Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elin Hywel, Gruffydd Williams a John Pughe |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Swyddog Monitro fyddai’n cyhoeddi canlyniad pleidleisiau’r ceisiadau. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd
yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: • Y Cynghorydd Gareth Williams (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C25/0418/30/LL) ar y
rhaglen • Y Cynghorydd Gareth A Roberts (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C25/0647/11/LL) ar y
rhaglen • Y Cynghorydd John Pughe Roberts (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 (C25/0428/14/LL) ar y
rhaglen • Y Cynghorydd Cai Larsen (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 (C25/0462/02/LL) ar y rhaglen |
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 17 Tachwedd 2025 fel rhai cywir |
|
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i’w datblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
|
Cais Rhif C25/0418/30/LL Tir gyferbyn Deunant, Aberdaron, Pwllheli, LL53 8BP Cais llawn i godi 8 tŷ fforddiadwy (safle
eithrio) gyda datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys creu mynedfa gerbydol,
ffordd stâd, tirlunio ac ardal draenio dwr wyneb cynaliadwy. AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag
amodau 1. Amser 2. Unol a’r cynlluniau 3. Deunyddiau 4. Amod tai fforddiadwy 5. Amodau priffyrdd 6. Amodau bioamrywiaeth/gwarchod clawdd 7. Amod tirlunio 8. Amod Dŵr Cymru 9. Tynnu
hawliau dirprwyedig a ganiateir yn
ymwneud ag ymestyn a defnydd 10. Materion draenio 11. Cynllun Rheoli Adeiladu 12. Datganiad dull trawsleoli clawdd Cofnod: Cais llawn i godi 8 tŷ
par fforddiadwy (safle eithrio) gyda datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys creu
mynedfa gerbydol, ffordd stad, tirlunio ac ardal draenio dŵr wyneb
cynaliadwy Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr Roedd
rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 03-12-25 a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio y gohiriwyd y cais ym
Mhwyllgor Cynllunio Tachwedd 2025 er mwyn trefnu ymweliad safle i asesu effaith
y bwriad ar fwynderau’r trigolion cyfagos. Nodwyd bod cynlluniau diwygiedig
wedi eu cyflwyno oedd yn amnewid lleoliadau dau fyngalo pâr gyda’r pâr o dai 3
a 4 llofft. Adroddwyd bod safle’r datblygiad arfaethedig yn bresennol yn dir
amaethyddol agored gyda ffiniau o’i amgylch yn bennaf yn wrychoedd naturiol
gyda thai preswyl yn gyfochrog a’r safle gydag edrychiadau o ran dyluniad,
ffurf a gorffeniadau amrywiol. Saif y cyfan tu allan i ffin ddatblygu gyfredol
pentref Aberdaron ac felly yng nghefn gwlad agored gyda ffin orllewinol a
deheuol y safle arfaethedig yn cyffwrdd a’r ffin datblygu bresennol. Ategwyd
bod ffordd gyhoeddus dosbarth 3 wedi ei leoli yn gyfochrog gyda’r ffin
orllewinol a’r hyn fyddai blaen y safle, gyda mynediad a hawl tramwy i mewn i
diroedd amaethyddol yn rhedeg ar hyd ffin ogleddol y tir. Y safle oddi mewn
dynodiadau AHNE Llŷn a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol
Llŷn ac Ynys Enlli ac o fewn parth 500m i heneb gofrestredig. Eglurwyd bod pentref Aberdaron wedi ei ddiffinio fel pentref gwledig /
arfordirol yn y CDLl gydag oddeutu 95 o dai ac ychydig o gyfleusterau o fewn y
ffin datblygu gyfredol. Ar sail maint yr anheddle, nodwyd bod y datblygiad yn
golygu twf o 7.6% i’r anheddle, ond gyda chaniatâd diweddar wedi ei gymeradwyo
ar gyfer safle eithrio arall am 5 uned i’r anheddle, bydd twf o 12.35% yn ei
gyfanrwydd sy’n gyfystyr a’r lefel twf disgwyliedig i’r anheddle yma. Gyda’r safle wedi ei leoli y tu allan i’r ffin datblygu disgwylid i’r
holl unedau fod ar gyfer angen fforddiadwy lleol. Ar gyfer Aberdaron diffinnir
hyn fel pobl sydd mewn angen tŷ fforddiadwy ac sydd wedi byw o fewn y
Pentref, neu yn yr ardal wledig o gwmpas am bum mlynedd neu fwy yn olynol, unai
yn union cyn cyflwyno cais neu yn y gorffennol. Diffiniwyd ‘ardal wledig’ yn yr
achos yma fel pellter o 6km o safle'r cais a holl ardal unrhyw Gyngor Cymuned
sy'n cael ei rannu gan y pellter 6km, gan eithrio eiddo o fewn ffin datblygu
unrhyw anheddiad oni bai am yr anheddiad hwnnw lle mae’r cais wedi’i leoli. Nodwyd bod Arolwg Hwylusydd Tai Gwledig wedi ei gyflwyno mewn ymateb i’r
hyn a godwyd ym Mhwyllgor Tachwedd 2025 a’r arolwg yn cadarnhau bod yr angen
wedi ei brofi o’r prif ffynonellau, a thystiolaeth gan yr ymgeisydd. Yn yr
achos yma, ac yn unol gyda gofynion y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy,
nid oedd pwrpas cynnal arolwg lleol gan Hwylusydd Tai Gwledig ond bod yr Arolwg
oedd wedi ei gyflwyno yn mynd tu hwnt i ofynion canllawiau a pholisïau
cynllunio'r CDLl. Cyflwynwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Cais Rhif C25/0625/39/LL Parc Carafanu Berth Ddu, Bwlchtocyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7BY Ail gyflwyniad gyda gwelliannau o'r hyn a wrthodwyd
yn flaenorol o gais llawn ar
gyfer cae carafanau i gynnwys
bloc toiled a gwelliannau amgylcheddol
AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Rhesymau Mae’r bwriad yn
golygu creu safle carafanau teithiol newydd yng nghefn gwlad agored i ffwrdd
o’r prif rwydwaith ffyrdd. Ni ystyrir y byddai’r unedau arfaethedig yn
cydweddu’n rhwydd i’r dirwedd leol ac ni ystyrir y byddai’n lleoliad anymwthiol wedi'i
guddio'n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a chredir felly y byddai’r
datblygiad yn niweidiol i ansawdd gweledol y dirwedd. Ni fyddai'r bwriad yn
ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol Llŷn ac y byddai creu safle carafanau newydd cryn
bellter o’r prif rwydwaith ffyrdd cyhoeddus ar lon wledig brysur ble ceir
dwysedd uchel o safleoedd gwyliau yn bresennol yn cael effaith ar nodweddion a
chymeriad y dirwedd. Fe ystyrir felly fod y bwriad yn groes i ofynion
perthnasol Polisïau TWR 5 ac AMG 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a
Môn a Chanllaw Cynllunio Atodol (CCA): Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid. Ni chyflwynwyd
tystiolaeth ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn
wedi ei roi i’r effaith o golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas.
Ystyrir felly fod y cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a’r cyngor a roddir ym
mharagraffau 3.58 a 3.59 o Bolisi Cynllunio Cymru. Oherwydd diffyg
gwybodaeth i asesu yn llwyr, effaith llif carthffosiaeth newydd o’r datblygiad
arfaethedig, nid yw’r cynnig yn dderbyniol ar sail gofynion polisi ISA1 sydd yn
nodi y caniateir cynigion dim ond pan fo capasiti
isadeiledd digonol yn bodoli, neu lle caiff ei ddarparu mewn modd amserol. Cofnod: Ail gyflwyniad
gyda gwelliannau o'r hyn a wrthodwyd yn flaenorol o gais llawn ar gyfer cae
carafanau i gynnwys bloc toiled a gwelliannau amgylcheddol. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog Cynllunio bod y bwriad yn cynnwys creu 13
llain ar gyfer carafanau teithiol, codi adeilad parhaol i gynnwys
toiledau/cawodydd ynghyd ag ymgymryd â gwelliannau tirlunio meddal trwy
atgyfnerthu a llenwi bylchau o fewn gwrychoedd a chloddiau presennol ynghyd a
phlannu gwrych newydd ar ymylon y safle gyda’r ffordd gyhoeddus gyfagos. Cyfeiriwyd at y
prif newidiadau a wnaed rhwng y cais a wrthodwyd yn flaenorol a’r cais
presennol sef, lleihau nifer y lleiniau o 15 i 13 a phlannu gwrych newydd. Adroddwyd bod safle’r datblygiad arfaethedig wedi ei
leoli y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu cyfredol ac felly yng nghefn gwlad
agored gyda mynediad i’w gael oddi ar ffordd gyhoeddus ddi-ddosbarth tra bod
cyfres o lwybrau cyhoeddus yn croesi tiroedd cyfagos; y safle wedi ei leoli o fewn dynodiadau AHNE
Llŷn a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor am benderfyniad oherwydd bod ardal y
datblygiad arfaethedig yn fwy na’r hyn a ellid ei ystyried gan swyddogion
trwy’r drefn ddirprwyedig. Cwblhawyd asesiad llawn o’r holl faterion perthnasol gan
gynnwys cydymffurfiaeth gyda pholisïau yn ogystal â sylwadau a dderbyniwyd.
Daethpwyd I’r canlyniad na ellid sicrhau y byddai’r cynnig yn cydweddu’n rhwydd
i’r dirwedd leol, yn ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad
cydnabyddedig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn ac oherwydd
tystiolaeth annigonol a diffyg gwybodaeth, ystyriwyd fod y bwriad yn annerbyniol ag yn methu bodloni yn llwyr
ofynion y polisïau perthnasol. Roedd y swyddogion yn argymell gwrthod y cais. b)
Cynigiwyd
ac eiliwyd gwrthod y cais PENDERFYNWYD: Gwrthod Rhesymau
Mae’r
bwriad yn golygu creu safle carafanau teithiol newydd yng nghefn gwlad agored i
ffwrdd o’r prif rwydwaith ffyrdd. Ni ystyrir y byddai’r unedau arfaethedig yn
cydweddu’n rhwydd i’r dirwedd leol ac ni ystyrir y byddai’n lleoliad anymwthiol wedi'i
guddio'n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a chredir felly y byddai’r
datblygiad yn niweidiol i ansawdd gweledol y dirwedd. Ni fyddai'r bwriad yn
ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol Llŷn ac y byddai creu safle carafanau newydd cryn
bellter o’r prif rwydwaith ffyrdd cyhoeddus ar lon wledig brysur ble ceir
dwysedd uchel o safleoedd gwyliau yn bresennol yn cael effaith ar nodweddion a
chymeriad y dirwedd. Fe ystyrir felly fod y bwriad yn groes i ofynion
perthnasol Polisïau TWR 5 ac AMG 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a
Môn a Chanllaw Cynllunio Atodol (CCA): Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid. Ni chyflwynwyd tystiolaeth ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith o golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas. Ystyrir felly fod y cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
Newid defnydd gorsaf brofi VOSA i ffurfio Masnachwyr Coed ac
Adeiladwyr AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dewi Jones Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag
amodau Amodau: 1. 5 mlynedd. 2. Unol a chynlluniau a dogfennau. 3. Cyfyngu
defnydd o’r safle i ddosbarth defnydd B1, B2, B8 o fewn Gorchymyn Dosbarthiadau
Defnydd 1987 a’r bwriad. 4. Gwelliannau bioamrywiaeth 5. Gwarchod
cyfarpar a phibellau Dŵr Cymru a’u parthau diogelu Cofnod: Newid
defnydd gorsaf brofi VOSA i ffurfio Masnachwyr Coed ac Adeiladwyr Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd yr Hyfforddai Cynllunio mai cais
llawn ydoedd ar gyfer newid defnydd gorsaf profi MOT gan VOSA, sy’n ddefnydd
unigryw, i fasnachwyr coed ac adeiladu mewn cyswllt gyda safle presennol yr
ymgeisydd union du cefn. Byddai’r safle yn gweithredu ar wahân, ond gan yr un
cwmni. Saif y safle o fewn ystâd ddiwydiannol y Cibyn sydd o fewn ffin datblygu
Caernarfon ac fel y diffinnir yn y CDLl, sy’n ‘safle sydd wedi ei warchod fel
prif safle cyflogaeth’ ar gyfer defnydd cyflogaeth (B1, B2 a B8) yn unol â
Pholisi PS13 (Darparu cyfle ar gyfer economi ffyniannus) a Pholisi CYF 1
(Gwarchod, dynodi ac amddiffyn tir ac unedau ar gyfer defnydd cyflogaeth) o’r
CDLl. Eglurwyd
bod Polisi PCYFF3 yn datgan y caniateir cynigion, gan gynnwys estyniadau a
newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol os ydynt yn cydymffurfio a nifer
o feini prawf sy’n cynnwys bod y cynnig yn ychwanegu neu yn gwella cymeriad y
safle, yr adeilad neu’r ardal o ran y gosodiad, yr ymddangosiad, y raddfa, yr
uchder, y mas a’r driniaeth i’r drychiadau; ei fod yn parchu cyd-destun y safle
a’i le yn y dirwedd leol; ei fod yn defnyddio deunyddiau sy’n briodol i’r hyn
sydd o’u hamgylch ac yn ymgorffori tirlunio meddal; ei fod yn gwella rhwydwaith
cludiant a chyfathrebu diogel ac integredig; eu bod yn cyfyngu rhediad dwr a
pherygl risg llifogydd ac atal llygredd; ei fod yn cyflawni dyluniad cynhwysol
ac sy’n galluogi mynediad i bawb a’i fod yn helpu creu amgylcheddau iach a
bywiog gan ystyried iechyd a lles defnyddwyr y dyfodol. Adroddwyd
bod yr adeilad presennol yn sylweddol ac
amlwg o fewn yr ystâd ddiwydiannol ac yn gosod ei hunan fel rhan o’r safle
ehangach wrth edrych arno o bell. Cadarnhawyd bod yr ymgeisydd wedi datgan na
fydd bwriad gwneud unrhyw newid allanol i’r adeilad na’r iard ac felly ni fydd
effaith y bwriad ddim mwy na’r sefyllfa bresennol ar y tirlun. I’r perwyl hyn,
y cais yn cwrdd ag amcanion Polisi PCYFF 3 o fewn CDLl. Yng
nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, mynegwyd bod trigolion cyfagos
i’r safle wedi cael eu hysbysu am y cais ond ni dderbyniwyd ymateb. Er bod y
safle wedi ei leoli o fewn ystâd ddiwydiannol tua 100 medr i ffwrdd o dai
preswyl i’r gogledd a’r bwriad yn debygol o arwain at ddefnydd dwys o’r safle,
ni ystyriwyd y byddai’n cael effaith negyddol sylweddol ar fwynderau trigolion
y tai agosaf; yn cydffurfio felly ag amcanion Polisi PCYFF 2 o fewn CDLl. Cyfeiriwyd at sylwadau Dwr Cymru oedd yn cadarnhau gwrthwynebiad i’r bwriad ar sail fod bwriad plannu coeden fel rhan o welliannau bioamrywiaeth o fewn parth diogelu pibellau sy’n croesi’r safle. Amlygwyd bod cynllun diwygiedig sy’n symud y goeden bwriedig i ffwrdd o barthau diogelu’r pibellau wedi ei gyflwyno mewn ymateb i’r gwrthwynebiad. Er nad oedd ymateb wedi ei dderbyn gan Dwr Cymru i’r ail-ymgynghoriad ar sail ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
Newid defnydd uned ddiwydiannol bresennol (Dosbarth Defnydd B2) i ganolfan chwaraeon padel dan do (Dosbarth Defnydd D2) a gwaith cysylltiedig AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio
perthnasol yn ymwneud gyda: 1.
Amser 2.
Cydymffurfio gyda’r cynlluniau 3.
Caniateir defnyddio’r uned fel Canolfan
Chwaraeon Padel / pickleball yn unig ac nid at unrhyw ddiben arall 4.
Rhaid dilyn y mesurau lliniaru rhag
llifogydd a’u hargymhellir rhannau 7.29 – 7.34 y Datganiad Cynllunio 5.
Oriau Agor : 07:00 i 23:00 yn ddyddiol 6.
Bydd y datblygiad a gymeradwywyd drwy hyn
yn cael ei gynnal yn unol â'r asesiad effaith sŵn, a baratowyd gan ES
Acoustics - Noise Impact Assessment for a Proposed Padel Tennis and Pickleball
Facility S3, Caernarfon Road, Bangor LL57 4SP Report Reference
22236.NIA-RPT.01. Rev A dated 29th of October, 2025. Ni ddylid cael sŵn yn
uwch na lefelau a ragwelir yn Nhabl 10 o'r NIA. 7.
O fewn 3 mis i'r safle ddod yn
weithredol, bydd arolwg sŵn yn cael ei gynnal gan ymgynghorydd acwstig
cymwys addas, yn unol â'r NIA, a chyflwyno adroddiad i'r Awdurdod Cynllunio
Lleol a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Bydd yr adroddiad yn darparu
gwybodaeth am y sain fesuredig a allyrrir o'r safle ar 1.0m o ffasâd y
derbynnydd preswyl a nodwyd ym Maes Berea, Pen y Wern, Cilcoed a Bryn
Llwyd. Pe ganfyddir bod sŵn
gweithredol yn fwy na'r lef-elau sŵn cefndir lleiaf, neu mae lefelau
sŵn o’r offer mecanyddol allanol sydd â sgôr yn uwch na'r amod allanol
isod, dylid cyflwyno cynllun lliniaru
sŵn manwl i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig. Bydd
unrhyw gynllun lliniaru yn cael ei weithredu o fewn 3 mis i ddyddiad y
gymeradwyaeth ysgrifenedig yn unol â'r manylion cymeradwy, a chaiff ei gadw yn
unol â'r manylion hynny ar ôl hynny. 8.
Oriau gwaith 9.
Rhaid cyflwyno manylion unrhyw offer
allanol a osodir ar yr adeilad 10.
Rhaid cyflwyno a chytuno Cynllun
Rheolaeth Safle gan gynnwys mecanwaith i ddelio gyda chwynion gan aelodau’r
cyhoedd. 11.
Dylid gweithredu’n unol a’r Datganiad
Seilwaith Gwyrdd 12.
Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog Nodiadau Dŵr Cymru Cofnod: Newid defnydd uned ddiwydiannol bresennol (Dosbarth Defnydd B2) i
ganolfan chwaraeon padel dan do (Dosbarth Defnydd D2) a gwaith cysylltiedig a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer trosi uned bresennol o fewn
safle cyn ffatri Denis Ferranti ym Mangor yn gyfleuster ar gyfer chwarae gem
padel dan do. Byddai’r bwriad yn newid defnydd yr uned yn ganolfan chwaraeon
padel, gan greu 8 o gyrtiau padel, 2 cwrt “pickleball”, parth cynhesu, derbynfa
a thoiledau ynghyd a chyfleuster parcio beiciau. Yn ychwanegol, bydd
darpariaeth parcio presennol o fewn y safle yn cael ei ddefnyddio a'i
ddyrannu'n benodol gan glustnodi 36 llecyn parcio i'r defnydd arfaethedig. Y
bwriad fyddai agor y cyfleuster ar gyfer defnydd rhwng 07:00 a 23:00, diwrnod
yr wythnos. Eglurwyd bod y safle wedi ei nodi fel uned warws sydd wedi'i lleoli'n
ganolog o fewn stad ehangach sydd wedi'i leoli o fewn Ffin Datblygu Canolfan
Isranbarthol Bangor ond y tu allan i’r ardal Canol Tref a'r Brif Ardal Siopa
ddiffiniedig. Ategwyd bod y Mapiau Llifogydd yn nodi bod y safle wedi'i leoli
ym Mharth Llifogydd 3 (Afonydd a Dŵr Wyneb) sy'n gysylltiedig â’r Afon
Adda sy’n rhedeg trwy gwlfert gerllaw. Adroddwyd bod y safle cyfan wedi'i amgylchynu gan gymysgedd o
ddefnyddiau masnachol a phreswyl tra bod safle'r cais ei hun wedi'i leoli o
fewn uned bresennol. Fel rhan o’r cais cyflwynwyd gwybodaeth arbenigol oedd yn
cynnwys: ·
Datganiad Cynllunio (yn cynnwys Asesiad Iaith
Gymraeg) ·
Asesiad Effaith ·
Asesiad Effaith Man Werthu ·
Asesiad Sŵn (ynghyd â diweddariad mewn ymateb
i sylwadau Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd) ·
Datganiad Ynni ·
Datganiad Trafnidiaeth ·
Datganiad Seilwaith Gwyrdd ·
Datganiad Effaith Cymdeithasol Cyflwynwyd y cais i’r
Pwyllgor am benderfyniad oherwydd bod ardal y datblygiad arfaethedig yn fwy
na’r hyn a ellid ei ystyried gan swyddogion trwy’r drefn ddirprwyedig.
Cwblhawyd asesiad llawn o’r holl faterion perthnasol gan gynnwys
cydymffurfiaeth gyda pholisiau yn ogystal â sylwadau a dderbyniwyd. Cyfeiriwyd at ymateb
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd i’r cais, oedd wedi amlygu pryder ynghylch y
sŵn a fyddai’n deillio o’r safle. Ymatebodd arbenigwyr acwstig ar ran yr
ymgeiswyr trwy gyflwyno eglurhad pellach i’r materion a godwyd gan y
Gwasanaeth. Er derbyn y wybodaeth ychwanegol, adroddwyd bod Gwarchod y Cyhoedd
yn parhau i gyfeirio at rai pryderon ynglŷn ag agweddau o’r wybodaeth a
gyflwynwyd a’r bwriad ei hun. Aseswyd yr ymateb diweddaraf yn llawn, ac er
cydnabod y pryderon, ystyriwyd hawl presennol defnydd yr adeilad at ddibenion
diwydiannol o fewn dosbarth defnydd B2 (Diwydiannol Cyffredinol), a thrwy osod
amodau priodol, ni fyddai defnydd o’r adeilad fel cyfleuster chwaraeon yn
debygol o achosi effeithiau mwynderol ychwanegol sylweddol a fyddai’n achosi
niwed arwyddocaol i fwynderau cymdogion a’r ardal leol. O ganlyniad, ni
ystyriwyd fod y bwriad yn groes i bolisi amddiffyn mwynderau cyhoeddus a
phreifat. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd Asiant ar
ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol; · Byddai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
Cais Rhif C25/0428/14/LL Mona, 4 Stryd Fawr, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RN Newid defnydd swyddfeydd i 5 fflat preswyl, yn cynnwys estyniad ar y cefn. Gosod pwmp gwres ffynhonnell aer a gosod drws i storfa gwastraff. AELOD LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio Rheswm: Cais am
wybodaeth a thystiolaeth pellach o’r angen, er mwyn sicrhau gofynion polisi TAI
8 Cofnod: Newid defnydd swyddfeydd i 5 fflat preswyl,
yn cynnwys estyniad ar y cefn. Gosod pwmp gwres ffynhonnell aer a gosod drws i
storfa gwastraff Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod yr adeilad yn un o faint sylweddol wedi ei leoli ar gornel y
stryd fawr o fewn ffin datblygu Tref Caernarfon ac Ardal Cadwraeth Safle
Treftadaeth y Byd. Nid oedd bwriad newid edrychiad blaen nac ochr yr adeilad
sy’n amlwg o’r stryd fawr. Cadarnhawyd
bod capasiti digonol o fewn cyflenwad dangosol Caernarfon ar gyfer y datblygiad
yma ar hyn o bryd. Amlygwyd bod yr eiddo o dan berchnogaeth
Cyngor Gwynedd ac y bydd y defnydd arfaethedig yn rhan o ymateb statudol y
Cyngor i’r ddyletswydd o letya pobl digartref. Pwysleisiwyd mai grŵp
targed y cynllun yw unigolion digartref risg isel, nid llety â chefnogaeth
gymhleth na defnydd fyddai’n creu lefel uchel o effaith ar y gymuned. Nodwyd
bod yr unedau yn cydymffurfio gyda safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer unedau
fforddiadwy o ran maint a‘r defnydd
arfaethedig yn mynd i’r afael â digartrefedd (heb achosi gorlwytho ar y
ddarpariaeth tai lleol, ac yn darparu unedau fforddiadwy yn unol â gofynion y
polisi cynllunio). Cyfeiriwyd at
ddatganiad oedd wedi ei dderbyn gan Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd yn
cadarnhau y byddai’r eiddo yn cael ei glustnodi fel eiddo “meanwhile” sy’n
cynnig llety sefydlog am gyfnod o hyd at ddwy flynedd tra bod unigolion yn aros
am ddatrysiad parhaol addas. Amlygwyd bod cyfanswm o 81 o unigolion wedi eu
lleoli o fewn y Dref ar hyn o bryd ac nad oedd cynlluniau ychwanegol yn cael eu
hystyried yng Nghaernarfon ar hyn o bryd. Gyda’r bwriad yn cael eu darparu fel
eiddo cymdeithasol o dan reolaeth y Cyngor o fewn Canolfan Gwasanaeth Trefol,
ystyriwyd fod y bwriad yn cwrdd â gofynion polisi TAI 15 yn ddarostyngedig i
gynnwys amod fod y bwriad yn sicrhau unedau fforddiadwy am byth. Eglurwyd bod y gwaith addasu yn cynnwys newidiadau
mewnol, ac adeiladu estyniad 3 llawr o fewn iard gefn yr eiddo ac felly ni fyddai’n effeithio ar edrychiad na
chymeriad yr adeilad sy’n amlwg i’r cyhoedd na chael effaith weledol andwyol ar Safle Treftadaeth
y Byd na’r Ardal Gadwraeth. Byddai’r gwaith yn cynnwys gosod ffenestri llawr daear a
ffenestri llawr cyntaf ar gyfer ystafelloedd gwely cefn a chadarnhawyd y
byddai’r ffenestri llawr cyntaf i’w gosod gyda gwydr wedi eu cymylu - bydd modd
gosod amod cynllunio er mwyn sicrhau hyn. Nodwyd hefyd fod bwriad gosod amod
cynllunio ar gyfer cyflwyno manylion a lleoliad y pwmp gwres ffynhonnell aer. O
ganlyniad, ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol ar
drigolion cyfagos. Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd bod yr eiddo wedi ei leoli yng nghanol y Dref ble mae gofodau parcio cerbydau ar y strydoedd ac o fewn meysydd parcio cyhoeddus. O ran materion bioamrywiaeth cyfeiriwyd at y gwelliannau oedd wedi eu cynnig ac adroddwyd bod y datganiad iaith a gyflwynwyd yn datgan effaith niwtral i bositif ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
Cais Rhif C25/0462/02/LLTir ger Pandy, Corris, SY20 9RJ Cynllun arallgyfeirio fferm ar gyfer gosod 4 uned llety gwyliau symudol ar y tir ynghyd ag 1 uned symudol ar gyfer cyfleuster cawod a toiledau AELOD LLEOL: Cynghorydd John Pughe Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu Gydag Amodau 1. 5
mlynedd. 2. Yn unol â’r
cynlluniau diwygiedig ac adroddiadau arbenigol. 3. Cyfyngu’r
niferoedd i 4 uned deithiol ac 1 uned deithiol ar gyfer defnydd bloc toiled 4. Tymor
gwyliau / lleoli 5. Cyfyngu'r
unedau i ddefnydd gwyliau. 6. Dim
storio unedau teithiol ar y safle y tu allan i’r tymor 7. Cwblhau’r
fynedfa yn unol â’r cynlluniau 8. Ni cheir
gosod unrhyw strwythur fwy na 1m o fewn y llain welededd 9. Cynllun
atal llygredd sy'n cynnwys mesurau i osgoi rhedeg i ffwrdd o briddoedd yn ystod
y gwaith adeiladu. 10. Dim torri
coed, gwrychoedd neu glirio llystyfiant o fewn tymor nythu neu aeafgysgu 11. Cytuno/rheoli
goleuo. 12. Cynllun
dull trawsleoli gwrychoedd a chrawiau. 13. Tirlunio
meddal a chaled i gynnwys manylion y llawr caled athraidd 14. Cynnal
tirlunio 15. Cynllun
rheoli safle 16. Enw
Cymraeg 17. Hysbysebion
Cymraeg Nodiadau Trwyddedu SUDS – Draenio cynaliadwy Llythyrau Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru Cofnod: Cynllun arallgyfeirio
fferm ar gyfer gosod 4 uned llety gwyliau symudol ar y tir ynghyd ag 1 uned
symudol ar gyfer cyfleuster cawod a thoiledau a)
Amlygodd
yr Hyfforddai Proffesiynol bod cais ar y safle yma ar gyfer newid defnydd tir a
datblygu llety gwyliau newydd ar ffurf 5 pod glampio parhaol, wedi ei
wrthod gan y Pwyllgor yng nghyfarfod Mai 2025. Cyflwynwyd yma gais ar gyfer
newid defnydd tir a datblygu llety gwyliau newydd ar ffurf 4 uned llety gwyliau
symudol ynghyd a 1 uned symudol ar gyfer cyfleuster cawod a thoiledau,
parcio cysylltiedig, addasiadau i’r fynedfa, draenio a thirlunio. Eglurwyd bod y safle
wedi ei leoli yng nghefn gwlad ac o fewn
Ardal Tirwedd Arbennig. Gyda thopograffi’r safle yn goleddu lawr o’r
ffordd tuag at afon Dulas, byddai’r
unedau wedi eu lleoli ar y llethr uwchben yr afon. Tynnwyd sylw at polisi
TWR 5 sydd yn nodi bod modd ystyried caniatáu ceisiadau am lety wersylla amgen
dros dro cyn belled a bod y bwriad yn cydymffurfio gyda’r meini prawf
perthnasol. · Bod y datblygiad
arfaethedig o ansawdd o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad, a’i fod wedi’i
leoli mewn lleoliad anymwthiol sydd wedi’i guddio’n dda gan nodweddion
presennol y dirwedd, a/neu lle gellir cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd yn y
dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd; Bwriedir gosod yr
unedau gwyliau ar y llethr rhwng yr afon ac i’r de o’r trac presennol. O
ystyried natur yr unedau, gyda tho gwyrdd o blanhigion , waliau wedi eu cladio
gyda phren, a'u lleoliad ymhlith coed / gwrychoedd a chae presennol, ble mae llethr y tir yn mynd yn is tuag at yr
afon, ystyriwyd fod y bwriad o fath a allai gymhathu i’r dirwedd ac na fyddai’n
sefyll allan yn amlwg o olygfeydd agos. Mae’n debygol y byddai’r bwriad i’w
weld o diroedd uwch ymhellach draw o’r safle ond ni ystyriwyd y byddai’n sefyll
allan yn amlwg yn y dirwedd, ac felly y bydd bwriad yn ddatblygiad ymwthiol yn
y tirlun. · Yn osgoi gormodedd o
ardaloedd o leiniau caled; Y bwriad yn golygu
gosod 4 uned ar safle sy’n mesur tua 0.56 hectar a mwy na 10 medr rhwng pob
uned sydd yn cael ei ystyried fel dwysedd isel ar gyfer y safle. Bod bwriad
creu ardaloedd caled athraidd gyferbyn â’r unedau gwyliau a 4 llecyn parcio
newydd athraidd; y bwriad yn llwyddo osgoi gormodedd o ardaloedd o leiniau
caled · Mae ei gysylltiad
ffisegol a’r ddaear yn gyfyngedig ac yn gallu cael ei symud oddi ar y safle yn
y tymor caeedig; Unedau symudol yw’r
unedau gwyliau yn ogystal â’r uned toiledau a chawodydd ac felly byddai unrhyw
gysylltiad ffisegol â’r ddaear yn y lleiafswm.
Cyflwynwyd Cynllun Storio gyda’r cais yn cadarnhau trefniadau storio oddi
ar y safle ar gyfer yr unedau allan o dymor. · Dylai unrhyw gyfleusterau atodol, os yw hynny’n bosib, gael eu lleoli mewn adeilad presennol neu fel estyniad i gyfleusterau presennol. Os nad oes adeilad addas ar gael rhaid ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |