nac ychwaith ar sail colli
preifatrwydd gan ystyried y pellter sydd rhwng safle’r cais a’r annedd/llety
gwyliau ynghyd a’r ffaith bod y ffordd osgoi wedi ei leoli rhwng y ddau safle. (b)
Wrth ystyried materion
priffyrdd amlygwyd yr angen i ddiweddaru’r ystyriaeth yma gan fod Llywodraeth
Cymru wedi cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cais yn ddarostyngedig
i gynnwys amod priodol. Ategwyd bod yr
argymhelliad wedi ei addasu i ddirprwyo’r hawl i Uwch Swyddog Cynllunio
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffafriol gan Cyfoeth
Naturiol Cymru ac i’r amodau ychwanegol. Mewn ymateb i gwestiwn
petai Wylfa ddim yn digwydd, amlygodd y swyddog y byddai’r maes parcio ar gael
i’r cyhoedd. (c)
Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. (ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Pryder am ddiogelwch cadw ceir
yn y maes parcio am gyfnod hir ·
Bod angen rheolaeth a
goruchwyliaeth ar y safle i atal teithwyr ·
Croesawu adnodd Parcio a
Rhannu ·
Bod angen lleol ar y
ddarpariaeth ·
Croesawu darpariaeth cerbyd
trydan · A oes cyfiawnhad dros ddatblygu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4 |
|
Rhif Cais C18/0780/20/LL - Fferm Plas Llanfair, Ffordd Caernarfon, Y Felinheli PDF 140 KB Lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cwt bugail ynghyd a cwt cawod (cais diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C18/0393/20/LL) AELOD LLEOL:
Cynghorydd Gareth Wyn Griffith Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cwt bugail ynghyd a chwt
cawod (cais diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C18/0393/20/LL) Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer
lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cytiau bugail ynghyd a chwt
cawod. Ategwyd y byddai’r bwriad hefyd yn golygu plannu coed a llwyni ynghyd a
chreu llecyn parcio. Amlygwyd bod y cais yn gynllun diwygiedig i’r un a
wrthodwyd ym mis Mehefin 2018 o dan yr hawliau dirprwyedig oherwydd bod yr
unedau gwyliau wedi eu lleoli mewn llinell oddi fewn i’r safle cais. Gosodir y
cytiau ar ffurf hanner cylch yn y cynllun diwygiedig. Eglurwyd bod y safle yn sefyll ar lecyn o dir sydd yng
nghornel cae amaethyddol gyda golygfeydd agored tua’r Fenai (sydd yn ardal
cadwraeth arbennig) ac Ynys Môn (gyda glannau’r Fenai wedi eu lleoli o fewn yr
AHNE). Bydd mynediad i’r safle oddiar rhwydwaith
ffyrdd preifat. Nodwyd bod tir amaethyddol ac anheddau preswyl Llanfair Hall wedu eu lleoli i’r
gogledd o’r safle ac i’r de lleolir tir amaethyddol agored ac annedd Llanfair Old Hall. Adroddwyd bod egwyddor o sefydlu llety gwyliau dros dro
newydd wedi ei selio ym Mholisi TWR5 o’r Cynllun Datblygu Lleol. Ategwyd bod y
math yma o ddatblygiadau yn cael eu caniatáu os gellid cydymffurfio gyda nifer
o feini prawf. Gofynnir i’r datblygiad arfaethedig fod o ansawdd uchel o ran
dyluniad, gosodiad ac edrychiad a’i fod wedi ei leoli mewn lleoliad anymwthiol.
Dengys, er bod bwriad lleoli'r datblygiad yng nghornel y cae, byddai datblygiad
o’r fath ar lecyn o dir agored ei natur a’i naws yn ddatblygiad a ystyriwyd yn
ymwthiol yn y tirlun yn creu strwythurau anghydnaws yn y tirlun agored. Nodwyd yn hanesyddol, mai tirlun a adnabuwyd fel parcdir
fyddai y rhan yma o’r tirlun gyda chymeriad a naws agored yn perthyn iddo ac er
bod datblygiadau eraill wedi cymryd lle yn lleol, datblygiadau ar raddfa
ddomestig oeddynt yn hytrach na datblygiadau wedi eu lleoli o fewn y tirlun
agored. Wedi ystyried natur a gosodiad diwygiedig yr unedau llety gwyliau, y
llecynnau parcio, y taclau cysylltiedig ynghyd a chyflwyno gweithgareddau dynol
o natur twristiaeth i’r tirlun byddai effaith gronnus yr elfennau hyn o’r
datblygiad yn parhau i fod yn gyfystyr a chreu datblygiad ymwthiol yn y dirwedd
a’r tirlun lleol. Dylid lleoli unrhyw gyfleusterau atodol mewn adeilad
presennol, neu, os nad yw hyn yn bosib, bod unrhyw gyfleuster newydd yn gymesur
a graddfa’r datblygiad. Ystyriwyd y byddai ychwanegu’r strwythur ymolchi a
thŷ bach i’r 4 uned llety gwyliau ddim yn gymesur a graddfa’r datblygiad
gan y byddai yn dwysau ar niferoedd yr unedau ar y safle o 20%. Mae polisi PS14 o’r Cynllun Datblygu Lleol hefyd yn adlewyrchu amcanion Polisi TWR5 ar sail graddfa a diogelu mwynderau gweledol. Atgoffwyd yr Aelodau, er i’r safle sefyll yng nghornel cae agored ei natur ar arfordir ger glannau'r Fenai er gwaethaf ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5 |