Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Louise Hughes a’r Cynghorydd Dilwyn Lloyd Croesawyd y
Cynghorydd Cai Larsen fel aelod newydd i’r Pwyllgor |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi
materion protocol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Y Cynghorydd Owain Williams yn eitem 5.1 (C21/0645/33/LL) ar y rhaglen, oherwydd
ei fod yn
berchen maes carafanau, ac yn eitem 5.2 (C21/0411/46/LL) ar y rhaglen oherwydd bod gan ei ferch
gysylltiadau gyda Tyddyn Du b) Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn eitem 5.4 (C21/0446/20/LL) a
5.5 (C21/0445/20/LL) ar y rhaglen,
oherwydd ei fod yn ffrind
i’r gwrthwynebydd, ac yn eitem 5.9 (C21/0767/14/LL) ar y rhaglen oherwydd
ei fod yn
aelod o Fwrdd Adra c) Y Cynghorydd Cai Larsen yn
eitem 5.9 (C21/0767/14/LL) ar
y rhaglen oherwydd ei fod yn
aelod o Fwrdd Adra Roedd yr Aelodau o’r farn
ei fod yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu
a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar y ceisiadau. d) Datganodd yr aelodau
canlynol eu bod yn aelod lleol mewn
perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Simon Glyn (oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C21/0411/46/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Gareth Griffith (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.4 (C21/0446/20/LL) a 5.5 (C21/0445/20/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Glyn Daniels (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.8 (C21/0922/03/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Cemlyn Williams (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.9 (C21/0767/14/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd 31ain Ionawr
2022 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C21/0645/33/LL Bodvel Hall Lôn Boduan, Efailnewydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6DW PDF 338 KB Newid
defnydd tir amaethyddol i barc carafanau teithiol arfaethedig (40rh llain) gan
gynnwys bloc amwynderau, trac mynediad a mynedfa AELOD
LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau
canlynol:
Cofnod: Newid defnydd tir
amaethyddol i barc carafanau teithiol arfaethedig gan gynnwys bloc amwynderau,
trac mynediad a mynedfa a) Amlygodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais
ydoedd ar gyfer newid defnydd
tir amaethyddol, i barc carafanau
teithiol. Byddai’r gwaith yn cynnwys : ·
Gosod 40 llain gwair anffurfiol yn mesur
o leiaf 8m x 8m ·
Creu ffordd fynediad
3.6m o led wedi ei greu o gerrig mâl
yn ffurfio rhwydwaith unffordd trwy’r safle ·
Adeiladu bloc amwynderau yn darparu toiledau, cawodydd a chyfleusterau golchi. ·
Creu clawdd newydd ar hyd ffin
orllewinol y safle Adroddwyd bod y cais wedi ei gyflwyno i
bwyllgor 22 Tachwedd, 2021 pryd y gohiriwyd gwneud penderfyniad er mwyn caniatáu
i swyddogion ystyried gwybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd ac i drafod manylion
y datblygiad ymhellach gyda’r ymgeisydd. Eglurwyd bod y safle wedi
ei leoli mewn cefn gwlad agored
oddeutu 300m ar hyd ffordd, sy’n
rhannol breifat a rhannol ddi-ddosbarth, o briffordd yr A497 sy’n arwain o Bwllheli i Nefyn. Atgoffwyd yr Aelodau am y pryderon a gyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod diwethaf,
sef diffyg ystyriaeth i faterion
bioamrywiaeth a mynedfa i’r parc carafanau. Mewn ymateb, nodwyd
bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei gyflwyno: ·
Asesiad Ecolegol Cychwynnol
oedd yn cynnwys
mesurau i amddiffyn coed hynafol ynghyd a chynllun gwelliannau ecolegol fyddai’n cynnwys plannu gwrych brodorol, tyfu blodau a gosod
blychau adar. Nodwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth yn fodlon gyda’r cynigion. ·
Cynllun diwygiedig ar gyfer y gyffordd gyda’r A497 a fyddai’n golygu lledaenu’r llain gwair ger y ffordd, torri dwy goeden a rheoli
uchder y clawdd er mwyn creu
gwelededd hyd at 160m i gyfeiriad y gorllewin.
Nodwyd bod yr Uned Trafnidiaeth yn fodlon gyda’r cynigion
a’r Swyddogion Cynllunio yn derbyn
bod y diwygiadau yn goresgyn problemau diogelwch Ystyriwyd bod y
cynnig gyda’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd, yn cwrdd gyda’r anghenion ar
gyfer datblygu safle gwersylla tymhorol newydd fel y’i nodir ym Mholisi TWR 5 y
CDLl ac o osod amodau priodol er sicrhau'r
gwelliannau angenrheidiol i'r fynedfa briffordd a chamau lliniaru ar gyfer
amddiffyn bioamrywiaeth, y byddai'r datblygiad yn cwrdd gyda gofynion y
polisïau perthnasol yn y CDLl. . b) Yn manteisio ar
ei hawl i
siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Ei fod
yn dod o deulu ffermio Cymreig
gyda gwerthoedd Cymreig. ·
Wedi byw
a ffermio yng ngogledd Cymru ers dros 200 mlynedd a'i hun wedi
ffermio yn Bodvel am dros 50 mlynedd ·
Yn ystod
y cyfnod hwn ei bolisi erioed
fu cefnogi gwerthoedd y gymuned leol, y bobl leol
eu hunain, busnesau a gwasanaethau lleol ·
Ei fod
bob amser wedi cyflogi pobl leol
o deuluoedd lleol gan ddweud gyda
balchder bod cenedlaethau o’r un teuluoedd lleol wedi bod yn gweithio ar
y fferm ac wedi bod yn uniongyrchol gyfrifol am reoli agweddau amaethyddol a gofal anifeiliaid y fferm · Ei fod wedi bod yn ymwneud â nifer o fusnesau yn yr ardal sy’n cynnwys bwytai, gwestai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C21/0411/46/LL Tir Tyddyn Du, Dinas, Pwllheli, LL53 8SU PDF 409 KB Codi
adeilad i gadw cyfarpar a phorthiant amaethyddol gan gynnwys dau stabl a storfa
tac. AELOD LLEOL:
Cynghorydd Simon Glyn Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Caniatáu gydag amodau
Nodyn - Uned
Draenio Tir Cofnod: Codi adeilad i gadw cyfarpar a phorthiant amaethyddol gan gynnwys dwy
stabl a storfa tac. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth
Datblygu bod y cais yn gais llawn ar gyfer
adeiladu sied amlbwrpas
(Amaethyddol / Ceffylau)
fyddai’n cynnwys dwy stabl a storfa tac ynghyd a man cysgodi defaid, lle
cadw peiriannau a phorthiant a storfa llawr cyntaf. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn cefn gwlad
agored oddeutu 700m i’r de orllewin o bentref Croeslon
Dinas; o fewn yr Ardal Tirwedd Arbennig a ddynodir gan Gynllun Datblygu Lleol
ar y cyd Gwynedd a Môn ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol
Llŷn ac Enlli; 180m i’r gorllewin o ffin Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol Llŷn. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan fod yr
ymgeisydd yn berthynas i aelod etholedig o'r Cyngor. Gohiriwyd gwneud penderfyniad ar y cais ym
mhwyllgor 13 Rhagfyr, 2021 fel bod swyddogion yn cael cyfle i ystyried
gwybodaeth hwyr a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd yn rhoi eglurhad pellach
ynghylch yr angen am y datblygiad. Roedd hyn yn cynnwys : ·
Nad
oedd adeiladau amaethyddol yn sefyll wrth y tŷ (ar dir Tyddyn Du) - rhai
o’r adeiladau gwreiddiol erbyn hyn yn eiddo i fferm Tyddyn Gwyn. ·
Bod
mynediad i’r cae wrth y tŷ yn anaddas i gerbydau mawr gan iddo groesi ffos
a phibellau dŵr; gwifrau cyflenwadau trydan a ffôn yn croesi uwchben yr
adwy, sy’n rhwystr i beiriannau gael mynediad i’r cae ger y tŷ ·
Nad
oedd angen gwneud llawer o waith i'r tir er mwyn creu safle lefel ar gyfer y
datblygiad; fe ail-gylchir unrhyw bridd
a symudir i greu lle gwastad o amgylch yr adeilad ·
Bydd
llwyni a choed cynhenid yn cael eu plannu o amgylch yr adeilad. ·
Ni
fydd yr adeilad yn effeithio ar fwynderau gweledol unrhyw un o’r cymdogion,
adeiladau eraill nac unrhyw anheddle cyfagos ·
Y
safle yn guddiedig ac mewn safle diarffordd ac anial; gwrychoedd yn guddfan
naturiol i’r adeilad. Adroddwyd bod trafodaethau pellach ynghyd a
chyfarfod safle wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd. Yn sgil hynny fe newidiwyd
lleoliad arfaethedig yr adeilad – ei osod ar lefel is na gynigiwyd
yn wreiddiol ac yn agosach at y gwrych aeddfed sy'n amgylchynu’r cae. Yn sgil y newidiadau i'r cynllun ers y Pwyllgor
diwethaf, a'r eglurhad pellach a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd ynghylch yr angen
am yr adeilad a'r cyfiawnhad am y lleoliad, roedd y swyddogion yn derbyn bod yr
angen amaethyddol wedi ei brofi ar gyfer codi adeilad ar y safle ac felly’r bwriad yn dderbyniol dan egwyddor
datblygiad gwledig sylfaenol a pholisi PCYFF1 y CDLl
yn benodol. Yn ogystal, oherwydd bod y bwriad bellach wedi ei guddio yn rhannol
o welfannau cyhoeddus, derbyniwyd na fyddai’r adeilad
yn creu nodwedd ymwthiol yn y dirwedd. Ystyriwyd bod y cais yn dderbyniol dan
bolisïau, PCYFF2, PCYFF 3 ac AMG 2 y CDLl b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol: · Bod trafodaethau wedi eu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C21/0831/23/LL Lleifior, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AN PDF 561 KB Datblygiad
Preswyl o 8 annedd (yn cynnwys 4 tŷ fforddiadwy) AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Brown Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: CAIS WEDI EI DYNNU
YN ÔL Cofnod: APPLICATION
HAD BEEN WITHDRAWN |
|
Cais Rhif C21/0446/20/LL Plot 11 Ffordd Caernarfon, Y Felinheli, Gwynedd, LL56 4RZ PDF 446 KB Cais
ar gyfer codi tŷ tri llawr tair llofft gyda ardal barcio AELOD LLEOL:
Cynghorydd Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau cynllunio isod: 1. Amser 2. Yn unol â’r cynlluniau 3. Llechi 4. Gorffeniadau allanol. 5. Mynediad a pharcio 6. Mesurau Osgoi Rhesymol ar gyfer ymlusgiaid. 7. Dim clirio llystyfiant yn ystod y cyfnod
nythu adar. 8. Enw Cymraeg i’r tŷ. Cofnod: Cais ar
gyfer codi tŷ tri llawr tair llofft gydag ardal barcio a) Amlygodd y Swyddog Cynllunio bod bwriad codi annedd
tri-llawr yn ei gyfanrwydd gyda dim ond deulawr i'w weld o Ffordd Caernarfon.
Eglurwyd bod caniatâd cynllunio byw ar y safle er mwyn codi adeilad pedwar
llawr sy’n cynnwys 4 uned breswyl hunan cynhaliol (gyfeirnod C09A/0182/20/LL) –
y caniatâd hwn yn fyw (wedi ei gychwyn) gan fod yr eiddo preswyl oedd wedi ei
leoli ar y llain yn flaenorol wedi ei ddymchwel. Golygai hyn, fod y 4 uned a
ganiatawyd yn flaenorol wedi ei gynnwys yn y banc tir yn barod ac felly bydd
lleihad yn y niferoedd o unedau preswyl sy’n cael eu darparu. Ni fydd y bwriad
felly yn groes i bolisi TAI 4 ac nid yw’n darparu mwy o unedau na’r
ddarpariaeth tai dangosol a osodwyd ar gyfer yr anheddle yn y polisi hwnnw. O
ganlyniad, nid oes angen cyfiawnhad arbennig am y datblygiad. Oherwydd natur y llain tir, bydd yr eiddo newydd yn
gwbl amlwg o fannau cyhoeddus ac yn ychwanegiad i'r rhes o dai sydd wedi eu
codi ar Ffordd Caernarfon. Nodwyd bod y rhan yma o bentref Felinheli yn cynnwys
amrywiaeth sylweddol o ran pensaernïaeth, graddfa, dyluniad a gosodiad. Yng nghyd-destun
mwynderau cyffredinol a phreswyl, amlygwyd fod y cynlluniau arfaethedig yn nodi fod wal gefn yr annedd
i’w lleoli 2m ymhellach i'r gogledd orllewin na'r adeilad gellid ei godi fel
rhan o'r caniatâd byw. Mae'r rhan o'r annedd arfaethedig sy'n ymestyn 2m
ymhellach yn cynnwys y balconïau ar y tri llawr ac yn cynnwys to o siâp
gwahanol bydd 1m yn uwch na'r adeilad wedi ei ganiatáu. Oherwydd
maint yr edrychiad gwag (blank elevation)
sy'n ffinio/wynebu eiddo 14, Ffordd Caernarfon, rhaid derbyn fod y bwriad
cyfredol yn debygol o greu strwythur fyddai’n cael rhywfaint o effaith gormesol
i rannau o ardd breswyl ac estyniad tŷ gwydr yng nghefn yr eiddo yma.
Eglurwyd bod yr ardd wedi ei lleoli wrth gefn eiddo 14, Ffordd Caernarfon ac
oherwydd topograffi’r safle yn mwynhau lefelau uchel o amwynder preswyl gyda
golygfeydd di-baid tuag at y gogledd orllewin. Er gwaethaf hyn, nid yw'r annedd
arfaethedig yn sylweddol wahanol i'r adeilad pedwar llawr sy'n destun y
caniatâd byw o ran ei ffurf a gosodiad y wal gefn fel sydd yn cael ei ddangos
yn glir ar y cynlluniau arfaethedig. Am y rhesymau yma, ni ystyriwyd fod y
datblygiad yn debygol o greu niwed i fwynderau preswyl sy'n sylweddol waeth
na'r effaith y byddai'n deillio o godi'r adeilad sy'n rhan o ganiatâd byw. Yng nghyd -destun materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd bod ymateb wedi ei dderbyn gan yr Uned Drafnidiaeth yn nodi y dylid diwygio dyluniad y blaengwrt er mwyn cyd-fynd a llinell blaengwrt cais C21/0445/20/LL. Yn dilyn derbyn cynlluniau diwygiedig yn unol ag awgrymiadau'r Uned Drafnidiaeth nid dderbyniwyd gwrthwynebiad pellach i ddyluniad y droedffordd a chadarnhawyd fod agweddau eraill y bwriad (megis darpariaeth parcio) yn dderbyniol. Tynnwyd sylw at y nifer o amodau a nodiadau ynghylch ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C21/0445/20/LL Plot 11a, Ffordd Caernarfon, Felinheli, LL56 4RZ PDF 368 KB Cais ar gyfer codi tŷ
tri llawr tair llofft gyda ardal barcio AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau canlynol; 1. Amser 2. Yn unol â’r cynlluniau 3. Llechi 4. Gorffeniadau allanol. 5. Mynediad a
pharcio 6. Mesurau Osgoi Rhesymol ar gyfer
ymlusgiaid. 7. Dim clirio llystyfiant yn ystod y cyfnod
nythu adar. 8. Enw Cymraeg i’r tŷ. Cofnod: Cais ar
gyfer codi tŷ tri llawr tair llofft gydag ardal barcio a) Amlygodd y
Swyddog Cynllunio bod y cais yn rhannu'r un dyluniad a chais 5.4 - yn gais
llawn ar gyfer codi tŷ tri llawr tair llofft gydag ardal barcio. Nodwyd
bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu pentref Felinheli (fel y
diffinnir yn yr CDLl.) ger ffordd gyhoeddus dosbarth
3 (Ffordd Caernarfon). Ategwyd bod bwriad gan yr ymgeisydd symud i fyw yn
barhaol yn yr uned fydd yn cael ei alw yn Heulyn. Eglurwyd
bod caniatâd cynllunio byw ar gyfer codi eiddo preswyl tri llawr (Caniatawyd
cais ar gyfer codi annedd 3 llawr o dan gyfeirnod C12/0986/20/LL yn ogystal ag
ymestyn cyfnod cychwyn y datblygiad o 5 mlynedd ychwanegol o dan gyfeirnod
C17/1232/20/LL). Golygai hyn, fod yr uned sydd wedi ei ganiatáu yn gynt, wedi
ei gynnwys yn y banc tir yn barod. Wedi ystyried y sefyllfa, nid oes unrhyw
newid yn yr unedau preswyl sy’n cael eu darparu ac felly nid yw’r bwriad yn
groes i bolisi TAI 4 ac nid yw’n darparu mwy o unedau na’r ddarpariaeth tai
dangosol a osodwyd ar gyfer yr anheddle yn y polisi hwnnw. O ganlyniad i hyn,
nid oes angen cyfiawnhad arbennig am y datblygiad. I’r perwyl hwn ystyriwyd bod
y bwriad diweddaraf hwn yn dderbyniol mewn egwyddor. Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol, gyda gosodiad y tŷ arfaethedig mewn
perthynas ag anheddau cyfagos, ei ddyluniad a'i raddfa ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn amharu'n
andwyol ar fwynderau preswyl a chyffredinol trigolion cyfagos ar sail colli
preifatrwydd/gor-edrych ac aflonyddwch sŵn - y
bwriad felly, yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi PCYFF2 o'r CDLL. Yng
nghyd-destun diogelu llecynnau agored
presennol a rheilffyrdd segur cyflwynodd yr asiant gynllun safle
diwygiedig er mwyn dengys bod pellter digonol rhwng yr eiddo a'r ardd breswyl
ac na fydd y datblygiad yn gorgyffwrdd a'r rheilffordd segur. Yn yr un modd, ni
fydd y bwriad yn amharu ar ddefnydd y llecyn agored sydd wedi ei warchod nid
yw'n gorgyffwrdd yn sylweddol i yn y llecyn (bydd gardd yr eiddo o fewn terfyn
y dynodiad). I'r perwyl hwn ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol gan na fydd yn
amharu ar y llecyn agored wedi ei warchod a'r rheilffordd segur a drwy hynny'n
cydymffurfio a gofynion polisïau ISA 4 a TRA 3 o'r CDLl. Wedi ystyried yr
holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol
yn ogystal â'r cefndir cynllunio, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol a'i fod
yn bodloni gofynion y polisïau perthnasol b) Nodwyd bod y gwrthwynebydd yn dymuno datgan yr un sylwadau a chais 5.4 c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol: · Bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Felinheli ac yn ffinio gyda Ffordd Caernarfon sy’n rhedeg ar hyn ffin ddeheuol y safle. Y safle mewn ardal breswyl a’r plot wedi ei leoli ar dir drws nesaf i gais a drafodwyd yn 5.4 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif C21/0721/17/AC Chwarel Foel Tryfan, Y Fron, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7RF PDF 521 KB Cais
o dan Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio C18/1125/17/LL i cynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5
llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Dydd Gwener, gyda dim
symudiadau HGV ar y Sadwrn AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cymeradwyo yn amodol ar yr addasiad a ganlyn i amod 10 o gais cynllunio
C18/0125/17/MW: Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio
mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag unrhyw
ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall yn y safle, yn fwy na'r gyfradd uchaf
o ddim mwy na naw llwyth HGV y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim
symudiadau HGV ar ddydd Sadwrn. Rhaid
gofalu y bydd ffigyrau allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael
i’r awdurdod cynllunio lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod. Y datblygiad i fod
yn destun yr un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol a roddwyd
C18/0125/17/MW i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg, gwarchod yr
amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r cais,
archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac adfer dilyniadol. Cofnod: Cais o dan
Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio C18/1125/17/LL i gynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5
llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Ddydd Gwener, gyda dim
symudiadau HGV ar y Sadwrn. a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio
Mwynau a Gwastraff bod y
cais hwn yn rhan o gais cynllunio
C18/0125/17/MW a gymeradwywyd ar gyfer gwaredu a phrosesu dyddodion
gweithio mwynau presennol gydag amodau, ar 6 Medi 2018. Nodwyd bod dau ganiatâd
cynllunio eisoes yn bodoli ar gyfer y safle ac maent yn ymwneud ag echdynnu a
phrosesu mwynau o wahanol ardaloedd o’r chwarel. Er mwyn cywirdeb ac i osgoi
amheuaeth yn ymwneud â chyfraddau allbwn, amlygwyd bod chwaer gais, C21/0491/17/LL,
yn destun penderfyniad i gynyddu allbwn a chyfnerthu allbwn o waith y chwarel
cyfan i gyfanswm o 9 llwyth HGV ar ddyddiau gwaith. O dan Adran 73, Deddf
Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol newid neu dynnu
amodau ond ni all newid unrhyw ran arall o'r caniatâd. Bydd cais a.73
llwyddiannus yn golygu caniatáu caniatâd cynllunio newydd ac felly’r caniatâd
gwreiddiol yn parhau yn gyfan. Wrth benderfynu ar gais a.73, gall yr Awdurdodau
Cynllunio Lleol osod amodau y tu hwnt i'r rhai a gynigir
yn y cais gwreiddiol (er bod rhaid iddynt fod yn rhai y gellid fod wedi eu
gosod ar y caniatâd gwreiddiol). Yn flaenorol, y farn oedd na ddylai'r
newidiadau a ganiateir olygu 'newid sylfaenol' o'r bwriad a gynigiwyd
yn y cais gwreiddiol. Adroddwyd bod y cais yn
ymwneud â chynyddu allbwn o 5 i 9 llwyth ar ddyddiau gwaith ond yn symud yr un
faint o ddeunydd gyda chaniatâd o waith y chwarel, ar raddfa gyflymach ac mai prif ystyriaethau’r cais oedd dwyster y
broses gynhyrchu a, thrwy hynny, yr effaith ychwanegol ar y briffordd. Yng nghyd-destun
materion trafnidiaeth, ni dderbyniwyd
sylwadau anffafriol gan ymgynghorwyr statudol. Nododd yr Adran Briffyrdd y
byddai'r cynnydd arfaethedig mewn symudiadau cerbydol yn finimal gan nodi
ymhellach bod trefniant gwirfoddol parhaus o lwybro cylchol lle mae’r HGVs yn cyrraedd y safle o Groeslon ac yn cael mynediad
drwy Rhostryfan sydd, mewn gwirionedd, yn haneru symudiadau traffig i'r chwarel
ac oddi yno cyn ail-ymuno â'r A487. Ategwyd, er na ellid amodi'r trefniant yma,
roedd yr ymgeisydd a'r Awdurdod Cynllunio Mwynau yn awyddus iddo barhau - bydd
datblygu trefniadau o’r fath yn cael eu trafod yn y Grŵp Cyswllt Cynllunio
parhaus sy'n cyfarfod bob blwyddyn i drafod Gweithrediadau'r safle. Nodwyd bod cefnogaeth i'r
cais gan Gyngor Cymuned Llandwrog yn ddarostyngedig i symudiadau HGV yn osgoi
traffig ysgol yn y bore a'r prynhawn – y trefniant yma yn un gwirfoddol a gaiff
ei gytuno a'i ddatblygu drwy'r Grŵp Cyswllt Cynllunio ar gyfer y safle. Wedi ystyried mai un newid bychan fydd i'r cyfyngiadau allbwn presennol, ystyriwyd y cynnig yn dderbyniol mewn egwyddor a'i fod yn cydymffurfio â Pholisi TRA 4 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Yng nghyd-destun effeithiau mwynderol, cyfeiriwyd at ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif C21/0491/17/AC Chwarel Foel Tryfan, Y Fron, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7RF PDF 438 KB Cais o dan Adran 73 i
amrywio amod 6 ar ganiatâd cynllunio C18/1126/17/LL i cynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5
llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Dydd Gwener, gyda dim
symudiadau HGV ar y Sadwrn. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Dilwyn Lloyd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cymeradwyo yn amodol i'r newid a ganlyn i amod 6 o gais cynllunio
C18/1126/17/LL: Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio
mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag unrhyw
ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall ar y safle, yn fwy na'r gyfradd uchaf
o ddim mwy na naw llwyth HGV y dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim
symudiadau cerbydau HGV ar ddydd Sadwrn. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau allbwn
o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio lleol, ar
gais, o fewn 21 diwrnod. Y datblygiad i fod
yn amodol i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol a roddwyd
C18/1126/17/LL i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg, gwarchod yr
amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r cais,
archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac adfer dilyniadol. Cofnod: Cais o dan
Adran 73 i amrywio amod 6 ar ganiatâd cynllunio C18/1126/17/LL i gynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5
llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Ddydd Gwener, gyda dim
symudiadau HGV ar y Sadwrn. a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio
Mwynau a Gwastraff y cymeradwywyd cais cynllunio C18/0126/17/MW ar yr 18
Chwefror 2019, yn ddarostyngedig i amodau, i amrywio amod 6 o ganiatâd
cynllunio C16/0063/17/MW i ganiatáu pum llwyth HGV y dydd, o ddydd Llun i ddydd
Gwener, heb unrhyw symudiadau HGV ar ddydd Sadwrn. Nodwyd bod dau ganiatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar gyfer y safle yn
ymwneud ag echdynnu a phrosesu mwynau o wahanol ardaloedd yn y chwarel. Er mwyn
cywirdeb ac i osgoi amheuaeth yn ymwneud â chyfraddau allbwn, mae chwaer gais,
C21/0721/17/AC, yn ddarostyngedig i benderfyniad i gynyddu allbwn a chyfnerthu
allbwn o'r holl chwarel i gyfanswm o 9 llwyth HGV ar ddyddiau gwaith. Yng
nghyd-destun materion trafnidiaeth, ni
dderbyniwyd sylwadau anffafriol gan ymgynghorwyr statudol. Nododd yr Adran
Briffyrdd y byddai'r cynnydd arfaethedig mewn symudiadau cerbydol yn finimal
gan nodi ymhellach bod trefniant gwirfoddol parhaus o lwybro cylchol lle mae’r HGVs yn cyrraedd y safle o Groeslon ac yn cael mynediad
drwy Rostryfan sydd, mewn gwirionedd, yn haneru
symudiadau traffig i'r chwarel ac oddi yno cyn ail-ymuno â'r A487. Ategwyd, er
na ellid amodi'r trefniant yma, roedd yr ymgeisydd a'r Awdurdod Cynllunio
Mwynau yn awyddus iddo barhau - bydd datblygu trefniadau o’r fath yn cael eu
trafod yn y Grŵp Cyswllt Cynllunio parhaus sy'n cyfarfod bob blwyddyn i
drafod Gweithrediadau'r safle. Ystyriwyd bod yr holl ystyriaethau cynllunio materol wedi cael eu hasesu
a bod y bwriad yn gyson gyda Chynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
ynghyd â Pholisïau a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol. Cyflwynwyd y cais yma dan a.73 sy'n caniatáu
i amod 6 o'r caniatâd gael ei amrywio, gan hefyd ganiatáu rheolaeth ddigonol ac
ail-osod yr holl amodau eraill sy'n ymwneud â'r effaith ar y dirwedd,
archaeoleg ddiwydiannol, treftadaeth, diogelwch amgylcheddol a mwynderol, oriau gwaith, cyfnodedd, adfer, bioamrywiaeth,
hawliau tramwy cyhoeddus a safleoedd dynodedig. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatau y cais PENDERFYNWYD
Cymeradwyo yn amodol i'r newid a ganlyn i amod 6 o gais cynllunio
C18/1126/17/LL: Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod
cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag
unrhyw ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall ar y safle, yn fwy na'r
gyfradd uchaf o ddim mwy na naw llwyth HGV y dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener, a
dim symudiadau cerbydau HGV ar ddydd Sadwrn. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau
allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio
lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod. Y datblygiad i fod yn amodol i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol a roddwyd C18/1126/17/LL i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg, gwarchod yr amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Cais
i ddymchwel siop presennol a chodi 1 siop, 3 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ
fforddiadwy ynghyd â mynediad gerbydol newydd a darpariaeth parcio
(Ail-gyflwyniad) AELOD LLEOL: Cynghorydd
Glyn Daniels Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cynnal ymweliad safle (yn ddarostyngedig i gynnal asesiad risg fyddai’n
ystyried priodoldeb a mesurau diogelwch yng nghyd-destun canllawiau covid 19) Cofnod: Cais i
ddymchwel siop bresennol a chodi 1 siop, 3 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ
fforddiadwy ynghyd â mynediad cerbydol newydd a darpariaeth parcio
(Ail-gyflwyniad) yng nghyn safle Woolworths,
Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog. Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio y byddai’r datblygiad
wedi ei rannu yn ddau ran, gydag un adeilad yn wynebu’r Stryd Fawr a’r adeilad
arall yn wynebu Stryd Glynllifon. Byddai’r adeilad blaen wedi ei rannu yn ardal
siop (A1) gyda fflat (2 ystafell wely)
uwchben y siop a thŷ (1 ystafell
wely) deulawr cyfochrog a chefn y siop a gardd iddo. Byddai’r ail adeilad yn
cynnwys dwy uned breswyl (1 ystafell wely) fyddai’n ymestyn dros dri llawr gyda
gerddi mwynderol a darpariaeth parcio'r un. Cyflwynwyd
y cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol Eglurwyd
bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Canolfan Wasanaeth Lleol Blaenau
Ffestiniog ac o fewn dynodiad Canol Tref. Nodwyd bod yr uned fanwerthu wag
(sylweddol ei maint) wedi ei farchnata am gyfnod hir heb lawer o ddiddordeb.
Ategwyd bod galw rhesymol am unedau bychain ac ystyriwyd gan na fyddai’r bwriad
yn colli uned fanwerthu bod y cynnig yn cwrdd ag egwyddorion polisi MAN 1 a PS
15 y Cynllun Datblygu Lleol. Adroddwyd
hefyd bod Blaenau Ffestiniog wedi ei adnabod fel Canolfan Gwasanaeth Trefol ac
mae’r safle o fewn ffin datblygu’r
ganolfan. Ategwyd bod angen am ragor o dai newydd a bod y bwriad yn cynnig un
uned fforddiadwy sydd yn cwrdd â pholisi TAI 15 a pholisi TAI8 Cymysgedd
Priodol o Dai Yng
nghyd-destun materion gweledol ystyriwyd y byddair datblygiad yn debygol o
ymdoddi i’w cyd-destun trefol gan gadw ffurfiau a phatrwm datblygu traddodiadol
a defnyddio deunyddiau addas i’r lleoliad. Byddai’r bwriad yn gwneud defnydd
cadarnhaol o safle adeilad helaeth ddefnyddiwyd o’r blaen sydd wedi sefyll yn
segur a dirywio am gyfnod hir. Ystyriwyd felly fod y bwriad yn cwrdd â gofynion
polisïau PS 5 a PCYFF 3 y CDLl. Tynnwyd
sylw at y pryderon a dderbyniwyd ynglŷn ag effaith y datblygiad ar
gymdogion ac eglurwyd bod y cais yn ail gyflwyniad o gais cynllunio
C21/0295/03/LL a dynnwyd yn ôl er mwyn ymateb
i bryderon y Swyddogion Cynllunio. Yn dilyn trafodaethau gyda’r
ymgeisydd diwygiwyd y cais a’r cynlluniau. Ystyriwyd bo'r effaith wedi ei asesu
yn fanwl ac y byddai gosod amodau yn goresgyn y pryderon. Amlygwyd y byddai’r bwriad yn cynnwys dau lecyn parcio ar gyfer dwy uned ar Ffordd Glynllifon. Er nad yw’n cynnig darpariaeth parcio unigol ar gyfer pob uned, ystyriwyd hyn yn rhesymol ar gyfer lleoliad canol dref, gyda chyfleon parcio ar strydoedd cyfagos ac o fewn meysydd parcio cyhoeddus. Nodwyd bod y lleoliad yn hygyrch i’r Stryd Fawr ble ceir mynediad hwylus i drafnidiaeth gyhoeddus ac y dylid rhoi blaenoriaeth i ddatblygu safleoedd hygyrch a chynaliadwy gan nad yw pawb yn berchen ar gerbyd. Ynglŷn â phryderon a dderbyniwyd ynglŷn â materion ffyrdd a pharcio’r cyffiniau, ystyriwyd bod dwysedd trafnidiaeth y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |
|
Cais Rhif C21/0767/14/LL Cyn rhandiroedd Cae'r Glyn, Ffordd Bethel, Caernarfon, LL55 1HW PDF 532 KB Adeiladu 17 o dai fforddiadwy,
mynedfa, llefydd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Cemlyn
Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Dirprwyo'r hawl i ganiatáu yn ddarostyngedig i lofnodi Cytundeb 106 er mwyn
sicrhau cyfraniad ariannol i wella'r ffyrdd / gosod mesurau tawelu traffig a
darparu llecynnau agored. Amodau:
Cofnod: Adeiladu 17
o dai fforddiadwy, mynedfa, llefydd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiol. Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd y
Rheolwr Cynllunio bod y cais yn cael ei gyflwyno i bwyllgor oherwydd byddai'r
bwriad yn golygu codi mwy na 5 o dai. Atgoffwyd yr Aelodau bod y cais wedi ei
gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio ar 10/01/22 lle penderfynwyd gohirio'r cais er
mwyn i'r Pwyllgor dderbyn gwybodaeth ychwanegol am yr isod: ·
Ymateb manylach i ymateb y Cyngor Tref
a chadarnhad am y cyfnod pan gynhaliwyd yr Asesiad Trafnidiaeth ·
Cynllun manylach yn dangos mynedfeydd cerddwyr a cherbydau i'r
ysgol ·
Ffotograffau / fideo yn dangos y safle
mewn perthynas â'r ysgol. ·
Mwy o fanylion am y cyfyngiad cyflymder
a'r mesurau tawelu traffig posib. Mewn ymateb i'r gohirio, roedd yr asiant wedi cyflwyno'r wybodaeth
ychwanegol isod: ·
Copi o’r Archwiliad Diogelwch sydd wedi
ei gynnal ac y cyfeirir ato yn yr Asesiad Trafnidiaeth. ·
Datganiad gan Cadarn Consulting, Peirianwyr Priffyrdd arbenigol a gynhaliodd yr
asesiad trafnidiaeth mewn ymateb i Bryderon y Pwyllgor a'r Cyngor Tref. ·
Cynllun a manylion am y mynedfeydd i
gerbydau a cherddwyr i'r ysgol. ·
Datganiad ychwanegol yng nghyswllt pa
mor ddibynadwy yw'r ffigyrau cyfrif traffig a chanfyddiadau'r arolwg cerddwyr a
wnaed ar 7 Chwefror 2022 Cyfeiriwyd
at ymateb i’r pryderon trafnidiaeth ac o’r amser y cynhaliwyd yr arolwg. Nodwyd
bod yr asesiad wedi ei gynnal drwy ddefnyddio 'Automated
Traffic Counter', a osodwyd
ger y safle ar ffordd Bethel am gyfnod o saith diwrnod (dros gyfnodau o 24 awr)
rhwng 21/06/21 - 28/06/21. Mewn ymateb i
bryder bod yr asesiad wedi ei gynnal oddi fewn i gyfyngiadau covid cadarnhaodd y wybodaeth ychwanegol a
dderbyniwyd gan arbenigwyr priffordd yr ymgeisydd ar adeg yr arolwg traffig,
bod yr ysgolion yn agored ac roedd nifer yr achosion covid
yn isel. Cyfeiriodd y datganiad at ddata traffig hanesyddol
ar gyfer y B4366 o'r Adran Drafnidiaeth (DfT) ddaeth
o'r orsaf cyfrif traffig maniwal a leolwyd tua 250m
i'r Gorllewin o'r safle arfaethedig, oedd wedi casglu data traffig 10 mlynedd.
Roedd y traffig blynyddol cyfartalog cymedr (AADT) o'r data 10 mlynedd gan y DfT i'r ffordd yma wedi ei gyfrif fel 5,389 ( cyfrif AADT
o'r data cyfrif traffig awtomatig a gasglwyd yn ystod arolwg Mehefin 2021 wedi
ei gynnwys yn yr adroddiad) Mewn
ymateb i bryderon yr aelodau ynghylch amseroedd brig yr ysgol a cherddwyr, fe
wnaeth ymgynghorwyr priffyrdd yr ymgeisydd asesiad cerddwyr ar 7 Chwefror 2022.
Darganfu’r asesiad fod mwyafrif y disgyblion yn defnyddio'r pafin gorllewinol i
gerdded i'r ysgol ond bod 90% yn cael eu gollwng yn yr encilfa ddwyreiniol gan
ddefnyddio'r ddarpariaeth croesi ddiogel ar y ffordd. Dylid nodi na fydd y
bwriad yn arwain at golli darpariaeth parcio. Darperir parcio o fewn y safle i
ddisodli'r ardal a gollir ar yr encilfa. Adroddwyd bod Cyngor Tref Caernarfon yn parhau i bryderu am y cais gan awgrymu gohirio penderfyniad fel bod modd cael mwy o wybodaeth a chais i gyfarfod gyda Swyddogion yr Adran Priffyrdd ar y safle. Nodwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14. |