Lleoliad: Cyfarfod Hybrid / Hybrid Meeting
Cyswllt: Gwen Alaw Roberts E-bost: Gwenalawroberts@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diolchwyd i bawb sydd wedi bod yn gweithio’n ddi flino yn
ein cymunedau dros brysurdeb yr haf. Amlygwyd ei bod yn Ddiwrnod Rhyngwladol
Democratiaeth a chydnabuwyd y pwysigrwydd o fod yn agored, yn atebol, ac yn
dryloyw wrth wneud penderfyniadau ar ran pobl Gwynedd. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad. Nodwyd y bu rhaid i’r Cyng Dilwyn Morgan a'r Cyng Craig ab
Iago adael y cyfarfod yn gynnar oherwydd cyfarfodydd eraill. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganwyd buddiant gan y Cyng. Paul Rowlinson mewn perthynas
ag Eitem 6. Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, a ni
adawodd y cyfarfod. Datganwyd buddiant gan y Cyng. Paul Rowlinson mewn perthynas
ag Eitem 10, a bu i’r Aelod adael y cyfarfod. Derbyniwyd datganiadau o fuddiant gan y Cynghorwyr Nia
Jeffreys a June Jones mewn perthynas ag Eitem 11. Nid oeddent o’r farn ei fod
yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, a ni adawsant y cyfarfod. |
|
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. Diolchwyd i Gadeiryddion ac Is- Gadeiryddion y pwyllgorau
craffu sy’n mynychu cyfarfodydd y Cabinet i adrodd yn ôl ar argymhellion y
pwyllgorau i’r eitemau sydd wedi eu craffu. |
|
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 GORFFENNAF Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7
Gorffennaf 2026 fel rhai cywir. |
|
|
COMPACT: CYTUNDEB CYDWEITHIO CYNGOR GWYNEDD A'R TRYDYDD SECTOR Cyflwynwyd gan: Cyng Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo a mabwysiadu’r Compact: Cytundeb Cydweithio
Cyngor Gwynedd a’r Trydydd Sector fel fframwaith strategol ar gyfer y berthynas
rhwng y Cyngor a sefydliadau'r Trydydd Sector yng Ngwynedd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan. PENDERFYNIAD Cymeradwyo a mabwysiadu’r Compact: Cytundeb Cydweithio
Cyngor Gwynedd a’r Trydydd Sector fel fframwaith strategol ar gyfer y berthynas
rhwng y Cyngor a sefydliadau'r Trydydd Sector yng Ngwynedd. TRAFODAETH Amlygwyd pwysigrwydd y berthynas rhwng y Cyngor a
sefydliadau’r Trydydd Sector, a diolchwyd i’r sector am eu cyfraniad at lesiant
pobl y Sir. Eglurwyd bod y Compact yn ddarn o waith sydd wedi bod yn
cael ei wneud gan y Cyngor mewn partneriaeth agos gyda Mantell Gwynedd ers tro
bellach. Esboniwyd bod y Compact yn arddangos sut y mae’r Cyngor yn
bwriadu cyd-weithio gyda’r Trydydd Sector er mwyn ceisio sicrhau y caiff
dyletswyddau’r Cyngor eu diwallu a’u
cyflawni’n rhagorol. Nodwyd bod ymgynghori eang wedi cael ei wneud mewn perthynas
â’r Compact, a rhan o’r ymgynghori hynny wedi cael ei wneud gyda Mantell
Gwynedd. Adnabuwyd gwerth cyd-weithio â’r Trydydd Sector er mwyn
peidio dyblygu gwasanaethau, a gan eu bod yn aml yn agosach at gymunedau, ac
felly’n gallu darparu gwasanaethau mewn dull sy’n ymwybodol o egwyddorion a
gwerthoedd y cymunedau hynny. Croesawyd Prif Swyddog Mantell Gwynedd i’r cyfarfod. Tynnwyd sylw at y ffaith bod cryn amser wedi pasio ers y tro
diwethaf i’r Compact gael ei adolygu. Er mai dogfen gychwynnol yw hon,
cadarnhawyd y bydd cynllun gweithredu mewn lle a chaiff ei effaith ei fesur yn
ogystal. Datgelwyd bod y tirlun wedi newid yng Nghymru gyda deddfwriaeth newydd
bellach mewn grym, ac o ganlyniad, roedd angen edrych ar y berthynas rhwng y
Cyngor a’r Trydydd Sector mewn ffordd ychydig yn wahanol. Mynegwyd balchder bod cytundeb cyd-weithio da bellach mewn
lle rhwng y Sector a’r Cyngor. Ymhelaethwyd ar yr ymgynghori sylweddol a
wnaethpwyd ar y ddogfen dros gyfnod o flwyddyn a mwy, gyda rhwydweithiau
amrywiol y Sector wedi cael mewnbwn iddi a sawl cyfle i ddarparu adborth. Manylwyd ar y Trydydd Sector eang sydd yng Ngwynedd, gan
bwysleisio'r angen a’r awydd i gydweithio â phartneriaid i sicrhau ffyniant.
Nodwyd bod y ddogfen yn arddangos yr ymddiriedaeth rhwng y ddwy sector yn y
Sir, a diolchwyd i’r unigolion hynny a fu’n gefnogol iawn o’r Sector yn yr
ymgais i gyrraedd y pwynt hwn lle mae Compact mewn lle. Soniwyd am y
ddibyniaeth rhwng y Cyngor a’r mudiadau Trydydd Sector er mwyn gallu darparu’r
holl wasanaethau effeithiol. Ynghyd â’r cynllun gweithredu a fydd mewn lle,
amlygwyd y bydd Grŵp Cyswllt Trydydd Sector yn gyrru’r gwaith yn ei flaen. Pwysleisiwyd mai lles pobl Gwynedd sydd wrth wraidd y
Compact hwn. Yn ogystal, diolchwyd i’r Pwyllgor Craffu Gofal am eu gwaith
wrth graffu ar yr eitem. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: · Crybwyllwyd pwysigrwydd y Trydydd Sector i’r economi yn ogystal, ac ymfalchïwyd yn y cyd-weithio da sydd bellach i’w weld rhwng y ddwy sector. Nodwyd bod mesur gwerth gwaith yn bosib ac yn rhywbeth sy’n mynd rhagddo drwy weithio ar y cyd gyda Mantell Gwynedd. Esboniwyd bod mesur llwyddiant y Compact yn heriol, ond bod bwriad ail gydio yn y cyfarfodydd hynny efo’r Trydydd Sector gan ofyn am eu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Dylan Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol |
|
|
Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo Cynllun Gweithredu Cyngor Gwynedd ar gyfer Atal
Hunanladdiad a Hunan-niweidio, sy'n amlinellu'r gweithgareddau fydd yn cael eu
cyflawni ar draws adrannau'r Cyngor fel rhan o ddull corfforaethol i gefnogi
amcanion Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Llywodraeth Cymru
(Atodiad 1). Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Cymeradwyo Cynllun Gweithredu Cyngor Gwynedd ar gyfer Atal
Hunanladdiad a Hunan-niweidio, sy'n amlinellu'r gweithgareddau fydd yn cael eu
cyflawni ar draws adrannau'r Cyngor fel rhan o ddull corfforaethol i gefnogi
amcanion Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Llywodraeth Cymru
(Atodiad 1). TRAFODAETH Rhybuddiwyd bod y pwnc hwn yn un sensitif iawn i’w drafod, a
thynnwyd sylw at y cymorth sydd ar gael gan amryw o elusennau a sefydliadau yn
y Sir. Adroddwyd y bu Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd yr wythnos
ddiwethaf, ac y caiff mis Medi ei gydnabod yn eang fel Mis Ymwybyddiaeth ac
Atal Hunanladdiad. Amlygwyd bod hunanladdiad yn gyfrifoldeb i bawb;
sefydliadau, cymunedau, ac i unigolion. Pwysleisiwyd pwysigrwydd bod yn barod i
drafod y pwnc yn agored yn ein cymunedau. Datganwyd bod yr adroddiad yn deillio o waith y Cyngor i
ymateb i Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Llywodraeth Cymru.
Pasiwyd Rhybudd o Gynnig, a oedd yn galw ar y Cyngor i ddatgan cefnogaeth i’r
Strategaeth a sefydlu Cynllun Gweithredu ar gyfer Cyngor Gwynedd, yng
nghyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr 2025. Mynegwyd balchder bod llawer o waith da eisoes yn digwydd ar
draws gwasanaethau’r Cyngor, yn ein hysgolion ac ar draws ein partneriaethau, a
dywedwyd y bydd y Cynllun hwn yn dod a’r gwaith hwnnw ynghyd, gan gryfhau
ymwybyddiaeth, hyfforddiant, ac ymyrraeth gynnar. Manylwyd ar y camau
gweithredu a chadarnhawyd y bydd y gwaith yn adeiladu ar y gefnogaeth sydd
eisoes ar gael mewn ysgolion, gan gryfhau trefniadau adnabod pryderon yn gynnar
a sicrhau y gall plant a phobl ifanc gael mynediad at y gefnogaeth briodol. Diolchwyd i’r swyddogion, partneriaid, a’r cynghorwyr sydd
wedi cyfrannu at ddatblygu’r Cynllun. Mynegwyd tristwch bod y niferoedd o hunanladdiadau wedi
cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, ac felly pwysleisiwyd pwysigrwydd
cyd-weithio’n eang i godi ymwybyddiaeth a sicrhau fod pobl yn ymwybodol o le i
droi am gymorth neu petai ganddynt bryder am berson arall. Nodwyd y bwriad o gynnal sesiynau ymwybyddiaeth er mwyn
cynyddu ymwybyddiaeth pobl ar draws y Sir, ynghyd â gweithlu’r Cyngor, a
hyrwyddo hyfforddiant penodol ar gyfer y gweithlu. Ymhelaethwyd ar hynny gan
nodi’r bwriad o hyrwyddo hyfforddiant ehangach hefyd, megis hyfforddiant Trais
Domestig, a bod yn effro i’r effaith benodol yn gall hyn ei gael ar unigolion. Soniwyd am yr angen i ymdreiddio’r ddealltwriaeth yma a hybu
lleisiant ar draws y system addysg yn ogystal. Cadarnhawyd bod yr adran Addysg
yn effro i’r risgiau yn y maes hwn, ac yn cynyddu’r gefnogaeth a’r hyfforddiant
i’r personau dynodedig mewn ysgolion. Credwyd bod y Strategaeth hon yn gam i’r
cyfeiriad cywir ac yn sicrhau ei fod ar flaen ein meddyliau. Mewn achosion lle
mae digwyddiad o’r fath wedi digwydd, nodwyd bod yr Adran wedi adlewyrchu ar
drefniadau cefnogaeth i blant a phobl ifanc yr ysgolion, y staff a’r
penaethiaid yn ogystal. Pwysleisiwyd pwysigrwydd y gwaith hwn. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Croesawyd y Strategaeth a chytunwyd ynglŷn
â phwysigrwydd codi ymwybyddiaeth y gymdeithas o’r materion hyn. · Mynegwyd tristwch bod un o’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Dylan Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol |
|
|
SIARTER ANGOR RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU Cyflwynwyd gan: Cyng Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: • Nodi cynnwys Siarter Angor Rhanbarthol Gogledd Cymru a
gymeradwywyd gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar yr 8fed Mai 2026. • Nodi'r gwaith croesgyfeirio a gwblhawyd rhwng
ymrwymiadau'r Siarter a blaenoriaethau Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 a gwaith
dydd i ddydd y Cyngor. • Cydnabod bod gwaith presennol y Cyngor eisoes yn
cyfrannu'n sylweddol at gyflawni amcanion y Siarter, a bod cyfle i ystyried
cyfleoedd i gryfhau’r cyfraniadau hyn yn unol â blaenoriaethau Cynllun y Cyngor
• Nodi’r cyfle i rannu dysgu o’r broses croesgyfeirio,
ynghyd ag enghreifftiau o ymarfer nodedig, gyda phartneriaid eraill dros y
rhanbarth fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i’r Fframwaith Lles, Atal ac Angor a
gymeradwywyd gan y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol ar yr 8fed Mai 2026 Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan. PENDERFYNIAD • Nodi cynnwys Siarter Angor Rhanbarthol Gogledd Cymru a
gymeradwywyd gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar yr 8fed Mai 2026. • Nodi'r gwaith croesgyfeirio a gwblhawyd rhwng
ymrwymiadau'r Siarter a blaenoriaethau Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 a gwaith
dydd i ddydd y Cyngor. • Cydnabod bod gwaith presennol y Cyngor eisoes yn
cyfrannu'n sylweddol at gyflawni amcanion y Siarter, a bod cyfle i ystyried
cyfleoedd i gryfhau’r cyfraniadau hyn yn unol â blaenoriaethau Cynllun y Cyngor
• Nodi’r cyfle i rannu dysgu o’r broses croesgyfeirio,
ynghyd ag enghreifftiau o ymarfer nodedig, gyda phartneriaid eraill dros y
rhanbarth fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i’r Fframwaith Lles, Atal ac Angor a
gymeradwywyd gan y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol ar yr 8fed Mai 2026 TRAFODAETH Eglurwyd bod y Siarter wedi’i seilio ar y gred y gall
sefydliadau mawr cyhoeddus yr ardal ddefnyddio eu dylanwad i greu budd economaidd
a chymdeithasol i gymunedau lleol. Aethpwyd ymlaen i nodi mai’r Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol sy’n arwain ar y Siarter, fel rhan o waith ehangach y
Fframwaith Lles, Atal ac Angor Rhanbarthol. Esboniwyd mai pwrpas yr adroddiad
yw amlygu sut mae gwaith dydd i ddydd y Cyngor eisoes yn cyfrannu at amcanion y
Siarter. Cynigiwyd efallai bod cyfle i edrych ar be all y Cyngor ei wneud i
annog staff i wneud mwy yn eu cymunedau yn ogystal. Datganwyd bod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol eisoes wedi
mabwysiadu’r Siarter. Tynnwyd sylw at yr hunanasesiad sydd wedi ei gwblhau o
waith y Cyngor yn erbyn yr eitemau sydd yn y Siarter, ac amlygwyd bod rhan
helaeth o'r sgoriau yn gyson ond bod un maes yn isel. Manylwyd ar hyn gan nodi
bod sawl sefydliad yn rhoi amser i’w staff fynd i wirfoddoli, a chynhigiwyd bod
hyn yn rhywbeth i’w ystyried wrth fynd ymlaen. Adroddwyd bod awydd i
ddefnyddio’r wybodaeth a’r drafodaeth hon er mwyn galluogi i hyn fwydo i mewn i
ystyriaethau strategol wrth fynd ymlaen. Croesawyd Rheolwr Partneriaethau Strategol, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r cyfarfod. Amlygwyd mai un o’r dangosyddion a
gaiff eu hystyried gan y Tîm Iechyd Cyhoeddus wrth asesu iechyd y boblogaeth yw
disgwyliad oes, ac esboniwyd bod y dangosydd hwn yn dirywio yng Ngogledd Cymru.
Dywedwyd bod gwahaniaeth yn y dangosydd hwn rhwng y bobl hynny sydd fwyaf a
lleiaf difreintiedig yn ein cymunedau. Er bod nifer o ffactorau yn chwarae rhan
yma, nodwyd mai dangosyddion ehangach megis addysg, bod mewn swydd sy’n talu’n
deg, byw mewn tŷ clyd a chymunedau diogel, sy’n cael y dylanwad mwyaf ar
iechyd a lles ac felly mai dyma sydd wrth wraidd y gwaith hwn. Datgelwyd mai’r
Cyngor yw’r cyntaf yng ngogledd Cymru i fynd drwy’r broses o hunanasesu, gan
ategu y caiff llawer o’r gwaith sydd yn y Siarter ei wneud yn barod o fewn y
Cyngor. Aethpwyd ymlaen i annog y Cyngor i edrych ar sut y gellir cryfhau’r
agweddau hyn ymhellach, ac ystyried pa gyfleoedd sydd i rannu ymarfer nodedig
tu allan i’r sefydliad. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Dylan Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dewi Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor Dafydd Gwynne, Rheolwr Partneriaethau Strategol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
|
|
ADRODDIAD CHWARTEROL - CADEIRYDD Y BWRDD RHAGLEN CYNLLUN YMATEB (GORFFENNAF 2026) Ailgyflwyno er mwyn derbyn cyflwyniad gan yr Athro Sally
Holland. Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gerbron sef y pedwerydd adroddiad chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen
Cynllun Ymateb. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad gerbron sef y pedwerydd adroddiad
chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb. TRAFODAETH Datganwyd mai bwriad ail gyflwyno’r Adroddiad i’r cyfarfod
hwn yw derbyn cyflwyniad gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb, a
chroesawyd y Cadeirydd i’r cyfarfod. Eglurwyd mai dyma’r pedwerydd adroddiad chwarterol gan
Gadeirydd y Bwrdd, er mwyn diweddaru’r Cabinet ar waith y Bwrdd Rhaglen Cynllun
Ymateb. Cymerwyd y cyfle i gydnabod dewrder y dioddefwyr a
goroeswyr, gan bwysleisio eu bod ar flaen meddyliau pob un wrth drafod y pwnc
hwn. Cadarnhawyd bod y Bwrdd wedi cyfarfod eto ers mis
Gorffennaf, gan nodi presenoldeb ac ymgysylltiad uchel y Bwrdd, ynghyd ag
ansawdd uchel y deunyddiau ysgrifenedig. Amlygwyd bod cynnydd wedi’i adrodd
ymhob maes, gyda’r holl adroddiadau yn destun trafodaeth a chraffu gan arsylwyr
annibynnol a’r aelodau Cabinet sy’n rhan o’r Bwrdd. Pwysleisiwyd bod aelodau’r
Bwrdd yn cadw’r dioddefwyr yn ganolog i’w meddyliau, ac ategwyd yr angen i
wneud newidiadau gwirioneddol i arferion er mwyn ad ennill ymddiriedaeth plant
a phobl ifanc yng Ngwynedd. Cydnabuwyd y cynnydd sydd wedi’i wneud yn Ysgol Friars a bod hyn i’w weld yn adroddiad diweddar Estyn.
Adroddwyd ar y cynnydd a gaiff ei wneud mewn perthynas â’r Strategaeth Llais y
Plentyn, gan gyfeirio’n benodol at ddatblygiad y Fforwm Ieuenctid. Yn ogystal,
datganwyd bod cynnydd wedi bod wrth geisio sicrhau bod hyfforddiant diogelu ar
gael mewn gwahanol fformatau er mwyn diwallu anghenion staff. Mynegwyd balchder
bod trafodaethau Grŵp Ffocws pellach gyda gwahanol grwpiau o randdeiliaid wedi eu cynllunio, a bod y gwaith ar arferion
cyfyngol yn dod yn fwy sefydledig yn dilyn derbyn archwiliad annibynnol o’r
polisïau. Datgelwyd bod y Llywodraeth wedi ail sefydlu’r Grŵp Sicrwydd
Gweinidogol yn ogystal. Nodwyd yr angen i ganolbwyntio ar fesur effaith a
sicrhau y caiff newidiadau eu hymgorffori wrth fynd ymlaen. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: · Diolchwyd
i Gadeirydd y Bwrdd am ei gwaith parhaus, a chroesawyd bod holl ddogfennau’r
Bwrdd bellach yn gyhoeddus fel bod modd i’r cyhoedd weld y gwaith sy’n mynd
rhagddo. Pwysleisiwyd yr angen i fesur effaith y gwaith hwn maes o law, a
gofynnwyd sut y mae’r Cyngor yn bwriadu gwneud hyn. Mewn ymateb, esboniwyd bod
y Cyngor wrthi’n cyflawni’r gwaith ac yn ceisio gwreiddio’r newid hwn.
Crybwyllwyd nad oedd modd mesur effaith y gwaith yn syth, ond erbyn hyn ei bod
yn bosib symud ymlaen i edrych ar yr effaith. Soniwyd y bydd cyfle i wrando a
derbyn barn rhanddeiliaid drwy grwpiau ffocws, a rhoi cyfle i bobl fynegi hyder
yn nhrefniadau’r Cyngor. Crybwyllwyd bod Cadeirydd y Bwrdd yn cyfarfod gyda
swyddogion y tu allan i gyfarfodydd y Bwrdd er mwyn rhoi mewnbwn i’r gwaith
parhaus sy’n mynd rhagddo yn y maes hwn. Nodwyd pwysigrwydd mesur effaith yn ogystal,
a phwysigrwydd rhoi mesurau a all barhau dros amser ar waith fel bod modd mesur
eu heffaith. Trafodwyd y cyfleoedd sydd i gymharu effaith y gwaith hwn ag
awdurdodau lleol eraill drwy arolygon cenedlaethol i blant. · Mewn ymateb i gwestiwn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr |
|
|
PRYDLESU HEN SAFLE YSGOL CWM Y GLO I FENTER FACHWEN Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Awdurdodi y Pennaeth Cynorthwyol Tai ac Eiddo; (a)
i
brydlesu safle cyn Ysgol Cwm y Glo yn uniongyrchol i Fenter Fachwen am
rent enwol yn unol a Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003. (b) yn amodol ar i’r Fenter
sicrhau cyllid a chaniatâd cynllunio ar gyfer hwb cymunedol aml bwrpas i gytuno
ar delerau ac amodau y denantiaeth a chwblhau y les. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Awdurdodi y Pennaeth Cynorthwyol Tai ac Eiddo; (a)
i brydlesu safle cyn Ysgol Cwm y Glo yn
uniongyrchol i Fenter Fachwen am rent
enwol yn unol â Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003. (b) yn amodol ar i’r Fenter sicrhau cyllid a chaniatâd
cynllunio ar gyfer hwb cymunedol aml bwrpas i gytuno ar delerau ac amodau y
denantiaeth a chwblhau y les. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan fanylu ar gynlluniau Menter
Fachwen ar gyfer ail-ddefnyddio hen safle Ysgol Cwm y Glo er budd y gymuned
leol. Aethpwyd ymlaen i drafod gweledigaeth y Fenter, sy’n cynnwys
ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau cymunedol, cyfleoedd hyfforddi a
datblygu sgiliau, mentrau economi gylchol, ynghyd â darpariaeth fydd yn cefnogi
iechyd, llesiant a chynhwysiant cymdeithasol.
Amlygwyd y newid i’r penderfyniad a geisir o’r hyn a nodwyd
yn yr adroddiad, ac adroddwyd y penderfyniad diwygiedig er eglurder. Rhoddwyd cefndir i’r adroddiad gan esbonio i’r Cyngor
dderbyn datganiad o ddiddordeb yn y safle gan Fenter Fachwen, yn unol â’r
Polisi Ôl- Ddefnydd Ysgolion. Cyfeiriwyd at y ffaith y byddai hyn yn galluogi’r
Fenter i ehangu eu darpariaeth bresennol. Esboniwyd na fydd incwm ar gael i
dalu rhent marchnad agored ar gyfer y safle, ac felly mae’r cais am brydles am
rent enwol. Gofynnwyd i’r Cabinet fodloni bod y buddion economaidd, cymdeithasol
ac amgylcheddol a fydd yn cael eu gwireddu o ganiatáu’r brydles yn gorbwyso’r
golled ariannol. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oes cyllid llawn na chaniatâd
cynllunio ar gyfer y datblygiad ar hyn o bryd, ond mae gallu’r Fenter i
ymgeisio am gyllid grant sylweddol yn ddibynnol ar fod wedi derbyn ymrwymiad y
Cyngor i ddarparu’r brydles. Sicrhawyd y bydd gofyn i’r Fenter ddarparu
cadarnhad o gyllid a hawl cynllunio i wireddu’r Hwb cyn y bydd y Cyngor yn rhoi
prydles yn ei lle. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Croesawyd y datblygiad gan fynegi balchder y
caiff hen safle ei defnyddio er budd ehangach. Awdur: Carys Fôn Williams, Pennaeth Adran Tai ac Eiddo |
|
|
MABWYSIADU POLISI CLUDIANT ADDYSG I'W WEITHREDU O FEDI 2027 YMLAEN Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Yn ddarostyngedig i ystyried cynnwys yr Adroddiad a’r
Atodiadau ynghyd â chanlyniadau’r ymgynghoriadau ac ymgysylltu, penderfynu ar
fabwysiadu Polisi Cludiant Addysg newydd a fydd yn dod i rym ar 1 Medi 2027. Dirprwyo hawl awdurdod i’r Aelod Cabinet dros Addysg, mewn
ymgynghoriad â Phennaeth yr Adran Addysg, i gadw’r Polisi dan adolygiad o fewn
y fframwaith statudol cenedlaethol a gwneud newidiadau gweithredol a golygyddol
yn ôl yr angen yn ddarostyngedig fod unrhyw fater sydd yn ddarostyngedig i ofyn
ymgynghori i’w gyfeirio i’r Cabinet. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones. PENDERFYNIAD Yn ddarostyngedig i ystyried cynnwys yr Adroddiad a’r
Atodiadau ynghyd â chanlyniadau’r ymgynghoriadau ac ymgysylltu, penderfynu ar
fabwysiadu Polisi Cludiant Addysg newydd a fydd yn dod i rym ar 1 Medi 2027. Dirprwyo hawl awdurdod i’r Aelod Cabinet dros Addysg, mewn
ymgynghoriad â Phennaeth yr Adran Addysg, i gadw’r Polisi dan adolygiad o fewn
y fframwaith statudol cenedlaethol a gwneud newidiadau gweithredol a golygyddol
yn ôl yr angen yn ddarostyngedig fod unrhyw fater sydd yn ddarostyngedig i ofyn
ymgynghori i’w gyfeirio i’r Cabinet. TRAFODAETH Adnabuwyd ei bod yn amserol i adolygu a diweddaru’r Polisi
Cludiant Addysg. Soniwyd am yr ymgynghori helaeth a wnaethpwyd mewn perthynas
â’r Polisi, gan nodi bod addasiadau wedi eu gwneud yn sgil yr ymgynghori hwn. Manylwyd ar y Cynllun Seddi Gweigion, gan esbonio bod seddi
gwag wedi bod yn cael eu cynnig i ddysgwyr nad oedd ganddynt hawl i gludiant
di-dâl os byddai argaeledd sedd ar gludiant, gan godi tâl am y sedd honno. Yn
dilyn eglurder pellach gan Lywodraeth Cymru, cadarnhawyd bod sail fwy cadarn i
barhau i gynnig y Cynllun Seddi Gweigion bellach, er bod rhai risgiau yn
parhau. Aethpwyd ymlaen i egluro bod mwy o gyd-destun o ran yr
elfennau Preswyliad Deuol ac Ysgolion Ffydd yn y Polisi gerbron. Ychwanegwyd
bod yr elfen Cludiant Ôl-16 hefyd wedi’i gysoni fel bod mwy o eglurder. Nodwyd
bod y Polisi gerbron yn cynnig darparu cludiant ôl-16 i’r ysgol ddalgylch/addas
agosaf, ynghyd ag i’r safle coleg addas agosaf sy’n darparu’r cwrs hwnnw. Amlygwyd mai mwy o fanylder ar rai rhannau sydd yma, nid
newidiadau mawr i’r Polisi. Croesawyd Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
i’r cyfarfod. Diolchwyd i’r Aelod Cabinet am ei waith ac aethpwyd ymlaen i
esbonio argymhellion y Pwyllgor Craffu. Mynegwyd balchder bod sylw penodol
wedi’i roi i’r Cynllun Seddi Gweigion yn dilyn argymhellion y Pwyllgor, a bod
ystyriaeth wedi’i roi i argymhellion eraill y Pwyllgor. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Mewn ymateb i gwestiwn am brif fanteision y
Polisi Cludiant gerbron, esboniwyd bod y Cynllun Seddi Gweigion wedi’i gynnwys
yn ôl yn y Polisi, gan hwyluso gallu teuluoedd sydd ddim yn gymwys i gludiant
yn unol â’r gofynion statudol i allu manteisio ar y seddi gweigion hyn. Soniwyd
bod canllawiau yn awgrymu’r angen i hyrwyddo’r ddarpariaeth i Ysgolion Ffydd,
gan egluro bod hyn yn ychwanegiad i’r Polisi. Gobeithiwyd hefyd y bydd yr
eglurder pellach yn y Polisi o ran Preswyliad Deuol yn hwyluso trefniadau
teuluoedd i fynd a’u plant i’r ysgol. Ategwyd bod eglurder pellach hefyd i’w
weld wrth gyfeirio at Gludiant Ôl-16. Cadarnhawyd mai ym mis Medi 2027 bydd y
Polisi hwn yn dod i rym, petai’n cael ei fabwysiadu. · Cyfeiriwyd at yr angen i gyfathrebu’r newid hwn, a dywedwyd bod gwybodaeth ar wefan y Cyngor am yr holl elfennau hyn a bwriadwyd defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyrraedd pobl ifanc yn ogystal. Cynhaliwyd sesiynau gyda dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn cael eu barn am y newid. Bwriadwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. Awdur: Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Adran Addysg |
|
|
YSGOL NEBO - ADRODDIAD GWRTHWYNEBU Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ystyried yr Adroddiad Gwrthwynebu, y crynodeb o’r
gwrthwynebiadau statudol a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, a’r
ymatebion a roddwyd i’r gwrthwynebiadau hynny, ac wedi gwneud hynny,
gadarnhau’n derfynol y cynnig a roddwyd drwy hysbysiad statudol i gau Ysgol
Nebo ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Llanllyfni o 1 Ionawr
2027 ymlaen, yn unol ag Adran 53 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion (011/2018). Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones PENDERFYNIAD Ystyried yr Adroddiad Gwrthwynebu, y crynodeb o’r
gwrthwynebiadau statudol a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, a’r
ymatebion a roddwyd i’r gwrthwynebiadau hynny, ac wedi gwneud hynny,
gadarnhau’n derfynol y cynnig a roddwyd drwy hysbysiad statudol i gau Ysgol
Nebo ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Llanllyfni o 1 Ionawr
2027 ymlaen, yn unol ag Adran 53 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion (011/2018). TRAFODAETH Cydnabuwyd bod yr eitem gerbron yn hynod anodd, a soniwyd am
rôl arbennig ysgolion gwledig o fewn eu cymunedau. Pwysleisiwyd nad yw’r cynnig
hwn yn deillio o unrhyw fethiant yn ansawdd yr addysg yn yr Ysgol. Eglurwyd am y newid yn nemograffeg y sir a olygai bod llai o
blant oed cynradd bellach yng Ngwynedd o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl.
Ymhelaethwyd ar hyn gan nodi bod yr her hon yn gyffredin ar draws y wlad, gyda
lleihad mewn cyfraddau geni a ffactorau economaidd a chymdeithasol ehangach yn
chwarae rhan yma. Cyfeiriwyd at ddyletswydd y Cyngor i gynllunio’n strategol ar
gyfer anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Diolchwyd i holl gymuned Ysgol Nebo am eu cyfraniadau dros y
blynyddoedd. Croesawyd Aelod Lleol Ward Clynnog i’r cyfarfod. Deallwyd yr hyn sydd wedi arwain at gyflwyno’r eitem hon,
gan gydnabod y niferoedd isel o ddisgyblion sydd yn yr Ysgol a’r gost uchel
fesul disgybl. Mynegwyd tristwch am y ffaith fod y disgyblion yn Ysgol Nebo yn
gwneud cynnydd da yn y dosbarthiadau bach hyn, a chredwyd y dylid datblygu’r
Ysgol fel darpariaeth i gefnogi plant sydd angen cefnogaeth ychwanegol. Pe
bai’r cynnig yn cael ei dderbyn, gobeithiwyd bod gan y Cyngor gynllun ar gyfer
y plant hynny sydd angen darpariaeth fel hon, a chydnabuwyd y pwysau sydd ar y gwasanaethau presennol yn y maes hwn. Pryderwyd hefyd am y
cynnydd yn y niferoedd sy’n derbyn addysg gartref. Soniwyd am bwysigrwydd y
cyswllt personol hwnnw rhwng yr adran Addysg â chymuned yr Ysgol wrth fynd
drwy’r broses hon. Cyfeiriwyd yn ogystal at gyfraniadau O.P. Hughes i’r Ysgol.
Diolchwyd i bawb sydd wedi ymwneud â’r Ysgol dros y blynyddoedd. Talwyd teyrnged i staff a chymuned yr Ysgol, a chyfeiriwyd
at urddas y ffordd y mae’r adran a’r Ysgol wedi gweithio gyda’i gilydd drwy’r
broses. Manylwyd ar gyfrifoldeb yr awdurdod i adolygu stad ysgolion ac i
sicrhau gwerth gorau am arian. Soniwyd am y prosesau sydd rhaid eu dilyn, gan
gadarnhau y caiff y prosesau hyn eu hadolygu. Unwaith y mae penderfyniad
terfynol wedi cael ei wneud, sicrhawyd y bydd yr adran yn cyd-weithio gyda’r
tîm adnoddau dynol i gefnogi staff, ac yn cefnogi’r plant drwy gynlluniau
unigol. Nodwyd mai lles a chynaliadwyedd addysg i’r plant a phobl ifanc yw’r
flaenoriaeth. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: · Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag effaith cau’r Ysgol ar y Gymraeg yn y gymuned, cadarnhawyd bod asesiadau effaith ar y Gymraeg wedi eu llunio ar y cynnig a'u bod yn ystyried unrhyw dystiolaeth newydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. Awdur: Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Adran Addysg |
|
|
YSGOL BALADEULYN - ADRODDIAD GWRTHWYNEBU Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ystyried yr
Adroddiad Gwrthwynebu, y crynodeb o’r gwrthwynebiadau statudol a dderbyniwyd yn
ystod y cyfnod gwrthwynebu, a’r ymatebion a roddwyd i’r gwrthwynebiadau hynny,
ac wedi gwneud hynny, gadarnhau’n derfynol y cynnig a roddwyd drwy hysbysiad
statudol i gau Ysgol Baladeulyn ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn
Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027 ymlae n, yn unol ag
Adran 53 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y
Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru (011/2018). Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones. PENDERFYNIAD Ystyried yr
Adroddiad Gwrthwynebu, y crynodeb o’r gwrthwynebiadau statudol a dderbyniwyd yn
ystod y cyfnod gwrthwynebu, a’r ymatebion a roddwyd i’r gwrthwynebiadau hynny,
ac wedi gwneud hynny, gadarnhau’n derfynol y cynnig a roddwyd drwy hysbysiad
statudol i gau Ysgol Baladeulyn ar 31 Rhagfyr 2026 a
darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027 ymlaen, yn unol ag
Adran 53 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y
Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru (011/2018). TRAFODAETH Tynnwyd sylw at y ffaith bod Ysgol Baladeulyn
wedi gwasanaethu’r ardal ers blynyddoedd maith, ac felly bod y drafodaeth hon
yn un anodd. Amlygwyd nad yw’r cynnig hwn yn deillio o unrhyw fethiant nac yn
adlewyrchiad o ansawdd yr addysg a gynigir i’r disgyblion. Cyfeiriwyd at y newid mewn demograffeg yn y Sir, y lleihad
yn nifer y plant oed cynradd sydd bellach yn ein cymunedau, ac effaith hyn ar stad
ysgolion. Soniwyd yn ogystal am y ffactorau cymdeithasol ac economaidd sydd
wedi cyfrannu at y newid hwn mewn demograffeg, a’r angen felly i ymateb i
realiti’r sefyllfa a chydnabod yr heriau sydd wrth i ysgol wasanaethu cyn
lleied o blant. Cydymdeimlwyd â chymuned yr ysgol a diolchwyd i holl staff
yr ysgol. Croesawyd Aelod Lleol Ward Llanllyfni i’r cyfarfod. Pwysleisiwyd bod yr Ysgol yn rhan annatod o’r gymuned ac y
bydd effaith pellgyrhaeddol o gau’r Ysgol. Amlygwyd bod y ddeiseb i gadw’r
Ysgol yn agored wedi’i harwyddo gan 500 o bobl, ac ategwyd nad yw’r nifer
disgyblion sydd yn yr Ysgol yn adlewyrchu gwerth yr Ysgol i’r gymuned wledig.
Pryderwyd y bydd hyn yn arwain at lai o deuluoedd ifanc yn symud i’r ardal, ac
effaith posib hyn ar y Gymraeg yn y gymuned. Awgrymwyd mai ffederaleiddio gyda
Ysgol Talysarn i greu adran ADY fyddai’r opsiwn orau, a phwysleisiwyd yr angen
i ystyried effaith hir dymor y cynnig ar y gymuned. Talwyd teyrnged i blant, staff a chymuned yr Ysgol, a
diolchwyd am y trafodaethau urddasol a gafwyd drwy gydol y broses. Cadarnhawyd
bod yr adroddiad blaenorol yn dangos yr opsiynau posib, a bod ystyriaeth wedi’i
roi i ffederaleiddio Ysgol Baladeulyn gydag ysgol
arall ond na fyddai’r model hwnnw’n addas yma nac yn mynd i’r afael â’r prif
heriau sydd yma o ran niferoedd plant. Amlygwyd mai ceisio sicrhau’r addysg
orau i’r plant yw’r flaenoriaeth, a golygai hynny bod angen gwneud penderfyniadau
anodd ar adegau er mwyn gallu symud y sector yn ei flaen. Manylwyd ar yr asesiad effaith a wnaethpwyd gan gydnabod
effaith tebygol ar y Gymraeg a’r gymuned. Adnabuwyd mesurau lliniaru megis
annog cymuned Talysarn i ehangu ei gweithgarwch i gynnwys cymuned Nantlle yn
unrhyw weithgareddau. Sicrhawyd cadernid y Gymraeg yn Ysgol Talysarn yn
ogystal, ac y gall yr Ysgol gynnig yr un profiadau addysgol a chymdeithasol
trwy gyfrwng y Gymraeg. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: · Gofynnwyd am gapasiti Ysgol Talysarn petai Ysgol Baladeulyn yn cau. Mewn ymateb, amlygwyd bod asesiad wedi’i gwblhau fel rhan o’r broses a bod yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. Awdur: Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Adran Addysg |
|
|
ADRODDIAD CWYNION A GWELLA GWASANAETH CHWARTER 1 2025/26 Cyflwynwyd gan: Cyng Llio Elenid Owen Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r adroddiad a chynnig unrhyw sylwadau neu
awgrymiadau perthnasol am berfformiad y Cyngor o ran ymdrin â chwynion yn
briodol ac yn amserol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen. PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r adroddiad a chynnig unrhyw sylwadau neu
awgrymiadau perthnasol am berfformiad y Cyngor o ran ymdrin â chwynion yn
briodol ac yn amserol. TRAFODAETH Atgoffwyd bod perchnogaeth ymateb i gwynion yn eistedd o
fewn yr Adrannau unigol, ond bod gweinyddu’r drefn gwynion bellach wedi
trosglwyddo i'r tîm Cyswllt Cwsmer, ac eithrio’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac
Ysgolion sydd â threfniadau cwynion ar wahân. Amlygwyd bod 69 Cwyn Ffurfiol Dilys a 49 Cwyn Ombwdsmon wedi
eu derbyn yng nghyfnod yr adroddiad, sydd yn gynnydd o’r un cyfnod y llynedd.
Aethpwyd ymlaen i adnabod mai nifer y dyddiau cyfartalog y cymerwyd i ymateb i
gwyn yng nghyfnod 25/26 oedd 18.3 diwrnod, sydd hefyd yn gynnydd o’r flwyddyn
flaenorol. Soniwyd mai prif gategori’r cwynion a dderbyniwyd yn y cyfnod hwn
oedd diffyg ymateb neu weithredu, gyda’r nifer fwyaf o’r cwynion yn mynd i’r
adran Amgylchedd neu'r adran Gyllid. Cyfeiriwyd at y bwriad i gynnal adolygiad mewnol o sut y
mae’r Cyngor yn ymateb i gwynion gan ddefnyddio arfer da’r Ombwdsmon fel sail i
hyfforddi staff ac addasu systemau digidol, ar y cyd gyda hyfforddiant Gofal
Cwsmer newydd i reolwyr. Mynegwyd balchder bod y Wal Lwyddiannau yn tyfu’n
barhaus a bod hyn yn ffactor wrth godi morâl staff. Ategwyd bod gwaith pellach yn mynd rhagddo mewn perthynas
â’r ffordd y mae’r cyhoedd yn cysylltu â’r Cyngor, a’r ymholiadau cyffredinol a
gaiff eu gwneud yn ogystal. Ychwanegwyd bod wefan y Cyngor hefyd wedi’i
diweddaru er mwyn cynorthwyo â’r gwaith hwn. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Pwysleisiwyd bod cwynion yn werthfawr i’r Cyngor
wrth geisio mynd ati i wella gwasanaethau. Holwyd am eglurder pellach o ran
ffigyrau cwynion i’r Ombwdsmon. Mewn ymateb, esboniwyd mai setliad yw pan mae
cytundeb rhwng y Cyngor a’r achwynydd ar ddatrysiad i gŵyn neu’r ffordd
ymlaen. ·
Rhoddwyd enghreifftiau o wellhad mewn ffigyrau cwynion
rhai adrannau o gymharu â blynyddoedd blaenorol, a manylwyd ar y cyd-weithio
a’r cyfathrebu sy’n digwydd rhwng yr adrannau a’r tîm. ·
Cyfeiriwyd at Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon,
gan egluro y caiff tabl ei gynnwys ynddo lle gellir cymharu perfformiad y
Cyngor gydag awdurdodau eraill. Awdur: Catrin Love, Pennaeth Cynorthwyol Adran Gwasanaethau Corfforaethol |
|
|
CAIS AM GYLLID I DDATBLYGU GWAITH HINSAWDD A NATUR CYNGOR GWYNEDD 2026/27 - 2029/30 Cyflwynwyd gan: Cyng Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod y Cabinet yn
cymeradwyo’r cais am gyllid i ariannu costau cynnal swyddi a chostau gweithredu
prosiectau o fewn y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur: Costau cyflogaeth
tan Mawrth 2030 - £416,383 Costau prosiectau -
£7,275,160 Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago. PENDERFYNIAD Bod y Cabinet yn
cymeradwyo’r cais am gyllid i ariannu costau cynnal swyddi a chostau gweithredu
prosiectau o fewn y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur: Costau cyflogaeth
tan Mawrth 2030 - £416,383 Costau prosiectau -
£7,275,160 TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan ddatgan bod yr Aelod Cabinet
dros Amgylchedd wedi gorfod gadael y cyfarfod er mwyn mynychu cyfarfod arall. Cyfeiriwyd at ddatganiad blaenorol y Cyngor o argyfwng
hinsawdd a’r angen i weithredu ar frys, ac esboniwyd mai cynlluniau penodol i
fynd i’r afael â’r gwaith hynny sydd gerbron.
Cywirwyd anghysondeb oedd yn yr adroddiad, gan nodi mai’r
penderfyniad a geisir sydd yn y fersiwn Gymraeg o’r adroddiad sy’n cynnwys y
ffigyrau cywir. Rhybuddiwyd bod y ffynonellau ariannu eto i’w cadarnhau mewn
perthynas â rhai o’r prosiectau. Aethpwyd drwy’r rhestr o brosiectau gan fanylu
ar yr hyn a gaiff ei argymell gan yr Adran Gyllid fel ffynonellau ariannu ar eu
cyfer. Gyda rhai o’r prosiectau, amlygwyd mai benthyca drwy’r gyfundrefn Salix yw’r ffynhonnell ariannu a gaiff ei argymell ond y
byddai angen gwneud cais am yr arian hwnnw.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Eglurwyd bod y gofrestr risg ynghyd â
thystiolaeth ehangach yn amlygu y bydd y gost o beidio a gweithredu yn y maes
hwn yn llawer uwch na’r buddsoddiadau sydd yn yr adroddiad gerbron. Cadarnhawyd
y bydd rhai o’r prosiectau yn arbed arian yn ogystal â lleihau allyriadau
carbon, a manylwyd ar gyfraniadau rhai o’r prosiectau at symud tuag at sero net
ac arbed arian yn y tymor hir. Yn ogystal, cydnabuwyd y manteision o ddefnyddio
Salix fel ffynhonnell ariannu ar fel rhai prosiectau.
·
Cyfeiriwyd at y ffilm ‘National Emergency Briefing’, a holwyd
a oes unrhyw beth sy’n codi o’r ffilm y gallwn ei roi ar waith. Mewn ymateb,
esboniwyd mai edrych ar yr hyn y gall llywodraeth yn ganolog ei wneud er mwyn
newid polisïau y mae’r ffilm. Cefnogwyd y syniad i’r Cabinet ysgrifennu at
Lywodraeth Prydain mewn perthynas ag arddangos y ffilm hollbwysig hon yn
ehangach. Awdur: Dylan Owen, Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol |
|
|
YMESTYN CYNLLUN DECHRAU'N DEG Cyflwynwyd gan: Cyng Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytuno i ehangu'r Rhaglen Grant Dechrau’n Deg o fewn y Grant
Plant a Chymunedau gan ymestyn y cynllun llawn i ardal newydd sef ardal
Pwllheli yn sgil gostyngiad yn y niferoedd cymwys i’r rhaglen bresennol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme. PENDERFYNIAD Cytuno i ehangu'r Rhaglen Grant Dechrau’n Deg o fewn y Grant
Plant a Chymunedau gan ymestyn y cynllun llawn i ardal newydd sef ardal
Pwllheli yn sgil gostyngiad yn y niferoedd cymwys i’r rhaglen bresennol. TRAFODAETH Amlygwyd mai adroddiad o newyddion da sydd gerbron, gyda’r
bwriad o ehangu’r rhaglen i ardal Pwllheli. Esboniwyd cynnwys y rhaglen a soniwyd bod y rhaglen eisoes
wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus mewn 7 cymuned yng Ngwynedd. Ehangwyd ar
hyn gan nodi bod capasiti a chyllid grant ar gael i
ymestyn y rhaglen o ganlyniad i leihad yn y nifer o blant cymwys yn yr
ardaloedd presennol. Cadarnhawyd y byddai hyn yn galluogi i oddeutu 91 o blant
ychwanegol gael mynediad at y Cynllun hwn. Er bod y Rhaglen eisoes wedi ehangu i gynnwys mwy o
ardaloedd, adnabuwyd bod lleihad yn y nifer o enedigaethau yn yr
ardaloedd hynny ac felly nad oedd y Rhaglen yn cyrraedd y targed a osodwyd gan
Lywodraeth Cymru. Trafodwyd y buddsoddiad sylweddol fesul plentyn, a’r angen i
gynyddu’r niferoedd o blant sy’n derbyn cefnogaeth y Rhaglen. Cadarnhawyd bod
dadansoddiad o ddata wedi adnabod bod yr angen am y ddarpariaeth yn bresennol
yn yr ardal dan sylw. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: Croesawyd y bwriad i ehagnu’r
Rhaglen. Awdur: Sioned Owen, Uwch Reolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar |
|
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan nodi bod y flaenraglen
wedi’i chynnwys er gwybodaeth. |