Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Louise Hughes, Gareth Coj Parry, Gareth A Roberts, a John Pughe Roberts, a’r Cynghorydd Nia Jeffreys (Aelod Lleol)

 

Dymunwyd gwellhad buan i’r Cynghorydd Louise Hughes wedi iddi roi aren i’w mherch

 

Croesawyd y Cyng. Dafydd Meurig i’r cyfarfod fel Aelod Newydd o’r Pwyllgor

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)     Y Cynghorydd Cai Larsen (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 C25/0651/23/LL ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd Adra

 

Y Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 C26/0005/46/DA ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn perthyn i’r ymgeisydd

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni fu iddynt gymryd rhan yn ystod y drafodaeth na phleidleisio ar y cais.

 

b)     Gwawr Hughes (Rheolwr Cynllunio), yn eitem 5.1 C25/0824/37/LL ar y rhaglen oherwydd bod perthynas iddi yn byw gerllaw’r safle

 

Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddi adael y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais

 

c)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Jina Gwyrfai (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C25/0824/37/LL) ar y rhaglen

·        Y Cynghorydd Beca Brown (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C25/0651/23/LL) ar y rhaglen

·        Y Cynghorydd June Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), ar ran y Cynghorydd Nia Jeffreys (Aelod Lleol Dwyrain Porthmadog), yn eitem 5.3 (C25/0686/11/LL) ar y rhaglen

·        Y Cynghorydd Gareth T Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C26/0005/46/DW) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Swyddog Monitro fyddai’n cyhoeddi canlyniad pleidleisiau’r ceisiadau.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 2il o Chwefror 2026 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i’w datblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

6.

Cais Rhif C25/0824/37/LL Tir gyferbyn a Llys Yr Eifl, Trefor, LL54 5BJ pdf eicon PDF 296 KB

Cais llawn i adeiladu 15 tŷ fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys creu mynedfa gerbydol newydd a ffordd stad, tirlunio a chreu ardal draenio dwr wyneb cynaliadwy. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Jina Gwyrfai

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais gyda’r amod isod:

 

Cwblheir y gwaith drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynlluniau diwygiedig, Cynllun Lleoliad rhif 673-01B, Edrychiad diwygiedig, Cynllun Llawr Daear a Chynllun Llawr cyntaf a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 12 Ionawr 2026, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio rhif C21/0411/46/LL.

Cofnod:

Cais llawn i adeiladu 15 tŷ fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys creu mynedfa gerbydol newydd a ffordd stad, tirlunio a chreu ardal draenio dŵr wyneb cynaliadwy

 

         Tynnwyd sylw at y Ffurflen Sylwadau Hwyr

 

         Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle 25-03-26

        

a)           Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais cynllunio llawn ydoedd i godi 15 tŷ fforddiadwy newydd ynghyd a gwaith cysylltiol ar safle cyfochrog, ond y tu allan i ffin datblygu gyfredol pentref Trefor. Ategwyd y byddai’r ddarpariaeth yn cynnig cymysgedd o dai  - 4 byngalo 2 ystafell wely, 5 tŷ deulawr 3 llofft, 1 tŷ deulawr 4 llofft, ac 1 tŷ 6 llofft. Yn allanol, byddant wedi eu gorffen gyda chymysgedd o rendr, cladin carreg a sment ar y waliau a tho llechi naturiol a phaneli solar.

 

Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd mai ar ffurf cynllun niwtral o ran deiliadaeth y cyflwynwyd y datblygiad,  fydd yn darparu 100% o dai fforddiadwy. Grŵp Cynefin fyddai’r perchennog, yn darparu cymysgedd deiliadaeth megis tai rhent cymdeithasol, tai rhent fforddiadwy canolradd a rhan berchnogaeth yn unol â’r galw.

 

Adroddwyd mai cae amaethyddol yw’r tir ar hyn o bryd gyda thai preswyl i’r gorllewin a thai yn union gyferbyn. Nodwyd bod ffens, cloddiau a gwrychoedd ar y terfynau a ffordd gyhoeddus dosbarth 3 yn rhedeg gyda’r terfyn gogleddol, gyda’r safle a’r ardal ehangach o fewn dynodiadau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Llŷn ac Enlli.

 

Yn unol â threfniadau Cynllun Dirprwyo Gwasanaeth Cynllunio, cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan ei fod yn gais am 5 tŷ neu fwy. Ystyriwyd bod y bwriad, fel a gyflwynwyd yn dderbyniol ar sail:

·        Bod polisïau mabwysiedig yr Awdurdod yn datgan y bydd Cynghorau’n ceisio sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y CDLl

·        Byddai’r  bwriad yn darparu datblygiad 100% fforddiadwy gyda’r Uned Strategol Tai wedi cadarnhau fod tystiolaeth o angen yn cyfiawnhau’r ddarpariaeth, er mwyn cyfarch anghenion y gymuned leol.

·        Mai 49 yw’r ffigwr cyfunol ar gofrestr Tai Teg ar gyfer tai canolradd, a chofrestr Tai Cymdeithasol ar gyfer Trefor ynghyd â phentrefi cyfagos Llanaelhaearn, Llithfaen a Clynnog am dai. Er hynny, ac yn sgil derbyn gwybodaeth ychwanegol, fanylach a phenodol gan yr asiant, bod y ffigwr angen bellach wedi ei adnabod fel isafswm o 25, sef y nifer o bobl sydd ar restr angen tai sydd wedi eu hadnabod i fod â chysylltiad 5 mlynedd gyda’r ardal. Ystyriwyd bod y ffigyrau hyn yn cadarnhau bod gwir angen lleol fforddiadwy yn bodoli i gyfiawnhau’r datblygiad o 15 tŷ i gyfarch angen lleol.

·        Bod ymateb pellach wedi ei dderbyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar sail eu pryderon am effaith ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Roeddynt yn datgan “Rydym yn dal i fod â phryderon ynglŷn â'r cais fel y cyflwynwyd oherwydd nad yw digon o wybodaeth wedi'i darparu i gefnogi'r cynnig. Er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, dylech geisio mwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd ynglŷn â'r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C25/0651/23/LL Tir Oddi Ar Ffordd Glanffynnon, Llanrug, LL55 4PT pdf eicon PDF 279 KB

Cais cynllunio llawn ar gyfer 17 annedd fforddiadwy, ynghyd a chreu mynediad newydd i gerbydau a ffordd fynedfa fewnol, cau 2 bwynt mynediad amaethyddol presennol, creu mynediad newydd i wasanaethu is-orsaf newydd, gwaith ymestyn Ffordd Glanffynnon ynghyd a gwaith tirlunio, draenio a gwaith arall cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Brown

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau ac yn ddarostynedig i gytundeb 106 neu gytundeb unochrog ar gyfer sicrhau cyfraniad llecynnau agored

 

1.       Amser

2.       Unol a’r cynlluniau

3.       Deunyddiau

4.       Amod tai fforddiadwy

5.       Amodau priffyrdd

6.       Amodau bioamrywiaeth

7.       Amod tirlunio

9.       Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir yn  ymwneud ag ymestyn a defnydd

10.     Materion draenio

11.     Cynllun Rheoli Adeiladu

12.     Gwarchod llwybr cyhoeddus

13.     Amodau Archeolegol

14.      Amodau Gwarchod y Cyhoedd a SPEnergy Networks

 

Nodiadau:

Priffyrdd

Trwydded Ystlumod

Cyfoeth Naturiol Cymru

Dwr Cymru

Llwybrau

SUDS

Datblygiad Mawr

Uned Draenio Tir

 

Cofnod:

Cais cynllunio llawn ar gyfer 17 annedd fforddiadwy, ynghyd a chreu mynediad newydd i gerbydau a ffordd fynedfa fewnol, cau 2 bwynt mynediad amaethyddol presennol, creu mynediad newydd i wasanaethu is-orsaf newydd, gwaith ymestyn Ffordd Glanffynnon ynghyd a gwaith tirlunio, draenio a gwaith arall cysylltiedig.

 

Tynnwyd sylw at y Ffurflen Sylwadau Hwyr

 

Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle 25-03-26

 

a)           Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais llawn yn cynnwys, 5 tŷ deulawr 2 ystafell wely, 4 byngalo 2 ystafell wely, 6 tŷ deulawr 3 ystafell wely, 1 byngalo 4 ystafell wely ac 1 tŷ deulawr 5 ystafell wely. Byddai bwriad o ddarparu 100% o dai fforddiadwy gyda chymysgedd o ddeiliadaethau rhent cymdeithasol a chanolradd. Lleoli’r y safle y tu allan, ond yn ffinio gyda ffin datblygu Llanrug gydag anheddau preswyl presennol i'r De, Ffordd Glanffynnon i'r Gorllewin, cae amaethyddol a thir gwag wedi gordyfu i'r Dwyrain a thai preswyl i'r Gogledd. Bydd bwriad cadw hawddfraint 3 medr o led rhwng y datblygiad a chwrs dŵr sy’n rhedeg ar hyd terfyn dwyreiniol y safle, creu coridor ecolegol yng nghornel de ddwyreiniol y safle a datblygu basn cadw dŵr yng nghornel gogleddol a deheuol y safle. Bydd y llwybr cyhoeddus sy’n rhedeg drwy’r safle yn cael ei warchod.

 

Cyfeiriwyd at sylwadau hwyr a dderbyniwyd gan y Cyngor Cymuned, oedd yn cefnogi’r cais, yn ogystal â sylwadau a chadarnhad gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn mynegi nad oedd ganddynt wrthwynebiad, yn ddarostyngedig i osod amodau i warchod mwynderau trigolion y tai gerbron a’r rhai o fewn y datblygiad. Ategwyd bod SP Energy Networks wedi cadarnhau’r angen i drafod ail-osod  gwifrau a bod hyn i’w osod fel amod cynllunio.

 

Gyda’r safle wedi ei leoli y tu allan i’r ffin ddatblygu, atgoffwyd yr Aelodau bod disgwyl i’r holl unedau fod ar gyfer angen fforddiadwy lleol. Ar gyfer Llanrug, diffinnir hyn fel pobl mewn angen tŷ fforddiadwy sydd wedi byw o fewn y Pentref neu yn yr ardal wledig o gwmpas am 5 mlynedd neu fwy yn olynol, un ai yn union cyn cyflwyno cais neu yn y gorffennol. Diffinnir yr ardal wledig yn yr achos yma fel pellter o 6km o safle'r cais a holl ardal unrhyw Gyngor Cymuned sy'n cael ei rhannu gan y pellter 6km, gan eithrio eiddo o fewn ffin datblygu unrhyw anheddiad oni bai am yr anheddiad hwnnw lle mae’r cais wedi’i leoli.

 

Cyflwynwyd tystiolaeth ar ffurf Datganiad Tai Fforddiadwy a Thystiolaeth o’r Angen a Strategaeth Gosod yn cyfeirio at yr angen oedd wedi ei amlygu ar Gofrestr Tai Cymdeithasol a Thai Teg yn Llanrug a Chwm y Glo. Amlygwyd bod Cwm y Glo yn bentref gyda ffin sydd wedi ei leoli o fewn 6km i Lanrug, gyda chadarnhad nad oedd cyfle ar gyfer datblygu tai ar gyfer cyfarch ei angen ei hun.

 

Cadarnhawyd bod yr angen cyfunol o’r Gofrestr Tai Cymdeithasol a Thai Teg gyda chysylltiad 5 mlynedd ar gyfer Llanrug yn 42, a  bod yr angen cyfunol ar gyfer Cwm y Glo yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C25/0914/44/LL Llyn Bach, Porthmadog, LL49 9DF pdf eicon PDF 171 KB

Cynnig i dynnu'r wal derfyn bresennol er mwyn darparu mynediad  gwell i Gob Crwn,     a chreu llwybr troed newydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Nia Jeffreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau -

 

1.         5 mlynedd

2.         Cwblhau’r bwriad yn unol â’r Cynlluniau

3.         Cwblhau’r bwriad yn unol â’r mesurau lliniaru ac osgoi rhesymol, a mesurau osgoi llygredd a gynhwysir o fewn yr Asesiad Amgylcheddol Cychwynnol a’r mesurau diogelu coed a gynhwysir o fewn yr Arolwg Cynllunio Coed.

4.         Amod gwelliannau Bioamrywiaeth

 

Cofnod:

Cynnig i dynnu'r wal derfyn presennol er mwyn darparu mynediad  gwell i Gob Crwn,  a chreu llwybr troed newydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr

 

         Tynnwyd sylw at y Ffurflen Sylwadau Hwyr

        

a)           Amlygodd y Swyddog Cynllunio nad oedd y llwybr presennol (un anffurfiol ac yn cynnwys ardal o laswellt ac wyneb anwastad) yn cydymffurfio â safonau Teithio Llesol a Safonau Hygyrchedd Cyfoes. Byddai’r gwelliant yn disodli rhannau o arwyneb glaswelltog presennol gyda llwybr cadarn, gwastad a hygyrch.

 

Adroddwyd bod y safle ar bwys maes parcio Llyn Bach mewn ardal a ddynodwyd ym Mharth 3 Llifogydd o dan bolisi TAN 15, tu allan i ffin datblygu y CDLl ac o fewn dynodiad Ardal o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Cafwyd cadarnhad gan yr Uned Draenio Tir bod elfen o’r cais sydd yn ymwneud â’r system ddraenio gynaliadwy wedi ei gymeradwyo. Cyfeiriwyd at sylwadau gan yr Uned Bioamrywiaeth oedd yn datgan nad oedd gwelliannau bioamrywiaeth wedi eu cynnwys fel rhan or cais, ond byddai modd gosod amodau.

 

Ystyriwyd mai Polisi ISA 2: Cyfleusterau Cymunedol oedd prif ystyriaeth  y cais yma, sydd yn nodi pwysigrwydd cyfleusterau hamdden a chymunedol lleol i anghenion iechyd, cymdeithasol, addysgol, ieithyddol a diwylliannol ardal y Cynllun, yn ogystal â’i les economaidd.  Nodwyd mai cynllun am lwybr cyhoeddus gyda llecynnau eistedd efo byrddau picnic i fwynhau'r awyr agored oedd y bwriad gyda mynediad posib i bawb. Ystyriwyd bod y bwriad a'r lleoliad arfaethedig yn briodol i'r safle ac yn hygyrch i’r gymuned leol; y bwriad yn cwbl dderbyniol ar sail gofynion polisi ISA 2 CDLl

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn amharu’n sylweddol fwy na’r hyn sydd mewn bodolaeth yn bresennol ar fwynderau gweledol yr ardal. Tynnwyd sylw at wrthwynebiad oedd wedi ei dderbyn ar sail colli defnydd hamddena y safle, ond ni ystyriwyd y byddai’r llwybr yn cael effaith andwyol sylweddol ar ddefnyddwyr presennol y safle o ran hynny; y bwriad yn dderbyniol o ran Polisi PCYFF 2 a PCYFF 3.

 

Gyda mynediad at y safle ar ffurf llwybr troed a’i leoliad yn hwylus o dref Porthmadog byddai hyn yn ei wneud yn hygyrch o ran gallu cyrraedd ato trwy lwybrau a ffyrdd presennol yn ogystal â thrwy ddefnydd trafnidiaeth gyhoeddus (arosfan bysiau parhaol gerllaw) yn ogystal â maes parcio o faint safonol ar gychwyn y llwybr. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol o achosi perygl na ellid ei reoli ac felly yn dderbyniol ar sail gofynion perthnasol polisi PS 4.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod y safle wedi ei leoli oddeutu 220m i ffwrdd o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Pen Llyn a’r Sarnau ac ar sail y mesurau osgoi rhesymol sy’n ymwneud â dyfrgwn, ynghyd â mesurau osgoi llygredd yn ystod y cyfnod gweithio, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr ACA ac felly yn dderbyniol o ran gofynion Rheoliadau Cynefinoedd a pholisi PS19.

 

Saif hefyd o fewn Parth Llifogi 3 (Afonydd a Môr) ynghyd a Pharthau wedi eu gwarchod. Fel rhan o’r cais, cyflwynwyd Asesiad Canlyniad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C26/0005/46/DA Tyddyn Du, Dinas, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8SU pdf eicon PDF 159 KB

Diwygiad ansylweddol i ddyluniad hawl cynllunio  C21/0411/46/LL

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

DECISION: To delegate the right to the Senior Planning Manager to approve the application subject to the following condition:

 

1.     The development hereby permitted shall be carried out in strict conformity with the details shown on the plan(s) numbered 673-01B, Revised Elevation plan, Ground Floor plan, First Floor plan submitted to the Local Planning Authority on 12 January 2026, and contained in the form of application and in any other documents accompanying such application unless condition(s) to amend them is/are included on this decision notice. Notwithstanding the amendments hereby approved the remainder of the development shall be carried out in accordance with the conditions and details contained within planning permission number C21/0411/46/LL.

Cofnod:

Diwygiad ansylweddol i ddyluniad hawl cynllunio  C21/0411/46/LL .

 

a)           Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais am ddiwygiad ansylweddol i gynlluniau a ganiatawyd o dan ganiatâd Cynllunio blaenorol yn 2022 ar gyfer codi adeilad i gadw cyfarpar porthiant amaethyddol gan gynnwys dwy stabl a storfa tac oedd dan sylw. Roedd y diwygiadau yn cynnwys: 

-        Newid gogwydd yr adeilad ar ochr ddwyreiniol y safle i’r hyn a gymeradwywyd.

-        Diwygiad i rai agoriadau ffenestri/ ffenestri to mewn lleoliadau gwahanol i’r cynlluniau gymeradwywyd, a

-        Diwygiad i’r deunydd to i lechi Cymreig wedi eu hailgylchu yn hytrach na lleiniau dur lliw llwyd  a ganiatawyd.

 

Eglurwyd bod yr adeilad eisoes wedi ei adeiladu ac wedi ei gwblhau’n sylweddol. Cyflwynwyd y cais yn dilyn archwiliadau gorfodaeth ac mewn ymgais i reoleiddio’r gwaith oedd wedi ei gwblhau ar y safle yn wahanol i’r cynlluniau a ganiatawyd. 

 

Mynegwyd, yn unol a chynllun dirprwyo’r Cyngor, bod y cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn berthynas agos i Aelod Etholedig y Cyngor.

 

Adroddwyd, gan mai cais ar gyfer newid ansylweddol oedd gerbron, mai’r unig faterion oedd angen sylw oedd,

-        os oedd y newid mor fawr fel ei fod yn cael effaith wahanol i’r cynllun gwreiddiol

-        os oedd y newid yn cael effaith andwyol naill ai’n weledol neu o ran amwynder

-        a fyddai buddiannau unrhyw drydydd parti neu gorff yn cael eu rhoi o dan anfantais o ran cynllunio

-        a fyddai’r newid arfaethedig yn gwrthdaro a pholisïau cynlluniau cenedlaethol neu gynlluniau datblygu?

 

Nodwyd mai newidiadau i ddyluniad yr adeilad yn unig oedd dan sylw ac nid i faint na defnydd yr adeilad. Amlygwyd bod amheuon wedi codi yn lleol am ddefnydd bwriadedig yr adeilad, ond tynnwyd sylw bod amod, sy’n sicrhau mai defnydd amaethyddol neu gadw ceffylau yn unig a wneir o’r adeilad, yn parhau ar y caniatâd ac y bydd modd monitro unrhyw sefyllfa i’r dyfodol.

 

Ni ystyriwyd bod y newidiadau oedd wedi cymryd lle yn cael effaith ar drigolion cyfagos nac yn sylweddol wahanol i’r hyn a ganiatawyd yn flaenorol – y cais felly yn bodloni gofynion polisi PCYFF 2 y CDLl. 

 

Argymhellwyd caniatáu’r cais yn ddarostynedig i amodau perthnasol.

 

b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Yn unol a Rheoliadau’r Cyngor, bod y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd cysylltiad teuluol gydag Aelod Etholedig

·        Y cais am 2 stabl, sgubor a storfa wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor yn 2022

·        Cyflwynwyd y cais yn dilyn archwiliadau gan Swyddog Gorfodaeth yn 2025 oedd wedi cynnig newidiadau ansylweddol

·        Bod addasiad i ogwydd yr adeilad, i’r deunydd to i lechi Cymreig, ac i ddefnydd ffenestri cadwraethol

·        Bod yr adeilad yn llai o faint erbyn hyn

 

c)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·        Diwygiad ansylweddol ydoedd i adeilad porthiant amaethyddol

·        Yr adeilad yn un gwledig, ymarferol a chynaliadwy

·        Bod safon i’r adeiladwaith; pensaernïaeth gelfydd gan gwmni a chrefftwyr pren lleol

·        Yn gynllun amgen ac yn adeilad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.