Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth Morris Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion
protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd
yr aelodau canlynol eu bod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Huw Rowlands yn eitem 5.1
(C22/0038/22/LL) ar y rhaglen
oherwydd ei fod yn adnabod
yr ymgeisydd ·
Y Cynghorydd
Gruffydd Williams yn eitem
5.1 (C22/0038/22/Ll) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn
adnabod yr ymgeisydd a’r gwrthwynebydd a 5.8
(C20/0102/33/LL) oherwydd bod ei
dad yn berchen maes carafanau cyfagos ·
Y Cynghorydd
Cai Larsen yn eitem 5.3
(C22/0223/15/LL) ar y rhaglen
oherwydd bod ei ferch yn byw
gerllaw’r safle Roedd yr Aelodau o’r farn
ei fod yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu
a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar y cais b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a
nodir: ·
Y
Cynghorydd Peter Thomas (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.1 (C22/0038/22/LL) ar y rhaglen ·
Y
Cynghorydd Kim Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.3 (C22/0223/15/LL) ar y rhaglen ·
Y
Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.5 (C21/0573/33/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Cai Larsen (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn0, yn eitem 5.9
(C21/1111/14/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.
Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas
â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
Ymestyn trac dan gyfeirnod cais C21/1155/22/YA am bellter o 15 medr i'r gogledd o'r fynedfa bresennol ynghyd ác adeilad pont i groesi'r cwrs dwr - Lon Tyddyn Agnes, Llanllyfni AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Thomas Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r
amodau isod: - 1. 5 mlynedd. 2. Yn unol â’r manylion a
gyflwynwyd gyda’r cais. 3. Cyflwyno cynllun plannu
coed i’w ganiatáu’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. 4. Cwblhau’r datblygiad yn
unol gydag argymhellion yr adroddiad ecolegol. Nodyn parthed yr angen i dderbyn caniatâd yr Uned
Drafnidiaeth i ymgymryd â gwaith o fewn y briffordd. Nodyn parthed y cyngor a gyflwynwyd gan Uned Dwr ac
Amgylchedd y Cyngor. Cofnod: Ymestyn trac dan gyfeirnod cais C21/1155/22/YA am bellter o 15 medr i'r
gogledd o'r fynedfa bresennol ynghyd ac adeilad pont i groesi'r cwrs dwr - Lon Tyddyn Agnes,
Llanllyfni Gohiriwyd y cais ym
Mhwyllgor Cynllunio 13 Mehefin 2022 er mwyn gwybyddu un o’r gwrthwynebwyr oedd yn dymuno
siarad yn y Pwyllgor ynghyd a chynnal ymweliad safle. Roedd rhai o’r
Aelodau wedi ymweld â’r safle 04/07/22 er mwyn ymgyfarwyddo
gyda gosodiad a chyd-destun y bwriad o fewn yr amgylchedd lleol. a) Amlygodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais
llawn ydoedd ar gyfer ymestyn
y trac amaethyddol a ganiatawyd
o dan gais hysbyseb cymeradwyaeth ymlaen llaw rhif C21/1155/22/YA am bellter o 15m o’r fynedfa bresennol ynghyd ag adeiladu pont i groesi’r
cwrs dwr oddi ar ffordd
sirol ddi-ddosbarth Lon Tyddyn Agnes yng nghymuned Llanllyfni. Lleolir y trac arfaethedig ar dir sy’n
rhan o ddaliad amaethyddol Fferm Taldrwst. Saif yng nghefn gwlad agored gyda’r rhan
yma o’r dirwedd
o laswelltir wedi ei wella yn
cael ei ddefnyddio
i ddiben pori da byw. I gefnogi’r cais, cyflwynodd yr ymgeisydd Arolwg Ecolegol Rhagarweiniol ynghyd a Datganiad Cynllunio oedd yn cyfeirio at nifer o elfennau’r cais. Eglurwyd bod y cais diweddaraf
hwn wedi ei gyflwyno i
ymestyn y trac amaethyddol
am bellter o 15m i’r gogledd o’r fynedfa
a ganiatawyd eisoes ar sail fod y fynedfa
newydd wedi ei leoli o fewn
25m i ffordd sirol dosbarth III (Lon Ddŵr). Y rhesymeg y tu ôl i’r
cais diweddaraf hwn yw byddai
creu mynedfa yn agosach i’r
gyffordd yn galluogi i loriau
fynd i mewn
ac allan o’r safle heb rwystr
ac i osgoi difrodi wyneb y ffordd sirol ddi-ddosbarth.
Byddai hefyd yn ymateb i
drafodaethau gyda’r Uned Drafnidiaeth parthed dirywiad y ffordd sirol ddi-ddosbarth
(Lon Tyddyn Agnes) a dymuniad
yr Uned i dynnu pwysau loriau
trymion oddi ar y ffordd. Yng nghyd-destun hanes
y rhan yma o’r daliad amaethyddol,
ystyriwyd bod yr egwyddor o
gysylltu'r twll chwarel gyda’r rhwydwaith ffyrdd lleol at ddibenion amaethyddol yn dderbyniol a bod yr egwyddor o’r fath fwriad
eisoes wedi ei dderbyn pan ganiatawyd yr hysbysebion blaenorol. Ni ystyriwyd fod y bwriad yn
groes i bolisïau
lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater
cynllunio perthnasol yn gorbwyso’r ystyriaethau
polisi hyn. O ganlyniad, ystyriwyd fod
y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig
ar gynnwys amodau priodol. b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau
canlynol: ·
Bod nifer o lythyrau wedi eu cyflwyno
yn gwrthwynebu’r cais ·
Y cais yn groes
i faterion amgylchedd a diogelwch y cyhoedd ·
Adroddiad Bioamrywiaeth yng nghais 2017 yn mynegi’n glir bod rhywogaethau prin angen eu gwarchod
– dim pryderon y tro hwn? ·
Bod y lon yn gul
ac yn anaddas i bwrpas ·
Bod damwain ddifrïol wedi bod ar y lon
gyda chymydog yn dioddef anafiadau
newid bywyd - wedi hysbysu a rhybuddio’r Uned Trafnidiaeth y byddai damwain yn anochel · Bod y lon ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C22/0200/14/DT Clegyr, 11 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1LL PDF 396 KB Estyniad
unllawr a deulawr, newidiadau mewnol ac ail fodelu eiddo presennol. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu
gydag amodau 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol a’r cynlluniau 3.
Llechi to 4. Deunyddiau i weddu. Nodyn: I ddiogelu rhywogaethau gwarchodedig – ystlumod Cofnod: Estyniad unllawr a deulawr, newidiadau mewnol ac ail fodelu eiddo presennol. Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais
llawn ydoedd i adeiladu estyniad
deulawr ochr ac estyniad cefn ynghyd
â mân newidiadau i edrychiadau allanol
i dŷ annedd presennol. Eglurwyd bod yr eiddo wedi ei leoli
ar blot gornel rhwng Ffordd Menai
a Cae Gwyn o fewn ardal breswyl o fewn ffiniau Tref Caernarfon ac yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio gan fod yr ymgeisydd
wedi datgan perthynas teuluol agos i Aelod Etholedig b)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais c)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan
aelod: ·
Na fyddai’r cais yn
dod gerbron Pwyllgor oni bai am y cyswllt gydag Aelod Etholedig PENDERFYNIAD Caniatáu gydag
amodau 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol a’r cynlluniau 3. Llechi to 4. Deunyddiau i weddu. Nodyn: I ddiogelu
rhywogaethau gwarchodedig – ystlumod |
|
Cais ar gyfer codi
byngalo dormer, lledu'r fynedfa bresennol ynghyd a darparu llecynnau parcio (ail-gyflwyniad o gais a wrthodwyd o dan cyfeirnod
C21/1140/15/LL) AELOD
LLEOL: Cynghorydd Kim Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau 1. 5 mlynedd. 2. Unol â
chynlluniau a gyflwynwyd. 3. Tynnu hawliau a
ganiateir. 4. Llechi a
deunyddiau. 5. Cwblhau'r
parcio cyn meddiannu 6. Amodau draenio
tir 7. Enw Cymraeg i’r
tŷ Cofnod: Cais ar gyfer codi
byngalo dormer, lledu'r fynedfa bresennol ynghyd a darparu llecynnau parcio
(ail-gyflwyniad o gais a wrthodwyd o dan gyfeirnod C21/1140/15/LL Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi
tŷ deulawr newydd yng ngardd cefn eiddo a adnabyddir fel Y Berllan sydd
wedi ei leoli yng nghanol pentref Llanberis. Nodwyd bod y cais yn
ail-gyflwyniad o gais cyffelyb a wrthodwyd yn Ionawr, 2022 a bod y cais
diweddaraf yma wedi ei alw i mewn gan yr Aelod Lleol oedd yn nodi bod y bwriad
diwygiedig, erbyn hyn, yn dderbyniol ar sail risg llifogydd a dyluniad. Nododd y Swyddog, er y byddai’r cais yn dderbyniol ar sail capasiti a’i fod wedi ei leoli o fewn y ffin datblygu,
ystyriwyd bod angen cydymffurfio gyda pholisïau eraill perthnasol o fewn y CDLL
- gofynion Polisi PCYFF 1 (ffiniau
datblygu) ynghyd a gofynion Polisi PCYFF 2 (meini prawf datblygu). Ystyriwyd
y byddai codi tŷ newydd 5.9m o uchder, 5m i ffwrdd o'r annedd bresennol yn
creu strwythur gormesol ar draul mwynderau deiliaid Y Berllan gan
greu awyrgylch clawstroffobia. Yn ogystal byddai lleoli annedd newydd yn
gyfagos i'r annedd bresennol yn tanseilio mwynderau deiliaid Y Berllan ar sail
aflonyddwch sŵn fyddai'n deillio o weithgareddau sy'n gysylltiedig â bywyd
modern a chyfoes ynghyd a symudiadau cerbydau i mewn ac allan o'r safle sydd yn
rhannu'r un fynedfa. Yn ogystal, byddai ei osodiad cyfochrog a'r Berllan ynghyd
a maint y tŷ yn creu strwythur anghydnaws a lletchwith ei gymeriad ar
draul mwynderau gweledol ac felly, er yn gais diwygiedig, yn parhau i fod yn
annerbyniol. Wedi ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd gan
drigolion lleol, ymgynghorwyr statudol ac ymateb yr ymgeisydd i bryderon blaenorol
risg llifogydd y bwriad, roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn nodi y byddai’r
bwriad diweddaraf yn amharu’n andwyol ar
fwynderau preswyl a chyffredinol deiliaid cyfagos a mwynderau gweledol y
strydlun. Argymhelliad y swyddogion oedd gwrthod y cais. b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol: ·
Cais ydoedd i adeiladu byngalo bach dwy
loft i’w mab a hithau fyw ynddo - dim i’w werthu nac
i’w osod fel Airbnb.
·
Yn enedigol o’r pentref gyda’i meibion
a’i hwyrion hefyd yn byw yn y pentref -
ei mab a’i wraig yn dibynnu arni i fynd a’r wyrion i’r ysgol bob bore
cyn mynd i’w gwaith ·
Y bwriad yw adeiladu yng ngardd Y Berllan (cartref ei rhieni). Y
Berllan yn cael ei werthu gyda phwy bynnag fydd yn ei brynu yn ymwybodol, os yn
llwyddiannus, bod caniatâd cynllunio yn yr ardd gefn. ·
Bod digonedd o le yn ffrynt Y Berllan a digon o le yn y cefn i
barcio 3-4 o geir a lle i droi rownd. ·
Cais am fyngalo bach yw’r bwriad ac nid
creu “strwythur ymwthiol fel sydd yn cael ei ddatgan gan y swyddogion. Y
cynllun yn debyg iawn i’r byngalo sydd eisoes mewn bodolaeth. · Ni fydd y bwriad yn creu aflonyddwch ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C22/0242/34/LL Tir ger Penlon, Clynnog Fawr, LL54 5PE PDF 507 KB Adeiladu ty
newydd a llecynnau parcio AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dafydd Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle Cofnod: Adeiladu tŷ
newydd a llecynnau parcio Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i godi
tŷ deulawr ar lain o dir ger Pen Lôn, o flaen anheddau a adnabyddir fel Y
Ficerdy a Clynnog House gydag annedd preswyl Tŷ
Isaf a Court Cottages at
gefn y safle o fewn ardal breswyl a ffin datblygu Clynnog Fawr. Ceir hefyd yma
fynediad cefn at Eglwys Beuno Sant sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y pum
tŷ presennol cyfagos. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yn union gerllaw
Adeiladau Rhestredig, wedi lleoli o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol (AHNE) a hefyd o fewn Ardal Cadwraeth. Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais gan yr aelod lleol. Cafodd cais
blaenorol ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ym Medi 2021, lle penderfynwyd
gohirio’r cais er mwyn trafod ffordd ymlaen a chyflwyno cynlluniau diwygiedig.
Tynnwyd y cais yn ôl a chyflwynwyd y cais presennol gyda’r unig newidiadau yn
cynnwys dwy ffenestr gromen yn y to ar yr edrychiad Gorllewinol. Wedi
ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a
chenedlaethol a’r sylwadau a dderbyniwyd, amlygwyd na ellid argymell caniatáu’r
cais oherwydd y methiant i fodloni gofynion polisïau TAI y CDLL sy’n ymwneud ag
addasrwydd y datblygiad i gydymffurfio â chymeriad yr anheddle ar ran ei faint
a graddfa a bod angen amddiffyn y llecyn agored rhag gor-ddatblygiad
er mwyn diogelu edrychiad a chymeriad yr ardal cadwraeth leol. b) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau
canlynol: ·
Bod y cynllun gyda sawl problem ·
Bod y cais yn orddatblygiad
mewn ardal cadwraeth ·
Yr ymgeisydd yn parhau i gyflwyno
cynlluniau ·
Adeiladau rhestredig o harddwch
eithriadol angen eu gwarchod ·
Bod y ffordd fynediad yn un sengl - angen i’r Uned Trafnidiaeth
wirio hyn ·
Bod 5 eiddo, mynediad Dŵr Cymru ac
Eglwys yma ·
Nad oes cyfeiriad at y cylfert wedi ei wneud ·
Gwagle o 1m yn unig fydd rhwng y bwriad
ac eiddo presennol ·
Goredrych ar anheddau cymdogion ·
Nad yw’r ymgeisydd yn byw yn lleol c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Brodor wedi ei eni a’i fagu
yn 25 Llwyn y De, Clynnog Fawr yw’r ymgeisydd a phan yn saith oed symudodd y teulu
i Aberdesach. Yn 1999 prynodd eiddo Penlôn yng Nghlynnog Fawr, sef bwythyn bach traddodiadol gyda gardd ar
wahân nepell o’r eiddo. Wedi pum mlynedd, ac oherwydd amgylchiadau personol,
gwerthwyd Penlôn
yn 2004 ond penderfynwyd dal gafael yn yr ardd gyda bwriad a gobaith o ail
ymgartrefu yn y pentref yn y dyfodol gan adeiladu tŷ newydd ar safle a
oedd eisoes yn eu meddiant ·
Y safle wedi ei leoli oddi mewn i ffin datblygu’r pentref ac oddi
mewn i ardal cadwraeth - Clynnog Fawr ei hun wedi ei leoli o fewn Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol · Cyfanswm arwynebedd y safle yw oddeutu 175m² gyda bwriad o adeiladu eiddo syml a chryno, dau lawr gydag ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C22/0182/30/DT Pelydryn, Aberdaron, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8BE PDF 392 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Estyniad unllawr a) Amlygodd y Rheolwr Datblygu
mai cais ydoedd ar gyfer codi estyniad unllawr ar
flaen tŷ unllawr. Adroddwyd y byddai’r
datblygiad yn cynnwys ymestyn modurdy presennol, sy'n ffurfio rhan integredig
o'r tŷ, 1.5m yn ei flaen. Byddai’r elfen newydd yma gyda tho brig, 3.8m o
uchder (1.2m yn is na brig to'r tŷ ei hun)
gyda drws garej ar ei flaen. Nodwyd bod yr eiddo yn un o res o dai ar wahân gerllaw ffordd ddosbarth
2 y B4413 mewn ardal anheddol o fewn ffin datblygu Pentref Arfordirol - Gwledig
Aberdaron fel y’i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd ac Ynys Môn; Yr
eiddo hefyd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig a Thirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor ar gais y cyn aelod lleol, y
Cynghorydd W Gareth Roberts, oedd yn gwrthwynebu cais ar sail effaith weledol y
datblygiad ar y strydwedd ac oherwydd pryderon
ynghylch yr effaith mwynderol ar gymdogion. Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF 3 y CDLL sy'n datgan bod disgwyl i bob cynnig
arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy'n rhoi llawn ystyriaeth i gyd-destun yr
amgylchedd adeiledig o gwmpas. Yn yr achos hwn, wrth ystyried graddfa, dyluniad
a deunyddiau'r estyniad, ystyriwyd mai
bychan iawn fyddai'r newid i edrychiad y safle o'i gymharu â'r tŷ
presennol ac na fyddai unrhyw niwed i ansawdd adeiledig yr eiddo'n deillio o'r
datblygiad. Nodwyd y gellid gosod amodau yn sicrhau bod y deunyddiau a
ddefnyddir yn gweddu gweddill y tŷ. Yn ogystal, adroddwyd, er y byddai peth cynnydd yn swmp yr adeilad
ynghyd ag ymestyniad o'r "llinell adeiladu" yn ei flaen ychydig, nid
oes unrhyw batrwm adeiladu pendant i ddatblygiadau yn yr ardal ac oherwydd mai
bychan yw’r newid a byddai’r cynnig yn parchu cyd-destun adeiledig y safle ac
yn gweddu gyda’r ardal o gwmpas. O ganlyniad, ystyriwyd bod y cynllun a
gyflwynwyd, oherwydd ei raddfa, deunyddiau a dyluniad, yn gweddu’n briodol
gyda'r eiddo presennol ac felly’n cydymffurfio gydag anghenion polisi PCYFF 3. Er bod y safle’n gorwedd o fewn yr AHNE, ac o ystyried ei leoliad
trefol, ni fyddai’r bwriad dan sylw yn effeithio ar gymeriad tirwedd yr
AHNE. Yn yr un modd ni ystyriwyd y bydd
niwed i'r Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol - y bwriad yn dderbyniol
dan ofynion Polisïau AMG 1 ac AT 1 y CDLl. b) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol: ·
Ei fod yn cytuno’n llwyr gyda sylwadau’r cyn Cynghorydd ·
Nid ‘angen’ i ehangu sydd yma ond perchennog yn dewis ymestyn ar
gyfer storio cwch a thractor yn ei ail dŷ. Addasiad ’yn ddymunol’ ar gyfer
‘hamddena’ - does dim ‘angen’ yma ·
4 byngalo rhwng capel ac ysgol – dyma’r
strydwedd ·
Byddai’r addasiad yn ddolur llygad - yn sefyll allan ac uchder y
to yn creu effaith ar fwynderau cymdogion gan gwtogi golau naturiol ·
Bod y capel wedi ei drosi gan gadw
cymeriad · Digon o siediau amaeth yn cynnig lloches i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif C21/0573/33/LL Nant, Boduan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YE PDF 331 KB Lleoli 5 pod pren ar gyfer
gwersylla tymhorol, codi uned gawod / toiledau, gosod gwaith trin carthion
domestig a gwaith tirlunio. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau
canlynol:
Nodyn - Gwasanaeth Tân, Cyfoeth Naturiol Cymru, Uned Draenio Tir Cofnod: Lleoli 5 pod pren ar gyfer gwersylla tymhorol, codi uned gawod /
toiledau, gosod gwaith trin carthion domestig a
gwaith tirlunio a) Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer lleoli 5 pod
pren ar gyfer gwersylla tymhorol ar lain o dir coediog ger Boduan. Byddai’r
gwaith yn cynnwys codi adeilad ar gyfer cawodydd / toiledau, gosod gwaith trin carthion a gwaith tirlunio. Amlygwyd bod y cais wedi ei
gyflwyno i bwyllgor 22 Tachwedd, 2021 a 21 Mawrth 2022 pryd y gohiriwyd gwneud
penderfyniad ar gais yr ymgeiswyr er mwyn caniatáu iddynt ddarparu rhagor o
wybodaeth i gefnogi eu cynnig. Adroddwyd bod y wybodaeth isod bellach wedi ei
ychwanegu at y cais. • Cynlluniau safle diwygiedig
gan gynnwys cynlluniau o fynedfa amgen • Asesiad ecolegol cychwynnol • Arolwg ansawdd coed • Cynllun diogelu coed Mynegwyd bod Polisi TWR 5 yn datgan y dylai safleoedd ar gyfer llety
gwersylla amgen dros dro a’r polisi yn gosod cyfres o feini prawf ar gyfer
caniatáu datblygiadau o’r fath.
Adroddwyd bod maen prawf 1 polisi TWR 5 yn datgan y dylai unrhyw
ddatblygiad arfaethedig fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac
edrychiad ac y dylai fod wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd
a / neu mewn lle gellir cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn
modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w hansawdd weledol. Ystyriwyd bod y bwriad arfaethedig wedi ei leoli mewn safle oedd yn
guddiedig o’r rhan fwyaf o welfannau cyhoeddus ac yn
safle sydd eisoes wedi ei blannu gydag oddeutu 1000 o goed gyda bwriad o
reoli’r coed trwy frysgoedio (coppicing).
Ategwyd nad oedd y safle o fewn yr AHNE ond fe saif o fewn yr Ardal Tirwedd
Arbennig. Oherwydd ffurfiant y tir a natur goediog y safle, ni ystyriwyd y
byddai’r datblygiad yn achosi niwed arwyddocaol i ansawdd y tirweddau dynodedig Ystyriwyd bod y cynnig yn cwrdd gyda’r anghenion ar gyfer datblygu safle
gwersylla tymhorol newydd fel y’i nodir ym Mholisi TWR 5 y CDLl
ac o osod amodau priodol yn sicrhau na ddefnyddir y fynedfa briffordd tua'r
gogledd (i'r A497) o gwbl at ddibenion y busnes ynghyd a chamau lliniaru ar
gyfer amddiffyn rhag llygredd a diogelu bioamrywiaeth, y byddai'r datblygiad yn cwrdd gyda gofynion
polisïau perthnasol y CDLl. a) Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Cais ydoedd i gael maes gwersylla bach o 5 pod
gwersylla wedi'u lleoli mewn coedwig hardd yng nghefn y tŷ. ·
Bod yr holl adroddiadau bioamrywiaeth bellach wedi cadarnhau bod y
coed sydd angen eu dymchwel yn rhai sydd ag afiechyd. Nad oedd bwriad clirio
coed ar gyfer y prosiect, dim ond bod angen iddynt ddod i lawr gan eu bod yn
beryglus ·
Wedi ystyried pod gwersylla amgen yn
hytrach na strwythur pren. Bydd yn haws i’w symud pan fydd angen ei storio ar
ddiwedd y tymor. · Bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymeradwyo’r system trin carthion fyddai’n welliant aruthrol i’r system tanciau septig sydd yno ar hyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif C21/0734/46/LL Tyddyn Isaf, Tudweiliog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8PB PDF 404 KB Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er
mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain, codi adeilad newydd i gynnwys
cawodydd/toiledau, holl lleiniau caled cysylltiedig, ail wynebu a mynediad AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Morris Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau
Cofnod: Cais llawn i
newid defnydd tir amaethyddol er mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain,
codi adeilad newydd i gynnwys cawodydd/toiledau, holl leiniau caled
cysylltiedig, ail wynebu a mynediad a) Cyflwynodd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ei adroddiad yn dilyn
cyfeirio penderfyniad Pwyllgor 13/06/22 i gyfnod o gnoi cil. Amlygwyd y risgiau i’r Cyngor o ganiatáu’r cais ynghyd ag opsiynau i’r
Pwyllgor. Roedd y swyddogion yn nodi’n glir fod rhinweddau’r cais wedi cael eu
hasesu yn drylwyr gan swyddogion y Cyngor oedd yn argymell yn gadarn fod y cais
yn cael ei wrthod gan nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau
mabwysiedig Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, canllawiau lleol a
chenedlaethol a pholisïau cynllunio cenedlaethol na’r Cynllun Rheoli AHNE. Nodwyd, er
y byddai’n debygol y gall peth tirlunio ychwanegol gyfrannu at gysgodi’r safle
i raddau dros amser, ni ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol gan fod caniatáu
datblygiadau newydd o fewn dynodiadau wedi eu gwarchod fel yr AHNE, yn gwbl
groes i egwyddorion cynllunio lleol a chenedlaethol a hefyd cynllun rheoli'r
AHNE. Hyd yn oed o geisio cyfiawnhau'r datblygiad o safbwynt materion
economaidd, mae’r polisïau a’r arweiniad yn glir yn nodi’r angen i warchod
tirlun o werth cenedlaethol fel a geir yma rhag datblygiadau pellach fyddai’n
effeithio ar fwynderau gweledol yr ardal. b) Roedd yr
Aelod Lleol, y Cynghorydd Gareth Tudor Jones, wedi ymddiheuro nad oedd yn gallu
bod yn bresennol. Darllenodd y Cadeirydd ei sylwadau: ·
Wedi defnyddio’r cyfnod ‘cnoi cil’ i
ail edrych, i ail ystyried ac i ail ddarllen yr holl ddogfennaeth oedd ynghlwm
â’r cais. ·
Wedi pwyso a mesur yn ofalus y dadleuon
o blaid ac yn erbyn ei fod yn gwbl dawel ei feddwl y dylid caniatau’r
cais a’i fod yn cefnogi barn y gymuned leol. ·
Cymdogion agosaf yn gwbl gefnogol i’r
cais a’r gymuned leol hefyd yn unfrydol o blaid maes carafanau. Felly hefyd
Cyngor Cymuned Tudweiliog. ·
Bod 317 o bobl wedi arwyddo deiseb gan
gynnwys perchnogion y Post a’r Lion yn Nhudweiliog sy’n gweld budd i’r economi leol. (Ni
chrybwyllir cymaint yw maint y ddeiseb yn yr adroddiad). ·
Does dim un llais yn gwrthwynebu ac mae hynny yn beth anarferol
iawn y dyddiau hyn gyda cheisiadau cynllunio ·
O safbwynt mater allweddol gwarchod yr amgylchedd, y dirwedd a’r
tirlun, mae ‘Cyfoeth Naturiol Cymru’ a swyddogion ‘AHNE’ yn fodlon cefnogi’r
cais ar yr amod y caiff y carafanau eu cuddio gyda chloddiau pridd a gwrychoedd
hyd y terfynau. ·
Bod teulu Tyddyn Isaf fel perchnogion
cyfrifol wedi dangos eu hymrwymiad diwyro a chlir i wella’r amgylchedd trwy
dalu am arbenigwr tirlunio rhyngwladol i forol y bydd y safle wedi’i dirlunio
yn effeithiol. Mae’n dirwedd heriol ond bod posib tyfu coed a gwrychoedd mewn
byr o dro a sicrhau na fydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar fwynderau
gweledol yr AHNE · Yn pwyso ar y Pwyllgor i ganiatau y cais. Ar adeg anodd o gynnydd mewn costau byw a’r economi wledig yn gwegian, dyma gyfle i roi dyfodol gwell i deulu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Cais Rhif C20/0102/33/LL Plas Yng Ngheidio, Ceidio, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YL PDF 256 KB Ymestyn
safle carafanau teithiol presennol i dir gerllaw trwy greu mynediad newydd o'r
safle gwersylla presennol, symud lleoliad un garafán deithiol ac ychwanegu 8
carafán deithiol newydd. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod – rhesymau
Cofnod: Ymestyn safle
carafanau teithiol presennol i dir gerllaw trwy greu mynediad newydd o'r safle
gwersylla presennol, symud lleoliad un garafán deithiol ac ychwanegu 8 carafán
deithiol newydd. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn ymwneud ag
ymestyn safle gwersylla presennol i dir amaethyddol cyfochrog sydd wedi ei
leoli yng nghefn gwlad agored ac o fewn Ardal Tirwedd Arbennig. Bwriedir creu llecynnau ychwanegol ar gyfer 8
carafán deithiol ynghyd a ffordd gyswllt fewnol newydd a llecyn ar gyfer
adleoli un garafán deithiol o’r safle presennol. Eglurwyd
bod y cais yn ddiwygiad o gais ar gyfer 8 pod
ychwanegol ar yr un safle a wrthodwyd ar 22/07/2019 (cais rhif C19/0090/33/LL)
Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod y safle o fewn perchnogaeth Aelod o’r
Cyngor. Mynegwyd
bod Polisi TWR 5 yn datgan y dylai unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd
fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad a’i fod wedi’i
guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid
cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed
sylweddol i’w hansawdd weledol. Amlygwyd
bod tir y cais ar lefel uwch na’r safle carafanau teithiol presennol ac er y
bwriedir cloddio lawr tua 1m yn y cae er mwyn lleoli’r carafanau ar y tir,
byddai rhan uchaf y carafanau’n parhau yn weladwy yn y dirwedd. Ni fyddai’r
gwaith tir a’r plannu yn debygol o fod yn ddigonol i guddio’r carafanau am rai
blynyddoedd, os o gwbl. Byddai datblygiad o’r natur a’r raddfa hwn felly yn debygol o
sefyll allan yn ymwthiol yn y tirlun gan achosi niwed arwyddocaol i ansawdd
gweledol y dirwedd. Wrth gydnabod y pwyntiau a wnaed gan yr ymgeisydd a gyflwynwyd yn y
wybodaeth ychwanegol, nid ydynt yn newid y ffaith bod y safle yn weledol yn y
dirwedd a byddai’r estyniad sydd dan sylw ar lefel uwch na’r safle carafanau
teithiol presennol ar y fferm. Ni
ystyriwyd y byddai'r estyniad i'r safle wedi’i guddio’n dda gan nodweddion
presennol y dirwedd ac ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn integreiddio yn dda
gyda’r hyn sydd o’i amgylch. O ganlyniad,
ystyriwyd y byddai’r bwriad yn gwneud dim i gynnal, gwella neu adfer
cymeriad cydnabyddedig yr Ardal Tirwedd Arbennig a bod y bwriad felly yn groes
i ofynion Polisi TWR 5, PCYFF 4 ac AMG 2 CDLL. b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant
yr ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Bod y fferm yn fferm teulu chwe chenhedlaeth ·
Bod rhaid ystyried arall gyfeirio ·
Y teulu wedi sefydlu parc bychan a
thaclus ·
Bwriad yw ymestyn y ddarpariaeth ac nid
creu parc o’r newydd ·
Bod cyfeiriad yn yr adroddiad am y
bwriad o ostwng lefel y tir, ond dim cydnabyddiaeth y bydd y cloddiau yn uwch c) Cynigwyd ac eiliwyd gwrthod y cais PENDERFYNWYD:
Gwrthod – rheswm 1. Ni fyddai'r datblygiad hwn wedi ei leoli o mewn lleoliad anymwthiol sydd wedi'i guddio'n dda gan nodweddion presennol y dirwedd, fe fyddai’n niweidiol i ansawdd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |
|
Cais i godi adeilad i storio dodrefn ardd
ynghyd â chodi adeilad cyfagos i arddangos a gwerthu dodrefn, ardal storio
agored ac estyniad i'r faes parcio cwsmeriaid presennol AELOD
LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle Cofnod: Cais i godi adeilad
i storio dodrefn ardd ynghyd â chodi adeilad cyfagos i arddangos a gwerthu
dodrefn, ardal storio agored ac estyniad i'r maes parcio cwsmeriaid presennol Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer
ymestyn canolfan arddio Fron Goch drwy godi adeilad i storio dodrefn ardd
ynghyd a gofod cyfagos i arddangos a gwerthu dodrefn, ardal storio agored.
Byddai'r adeilad yn mesur 46.2 medr o hyd (yn ei fan hiraf), 22.7 medr o led a
7.8 medr i ran uchaf y to yn gwneud cyfanswm o 977 medr sgwâr. Bwriedir hefyd
ymestyn y lle parcio ceir cwsmeriaid presennol ynghyd a chreu ardal storio yn
mesur 1452 medr sgwâr a leolir rhwng yr adeilad bwriededig
a therfyn newydd de orllewinol y safle. Gan fod defnydd manwerthu yn bodoli eisoes ar y
safle awgrymwyd y dylid ystyried egwyddor y bwriad yn erbyn Polisi MAN6
(Manwerthu yng nghefn gwlad). Yn unol â pholisi MAN6, caniateir cynigion ar gyfer
siopau ar raddfa fechan ac estyniadau i siopau presennol sydd tu allan i’r ffin
datblygu, cyn belled fod y bwriad yn cydymffurfio gyda meini prawf y polisi.
Amlinellir yn y maen prawf cyntaf y dylai’r
bwriad fod yn elfen israddol o fusnes presennol ar y safle. Datgan yr
eglurhad i Bolisi MAN 6 mai’r lleoliad mwyaf addas i siopau yw o fewn ffiniau
aneddiadau trefi a phentrefi. Fodd bynnag, gall siopau ar raddfa fechan sy’n
cael eu rhedeg ar y cyd a busnes sydd eisoes ar y safle yn debygol o ddarparu gwasanaeth
a chyflogaeth ddefnyddiol i gymuned wledig. Wedi pwyso a mesur y bwriad yng
nghyd-destun y polisïau perthnasol ni ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w
ganiatáu oherwydd bod lleoliad, dwysedd, y cynnydd mewn maint yn afresymol ac y
byddai'r bwriad yn cael effaith negyddol sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr
ardal sydd yn groes i sawl polisi. Yn ychwanegol nid yw’n glir os yw’r effaith
ar fioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol yn dderbyniol ac ni ystyriwyd fod cyfiawnhad am y golled o dir
amaethyddol fyddai’n deillio o’r bwriad. Wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r holl
faterion cynllunio perthnasol ni ystyriwyd fod y bwriad yn cyfarfod amcanion
polisïau cynllunio. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol: ·
Nad oedd bwriad diddymu
coed – coed onnen gydag afiechyd fyddai’r unig rai fydd yn cael eu dymchwel
gyda bwriad i blannu a thyfu mwy. ·
Y bwriad yn ymateb i faterion Iechyd a Diogelwch: Nwyddau trwm -
llai o gyflenwadau, ond llwythau mwy ac felly angen gwneud mwy o le storio ar
eu cyfer a chreu maes parcio ychwanegol i gwsmeriaid ·
Nad oes lle yn y ganolfan ar gyfer storfa ac nid oes modd lleoli
storfa yn agosach i’r prif adeilad – ni ddylid ei ystyried fel busnes ar wahân ·
Sefydlwyd y busnes yn 1981
- wedi blaenoriaethu agweddau cefn gwlad · Y busnes bellach yn cyflogi 102 o weithwyr: yn sicrhau cydbwysedd amgylcheddol a chymunedol - yn cyflawni gwaith yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14. |