Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2022/23

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Edgar Owen yn Gadeirydd ar gyfer 2022/23

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Edgar Owen yn Gadeirydd ar gyfer 2022/23

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 22/23

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Elwyn Edwards yn Is-gadeirydd ar gyfer 2022/23

 

Cofnod:

Cynigiwyd ac eiliwyd dau enw am yr is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd Elwyn Edwards a’r Cynghorydd Gruffydd Williams

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Elwyn Edwards yn Is-gadeirydd ar gyfer 2022/23

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth A Roberts: y Cynghorydd Elin Walker Jones (Aelod Lleol)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Louise Hughes yn eitem 7.5 (C21/1183/09/LL) ar y rhaglen oherwydd ei bod yn adnabod yr ymgeisydd

Y Cynghorydd Huw Rowlands yn eitem 7.6 (C22/0038/22/LL) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd

Y Cynghorydd Gruffydd Williams yn eitem 7.6 (C22/0038/22/Ll) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd ar gwrthwynebydd

Y Cynghorydd Cai Larsen yn eitem 7.9 (C21/1206/25/Ll) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn aelod o Fwrdd Adra

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais

 

b)    Datganodd yr aelodau canlynol eu  bod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·         Y Cynghorydd Dafydd Meurig (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.2 (C22/0134/16/LL) a 7.9 (C21/1206/25/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Gareth Morris Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.3 (C21/0734/46/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Elin Hywel (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.4 (C20/0870/45/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Anne Lloyd-Jones  (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.5 (C21/1183/09/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Peter Thomas (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.6 (C22/0038/22/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Huw Wyn Jones (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.7 (C21/1174/11/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Kim Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.8 (C22/0239/15/LL) ar y rhaglen

 

c)    Nododd yr Aelodau eu bod wedi derbyn gohebiaeth ynglŷn a chais 7.5 a 7.6

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 446 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11eg Ebrill 2022 fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

7.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

 

PENDERFYNWYD

 

8.

Cais Rhif C22/0251/11/DA 23 Ffordd Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HY pdf eicon PDF 293 KB

Diwygiad ansylweddol i'r cynlluniau a gymeradwywyd gan ganiatâd cynllunio C19/0224/11/LL er mwyn caniatáu defnyddio gorchudd pvc-u ar edrychiad cefn yr estyniad yn lle rendr gro chwip.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amod isod: -

 

·         Cwblheir y diwygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun diwygiedig dyddiedig 03.05.22 a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio rhif C19/0224/11/LL.

 

 

Cofnod:

Diwygiad ansylweddol i'r cynlluniau a gymeradwywyd gan ganiatâd cynllunio C19/0224/11/LL er mwyn caniatáu defnyddio gorchudd pvc-u ar edrychiad cefn yr estyniad yn lle rendr gro chwip

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais diwygiad ansylweddol ydoedd i’r cynlluniau a ganiatawyd gyda chaniatâd cynllunio C19/0224/11/LL er mwyn caniatáu defnyddio gorchudd pvc-u ar edrychiad cefn yr estyniad yn lle rendr gro chwip. Eglurwyd bod y tŷ pâr deulawr o fewn ardal breswyl sefydledig i’r de-orllewin o ganol y ddinas ar ffurf rubanog gyferbyn a’r ffordd sirol dosbarth III, Ffordd Belmont.

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn berthynas agos i gynghorydd Ward Dewi ym Mangor.

 

b)  Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amod isod: -

 

·           Cwblheir y diwygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun diwygiedig dyddiedig 03.05.22 a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio rhif C19/0224/11/LL.

 

9.

Cais Rhif C22/0134/16/LL Plot C1, Parc Bryn Cegin, Llandegai , Bangor, LL57 4BG pdf eicon PDF 455 KB

Datblygiad cyfleuster tanwydd Bio - nwy naturiol wedi ei gywasgu ar gyfer cerbydau gan gynnwys pympiau tanwydd, cwmpownd cyfarpar offer, creu mynedfeydd newydd, tirlunio a datblygiad cysylltiedig

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

Caniatáu – amodau

 

1.         5 mlynedd

2.         Unol a’r cynlluniau

3.         Cwblhau’r fynedfa yn unol â’r cynlluniau

4.         Dim lorïau yn parcio dros nos

5.         Cynllun tirweddu

6.         Cydymffurfio a chynllun goleuo

7.         Dwr Cymru

8.        Cwblhau yn unol a gofynion asesiad sŵn ac asesiad golau

 

Nodiadau

  • Priffyrdd
  • SUDS

Cofnod:

Datblygiad cyfleuster tanwydd Bio - nwy naturiol wedi ei gywasgu ar gyfer cerbydau gan gynnwys pympiau tanwydd, cwmpownd cyfarpar offer, creu mynedfeydd newydd, tirlunio a datblygiad cysylltiedig.

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 10/06/22 

 

a)            Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod penderfyniad ar y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio 11 Ebrill, 2022 er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Eglurwyd bod y cynnig yn ymwneud â datblygu cyfleuster tanwydd cerbydau Bio-CNG (nwy naturiol bio cywasgedig) yn cynnwys ynysoedd pwmp tanwydd, compownd peiriannau, creu mynedfa newydd a datblygiad cysylltiedig o fewn Stad Ddiwydiannol Bryn Cegin. Nodwyd byddai’r cyfleuster yn gwasanaethu gweithredwyr logisteg a dosbarthu ac yn gweithredu 24 awr y dydd, heb staff, gyda gyrwyr yn actifadu'r pympiau trwy ffob awtomatig. Nodwyd bod y bwriad yn golygu datblygu llain wag o fewn Stad Ddiwydiannol Parc Bryn Cegin sydd wedi’i ddynodi a’i warchod o fewn y CDLl  fel Safle Cyflogaeth Strategol a Ddiogelir Rhanbarthol.

 

Yng nghyd-destun ystyriaethau cynlluniau, prif bryderon yr Aelod Lleol a’r trigolion cyfagos oedd effaith posib y bwriad ar sail aflonyddwch sŵn a llygredd golau. Amlygwyd bod y safle yn ffinio a chefnau 3 tŷ preswyl  - 1 i 3 Rhos Isaf. Cydnabuwyd fod y tai ar lefel uwch a bod bwriad i lefelu safle’r cais fel bod wal gynnal rhyngddo a’r tai ynghyd a ffens acwstig ar ei ben. Amlygywd bod asesiad sŵn a chynllun goleuo wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais a bod canlyniadau’r asesiadau yn dangos na ddisgwylir i effeithiau'r sŵn gweithredol yr orsaf ail-lenwi â thanwydd gael unrhyw effaith andwyol sylweddol, yn dibynnu ar y cyd-destun.

 

Nodwyd bod yr Uned Gwarchod y Cyhoedd bellach wedi derbyn yr hyn yr oedd ymgynghorydd sŵn wedi ei nodi a’r angen i asesu pob safle yn unigol ynghyd a’r lefelau sŵn. Ategwyd bod y safle wedi ei nodi fel stad ddiwydianol ar wybodaeth ychwanegol wedi mynegi na fydd y lefelau sŵn o’r safle yn cael effaith negyddol ar dai y preswylwyr. Er y bydd lefel sgor 4db yn uwch na’r lefel sŵn cefndir presennol ar y sefyllfa waethaf posibl, byddai’r lefelau’n dal i gydymffurfio a’r lefelau a amlinellwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd pe bai’r holl fesurau lliniaru sŵn yn cael eu gweithredu.

 

O ganlyniad i sylwadau Gwasanaeth y Cyhoedd, argymhellwyd cynnwys amod yn cyfeirio at gydymffurfio gyda chynnwys yr asesiad sŵn ac yr asesiad golau. Wedi asesu’r bwriad yn llawn ystyriwyd ei fod yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau a chanllawiau perthnasol. 

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·                  Mai CG Fuels yw’r datblygwr mwyaf  blaenllaw mewn gweithredu Bio-CNG (nwy naturiol bio cywasgedig).

·                  Y cwmni yn bwriadu darparu rhwydwaith eang o gyfleusterau dibynadwy a chyfleus ledled y DU i wasanaethu eu cwsmeriaid ac i fodloni’r gofynion cynyddol gan fflydoedd i ddatgarboneiddio gweithrediadau trafnidiaeth.

·                  Bio- CNG wedi’i gymeradwyo gan yr Adran Drafnidiaeth ac mae’n cydymffurfio â deddfwriaeth y DU.

·                  Bod y galw yn cynyddu wrth i gwmnïau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C21/0734/46/LL Tyddyn Isaf, Tudweiliog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8PB pdf eicon PDF 346 KB

Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain, codi adeilad newydd i gynnwys cawodydd/toiledau, holl lleiniau caled cysylltiedig, ail wynebu a mynediad

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain, codi adeilad newydd i gynnwys cawodydd/toiledau, holl leiniau caled cysylltiedig, ail wynebu a mynediad

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn amlygu manylion tirweddu ychwanegol.

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 10/06/22. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi parcio car a charafan yn y cae i geisio amlygu’r effaith.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod gohiriad i benderfyniad ar y cais wedi ei wneud ym mhwyllgor Ebrill 2022 er mwyn cynnal ymweliad safle gan aelodau’r Pwyllgor.

 

Eglurwyd bod y  safle wedi ei leoli y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu mewn safle agored yng nghefn gwlad gyda’r daliad presennol yn cynnwys tŷ annedd, iard fferm ac adeiladau cysylltiol a ffordd gyhoeddus dosbarth 3 yn rhedeg heibio’r safle gan wahanu'r iard a safle mynediad y safle carafanau arfaethedig oddi wrth yr annedd dŷ gerllaw. Ategwyd bod y safle a'r ardal gyfagos o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn yn ogystal â Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.

 

Nodwyd,  gan mai safle ar gyfer carafanau teithiol oedd yn destun y cais yma, bod rhaid ei ystyried o dan bolisi TWR 5 y CDLl sy’n gosod cyfres o feini prawf ar gyfer caniatáu datblygiadau o’r fath. Ategywd bod maen prawf 1 polisi TWR 5 yn datgan y dylai unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad ac y dylai fod wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w hansawdd weledol.

 

Er yn derbyn bod cynllun plannu a thirweddu wedi ei gyflwyno gan yr ymgieysdd, roedd y swyddogion yn parhau i argymell gwrthod y cais am nad oedd y safle wedi ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd ac nad yw’r safle mewn lleoliad lle gellid cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd. Oherwydd hyn, ystyriwyd byddai’r datblygiad yn cael effaith sylweddol arwyddocaol a niweidiol ar fwynderau gweledol yr ardal leol ac ni ystyriwyd y byddai'r bwriad yn gwarchod a gwella Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn. Ystyriwyd fod y bwriad yn groes i faen prawf 1 o bolisi TWR 5, a pholisïau PS19 a AMG 1 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 mabwysiadwyd 31 Gorffennaf 2017.

 

b)    Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd perthynas i’r ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod y teulu yn lleol sydd a’i gwreiddiau yn gadarn ym Mhenllyn - wedi eu magu, addysgu ac yn gweithio yn lleol.

·         Bod y bwriad yn gynllun teulu cyfan gyda gobaith o allu datblygu busnes cynhenid, llwyddiannus a hir dymor yn Nhudweiliog; Gyda buddion lluosog i’r economi leol i siopau, tafarndai, bwytai a chyrchfannau gwyliau a phentrefi ym Mhenllyn a thu hwnt.

·         Bod y cais yn dderbyniol ac yn cwrdd â gofynion y CDLl ac eithrio un cymal o bolisi Cynllunio TWR 5 sydd yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C20/0870/45/LL Tir yn Ysgubor Wen, Pwllheli, LL53 5UB pdf eicon PDF 449 KB

Codi pump tŷ ynghyd a mynedfa, parcio a thirlunio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau a chwblhau cytundeb 106 i sicrhau darpariaeth o un tŷ fforddiadwy:

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.         Cytuno ar fanylion deunyddiau allanol gan gynnwys llechi

4.         Tirlunio/Coed

5.         Materion draenio/SUDS

6.         Materion Bioamrywiaeth

7.         Materion Archeolegol

8.         Materion Fforddiadwy.

9.         Materion Priffyrdd

10.       Mesurau Gwarchod a gwella’r gwrych

11.       Triniaethau ffin

Cofnod:

Codi pum tŷ ynghyd a mynedfa, parcio a thirlunio

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais wedi ei gyflwyno i’r pwyllgor Cynllunio yn wreiddiol ar 21/06/21 pryd y penderfynwyd ei ganiatáu yn ddarostyngedig ar bennu disgownt priodol ar gyfer cyfyngu gwerth dau dŷ fforddiadwy a chwblhau cytundeb 106 i sicrhau fod y ddau dŷ yn rhai fforddiadwy ar gyfer angen lleol. Ategwyd bod  trafodaethau helaeth wedi eu cynnal rhwng swyddogion a’r ymgeisydd ers penderfyniad y pwyllgor ac o ganlyniad i gyflwyno tystiolaeth ariannol manwl, daethpwyd i’r amlwg y byddai’n anhyfyw cynnwys dau dŷ fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad.

 

Yn unol â phenderfyniad y pwyllgor i ganiatáu yn ddarostyngedig i drafod a chytuno ar ddisgownt priodol ar gyfer yr unedau fforddiadwy, derbyniwyd prisiad marchnad agored ar gyfer y tai fforddiadwy. Ar sail y wybodaeth ynghyd a chyngor gan yr Uned Strategol Tai, penderfynwyd bod angen disgownt o 40% er mwyn sicrhau fod y tai mewn cyrraedd pobol sydd mewn angen o dŷ fforddiadwy canolradd. Yn dilyn hyn, derbyniwyd gwrthwynebiad i’r disgownt gan yr ymgeisydd gan fyddai disgownt mor uchel yn effeithio hyfywedd y cynllun yn ei gyfanrwydd.

 

Eglurwyd bod gofynion perthnasol y polisi a’r CCA hefyd yn nodi os na ddarperir y gyfran angenrheidiol o unedau fforddiadwy o fewn y safle, yna rhaid ystyried taliad pro-rata yn hytrach na dim darpariaeth fforddiadwy. Yn yr achos yma, ac wedi asesu costau’r datblygiad/adeiladu fel a gyflwynwyd o fewn y prisiad llyfr coch diweddaraf, mae’n glir ar sail cynnwys un uned fforddiadwy gyda disgownt o 40%, na fyddai’n hyfyw darparu uned fforddiadwy arall na gofyn am daliad pro-rata yn lle’r ail uned fforddiadwy. Fel sydd yn cael ei nodi felly yn y polisïau a’r cyngor perthnasol, mae’r elfen fforddiadwy yn yr achos yma yn adlewyrchu nifer yr unedau fforddiadwy yng nghyd destun casgliadau'r asesiad. O ganlyniad, gwnaed penderfyniad i dderbyn un tŷ fforddiadwy ar llain 4 gyda disgownt o 40% i’w ategu trwy gytundeb cyfreithiol fel ei fod yn parhau yn fforddiadwy ar gyfer angen lleol. 

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Nad oedd llawer o newid i’r cais gwreiddiol a’i bod yn barod i gefnogi’r cynllun

·         Er pryderon carthffosiaeth gan drigolion, cafwyd ymateb derbyniol

·         Bod argyfwng tai ym Mhwllheli ac angen am dai fforddiadwy

·         Bod angen y tai cywir yn y lle cywir

·         Angen ystyried safbwynt y datblygwr – cwmni adeiladu lleol sydd yn datblygu yma – Cymro lleol yn cyflogi yn lleol ac felly yn gefnogol i hyn

·         Nid yw'r cynllun yn hyfyw - y system yn methu - angen adolygiad o’r broses

·         Pryder nad oes datganiad iaith wedi ei gynnwys oherwydd bod y safle o fewn y ffin datblygu ac ystyriaeth eisoes wedi ei roi i’r safle wrth sefydlu’r Cynllun. Angen adroddiad mwy diweddar – y sefyllfa a ffactorau yn newid yn aml

 

c)    Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

d)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a ffigwr dangosol ar gyfer clwstwr Pwllheli ac os yw'r ddarpariaeth tai dangosol i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais Rhif C21/1183/09/LL Tir ger Mor Awelon, Tywyn, LL36 9HG pdf eicon PDF 374 KB

Adeiladu un annedd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anne Lloyd-Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod:-

 

  • Y safle yng nghefn gwlad agored ac nid yw’r bwriad yn un am dŷ menter wledig ac felly ystyrir fod y bwriad yn groes i Bolisi Strategol PS 17 a Pholisi PCYFF 1 Cynllun Datblygu ar y Cyd Gwynedd a Môn ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 6: cynllunio ar gyfer cymunedau gwledig cynaliadwy.

 

  • Nid yw’r ymgeiswyr wedi cael ei hasesu i fod mewn angen tŷ fforddiadwy, mae maint yr eiddo yn sylweddol fwy na maint tŷ fforddiadwy fel y diffinnir yn y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy ac yn niffyg prisiad o werth marchnad agored yr eiddo ni ellir sicrhau y byddai’r eiddo o bris fforddiadwy nag yn parhau yn fforddiadwy i’r dyfodol.  Ni ystyrir felly y byddai’r bwriad dan sylw yn darparu tŷ fforddiadwy ar y safle a bod y bwriad felly yn groes i ofynion polisi TAI 16 Cynllun Datblygu ar y Cyd Gwynedd a Môn sydd ond yn caniatáu cynigion am gynlluniau 100% tai fforddiadwy.  Mae hefyd yn groes i gynnwys y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy.

 

Cofnod:

Adeiladu un annedd

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu tŷ annedd (3 ystafell wely) o ddyluniad deulawr yn bennaf ond fyddai’n cynnwys storfa gardd o dan ran o’r tŷ arfaethedig (fyddai’n gwneud y rhan hynny yn dri llawr) ar dir ger Môr Awelon, Ffordd Brynhyfryd, Tywyn.  

 

Cyflwynwyd fel rhan o’r cais Ddatganiad Iaith Gymraeg, Datganiad Dyluniad a Mynediad, Datganiad Cynllunio, Asesiad Ecolegol Cychwynnol  a llythyr o gyfiawnhad pellach am dŷ ar y safle sydd yn gorwedd yng nghefn gwlad ond yn union gerllaw ffin ddatblygu Tywyn.  Ategwyd bod y safle o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Dysynni gyda gwrychoedd o eithin yn bennaf ac ambell i goeden ar y ffin gyda’r ffordd ddosbarth 1 A493 ac Ysbyty Tywyn sydd yn adeilad rhestredig Gradd II ar yr ochr arall.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais y cyn aelod lleol Cyng. Mike Stevens

 

Eglurwyd bod mapiau ar gyfer Tywyn yn amlygu bod y safle yn gorwedd y tu allan i ffin ddatblygu'r ganolfan gwasanaeth lleol ac felly ystyriwyd bod y bwriad yn gyfystyr a chodi tŷ newydd yng nghefn gwlad.  Nodwyd bod Polisi Strategol PS 17 - Strategaeth Aneddleoedd yn ymwneud gyda dosbarthiad tai, o safbwynt safle yng nghefn gwlad agored yn nodi mai dim ond datblygiadau tai sy’n cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru a NCT 6 fydd yn cael eu caniatáu yng nghefn gwlad agored.  Yn unol gyda NCT 6 un o’r ychydig sefyllfaoedd lle gellid cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd yng nghefn gwlad yw pan fo angen llety i alluogi gweithwyr menter wledig i fyw yn eu man gwaith neu’n agos ato.  Ystyriwyd nad oedd y cais presennol yn un am dŷ menter wledig ac felly y bwriad yn groes i Bolisi Strategol PS 17 a Pholisi PCYFF 1 ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru a NCT 6.

 

Yng nghyd -destun cyfiawnhau yr angen am dŷ fforddiadwy ar y safle, amlygwyd nad oedd yr ymgeiswyr wedi cael ei hasesu i fod mewn angen tŷ fforddiadwy, a bod  maint yr eiddo yn sylweddol fwy na maint tŷ fforddiadwy. Yn ychwanegol, ac yn niffyg prisiad o werth marchnad agored yr eiddo ni ellid sicrhau y byddai’r eiddo o bris fforddiadwy nag yn parhau yn fforddiadwy i’r dyfodol.  Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad dan sylw yn darparu tŷ fforddiadwy ar y safle a bod y bwriad felly yn groes i ofynion polisi TAI 16 sydd ond yn gallu caniatáu fel eithriad gynigion am gynlluniau 100% tai fforddiadwy ar safleoedd sy’n union gerllaw’r ffiniau datblygu ac sy’n ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddle ac i gynnwys y Canllaw Cynllunio Ataoldo Tai Fforddiadwy.

 

Yn dilyn derbyn cynllun lleoliad a cynllun safle diwygiedig ynghyd a gwybodaeth ychwanegol am y lleiniau gwelededd, nodwyd bod rheswm gwrthod yn ymwneud a chreu mynediad newydd yn cael ei ddileu.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod yr eiddo yn un a fydd wedi ei hunan adeiladu

·         Yr ymgeiswyr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cais Rhif C22/0038/22/LL Fferm Taldrwst Lôn Ddwr, Llanllyfni, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6RR pdf eicon PDF 437 KB

Ymestyn trac dan gyfeirnod cais C21/1155/22/YA am bellter o 15 medr i'r gogledd o'r fynedfa bresennol ynghyd ác adeilad pont i groesi'r cwrs dwr - Lôn Tyddyn Agnes, Llanllyfni

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Gohirio a chynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Ymestyn trac  dan gyfeirnod cais  C21/1155/22/YA am bellter o 15 medr i'r gogledd o'r fynedfa bresennol ynghyd ac adeilad pont i groesi'r cwrs dwr  - Lon Tyddyn Agnes, Llanllyfni

 

a)            Awgrymodd y Pennaeth Cyfreithiol ohirio’r penderfyniad fel bod modd ymgynghori ymhellach gyda thrigolion cyfagos ac i gynnal ymweliad safle.

 

Ategodd y Pennaeth Cyfreithiol, mai priodol fyddai cynnal ymweliad safle

 

b)            Cynigiwyd ac eiliwyd gohirio a chynnal ymweliad safle.

 

PENDERFYNWYD: Gohirio a chynnal ymweliad safle

 

 

 

14.

Cais Rhif C21/1174/11/LL Bae Hirael, Bangor, LL57 1AD pdf eicon PDF 364 KB

Adeiladu amddiffynfa llifogydd yn ardal Hirael o Fangor i gynnwys:-

1.    Gwelliannau i'r llwybr beicio

2.    Adeiladu wal concrid newydd i ddisodli'r caergawellau presennol gan ddilyn ôl-troed y wal mor presennol.

3.    Ail-adeiladu llithrfa.

4.    Codi arglawdd bridd.

5.    Gosod 2 giât llifogydd.

6.    Codi uchder rhan o  ffordd Lon Glandŵr ynghyd a chodi wal goncrid newydd.

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Medwyn Hughes a’r Cynghorydd Huw Wyn Jones

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-

 

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais
  3. Cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu i gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a dirgryniad i’w gytuno gyda’r ACLL.
  4. Cyflwyno Asesiad Risg Bioddiogelwch.
  5. Cydymffurfio gydag argymhellion Asesiad Rheoliadau Cynefin diwygiedig.
  6. Cyflwyno Cynllun Datganiad Dull/Asesiad Risg er mwyn diogelu asedau Dwr Cymru sy’n croesi’r safle.
  7. Cyflwyno manylion Rhaglen Archeolegol i’w ddilyn gan adroddiad o’r gwaith archeolegol a garwyd allan ar y safle.
  8. Cyfyngu oriau gweithio sy’n cynnwys rhedeg peiriannau a mewnforio deunyddiau rhwng 08:00 i 18:00 Llun i Gwener a dim o gwbl ar ddydd Sadwrn, Sul a Gwyliau Banc oni bai bod ymestyn yr oriau gweithio hyn wedi ei ganiatáu’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.
  9. Angen gwarchod llwybr cyhoeddus rhif 28 a 29 Bangor yn ystod ac ar ôl cwblhau’r datblygiad.

 

Cofnod:

Adeiladu amddiffynfa llifogydd yn ardal Hirael o Fangor i gynnwys:-

1.         Gwelliannau i'r llwybr beicio.

2.         Adeiladu wal concrid newydd i ddisodli'r caergewyll presennol gan ddilyn ôl-troed y wal mor bresennol.

3.         Ail-adeiladu llithrfa.

4.         Codi arglawdd pridd.

5.         Gosod 2 giât llifogydd.

6.         Codi uchder rhan o  ffordd Lon Glandŵr ynghyd a chodi wal goncrid newydd.

 

a)            Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod sawl elfen i’r cais llawn yma ar gyfer adeiladu amddiffynfa llifogydd 550m o hyd yn ardal Hirael ar gyrion arfordirol gogleddol Bangor a bod y cais yn cael ei gyflwyno gan fod Hirael, yn hanesyddol, wedi bod mewn perygl o lifogydd o sawl ffynhonnell. Nodwyd bod yr amddiffynfeydd arfordirol presennol yn gyfyngedig a’r unig amddiffynfeydd ffurfiol yn yr ardal yw’r morglawdd presennol o gaergewyll dirywiedig.  Nid oes unrhyw strwythurau eraill sy’n rheoli llifogydd arfordirol o fewn yr ardal. O dan Gynllun Rheoli Traethlin 2 mae Hirael yn newid mewn polisi o “gadw’r llinell” (Hold the Line) yn Epoch 1 a 2 i “adlinio rheoledig” (Managed Realignment) erbyn Epoch 3.

 

Ystyriwyd bod egwyddor y bwriad o ganiatáu’r cais yn dderbyniol ar sail ei effaith ar fwynderau gweledol, preswyl, bioamrywiaeth yn lleol a chenedlaethol ynghyd a materion trafnidiaeth ac y byddai adeiladu amddiffynfa llifogydd yn ardal Hirael o’r ddinas yn ymateb yn bositif i’r gwendidau strwythurol sydd wedi eu hadnabod yn yr amddiffynfa bresennol.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Ei fod yn croesawu’r cynllun

·         Pryder gan rai trigolion o golli golygfa, ond yn welliant sylweddol o ran diogelwch i eraill

 

c)            Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-

 

1.            5 mlynedd.

2.            Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais

3.            Cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu i gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a dirgryniad i’w gytuno gyda’r ACLL.

4.            Cyflwyno Asesiad Risg Bioddiogelwch.

5.            Cydymffurfio gydag argymhellion Asesiad Rheoliadau Cynefin diwygiedig.

6.            Cyflwyno Cynllun Datganiad Dull/Asesiad Risg er mwyn diogelu asedau Dwr Cymru sy’n croesi’r safle.

7.            Cyflwyno manylion Rhaglen Archeolegol i’w ddilyn gan adroddiad o’r gwaith archeolegol a garwyd allan ar y safle.

8.            Cyfyngu oriau gweithio sy’n cynnwys rhedeg peiriannau a mewnforio deunyddiau rhwng 08:00 i 18:00 Llun i Gwener a dim o gwbl ar ddydd Sadwrn, Sul a Gwyliau Banc oni bai bod ymestyn yr oriau gweithio hyn wedi ei ganiatáu’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

9.            Angen gwarchod llwybr cyhoeddus rhif 28 a 29 Bangor yn ystod ac ar ôl cwblhau’r datblygiad.

 

15.

Cais Rhif C22/0239/15/LL Canolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru, Oriel Eryri, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4UR pdf eicon PDF 358 KB

Dymchwel rhan helaeth o'r Ganolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru presennol (ar wahân i'r is-orsaf drydan presennol), newid defnydd y safle i greu maes parcio, allosod goleuadau, gwefr bwyntiau ar gyfer cerbydau ynghyd a thirlunio cysylltiedig.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Dymchwel rhan helaeth o'r Ganolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru presennol (ar wahân i'r is-orsaf drydan presennol), newid defnydd y safle i greu maes parcio, allosod goleuadau, gwefr bwyntiau ar gyfer cerbydau ynghyd a thirlunio cysylltiedig

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr gan nodi bod Cyngor Cymuned yn cadarnhau bod ymgynghori hir wedi bod cyn cyflwyno’r cais ac nad oedd gan y Cyngor Cymuned wrthwynebiad i dynnu'r adeilad i lawr gan nad ydi'r cwmni yn cynnig dewis arall, ond bod cryn anfodlonrwydd ymhlith aelodau mai maes parcio sydd i'w greu wedyn ynghyd a safle bychan i ddigwyddiadau

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn gais llawn ar gyfer dymchwel adeiladwaith Canolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru (ar wahân i’r is-orsaf drydan) er mwyn darparu maes parcio newydd, gosod goleuadau, gwefr bwyntiau ar gyfer cerbydau ynghyd a thirlunio cysylltiedig ar safle sydd wedi ei leoli rhwng y pentref a Llyn Padarn. Rhennir y cais i sawl elfen wahanol sy’n cynnwys: -

·         Dymchwel 2,932m2 o arwynebedd llawr yr adeilad presennol ar wahân i 22m2 o arwynebedd yr is-orsaf drydan.

·         Darparu maes parcio ar gyfer y cyhoedd a fyddai’n ychwanegu 110 llecyn parcio ychwanegol i’r maes parcio gyfochrog presennol gan gynnwys 5 llecyn i’r anabl.

·         Darparu 12 gwefr bwyntiau AC cyflym ar gyfer cerbydau ynghyd ag un wefr bwynt DC cyflym ar gyfer cerbydau.

·         Mynedfa i’r maes parcio estynedig drwy ddefnyddio’r fynedfa bresennol oddi ar y ffordd sirol dosbarth I gerllaw (A.4086).

·         Gosod 9 colofn golau 6m o uchder er mwyn goleuo’r maes parcio o ddyluniad a fyddai’n lleihau unrhyw lygredd golau ar y tir o amgylch safle’r cais.

·         Cynllun tirlunio meddal i gynnwys plannu coed, llwyni a blodau gwyllt y ddol.

 

Awgrymwyd mai prif ystyriaeth y cais oedd,  a fyddai’r bwriad yn arwain at golli adnodd gymunedol. Nodwyd bod Polisi ISA 2 o’r CDLL yn datgan bydd y Cyngor yn gwrthsefyll colled neu newid defnydd cyfleuster cymunedol presennol drwy gydymffurfio gydag o leiaf un o feini prawf y polisi, yn benodol yma, mewn perthynas â chyfleuster sy’n cael ei redeg yn fasnachol (fel yn yr achos arbennig hwn). Rhaid bod tystiolaeth:

 

·         Nad yw’r defnydd presennol bellach yn hyfyw’n ariannol – yr ymgeisydd wedi datgan bod y ganolfan ymwelwyr yn cael ei danddefnyddio ac yn rhy fawr i’r cyfleusterau oedd yn bodoli y tu fewn iddo a bod cyflwr yr adeiladwaith eisoes yn creu dolur llygaid o fewn yr ardal leol.

·         Na ellir disgwyl yn rhesymol iddo ddod yn hyfyw’n ariannol - gan ystyried y wybodaeth sydd wedi cael ei gyflwyno gan yr ymgeisydd parthed hyfywedd y ganolfan ymwelwyr, ni ddisgwylir yn rhesymol byddai’r defnydd(iau) a wnaed o’r cyfleuster yn flaenorol yn dod yn hyfyw’n ariannol yn y dyfodol agos neu yn yr hir dymor ac na fyddai’n gwneud synnwyr economaidd i barhau defnyddio’r adeilad fel adnodd cymunedol a chanolfan ymwelwyr.

·         Na ellir sefydlu unrhyw ddefnydd cymunedol addas arall - gan ystyried y ffaith bod yr adeiladwaith, yn ei gyflwr cyfredol, yn anghynaladwy ynghyd a maint arwynebedd llawr/gofod o fewn yr adeiladwaith ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 15.

16.

Cais Rhif C21/1206/25/LL Tir gyferbyn a Bro Infryn, Glasinfryn, LL57 4UR pdf eicon PDF 359 KB

Datblygiad preswyl yn cynnwys 6 tŷ deulawr a un tŷ un llawr fforddiadwy, gwaith cysylltiedig a creu mannau parcio ychwanegol (cynlluniau diwygiedig)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau.
  3. Manylion y paneli solar.
  4. Cynllun tirlunio.
  5. Llechi naturiol.
  6. Datblygiad i’w gario allan yn unol â mesurau lliniaru bioamrywiaeth.
  7. Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 – 18:00 yn yr wythnos; 08:00 – 12:00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gwyliau Banc.
  8. Cyfyngu ar lefelau sŵn.
  9. Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu.
  10. Amod Dwr Cymru i gyflwyno Datganiad Dull ag Asesiad Risg parthed y brif garthffos sy’n croesi’r safle.
  11. Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r tai fforddiadwy.
  12. Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir o’r tai fforddiadwy.
  13. Sicrhau enw Cymraeg i'r tai a’r stad.

 

NODYN: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun strategaeth draenio gynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor.

NODYN: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i arwyddo cytundeb o dan Adran 38 o’r Ddeddf Briffyrdd.

 

Cofnod:

Datblygiad preswyl yn cynnwys 6 tŷ deulawr ac un tŷ un llawr fforddiadwy, gwaith cysylltiedig a chreu mannau parcio ychwanegol (cynlluniau diwygiedig)

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi 6 tŷ deulawr ac un tŷ un llawr fforddiadwy ynghyd a gwaith cysylltiedig ar ddiwedd cul-de-sac o fewn Stad Bro Infryn ar gyrion dwyreiniol pentref Glasinfryn ar lecyn o dir gwyrdd gwastad. Rhennir y cais i sawl elfen wahanol sy’n cynnwys:

·         Darparu unedau fforddiadwy ar ffurf: 1 tŷ deulawr 2 lofft (3 person), 4 tŷ deulawr 2 lofft (4 person), 2 tŷ deulawr 3 llofft (5 person) ynghyd a thŷ un llawr 2 lofft (3 person).

·         Byddai’r tai 2 lofft ar gyfer rhent canolradd gyda gweddill y tai ar gyfer rhent cymdeithasol.

·         Darparu isadeiledd i gynnwys llecynnau parcio, llwybrau troed, man troi, ailgyfeirio cebl BT ac ailgyfeirio’r garthffos gyhoeddus.

·          Codi ffensys amrywiol o amgylch ffiniau’r safle a rhwng y tai.

·         Lleoli storfeydd biniau a storio o fewn gerddi’r tai.

·         Gwaith tirweddu.

 

Eglurwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal rhwng yr ymgeisydd, y cynghorydd lleol blaenorol, y Cyng Menna Baines, ynghyd a nifer o drigolion y stad. O ganlyniad, diwygiwyd y cais i ddarparu llecynnau parcio ychwanegol ar ffurf encil fannau ar ymylon gogleddol a deheuol y llecyn lawnt sydd wedi ei leoli yng nghanol y stad.

 

Ystyriwyd bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol ar sail cyflenwad tai dangosol, cymysgedd tai a’r angen i gwrdd â chyfarch yr angen am y math yma o dai yn yr ardal leol. Nodwyd bod ystyriaethau cynllunio megis mwynderau preswyl gweledol,  diogelwch ffyrdd, bioamrywiaeth a materion ieithyddol yn dderbyniol. Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater arall cynllunio perthnasol yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi. I’r perwyl yma, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys yr amodau.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod y cais yn cael ei gyflwyno gan Adra (Cymdeithas Dai leol) ar gyfer codi 6 tŷ deulawr a 1 bynglo - yr holl unedau yn dai fforddiadwy ac yn cynnwys cymysgedd o dai rhent canolradd a thai rhent cymdeithasol.

·         Bod trafodaethau pre-ap wedi eu cynnal gyda’r adran gynllunio i drafod egwyddor y bwriad ac i dderbyn adborth ar faterion cynllunio perthasol.

·         Yn dilyn cyflwyno’r cais ac yn ystod cyfnod penderfynu’r cais , bu trafodaethau ychwanegol gyda’r cynghorydd lleol a rhywfaint o’r trigolion lleol i drafod rhwyfaint o bryderon oedd ganddynt ar ol gweld manylion y cais.

·         Un o’r pryderon a godwyd oedd parcio a’r pwysau oedd yn yr ardal am lefydd parcio. O ganlyniad i’r trafodaethau yma, cyflwynwyd diwygiadau i’r cynlluniau er mwyn darparu llefydd parcio ychwanegol ar ffin llecyn gwyrdd presennol gerllaw, fel a gytunwyd gyda’r Aelod lleol a’r trigolion.

·         Bod y trigolion eisiau sicrhau bod llwybr troed ar gael er mwyn darparu mynedfa i gefn tai 1 - 4 Bron Infryn - llwybr bellach wedi ei ddarparu fel rhan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 16.