Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Louise Hughes, Delyth Lloyd Griffiths a Huw Wyn
Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd
yr aelod canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: Y Cynghorydd Huw Rowlands (oedd yn Aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 (C22/0909/22/LL) ar y rhaglen oherwydd
cyswllt teuluol Roedd yr Aelod o’r farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y cais. b)
Datganodd yr aelodau canlynol
eu bod yn aelod lleol mewn
perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Gruffydd Williams (oedd yn
Aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C21/1220/42/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Kim Jones (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C22/1169/15/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Meryl Roberts (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 (C23/0201/08/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
Codi
adeilad Depo Dosbarthu ac adeilad Gweinyddu a chynnal a chadw, creu maesydd
parcio cerbydau a loriau, man golchi cerbydau, gosod ffens ddiogelwch,
tirlunio a gwaith cysylltiedig. Aelod
Lleol: Cynghorydd Meryl Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cais wedi ei dynnu yn ôl Cofnod: Codi
adeilad Depo Dosbarthu ac adeilad Gweinyddu a chynnal a chadw, creu meysydd
parcio cerbydau a lorïau, man golchi
cerbydau, gosod ffens ddiogelwch, tirlunio a gwaith cysylltiedig CAIS WEDI EI DYNNU YN
ÔL |
|
Cais Rhif C21/1220/42/LL Morlais Lôn Penrallt, Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6EP PDF 477 KB Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd
yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni Aelod Lleol: Cynghorydd Gruffydd Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Gohirio er mwyn cynnal ymweliad
safle Cofnod: Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd
yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni a)
Amlygodd yr Uwch
Swyddog Rheolaeth Datblygu mai
cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel tŷ presennol a chodi
tŷ newydd yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni arfordirol. Yn
allanol, byddai’r tŷ newydd yn cynnwys to crib o orffeniad zinc tywyll a gorffeniadau’r waliau allanol yn gyfuniad o
fyrddau coed ar y llawr uchaf a charreg naturiol ar y lloriau is. Nodwyd bod y
safle a’r adeilad presennol wedi ei leoli wrth droed clogwyn Traeth Nefyn a'r
clogwyni wedi eu dynodi fel Ardal Gadwraeth Arbennig (ACA) Clogwyni Pen
Llŷn a hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDDGA)
Porthdinllaen i Borth Pistyll. Ategwyd bod y safle y
tu allan i ffin ddatblygu gyfredol Nefyn gyda mynediad at y safle ar hyd y
traeth yn ogystal â llwybr cyhoeddus sydd yn arwain i lawr o ben y clogwyn heibio’r safle ac ymlaen at y traeth islaw. Eglurwyd
bod y safle presennol yn cynnwys tŷ sydd yn dyddio’n ôl i ddiwedd yr
1960’au/dechrau’r 1970’au ac o ffurf sydd yn cynnwys toeau gwastad ac yn cyfleu
edrychiadau o’r cyfnod. Mae’r
safle a’r ardal ehangach oddi mewn dynodiad Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol Llŷn ac Enlli a thu
allan i barth llifogydd cyfagos sydd yn berthnasol i’r traeth yn unig. Nodwyd bod elfennau o’r
cynnig wedi ei diwygio o’i gyflwyniad gwreiddiol o ganlyniad i sylwadau a
dderbyniwyd oedd yn cynnwys gorffeniadau
allanol yr adeilad yn dilyn sylw gan yr Uned AHNE (er nad yw’r safle o fewn yr
AHNE, ystyriwyd y rhain fel sylwadau cyffredinol). Ategwyd,
yn wreiddiol, bod rhan o’r cynnig yn golygu gwyro’r llwybr cyhoeddus presennol
sydd yn rhedeg heibio’r safle a’i ail leoli i fod
ymhellach o’r adeilad. Yn dilyn trafodaethau ynghyd a derbyn sylwadau ar y
cynnig gan Uned Hawliau Tramwy’r Cyngor, Cyngor Tref Nefyn ac aelodau’r cyhoedd,
penderfynwyd bod y cynnig yn rhy ddadleuol ac felly y llwybr yn aros fel y mae. Cyflwynwyd y cais i’r
Pwyllgor gan yr Aelod Lleol am y rhesymau ei fod yn orddatblygiad
o’r safle, y byddai’n creu ansefydlogrwydd i’r clogwyni ac yn creu effaith
andwyol ar yr ardal. Yng nghyd-destun polisïau perthnasol,
cyfeiriwyd at ofynion polisi PS 5 sy’n nodi y dylid rhoi blaenoriaeth i
ddefnyddio tir ac isadeiledd yn effeithiol, gan flaenoriaethu ailddefnyddio tir
ac adeiladau a ddefnyddiwyd o’r blaen, lle bynnag bo hynny’n bosib. Yn yr achos
yma, mae tŷ presennol yn bodoli a’r safle eisoes wedi ei ddatblygu ac
felly mae’r bwriad yn bodloni gofynion cyffredinol polisi PS 5 o Gynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
(CDLI). Ategwyd bod Polisi TAI 13 y CDLI yn ymwneud yn benodol
ag ail-adeiladu tai ac yn gosod cyfres o feini prawf mae'n rhaid cydymffurfio â
nhw (lle bo'n briodol) er mwyn caniatáu cynlluniau o’r fath. Nodwyd bod y cais yn amlwg wedi golygu cryn graffu arno oherwydd nifer o ystyriaethau arbenigol na fyddai yn arferol i’w ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Dymchwel yr hen
lyfrgell ac adeiladu tri thŷ fforddiadwy canolradd newydd Aelod Lleol:
Cynghorydd Kim Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle Cofnod: Dymchwel yr hen
lyfrgell ac adeiladu tri tŷ fforddiadwy canolradd newydd. a)
Amlygodd yr Uwch
Swyddog Rheolaeth Datblygu mai
cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel cyn llyfrgell Llanberis a
chodi tri annedd fforddiadwy “canolradd” (dau dŷ pâr gyda dwy lofft ac un
cartref ar wahân gyda thair llofft) yn ei le. Caewyd y llyfrgell yn 2017 ac
mae'r safle, sydd o fewn ardal breswyl Canolfan Gwasanaeth Lleol Llanberis fel
y'i diffinnir yn y CDLl wedi bod yn segur ers hynny.
Gwasanaethir y safle gan Ffordd Capel Coch, sydd hefyd yn gwasanaethu Ysgol
Gynradd Dolbadarn. Cyfeiriwyd at y bont droed dros Afon Coch sydd tua chefn y
safle sy’n cysylltu gyda Stad Glanrafon - dros y blynyddoedd diwethaf cwblhawyd
gwaith lliniaru yn erbyn llifogydd i lannau’r afon yn sgil llifogydd sylweddol
yn 2012. Nodwyd
bod y datblygiad yn un gang Cyngor Gwynedd fel rhan o
gynllun “Tŷ Gwynedd” ac y byddai’r y tai yn cael eu cynnig i’w prynu neu rentu am bris sy’n
fforddiadwy i bobl leol. Tynnwyd sylw at y nifer
o wrthwynebiadau i’r cynllun oherwydd bod problemau parcio eisoes yn bodoli ar
Ffordd Capel Coch sy’n achosi drwg deimlad ymysg trigolion gyda phryder y
byddai creu tri thŷ yn y lleoliad yn gwaethygu’r sefyllfa. Yn ogystal mae
pryderon ynghylch y perygl i ddefnyddwyr y stryd, gan gynnwys plant sy’n
mynychu’r ysgol gyfagos, o’r cynnydd mewn trafnidiaeth. Er
gwaetha’r pryderon, nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad i'r bwriad
mewn egwyddor er iddynt nodi na fyddent yn gefnogol o greu mannau parcio ar y
stryd. Amlygwyd bod gofod parcio preifat ar gyfer pob eiddo newydd yn y
cynlluniau ac y byddai lle ar gyfer tri char barcio ar y ffordd o flaen y
datblygiad yn parhau i fod mewn lle. Ategwyd
bod y safle, tan yn ddiweddar, wedi bod yn llyfrgell gyhoeddus yn denu
trafnidiaeth ynddo’i hun. O ganlyniad, ni ystyriwyd y
byddai’r datblygiad ynddo’i
hun yn gwaethygu’r sefyllfa barcio ar y stryd o’i gymharu â’r hyn a fyddai’n
gallu digwydd dan ddefnydd cyfreithlon presennol y safle. Yn yr un modd, ni
ystyriwyd y byddai’r drafnidiaeth a achosir gan dri thŷ yn achosi perygl
uwch i ddefnyddwyr y stryd na’r hyn a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan y
llyfrgell. Yng
nghyd-destun pryderon llifogydd cyflwynwyd Asesiad Canlyniad Llifogydd (ACLl) gyda’r cais mewn ymateb i sylwadau cychwynnol Cyfoeth
Naturiol Cymru (CNC). Nodwyd bod canfyddiadau’r Asesiad Canlyniad Llifogydd a’r
broses modelu a ddilynwyd yn cadarnhau y byddai’r datblygiad yn cydymffurfio
gyda gofynion y NCT 15 cyfredol, yn benodol y meini prawf a osodir gan Atodiad
1 y NCT. Yn ogystal roedd yr ACLl yn cynnig cyfres o fesurau lliniaru er gwella gwytnwch
y datblygiad rhag llifogydd. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ar sail y gallu i reoli risg llifogydd i ddeiliaid y tai arfaethedig ac na fyddai’n achosi perygl ychwanegol mewn mannau eraill. Ystyriwyd, felly, fod y cais yn cydymffurfio gyda gofynion Polisïau PS 5 a PS6 a chynnwys y ddogfen gyfredol NCT 15: Datblygu a Pherygl ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais ar gyfer gweithio tomen
gwastraff llechi er mwyn creu stoc ar gyfer ei brosesu mewn gwaith/ffatri
mwynau Aelod
Lleol: Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau yn
ymwneud â'r isod:
Cofnod: Cais ar gyfer gweithio tomen gwastraff llechi er mwyn
creu stoc ar gyfer ei brosesu mewn gwaith/ffatri mwynau a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff
mai cais ydoedd ar gyfer gweithio tomen
gwastraff llechi er mwyn creu stoc ar gyfer ei brosesu mewn gwaith/ffatri
mwynau. Saif tomen Bryntirion o fewn Chwarel Lechi Ffestiniog sydd i'r gogledd
orllewin o dref Blaenau Ffestiniog; ceir mynediad i'r chwarel gyda cherbyd o
Gefnffordd yr A470, sydd tua 150m i'r gogledd o Dai Oakeley. Adroddwyd bod yr
ymgeisydd yn gweithredu gwaith mwynau sy'n prosesu gwastraff llechi o domennydd llechi'r Ffridd
a Bryntirion i gynhyrchu cynhyrchion llechi gronynnog. Adroddwyd bod rhan ddeheuol y domen eisoes
wedi cael ei gweithio fel rhan o ganiatâd cynllunio C10M/0103/03/MW (a ehangwyd
wedyn dan C20/0079/03/AC). Caiff y deunydd ei symud o'r domen gan duriwr â thrac (tracked
excavator) a'i fwydo i falwr
symudol a hopran fwydo (feed hopper) cyn ei drosglwyddo i'w sychu a'i falu i'r
gwaith ar gludfelt. Defnyddir y cynnyrch
gronynnog neu bowdr yma yn bennaf ar gyfer deunyddiau adeiladu fel ffelt to,
bitwmen llechi artiffisial, pryfladdwyr, paent,
resinau, haenau pibellau, ffeltiau to a chwrs
lleithder, corff cerbydau dan sêl, teils terazzo a phlastigion neu bydd yn cael
ei gludo ar y ffordd fel agregau eilaidd.
Daw'r angen am y cais o
ganlyniad i'r pentwr cyfyngedig wrth gefn sydd ar ôl yn y tomennydd sydd eisoes
wedi cael caniatâd i gael ei weithio.
Amcangyfrifwyd bod tua 520,000 tunnell o ddeunydd wrth gefn yn ardal y
cais a byddai hyn yn sicrhau bod gan y gwaith mwynau gyflenwad parhaus o
ddeunydd am bum mlynedd. Nid yw'r cynnig yn
cynnwys bwriad i gynyddu symudiadau HGV o'r safle a byddai'n rhyddhau'r mwynau
sydd wrth gefn yn unol â'r amodau presennol ar gyfer Chwarel Ffestiniog sy'n
cyfyngu ar yr allbwn i 9 llwyth fesul diwrnod gwaith a 2 lwyth ar ddydd Sadwrn,
dydd Sul a Gwyliau'r Banc/Gwyliau Cyhoeddus. Cyfeiriwyd at
sylwadau a dderbyniwyd gan Network Rail (NR) yn
gwrthwynebu'r bwriad oherwydd diffyg gwybodaeth yn ymwneud â rheoli llwch a'i
effeithiau ar siafftiau aer y twnnel. Fodd bynnag, eglurwyd bod yr ymgeisydd
wedi darparu gwybodaeth drylwyr am reoli llwch ac Uned Gwarchod y Cyhoedd wedi
argymell amodau priodol (mesurau lliniaru) i leihau unrhyw effaith ar ansawdd
aer. Ategwyd bod NR hefyd yn gwrthwynebu ynghylch sefydlogrwydd tir a
dŵr ffo mewn perthynas â thwnnel Ffestiniog a'r rheilffordd. Gwnaed cais
gan NR am drafodaethau pellach rhwng pob parti ym mis Mawrth, ond nid oedd
cyfarfod i drafod sylwadau pellach ar gynnwys y wybodaeth technegol wedi
digwydd. Roedd yr Awdurdod Cynllunio Mwynau o'r farn bod yr ymgeisydd wedi darparu gwybodaeth ddigonol o ran adroddiadau technegol sy'n ymwneud â bod yr arwyneb yn gallu cynnal llwyth, hydroleg/daeareg ac adfer ac nad oedd unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gan NR yn gwrthbrofi digonolrwydd neu ddibynadwyedd yr adroddiadau hyn. Roedd yr awdurdod wedi cysylltu â NR sawl gwaith ynglŷn â'r materion hyn, gan dynnu eu sylw yn benodol at yr adroddiadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C23/0075/25/AC Meifod Ffordd Penrhos, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2NL PDF 335 KB Cais i ddiwygio amodau
ynghlwm â chaniatâd cynllunio C21/0042/25/LL ar gyfer codi tŷ deulawr,
modurdy, creu mynedfa gerbydol newydd a gwaith cysylltiol : Amod 2 - Amrywio'r
cynllun a ganiatawyd er galluogi newid lleoliad yr adeilad arfaethedig o fewn y
safle; Amod 9 - newid y geiriad i fynnu cwblhau'r fynedfa a ddangosir ar y
cynllun a gyflwynwyd cyn defnyddio'r annedd ar ddibenion trigiannol. Aelod Lleol: Cynghorydd
Menna Baines Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu yn
ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol: 1. Rhaid cydymffurfio gyda’r cynlluniau newydd a
gyflwynwyd 2. Y ffenestr yn edrychiad
dwyreiniol y llawr daear i fod yn afloyw 3.
Rhaid dechrau’r datblygiad o fewn 5 mlynedd 4.
Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn cychwyn nes bod cynllun draenio ar gyfer y
safle wedi'i gyflwyno a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio
lleol. 5.
Rhaid dilyn yn union y mesuriadau lliniaru ac yr awgrymiadau cyfoethogi
bioamrywiaeth fel sydd wedi eu cynnwys yn rhan 5.2 i 5.4 i’r Adroddiad Ecolegol
Cychwynnol a gyflwynwyd gyda chais C21/0042/25/LL 6.
Ni chaniateir ar unrhyw adeg i wal/gwrych/ffens derfyn presennol y
briffordd nac unrhyw ffin terfyn newydd a godir yn wynebu'r briffordd fod yn
uwch nag 1 metr uwchlaw lefel cerbyd lôn y ffordd sirol gyfagos o naill ben
ffin y safle a'r briffordd i'r llall ac ni chaniateir codi unrhyw beth uwch na
hynny o fewn 2m i'r cyfryw wal. 7.
Rhaid cynllunio ac adeiladu'r fynedfa'n gwbl unol a'r cynllun a gyflwynwyd. 8.
Tynnu’r hawliau datblygu a ganiateir Nodiadau 1 - Nodyn Deddf Waliau Cydrannol 2 - Tynnu sylw'r ymgeisydd i sylwadau Dŵr Cymru 3 - Nodyn Systemau Draenio Cynaliadwy Cofnod: Cais i ddiwygio
amodau ynghlwm â chaniatâd cynllunio C21/0042/25/LL ar gyfer codi tŷ
deulawr, modurdy, creu mynedfa gerbydol newydd a gwaith cysylltiol : Amod 2 -
Amrywio'r cynllun a ganiatawyd er galluogi newid lleoliad yr adeilad
arfaethedig o fewn y safle; Amod 9 - newid y geiriad i fynnu cwblhau'r fynedfa
a ddangosir ar y cynllun a gyflwynwyd cyn defnyddio'r annedd ar ddibenion
trigiannol Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a)
Amlygodd y
Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i
ddiwygio Amod 2 (caniatâd cynllunio C21/0042/25/LL) am ganiatâd cynllunio llawn
ar gyfer codi tŷ deulawr a gwaith cysylltiol, er mwyn caniatáu symud
lleoliad y tŷ a ganiatawyd 3m tua’r gogledd ddwyrain. Eglurwyd bod y safle
yn cael ei wasanaethu gan fynediad oddi ar Ffordd Penrhos sy'n ffordd sirol
dosbarth 3 a bydd ardal barcio, modurdy a phorth car yn cael ei ddarparu fel
rhan o'r datblygiad. Bydd cefn y safle yn ffinio llecyn o goed sydd wedi ei
ddynodi fel Safle Bywyd Gwyllt Coetir Ffordd Treborth sy’n gwahanu'r safle oddi
wrth Canolfan Arddio Treborth. Derbyniwyd cynlluniau
diwygiedig wrth drafod y cais yn amlygu lleihad yn ôl troed yr adeilad o’i
gymharu â’r hyn a ganiatawyd yn wreiddiol. Nodwyd bod y bwriad o symud lleoliad
yr annedd yn deillio o’r angen i osgoi datblygu o fewn y parth clustogi sydd yn
ymestyn 4m naill ochr i ganol prif bibell garthffosiaeth sy’n croesi’r safle. Amlygwyd bod y cais hefyd yn
cynnwys cynnig i ddiwygio Amod 9 o’r caniatâd blaenorol er hwyluso’r gwaith
adeiladu trwy sicrhau i’r fynedfa gerbydol derfynol fod mewn lle cyn
defnyddio’r annedd yn hytrach na chyn dechrau datblygu’r safle. Cyflwynwyd y cais
i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. Derbyniwyd neges gan yr aelod lleol yn nodi,
yn sgil darllen adroddiad y swyddog a thrafodaethau pellach gyda phreswylwyr yr
eiddo agosaf, oedd bellach wedi cadarnhau wrthi nad oedd ganddynt wrthwynebiad
i’r cynnig fel y mae’n sefyll. Fodd bynnag, roeddynt yn pwysleisio'r angen i
gadw at y cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais. Ystyriwyd bod egwyddor y
bwriad o godi tŷ o faint a dyluniad tebyg ar y safle hwn eisoes wedi ei
dderbyn drwy ganiatâd C21/0042/25/LL - nid yw’r polisïau perthnasol wedi newid ers
hynny ac felly mae’r caniatâd hwnnw wedi ei weithredu ac yn fyw. Fe ystyriwyd fod yr egwyddor o
godi annedd ar y safle yn parhau i fod yn dderbyniol ac yn unol ag egwyddor y
polisïau tai cyfredol. Wrth ystyried y lleihad a fu
yn ôl troed y datblygiad, yn enwedig yn yr estyniad tua’r gogledd, ynghyd a’r
drafodaeth ynghylch yr effeithiau mwynderol, ni
ystyriwyd y byddai symud y tŷ hwn i’r lleoliad newydd yn cael effaith mwynderol niweidiol
arwyddocaol ar edrychiad y safle, y patrwm datblygu lleol nag ar
fwynderau preifat. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais PENDERFYNWYD
Caniatáu yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol: 1. Rhaid cydymffurfio gyda’r cynlluniau
newydd a gyflwynwyd 2. Y ffenestr yn edrychiad dwyreiniol y
llawr daear i fod yn afloyw 3. Rhaid dechrau’r datblygiad o fewn 5 mlynedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Dymchwel y tŷ presennol a chodi tŷ
newydd yn ei le ynghyd a gosod suddfan ddŵr a chyfarpar offer trin
carthion preifat. Aelod Lleol: Cynghorydd Peter Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag
amodau 1.
Yn
unol gyda’r cynlluniau 2.
Gweithredu’r
caniatâd o fewn 5 mlynedd. 3.
Deunyddiau 4.
Tirlunio
a gwarchod coed 5.
Manylion
ffiniau / cwrtil 6.
Gwaith
ymchwil archeolegol 7.
Tynnu
hawliau a ganiateir 8.
Cwblhau’r gwaith yn unol gyda’r adroddiad
rhywogaethau gwarchodedig. Cofnod: Cais i ddiwygio
amodau ynghlwm â chaniatâd cynllunio C21/0042/25/LL ar gyfer codi tŷ
deulawr, modurdy, creu mynedfa gerbydol newydd a gwaith cysylltiol : Amod 2 -
Amrywio'r cynllun a ganiatawyd er galluogi newid lleoliad yr adeilad
arfaethedig o fewn y safle; Amod 9 - newid y geiriad i fynnu cwblhau'r fynedfa
a ddangosir ar y cynllun a gyflwynwyd cyn defnyddio'r annedd ar ddibenion
trigiannol Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a) Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio mai cais
ydoedd i ddiwygio Amod 2 (caniatâd cynllunio C21/0042/25/LL) am ganiatâd
cynllunio llawn ar gyfer codi tŷ deulawr a gwaith cysylltiol, er mwyn
caniatáu symud lleoliad y tŷ a ganiatawyd 3m tua’r gogledd ddwyrain.
Eglurwyd bod y safle yn cael ei wasanaethu gan fynediad oddi ar Ffordd Penrhos
sy'n ffordd sirol dosbarth 3 a bydd ardal barcio, modurdy a phorth car yn cael
ei ddarparu fel rhan o'r datblygiad. Bydd cefn y safle yn ffinio llecyn o goed
sydd wedi ei ddynodi fel Safle Bywyd Gwyllt Coetir Ffordd Treborth sy’n
gwahanu'r safle oddi wrth Canolfan Arddio Treborth. Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig wrth drafod y cais yn amlygu lleihad yn ôl
troed yr adeilad o’i gymharu â’r hyn a ganiatawyd yn wreiddiol. Nodwyd bod y
bwriad o symud lleoliad yr annedd yn deillio o’r angen i osgoi datblygu o fewn
y parth clustogi sydd yn ymestyn 4m naill ochr i ganol prif bibell
garthffosiaeth sy’n croesi’r safle. Amlygwyd bod y cais hefyd yn cynnwys cynnig i ddiwygio Amod 9 o’r caniatâd
blaenorol er hwyluso’r gwaith adeiladu trwy sicrhau i’r fynedfa gerbydol
derfynol fod mewn lle cyn defnyddio’r annedd yn hytrach na chyn dechrau
datblygu’r safle. Cyflwynwyd y cais
i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. Derbyniwyd neges gan yr aelod lleol yn nodi,
yn sgil darllen adroddiad y swyddog a thrafodaethau pellach gyda phreswylwyr yr
eiddo agosaf, oedd bellach wedi cadarnhau wrthi nad oedd ganddynt wrthwynebiad
i’r cynnig fel y mae’n sefyll. Fodd bynnag, roeddynt yn pwysleisio'r angen i
gadw at y cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais. Ystyriwyd bod egwyddor y bwriad o godi tŷ o faint a dyluniad tebyg ar
y safle hwn eisoes wedi ei dderbyn drwy ganiatâd C21/0042/25/LL - nid
yw’r polisïau perthnasol wedi newid ers hynny ac felly mae’r caniatâd hwnnw wedi ei weithredu ac yn fyw. Fe ystyriwyd fod yr egwyddor o
godi annedd ar y safle yn parhau i fod yn dderbyniol ac yn unol ag egwyddor y
polisïau tai cyfredol. Wrth ystyried y lleihad a fu yn ôl troed y datblygiad, yn enwedig yn yr
estyniad tua’r gogledd, ynghyd a’r drafodaeth ynghylch yr effeithiau mwynderol, ni ystyriwyd y byddai symud y tŷ hwn i’r
lleoliad newydd yn cael effaith mwynderol
niweidiol arwyddocaol ar edrychiad y
safle, y patrwm datblygu lleol nag ar fwynderau preifat. b) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais PENDERFYNWYD
Caniatáu yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol: Dymchwel y tŷ presennol a chodi tŷ
newydd yn ei le ynghyd a gosod suddfan ddŵr a chyfarpar offer trin
carthion preifat. a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif C23/0201/08/LL Tir gyferbyn a Trem Y Moelwyn, Penrhyndeudraeth. Gwynedd PDF 449 KB Adeiladu 41 o dai fforddiadwy a datblygiadau
cysylltiedig Aelod Lleol: Cynghorydd Meryl Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Amod/cytundeb 106 ar gyfer adleoli’r ymlusgiaid Nodyn - angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy
i’w gytuno gyda’r Cyngor. Nodyn – cyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a chyngor
diwygiedig Dwr Cymru. Nodyn – cyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a’r cyngor
gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cofnod: Adeiladu 41 o dai fforddiadwy a datblygiadau cysylltiedig a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer darparu 41 tŷ, mynedfa newydd, ffordd stad
newydd a gwaith cysylltiedig ar lecyn o dir ar safle sydd wedi ei ddynodi o dan
T48 fel safle tai yn y CDLl. Saif y safle ar lecyn o dir amaethyddol, a ddefnyddir fel porfa da byw, yng
nghanol Penrhyndeudraeth ac oddi fewn
i’r ffin datblygu. Nodwyd bod y safle yn
mesur 1.26ha a gellid rhannu’r cais i wahanol elfennau sy’n cynnwys:- · Darparu 41uned
breswyl i gynnwys 30 tŷ deulawr (20 tŷ 2 lofft 4 person; 5 tŷ 3
llofft 5 person; 1 tŷ 7 person 4 llofft a 4 tŷ mynediad ochr 5
person); 1 byngalo 2 lofft 3 person; 8 fflat (1 llofft 2 berson); un tŷ
cymorth byw 6 llofft 10 person ynghyd ag un byngalo 4 llofft ar gyfer mynediad
gadair olwyn. ·
Darparu llecynnau parcio o fewn cwrtil bob tŷ
ac oddi ar y ffordd. ·
Creu mynediad newydd oddi ar Stad Trem y Moelwyn. ·
Creu mynediad troed newydd oddi ar y briffordd
gyfagosA.487. ·
Tirlunio a thirweddu meddal a chaled o fewn ac ar
ymylon y safle. ·
Cynllun gwelliannau bioamrywiaeth. ·
Darparu llecyn agored anffurfiol i blant ynghyd a
llecyn amwynder. ·
Gosod system ddraenio dŵr hwyneb a dŵr
aflan i wasanaethu’r datblygiad. ·
Cwlfertio rhan o’r cwrs dwr
sy’n rhedeg drwy’r safle. Adroddwyd y byddai
Penrhyndeudraeth yn mynd y tu hwnt i’w lefel dangosol gyda’r datblygiad hwn ac
o ganlyniad byddai angen cyfiawnhad gyda’r cais yn amlinellu sut fydd y bwriad
arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol drwy ddarparu cymysgedd priodol
o dai (Polisi TAI 8). Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth i
gefnogi’r cais oedd yn nodi mai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig Grŵp
Cynefin ynghyd a Clwyd-Alun fyddai’n gweithio law yn llaw i godi’r tai
fforddiadwy a dod yn berchnogion ar y safle unwaith bydd y datblygiad wedi ei
gwblhau. Nodwyd hefyd bod y cynllun wedi ei gynnwys o fewn rhaglen i dderbyn
Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru. Byddai Grŵp Cynefin yn
gyfrifol am 19 tŷ fforddiadwy a Clwyd-Alun yn gyfrifol am 22 tŷ
fforddiadwy gyda’r ddaliadaeth yn gymysg o rent cymdeithasol a chanolradd;
rhan-berchnogaeth a thai canol radd fforddiadwy ar werth ac mae’r cymysg yma o
dai yn ymateb i’r angen lleol am dai fforddiadwy ym Mhenrhyndeudraeth. Yng nghyd-destun
materion addysgol, cadarnhawyd bod digon o gapasiti
yn ysgolion y dalgylch, sef, Ysgol Gynradd Cefn Coch ac Ysgol Ardudwy i ymdopi
gyda nifer arfaethedig o blant gellid ei ddisgwyl o ganiatáu’r bwriad hwn. Yng nghyd-destun materion llecynnau agored nodwyd bod darpariaeth o lecynnau agored anffurfiol i’w leoli yng nghanol y safle a fyddai yn rhoi cyfle i’r darpar feddianwyr ei ddefnyddio, yn ogystal â thrigolion eraill lleol. Mae’r ddarpariaeth yma o lecynnau agored anffurfiol ar wahân ac yn ychwanegol i’r angen ar gyfer llecynnau chwarae ffurfiol/anffurfiol i blant a llecynnau chwaraeon awyr agored. Er hynny, nodwyd bod diffyg llecynnau chwarae gyda chyfarpar offer ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |