Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elin Hywel, Elwyn Jones,
Gareth A Roberts a John Pughe Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol ac i nodi materion protocol. . Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod
gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd Cai Larsen
yn eitem 5.2 (C22/0571/45/MG) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd
Adra Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar y cais. b) Datganodd yr aelodau
canlynol eu bod yn aelod lleol mewn
perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y
Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.1 (C2w2/0615/30/DT) ar y rhaglen ·
Y
Cynghorydd Gareth Tudor Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.5 (C22/0521/42/DT) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd Elin
Walker Jones (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7
(C22/0608/11/DT) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.
Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas
â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
Cais Rhif C22/0615/30/DT Pelydryn, Aberdaron, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8BE PDF 398 KB Cais ar gyfer codi estyniad
ochr ar gyfer storfa AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd fod y bwriad yn arddangos dyluniad o ansawdd uchel ac
felly mae’n groes i egwyddor polisi PCYFF 3 Dylunio a Siapio Lle o’r Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Mon (2017).
Cofnod: Cais ar gyfer codi estyniad ochr ar gyfer storfa Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer codi
estyniad unllawr ar ochr tŷ unllawr
ar gyfer defnydd fel storfa. Nodwyd y byddai’r datblygiad yn cynnwys mynedfa ar
ei flaen a chefn ac ni fyddai mynedfa fewnol o’r eiddo. Saif yr eiddo mewn rhes
o dai ar wahân gerllaw ffordd ddosbarth 2 y B4413 mewn ardal anheddol o fewn
ffin ddatblygu Pentref Arfordirol - Gwledig Aberdaron fel y’i diffinnir gan yn
y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a hefyd o fewn Ardal
o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ddynodedig a Thirwedd o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Cyflwynwyd
y cais gerbron y Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. Ystyriwyd
Polisi PCYFF 3 y CDLL sy’n datgan bod disgwyl i bob cynnig arddangos dyluniad o
ansawdd uchel a rhoi ystyriaeth lawn i gyd-destun yr amgylchedd adeiledig o’i
gwmpas. Er gellid ystyried graddfa’r bwriad yn un bychan, nodwyd bod y rhan
sy’n ymestyn o flaen yr eiddo yn amlwg ac yn tynnu sylw'r llygad at bresenoldeb
y strwythur. Wrth edrych ar batrwm datblygu cyffredinol y stryd, nodwyd bod y
byngalos cyfagos i gyd yn eistedd mewn cwrtil eithaf sylweddol gyda lle rhwng
ochor y tai a’r ffensys terfyn. Er cydnabuwyd bod ambell sied gardd a paraffinalia preswyl rhwng rhai o’r tai eraill roedd y
gwagle yn bennaf yn parhau ond byddai’r bwriad yn golygu codi adeilad sydd yn
llenwi’r bwlch yn gyfan gwbl ac yn lleihau'r gwagle rhwng y tai. O
ganlyniad, ni ystyriwyd fod y bwriad yn ychwanegu nac yn gwella cymeriad ac
ymddangosiad y tŷ a’r safle; nac yn parchu edrychiad a chymeriad y
strydlun. Ategwyd bod maint a lleoliad yr estyniad, ynghyd a pits y to a’r gorffeniad yn anaddas ac nad oedd yn
arddangos dyluniad o ansawdd uchel oedd yn cydweddu a’r eiddo presennol. Er
posib gosod amod i gytuno ar ddeunyddiau ac o bosib gwella’r hyn sydd i weld ar
y safle, ni ystyriwyd y byddai hynny yn ddigonol i gwrdd gydag anghenion polisi
PCYFF 3. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol: ·
Mai defnydd storfa yw’r bwriad ·
Ei fod yn hapus gydag argymhelliad y swyddogion i wrthod ·
Bod y gwaith o godi estyniad wedi dechrau ers rhyw flwyddyn ·
Yn ddiolchgar bod y lluniau a gyflwynodd wedi eu rhannu ·
Cwt neu ‘lean-to’ sydd yma ac nid
estyniad ·
Byddai yn sownd i’r wal derfyn ac yn ddolur llygad ·
Byddai’n lleihau'r gwagle rhwng y tai ·
Bod y pedwar eiddo sydd yn y rhes yn debyg, ond byddai’r bwriad
dan sylw yn ei wneud yn wahanol – nid yw yn gweddu ·
Ei fod yn tynnu sylw at gasgliadau ac argymhelliad y swyddogion,
‘ni ystyrir fod y bwriad yn arddangos dyluniad o ansawdd uchel’ c)
Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais PENDERFYNWYD: Gwrthod Ni ystyriwyd fod y bwriad yn arddangos dyluniad o ansawdd uchel ac felly mae’n groes i egwyddor polisi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C22/0571/45/MG Hen Gae Hoci, Allt Salem, Pwllheli, LL53 5UB PDF 424 KB Edrychiad a dyluniad yr anheddau i gynnwys deunyddiau, graddfa
anheddau a tirlunio gan gynnwys gosodiad diwygiedig i ddarparu 14 annedd yn
hytrach na 15 er darparu gofynion system ddraenio cynaliadwy. AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu
gydag amodau -
Nodyn fod amod 12 o’r caniatâd amlinellol
sy’n ymwneud â materion draenio wedi eu rhyddhau fel rhan o’r caniatâd yma. Nodyn SUDS Cofnod: Edrychiad a dyluniad yr anheddau i gynnwys deunyddiau, graddfa
anheddau a thirlunio gan gynnwys gosodiad diwygiedig i ddarparu 14 annedd yn
hytrach na 15 er darparu gofynion system ddraenio gynaliadwy a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer materion a gadwyd
yn ôl mewn cyswllt a chaniatâd cynllunio amlinellol C18/1198/45/AM. Nodwyd bod
caniatâd C18/1198/45/AM ar gyfer codi 15 tŷ (oedd yn cynnwys 5
fforddiadwy) ond bod y cais dan sylw ar gyfer darparu 14 o dai a hynny er mwyn
darparu gofynion system ddraenio gynaliadwy. Saif y safle, sydd wedi ei ddynodi ar gyfer Tai yn y CDLl,
o fewn ffin datblygu Pwllheli ac oddi fewn i Ardal o Ddiddordeb Hanesyddol Llyn
ac Enlli. Nodwyd bod ffordd ddosbarth 3
yn ffinio gyda’r safle, bod tai annedd gerllaw a safle Coleg Meirion Dwyfor
gyferbyn a’r safle. Cyflwynwyd
y cais i Bwyllgor gan ei fod yn ymwneud gyda 5 neu fwy o dai. Atgoffwyd yr Aelodau bod egwyddor y bwriad eisoes wedi eu caniatáu.
Adroddwyd bod y cais presennol wedi ei gyflwyno gan Adra ac yn fwriad i
ddarparu 100% o unedau fforddiadwy. Yn dilyn cefnogaeth Uned Strategol Tai
Cyngor Gwynedd, nodwyd bod Adra yn bwriadu cyflwyno’r cynllun i Lywodraeth
Cymru ar gyfer cymeradwyaeth grant tai cymdeithasol. Amlygwyd
bod sylwadau’r Uned Strategol Tai yn datgan fod y bwriad yn cyfarch yr angen yn
yr ardal a bod y cynlluniau yn cyfrannu
yn uniongyrchol at nod Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd i ddarparu mwy o
dai i gwrdd â’r galw uchel bresennol sydd yn bodoli yn y sir. Er hynny, gyda’r
cais o dan sylw i gytuno ar faterion a gadwyd yn ôl yn unig, nid oedd bwriad i ryddhau’r amod tai
fforddiadwy fel rhan o’r cais oedd gerbron. Byddai’r materion tai fforddiadwy
yn cael eu hystyried trwy gais rhyddhau neu ddiwygio amod ar wahân. Yng
nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, derbyniwyd y byddai datblygu’r
safle yn newid i rai trigolion cyfagos ac y byddai’r datblygiad yn creu mwy o
draffig. Fodd bynnag, nodwyd bod y tir
wedi ei glustnodi ar gyfer nifer mwy o dai yn y CDLl
na’r hyn oedd wedi ei ganiatáu yn y cais amlinellol. Ategwyd y byddai anghyfleustra yn ystod y
gwaith adeiladu yn rhywbeth sydd yn codi gydag unrhyw waith adeiladu a bod amod
ar y caniatâd amlinellol yn cyfyngu oriau’r gwaith adeiladu. Ni ystyriwyd y byddai datblygu’r safle yn
creu effaith andwyol sylweddol ar fwynderau’r gymdogaeth leol a bod y bwriad yn
dderbyniol o ran Polisi PCYFF 2 CDLl. Ystyriwyd fod y materion a gadwyd yn ôl ar ganiatâd amlinellol
C18/1198/45/AM yn dderbyniol ac yn unol â’r polisïau cynllunio perthnasol. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y
sylwadau canlynol: ·
Yn diolch am y cyfle i annerch y Pwyllgor ynghlyn
a’r cais oedd ar gyfer materion a gadwyd yn ol yn
ymwneud a chaniatad amlinellol a gafodd ei gymeradwyo
yn 2019. · Bod y safle o fewn perchnogaeth Coleg Grwp Llandrillo Menai yn flaenorol ond bellach wedi ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C21/0718/41/LL Tir gyferbyn Bron Eifion Lodge, Cricieth, LL52 0RY PDF 427 KB Adeiladu
ysgol newydd a gwaith cysylltiol yn cynnwys ardaloedd chwarae a dysgu allanol,
parcio ar safle a mynedfa newydd i'r briffordd AELOD
LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag
amodau
Nodiadau 1. Dŵr Cymru 2. Cyfoeth
Naturiol Cymru 3. Priffyrdd 4. Network Rail 5. SUDS Cofnod: Adeiladu ysgol
newydd a gwaith cysylltiol yn cynnwys ardaloedd chwarae a dysgu allanol, parcio
ar safle a mynedfa newydd i'r briffordd a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer
adeiladu ysgol newydd o ddyluniad cyfoes ar gyfer 150 o ddisgyblion i gymryd
lle adeilad presennol Ysgol Treferthyr, Cricieth.
Nodwyd bod y safle yn bresennol yn gae amaethyddol ac wedi ei leoli tua’r
gorllewin o ganol tref Cricieth gerllaw’r A497.
Gerllaw’r prif adeilad bydd man ar gyfer lleoli is orsaf drydan,
ystafell bwmp, storfa bin a storfa. Bydd
y bwriad hefyd yn cynnwys cae chwaraeon,
ardal chwarae wyneb caled ac ardal gemau amrywiol. Eglurwyd, fel rhan o’r
bwriad bwriedir creu mynedfa gerbydol lawr at yr ysgol a fyddai’n cynnwys cylchfan gyda llefydd parcio wedi eu lleoli o’i amgylch
ynghyd a chreu lle cadw beic ar y safle.
Bydd llwybr cerdded o’r A497 i lawr at adeilad yr ysgol a bwriedir
gwneud gwelliannau i’r llwybr cerdded ynghyd ag ymestyn golau stryd i gynnwys y
parth 20mya. Yng nghyd destun
mwynderau cyffredinol a phreswyl cydnabuwyd y byddai’r bwriad yn ychwanegu
ffurf adeiledig i gae amaethyddol presennol ac felly yn newid cymeriad yr
ardal. Fodd bynnag, gyda’r cae dan sylw yn is na’r ffordd gyfagos ar adeiald yn
bennaf unllawr o ddyluniad wedi ei ddylanwadu gan
adeiladau amaethyddol, ystyriwyd na fydda’r datblygiad yn achsoi
niwed arwyddocaol i fwynderau’r ardal. Yng nghyd
destun bioamrywiaeth adroddwyd bod ardaloedd ecolegol pwysig yn yr ardal ac o ganlynaid bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi argymell nifer o
amodau er mwyn gwarchod a gwella bywyd gwyllt a byd natur fyddai’n cwrdd a’r
polisïau perthnasol. Yng
nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, gwnaed sylw bod y safle dan sylw
yn cael ei ystyried fel un sydd yn hygyrch i amrywiol ddulliau o deithio. Mynegwyd,
fel rhan o’r cais derbyniwyd adroddiad asesiad effaith ieithyddol ar ail-leoli
Ysgol Treferthyr oedd yn dod i gasgliad y byddai
adeiladu ysgol newydd yng Nghricieth yn cael effaith
bositif ar yr iaith Gymraeg, yn bennaf, oherwydd byddai mwy o gyfleoedd i blant
Criccieth ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn addysgiadol gan fydd yr
ysgol newydd yn cynnig gwell adnoddau ar gyfer cynnal mwy o weithgareddau tu
allan i oriau ysgol. b) Amlygodd y
Cadeirydd, bod yr Aelod Lleol, wedi nodi mewn e-bost nad oedd ganddo
wrthwynebiad i’r cais c) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y
cais ch)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan Aelodau: ·
Braf gweld y cais gerbron wedi
blynyddoedd o drafod ·
Problemau amlwg gyda’r safle presennol ·
Y dyluniad yn un da ·
Trueni ei fod wedi cymryd gymaint o
amser PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau 1. Amser (5 mlynedd) 2. Yn unol â’r cynlluniau 3. Cytuno ar ddeunyddiau a lliwiau
terfynol 4. Amodau trafnidiaeth 5. Amodau archeolegol. 6. Gwaith tirlunio i’w wneud yn unol
gyda’r adroddiad coed a’r cynllun tirweddu. 7. Cyflwyno a chytuno cynllun manwl i
ddangos lleoliad y coed a fwriedir eu plannu ar y safle. 8. Unol gyda’r adroddiadau ecolegol a’r
adroddiad ystlumod. 9. Dim clirio coed, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C21/0993/35/LL Tir ger Coed Mawr Woodland, Cricieth, LL52 0ND PDF 605 KB Defnyddio tir ar gyfer gwersylla / glampio amgen
parhaol (9 pod) (Ail gyflwyniad o gais C20/0348/35/LL) AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Rhesymau
Cofnod: Defnyddio tir ar
gyfer gwersylla / glampio amgen parhaol (9 pod) (Ail
gyflwyniad o gais C20/0348/35/LL) Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd Arweinydd Tim Rheolaeth Datblygu mai ail gyflwyniad o gais
llawn oedd dan sylw ar gyfer defnyddio tir ar gyfer gwersylla glampio amgen
parhaol fyddai’n cynnwys 8 pod gwyliau ac 1 pod gwasanaeth (‘utility’) ynghyd
a chreu llwybr mynediad, creu/uwchraddio ffordd fynediad, tirlunio, darparu
ardal parcio, gosod gwaith trin carthffosiaeth a newidiadau i’r fynedfa
bresennol. Eglurwyd y byddai’r safle yn cael ei wasanaethu gan fynediad amaethyddol
presennol oddi ar ffordd gyhoeddus y B4411 ac y bydd wedi ei addasu i ddarparu
lleiniau gwelededd mwy, tynnu rhan o’r wal bresennol a chodi waliau carreg
newydd. Cyfeiriwyd
yn bennaf at y materion trafnidiaeth a mynediad gan gydnabod bod yr ymgeisydd
wedi paratoi gwybodaeth swmpus mewn
ymateb i wrthwynebiadau’r Uned Trafnidiaeth. Er hynny, nid oedd y swyddogion
cynllunio wedi eu hargyhoeddi y byddai’r bwriad yn ei gyfanrwydd yn gallu
darparu mynedfa gerbydol ddigonol na diogel ar gyfer y bwriad nac ar gyfer
defnyddwyr eraill y briffordd. Amlygwyd bod y ffordd gyhoeddus yn gymharol gul
ac y byddai unrhyw un sydd yn dewis cerdded neu reidio beic o’r safle yn cael
eu gorfodi i ddefnyddio’r briffordd ei hun gan nad oes palmant a bod waliau
ffin bresennol yn ymylu’n uniongyrchol gyda’r ffordd heb lecyn gwair rhyngddynt.
Golygai hyn y byddai cerbydau yn arafu ac yn stopio nepell oddi ar gornel y
bont sydd gyda waliau carreg cul arni pe byddai cerddwyr neu ddefnyddwyr beic
yn ymadael o’r safle. Ategwyd y byddai gwelededd cerbydau sy’n tynnu allan o fynedfa’r bwriad
hefyd yn cael ei effeithio pe byddai cerbydau yn stopio ar y ffordd gyhoeddus
union i’r dde o’r fynedfa. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn darparu
mynedfa gerbydol mewn lleoliad peryglus.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol: ·
Bod y cais yn un i ddarparu cyfleuster
o ansawdd uchel ar raddfa fach ar gyfer 8 Pod Glampio
Moethus. ·
Bod y safle wedi'i amgylchynu gan
goetir presennol ac nid yn weladwy o unrhyw olygfannau
cyhoeddus. Nid yw wedi ei leoli o fewn yr AHNE nac unrhyw ddynodiadau statudol
eraill. ·
Bod Ymchwiliad Cynllunio Cyn Ymgeisio
manwl wedi ei gynnal gyda Chyngor Gwynedd. Roedd yr ymateb yn ffafriol, ac mewn
gwirionedd roedd y cyngor cyn ymgeisio yn argymell gwneud cais am “Safle
Parhaol”. Yn seiliedig ar y cyngor a dderbyniwyd paratowyd cais cynllunio manwl
a cyflwynwyd yr adroddiadau y gofynnwyd amdanynt. Fel rhan o’r Ymholiad Cyn
Ymgeisio, ymgynghorwyd â Uned Trafnidaieth Gwynedd, a
chyfarfu Mr Gareth Roberts (Swyddog Priffyrdd)
ar y safle ar 4ydd Mehefin 2020. Yn y cyfarfod hwnnw mynegodd Mr Roberts
nad oedd “Dim gwrthwynebiad i’r cynnig gan yr Adran Drafnidaeth,
fodd bynnag, roedd yn argymell addasu’r mynediad amaethyddol presennol i’w
wneud yn addas ar gyfer traffig dwy ffordd”. · Yn dilyn y cyngor a dderbyniwyd, cyflwynwyd cais cynllunio ac ail ymgynghorwyd gyda swyddog priffyrdd gwahanol ar y cais presennol – ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Estyniad ar flaen yr eiddo AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: caniatáu, yn groes i’r
argymhelliad Amodau:
Cofnod: Estyniad ar
flaen yr eiddo Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd
Arweinydd Tim Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer codi estyniad ar flaen eiddo sydd wedi ei leoli o fewn stad o dai unllawr ar gyrion
pentref Morfa Nefyn. Nodwyd bod yr eiddo presennol yn dŷ par unllawr gyda llawr yn y to
gyda lle parcio presennol o’i flaen. Ategwyd bod yr eiddo yn dŷ
fforddiadwy 3 llofft wedi ei sicrhau gyda disgownt o 35% drwy gytundeb 106. Eglurwyd bod y cynllun diwygiedig oedd wedi ei gyflwyno yn lleihau’r
estyniad o’i gymharu a’r bwriad gwreiddiol oherwydd lleoliad pibell ddŵr a
bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol. Adroddwyd
bod yr eiddo yn dŷ fforddiadwy oedd eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio
o dan gyfeirnod C05D/0192/42/LL a bod y bwriad yn golygu ehangu’r lolfa
bresennol. Amlygwyd, yn arferol bydd estyniadau i dai fforddiadwy yn golygu
ychwanegu ystafell wely, ond nid dyma oedd y bwriad dan sylw. O ganlyniad,
ystyriwyd nad oedd cyfiawnhad dros yr angen am ofod byw ychwanegol o gofio’r angen i gynnal yr uned fel tŷ fforddiadwy.
Bydd cyfanswm
arwynebedd llawr, ar ôl ehangu, oddeutu 122m2 sydd, yn ôl atodiad 5, paragraff
3.4.10 CCA Tai Fforddiadwy, yn mynd a’r maint tu hwnt i uchafswm arwynebedd
llawr ar gyfer tŷ fforddiadwy 4 ystafell wely. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad, oherwydd ei faint yn groes i ofynion maen
prawf 3(vii) o Bolisi TAI 15 sy’n nodi “caniateir
estyniadau ac addasiadau i dai fforddiadwy cyn belled â bod y newidiadau neu’r
addasiadau yn caniatáu i’r tŷ barhau fel tŷ fforddiadwy” Yng
nghyd-destun dyluniad yr estyniad, ystyriwyd bod maint a lleoliad yr estyniad,
ynghyd a pits y to a’i orffeniad yn anaddas ac nad
oedd yn arddangos dyluniad o ansawdd uchel ac nid yn cydweddu a’r eiddo
presennol. Er yn bosib gosod amod i gytuno ar ddeunyddiau, ni ystyriwyd y
byddai hynny yn ddigonol i gwrdd gydag anghenion polisi PCYFF 3. b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol: ·
Bod y Cyngor Cymuned o blaid y cais ·
Nad oedd cymydog na pherson lleol wedi
gwrthwynebu ·
Ei fod yn gefnogol i’r cais ·
Yn gais teg am estyniad rhesymol ei faint - nid yw yn ymddangos yn
ymwthiol nac allan o gymeriad ·
Mater o farn yw’r dyluniad ·
Bod y pensaer wedi dewis dyluniad syml
ar gais yr ymgeisydd – yn estyniad syml i gadw’r gost yn isel ·
Dim digon o ardd yn y cefn i ymestyn ·
Ni fyddai’n amharu ar breifatrwydd cymdogion
– estyniadau eraill wedi eu caniatáu ·
Y teulu yn deulu Cymraeg, lleol ac
eisiau aros yn lleol ond heb obaith prynu tŷ yn lleol oherwydd prisiau’r
farchnad agored – yr unig ateb yw adeiladu estyniad bychan i wneud lle i’r
teulu dyfu ·
Buddsoddiad fyddai estyniad bychan ar
gyfer y teulu ·
Deddf Llesiant yn annog cefnogi pobl i
aros yn y gymuned leol · Ystyr a rheolaidau tai fforddiadwy yn newid yn y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif C21/1091/41/LL Tir ger Maes Llwyd, Llanystumdwy, LL52 0SQ PDF 451 KB Codi 6 tŷ ( 2
fforddiadwy), creu mynedfa gerbydol newydd, darpariaeth parcio a gwaith
cysylltiedig AELOD
LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i Pennaeth yr Adran Amgylchedd i caniatáu’r cais yn
ddarostyngedig i amodau, cwblhau cytundeb 106 i sicrhau darpariaeth o un 2
dŷ fforddiadwy a trafod manylion parcio plot rhif 1: Amodau
Cofnod: Codi 6 tŷ (2
fforddiadwy), creu mynedfa gerbydol newydd, darpariaeth parcio a gwaith
cysylltiedig a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer
adeiladu 6 tŷ (2 ohonynt yn fforddiadwy), creu mynedfa gerbydol newydd,
darpariaeth parcio a gwaith cysylltiedig ar dir ger Maes Llwyd, Llanystumdwy.
Tai pâr fyddai’r unedau gyda pedwar tŷ deulawr gromen (2 ystafell wely) a
dau dŷ deulawr llawn (3 ystafell wely). Bwriedir agor mynedfa lydan, gosod
lôn wasanaethol i’r tai a gosod palmant ymyl ffordd ger y fynedfa flaen. Eglurwyd
mai cae amaethyddol yw’r safle yn bresennol, yn llain o dir ar ffurf triongl
wedi ei leoli rhwng dwy ffordd ger mynediad i bentref Llanystumdwy o fewn y
Ffin Datblygu. Nodwyd
bod yr Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd wedi cadarnhau mai Cyflenwad
Dangosol Tai Llanystumdwy (gan gynnwys
lwfans llithriad o 10%) yw 10 uned, gydag 1 tŷ wedi ei gwblhau yn y
pentref rhwng 2011-2021. Ymddengys nad oedd unrhyw dai yn y banc tir heb eu
hadeiladu na dynodiadau tai yn y pentref, felly’r diffyg yn weddill o 9 uned. O
ystyried y wybodaeth, gellid caniatáu’r datblygiad gan fod 6 uned o fewn
ffigyrau’r lefel cyflenwad ar gyfer Llanystumdwy. Adroddwyd
bod yr egwyddor o godi tai ar y safle wedi ei selio ym Mholisi TAI 4, TAI 8 a TAI 15 o’r CDLl.
Yn amodol ar ofynion Polisi TAI 15 ynglŷn a darparu tai fforddiadwy ar
gyfer angen lleol, fe ddatgan polisi TAI 4 y caniateir cynigion am dai marchnad
agored yn y Pentrefi Lleol os gellir cydymffurfio â dau faen prawf sef, ·
Bod maint, graddfa, math a dyluniad y datblygiad yn gytbwys a
chymeriad yr an-heddle ·
Bod y safle o fewn ffin datblygu'r anheddle. Ystyriwyd
bod maint, graddfa a math o unedau
arfaethedig yn gyson gyda chymeriad y tai preswyl agosaf gyda’r dyluniad
ychydig yn fwy cyfoes ac o ganlyniad yn cwrdd â gofynion y ddau faen prawf o
bolisi TAI 4 uchod. Tynnwyd
sylw at sylwadau hwyr a dderbyniwyd gan asiant yr ymgeisydd mewn ymateb i’r
adroddiad yn nodi bwriad o dirlunio a gosod dau lecyn parcio ychwanegol. Yng nghyd
destun llecynnau agored i’w gwarchod, nodwyd bod hanner dwyreiniol y cae dan
sylw wedi ei ddynodi yn Llecyn Agored Cae Chwarae wedi ei Warchod ym mapiau y CDLl. Byddai datblygu’r safle arfaethedig felly yn golygu y
byddai’r llecyn agored yn cael ei golli. Cyfeirwyd at
bolisi ISA 4 (Diogelu Llecynnau Agored Presennol) sy’n datgan y gwrthodir
cynigion fydd yn arwain at golli llecynnau agored presennol oni bai bod
gormodedd o ddarpariaeth yn y gymuned. Ystyriwyd mai cae amaethyddol yw’r safle yn hytrach na llecyn sydd wedi ei ddefnyddio gan y cyhoedd gyda’r bwriad yn dangos bod ardaloedd gwyrdd wedi ei dirlunio yn cael eu cadw yn rhan blaen y datblygiad fyddai’n cadw naws wledig agored cyhoeddus i’r safle. O ystyried hefyd yr angen am dai newydd yn Llanystumdwy, y ffin datblygu ynghyd a’r cyfyngiadau cynllunio, oedd yn cynnwys Ardal Cadwraeth ac ardaloedd sydd mewn perygl o lifogi, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif C22/0608/11/DT 33 Bryn Eithinog, Bangor, Gwynedd, LL57 2LA PDF 325 KB Estyniad a newidiadau i flaen yr eiddo,
ynghyd â throsi'r gofod to yn ystafell wely ac ystafell ymolchi ac anecs dwy
ystafell wely yng nghefn yr annedd i ddarparu llety ychwanegol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Gwrthod, yn groes i’r argymhelliad Rhesymau:
Cofnod: Estyniad a newidiadau i flaen yr eiddo,
ynghyd â throsi'r gofod to yn ystafell wely ac ystafell ymolchi ac anecs dwy ystafell wely yng nghefn yr annedd i ddarparu
llety ychwanegol. a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer ymgymryd â
newidiadau i dŷ deulawr presennol fyddai'n cynnwys : ·
codi estyniad llawr cyntaf 2.3m yn ei
flaen ar ben modurdy unllawr presennol sydd ar flaen
yr eiddo ·
Trosi'r gofod to yn ofod byw ychwanegol ·
Codi estyniad deulawr cefn i weithredu
fel "anecs" i'r prif dŷ. O ganlyniad i’r newidiadau, bydd yr eiddo yn cynyddu o dŷ pedair
llofft, i dŷ gydag anecs a fyddai â chyfanswm o
chwe llofft. Saif y safle o fewn cwrtil tŷ “33 Bryn Eithinog” sy’n eiddo ar
wahân mewn ardal anheddol o fewn ffin ddatblygu Canolfan Isranbarthol Bangor
fel y’i diffinnir gan y CDLl, mewn stad dai
a’i gwasanaethir gan ffyrdd di-ddosbarth yn arwain o Ffordd Belmont
ger Ysgol Tryfan. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. Nodwyd bod gan y term “anecs” ystyr benodol
yng nghyd-destun cynllunio ac i ystyried
bwriad yn “anecs” byddai’n hanfodol i'r adeilad fod
yn is-wasanaethol i'r prif dŷ ac na fyddai'n cael ei ddefnyddio fel annedd
ar wahân. Yn yr achos yma, yng ngoleuni lleoliad yr adeilad yn gysylltiedig i'r
prif dŷ mewn man lle nad oes mynediad annibynnol i'r stryd, ystyriwyd, er
i'r cynlluniau ddangos y byddai'r anecs yn cynnwys
ystafell ymolchi a chegin ar wahân, ei fod yn rhesymol ystyried y strwythur
newydd fel anecs israddol i'r prif annedd. Ategwyd
bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau mai ei fwriad yw defnyddio'r tŷ fel
tŷ teuluol ac nid fel HMO a chan mai anecs a
geisiwyd amdano, ystyriwyd, trwy ddefnyddio amod cynllunio wedi'i eirio'n
briodol, y gellid rheoli’r defnydd o’r strwythur newydd mewn modd priodol. Cyfeiriwyd at bryderon gan gymdogion oherwydd y posibilrwydd o or-edrych
o’u heiddo o’r estyniadau newydd, fodd bynnag nodwyd mai dim ond un ffenestr
llawr cyntaf newydd a fyddai yn edrychiad gogleddol yr eiddo a byddai’n
gwasanaethu ystafell ymolchi newydd yn y tŷ gwreiddiol. Gan i'r ffenestr
honno fod yn edrychiad ochr y tŷ, yn unol â 'r Gorchymyn Datblygiad a
Ganiateir Cyffredinol, bydd yn ofynnol i’r ffenestr gael ei chadw’n afloyw yn
barhaol. Yn ogystal, amlygwyd pryderon y byddai'r estyniadau newydd yn achosi
niwed annerbyniol o safbwynt cysgodi eiddo cymdogion ac y byddent yn
ddominyddol dros eu heiddo. Wrth ystyried maint y safle, y pellter sydd rhwng y
tai cyfagos ac uchder gweddol fychan yr estyniadau, ni ystyriwyd y bydd niwed
arwyddocaol i fwynderau cymdogion yn deillio o'r materion hyn. Wedi asesu’r cais yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol, ystyriwyd fod
y bwriad yn dderbyniol o agwedd mwynderau gweledol, mwynderau preifat a
mwynderau cyffredinol. b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol: ·
Ei bod yn siarad ar ran trigolion Bro
Eithinog sydd yn gwrthwynebu’r cais oherwydd pryderon goredrych,
colli preifatrwydd a golau · Nad oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |