Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Louise Hughes, Delyth Lloyd Griffiths a Huw Wyn Jones

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Datganodd yr aelod canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

Y Cynghorydd Huw Rowlands  (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 (C22/0909/22/LL) ar y rhaglen oherwydd cyswllt teuluol

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

b)            Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·           Y Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C21/1220/42/LL) ar y rhaglen

·           Y Cynghorydd Kim Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C22/1169/15/LL) ar y rhaglen

·           Y Cynghorydd Meryl Roberts (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 (C23/0201/08/LL) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 250 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19 Mehefin 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

6.

Cais Rhif C23/0234/08/LL Plot 2 Stâd Ddiwydiannol Griffin, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6LE pdf eicon PDF 505 KB

Codi adeilad Depo Dosbarthu ac adeilad Gweinyddu a chynnal a chadw, creu maesydd parcio cerbydau a loriau, man golchi  cerbydau, gosod ffens ddiogelwch, tirlunio a gwaith cysylltiedig.

Aelod Lleol: Cynghorydd Meryl Roberts

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cais wedi ei dynnu yn ôl

 

Cofnod:

Codi adeilad Depo Dosbarthu ac adeilad Gweinyddu a chynnal a chadw, creu meysydd parcio cerbydau a lorïau, man golchi  cerbydau, gosod ffens ddiogelwch, tirlunio a gwaith cysylltiedig

CAIS WEDI EI DYNNU YN ÔL

 

 

7.

Cais Rhif C21/1220/42/LL Morlais Lôn Penrallt, Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6EP pdf eicon PDF 477 KB

Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni

Aelod Lleol: Cynghorydd Gruffydd Williams

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni arfordirol. Yn allanol, byddai’r tŷ newydd yn cynnwys to crib o orffeniad zinc tywyll a gorffeniadau’r waliau allanol yn gyfuniad o fyrddau coed ar y llawr uchaf a charreg naturiol ar y lloriau is. Nodwyd bod y safle a’r adeilad presennol wedi ei leoli wrth droed clogwyn Traeth Nefyn a'r clogwyni wedi eu dynodi fel Ardal Gadwraeth Arbennig (ACA) Clogwyni Pen Llŷn a hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDDGA) Porthdinllaen i Borth Pistyll. Ategwyd bod y safle y tu allan i ffin ddatblygu gyfredol Nefyn gyda mynediad at y safle ar hyd y traeth yn ogystal â llwybr cyhoeddus sydd yn arwain i lawr o ben y clogwyn heibio’r safle ac ymlaen at y traeth islaw.

 

Eglurwyd bod y safle presennol yn cynnwys tŷ sydd yn dyddio’n ôl i ddiwedd yr 1960’au/dechrau’r 1970’au ac o ffurf sydd yn cynnwys toeau gwastad ac yn cyfleu edrychiadau o’r cyfnod. Mae’r safle a’r ardal ehangach oddi mewn dynodiad Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli a  thu allan i barth llifogydd cyfagos sydd yn berthnasol i’r traeth yn unig. Nodwyd bod elfennau o’r cynnig wedi ei diwygio o’i gyflwyniad gwreiddiol o ganlyniad i sylwadau a dderbyniwyd oedd yn cynnwys  gorffeniadau allanol yr adeilad yn dilyn sylw gan yr Uned AHNE (er nad yw’r safle o fewn yr AHNE, ystyriwyd y rhain fel sylwadau cyffredinol).

 

Ategwyd, yn wreiddiol, bod rhan o’r cynnig yn golygu gwyro’r llwybr cyhoeddus presennol sydd yn rhedeg heibio’r safle a’i ail leoli i fod ymhellach o’r adeilad. Yn dilyn trafodaethau ynghyd a derbyn sylwadau ar y cynnig gan Uned Hawliau Tramwy’r Cyngor, Cyngor Tref Nefyn ac aelodau’r cyhoedd, penderfynwyd bod y cynnig yn rhy ddadleuol ac felly y llwybr yn aros fel y mae.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan yr Aelod Lleol am y rhesymau ei fod yn orddatblygiad o’r safle, y byddai’n creu ansefydlogrwydd i’r clogwyni ac yn creu effaith andwyol ar yr ardal.

Yng nghyd-destun polisïau perthnasol, cyfeiriwyd at ofynion polisi PS 5 sy’n nodi y dylid rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio tir ac isadeiledd yn effeithiol, gan flaenoriaethu ailddefnyddio tir ac adeiladau a ddefnyddiwyd o’r blaen, lle bynnag bo hynny’n bosib. Yn yr achos yma, mae tŷ presennol yn bodoli a’r safle eisoes wedi ei ddatblygu ac felly mae’r bwriad yn bodloni gofynion cyffredinol polisi PS 5 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLI). Ategwyd bod Polisi TAI 13 y CDLI yn ymwneud yn benodol ag ail-adeiladu tai ac yn gosod cyfres o feini prawf mae'n rhaid cydymffurfio â nhw (lle bo'n briodol) er mwyn caniatáu cynlluniau o’r fath.

Nodwyd bod y cais yn amlwg wedi golygu cryn graffu arno oherwydd nifer o ystyriaethau arbenigol na fyddai yn arferol i’w  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C22/1169/15/LL Llyfrgell Llanberis Ffordd Capel Coch, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4SH pdf eicon PDF 351 KB

Dymchwel yr hen lyfrgell ac adeiladu tri thŷ fforddiadwy canolradd newydd

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Kim Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Dymchwel yr hen lyfrgell ac adeiladu tri tŷ fforddiadwy canolradd newydd.

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel cyn llyfrgell Llanberis a chodi tri annedd fforddiadwy “canolradd” (dau dŷ pâr gyda dwy lofft ac un cartref ar wahân gyda thair llofft) yn ei le. Caewyd y llyfrgell yn 2017 ac mae'r safle, sydd o fewn ardal breswyl Canolfan Gwasanaeth Lleol Llanberis fel y'i diffinnir yn y CDLl wedi bod yn segur ers hynny. Gwasanaethir y safle gan Ffordd Capel Coch, sydd hefyd yn gwasanaethu Ysgol Gynradd Dolbadarn. Cyfeiriwyd at y bont droed dros Afon Coch sydd tua chefn y safle sy’n cysylltu gyda Stad Glanrafon - dros y blynyddoedd diwethaf cwblhawyd gwaith lliniaru yn erbyn llifogydd i lannau’r afon yn sgil llifogydd sylweddol yn 2012.

 

Nodwyd bod y datblygiad yn un gang Cyngor Gwynedd fel rhan o gynllun “Tŷ Gwynedd” ac y byddai’r y tai yn cael eu cynnig i’w prynu neu rentu am bris sy’n fforddiadwy i bobl leol.

 

Tynnwyd sylw at y nifer o wrthwynebiadau i’r cynllun oherwydd bod problemau parcio eisoes yn bodoli ar Ffordd Capel Coch sy’n achosi drwg deimlad ymysg trigolion gyda phryder y byddai creu tri thŷ yn y lleoliad yn gwaethygu’r sefyllfa. Yn ogystal mae pryderon ynghylch y perygl i ddefnyddwyr y stryd, gan gynnwys plant sy’n mynychu’r ysgol gyfagos, o’r cynnydd mewn trafnidiaeth.

 

Er gwaetha’r pryderon, nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad i'r bwriad mewn egwyddor er iddynt nodi na fyddent yn gefnogol o greu mannau parcio ar y stryd. Amlygwyd bod gofod parcio preifat ar gyfer pob eiddo newydd yn y cynlluniau ac y byddai lle ar gyfer tri char barcio ar y ffordd o flaen y datblygiad yn parhau i fod mewn lle. Ategwyd  bod y safle, tan yn ddiweddar, wedi bod yn llyfrgell gyhoeddus yn denu trafnidiaeth ynddo’i hun. O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad  ynddo’i hun yn gwaethygu’r sefyllfa barcio ar y stryd o’i gymharu â’r hyn a fyddai’n gallu digwydd dan ddefnydd cyfreithlon presennol y safle. Yn yr un modd, ni ystyriwyd y byddai’r drafnidiaeth a achosir gan dri thŷ yn achosi perygl uwch i ddefnyddwyr y stryd na’r hyn a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan y llyfrgell.

 

Yng nghyd-destun pryderon llifogydd cyflwynwyd Asesiad Canlyniad Llifogydd (ACLl) gyda’r cais mewn ymateb i sylwadau cychwynnol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Nodwyd bod canfyddiadau’r Asesiad Canlyniad Llifogydd a’r broses modelu a ddilynwyd yn cadarnhau y byddai’r datblygiad yn cydymffurfio gyda gofynion y NCT 15 cyfredol, yn benodol y meini prawf a osodir gan Atodiad 1 y NCT. Yn ogystal roedd yr  ACLl yn cynnig cyfres o fesurau lliniaru er gwella gwytnwch y datblygiad rhag llifogydd.

O ganlyniad,  ystyriwyd  fod y bwriad yn dderbyniol ar sail y gallu i reoli risg llifogydd i ddeiliaid y tai arfaethedig ac na fyddai’n achosi perygl ychwanegol mewn mannau eraill. Ystyriwyd, felly, fod y cais  yn cydymffurfio gyda gofynion Polisïau PS 5 a PS6 a chynnwys y ddogfen gyfredol NCT 15: Datblygu a Pherygl  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C22/0788/03/MW Chwarel Lechi Ffestiniog, Talywaenydd, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3ND pdf eicon PDF 539 KB

Cais ar gyfer gweithio tomen gwastraff llechi er mwyn creu stoc ar gyfer ei brosesu mewn gwaith/ffatri mwynau

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau yn ymwneud â'r isod:

  1. Hyd y cyfnod gweithio 31/12/2040 a'r cyfnod adfer hyd at 31/12/2042 i gyd-fynd â thelerau'r prif ganiatâd cynllunio.
  2. Gweithgareddau a ganiateir a chydymffurfiaeth â’r manylion/cynlluniau a gyflwynwyd.
  3. Marcio ffin y safle ac ardaloedd cloddio am fwynau.
  4. Oriau Gweithio.
  5. Rheoli symudiadau cerbydau HGV o'r safle i 9 y dydd ar ddyddiau gwaith (dydd Llun - dydd Gwener), Dim mwy na 2 ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau'r Banc/Gwyliau Cyhoeddus.
  6. Mesurau Lliniaru Llwch.
  7. Monitro ansawdd yr aer
  8. Sŵn Gweithredol - cyfyngiadau lefel sŵn.
  9. Arolygon monitro sŵn.
  10. Cyfyngu oriau gweithredu'r malwr.
  11. Mesurau rhesymol i osgoi ymlusgiaid. 
  12. Cynllun Gwella Bioamrywiaeth (i gynnwys creu gwâl dyfrgwn).
  13. Cynllun Rheoli Adfer (i gynnwys mesurau arolygu a dileu rhywogaethau ymledol anfrodorol a ffensys atal mynediad da byw i ardaloedd sydd wedi'u hadfer).

 

Cofnod:

Cais ar gyfer gweithio tomen gwastraff llechi er mwyn creu stoc ar gyfer ei brosesu mewn gwaith/ffatri mwynau

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff mai cais ydoedd ar gyfer gweithio tomen gwastraff llechi er mwyn creu stoc ar gyfer ei brosesu mewn gwaith/ffatri mwynau. Saif tomen Bryntirion o fewn Chwarel Lechi Ffestiniog sydd i'r gogledd orllewin o dref Blaenau Ffestiniog; ceir mynediad i'r chwarel gyda cherbyd o Gefnffordd yr A470, sydd tua 150m i'r gogledd o Dai Oakeley. 

 

Adroddwyd bod yr ymgeisydd yn gweithredu gwaith mwynau sy'n prosesu  gwastraff llechi o domennydd llechi'r Ffridd a Bryntirion i gynhyrchu cynhyrchion llechi gronynnog.   Adroddwyd bod rhan ddeheuol y domen eisoes wedi cael ei gweithio fel rhan o ganiatâd cynllunio C10M/0103/03/MW (a ehangwyd wedyn dan C20/0079/03/AC). Caiff y deunydd ei symud o'r domen gan duriwr â thrac (tracked excavator) a'i fwydo i falwr symudol a hopran fwydo (feed hopper) cyn ei drosglwyddo i'w sychu a'i falu i'r gwaith ar gludfelt.  Defnyddir y cynnyrch gronynnog neu bowdr yma yn bennaf ar gyfer deunyddiau adeiladu fel ffelt to, bitwmen llechi artiffisial, pryfladdwyr, paent, resinau, haenau pibellau, ffeltiau to a chwrs lleithder, corff cerbydau dan sêl, teils terazzo a phlastigion neu bydd yn cael ei gludo ar y ffordd fel agregau eilaidd.   

 

Daw'r angen am y cais o ganlyniad i'r pentwr cyfyngedig wrth gefn sydd ar ôl yn y tomennydd sydd eisoes wedi cael caniatâd i gael ei weithio.  Amcangyfrifwyd bod tua 520,000 tunnell o ddeunydd wrth gefn yn ardal y cais a byddai hyn yn sicrhau bod gan y gwaith mwynau gyflenwad parhaus o ddeunydd am bum mlynedd.

 

Nid yw'r cynnig yn cynnwys bwriad i gynyddu symudiadau HGV o'r safle a byddai'n rhyddhau'r mwynau sydd wrth gefn yn unol â'r amodau presennol ar gyfer Chwarel Ffestiniog sy'n cyfyngu ar yr allbwn i 9 llwyth fesul diwrnod gwaith a 2 lwyth ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau'r Banc/Gwyliau Cyhoeddus.

 

Cyfeiriwyd at sylwadau a dderbyniwyd gan Network Rail (NR) yn gwrthwynebu'r bwriad oherwydd diffyg gwybodaeth yn ymwneud â rheoli llwch a'i effeithiau ar siafftiau aer y twnnel. Fodd bynnag, eglurwyd bod yr ymgeisydd wedi darparu gwybodaeth drylwyr am reoli llwch ac Uned Gwarchod y Cyhoedd wedi argymell amodau priodol (mesurau lliniaru) i leihau unrhyw effaith ar ansawdd aer. Ategwyd bod NR hefyd yn  gwrthwynebu ynghylch sefydlogrwydd tir a dŵr ffo mewn perthynas â thwnnel Ffestiniog a'r rheilffordd. Gwnaed cais gan NR am drafodaethau pellach rhwng pob parti ym mis Mawrth, ond nid oedd cyfarfod i drafod sylwadau pellach ar gynnwys y wybodaeth technegol wedi digwydd.

 

Roedd yr Awdurdod Cynllunio Mwynau o'r farn bod yr ymgeisydd wedi darparu gwybodaeth ddigonol o ran adroddiadau technegol sy'n ymwneud â bod yr arwyneb yn gallu cynnal llwyth, hydroleg/daeareg ac adfer ac nad oedd unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gan NR yn gwrthbrofi digonolrwydd neu ddibynadwyedd yr adroddiadau hyn. Roedd yr awdurdod wedi cysylltu â NR sawl gwaith ynglŷn â'r materion hyn, gan dynnu eu sylw yn benodol at yr adroddiadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C23/0075/25/AC Meifod Ffordd Penrhos, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2NL pdf eicon PDF 335 KB

Cais i ddiwygio amodau ynghlwm â chaniatâd cynllunio C21/0042/25/LL ar gyfer codi tŷ deulawr, modurdy, creu mynedfa gerbydol newydd a gwaith cysylltiol : Amod 2 - Amrywio'r cynllun a ganiatawyd er galluogi newid lleoliad yr adeilad arfaethedig o fewn y safle; Amod 9 - newid y geiriad i fynnu cwblhau'r fynedfa a ddangosir ar y cynllun a gyflwynwyd cyn defnyddio'r annedd ar ddibenion trigiannol.  

Aelod Lleol: Cynghorydd Menna Baines

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol:

 

1.    Rhaid cydymffurfio gyda’r cynlluniau newydd a gyflwynwyd

2.    Y ffenestr yn edrychiad dwyreiniol y llawr daear i fod yn afloyw

3.    Rhaid dechrau’r datblygiad o fewn 5 mlynedd

4.    Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn cychwyn nes bod cynllun draenio ar gyfer y safle wedi'i gyflwyno a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol.

5.    Rhaid dilyn yn union y mesuriadau lliniaru ac yr awgrymiadau cyfoethogi bioamrywiaeth fel sydd wedi eu cynnwys yn rhan 5.2 i 5.4 i’r Adroddiad Ecolegol Cychwynnol a gyflwynwyd gyda chais C21/0042/25/LL

6.    Ni chaniateir ar unrhyw adeg i wal/gwrych/ffens derfyn presennol y briffordd nac unrhyw ffin terfyn newydd a godir yn wynebu'r briffordd fod yn uwch nag 1 metr uwchlaw lefel cerbyd lôn y ffordd sirol gyfagos o naill ben ffin y safle a'r briffordd i'r llall ac ni chaniateir codi unrhyw beth uwch na hynny o fewn 2m i'r cyfryw wal.

7.    Rhaid cynllunio ac adeiladu'r fynedfa'n gwbl unol a'r cynllun a gyflwynwyd.

8.    Tynnu’r hawliau datblygu a ganiateir

 

Nodiadau

1 - Nodyn Deddf Waliau Cydrannol

2 - Tynnu sylw'r ymgeisydd i sylwadau Dŵr Cymru

3 - Nodyn Systemau Draenio Cynaliadwy

 

Cofnod:

Cais i ddiwygio amodau ynghlwm â chaniatâd cynllunio C21/0042/25/LL ar gyfer codi tŷ deulawr, modurdy, creu mynedfa gerbydol newydd a gwaith cysylltiol : Amod 2 - Amrywio'r cynllun a ganiatawyd er galluogi newid lleoliad yr adeilad arfaethedig o fewn y safle; Amod 9 - newid y geiriad i fynnu cwblhau'r fynedfa a ddangosir ar y cynllun a gyflwynwyd cyn defnyddio'r annedd ar ddibenion trigiannol

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i ddiwygio Amod 2 (caniatâd cynllunio C21/0042/25/LL) am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer codi tŷ deulawr a gwaith cysylltiol, er mwyn caniatáu symud lleoliad y tŷ a ganiatawyd 3m tua’r gogledd ddwyrain. Eglurwyd bod y safle yn cael ei wasanaethu gan fynediad oddi ar Ffordd Penrhos sy'n ffordd sirol dosbarth 3 a bydd ardal barcio, modurdy a phorth car yn cael ei ddarparu fel rhan o'r datblygiad. Bydd cefn y safle yn ffinio llecyn o goed sydd wedi ei ddynodi fel Safle Bywyd Gwyllt Coetir Ffordd Treborth sy’n gwahanu'r safle oddi wrth Canolfan Arddio Treborth.

 

Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig wrth drafod y cais yn amlygu lleihad yn ôl troed yr adeilad o’i gymharu â’r hyn a ganiatawyd yn wreiddiol. Nodwyd bod y bwriad o symud lleoliad yr annedd yn deillio o’r angen i osgoi datblygu o fewn y parth clustogi sydd yn ymestyn 4m naill ochr i ganol prif bibell garthffosiaeth sy’n croesi’r safle.

 

Amlygwyd bod y cais hefyd yn cynnwys cynnig i ddiwygio Amod 9 o’r caniatâd blaenorol er hwyluso’r gwaith adeiladu trwy sicrhau i’r fynedfa gerbydol derfynol fod mewn lle cyn defnyddio’r annedd yn hytrach na chyn dechrau datblygu’r safle.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. Derbyniwyd neges gan yr aelod lleol yn nodi, yn sgil darllen adroddiad y swyddog a thrafodaethau pellach gyda phreswylwyr yr eiddo agosaf, oedd bellach wedi cadarnhau wrthi nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cynnig fel y mae’n sefyll. Fodd bynnag, roeddynt yn pwysleisio'r angen i gadw at y cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

 

Ystyriwyd bod egwyddor y bwriad o godi tŷ o faint a dyluniad tebyg ar y safle hwn eisoes wedi ei dderbyn drwy ganiatâd C21/0042/25/LL  - nid yw’r polisïau perthnasol wedi newid ers hynny ac felly mae’r caniatâd hwnnw wedi ei weithredu ac yn fyw. Fe ystyriwyd fod yr egwyddor o godi annedd ar y safle yn parhau i fod yn dderbyniol ac yn unol ag egwyddor y polisïau tai cyfredol.

 

Wrth ystyried y lleihad a fu yn ôl troed y datblygiad, yn enwedig yn yr estyniad tua’r gogledd, ynghyd a’r drafodaeth ynghylch yr effeithiau mwynderol, ni ystyriwyd y byddai symud y tŷ hwn i’r lleoliad newydd yn cael effaith mwynderol niweidiol  arwyddocaol ar edrychiad y safle, y patrwm datblygu lleol nag ar fwynderau preifat.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD Caniatáu yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol:

 

1.         Rhaid cydymffurfio gyda’r cynlluniau newydd a gyflwynwyd

2.         Y ffenestr yn edrychiad dwyreiniol y llawr daear i fod yn afloyw

3.         Rhaid dechrau’r datblygiad o fewn 5 mlynedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C22/0909/22/LL Fferm Taldrwst Lôn Ddwr, Llanllyfni, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6RR pdf eicon PDF 378 KB

Dymchwel y tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gosod suddfan ddŵr a chyfarpar offer trin carthion preifat.

Aelod Lleol: Cynghorydd Peter Thomas

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

1.    Yn unol gyda’r cynlluniau

2.    Gweithredu’r caniatâd o fewn 5 mlynedd.

3.    Deunyddiau

4.    Tirlunio a gwarchod coed

5.    Manylion ffiniau / cwrtil

6.    Gwaith ymchwil archeolegol

7.    Tynnu hawliau a ganiateir

8.    Cwblhau’r gwaith yn unol gyda’r adroddiad rhywogaethau gwarchodedig.

 

Cofnod:

Cais i ddiwygio amodau ynghlwm â chaniatâd cynllunio C21/0042/25/LL ar gyfer codi tŷ deulawr, modurdy, creu mynedfa gerbydol newydd a gwaith cysylltiol : Amod 2 - Amrywio'r cynllun a ganiatawyd er galluogi newid lleoliad yr adeilad arfaethedig o fewn y safle; Amod 9 - newid y geiriad i fynnu cwblhau'r fynedfa a ddangosir ar y cynllun a gyflwynwyd cyn defnyddio'r annedd ar ddibenion trigiannol

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i ddiwygio Amod 2 (caniatâd cynllunio C21/0042/25/LL) am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer codi tŷ deulawr a gwaith cysylltiol, er mwyn caniatáu symud lleoliad y tŷ a ganiatawyd 3m tua’r gogledd ddwyrain. Eglurwyd bod y safle yn cael ei wasanaethu gan fynediad oddi ar Ffordd Penrhos sy'n ffordd sirol dosbarth 3 a bydd ardal barcio, modurdy a phorth car yn cael ei ddarparu fel rhan o'r datblygiad. Bydd cefn y safle yn ffinio llecyn o goed sydd wedi ei ddynodi fel Safle Bywyd Gwyllt Coetir Ffordd Treborth sy’n gwahanu'r safle oddi wrth Canolfan Arddio Treborth.

 

Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig wrth drafod y cais yn amlygu lleihad yn ôl troed yr adeilad o’i gymharu â’r hyn a ganiatawyd yn wreiddiol. Nodwyd bod y bwriad o symud lleoliad yr annedd yn deillio o’r angen i osgoi datblygu o fewn y parth clustogi sydd yn ymestyn 4m naill ochr i ganol prif bibell garthffosiaeth sy’n croesi’r safle.

 

Amlygwyd bod y cais hefyd yn cynnwys cynnig i ddiwygio Amod 9 o’r caniatâd blaenorol er hwyluso’r gwaith adeiladu trwy sicrhau i’r fynedfa gerbydol derfynol fod mewn lle cyn defnyddio’r annedd yn hytrach na chyn dechrau datblygu’r safle.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. Derbyniwyd neges gan yr aelod lleol yn nodi, yn sgil darllen adroddiad y swyddog a thrafodaethau pellach gyda phreswylwyr yr eiddo agosaf, oedd bellach wedi cadarnhau wrthi nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cynnig fel y mae’n sefyll. Fodd bynnag, roeddynt yn pwysleisio'r angen i gadw at y cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

 

Ystyriwyd bod egwyddor y bwriad o godi tŷ o faint a dyluniad tebyg ar y safle hwn eisoes wedi ei dderbyn drwy ganiatâd C21/0042/25/LL  - nid yw’r polisïau perthnasol wedi newid ers hynny ac felly mae’r caniatâd hwnnw wedi ei weithredu ac yn fyw. Fe ystyriwyd fod yr egwyddor o godi annedd ar y safle yn parhau i fod yn dderbyniol ac yn unol ag egwyddor y polisïau tai cyfredol.

 

Wrth ystyried y lleihad a fu yn ôl troed y datblygiad, yn enwedig yn yr estyniad tua’r gogledd, ynghyd a’r drafodaeth ynghylch yr effeithiau mwynderol, ni ystyriwyd y byddai symud y tŷ hwn i’r lleoliad newydd yn cael effaith mwynderol niweidiol  arwyddocaol ar edrychiad y safle, y patrwm datblygu lleol nag ar fwynderau preifat.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD Caniatáu yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol:

 

Dymchwel y tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gosod suddfan ddŵr a chyfarpar offer trin carthion preifat.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais Rhif C23/0201/08/LL Tir gyferbyn a Trem Y Moelwyn, Penrhyndeudraeth. Gwynedd pdf eicon PDF 449 KB

Adeiladu 41 o dai fforddiadwy a datblygiadau cysylltiedig 

Aelod Lleol: Cynghorydd  Meryl Roberts

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd arwyddo cytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol llecynnau agored ac i’r amodau isod: -

 

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.
  3. Tirlunio
  4. Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy e.e. cymysgedd, daliadaeth, meini prawf meddiannaeth, amserlen a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn fforddiadwy yn bresennol ac am byth.
  5. Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol; Arolwg Ymlusgiaid a Datganiad Gwaredu Rhywogaethau Ymledol.
  6. Cytuno manylion enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad cyn i’r unedau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.
  7. Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00-18:00 Llun i Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.
  8. Cydymffurfiaeth gyda chynnwys y ddogfen Cynllun Rheoli Adeiladu Amgylcheddol a gyflwynwyd fel rhan o’r cais.
  9. Amodau perthnasol gan yr Uned Drafnidiaeth parthed gwelliannau i’r fynedfa a’r llecynnau parcio.
  10. Cyflwyno a chytuno gydag esiamplau o ddeunyddiau a’r lliwiau ar gyfer yr anheddau preswyl.
  11. Cyflwyno a chytuno gyda chynllun gwelliannau bioamrywiaeth i gynnwys ail leoli’r ymlusgiaid.
  12. Cyflwyno a chytuno manylion y paneli solar.
  13. Cyfyngu defnydd y tai arfaethedig i Ddefnydd Dosbarth C3 o’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd)(Diwygio)(Cymru), 1987 – tai annedd a ddefnyddir fel unig breswylfa neu brif breswylfa.
  14. Cytuno ar leoliad a math o rwystr sŵn gyferbyn a thai trigolion cyfagos cyn cychwyn gwaith ar y safle

 

Amod/cytundeb 106 ar gyfer adleoli’r ymlusgiaid

Nodyn - angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

Nodyn – cyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a chyngor diwygiedig Dwr Cymru.

Nodyn – cyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a’r cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru. 

 

Cofnod:

Adeiladu 41 o dai fforddiadwy a datblygiadau cysylltiedig

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer darparu 41 tŷ, mynedfa newydd, ffordd stad newydd a gwaith cysylltiedig ar lecyn o dir ar safle sydd wedi ei ddynodi o dan T48 fel safle tai  yn y CDLl. Saif y safle ar lecyn o dir amaethyddol,   a ddefnyddir fel porfa da byw, yng nghanol  Penrhyndeudraeth ac oddi fewn i’r ffin datblygu. Nodwyd bod y  safle yn mesur 1.26ha a gellid rhannu’r cais i wahanol elfennau sy’n cynnwys:-

·      Darparu 41uned breswyl i gynnwys 30 tŷ deulawr (20 tŷ 2 lofft 4 person; 5 tŷ 3 llofft 5 person; 1 tŷ 7 person 4 llofft a 4 tŷ mynediad ochr 5 person); 1 byngalo 2 lofft 3 person; 8 fflat (1 llofft 2 berson); un tŷ cymorth byw 6 llofft 10 person ynghyd ag un byngalo 4 llofft ar gyfer mynediad gadair olwyn.

·      Darparu llecynnau parcio o fewn cwrtil bob tŷ ac oddi ar y ffordd.

·      Creu mynediad newydd oddi ar Stad Trem y Moelwyn.

·      Creu mynediad troed newydd oddi ar y briffordd gyfagosA.487.

·      Tirlunio a thirweddu meddal a chaled o fewn ac ar ymylon y safle.

·      Cynllun gwelliannau bioamrywiaeth.

·      Darparu llecyn agored anffurfiol i blant ynghyd a llecyn amwynder.

·      Gosod system ddraenio dŵr hwyneb a dŵr aflan i wasanaethu’r datblygiad.

·      Cwlfertio rhan o’r cwrs dwr sy’n rhedeg drwy’r safle.

 

Adroddwyd y byddai Penrhyndeudraeth yn mynd y tu hwnt i’w lefel dangosol gyda’r datblygiad hwn ac o ganlyniad byddai angen cyfiawnhad gyda’r cais yn amlinellu sut fydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol drwy ddarparu cymysgedd priodol o dai (Polisi TAI 8). Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth i gefnogi’r cais oedd yn nodi mai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig Grŵp Cynefin ynghyd a Clwyd-Alun fyddai’n gweithio law yn llaw i godi’r tai fforddiadwy a dod yn berchnogion ar y safle unwaith bydd y datblygiad wedi ei gwblhau. Nodwyd hefyd bod y cynllun wedi ei gynnwys o fewn rhaglen i dderbyn Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru. Byddai Grŵp Cynefin yn gyfrifol am 19 tŷ fforddiadwy a Clwyd-Alun yn gyfrifol am 22 tŷ fforddiadwy gyda’r ddaliadaeth yn gymysg o rent cymdeithasol a chanolradd; rhan-berchnogaeth a thai canol radd fforddiadwy ar werth ac mae’r cymysg yma o dai yn ymateb i’r angen lleol am dai fforddiadwy ym Mhenrhyndeudraeth.

 

Yng nghyd-destun materion addysgol, cadarnhawyd bod digon o gapasiti yn ysgolion y dalgylch, sef, Ysgol Gynradd Cefn Coch ac Ysgol Ardudwy i ymdopi gyda nifer arfaethedig o blant gellid ei ddisgwyl o ganiatáu’r bwriad hwn.

 

Yng nghyd-destun materion llecynnau agored nodwyd bod darpariaeth o lecynnau agored anffurfiol i’w leoli yng nghanol y safle a fyddai yn rhoi cyfle i’r darpar feddianwyr ei ddefnyddio, yn ogystal â thrigolion eraill lleol. Mae’r ddarpariaeth yma o lecynnau agored anffurfiol ar wahân ac yn ychwanegol i’r angen ar gyfer llecynnau chwarae ffurfiol/anffurfiol i blant a llecynnau chwaraeon awyr agored. Er hynny, nodwyd bod diffyg llecynnau chwarae gyda chyfarpar offer  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.