Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 144 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 17eg o Orffennaf 2026

 

5.

COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 183 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 14 Medi 2026

 

 

Cofnod:

Derbyniwyd, er gwybodaeth gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 14 Medi 2026

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2025/26 pdf eicon PDF 50 KB

I adolygu’r adroddiad a darparu adborth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad drafft yn darparu manylion am weithgareddau’r Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2026. Adroddwyd bod yr adroddiad wedi ei gwblhau yn unol â chanllawiau statudol y Bwrdd Cynghori Cynllun (Scheme Advisory Board) ac yn ymateb i’r gofyn i adnabod a chyflwyno'r wybodaeth drwy dri chategori - rhaid (must), dylid (should) ac efallai (may). Sicrhawyd bod popeth sydd yn cael ei adnabod fel ‘rhaid’ a ‘dylid’ wedi cael ei gynnwys, oni bai nad oedd y wybodaeth ar gael. Yn sgil hynny eglurwyd bod yr adroddiad blynyddol bellach yn un swmpus ac yn cynnwys cyfuniad o adroddiadau blynyddol gan y Pwyllgor Pensiynau, y Bwrdd Pensiwn, Partneriaeth Pensiwn Cymru, gwybodaeth gan yr Uned Weinyddol, a’r Uned Buddsoddi.

 

Nodwyd y bydd yr adroddiad blynyddol yn cael ei adolygu gan Archwilio Cymru fel rhan o archwiliad y cyfrifon ac y bydd y fersiwn derfynol yn cael ei gyflwyno yng Nghyfarfod Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd, Tachwedd 2026.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Yn diolch am y gwaith sylweddol sydd yn cael ei wneud i gwblhau’r adroddiad mewn modd proffesiynol

·        Bod y gofyn iam wybodaeth i’w weld yn cynyddu yn flynyddol, a’r swyddogion yn ymateb yn dda i hynny

·        Byddai cymhariaeth gyda’r saith cronfa arall yng Nghymru yn fanteisiol i’r dyfodol

·        Yng nghyd-destun Cyfradd Cyfraniadau Cyflogwyr, awgrymwyd gosod cyd-destun dealladwy fyddai’n egluro i’r Aelodau eu cyfraniadau o ystyried bod y ffigwr (16.2%) yn ymddangos yn is na’r hyn sydd wedi bod yn hanesyddol (o gwmpas 22%). Byddai hyn yn lleihau'r risg o Aelodau yn tybio bod cyfraniad y cyflogwr hefyd wedi lleihau - angen pwysleisio nad oes effaith i fuddion Aelodau.

·        Ynglŷn â dangosydd perfformiad allweddol costau gweinyddol a’r ffaith bod y gost yn cynyddu, ond nifer y staff yn ymddangos yr un fath, awgrym i gynnwys eglurhad tu ôl i’r dangosydd i amlygu’r darlun yn well

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag awgrym i gynnwys costau gweinyddol y cwmni newydd yn yr adroddiad, nodwyd er bod y cwmni bellach wedi sefydlu nid oedd y costau wedi taro yn llawn ar gyfer 2025/2026. Derbyniwyd yr angen i fod yn agored am y costau i’r dyfodol ac amlygu'r gymhariaeth gyda chostau cyn sefydlu cwmni newydd a chostau wedi sefydlu’r cwmni newydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pherfformiad prosesu gwaith achos ac os oedd  y Pwyllgor yn adolygu’r targedau o ystyried bod perfformiad, e.e., ‘Cyfathrebiad a gyhoeddwyd i aelodau'r cynllun gyda chwblhau trosglwyddiad i mewn’ yn llawer is na’r targed (canran a gwblhawyd o fewn targed y Gronfa yn 3.30% a 65.8% o fewn y targed cyfreithiol), nodwyd mai targed tebygol gan CIPFA oedd yma ac nid targed mewnol gan Uned Weinyddol y Gronfa gan eu bod yn gweithredu ar ‘wellhad parhaus’ yn hytrach na bod yn gaeth i darged. Er derbyn y sylw, ategwyd bod cyfuniad o staff newydd, dibrofiad yn yr Uned ac elfennau tu allan i reolaeth yr Uned yn cyfrannu at y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD 'THE GOOD ECONOMY' pdf eicon PDF 127 KB

 

I adolygu a nodi'r adroddiad. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn amlygu bod Cronfa Bensiwn Gwynedd, ochr yn ochr â saith cronfa arall yng Nghymru, wedi comisiynu adroddiad gan The Good Economy er mwy arddangos gwaith a gyflawnwyd gan y cronfeydd pensiwn ar gyfer buddsoddiadau lleol yng Nghymru.

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn crynhoi maint y buddsoddiadau lleol y mae Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi eu gwneud a’r effaith posib. Ar lefel genedlaethol adroddwyd bod £139m wedi ei fuddsoddi yng Nghymru, a hynny o fewn 97 ased, ynni glan, cyllid busnesau bach a chanolig (Small and Medium sized Enterprises - SME), tai ac eiddo. Cyfeiriwyd at y map oedd yn dangos lleoliadau’r buddsoddiadau yng Nghymru, ac yn anffodus, oherwydd natur demograffeg a diwydiannau Cymru, bod nifer helaeth ohonynt yn y De. Yng nghyd-destun buddsoddiadau’r bartneriaeth yn ardal ddaearyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd tynnwyd sylw at fuddsoddiadau yn Aberconwy, Ynys Môn, Bangor a meddygfeydd yng Ngwynedd.

 

Adroddwyd bod hwn yn gam cyntaf pwysig i grynhoi’r sefyllfa buddsoddi yng Nghymru, ac y bydd yn cynnig cymhariaeth dda yn y dyfodol i adeiladu arno. Ategwyd mai’r gobaith yw, gyda sefydlogrwydd WPP IM Co bydd gan y cwmni arbenigedd a phlatfform i fuddsoddi yng Nghymru, ac y bydd y sefyllfa yn cryfhau yn flynyddol. Pe bydd cyfle yn cael ei adnabod yn lleol gyda photensial i fuddsoddi ynddo, yna bydd modd rhannu’r wybodaeth gyda WPP IM Co i ddilyn i fyny ar y posibilrwydd - cyfeiriwyd at drafodaethau sydd eisoes yn cael eu cynnal gyda Chydbwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad      

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Oes targed i fuddsoddi mwy yng Nghymru yn y dyfodol?

·        Oes gweledigaeth gan WPP IMCo i fuddsoddi yng Nghymru ynteu'r bwriad yw buddsoddi yn y Deyrnas Unedig, heb ystyried ffiniau

·        Bod potensial buddsoddi mewn tai cymdeithasol

·        Croesawu bod y Pwyllgor wedi gwneud cais am fwy o fanylder am y buddsoddiadau yng Ngwynedd

·        Er bod WPP IMCo yn gosod cyfeiriad ac yn edrych ar le a sut i fuddsoddi, bod angen i’r Bwrdd Pensiwn a’r Pwyllgor Pensiynau graffu ar sut i fuddsoddi a’r hyn y gellid ei reoli - angen edrych ar fuddsoddi i wella ac nid dychweliadau da yn unig

·        Angen bod yn effro i fuddsoddiadau a chael proses effeithiol, gywir.

·        Diffiniad ‘ardal leol’ = ardal Cronfa Bensiwn Gwynedd – allweddol bod y datganiad yma yn gywir.

·        Awgrym i gynnal gweithdy i graffu'r newid mewn rolau

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Pennaeth Cyllid bod Datganiad Strategaeth Buddsoddi yn allweddol i Gronfa Bensiwn Gwynedd ac yn gosod cyfeiriad i’r cwmni buddsoddi ar ran y Gronfa.  Ategwyd, o ran gosod targed, bod ffigwr o 5% wedi ei gynnig ond ystyriwyd bod gosod targed efallai yn ddiangen ac mai buddsoddiadau doeth sydd eu hangen. Amlygwyd hefyd bod y datganiad yn ddogfen statudol ac yn y broses o gael ei hadolygu - bydd fersiwn drafft yn cael ei chyflwyno i’r Bwrdd a’r Pwyllgor i’w hadolygu ymhellach cyn cymeradwyo yn ffurfiol cyn diwedd Mawrth 2027.

 

Ategodd y Rheolwr Buddsoddi bod cyfarfod wedi ei drefnu gyda’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYNHADLEDD PENSIYNAU A BUDDSODDI LGC 2026 pdf eicon PDF 12 KB

I ystyried a derbyn y wybodaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adroddodd y Rheolwr Buddsoddi bod Cynhadledd Pensiynau a Buddsoddi LGC 2026 wedi ei chynnal ym mis Medi 2026 ac y bu i Mr Anthony Deakin fynychu ar ran y Bwrdd Pensiwn. Gwahoddwyd Mr Deakin i gyflwyno adborth a rhannu gwybodaeth berthnasol o'r gynhadledd.

 

Cyfeiriodd at y tri sesiwn mwyaf "strategol" yn ei farn ef, y bu iddo fynychu

·        Trosglwyddiadau CPLlL: Cronni ar gyfer llywodraethu a gweithredu

·        Buddsoddi yn Lleol: yr hyn sydd ei angen ar y CPLlL cyn y gallant fuddsoddi

·        Llywodraethu ar Waith: Darparu goruchwyliaeth effeithiol mewn CPLlL sy'n newid - amlygodd bod nifer o’r siaradwyr yn cytuno bod y berthynas waith rhwng yr Aelod Annibynnol a'r Pwyllgor Pensiynau a’r Uwch Swyddog ynghyd a chytundeb clir sydd yn diffinio disgwyliadau o'r cychwyn cyntaf, er mwyn atal costau annisgwyl wrth i'r rôl ddatblygu, yn factor hollbwysig i sicrhau llwyddiant.

 

Nododd ei bod yn amlwg bod llawer llai o arddangoswyr yn y gynhadledd oedd, yn ei farn ef, yn adlewyrchu'r trosglwyddiadau o gronfeydd i gronfeydd sydd yn ymwneud â phenderfyniadau buddsoddi. Ategodd y byddai’n debygol o arwain at newid mewn fformat cynhadledd mewn ymateb I hyn.

 

Diolchwyd am yr adborth

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag apwyntiad Aelod Annibynnol i Wynedd, nodwyd bod hysbyseb swydd wedi ei chyhoeddi ar Sell to Wales ac mai’r 16 o Hydref 2026 oedd y dyddiad cau. Y gobaith yw penodi unigolyn erbyn y dyddiad statudol (31 Rhagfyr 2026).

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth

 

9.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 56 KB

I dderbyn a nodi'r wybodaeth. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi mai adroddiad ydoedd er gwybodaeth yn nodi’r hyn a drafodwyd yng nghyfarfod ymgysylltu Cadeiryddion y Byrddau Pensiwn, Ebrill 2026. Nodwyd bod Osian Richards a Sioned Parry wedi mynychu’r cyfarfod.  Amlygwyd bod trafodaeth wedi ei gynnal ar Cofrestr Risg, ac Adroddiadau Perfformiad gyda diweddariad gan WPP IMCo ar y cynnydd ers iddynt sefydlu ynghyd a gwybodaeth bellach ar lywodraethu, y gweithlu a gweithrediadau.

 

Derbyniwyd bod y cyfarfod wedi ei gynnal ddiwedd Ebrill 2026, ac ers hynny, adroddwyd bod y cwmni buddsoddi bellach wedi derbyn cofrestriad swyddogol gydag Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), ac ers 1af o Fedi, bod y cwmni wedi cymryd rôl fwy blaenllaw yn rheoli asedau Cronfa Pensiwn Gwynedd. Er enghraifft, nodwyd mai WPP IMCo, sydd bellach yn talu unrhyw arian drosodd i’r rheolwyr buddsoddi ar ran Cronfa Bensiwn Gwynedd ac yn monitro symudiadau cronfeydd y Gronfa.

 

Cydnabuwyd na fydd rheolaeth lwyr yn digwydd yn syth, ond bydd gwaith yn cael ei wneud i adeiladu perthynas gyda swyddogion WPP IMCo ac i ffurfioli sut bydd gwybodaeth yn cael ei gyfathrebu. Ategwyd y bydd disgwyl i swyddogion o WPP IMCo wneud cyflwyniad yng nghyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn a chyfarfod y Pwyllgor Pensiynau ym mis Tachwedd 2026; y 6 i 12 mis nesaf yn gyfnod newydd a chyffrous gyda digon o gyfleoedd i adeiladu perthynas a dealltwriaeth.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Yng nghyd-destun y cwmni buddsoddi, bod cais am adolygiad o’r cytundebau ymhen 12 mis ynghyd a gwirio’r Cynllun Busnes ac effeithlonrwydd y Polisïau – llwyth  gwaith i swyddogion

·        Yng nghyd-destun y Polisi Tal (cyflogau / bonws) y cwmni newydd, bod angen gosod lefelau cyflog addas (isel ac uchel) i sicrhau tegwch a gwerth am arian.

·        Angen sicrhau bod mesurau rheoli cywir yn eu lle

·        Bod gwerth Portffolio Cronfa Bensiwn Cymru yn fwy na £25 biliwn - oes swyddi allweddol heb eu llenwi? Pwy yw aelodau’r Pwyllgor Cyflogaeth?

·        Bod gwybodaeth yn cael ei rannu am y trefniadau llywodraethu, ond dim gwybodaeth am y swyddogion allweddol - byddai rhestr o enwau a’u sgiliau perthnasol yn ddelfrydol. Awgrym bod cyflwyniad yn cael ei wneud i’r 8 Cronfa o 'pwy di pwy' a chais i’r cwmni ystyried cyhoeddi pamffled yn cynnwys y wybodaeth.

·        Bod angen ceisio cadw rheolaeth ar faint y cwmni i’r dyfodol

·        Bod angen enw Cymraeg ar y cwmni

·        Buddiol fyddai cael swyddfa ranbarthol yng Ngwynedd

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau, nodwyd bod penodiad i swydd Prif Swyddog Buddsoddi Cyfrifol WPP IMCo, ond nad oedd yr unigolyn yn dechrau tan 2027 – er yr oediad, roedd pawb yn gytûn bod y person cywir wedi ei benodi. Cydnabuwyd bod llawer o newid, ond bod cyfathrebu wythnosol rhwng swyddogion yn rhoi sicrwydd yn hytrach na chodi pryderon a bod bwriad gan WPP IMCo gyflwyno eu hunain yng nghyfarfod blynyddol y Gronfa yn mis Tachwedd 2026. Er bod ychydig o wybodaeth ar y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

PERFFORMIAD BUDDSODDI CRONFA BENSIWN GWYNEDD HYD AT 30 MEHEFIN 2026 pdf eicon PDF 159 KB

I ystyried a derbyn y wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi trosolwg o berfformiad buddsoddi Cronfa Bensiwn Gwynedd am y chwarter a ddaeth i ben 30 Mehefin 2026. Amlygwyd bod y Gronfa wedi dychwelyd 6.9% dros y chwarter, gan berfformio yn is na’r meincnod. Adroddwyd bod gwerth yr asedau wedi cynyddu £294 miliwn gan ddod a gwerth y gronfa i bron i bedwar biliwn; gyrrwyd y perfformiad yn bennaf gan enillion cryf mewn ecwiti wrth i ecwiti byd eang ddychwelyd 14.2% dros y chwarter.

 

Wrth ystyried perfformiad y flwyddyn yn ei chyfanrwydd, mae’r Gronfa wedi dychwelyd 15.4%, a hynny ychydig tu ôl i’r meincnod. Nodwyd nad oedd dim amheuaeth bod y meincnod sydd yn cael ei osod yn un heriol, ac adroddwyd bod perfformiad Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi bod yn uwch na chyfartaledd Cronfeydd Prydain yn hanesyddol gyda’r Gronfa yn parhau i dyfu felly. O ganlyniad, nid oedd rheswm i bryderu (ar hyn o bryd) am y perfformiad gan fod y Gronfa hefyd o flaen y meincnod ar y dechrau sydd yn amlygu bod y perfformiad yn lefelu allan dros y blynyddoedd.

 

Cyfeiriwyd at y Rheolwyr Buddsoddi gan amlygu bod y Rheolwyr Buddsoddi Ecwiti, wedi perfformio yn gryf yn ystod y chwarter a hynny wrth i ddeallusrwydd artiffisial (AI) gael effaith positif ar y cwmnïau.  Ategwyd bod perfformiad cronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi disgyn tu ôl i’r meincnod, (sef y cronfeydd mae Russell Investments yn gyfrifol amdanynt), ac y bydd y swyddogion yn cadw llygaid arnynt. Yng nghyd-destun perfformiad y rheolwyr incwm sefydlog, nodwyd bod eu perfformiad yn dechrau cryfhau ar ôl cyfnod ansicr ac yn dechrau agosáu at y meincnod. 

 

Adroddwyd ei bod wedi bod yn gyfnod trosiannol ar gyfer buddsoddiadau eiddo wrth i’r buddsoddiadau eiddo presennol gael eu trosglwyddo i gronfa eiddo Schroders. Ers diwedd Mehefin, nodwyd bod y buddsoddiadau eiddo i gyda bellach o dan reolaeth Schroders, ac felly bydd y gwaith o fonitro’r Gronfa yma yn dechrau maes o law.

 

Yng nghyd-destun marchnadoedd preifat PPC a chronfeydd Partners, nodwyd mai anodd yw asesu eu perfformiad gan fod y buddsoddiad yma yn un hir dymor ac ymhellach nid oedd Hymans Robertson wedi amlygu pryderon.

 

Cyfeiriwyd at y dyraniad asedau newydd a gymeradwywyd ym mis Tachwedd 2025, gan nodi bod gwaith yn mynd rhagddo gyda chydweithio da gyda’r WPP IM Co i weithredu’r newidiadau hyn.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â pherfformiad blynyddol y gronfa yn erbyn y meincnod ac er yn ymddangos yn fychan (1.3% - oddeutu £25miliwm) ac yn derbyn bod y targed yn uchelgeisiol, y dylid efallai gosod cyd-destun i’r sefyllfa, nodwyd y byddai’r meincnod yn debygol o gael ei ail asesu i sicrhau addasrwydd i’r dyfodol. Ategwyd yr angen i fod yn fwy pendant a chadarn am yr hyn mae’r Gronfa yn anelu tuag ato gan fod gormod o amrywiaethau (variables) yn y meincnod presennol.

 

PENDERFYNWYD derbyn y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

DATGANIADAU BUDDION BLYNYDDOL 2025/26 (RHWYMEDIGAETH MCCLOUD) pdf eicon PDF 76 KB

I nodi cynnwys yr adroddiad hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd y Rheolwr Pensiynau, yn dilyn gohebiaeth ddiweddar gan y Rheoleiddiwr Pensiynau i aelodau'r Bwrdd Pensiwn ynglŷn â chynnwys gwybodaeth unioni McCloud mewn Datganiadau Buddion Blynyddol (DBB), bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi cydymffurfio â'r gofynion statudol sy'n ymwneud â chynnwys gwybodaeth unioni McCloud yn y Datganiadau Buddion Blynyddol ar gyfer blwyddyn y cynllun 2025/26 ynghyd a bodloni'r disgwyliadau a amlinellwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau. Ategwyd bod pob Datganiad Buddion Blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi eu cyhoeddi erbyn y dyddiad cau statudol, sef 31 Awst 2026.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ffaith na chodwyd unrhyw achosion o dorri gofynion statudol mewn perthynas â darparu gwybodaeth am wasanaeth adferadwy, cadarnhaodd y Rheolwr Pensiynau fod y datganiad wedi ei ddarparu i bawb ac felly nid oedd unrhyw dor-cyfraith yn berthnasol na’r angen i gyflwyno adroddiad torri rheolau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

 

12.

STRATEGAETH GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 79 KB

Gofynnir i'r Bwrdd Pensiwn:

 

  1. Adolygu a chraffu ar y Strategaeth Gweinyddu Pensiynau ddiwygiedig.
  2. Darparu unrhyw sylwadau neu argymhellion i'w hystyried cyn yr ymgynghoriad â chyflogwyr.
  3. Nodi'r bwriad i adolygu'r Strategaeth yn flynyddol yn y dyfodol.
  4. Cefnogi cyflwyno'r Strategaeth Gweinyddu Pensiynau ddiwygiedig i'r cyflogwyr sy'n cymryd rhan ar gyfer ymgynghori cyn ei chyflwyno i'r Pwyllgor Pensiynau i'w chymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Pensiynau Strategaeth Gweinyddu Pensiynau diwygiedig i'r Bwrdd Pensiwn i'w hadolygu a'i chraffu cyn ymgynghori â chyflogwyr sy’n cymryd rhan cyn cyflwyno i'r Pwyllgor Pensiynau i'w chymeradwyo.

 

Adroddwyd bod y Strategaeth bresennol wedi ei hadolygu ddiwethaf yn 2022, ond bod nifer o ddatblygiadau arwyddocaol sydd wedi effeithio ar weinyddu pensiynau wedi digwydd ers hynny. Cyfeiriwyd at y prif newidiadau gan nodi’r angen statudol i sicrhau bod y trefniadau yn amlygu llywodraethu da ac yn cefnogi gweinyddiaeth effeithiol, gyson a thryloyw. Ategwyd, yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Pensiynau, bydd y Strategaeth yn destun adolygiad blynyddol er mwyn sicrhau ei bod yn parhau'n gyfredol ac yn adlewyrchu arfer da, gofynion rheoleiddiol a datblygiadau o fewn y CPLlL.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Materion diogelwch seibir - dim amheuaeth bod gan Lywodraethau Lleol brosesau diogelwch effeithiol rhag ymosodiadau seibir ond a yw’r Gronfa yn fodlon gyda gwiriadau a phrofion diogelwch seibir cyflogwyr bychain perthnasol?

·        A oes pryderon gan y Gronfa am gyflogwyr sydd ddim yn cyflwyno data yn gywir ac amserol?

·        Awgrym i Swyddog o’r Adran Technoleg Gwybodaeth gael gwahoddiad i gyfarfod o’r Bwrdd i drafod camau rhannu gwybodaeth a threfniadau diogelwch

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd bod cyflogwyr sy’n cymryd rhan yn rhannu data gyda’r Gronfa drwy system i-Connect, sef y rhyngwyneb data diogel o fewn system gweinyddu pensiynau Heywood, ers 2019. Ategwyd bod pob cyflogwr sy'n cymryd rhan bellach yn defnyddio i-Connect fel y prif ddull o gyflwyno data pensiwn i'r Gronfa a bod hyn wedi hwyluso a gwella ansawdd a chysondeb y wybodaeth sy’n cael ei dderbyn o fewn yr amserlen.

 

PENDERFYNWYD:

·        Derbyn y Strategaeth Gweinyddu Pensiynau

·        Nodi'r bwriad i adolygu'r Strategaeth yn flynyddol yn y dyfodol.

·        Cefnogi cyflwyno'r Strategaeth Gweinyddu Pensiynau ddiwygiedig i'r cyflogwyr sy'n cymryd rhan ar gyfer ymgynghori cyn ei chyflwyno i'r Pwyllgor Pensiynau am gymeradwyaeth.

·        Gwahodd swyddog o’r Adran Technoleg Gwybodaeth i gyfarfod o’r Bwrdd i drafod camau rhannu gwybodaeth a threfniadau diogelwch

 

13.

STRATEGAETH LLYWODRAETHU AR GYFER CRONFA BENSIWN GWYNEDD pdf eicon PDF 67 KB

Gofynnir i'r Bwrdd Pensiwn:

  1. Adolygu a chraffu ar y Strategaeth Lywodraethu ddrafft.
  2. Darparu unrhyw sylwadau neu argymhellion i'w hystyried gan swyddogion.
  3. Nodi y gallai fod angen mân ddiwygiadau pellach yn dilyn penodi'r Uwch Swyddog CPLlL.
  4. Cefnogi cyflwyno'r Strategaeth Lywodraethu ddiwygiedig i'r Pwyllgor Pensiynau i'w chymeradwyo'n ffurfiol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Pensiynau Strategaeth Llywodraethu ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd (drafft) i'r Bwrdd Pensiwn i'w hadolygu a'i chraffu cyn cyflwyno i'r Pwyllgor Pensiynau ei chymeradwyo.

 

Adroddwyd bod egwyddorion llywodraethu da o fewn y CPLlL yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Gweinyddu gynnal trefniadau llywodraethu clir a dogfennu sut y caiff y Gronfa ei llywodraethu, ei rheoli a'i monitro. Ategwyd bod y Strategaeth Lywodraethu wedi ei llunio i gyfarch y fframwaith llywodraethu, cyfrifoldebau, polisïau a threfniadau goruchwylio'r Gronfa mewn un ddogfen. Nodwyd bod y Strategaeth yn nodi amcanion llywodraethu'r Gronfa, ei strwythur lywodraethu, rolau a chyfrifoldebau, gofynion hyfforddiant, trefniadau rheoli risg a fframwaith gwelliant parhaus.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfrifoldebau Uwch Swyddog CPLlL a beth fydd y rôl yn ei gynnig yn ychwanegol i’r broses, nododd y Pennaeth Cyllid, yn unol â gofynion deddfwriaethol bod rhaid penodi dwy rôl statudol - un Aelod Annibynnol ac un Uwch Swyddog Cronfa Bensiwn. Bydd yr Uwch Swyddog Buddsoddi yn rhoi trosolwg ar faterion buddsoddi a gweinyddu’r Gronfa.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut bydd y Strategaeth y rhoi sicrwydd o gydymffurfiaeth gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, nododd y Pennaeth Cyllid ei fod yn hyderus bod y strategaeth yn cydymffurfio ag egwyddorion y Ddeddf Llesiant, ond yn derbyn y sylw bod angen cyfeirio at hynny yn y Strategaeth.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â threfniadau seibir a sut bydd y Bwrdd yn derbyn sicrwydd am y trefniadau, nodwyd bod y Gronfa yn Aelod o Menter Twyll Cenedlaethol sydd yn cymharu data electronig o fewn a rhwng cyrff y sector gyhoeddus i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll a gwallau.

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn y Strategaeth Llywodraethu ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd Pensiynau

·        Cefnogi cyflwyno'r Strategaeth i'r Pwyllgor Pensiynau am gymeradwyaeth.

 

Nodyn: Bod angen ychwanegu cyfeiriad at gydymffurfiaeth â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015