Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorydd Huw
G. Wyn Jones a’r Cynghorwyr Annwen Daniels a Peter Read (Aelodau Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd y Cynghorwyr Stephen Churchman, Anne Lloyd Jones a Berwyn Parry
Jones fuddiant personol, yn eitem 5.3 (Cais Rhif C17/0844/09/LL) a 5.16 (Cais
Rhif C17/0565/41/LL) ar y rhaglen, oherwydd eu bod yn aelodau o Fwrdd Cartrefi
Cymunedol Gwynedd. Datganodd y Cynghorydd Louise Hughes fuddiant personol yn eitem 5.11 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0507/20/LL) oherwydd ei bod wedi rhagfarnu ei phenderfyniad cyn cyfarfod blaenorol
lle drafodwyd y cais. ‘Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Elfed P. Roberts (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn Eitem 5.2 (cais rhif C17/0982/03/LL) ·
Y Cynghorydd Kevin Morris Jones (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn Eitem 5.6 (cais rhif C17/0807/15/LL) ·
Y Cynghorydd Eric M. Jones (a oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn Eitem 5.8 (cais rhif C17/0826/17/LL) ·
Y Cynghorydd Sion Wyn Jones (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn Eitemau 5.9 a 5.10 (ceisiadau rhifau C17/0893/18/AM
a C17/0953/18/LL) ·
Y Cynghorydd Gareth W. Griffith (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn Eitem 5.11 (cais rhif C16/0507/20/LL) ·
Y Cynghorydd Judith Humphreys (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn Eitemau 5.12 a 5.13 (ceisiadau rhifau
C13/0217/22/MW a C17/0455/22/LL) ·
Y Cynghorydd Dewi Roberts (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn Eitem 5.14 (cais rhif C17/1024/39/LL) ·
Y Cynghorydd Aled Ll. Evans (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn Eitem 5.16 (cais rhif C17/0565/41/LL) Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hyn. |
|
MATERION BRYS I ystyried unrhyw faterion sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2017, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2017, fel rhai cywir yn ddarostyngedig i gywiriad yn
y fersiwn Saesneg yn ymwneud â phenderfyniad Cais Cynllunio Rhif 2 –
C17/0656/42/LL – Maes y Garn, Stryd Fawr, Nefyn, sef: Diwygio “nine” i “one” - i’r
penderfyniad ddarllen fel a ganlyn: “RESOLVED To delegate powers to the Senior Planning
Manager to approve the application subject to signing a 106 agreement to bind one of the units for affordable housing
and to agree on an appropriate method to ensure a financial contribution to
improve the facilities of the open space/ play area in the community and also
to conditions” |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais ol-weithredol i newid defnydd tir ar gyfer creu safle carafanau teithiol ac estynnu adeilad presennol i greu toiledau a chodi adeilad ar gyfer gwaredu gwastraff. AELOD LLEOL: Cynghorydd Annwen
Daniels Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl-weithredol
i newid defnydd tir ar gyfer creu safle carafanau teithiol 15 llain ac estynnu
adeilad presennol i greu toiledau a chodi adeilad ar gyfer gwaredu gwastraff (a) Nododd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu bod oddeutu 5 o aelodau’r Pwyllgor
Cynllunio wedi ymweld â’r safle ar 8 Rhagfyr 2017 ac er gwaethaf y tywydd
gaeafol bod perthynas y safle gyda’r amgylchedd leol wedi derbyn sylw. Nodwyd bod y gwaith eisoes wedi cychwyn ar y
safle gyda’r mwyafrif o’r lleiniau ffurfiol yn eu lle, a’r llystyfiant wedi ei
blannu. Ers i’r cais gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor y tro diwethaf, cyflwynwyd
cynlluniau diwygiedig a oedd yn cynnig llecynnau parcio o fewn y safle ynghyd â
gwybodaeth ar addasrwydd defnydd o gyffordd Ffordd Baltic a Ffordd Glanypwll
i’r safle. Cyfeiriwyd at y
polisïau cynllunio perthnasol ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus
o fewn yr adroddiad gerbron y Pwyllgor. Nodwyd bod
egwyddor y datblygiad yn dderbyniol a chyfeiriwyd at bolisi sy’n caniatáu
cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau teithiol, gwersylla neu lety wersylla
amgen dros dro os gellir cydymffurfio gyda nifer o feini prawf fel amlinellwyd
yn yr adroddiad. Adroddwyd bod y Swyddog Carafanau (Uned Iechyd a Diogelwch) wedi
cadarnhau bod y bwriad bellach yn ymddangos yn cydymffurfio gyda gofynion
trwyddedu. Fodd bynnag, roedd swyddogion
yn parhau i ystyried nad oedd y bwriad yn gwbl gydymffurfio gyda meini prawf 1
a 2 o’r polisi. Roedd y cynllun a
gosodiad y safle yn parhau yn gyfyngedig ac nad oedd lle amwynder agored
cyffredinol o fewn y safle ar gyfer defnydd gan breswylwyr y safle. Ystyrir bod gosodiad y safle yn defnyddio
gormodedd o lecynnau caled ac nad ydoedd o ansawdd uchel o ran dyluniad,
gosodiad ac edrychiad ar sail diffyg arwynebedd agored ar y safle a rhwng y
lleiniau. O safbwynt
mwynderau gweledol a phreswyl, nodwyd bod y bwriad yn cydymffurfio â gofynion
polisïau PCYFF 2,3 a 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol. Fodd bynnag, roedd yn
annerbyniol o ran gosodiad a’r dwysedd unedau teithiol a’r bwlch sydd rhwng y
lleiniau. Hefyd, ystyrir bod y cynllun cyfyngedig yn groes i’r angen ar gyfer
gofod mwynderol ar gyfer defnyddwyr presennol ac yn y dyfodol, a’r bwriad yn
groes i ofynion meini prawf polisïau perthnasol. Ers cyflwyno’r
cais yn wreiddiol derbyniwyd cynllun diwygiedig yn dangos sut oedd modd i
gerbydau sy’n towio negodi’r gyffordd rhwng Ffordd Baltic a Ffordd Glanypwll
sydd yn dderbyniol gan yr Uned Drafnidiaeth. Ystyrir hefyd y byddai modd i’r
ymgeisydd gyfathrebu gyda’i gwsmeriaid i roi cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd a
gadael y safle yn ddiogel ar hyd Ffordd Glanypwll heb ddefnyddio'r gyffordd
is-safonol sydd yn arwain yn syth o’r safle i Ffordd Baltic/A470. Yn dilyn ystyried
yr holl faterion cynllunio perthnasol, ystyrir bod y bwriad yn annerbyniol ac
yn groes i ofynion polisïau a chanllawiau cynllunio lleol a chenedlaethol
perthnasol. Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd gwrthod y cais am y
rhesymau a nodir yn yr adroddiad. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau isod: · Bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif. C17/0982/03/LL - Llechwedd Slate Mines, Talywaenydd, Blaenau Ffestiniog PDF 338 KB Darparu 6 uned 'glamping' o fath saffari ynghyd a datblygiadau atodol gan gynnwys gwaith peiriannyddol. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Annwen Daniels Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Darparu 6 uned
'glamping' o fath saffari ynghyd a datblygiadau atodol gan gynnwys gwaith
peirianyddol. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod
y safle ar dir uchel mynyddig o fewn safle eang Llechwedd sydd yn cynnwys
gweithfeydd llechi hanesyddol y chwarel ac yn fwy diweddar datblygiadau hamdden
megis Zip World a llwybrau beicio mynyddig Antur ‘Stiniog. Tynnwyd
sylw bod y safle presennol yn dir agored mynyddig ar lechr gymharol serth gyda
thwll chwarel segur gerllaw. Golygai’r bwriad dorri’r tir mewn mannau a
defnyddio’r pridd i lenwi gerllaw gan greu terasau gwastad er mwyn gosod y
pebyll. Fe fyddai’r ymwelwyr yn
defnyddio meysydd parcio presennol o fewn prif ardal Llechwedd ac yn cael eu
cludo gan gerbydau bychain i’r pebyll. Nodwyd
bod y math yma o wersylla yn cael ei ystyried fel llety gwersylla amgen parhaol
ac o’r herwydd yn gorfod cydymffurfio â gofynion y polisi perthnasol. Cyfeiriwyd at yr
ystyriaethau cynllunio eraill o fewn yr adroddiad, gan gynnwys yr hawl cynllunio
sydd yn bodoli i weithio’r chwarel sydd wedi ei leoli yn agos iawn at y safle.
Petai hyn yn digwydd, ni fyddai’r bwriad yn dderbyniol ac felly nodwyd
pwysigrwydd i osod amod i sicrhau y byddai’r defnydd gwersylla glampio yn dod i
ben pe byddai gwaith y chwarel yn dod yn rhy agos. Fodd bynnag, drwy osod amodau priodol,
ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol ac argymhellwyd i ganiatáu’r cais yn unol ag
amodau cynllunio perthnasol. (b) Nododd Aelod, a oedd yn gweithredu fel Aelod Lleol, gefnogaeth i’r cais
gan nodi: ·
Bod yr unedau yn unigryw
i’r ardal ·
Bod twristiaid a ddaw i’r
ardal angen pob math o ddarpariaeth gwersylla ·
bod Llechwedd yn ganolfan wych yn yr ardal sy’n
cydweithio gydag Antur Stiniog, Zip World, Bounce Below - sydd yn cynnig
adnoddau pob tywydd ac addysgiadol, ac yn esiamplau da o sut i greu gwaith yng
nghefn gwlad ·
wedi buddsoddi arian
sylweddol yn y ganolfan ac yn cyflogi 60 gyda 200 yn gyflogedig dros dymor yr
haf ·
bydd y fenter sydd yn
destun y cais yn creu 3 swydd ychwanegol sydd yn bwysig iawn i’r ardal ·
nad oedd gwrthwynebiad yn
lleol i’r datblygiad (c) Cynigwyd ac
eiliwyd i ganiatáu’r cais. (ch) Mewn ymateb i sylw wnaed
ynglŷn ag amhariaeth y datblygiad ar y clychau’r gog sydd ar y llecyn dan
sylw, nododd y Swyddog Rheolaeth Datblygu nad oedd gwrthwynebiad wedi ei
dderbyn gan yr Uned Bioamrywiaeth. Penderfynwyd: Caniatáu yn ddarostyngedig i’r
amodau isod: 1. Amser 2. Cydymffurfio
gyda chynlluniau 3. Lliw'r
canfas i’w gytuno 4. Tirlunio 5. Bioamrywiaeth 6. Cyfyngu
nifer yr unedau ar y safle i 6 ar unrhyw adeg 7. Cyfyngu
tymor gwyliau/defnydd 8. Defnydd
gwyliau yn unig. 9. Cadw
cofrestr 10. Dim defnydd o’r pebyll os cychwynnir
gwaith yn gysylltiedig â Thwll Bôn
Llechwedd 11. Cyflwyno
a chytuno ar gynllun rheoli o safbwynt llwch 12. Triniaethau
ffin i’w cytuno cyn meddiannu 13. Cyflwyno
a chytuno ar gynllun rheoli parcio Nodyn i’r
ymgeisydd am Glychau’r Gog. |
|
Cais Rhif. C17/0844/09/LL - Tir ar y cyn Ganolfan Iechyd, Pier Road, Tywyn, Gwynedd PDF 357 KB Cais llawn ar gyfer dymchwel cyn ganolfan iechyd a chodi 12 annedd (8 o fflatiau a 4 o efeilldai) ynghyd â mynedfa, parcio a thanadeiledd cysylltiol. AELODAU LLEOL: Cynghorydd
Anne Lloyd Jones Cynghorydd Mike Stevens Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu
i’r Is-gadeirydd gadeirio’r cais uchod gan fod y Cadeirydd wedi datgan buddiant
personol ac wedi gadael y Siambr. Cais llawn ar
gyfer dymchwel cyn ganolfan iechyd a chodi 12 annedd (8 o fflatiau a 4 o
efeilldai) ynghyd â mynedfa, parcio a thanadeiledd cysylltiol. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi y byddai’r tai wedi eu gosod allan mewn un bloc o 8 o fflatiau ar
ffurf adeilad tri llawr / deulawr, a 4 o dai pâr deulawr. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu fewn i ffin datblygu tref Tywyn a
thynnwyd sylw bod gweddill manylion y cais i’w gweld yn yr adroddiad gerbron
a’r ffurflen sylwadau ychwanegol. Yn
ogystal, tynnwyd sylw at ymatebion yr ymgynghoriadau cyhoeddus a’r ddeiseb a
gyflwynwyd yn gwrthwynebu’r bwriad a oedd wedi derbyn sylw fel rhan o’r
asesiad. Nodwyd
bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle yn cwrdd â gofynion y polisi perthnasol a’r
12 annedd yn cyfrannu’n bositif at ddarpariaeth tai hap yn Nhywyn a hefyd yn gwneud defnydd da o dir a
ddatblygwyd o’r blaen. Nodwyd y byddai’r
unedau yn rhai fforddiadwy ar gyfer eu rhentu yn gymdeithasol. Er
bod pryderon wedi eu codi gan y cyhoedd
y bydd y safle yn arwain at or-ddatblygiad ystyrir y byddai’r datblygiad yn
gydnaws â chymeriad yr ardal bresennol ac ni fyddai yn achosi niwed gormodol i
rinweddau gweledol yr ardal na’r drefwedd ehangach. Nodwyd
bod y datblygiad wedi’i gynllunio’n i sicrhau pellter preifatrwydd da rhwng yr
anheddau bwriedig ac adeiladau presennol, yn ogystal mae pellter yr adeiladau
oddi wrth dai presennol ger y safle yn sicrhau na fydd yn effeithio ar lif
golau naturiol i’r anheddau hynny. O safbwynt pryderon ynglŷn â gor-edrych i
gerddi cyfagos, nodwyd bod gor-edrych i erddi mewn sefyllfa drefol yn
anorfod. Ni ystyrir bod gwrthwynebiad
ynglŷn ag amhariaeth a tharfu ar fwynderau trigolion cyfagos gan deuluoedd
a phlant a allai breswylio yn y datblygiad
yn rhesymol a chredir y byddai’r datblygiad yn cyfrannu at gymuned
amrywiol ei natur. Yng nghyd-destun
trafnidiaeth a mynediad, ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol o ran diogelwch
ffyrdd ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau perthnasol. Mewn ymateb i ymgynghoriad
gyda Dŵr Cymru, derbyniwyd sylwadau yn nodi na ddylai dŵr wyneb oddi
ar y datblygiad gael ei gysylltu i’r garthffos gyhoeddus ac i’r perwyl hwn
cynigir amod i’w gynnwys ar unrhyw ganiatâd cynllunio yn nodi y dylid cytuno ar
y modd o waredu dŵr wyneb ac aflan cyn y cychwynnir unrhyw ddatblygiad. Yn dilyn ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol, yr holl sylwadau a dderbyniwyd a’r ymatebion i’r
ymgynghoriadau cyhoeddus, ystyrir bod y bwriad arfaethedig yn gwneud defnydd da
o safle tir llwyd ac argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd i’w ganiatáu yn
unol ag amodau perthnasol. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd cynrychiolydd ar ran yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol: · Bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) yn ymwybodol bod deiseb wedi ei gyflwyno ond er gwybodaeth bu iddynt gynnal ymgynghoriad gyda thrigolion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif C16/0436/11/LL - Tir yn Ffordd Deiniol, Bangor. PDF 448 KB Codi uned A3 (caffi) gyda drive-thru, creu mannau parcio a dwy fynedfa gerbydol newydd a thorri coed. AELOD LLEOL: Cynghorydd Steve
Collings Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi uned A3 (caffi) gyda drive-thru, creu mannau parcio a dwy fynedfa
gerbydol newydd a thorri coed. (a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y Pwyllgor Cynllunio wedi
ymweld â’r safle uchod a oedd yn ddefnyddiol er mwyn medru gweld cyd-destun y
cais, sydd yn ddarn trionglog o dir ar Ffordd Deiniol, Bangor, oddi ar y
gyffordd sy’n gwasanaethu ASDA, Ffordd Sackville a gweddill Ffordd Deiniol.
Tynnwyd sylw bod y safle mewn lleoliad amlwg mewn ardal sy’n gwasanaethu fel un
o’r prif bwyntiau mynediad i mewn ac allan o’r ddinas. Nodwyd bod nifer o goed ar y safle sydd
wedi’u gwarchod dan Orchymyn Cadw Coed. Cyfeiriwyd at yr
ymatebion i’r ddau gyfnod ymgynghori cyhoeddus fel rhan o’r adroddiad. Tynnwyd
sylw at baragraffau 5.2 i 5.13 o’r adroddiad a oedd yn cyfeirio at egwyddor y
datblygiad ac er i’r cais fodloni rhai o ofynion y polisi perthnasol, ei fod
wedi methu ag arddangos cydymffurfiaeth â gofynion polisïau eraill. Yng
nghyd-destun effeithiau priffyrdd, tynnwyd sylw’r Pwyllgor Cynllunio i
baragraffau 5.21 i 5.29 o’r adroddiad a bod pryderon clir yn y materion hyn ac
fe welwyd ar yr ymweliad safle cynnydd yn y traffig wrth i geir aros tu allan
i’r safle am gyfnod weddol fyr. Nodwyd ymhellach nad oedd y cais yn dangos
darpariaeth ar gyfer cerbydau gwasanaethu / danfon nwyddau ac y byddai’n rhaid
i loriau fagio i mewn neu allan o’r safle gan nad yw’r elfen drive-thru yn addas i gerbydau mwy. Ar y cyfan felly, nodwyd bod y materion
priffyrdd i gyd yn arddangos bod y safle, yn sgil ei natur gyfyngedig, yn
anaddas ar gyfer y raddfa arfaethedig hon o ddefnydd heb fod posibilrwydd y
bydd yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch ffyrdd. O
safbwynt coed wedi’u gwarchod nodwyd bod nifer o goed ar y safle a hefyd wedi’u
gwarchod dan Orchymyn Cadw Coed. Nodwyd bod y bwriad yn cynnwys gwaredu’r holl
goed presennol ar y safle ac un goeden ar dir cyfagos. Ymdrinnir á’r materion
hyn ym mharagraffau 5.32 i 5.40 o’r adroddiad a phwysleisiwyd bod yr awdurdod
yn parhau gyda’r farn ei bod yn annerbyniol colli’r holl goed ar y safle
hwn. Tynnwyd
sylw at bryderon yr Uned Bioamrywiaeth ac yn seiliedig ar yr wybodaeth a
gyflwynwyd, ystyriwyd bod y cais yn methu bodloni’r polisi perthnasol. Yn dilyn asesiad lawn o’r holl
ystyriaethau a’r polisïau cynllunio perthnasol, gan gynnwys y gwrthwynebiadau
a’r sylwadau a gyflwynwyd i gefnogi’r cynllun, argymhelliad y swyddogion
cynllunio ydoedd gwrthod y cais gan ei fod yn annerbyniol ac yn unol â’r
rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad gerbron. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd cynrychiolydd ar ran Cymdeithas Ddinesig Bangor nad oeddynt yn gefnogol
i’r cais oherwydd: ·
Nad oedd y cais yn
cydymffurfio â pholisïau’r awdurdod cynllunio ·
Ei
fod wrth ymyl cylchfan brysur iawn a bod nifer o resymau dros ei wrthod · Bod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn cyfeirio at warchod yr amgylchedd ac yn benodol gwarchod y coed ar y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4 |
|
Cais Rhif C17/0281/11/LL - Tir gyferbyn â 4 Bryn Heulog Terrace, Bangor PDF 322 KB Codi annedd newydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth A. Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi annedd newydd. (a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais gan nodi y bu i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle ar 8
Rhagfyr 2017. Cais ydoedd ar gyfer codi un tŷ annedd ar lain o dir gwag o
fewn ardal breswyl o ddinas Bangor. Nodwyd bod y ffin ddatblygu yn rhedeg ar
hyd ffin ddeheuol y safle ac fe roddwyd caniatâd amlinellol i godi tŷ ar y
safle drwy apêl yn 2013, sydd erbyn hyn wedi dod i ben. Eglurwyd bod y safle ar ffurf triongl ac fe’i lleolir oddi ar ffordd
breifat Rhes Bryn Heulog gyferbyn a theras o dai. Nodwyd bod y safle yn cefnu ar res o dai
teras ar Ffordd Caernarfon a saif y tu cefn i erddi hir a chul y tai hynny ar
lecyn o dir ar lefel uwch sydd rhwng y gerddi a llwybr marchogaeth cyhoeddus.
Esboniwyd bod y safle yn rhedeg mewn cyfeiriad croes i’r gerddi sy’n golygu ei
fod yn ffinio gyda 7 gardd. Fe fyddai’r fynedfa gerbydol oddi ar y llwybr
marchogaeth gyda lle parcio i o leiaf ddau gerbyd ar y safle. Wrth ystyried bod caniatâd cynllunio wedi ei
roi ar gyfer datblygiad anheddol ar y llecyn yn y gorffennol pwysleislwyd bod
yr egwyddor o ddatblygu tŷ yma yn dderbyniol ond wedi dweud hynny roedd y
cais a oedd yn destun apêl yn ymwneud â chynlluniau penodol ar gyfer tŷ
deulawr yn wynebu Rhes Teras Brynheulog heb unrhyw ffenestri yn wynebu cefnau
tai sydd wedi eu lleoli ar Ffordd Caernarfon. Esboniwyd bod y cynlluniau newydd yn sylweddol
wahanol i’r rhai oedd yn destun y cais apêl.
Ni chredir bod y dyluniad fel cyflwynwyd yn
dderbyniol o safbwynt effaith ar fwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl, ac
fe fyddai’r ddwy ffenestr llawr cyntaf yn creu gor-edrych annerbyniol sylweddol
dros erddi a ffenestri cefnau tai ar Ffordd Caernarfon, ac yn creu effaith mur
uchel gormesol ar ben y llethr sydd tu cefn i’r tai. Mynegwyd pryder hefyd am yr effaith ar y
strydwedd. Eglurwyd fod swyddogion wedi trafod ac
awgrymu i’r ymgeisydd cyn iddo gyflwyno cais y gallasai datblygiad o fyngalo
gromen, wedi’i ddylunio’n briodol, fod yn dderbyniol ar y safle. Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd
gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol: ·
ei fod yn Aelod
Lleol dros yr ardal ·
ei fod wedi byw
yn yr ardal hon trwy gydol ei oes a cheisio adeiladu cartref iddo'i hun a'i
deulu a chyfle unwaith mewn bywyd i gael cartref i fyw yn yr ardal ·
ei fod wedi
siarad â'r cymdogion o ran y cais ac wedi eu sicrhau y bydd y safle yn cael ei
lefelu a bydd muriau cynnal yn cael eu hadeiladu ynghyd â sgrinio uchel ar hyd
y safle cyfan er mwyn cadw preifatrwydd · bod gosodiad y tŷ ar gornel bellaf y safle i osgoi unrhyw elfennau gor-edrych ac wedi cael sicrwydd gan yr Adran Cynllunio eu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5 |
|
Cais Rhif C17/0807/15/LL - Tir ger Ffordd Ty Du, Llanberis , Caernarfon PDF 245 KB Diwygio amod 1 o ganiatad cynllunio C14/0240/15/MG er
caniatau dyluniad amgen ar gyfer y tai a ganiatawyd AELOD LLEOL: Cynghorydd Kevin Morris Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio C14/0240/15/MG er caniatáu dyluniad
amgen ar gyfer y tai a ganiatawyd (a)
Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y Pwyllgor Cynllunio wedi
ymweld â’r safle ar 8 Rhagfyr 2017. Atgoffwyd y Pwyllgor Cynllunio bod y
datblygiad eisoes wedi dechrau a bod caniatâd cynllunio ar gyfer 11 tŷ
wedi ei sicrhau am byth ac mai diwygio manylion y cynllun yn unig sydd dan ystyriaeth
fel rhan o’r cais hwn. Yn sgil sylwadau
yn y Pwyllgor diwethaf paratowyd cymhariaeth arwynebedd llawr tai gyda
dyluniadau newydd a’r tai blaenorol a chyfeiriwyd at y canlyniadau ym
mharagraff 5.7 o’r adroddiad. Fel y gwelir bod maint y dyluniadau yn eithaf
tebyg er ychydig bach yn llai ar gyfartaledd na’r tai a ganiatawyd eisoes. Ar y
cyfan credir bod y dyluniad yn fwy cyfoes
ac o bosib o ddyluniad mwy pensaernïol na’r gwreiddiol. Trwy dorri ar
lefelau'r to a defnyddio cysgodfannau ceir yn hytrach na modurdai fe fyddant yn
llai swmpus na’r dyluniadau blaenorol gan greu naws fwy agored ar gyfer y stad.
Byddai’r deunyddiau megis llechi, pren a rendr yn gweddu’n briodol i’r safle a
gydag adeiladau eraill o gwmpas yr ardal. Yn
dilyn ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, ystyrir bod y newidiadau
a gynigwyd fel rhan o’r cais yn dderbyniol ac argymhelliad y swyddogion
cynllunio ydoedd caniatau’r cynlluniau
diwygiedig. (b)
Nododd yr Aelod Lleol (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi ei fod yn y cyfarfod ar 6
Tachwedd 2017 wedi gwneud llawer o sylwadau am yr ymgeisydd a’i fod yn dymuno
tynnu’r sylwadau hynny’n ôl ac ymddiheuro. Nododd mai parcio oedd y broblem yn
Llanberis ac wrth fod yr ymgeisydd yn ymwybodol o’r problemau parcio a hefyd yn
trio ei orau i gael llefydd parcio i drigolion Fron Goch ‘roedd yr Aelod yn
gefnogol i’r cais. (c)
Cynigwyd
ac eilwyd i ganiatau’r cais. (ch) Mewn ymateb i ymholiad gan
Aelod ynglyn â’r dyluniadau, nododd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y
dyluniadau ar gyfer yr holl dai ‘run
fath ond gydag ychydig bach o wahaniaeth yn y cysgod-fannau. (d)
Nododd Aelod ei fod yn
anghytuno yn llwyr a chyfeiriwyd at ymatebion o’r ymgynghoriadau cyhoeddus a oedd
yn nodi nad yw’r dyluniad newydd yn cydweddu hefo chymeriad adeiladau presennol
Llanberis ac o’r herwydd nododd na
fyddai’n cefnogi’r cais. Penderfynwyd: Caniatáu newid amod 1 o ganiatâd cynllunio C14/0240/15/MG i gyfeirio at y cynlluniau diwygiedig. Nodyn : Bod yr holl amodau eraill ar
ganiatadau cynllunio C14/0240/15/MG a C11/1103/15/AM yn parhau i fod yn
berthnasol. |
|
Cais Rhif C17/0908/16/LL - Zip World, Chwarel y Penrhyn, Bethesda, Bangor. PDF 270 KB Creu cwrs 4 weiren sip i gymryd lle
4 weiren sip bach wedi eu lleoli
is-law y brif weiren sip, gosod cyfarpar ac isadeiledd cysylltiedig a llwyfannau i'r rhai presennol ac ymestyn cloddiau aciwstig presennol (cais rhannol ol-weithredol AELOD LLEOL: Cynghorydd
Dafydd Owen Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu cwrs 4 weiren sip i gymryd lle 4 weiren sip bach wedi eu lleoli
islaw'r brif weiren sip, gosod cyfarpar ac isadeiledd cysylltiedig â llwyfannau
i'r rhai presennol a thirweddu (cais rhannol ol-weithredol). (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan dynnu sylw at y
sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a oedd yn cynnwys llythyrau gwrthwynebiad.
Eglurodd bod perchnogion Parc Gwyliau Ogwen Bank wedi tynnu eu gwrthwynebiad yn
ôl yn dilyn trafodaeth efo’r ymgeisydd ar y safle. Cyfeiriwyd at sylwadau Uned Gwarchod y Cyhoedd a oedd yn
cynnig amodau y dylid eu cynnwys pe caniateir y cais. Nododd o ystyried safle’r
cais bod cyfyngu amser defnyddio’r gwifrau o 08:00 dan 20:00 fel yr argymhellir
yn rhesymol o ystyried lleoliad y safle. Nodwyd
bod atyniad menter Zip World wedi ei
sefydlu ers 2013, felly roedd egwyddor y fenter ynghyd â’r gweithgareddau a
oedd yn ymwneud a’r fenter, eisoes wedi ei dderbyn. Derbyniwyd
gwrthwynebiadau i’r cais ar sail colli preifatrwydd a pharhad yn effaith negyddol
sŵn yn deillio o’r atyniad yn bresennol ynghyd a’r effaith sŵn a all
deillio o’r atyniad yn y dyfodol ar fwynderau trigolion lleol. Fodd bynnag,
mewn ymateb i’r pryderon hyn roedd yr ymgeisydd wedi cadarnhau’n ysgrifenedig y
byddai’r 4 gwifren sip, a oedd yn destun y cais hwn, yn cael eu gweithredu’n
unol â’r amodau a gynhwyswyd yn y cais blaenorol yn ymwneud ag oriau agor
ynghyd â chyfyngu ar lefelau sŵn sy’n deillio o’r atyniad. Pwysleisiwyd mai cais i
ail-leoli 4 gwifren fach (islaw'r gwifrau presennol) oedd y bwriad diweddaraf
hwn yn hytrach nag ychwanegu at y niferoedd presennol. Gan ystyried gosodiad y
4 gwifren newydd mewn perthynas â’r anheddau cyfagos i’r dwyrain (Stryd Jams a
Braichmelyn) credir na fyddai lefel, natur na’r math o sŵn a oedd yn
deillio’n bresennol o’r gwifrau yn dwyshau pe caniateir y cais diweddaraf hwn. Nodwyd wedi ystyried yr holl sylwadau ac
ymatebion a dderbyniwyd, yr holl bolisïau a materion cynllunio perthnasol ni
chredir y byddai’r datblygiad yn cael effaith negyddol arwyddocaol ar fwynderau
preswyl, defnyddwyr tir, eiddo cyfagos, mwynderau gweledol, diogelwch ffyrdd,
bioamrywiaeth, asedau treftadaeth nac ar osodiad y Parc Cenedlaethol a chan
ystyried yr asesiad hwn ni chredir bod y bwriad diweddaraf hwn yn groes i’r
polisïau perthnasol. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Nid oedd sgrinio acwstig y llwyfan glanio newydd
cystal â sgrinio acwstig y llwyfan glanio presennol; ·
Dim bwnd acwstig yn rhan o’r cais; ·
Bod Uned Gwarchod y Cyhoedd yn argymell cyfyngiad
lefel sŵn mecanyddol i LAFMAX 10 eiliad o 43dB fel y’i mesurir o anheddau
Stryd Jams ac os oedd mecanwaith newydd y wifren sip bach mor dawel fel y nodir
gan yr ymgeisydd ni fyddai’n anodd bod yn unol â'r cyfyngiad felly pan
argymhellir lefel o 47dB? · Dylid gosod amod yn unol â chynnig Uned Gwarchod y Cyhoedd i gyfyngu amser defnyddio’r gwifrau o 08:00 i 18:00 7 diwrnod yr wythnos gan fod yr oriau yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7 |
|
Cais Rhif C17/0826/17/LL - Crud y Nant, Bethesda Bach, Caernarfon PDF 260 KB Estyniad i safle storio cychod/carafanau presennol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Eric M. Jones Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad i safle storio cychod/carafanau presennol (a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y
cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2017 er mwyn cynnal
ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r
aelodau wedi ymweld â’r safle ar 8 Rhagfyr 2017. Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd mai cais llawn ydoedd
ar gyfer ymestyn safle storio cychod/carafanau presennol ar ran o gae agored ar
gyfer cynyddu'r niferoedd o garafanau symudol o 10 i 50. Amlygwyd y byddai’r
cais yma yn golygu cynyddu’r nifer o unedau storio i 90 uned (40 cwch a 50
carafán deithiol). Ystyriwyd
nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar sail egwyddor, lleoliad, graddfa, defnydd,
diogelwch ffyrdd, mwynderau preswyl na mwynderau gweledol a'i fod yn groes i
ofynion polisïau lleol a chenedlaethol cynllunio perthnasol. Argymhellwyd
gwrthod y cais ar sail: ·
diogelwch
ffyrdd gan fod y ffordd mynediad a oedd yn gwasanaethu’r safle ynghyd â’i
gyffordd gyda’r A499 ym Methesda Bach yn is-safonol; ·
y
byddai’r bwriad yn creu nodwedd anghydnaws ac amlwg yn y tirlun; ·
y
byddai’r bwriad yn effeithio’n andwyol ar fwynderau preswyl a chyffredinol
trigolion lleol; ·
nad oedd graddfa’r bwriad yn
dderbyniol o fewn ei osodiad gwledig. (b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod galw am fannau storio
carafanau a byddai’r datblygiad yn lleihau’r nifer yn cael eu storio o flaen
tai; ·
Bod yr ymgeisydd yn Gymro Cymraeg lleol; ·
Ei fod yn esiampl o sut i
redeg safle storio o’r fath a doedd dim ond clod gan drigolion; ·
Nid oedd unrhyw ddamwain wedi
bod ar y ffordd na chyffordd yr A499; ·
Bod yr ymgeisydd wedi buddsoddi yn sylweddol yn y
safle o ran golau, teledu cylch cyfyng a choed i
sgrinio’r safle; ·
Y safle wedi ei sgrinio’n dda; ·
Nad oedd trigolion wrth ymyl y
safle yn gwrthwynebu’r bwriad; ·
Bod Cyngor Cymuned Llandwrog
yn gefnogol i’r cais; ·
Ni fyddai’r bwriad yn ymwthiol
a roedd y safle yn hygyrch gyda phrinder safleoedd o’r fath; ·
Bod yr ymgeisydd yn
gweithredu’n gyfreithiol tra bod safleoedd eraill wrth ymyl yn gweithredu’n
anghyfreithlon; ·
Gofyn i’r Pwyllgor ganiatáu’r
cais gydag amodau os oedd rhaid. (c) Cynigwyd i ganiatáu’r cais yn groes i
argymhelliad y swyddogion oherwydd ni fyddai’r bwriad yn ymwthiol, nid oedd
cofnod o ddamwain ar y ffordd ac mai mater o farn ydoedd os byddai’n weladwy
o’r safle cuddiedig. Eiliwyd y cynnig. Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod yr Uned
Drafnidiaeth yn gwrthwynebu’r bwriad a bod angen tystiolaeth os am fynd yn
groes i’r arbenigwr priffyrdd. Ychwanegodd er mai mater o farn ydoedd o ran yr
effaith weledol, roedd rhaid ystyried maint y safle gyda’r cais yn gofyn i
ychwanegu 40 o garafanau teithiol ar y safle oedd ond yn 2000m2 ac
mewn cefn gwlad agored. (ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod angen yn lleol; · Nad oedd y safle yn weladwy ac nid oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.8 |
|
Cais Rhif C17/0893/18/AM - Tir gyferbyn Stad Rhoslan, Bethel, Caernarfon PDF 268 KB Codi 7 tŷ (yn cynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â
mynedfeydd newydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd Sion Wyn Jones Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi 7 tŷ (yn cynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â mynedfeydd
newydd. (a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y
cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2017 er mwyn
galluogi’r swyddogion ymgynghori efo Dŵr Cymru yn dilyn llifogydd diweddar
ym Methel. Nodwyd
y derbyniwyd ymateb gan Dŵr Cymru a oedd yn parhau i gadarnhau (am y
trydydd gwaith) byddai capasiti digonol ar gyfer y safle heb unrhyw niwed i
asedau ac offer Dŵr Cymru. Roedd hyn yn seiliedig ar ddadansoddi capasiti
hydrolig y system garthffos gyhoeddus leol a’r llif disgwyliedig a all gael ei
gynhyrchu gan y datblygiad arfaethedig. Eglurwyd mai cais amlinellol
ydoedd ar gyfer codi 5 tŷ ar wahân a 2 dŷ fforddiadwy ar ffurf pâr a
chreu mynedfeydd newydd o'r ffordd sirol dosbarth III cyfagos ar safle tu fewn
i ffin datblygu pentref Bethel. Tynnwyd
sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Argymhellwyd
i’r Pwyllgor ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb 106 neu gydymffurfio gydag amod priodol i
sicrhau fod 2 o'r 7 tŷ a oedd yn destun y cais yn fforddiadwy ac i amodau
perthnasol. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Ei fod wedi cyfarfod efo
Dŵr Cymru yr wythnos flaenorol ac nid oeddent yn ymwybodol o’r problemau
carthffosiaeth; ·
Ei fod yn bryderus na gwblhawyd
asesiad nac arolwg o’r sefyllfa fel rhan o broses llunio’r CDLl; ·
Bod angen am dai yn yr ardal a
bod y cais yn gyfle gwych o ran maint y tai; ·
Gofyn am archwiliad annibynnol
o ran problemau carthffosiaeth cyn adeiladu ar y safle os yn bosib; ·
Ei fod yn edrych ymlaen at
weithio efo’r ymgeisydd o ran budd i’r gymuned. (c) Mewn ymateb i sylwadau’r aelod
lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio y derbyniwyd cadarnhad am y
trydydd gwaith gan Dŵr Cymru bod capasiti digonol yn y system. O ran archwiliad
annibynnol, nid oedd yn bosib i’r Cyngor gynnal archwiliad o’r fath ond fe
ellir gofyn i Dŵr Cymru gynnal archwiliad annibynnol ac fe fyddai’r Cyngor
yn parhau i siarad efo’r aelod lleol a thrigolion. (ch)
Cynigwyd ac
eiliwyd i ganiatáu’r cais. Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed amod i
sicrhau nad oedd dŵr wyneb yn mynd i’r system carthffosiaeth, nododd yr
Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu yn unol â sylwadau Dŵr Cymru yr
argymhellir gosod amod na waredir dŵr wyneb yn uniongyrchol i’r system. Nododd
aelod ei fod yn gefnogol i’r cais a bod derbyn cadarnhad gan Dŵr Cymru am
y trydydd gwaith yn cadarnhau bod capasiti yn y system carthffosiaeth yn golygu
seiliau cadarn i wneud penderfyniad. Nododd
aelod bod y safle o fewn y ffin datblygu ac y byddai’n cyfarch anghenion tai.
Roedd y cais fel cynllun amlinellol i’w gymeradwyo. Penderfynwyd: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gwblhau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.9 |
|
Cais Rhif C17/0953/18/LL - Hafan y Wennol, Nant y Garth, Y Felinheli. PDF 252 KB Creu safle
'glampio' gan gynnwys 6 Pabell Gloch, Cysgodfan Bwyta ac Adeilad Mwynderol. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Sion Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu safle 'glampio' gan gynnwys 6 Pabell Gloch, Cysgodfan Bwyta ac
Adeilad Mwynderol. (a) Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais ar gyfer
creu safle ‘glampio’ newydd ar dir amaethyddol ger Nant y Garth. Tynnwyd
sylw bod Cyngor Cymuned Llanddeiniolen wedi gwrthwynebu oherwydd bod y fynedfa
mewn man peryglus a chyflwr y ffordd fynediad yn wael. Cadarnhaodd nad oedd yr
Uned Drafnidiaeth yn gwrthwynebu’r bwriad ac yn nodi byddai’r niferoedd isel o
ddefnyddwyr yn annhebygol o gael effaith andwyol ar y rhwydwaith ffyrdd lleol a
bod gwelededd o'r fynedfa yn cyrraedd y safonau angenrheidiol. Nodwyd
bod llety gwersylla amgen dros dro o’r fath yn cael ei ystyried dan bolisi TWR
5 o’r CDLl. Eglurodd bod y polisi’n caniatáu cynigion i ddatblygu safleoedd
carafanau teithiol, gwersylla neu lety wersylla amgen dros dro os cydymffurfir
â’r cyfan o’r meini prawf, cyfeiriodd at yr asesiad yn erbyn y meini prawf a
nodwyd yn yr adroddiad. Ystyriwyd
bod y bwriad yn dderbyniol a ni fyddai’n cael effaith niweidiol sylweddol ar y
dirwedd, mwynderau trigolion lleol na diogelwch ffyrdd. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
ymgeisydd, y prif bwyntiau canlynol: ·
Bod y bwriad yn gynllun arallgyfeirio
gyda symudiad i ffermio llai o dda byw a darparu llety campio arbennig i
ymwelwyr; ·
Y byddai’r pabelli yn cael eu symud yn
y gaeaf; ·
Byddai’r bwriad yn creu gwaith iddo ac
eraill gan ddenu mwy o ymwelwyr i’r Sir. (c) Gwnaed
y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn):- ·
Nad oedd ganddo wrthwynebiad
i’r bwriad a’i fod yn croesawu’r datblygiad; ·
Bod y Cyngor Cymuned wedi codi
pryderon o ran diogelwch ffyrdd ond ni fyddai datblygiad o’r fath yn cael
effaith. Angen ail ystyried y sefyllfa pe derbynnir cais pellach i gynyddu
niferoedd; ·
Gofyn i’r ymgeisydd drafod
efo’r tenant er mwyn sicrhau ei fod efo digon o amser i symud ei stoc. Penderfynwyd: Caniatáu yn unol â’r
amodau canlynol: 1.
Cychwyn o fewn 5
mlynedd. 2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd. 3. Nifer o
unedau ar y safle ar unrhyw un adeg i’w cyfyngu i 6. 4. Cyfyngu
tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref. 5. Cadw
cofrestr. 6. Y pebyll a’r llwyfannau pren
naill ai i’w tynnu o’r safle yn gyfan gwbl neu eu storio o’r golwg yn yr
adeilad mwynderol yn ystod y cyfnodau pan mae’r safle yn gaeedig. 7. Amodau
Tirlunio 8. Cyflawni’r
argymhellion bioamrywiaeth. |
|
Cais Rhif C16/0507/20/LL - Swyddfeydd Menai Marina, Hen Gei Llechi, y Felinheli PDF 289 KB Codi estyniad deulawr i'r swyddfa presennol er mwyn darparu toiledau, cawodydd a mwy o le swyddfa ynghyd a codi 3 uned manwerthu (A1) ac ehangu'r maes parcio presennol AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth W Griffith Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi estyniad deulawr i'r swyddfa bresennol er mwyn darparu toiledau,
cawodydd a mwy o le swyddfa ynghyd â chodi 3 uned manwerthu (A1) ac ehangu'r
maes parcio presennol. (a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng
nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2017 er mwyn cynnal ymweliad
safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle ar 8 Rhagfyr 2017.
Cyfeiriodd at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd mewn ymateb
i bryderon y Pwyllgor, a oedd yn cynnwys: ·
Bod y cyfleusterau presennol
(cawodydd, toiledau, swyddfa) mewn lleoliad gwael yn rhy bell i fwrdd o brif
hwb y gweithgareddau wrth giatiau’r loc ac yn rhy bell o’r basn Menai allanol.
Byddai’r bwriad yn gwella gwasanaeth y busnes yn sylweddol. ·
Ar hyn o bryd roedd y cychod
yn cael eu codi o’r dŵr gyda chraen ar rent ac yn cael eu storio ar y maes
parcio dros y gaeaf. Roedd y cwmni yn teimlo nad oedd hyn yn sefyllfa
ddelfrydol ac yn tynnu oddi wrth fwynderau gweledol yr ardal ac yn lleihau
parcio i gwsmeriaid. Byddai’r datblygiad yn sicrhau maes parcio gwell a
byddai’r cychod ond yn cael eu storio a chodi o’r dŵr yn y rhan weithredol
o’r doc wrth weithdy presennol yr iard gychod. ·
Prif fwriad y datblygiad oedd
gwella cyfleusterau’r marina a hefyd gwella a lleihau effaith unrhyw
weithgareddau’r marina ar fwynderau preswyl yr ardal. Nodwyd bod y bwriad yn
dderbyniol o ran egwyddor a bod edrychiad y datblygiad yn dderbyniol yn ei
gyfanrwydd fel un datblygiad. Ystyriwyd bod yr effeithiau a oedd yn
gysylltiedig â’r bwriad yn dderbyniol yn agos i dai preswyl, yn enwedig wrth
ystyried defnydd presennol y tir. Nodwyd nad oedd gan yr
ymgeisydd unrhyw wrthwynebiad i osod amod yn atal y maes parcio rhag cael ei
ddefnyddio ar gyfer storio cychod. Ystyriwyd y gall gosod amod o’r fath gynnig
gwelliant i’r ardal gan nad oedd rheolaeth o’r maes parcio yn bresennol a
dylai’r amod leihau'r angen i berchnogion cychod barcio ar ochr y lôn trwy
gadw’r maes parcio ar gyfer ceir yn unig. Roedd y datblygiad yn
dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a
roddwyd yn yr adroddiad. (b) Gwnaed y
prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn):- ·
Effaith ar barcio a
thrafnidiaeth, problemau yn yr ardal yma eisoes a byddai craen yn cael hi’n
anodd mynd a dod; ·
Bod angen cysidro’r 87 tŷ
a effeithir gan y datblygiad; ·
Bod adnoddau cysylltiol ar y
safle eisoes ond bod y cyn-berchennog wedi eu llesu. Derbyn y byddai’r adnoddau
cysylltiol newydd yn hwylusach ond y byddai’n ychwanegu at y problemau parcio a
thrafnidiaeth; ·
Bod y cais yn or-ddatblygiad
o’r safle. (c) Cynigiwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais. Nododd
aelod y roedd yn pryderu o ran yr effaith ar y tai cyfagos ond yn dilyn ymweld
â’r safle o’r farn bod y bwriad yn dderbyniol. Nododd aelod y byddai’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.11 |
|
Deddf yr Amgylchedd 1995. Cais ar
gyfer cymerdawyo amodau er mwyn ail-agor safle tywod a graean segur dan
ganiatad cynllunio 2250 dyddiedig 10 Rhagfyr 1951 - cae rhif 297, Cae Efa Lwyd,
Penygroes. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Judith Humphreys Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Deddf yr Amgylchedd 1995. Cais ar gyfer cymeradwyo amodau er mwyn
ail-agor safle tywod a graean segur dan ganiatâd cynllunio 2250 dyddiedig 10
Rhagfyr 1951 - cae rhif 297, Cae Efa Lwyd, Penygroes. (a)
Atgoffodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a
Gwastraff bod y cais hwn wedi ei ohirio yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 27
Tachwedd 2017 er mwyn cynnal trafodaeth yn lleol a derbyn gwybodaeth ychwanegol
gan yr ymgeisydd. Nodwyd y cynhaliwyd
cyfarfod cyhoeddus lle'r oedd yr aelod lleol yn bresennol ond nid oedd unrhyw
un o’r gymuned leol yn bresennol. Eglurodd yr esboniwyd yn y cyfarfod sut oedd
y swyddogion wedi llunio’r amodau a argymhellir, gan bwysleisio bod yr amodau
yma yn fwy disgrifiadol a fwy caeth na’r rhai a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd. Adroddwyd bod yr
ymgeisydd wedi cyflwyno mwy o wybodaeth ac roedd crynodeb wedi ei gynnwys ar y
ffurflen sylwadau ychwanegol. Tynnodd sylw bod yr ymgeisydd yn datgan bod cwmni
Vibrock yn brofiadol ac yn darparu cyngor arbenigol o ran sŵn ac ansawdd
aer ym Mhrydain a thramor. Roedd y wybodaeth a dderbyniwyd yn cyfeirio at waith
glo brig ac astudiaeth ‘Newcastle’. Nododd bod Sefydliad Rheoli Ansawdd Aer yn
cydnabod bod y rhan fwyaf o ddatblygiadau mwynau yn golygu llai o weithgareddau
cynhyrchu llwch na phwll glo brig. Pwysleisiwyd nad oedd modd i’r Pwyllgor Cynllunio wrthod y
cais ac mai cytuno ar amodau newydd oedd gerbron yn unol â Deddf yr Amgylchedd 1995 gan fod y caniatâd cynllunio yn ddilys dan 2042.
Nododd bod y cynllun gwaith a gyflwynwyd yn un ai gwneud cais am gyfnod 4
mlynedd wrth ddefnyddio mynedfa newydd neu 8 mlynedd pe defnyddir y fynedfa
bresennol. Eglurodd mai’r cynllun a ffafrir gan y Cyngor oedd efo’r fynedfa
newydd a hefyd darparu bwnd acwstig di-dor ar ochr dwyreiniol a deheuol y
safle. Ymhelaethodd ar amodau’r Cyngor a oedd yn cynnwys cyfyngu ar lefel
cloddio, monitro sŵn, ansawdd aer a llwch a chyfyngu oriau gweithredu
ynghyd â materion technegol eraill. Eglurwyd bod yr amodau a gynigir gan y Cyngor wedi eu
cytuno rhwng yr Awdurdod Cynllunio ac Uned Gwarchod y Cyhoedd. Ychwanegodd pe
gwrthodir y cais byddai amodau’r ymgeisydd yn dod yn weithredol. (b) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod gwrthwynebiad chwyrn o’r
bwriad i ail-agor y safle; ·
Byddai’r chwarel yn frawychus
o agos i gartrefi preswyl, tai cyfagos o fewn 30 medr i’r chwarel. Yn unol â gofynion presennol ni fyddai chwarel yn cael ei ganiatáu heb ei
fod 100 medr i ffwrdd o dai; ·
Gallai’r ymgeisydd wneud cais
pellach i ymestyn y cyfnod; ·
Bod safonau iechyd cyhoeddus gwahanol i’r rhai oedd
yn bodoli yn 1951; ·
Nad oedd yr amodau a gynigir
yn lliniaru’r effaith yn ddigonol; ·
Bod yr asesiadau yn rhai hanesyddol a chyffredinol;
yn anghyson a chamarweiniol; · Yng nghyd-destun llwch, yn ôl y World Health Organisation nid oedd lefel saff o ran gronynnau a oedd yn mynd i’r system resbiradu gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.12 |
|
Cais Rhif C17/0455/22/LL - Cae Efa Lwyd, Ffordd Clynnog, Penygroes PDF 418 KB Creu mynediad cerbydol i bwll
tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda
gwaith peirianyddol cysylltiol. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Judith Humphreys Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu mynediad cerbydol i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd
Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda gwaith peirianyddol cysylltiol. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio
Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi bod y fynedfa bresennol ar y safle yn agor
allan i ffordd ddi-ddosbarth Ffordd Clynnog. Eglurodd nad oedd yr Uned
Drafnidiaeth yn cefnogi defnyddio'r fynedfa yma. Eglurwyd bod y cais hwn yn
cynnig mynedfa gerbydol newydd a fyddai’n arwain yn uniongyrchol i’r chwarel.
Byddai’r gwaith ar y chwarel am gyfnod o 4 mlynedd a 100,000 tunnell y flwyddyn
gyda chynlluniau i adfer y fynedfa yn ôl fel tir amaethyddol pan ddaw’r gwaith
i ben. Cadarnhawyd bod yr Uned
Drafnidiaeth yn gefnogol i’r bwriad a’i fod yn debygol y byddai rhaid diwygio
gorchymyn ar y lôn drwy Ddeddf Priffyrdd. Roedd hyn i’w drafod a chytuno rhwng
yr ymgeisydd a’r Uned Drafnidiaeth. Nodwyd byddai’r fynedfa newydd
yn bellach i ffwrdd o drigolion Ffordd Clynnog ac yn sicrhau mynedfa na
fyddai’n dod allan i lôn gul annerbyniol. Roedd
y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol
am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
NA i’r Fynedfa Newydd; ·
Bod y fynedfa bwriedig ar droad peryg ac fe ddylid
cynnal ymweliad safle; ·
Bod gan y Pwyllgor yr hawl i wrthod y cais a byddai
ffordd o fyw'r trigolion yn saff pe gwrthodir y cais. (c) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Y gellir parhau i ddefnyddio’r
fynedfa bresennol ond bod yr ymgeisydd wedi cymryd i ystyriaeth pryderon lleol
ac wedi cyflwyno’r cais yma am fynedfa newydd; ·
Bod yr ymgeisydd yn gwneud eu
gorau i ail-agor y chwarel o dan yr amodau gorau posib. (ch) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:- ·
Byddai hyd at 20 symudiad
lori'r dydd o’r fynedfa gan wasgaru llwch; ·
Bod y bwriad ar y safle yn
ymwthiol ac yn tanseilio mwynderau lleol; ·
Bod trigolion lleol yn
gweithio i harddu’r ardal i hybu balchder pobl yn eu cymuned a bod datblygiad
o’r fath yn tanseilio’r gwaith ac yn hagru’r ardal; ·
Yr angen i roi ystyriaeth i’r
pennawd ‘Rheoli Twf a Datblygiad’ yn y CDLl; ·
Yr angen i weithredu yn unol â
Ffordd Gwynedd; ·
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae
gan bobl hawl i gartref heddychlon heb ymyrraeth ac efallai y bydd gofyn ar
awdurdodau cyhoeddus i gymryd camau i leihau sŵn a llygredd; ·
Byddai’r traffig trwm yn
berygl ac yn ffynhonnell llygredd sylweddol ac achosi niwsans; ·
Gofyn i’r Pwyllgor wrthod y
cais er mwyn rhoi amser i’r trigolion dderbyn cyngor cyfreithiol. (d) Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod mynediad eisoes yn bodoli o dan y caniatâd gwreiddiol gyda’r tebygolrwydd y byddai’r ymgeisydd yn ei ddefnyddio pe gwrthodir y cais. ‘Roedd mwy o effaith yn deillio o’r fynedfa ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.13 |
|
Cais Rhif C17/1024/39/LL - The Shanty, Pen Bennar, Abersoch, Pwllheli. PDF 279 KB Dymchwel tŷ
presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le AELOD LLEOL: Cynghorydd
Dewi Wyn Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel tŷ
presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi fod y cais yn ail gyflwyniad o gais a wrthodwyd gan y
Pwyllgor ar 25 Medi 2017. Nododd bod yr ymgeisydd yn datgan bod y bwriad wedi
ei ddiwygio drwy leihau maint y tŷ bwriedig er ymateb i bryderon a godwyd
gan y Pwyllgor a rhesymau gwrthod y cais blaenorol. Nodwyd y lleolir y safle
ar benrhyn Abersoch, y tu mewn i ffin datblygu’r pentref a thu mewn i Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE). Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Eglurwyd bod polisïau
lleol a chenedlaethol yn gefnogol i ail-ddefnyddio tir a ddefnyddiwyd o’r blaen
ar gyfer datblygiadau yn hytrach na defnyddio tir gwyrdd. Roedd y bwriad yn
unol â pholisi TAI 13 o’r CDLl a oedd yn ymwneud yn benodol gyda dymchwel a
chodi tŷ newydd y tu mewn i ffin pentref. Nodwyd yr ystyrir y
byddai dyluniad y tŷ, yn arbennig felly'r edrychiad yn wynebu’r môr, yn
gweddu gyda’r safle oherwydd ei fod yn dilyn siâp, gosodiad a phroffil y safle
a’r defnydd o ddeunyddiau yn creu dyluniad ysgafn. Nodwyd nad oedd gan yr Uned
AHNE wrthwynebiad i’r bwriad ar y sail yma. Adroddwyd bod nifer o
wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn nodi eu bod yn teimlo nad oedd y bwriad yn
gweddu a theimlir bod y gwrthwynebiadau hyn wedi eu cyflwyno oherwydd bod y
dyluniad yn wahanol i eiddo eraill yn yr ardal. Nid oedd hyn ohono’i hun yn
golygu bod y bwriad yn cael effaith niweidiol ar gymeriad yr ardal. Ystyriwyd bod y bwriad yn
addas i’r lleoliad a’i gyd-destun ac na fyddai’n cael effaith andwyol ar yr
AHNE. Hefyd, oherwydd y lleoliad yn erbyn cefndir adeiledig Abersoch ni ystyrir
y byddai’r bwriad yn amharu’n sylweddol ar olygfeydd i mewn ac allan o’r AHNE. Nodwyd yr ystyrir bod y
dyluniad a dwysedd ar y safle yn dderbyniol a bod y bwriad yn cyd-fynd â’r
polisïau perthnasol. Argymhellwyd i’r Pwyllgor
ganiatáu’r cais efo’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ynghyd ag amod ychwanegol
o ran oriau gweithio a Chynllun Rheoli Adeiladu er mwyn gwarchod mwynderau
trigolion lleol. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
asiant yr ymgeisydd, y prif bwyntiau canlynol: ·
Bod yr ymgeisydd yn hytrach na
chyflwyno apêl ar y cais blaenorol a wrthodwyd wedi diwygio’r bwriad er mwyn
cyfaddawdu o ran y pryderon a godwyd; ·
Bod maint y tŷ wedi ei leihau 25%
gyda lleihad yn lled y tŷ o 1.5m, dyfnder 3.5m ac uchder o 1m. Byddai’n
sicrhau na fyddai’r tŷ yn amharu ar yr olygfa o’r Llwybr yr Arfordir tu
cefn y safle; ·
Bod y lluniau a gyflwynwyd yn dangos na
fyddai’r datblygiad i’w weld o gyfeiriad Lôn Pont Morgan; · Byddai’r tŷ’n cymryd 25% o’r safle gyda gweddill y safle ar gael i dirweddu’n effeithiol. Roedd tai llawer mwy yn yr ardal (oddeutu 60% o’r safle) gyda llai o dir ar gael i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.14 |
|
Cais Rhif C17/0845/40/LL - Cae O.S. 7666 a 7157, Llwyn Hudol, Pwllheli PDF 244 KB Cais rhannol
ol-weithredol ar gyfer cadw trac
amaethyddol a chodi adeilad amaethyddol newydd AELOD LLEOL: Cynghorydd
Peter Read Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais rhannol ol-weithredol ar gyfer cadw trac
amaethyddol a chodi adeilad amaethyddol newydd. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi ar sail y cynlluniau a gyflwynwyd fel
rhan o’r cais ystyriwyd bod yr egwyddor o godi sied amaethyddol o’r maint ac ar
y safle hwn yn dderbyniol. Nodwyd bod y trac a’r
adeilad bwriedig wedi eu lleoli o fewn ardal a
thirwedd oedd efo adeiladau wedi eu gwasgaru. Ni ystyriwyd y byddai’r adeilad
arfaethedig, a’r trac presennol yn amlwg o fewn y tirlun a oedd eisoes yn frith
o adeiladau a thraciau/ffyrdd. O ystyried maint a graddfa fechan y datblygiad
ni fyddai’r datblygiad yn ymddangos yn rhy ormesol yn ei gyd-destun. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Nododd aelod bod yr aelod lleol
yn methu bod yn bresennol yn
y cyfarfod ond ei fod yn
pryderu y byddai cais pellach i
adeiladu tai ar y safle. Ychwanegodd ei fod yn
cwestiynu lleoli’r sied amaethyddol ym mhen pella’r
cae gan greu
craith yn y dirwedd drwy greu
trac. Nododd y Cadeirydd bod rhaid delio efo’r
cais gerbron. Penderfynwyd: Caniatáu yn unol â’r amodau
canlynol: 1. Datblygu yn unol â’r cynlluniau. 2. Amod i gadarnhau lliw gwyrdd tywyll i’r sied amaethyddol neu liw cyffelyb
i’w gytuno yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol. 3. Amod defnyddio’r adeilad ar gyfer defnydd amaethyddol yn unig. |
|
Cais Rhif C17/0565/41/LL - Tir ger Bro Sion Wyn, Chwilog PDF 324 KB Cais i godi tŷ deulawr marchnad agored. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Aled Lloyd Evans Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Is-gadeirydd gadeirio’r cais uchod gan fod
y Cadeirydd wedi datgan buddiant personol ac wedi gadael y Siambr. Cais i godi tŷ deulawr farchnad agored. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi nad oedd yn bosib trafod y cais yma yng
nghyfarfod y Pwyllgor ar 27 Tachwedd 2017 oherwydd nad oedd cworwm. Atgoffwyd y
gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2017 er
mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle ar 27
Tachwedd 2017. Nodwyd bod y bwriad yn golygu codi tŷ newydd ar dir tu
mewn i’r ffin datblygu ag o fewn ardal breswyl ym mhentref Chwilog. Ystyriwyd
bod y bwriad yn cydymffurfio mewn egwyddor gyda gofynion polisïau a ni
ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed i fwynderau’r gymdogaeth leol. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Gwnaed
y prif bwyntiau canlynol gan yr
aelod lleol (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Ei fod wedi holi CCG ychydig o
flynyddoedd yn ôl o ran darparu llefydd parcio ar gyfer preswylwyr Bro Sion Wyn
ond mai na oedd yr ateb. Problemau parcio yn bodoli yn y stad a ni fyddai’r
datblygiad yn helpu’r sefyllfa; ·
Bod yr adroddiad yn nodi bod y
bwriad yn bodloni gofynion Polisi TRA2 a TRA4 o’r CDLl
a oedd yn ymwneud a pharcio a thrafnidiaeth. Tynnu sylw mai at safle’r cais yn
unig y cyfeirir ac nid at y trafferthion parcio yn yr ardal gyfagos; ·
Byddai’r tŷ yn fwgwd ac
yn effeithio ar fwynderau trigolion cyfagos. Dim ond 17 medr i ffwrdd o’r tai
gyferbyn y byddai’r tŷ; ·
Cyfeirio at bolisi ISA4 o’r CDLl gan nodi y byddai’n bechod cael gwared â’r llecyn
agored; ·
Bod paragraff 5.10 o’r
adroddiad yn diystyru gwrthwynebiadau o ran mwynderau ond ei fod yn gofyn i’r
Pwyllgor roi ystyriaeth iddynt a gwrthod y cais. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.
Nododd y cynigydd y dylid gwrthod y cais oherwydd byddai’r
bwriad yn golygu colli llecyn
gwyrdd/rhandiroedd, gor-edrych, dim angen am dŷ arall gan
fod cynifer yn yr arfaeth
yn Chwilog ac y byddai’n or-ddatblygiad o’r safle. Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd y swyddogion: ·
Y byddai’n anodd
iawn amddiffyn gwrthodiad mewn apêl ar sail nad oedd angen am dai yn yr ardal; ·
Bod pryder o ran
effaith ar fwynderau preswyl yn rheswm y gellir ei ddefnyddio i wrthod y cais
ond roedd yr argymhelliad gerbron yn gadarn; ·
Nid oedd y llecyn
gwyrdd wedi ei warchod mewn unrhyw ffordd nac ar gyfer defnydd fel rhandiroedd; ·
O ran gor-edrych, mai’r canllaw pellter rhwng ffenest i ffenest
yw oddeutu 22 medr, roedd oddeutu 17 medr rhwng y tŷ a’r tai gyferbyn ond
nid oes ffenestr ar yr edrychiad perthnasol o’r tŷ arfaethedig; · Bod yr adroddiad yn ymateb i bryderon o ran gor-ddatblygiad, pwysleisiwyd mai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.16 |