Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Simon Glyn a’r Cynghorydd Anwen Davies (Aelod
Lleol ar gyfer cais 5.2, 5.3 a 5.4 – a oedd yn datgan buddiant gan ei bod yn
berchennog maes carafanau yn yr un ardal) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion
protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Y Cynghorydd Owain Williams
yn eitem 5.2
(C21/0645/33/LL), 5.3 (C21/0573/33/LL)
a 5.4 (C21/0665/40/LL) ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn
berchen maes carafanau b) Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn eitem 5.7 (C21/0803/11/LL) ar y rhaglen, oherwydd
ei fod yn
aelod o Fwrdd Adra Roedd yr Aelodau o’r farn ei
fod yn fuddiant
a oedd yn
rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau. c) Datganodd yr aelodau
canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Gareth Griffith (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 ar y rhaglen
(C20/0494/20/LL) ·
Y Cynghorydd
Ioan Thomas (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 (C20/0494/20/LL, 5.5 (C21/0398/14/LL) a 5.6 (C21/0399/14/CR) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Datblygu parc gwyliau a hamdden i gynnwys 173 o borthdai gwyliau; 51
fflatiau gwyliau newydd eu hadeiladu; newid defnydd adeilad i 4 fflat gwyliau;
adeiladu canolbwynt hamdden; ad-drefnu ac adnewyddu unedau diwydiannol;
darpariaeth ar gyfer gwaith trin dŵr preifat; a meysydd parcio
cysylltiedig, tirlunio, mynediad a ffyrdd mynediad mewnol. AELODAU LLEOL:
Cynghorydd Gareth Wyn Griffith a’r Cynghorydd Ioan Thomas Dolen i'r dogfennau
cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod – rhesymau
Cofnod: Datblygu parc gwyliau a hamdden i gynnwys 173 o borthdai gwyliau; 51
fflatiau gwyliau newydd eu hadeiladu; newid defnydd adeilad i 4 fflat gwyliau;
adeiladu canolbwynt hamdden; ad-drefnu ac adnewyddu unedau diwydiannol;
darpariaeth ar gyfer gwaith trin dŵr preifat; a meysydd parcio
cysylltiedig, tirlunio, mynediad a ffyrdd mynediad mewnol.
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a) Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn un ar gyfer
datblygu parc gwyliau a hamdden. Eglurwyd bod y cais wedi ei rannu’n ddwy ran -
yn gynnwys cyn safle ffatri Ferodo a safle Plas Brereton. Nodwyd bod y safleoedd wedi eu lleoli ar lan y
Fenai rhwng Caernarfon a’r Felinheli, gyda llwybr beics Lôn Las Menai yn rhedeg
drwyddynt gan ffurfio cyswllt presennol ar droed/beic rhwng y ddau safle.
Ategwyd bod rhan uchaf y safleoedd yn ffinio gyda’r briffordd A487 sy’n rhedeg
o Gaernarfon i’r Felinheli. Adroddwyd bod y safle yn ffinio gyda pharth llifogydd
C2 ar lan y Fenai fel y diffinnir ar
fapiau cyngor datblygu mewn cyswllt a NCT 15 Datblygu a Pherygl
Llifogydd. Mae'r safle yn rhannol o fewn Safle Bywyd Gwyllt Rhanbarthol Plas Brereton gyda nifer o goed ar y safle wedi eu gwarchod gan
Gorchymyn Gwarchod Coed TPO0137: Ferodo, Caernarfon a
TPO0078 Bangor Road, Caernarfon. Nodwyd bod dau adeilad Rhestredig Gradd II
Plas Tŷ Coch a Bwa Brics Fferm Tŷ Coch wedi eu lleoli 60m i’r de o’r
safle gyda Pharc a Gardd Neuadd Llanidan (wedi ei restru gradd II*) wedi ei lleoli gyferbyn a safle Ferodo, ar Ynys Môn. Lleoli’r safle oddeutu 1km i’r dwyrain
o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn gydag Ardaloedd Cadwraeth
Arbennig Y Fenai a Bae Conwy wedi ei leoli yn union i’r Gogledd Ddwyrain o’r
safle. Datblygiad safle Plas Brereton
yn cynnwys yr isod: ·
Dymchwel
adeiladau'r hen stablau a coetsdy ·
Trosi Plas Brereton i 4 uned gwyliau (3 un ystafell wely ac un 3
ystafell wely) ·
Gosod 18 caban
gwyliau ·
Torri a gwaith
coed ·
Defnyddio ffyrdd
presennol o fewn y safle a darparu rhai ffyrdd newydd Nodwyd bod adeilad
y ‘boathouse’ oedd yn destun newid defnydd ar gyfer
caffi wedi ei dynnu allan o’r cais erbyn hyn. Datblygiad
safle cyn ffatri Ferodo yn cynnwys yr isod: · Dymchwel rhan o adeiladau'r ffatri bresennol · Adnewyddu adeiladau ar gyfer darparu 9 uned ar gyfer
defnydd masnachol (nid yw’r defnydd yn gwbl glir ond deallir y bydd yn disgyn o
fewn dosbarthiadau defnydd B1/B2) gyda pharcio cysylltiol · Codi adeilad hwb tri llawr newydd sy’n cynnwys 51 uned
gwyliau 1 a 2 ystafell wely ynghyd a chyfleusterau hamdden gan gynnwys parc
dwr, cyfleusterau bowlio, man chwarae medal i blant, bwyty, caffi, bwyd cyflym,
siop a pharth iechyd a lles. · Darparu 155 caban gwyliau · Torri a gwaith coed · Darparu ffyrdd newydd · Defnyddio’r maes parcio presennol ar gyfer defnydd
cyhoeddus i bobl nad ydynt yn breswylwyr ddefnyddio’r adeilad hwb newydd Tynnwyd sylw at y
dogfennau a gyflwynwyd yn cefnogi’r cais Nodwyd fod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Newid defnydd tir amaethyddol i barc
carafanau teithiol arfaethedig (40rh llain) gan gynnwys bloc amwynderau, trac
mynediad a mynedfa AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio fel bod modd trafod cynlluniau diwygiedig yn
ymwneud a’r fynedfa Cofnod: Newid defnydd tir
amaethyddol i barc carafanau teithiol arfaethedig (40rh llain) gan gynnwys bloc
amwynderau, trac mynediad a mynedfa Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn un ar gyfer newid defnydd tir
amaethyddol, oddeutu 1/3 o gae pori presennol,
i barc carafanau teithiol. Byddai’r gwaith yn cynnwys : ·
40 llain gwair anffurfiol yn mesur o leiaf 8m x 8m ·
Ffordd fynediad 3.6m o led wedi ei greu o gerrig mâl yn ffurfio
rhwydwaith unffordd trwy’r safle - fe fyddai hefyd llecyn ar gyfer gwefru ceir
trydan. ·
Gofod chwarae diogel yng nghanol y safle. ·
Bloc amwynderau yn darparu toiledau, cawodydd a chyfleusterau golchi - fe
fyddai hwn yn adeilad pren gyda tho fflat, 11.4m x 6.8m o arwynebedd llawr a
2.6m o uchder. ·
Creu clawdd newydd ar hyd ffin orllewinol y safle - fe fydd hwn wedi ei
ffurfio o 2m o bridd gyda phlanhigion gwrych brodorol wedi eu plannu arno. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli mewn cefn gwlad
agored oddeutu 1.1km i’r gorllewin o glwstwr Llannor fel y'i diffinnir gan
Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn; oddeutu 300m ar hyd
ffordd, sy’n rhannol breifat a rhannol ddi-ddosbarth, o briffordd yr A497 sy’n
arwain o Bwllheli i Nefyn. Tynnwyd
sylw at sylwadau’r Uned
Bioamrywiaeth oedd yn nodi bod sawl cofnod o adar sydd wedi’i restru o dan
adran 7 Deddf yr Amgylchedd (2016) ar neu yn agos at y safle ac awgrymwyd bod
yr ymgeisydd yn darparu Asesiad Ecolegol Cychwynnol o’r safle. Amlygwyd pryder
hefyd ynghylch effaith gwella’r mynediad i’r safle ar y coed a gwrychoedd
gerllaw. Adroddwyd nad oedd gwybodaeth ynghylch y materion hyn wedi eu
derbyn gan yr ymgeisydd fodd bynnag,
ystyriwyd, drwy osod amodau ar gyfer sicrhau mesurau lliniaru priodol, y gall y
cynnig fod yn dderbyniol o safbwynt ei effaith bioamrywiaeth ac y gellid, yn y
pendraw, fodloni gofynion polisi PS 19. Mewn ymateb i sylwadau gwreiddiol yr Uned Trafnidiaeth, cyflwynwyd cynhigion pellach ar gyfer sicrhau y gellid cael mynediad diogel at y safle. Fodd bynnag, er gwaetha’r gwelliannau a gynigiwyd, roedd yr Uned Trafnidiaeth yn parhau i fod â phryderon â’r cynllun. Ystyriwyd bod y datblygiad yn debygol o ddenu mwy o draffig ar hyd y ffordd gul at y safle ac, er yn cydnabod y bwriad o gyflwyno man pasio ychwanegol ar y ffordd ddi-ddosbarth yn ogystal â chyflwyno marciau ffordd ar ei gyffordd gyda’r ffordd breifat, roedd y pryder ynghylch diffyg gwelededd ar y gyffordd, rhwng y ffordd ddi-ddosbarth a’r A497 yn parhau. Nid oedd y cynigion a wnaethpwyd megis torri’r gwrych ar yr A489 ger y gyffordd i uchder o 1.1m am 100 lath i gyfeiriad Nefyn, yn ddigonol i oroesi problemau diogelwch o ganlyniad i ddiffyg gwelededd ar y ffordd sy’n llawer is na’r safonau delfrydol. Amlygwyd bod y Gwasanaeth bellach wedi derbyn cynllun diwygiedig ar gyfer y gyffordd a bod yr argymhelliad bellach i ohirio’r penderfyniad fel bod modd trafod y cynlluniau hyn gyda’r ymgeisydd. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C21/0573/33/LL Nant, Boduan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YE PDF 327 KB Lleoli 5 pod
pren ar gyfer gwersylla tymhorol, codi uned gawod / toiledau, gosod gwaith trin
carthion domestig a gwaith tirlunio. AELOD LLEOL:
Cynghorydd Anwen J Davies Dolen
i'r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio fel bod modd trafod ac
asesu’r wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd Cofnod: Lleoli
5 pod pren ar gyfer gwersylla tymhorol, codi uned gawod / toiledau, gosod
gwaith trin carthion domestig a gwaith tirlunio Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei dderbyn
gan yr ymgeisydd
ynghyd a chais i ohirio’r penderfyniad
fel bod modd trafod materion mynedfa ac ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â’r system garthffosiaeth b)
Cynigiwyd ac eiliwyd
gohirio’r cais PENDERFYNWYD gohirio fel bod modd trafod ac asesu’r
wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd |
|
Cais ar gyfer
newid defnydd tir i faes carafanau teithiol 19 uned gan gynnwys darparu adeilad
toiledau a chawod, trac a lle chwarae o fewn y safle AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies Dolen
i'r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio fel bod modd cynnal trafodaethau pellach gyda'r
ymgeisydd Cofnod: Cais ar gyfer newid defnydd tir i faes carafanau
teithiol 19 uned gan gynnwys darparu adeilad toiledau a chawod, trac a lle
chwarae o fewn y safle Tynnwyd sylw at y ffurflen
sylwadau hwyr a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar
gyfer datblygu maes carafanau teithiol newydd. Byddai’r bwriad yn cynnwys
defnyddio cae amaethyddol ar gyfer gosod 19 carafán deithiol, adeilad toiledau,
gwella mynedfa bresennol a gwaith tirlunio ar hyd clawdd / gwrych presennol.
Disgrifiwyd y cae ble bwriedir lleolir y carafanau teithiol fel un gweddol
wastad gyda’r unedau wedi ei gosod ar hyd y terfyn gogledd dwyreiniol a de
ddwyreiniol y safle. Eglurwyd bod yr
egwyddor o greu safle carafanau teithiol wedi ei selio ym Mholisi TWR5 o’r CDLl
lle caniateir y fath ddatblygiadau os gellid cydymffurfio gyda’r meini prawf. Nodwyd bod y cynllun yn dangos bod yr unedau teithiol
wedi eu lleoli ar hyd terfyn gogledd dwyreiniol a de ddwyreiniol cae ble mae
coed a gwrychoedd yn bodoli ar hyn o bryd; sylweddolir y byddai'r llys dyfiant
hwnnw yn creu sgrin er lleihau effaith y bwriad ar y tirlun, fodd bynnag, nid
yw llystyfiant o’r fath yn nodwedd barhaol a byddai eu trin, torri neu ladd yn
creu safle amlwg iawn o’r ffordd sirol gyfochrog ac yn amharu yn sylweddol ar y
tirlun. Sylweddolir bod yr ymgeisydd wedi datgan bodlonrwydd i dewychu a
chryfhau'r gwrychoedd presennol drwy blannu ychwanegol. Er hynny, ni ystyriwyd
y byddai hynny yn creu mesurau digonol na pharhaol i gyfarfod amcanion y
polisi. Yn dilyn derbyn sylwadau cychwynnol gan yr Uned
Bioamrywiaeth derbyniwyd asesiad ecolegol rhagarweiniol. Amlygwyd bod yr Uned
Bioamrywiaeth wedi darparu sylwadau pellach yn cadarnhau'r angen am asesiad
ecolegol llawn oherwydd effaith cronnus datblygiadau eraill ar y safle a’r
gwaith lefelu tir diweddar. Nid oedd yr adroddiad ecolegol yn ymateb i bryderon
y Cyngor o ran effaith ar goed na
chyfiawnhau datblygiad o dan PAMG 6 o warchod safleoedd bywyd gwyllt. Ar sail yr asesiad a sylwadau hwyr yr Uned
Bioamrywiaeth, ystyriwyd bod y bwriad yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu
Lleol oherwydd effaith weledol y datblygiad, diffyg gwybodaeth er mwyn asesu’r
effaith ar fioamrywiaeth a choed a diffyg cyfiawnhad am ddatblygu safle bywyd
gwyllt. b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol: ·
Bod yr ymgeisydd yn
wreiddiol o Swydd Stafford ac wedi symud i Gymru yn Rhagfyr 2020 ar ôl prynu
Gefail Y Bont. Wedi treulio blynyddoedd lawer ar wyliau yng Ngogledd Cymru ond
erbyn hyn wedi gwneud y penderfyniad i symud yma yn barhaol. ·
Bod datblygiad y safle
yn cynnwys cyflogi contractwyr lleol i adeiladu bloc toiledau a chawodydd ynghyd
a phlannu coed, codi ffensys ac adeiladu waliau cerrig newydd ·
Bod y datblygiad, os
caiff ei gymeradwyo, yn cyflogi 3 aelod staff lleol llawn amser ar gyfer
glanhau, cynnal a chadw a derbyn archebion ·
Y safle mewn lleoliad
delfrydol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2023. · Y safle wedi'i leoli mewn lleoliad gwych, yn ddelfrydol i deuluoedd dreulio amser yn gweld adar, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Newid defnydd yr
adeilad i ddefnydd cymysg o siopau ar y llawr daear a chreu 6 uned gwyliau
hunan-gynhaliol ar y lloriau uchod AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas Dolen
i'r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu - amodau
Nodyn: Datblygwr i drafod posibiliadau cynnig tocyn parcio lleol i ddefnyddwyr yr adeilad gyda'r Gwasanaeth Trafnidiaeth Cofnod: Newid defnydd yr adeilad i
ddefnydd cymysg o siopau ar y llawr daear a chreu 6 uned gwyliau hunangynhaliol
ar y lloriau uchod a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd i newid defnydd adeilad sydd yn gyn
clwb cymdeithasol i ddefnydd cymysg o swyddfa ar y llawr daear a 6 uned gwyliau
hunangynhaliol ar y lloriau uchod. Bwriedir rhannu’r gofod llawr daear i un
siop gydag ystafell i storio, cegin a thoiled i’r staff a'r rhan arall yn
swyddfa gyda chegin a thoiled . Bwriedir creu dwy fynedfa newydd i’r ddwy uned
newydd. Aseswyd egwyddor y bwriad yn erbyn
polisi TWR 2 “Llety gwyliau o’r Cynllun Datblygu Lleol lle caniateir cynigion
sydd yn ymwneud a darparu llety gwyliau hunan wasanaeth cyn belled fod y bwriad
yn cydymffurfio a chyfres o feini prawf i. Yn achos llety sy’n adeilad newydd,
bod y datblygiad wedi ei leoli tu mewn i ffin datblygu, neu’n gwneud defnydd o
safle addas a ddatblygwyd o’r blaen; ii. Bod graddfa’r datblygiad arfaethedig
yn briodol gan ystyried y safle, y lleoliad a/neu’r anheddiad dan sylw; iii. Na fydd y bwriad yn arwain at golled yn
y stoc tai parhaol; iv. Nad yw’r datblygiad yn cael ei leoli
mewn ardal sy’n ardal breswyl yn bennaf, neu’n peri niwed sylweddol i gymeriad
preswyl ardal; v. Nad yw’r datblygiad yn arwain at ormodedd o lety o’r fath yn
yr ardal.” Wrth ystyried gormodedd
llety nodwyd na roddir ystyriaeth ffafriol i geisiadau ar gyfer llety gwyliau
hunanwasanaeth pan fo cyfuniad o’r nifer presennol o lety gwyliau ac ail
gartrefi o fewn ardal y Cyngor Cymuned/Tref/Dinas yn uwch na 15%. Defnyddiwyd
gwybodaeth Treth Cyngor fel ffynhonnell
wybodaeth ac o’r wybodaeth fwyaf
diweddar nodwyd bod cyfuniad o lety gwyliau ac ail gartrefi yng Nghyngor Tref
Caernarfon yn 1.31% sydd ymhell o dan y trothwy a nodi’r yn y canllaw. O
ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor. Yng nghyd-destun adfer
adeilad sydd
yn adeilad trawiadol o fewn y strydlun ac o fewn muriau’r dref, ystyriwyd y
byddai'r gwaith yn welliant sylweddol ac yn cwrdd â gofynion polisi PS 20 ac
eraill. Er yn adeilad rhestredig gradd 2, nid oes nodweddion gwreiddiol yn
parhau o fewn yr adeilad ac nid oes llawer o ffabrig hanesyddol i’w golli drwy
drosi'r adeilad heb law am y ffenestri sydd eisoes yn cael sylw priodol. Amlygwyd nad oedd
darpariaeth parcio gyda'r bwriad ac nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw
wrthwynebiad dros y bwriad oherwydd ei leoliad o fewn tref ble mae cyfyngiadau
parcio ar y strydoedd eisoes yn bodoli, bod meysydd parcio o gwmpas y safle ynghyd a chludiant
cyhoeddus. b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Bod
y safle yn amlwg o fewn Hen Dref Caernarfon ·
Yn
adeilad rhestredig a godwyd tua 1820 fel neuadd farchnad yn wreiddiol ond erbyn hyn mewn
perygl o ddirywiad pellach a difrifol · Wedi bod yn wag ers ymhell dros ddegawd a bellach mewn cyflwr difrifol iawn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Addasiadau mewnol
ac allanol i drosi'r adeilad yn siopau a defnydd unedau gwyliau AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol
gyfeirio’r cais at CADW gydag argymhelliad i ganiatáu. Amodau
Cofnod: Addasiadau
mewnol ac allanol i drosi'r adeilad yn siopau a defnydd unedau gwyliau a)
Amlygodd
y Rheolwr Datblygu bod y cais yn ymwneud a’r un adeilad yn y cais blaenorol ond
yn ymateb i elfennau’r gwaith ffisegol sydd angen caniatâd cynllunio.
Cyfeiriwyd at baragraff 5.13 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 24: Yr Amgylchedd
Hanesyddol y dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried y materion canlynol: ·
Pwysigrwydd
a gradd yr adeilad a’i ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol cynhenid ·
Nodweddion
ffisegol yr adeilad sy’n cyfiawnhau ei restru ac yn cyfrannu at ei arwyddocâd,
gan gynnwys unrhyw nodweddion pwysig, megis y tu mewn i'r adeilad, a all fod
wedi dod i’r amlwg ar ôl i’r adeilad gael ei gynnwys ar y rhestr ·
Cyfraniad
cwrtil a lleoliad yr adeilad at ei arwyddocâd, yn ogystal â chyfraniad yr
adeilad at yr olygfa leol ·
Effeithiau’r
gwaith arfaethedig ar arwyddocâd yr adeilad ·
I
ba raddau y byddai’r gwaith yn dod a manteision cymunedol sylweddol, er
enghraifft drwy gyfrannu at economi’r ardal neu at wella ei hamgylchedd lleol. Adroddwyd, gyda’r
adeilad wedi gweld gymaint o newid dros amser nad oedd nodweddion gwreiddiol yn
parhau o fewn yr adeilad ac nad oedd llawer o ffabrig hanesyddol i’w golli drwy
drosi'r adeilad, heb law am y ffenestri sydd eisoes yn cael sylw priodol.
Nodwyd fod y Gymdeithas Henebion Hynafol a’r Gymdeithas Fictorianaidd
yn adlewyrchu hyn yn eu sylwadau.. Nododd y Gymdeithas Fictorianaidd
hefyd bryder dros sut y byddai’r llawr newydd ar yr ail lawr yn cael effaith ar
y ffenestri presennol, gan y byddai’r llawr yn mynd ar draws y ffenestri. Erbyn
hyn, mae’r cynlluniau wedi eu haddasu yn dilyn derbyn y sylwadau a chynnal trafodaethau ac y byddai’r llawr gyda llethr
arno oddi wrth y ffenestr yn lleihau’r effaith gweladwy. Ystyriwyd y byddai'r gwaith o adfer yr adeilad sydd yn
adeilad trawiadol o fewn y strydlun a hefyd o fewn muriau’r dref yn welliant
sylweddol ac yn cwrdd â gofynion y polisiau perthnasol ac yn dderbyniol i'w ganiatáu. b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol: ·
Mai
materion cynlluniau rhestredig oedd dan sylw yma ·
Dim
llawer o nodweddion penodol ar ôl ·
Ei
fod yn derbyn sylwadau’r Gymdeithas Fictorianaidd ·
Y
cynllun yn rhoi bywyd newydd i hen adeilad o fewn y dref c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais PENDERFYNWYD
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol gyfeirio’r cais at CADW gydag
argymhelliad i ganiatáu. Amodau 1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad y
cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y
caniatâd. 2. Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy
hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif D794.06P2, D794.07P2, D794.08P2, D794.09P2,
D794.10P2, D794.11P2, D794.12P2, D794.13P2, D794.14P2, D794.15P2, D794.16P2,
D794.17P1, D794.18P1, D794.19P1 a D794.20P1 a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio
Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill
gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi
ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn. 3. Rhaid i unrhyw ffenestri amnewidir ar yr adeilad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif C21/0803/11/LL Railway Institute Ffordd Euston, Bangor, Gwynedd, LL57 2YP PDF 385 KB Codi 25 uned
fforddiadwy, mynedfa, cyfleusterau parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig AELOD LLEOL: Cynghorydd
R Medwyn Hughes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb o
dan adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth llecynnau
agored ac i’r amodau isod: -
Nodyn: Angen cyflwyno cais
system ddraenio cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor. Cofnod: Codi 25 uned
fforddiadwy, mynedfa, cyfleusterau parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd
ar gyfer darparu 25 uned fforddiadwy ar ffurf fflatiau hunangynhaliol, mynedfa
newydd, ffurfioli a darparu 13 llecyn parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig ar
gyn safle’r Railway Institute ar Ffordd Euston oddi fewn i ffin datblygu Bangor fel y’i cynhwysir
yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 (CDLL). Nid yw wedi ei
ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd penodol. Cydnabyddi’r
Bangor fel Canolfan Gwasanaeth Trefol ym Mholisi TAI1
gyda pholisi PCYFF1 yn cefnogi datblygiadau tai er mwyn cwrdd â Strategaeth y
CDLL (Polisi PS17) drwy ddynodiadau tai a safleoedd ar hap addas o fewn y ffin
datblygu wedi ei selio ar y ddarpariaeth ddangosol a gynhwysir o fewn y CDLL ei
hun. Adroddwyd bod Bangor, trwy gwblhau'r banc
tir presennol, yn cyrraedd ei lefel twf dangosol o 969 uned ac mewn
amgylchiadau o’r fath bydd ystyriaeth yn cael ei roi i’r unedau sydd wedi eu
cwblhau hyd yma o fewn haen y Prif Ganolfannau ble mae diffyg o 371 o unedau. O
dan y fath amgylchiadau cyflwynwyd y wybodaeth isod gyda’r cais yn amlinellu
sut mae’r bwriad yn cyfarch anghenion y gymuned leol. ·
Darpariaeth o 25 uned breswyl 100%
fforddiadwy ar safle tir llwyd hygyrch oddi fewn i’r ffin datblygu ·
Er bod ffigyrau capasiti
ar gyfer Bangor wedi eu cyrraedd mae’r gymysgedd o unedau a fwriedir eu darparu
yma yn seiliedig ar ffigyrau galw am anghenion lleol ar gyfer yr ardal leol ac
yn hyblyg eu daliadaeth gan fod y cynllun yn cael ei gyflawni gyda chymorth
Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac o’r safbwynt yma bydd yr holl
unedau yn destun lefel rhent cymdeithasol. ·
Fel y dangosir yn y CCA: Cymysgedd tai
(2018) bydd galw am unedau 1 a 2 ystafell wely ar rent cymdeithasol yn cynyddu
gyda’r galw am unedau 1 ystafell wely yn cynyddu o 13% i 26% a’r galw am unedau
dwy ystafell wely yn cynyddu o 32% i 44%. Mae hefyd yn dangos bydd y galw am
unedau rhent cymdeithasol 3 ystafell wely yn gostwng o 50% i 23%. ·
Bydd yr unedau yn cael eu dylunio i
ofynion Safonau Ansawdd Cartrefi Cymru (2021) Eglurwyd bod y bwriad yn golygu darparu
100% uned breswyl fforddiadwy gyda Pholisi TAI15 yn datgan gan fod Bangor wedi
ei leoli tu mewn i ardal pris tai Arfordir Gogledd a De Arfon yn y CDLL, bod
darparu 20% o dai fforddiadwy yn hyfyw sy’n gyfystyr a darparu 5 uned
fforddiadwy yng nghyswllt y cais hwn. Gan fod y bwriad yn golygu darparu 100% o
unedau fforddiadwy, a bod angen ar gyfer y math yma o unedau, roedd y bwriad yn
bodloni gofynion Polisi TAI15 o’r CDLL. Ystyriwyd fod safle’r cais yn safle a ddatblygwyd o’r blaen (tir llwyd) yn addas ar gyfer defnydd preswyl mewn ardal sydd yn cynnwys anheddau preswyl o ddwysedd uchel ac sy’n hygyrch i ddulliau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |