Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
y Cynghorydd Dilwyn Lloyd; y Cynghorydd
Steve Collings (Aelod Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion
protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Y Cynghorydd Eirwyn Williams yn eitem 5.2 (C21/1051/35/DT) ar y rhaglen oherwydd
mai ef oedd
yr ymgeisydd Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu
a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar y cais b) Datganodd yr aelodau
canlynol eu bod yn aelod lleol mewn
perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Eirwyn Williams (a oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 (C21/1136/35/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Elfed Williams (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.3 (C19/1194/18/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Glyn Daniels (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.4 (C21/0922/03/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Aled Wyn Jones (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.5 (C22/0078/37/LL) ar y rhaglen ·
Y
Cynghorydd Keith Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.6 (C21/0959/11/LL) ar y rhaglen, ar ran yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Steve
Collings ·
Y
Cynghorydd Simon Glyn (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.7 (C21/0734/46/LL) ar y rhaglen ·
Y
Cynghorydd Berwyn Parry Jones (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.8 (C21/0931/23/LL) ar y rhaglen ·
Y
Cynghorydd Dafydd Meurig (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.9 (C22/0134/16/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C21/1136/35/LL Tir gyferbyn a North Terrace, Criccieth, LL52 0BA PDF 539 KB Adeiladu 23
annedd, creu mynedfa newydd o Ffordd Caernarfon, ffordd ystad mewnol, pwll
gwanhad dwr wyneb a gwaith cysylltiol AELOD
LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i gytundeb 106
yn clymu 7 o’r tai fel rhai fforddiadwy a gwneud cyfraniad ariannol tuag at
lecynnau chwarae ac i amodau: 1.
5 mlynedd 2.
Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais. 3.
Llechi naturiol. 4.
Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai i’w cytuno
gyda’r ACLL. 5.
Amodau Priffyrdd - lleiniau gwelededd, cwblhau ffordd ystâd,
cwblhau llefydd parcio 6.
Cwblhau tirlunio yn unol gyda’r manylion a gyflwynwyd. 7.
Tynnu hawliau datblygu cyffredinol ar gyfer dosbarthiadau A-E
ar gyfer y tai fforddiadwy. 8.
Amod i sicrhau arwyddion ac enwau Cymraeg i’r tai. 9.
Sicrhau stribyn cynnal a chadw gerllaw’r Afon Cwrt. 10.
Cydymffurfio gyda’r adroddiad ecolegol. 11.
Unol gyda’r asesiad coed. 12.
Amod archeolegol. 13.
Oriau gwaith cyfnod adeiladu. 14.
Cyflwyno a chytuno datganiad dull adeiladu. 15.
Gwydr afloyw yn y ffenestr llawr 1af ar dalcen de ddwyrain
llain 3 i fod yn afloyw. Nodiadau Dwr Cymru, Cyfoeth
Naturiol Cymru, SUDS, Datblygiad Mawr Cofnod: Adeiladu 23 annedd, creu mynedfa newydd o Ffordd Caernarfon, ffordd ystâd
fewnol, pwll gwanhad dwr wyneb a gwaith cysylltiol a) Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd
ar gyfer 16 o dai annedd marchnad
agored a 7 tŷ fforddiadwy. Byddai’r tai ar y safle yn gymysgedd
o rhai deulawr a tri llawr, yn fathau
amrywiol fel a ganlyn: - Math A a B tai 4 ystafell
wely gyda modurdy Math C - tai 3 ystafell wely
gyda modurdy – y tai yn amrywio o ran eu cynlluniau mewnol
a gweddau allanol. Math D - tai 2 lawr 2 a 3 ystafell
wely gyda (a heb) fodurdy cyfagos
Math E ac F - 7 uned fforddiadwy
yn darparu cymysgedd o 2 a 3 ystafell wely. Nodwyd bod y safle wedi ei
leoli yn rhannol y tu mewn
a tu allan i’r ffin datblygu
gyda’r tir ble bwriedir lleoli’r
tai wedi ei leoli oddi fewn
i ffin ddatblygu
Criccieth, a’r ardal parth tirweddu
a phwll gwanhau dŵr wyneb yn gorwedd y tu
allan i’r ffin. Ategwyd bod rhan o’r safle
sydd o fewn y ffin ddatblygu wedi ei ddynodi
yn benodol ar gyfer tai yn
y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) - safle T41. Ystyriwyd yr egwyddor o ddatblygu’r unedau preswyl yn erbyn gofynion
Polisi TAI 2 CDLl. Mynegwyd bod y safle wedi ei adnabod
fel un ar gyfer 34 o unedau, ond y cais yn
gofyn am adeiladu 23 o dai ar y safle
(sydd yn is na’r unedau amcangyfrifiedig
ar gyfer y safle ym Mholisi
TAI 2). Amlygwyd
bod y Datganiad Cynllunio, Dylunio a Mynediad a gyflwynwyd gyda’r cais yn nodi
bod safle T41 wedi bod yn destun asesiad
manwl o gyfyngiadau oedd yn cynnwys
yr angen
i gadw cliriad
o 7 medr bob ochr i gwrs dŵr
Afon Cwrt sy’n rhedeg ar
draws y safle.
Yn ychwanegol, nodwyd na ellid
datblygu rhan o’r safle oherwydd
presenoldeb cylfat sy’n rhedeg ar
hyd ac yn gyfochrog â gerddi cefn tai Teras y Gogledd ynghyd a chael gofod clirio
bob ochr i ddraen dŵr wyneb o Afon Cwrt
i’r pwll gwanhau arfaethedig rhwng Bryn Cleddau a Llain 3. Yn unol â Pholisi ISA 5, disgwylir i gynigion
ar gyfer 10 tŷ neu fwy mewn ardaloedd ble na all llecynnau
agored presennol fodloni anghenion y datblygiad tai arfaethedig, gynnig darpariaeth addas o fannau agored yn unol
â safonau meincod Fields in
Trust (FiT). Eglurwyd bod y
wybodaeth gyfredol a dderbyniwyd gan yr Uned Polisi Cynllunio
ar y Cyd yn dangos bod diffyg
llecynnau chwarae gyda chyfarpar offer i blant yn
lleol fel rhan o’r bwriad
ac felly, bydd angen gwneud cyfraniad ariannol ar gyfer
cyfarfod a’r diffyg darpariaeth. Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd yn datgan y byddai’n
fodlon gwneud cyfraniad o £4848.66 a gellid sicrhau hynny drwy
gytundeb cyfreithiol 106. Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd y byddai’r bwriad yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C21/1051/35/DT Cil Y Castell, Lôn Parc, Criccieth, Gwynedd, LL52 0EG PDF 410 KB Codi uchder
to y tŷ er darparu ystafelloedd llawr cyntaf yng ngofod y to AELOD
LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau isod
Nodyn: Tynnu sylw at amodau
a sylwadau Dŵr Cymru Cofnod: Codi uchder to'r tŷ er
darparu ystafelloedd llawr cyntaf yng
ngofod y to a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio
mai cais ydoedd ar gyfer
codi uchder to byngalo er mwyn
darparu ystafelloedd llawr cyntaf yng
ngofod y to yn eiddo Cil y Castell, Criccieth. Eglurwyd y byddai’r llawr cyntaf arfaethedig yn cynnwys tair
ystafell wely, en-suite a chwpwrdd - yn 1.5 medr yn
uwch na’r gwreiddiol. Cyflwynwyd y cais
i bwyllgor gan mai Aelod Lleol
Criccieth yw perchennog yr eiddo, gyda’i ferch yn
meddiannu’r eiddo Saif yr eiddo
sengl mewn ardal breswyl adeiledig
yng Nghriccieth. Nodwyd bod blaen y tŷ yn edrych
dros ffordd gyhoeddus a bloc toiledau ac na fyddai goblygiadau
ar fwynderau o osod dwy ffenestr
llawr cyntaf ac un ffenestr do yn y prif wyneb.
Yn yr un modd, ni ystyriwyd y byddai goblygiadau ar fwynderau o osod ffenestri llawr cyntaf i’r
cefn ychwaith, gan mai gardd
sy’n union i gefn y llain. Mewn
sefyllfa adeiledig dwysedd uchel o’r
fath rhaid derbyn fod goredrych
yn anorfod, ond oherwydd pellter,
lleoliad llwybrau a gwrychoedd terfyn uchel, ni ystyriwyd
y byddai’r ychwanegiadau arfaethedig yn gwaethygu na chael
effaith andwyol sylweddol ar unrhyw
un o’r tai preswyl cyfagos b)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu
y cais c)
Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol
gan Aelod: · Bod uchder
ychwanegol o 1.5m yn dderbyniol PENDERFYNWYD Dirprwyo’r
hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio
i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau isod 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol â’r cynlluniau 3. Llechi i gydweddu
4. Gorffeniad 5. Bioamrywiaeth
- Unol
ac argymhellion yr Adroddiad
Rhywogaethau Gwarchodedig Nodyn: Tynnu sylw at amodau
a sylwadau Dŵr
Cymru |
|
Addasu'r
capel i 7 uned breswyl gan gynnwys uned fforddiadwy ynghyd a mynediad newydd a
llecynnau parcio AELOD
LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:-
Cofnod: Addasu'r
capel i 7 uned breswyl gan gynnwys uned fforddiadwy ynghyd a mynediad newydd a
llecynnau parcio Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar
gyfer addasu ysgoldy a chapel segur i 7 fflat breswyl, creu mynediad newydd i
gerbydau ynghyd a darparu llecynnau parcio o fewn cwrtil y safle sydd gyferbyn
a'r Stryd Fawr yn Neiniolen. Adroddwyd
bod y cais wedi ei gyflwyno yn wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio ar 01.11.21
gydag argymhelliad gan y Pwyllgor i ohirio’r cais fel bod modd derbyn
gwybodaeth ychwanegol ynglŷn a’r isod: ·
Cadarnhad byddai’r fynwent yn cael ei gwarchod. ·
Mwy o fanylion draenio tir gyda sicrhad na fydd y cylfat yn achosi
problemau ar y safle nac yn lleol. ·
Cadarnhad am yr angen am fflatiau yn Neiniolen
e.e faint sydd ar y rhestr aros? ·
Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bydd y datblygiad yn cael ei
feddiannu gan bobl leol? Mewn ymateb
i’r pryderon uchod, cyflwynwyd y wybodaeth isod gan ymgeisydd. Y fynwent -
asiant yr ymgeisydd wedi cadarnhau bydd y fynwent yn cael ei ddiogelu drwy osod
ffens diogelwch math Harris yn ystod y gwaith adeiladu. Ar ôl cwblhau’r gwaith,
bydd y ffens yn cael ei dynnu lawr a chynllun rheoli yn cael ei ddarparu ar
gyfer torri’r gwair a gwaith cynnal a chadw cyffredinol fydd yn cynnwys
glanhau’r cerrig coffa. Manylion
draenio - cyflwynwyd cynlluniau’n dangos lleoliad a rhediad y cwlfert. Wrth
ystyried rhediad a gosodiad y cwlfert mewn perthynas
â’r adeiladwaith presennol, ni fydd y bwriad cyfredol yn amharu ar y cwlfert mewn unrhyw fodd. Tynnwyd sylw at sylwadau
diweddaraf yr Uned Dwr ac Amgylchedd sy’n datgan nad oeddynt yn rhagweld unrhyw
effaith tebygol ar y cwrs dwr sy’n rhedeg drwy’r safle yn dilyn derbyn
gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd. Yr angen am
fflatiau yn Neiniolen - derbyniwyd gwybodaeth pellach
gan gwmni gwerthwyr tai lleol cymwysedig yn datgan bod gwir angen am y math yma
o unedau preswyl yn Neiniolen gyda 30 ymholiad ar
gyfartaledd ar gyfer pob uned fforddiadwy i’w rhentu ac sydd wedi cael eu
cymhwyso ar gyfer fforddiadwyaeth. Nodwyd bod
ganddynt hefyd 62 o ymgeiswyr ar eu rhestr sydd yn edrych ar eiddo yn nalgylch
Deiniolen sydd yn gymysg o brynwyr tai cyntaf a rhai sydd yn edrych am unedau
llai. Ategwyd bod y cwmni gwerthwyr tai wedi ymgymryd ag asesiad o gyflwr
cyfredol y farchnad dai lleol yn Neiniolen a’r cylch
ac wedi cynnig ffigyrau sy’n parhau i gadarnhau (yn dilyn ymgynghoriad gyda’r
Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd) y byddai prisiau rhentu a phrisiau perchnogion
preswyl/owner occupier yr
unedau yn fforddiadwy yn ôl y fformiwla o fewn Canllaw Cynllunio Atodol: Tai
Fforddiadwy. Meddiannaeth y fflatiau ar gyfer bobl leol - y cwmni gwerthwyr tai yn cadarnhau y byddent yn hysbysebu’r fflatiau gan ddefnyddio llyfrynnau a hysbysebion dwyieithog ynghyd a gosod graddfa amser i bobl leol gael y cyfle cyntaf i rentu/prynu’r fflatiau cyn eu bod yn mynd ar y farchnad agored. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C21/0922/03/LL Cyn Woolworths, 30 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3AE PDF 472 KB Cais i ddymchwel siop presennol a chodi 1 siop,
3 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ fforddiadwy ynghŷd â mynediad
gerbydol newydd a darpariaeth parcio (Ail-gyflwyniad) AELOD LLEOL: Cynghorydd Glyn Daniels Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r
hawl i’r Rheolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn cynllun
diwygiedig yn dangos ffenestr do yn gegin uned 1 ar lefel uwch fel y trafodwyd
yn baragraff 5.13 ac yn unol â’r amodau isod:
i. Nodiadau:
ii. Tynnu sylw at nodiadau Trafnidiaeth
Cynulliad
iii. Angen trwyddedau Ffyrdd perthnasol, cynllun
rheol traffig ac arwyddion Cymraeg
iv. Nodiadau Ffyrdd
v. Nodyn Dŵr Cymru
vi. Nodyn Wâl Gyfunol Cofnod: Cais i
ddymchwel siop bresennol a chodi 1 siop, 3 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ
fforddiadwy ynghyd â mynediad cerbydol newydd a darpariaeth parcio
(Ail-gyflwyniad) Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr Roedd
rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 04/04/22
i weld natur a chyfyngiadau’r safle a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio y byddai’r datblygiad
wedi ei rannu yn ddau ran, gydag un adeilad yn wynebu’r Stryd Fawr a’r adeilad
arall yn wynebu Stryd Glynllifon. Byddai’r adeilad blaen wedi ei rannu yn ardal
siop (A1) gyda fflat (2 ystafell wely) uwchben y siop a thŷ (1 ystafell
wely) deulawr cyfochrog a chefn y siop a gardd iddo. Byddai’r ail adeilad yn
cynnwys dwy uned breswyl (1 ystafell wely) fyddai’n ymestyn dros dri llawr gyda
gerddi mwynderol a darpariaeth parcio'r un. Cyflwynwyd y
cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol Eglurwyd bod y
safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Canolfan Wasanaeth Lleol Blaenau
Ffestiniog ac o fewn dynodiad Canol Tref. Nodwyd bod yr uned fanwerthu wag
(sylweddol ei maint) wedi ei farchnata am gyfnod hir heb lawer o ddiddordeb.
Ategwyd bod galw rhesymol am unedau bychain ac ystyriwyd gan na fyddai’r bwriad
yn colli uned fanwerthu bod y cynnig yn cwrdd ag egwyddorion polisi MAN 1 a PS
15 y Cynllun Datblygu Lleol. Adroddwyd bod
Blaenau Ffestiniog wedi ei adnabod fel Canolfan Gwasanaeth Trefol a’r safle o
fewn ffin datblygu’r ganolfan. Ategwyd bod angen am ragor o dai newydd a bod y
bwriad yn cynnig un uned fforddiadwy sydd yn cwrdd â pholisi TAI 15 a pholisi
TAI8 Cymysgedd Priodol o Dai Yng
nghyd-destun materion gweledol ystyriwyd y byddair datblygiad yn debygol o
ymdoddi i’w gyd-destun trefol gan gadw ffurfiau a phatrwm datblygu traddodiadol
a defnyddio deunyddiau addas i’r lleoliad. Byddai’r bwriad yn gwneud defnydd
cadarnhaol o safle adeilad helaeth sydd wedi sefyll yn segur am gyfnod hir.
Ystyriwyd fod y bwriad yn cwrdd â gofynion polisïau PS 5 a PCYFF 3 y CDLl. Amlygwyd y
byddai’r bwriad yn cynnwys dau lecyn parcio ar gyfer dwy uned ar Ffordd
Glynllifon. Er nad yw’n cynnig darpariaeth parcio unigol ar gyfer pob uned,
ystyriwyd hyn yn rhesymol ar gyfer lleoliad canol dref, gyda chyfleon parcio ar
strydoedd cyfagos ac o fewn meysydd parcio cyhoeddus. Nodwyd bod y lleoliad yn
hygyrch i’r Stryd Fawr ble ceir mynediad hwylus i drafnidiaeth gyhoeddus ac y
dylid rhoi blaenoriaeth i ddatblygu safleoedd hygyrch a chynaliadwy gan nad yw
pawb yn berchen ar gerbyd. Ynglŷn â phryderon a dderbyniwyd ynglŷn
â materion ffyrdd a pharcio’r cyffiniau,
ystyriwyd bod dwysedd trafnidiaeth y siop flaenorol megis y lorïau danfon a
pharcio staff wedi cynhyrchu symudiadau traffig trwm. Gellid dadlau y byddai’r
symudiadau traffig dau gar yn peri llawer llai o aflonyddwch na loriau danfon a
symudiadau cwsmeriaid a staff y defnydd blaenorol. Adroddwyd y rhoddir blaenoriaeth i ddatblygu safleoedd sydd wedi eu datblygu o’r blaen, ac ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cyflawni hynny gan wella ansawdd gweledol safle amlwg ar y Stryd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C21/0668/43/LL Tir ger Uwch y Don, Bwlch Gwynt, Pistyll, Pwllheli, LL53 6LP PDF 339 KB Adeiladu tŷ
fforddiadwy AELOD LLEOL: Cynghorydd
Aled Wyn Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Caniatáu’r cais gyda chytundeb 106 Amodau: 5 mlynedd, yn unol â’r cynlluniau, draenio tir,
tirweddu, deunyddiau a gorffeniadau, enw
Cymraeg. Cofnod: Adeiladu
tŷ fforddiadwy a)
Cyflwynodd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ei adroddiad yn dilyn
cyfeirio penderfyniad Pwyllgor 21-3-22 i gyfnod o gnoi cil. Gohiriwyd penderfynu’r cais er galluogi'r
ymgeisydd i brofi ei fod mewn angen ac yn gymwys am dŷ fforddiadwy. Pwrpas
adrodd yn ôl i’r Pwyllgor oedd amlygu’r materion polisi cynllunio, risgiau
posib a’r opsiynau posib i’r Pwyllgor cyn iddynt ddod i benderfyniad terfynol
ar y cais. Amlygwyd
bod yr ymgeiswyr wedi e‘u hail asesu ar sail
gwybodaeth ariannol newydd cynhwysfawr a ddaeth i law, oedd yn cynnwys Prisiad
Llyfr Coch, prisiad eu tŷ presennol a gwybodaeth am eu morgais ac ecwiti
tebygol. Derbyniwyd copi o ymateb Tai Teg gan yr ymgeisydd yn cadarnhau eu bod
wedi asesu’r cais yn erbyn eu meini prawf. Gwrthodwyd ei cais oherwydd
ystyriwyd bod eu heiddo presennol yn addas ar gyfer maint y teulu, yn
fforddiadwy ac nad oedd unrhyw anghenion penodol ganddynt. O ganlyniad, nid
oedd yr angen am dŷ fforddiadwy wedi cael ei brofi yn llawn a bod rheswm
gwrthod yr ACLl, ‘Nid
yw’r ymgeiswyr wedi profi angen am dŷ fforddiadwy, felly mae’r bwriad yn
groes i faen prawf 1 a 7 o Bolisi TAI 6, Tai 15 a PS 17 Cynllun Datblygu Lleol
ar y Cyd Gwynedd a Môn ac i ofynion y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy
(2019)’, yn parhau i sefyll. Gwerthfawrogwyd
bod yr ymgeisydd yn profi problemau gwrthgymdeithasol yn eu heiddo presennol ac
yn dymuno symud, fodd bynnag, yn unol ag asesiad Tai Teg, roedd tŷ
presennol yr ymgeiswyr o faint a phris fforddiadwy ac yn addas i’w pwrpas. Ystyriwyd
hyn yn ‘ddymuniad’ gan yr ymgeiswyr yn hytrach nac ‘angen’ ac nad oedd materion
personol rhwng cymdogion yn faterion cynllunio perthnasol. Ni ddylai’r pwyllgor
roi pwysau ar hyn wrth ystyried y cais. Yng nghyd-destun fforddiadwyedd y tŷ arfaethedig nodwyd mai £315,00
oedd pris marchnad agored y tŷ. Adroddwyd nad oedd yr Uned Strategol Tai
wedi ymateb i gadarnhau’r elfen fforddiadwyedd na
chanran disgownt tebygol fyddai’n rhesymol ar gyfer eiddo newydd sengl
canolradd, ond awgrymwyd disgownt o oddeutu 50% i ddod a’r pris yn fforddiadwy
ar gyfer eiddo canolradd i £157,000. Cyfeiriwyd at gynnydd mewn prisiau tai a
phryder y gall pris yr eiddo / tir gynyddu yn sylweddol yn y dyfodol i lefel
lle gellid dadlau na fyddai’r eiddo yn fforddiadwy beth bynnag fyddai’r lefel
disgownt, a phosibilrwydd o dderbyn cais i godi’r cytundeb 106. Ategwyd bod y CDLl ond yn cefnogi cynigion am unedau fforddiadwy ble
gellid sicrhau eu bod yn aros yn fforddiadwy am byth, ond gyda’r bwriad
arfaethedig, mewn lleoliad o’r fath gyda golygfeydd arfordirol all ddylanwadu
ar bris y tŷ i’r dyfodol, ni ellid bod yn sicr y byddai’r tŷ yn
parhau’n fforddiadwy i’r dyfodol. Amlygwyd y risgiau i’r Cyngor o ganiatáu’r cais ynghyd ag opsiynau i’r Pwyllgor. Roedd y swyddogion yn nodi’n glir fod rhinweddau’r cais wedi cael ei asesu yn drylwyr gan swyddogion y Cyngor oedd yn argymell yn gadarn fod y cais yn cael ei wrthod gan nad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif C21/0959/11/LL 290 - 294 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1UL PDF 479 KB Codi
adeilad newydd ar gyfer 6 uned breswyl, newid defnydd y llawr gwaelod i wagle
hyblyg Defnydd Dosbarth A1, A2, A3 a/neu B1 ynghyd ac addasu'r lloriau uwchben
i 18 fflat gyda newidiadau ac estyniadau cysylltiedig. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Steve Collings Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu'r hawl i’r Rheolwr Cynllunio
ganiatáu’r cais yn dilyn asesiad o’r angen am ddarpariaeth o dai fforddiadwy (a
sicrhau trwy unai amod neu gytundeb 106 os oes angen darpariaeth ffurfiol) ac
yn ddarostyngedig i gytundeb 106 i sicrhau cyfraniad ariannol tuag at lecynnau
agored. Amodau: 5 mlynedd, yn unol â’r cynlluniau, amodau sŵn, sustemau
echdynnu, Dwr Cymru, deunyddiau a gorffeniadau, enw Cymraeg i’r datblygiad ac
unedau. Cofnod: Codi adeilad newydd ar gyfer 6 uned breswyl, newid
defnydd y llawr gwaelod i wagle hyblyg Defnydd Dosbarth A1, A2, A3 a/neu B1
ynghyd ac addasu'r lloriau uwchben i 18 fflat gyda newidiadau ac estyniadau
cysylltiedig. Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn cynnwys yr elfennau
isod: ·
Codi adeilad newydd 3 llawr yng nghefn
y safle ar gyfer 6 fflat breswyl 2 lofft ·
Newid defnydd llawr cyntaf y cyn-siop i
ddefnyddiau hyblyg fel siop a hwb ·
Mân newidiadau i edrychiadau presennol
blaen y siop. ·
Darparu 18 fflat uwchben y siop
bresennol ar 2 lawr i gynnwys 16 uned 1 llofft a 2 uned 2 lofft ·
Ymestyn ac addasu cefn yr adeilad
presennol er mwyn darparu rhai o’r unedau preswyl a balconïau. ·
Darparu 5 llecyn parcio car ·
Defnyddio rhodfa breifat yng nghefn yr
eiddo ·
Lleoli storfeydd storio biniau yng
nghefn yr adeilad presennol. ·
Lleoli llecyn amwynder bach/teras yng
nghefn yr adeilad presennol ynghyd a thirweddu meddal a chaled. Eglurwyd bod yr adeilad a’r safle wedi eu lleoli oddi fewn i ganol y
ddinas ac oddi fewn i ffin datblygu fel y’i cynhwysir yn y CDLl
ac ystyriwyd yr egwyddor o ddatblygu’r safle yn erbyn Polisi PCYFF 1 a Pholisi
TAI 1 o’r CDLl. Nodwyd bod yr adeilad o fewn prif
ardal manwerthu’r ddinas ac wedi ei amgylchynu gan gymysgedd o ddefnyddiau
preswyl ar ffurf fflatiau, masnachol ynghyd a maes parcio cyhoeddus. Daeth
defnydd y siop flaenorol i ben ym Medi 2020. Yng
nghyd-destun lefel cyflenwad dangosol tai i Fangor dros gyfnod y Cynllun,
amlygwyd bod y ddarpariaeth yn Ebrill 2021, 9 uned yn uwch na’r lefel cyflenwad
dangosol ar gyfer safleoedd ar hap ym Mangor ac y byddai’r bwriad cyfredol hwn
yn mynd uwchben lefel twf dangosol Bangor. O ganlyniad, rhaid adolygu unrhyw
gyfiawnhad a gyflwynwyd gyda’r cais yn amlinellu sut bydd y bwriad arfaethedig
yn cyfarch anghenion y gymuned leol. Mewn ymateb i’r
gofyniad, cyflwynodd yr ymgeisydd Ddatganiad Dylunio, Mynediad a Chynllunio
(diwygiedig) ynghyd a gwybodaeth/datganiadau ychwanegol oedd yn cynnwys y
wybodaeth ganlynol: ·
Yr ymgeisydd yw’r darparwr llety rhentu
mwyaf ym Mangor a gwelir prinder sylweddol ar gyfer fflatiau stiwdio 1 - 2
llofft ·
Bydd y cais yn llenwi’r gwagle rhwng
llety myfyrwyr a phrynwyr tŷ cyntaf. ·
Bod yr ymgeisydd yn bwriadu cwblhau rhan gyntaf o’r datblygiad o
fewn 12 mis a chwblhau’r adeilad ar wahân o fewn 24 mis (yn wahanol i
ddatblygiadau eraill sydd wedi derbyn caniatâd ond heb eu dechrau) ·
Er bod y ffigwr dangosol ar gyfer tai
ym Mangor eisoes wedi ei gyrraedd, ni ragwelwyd bydd bob tŷ o fewn
safleoedd yn y banc tir ar hap ynghyd a’r safleoedd hynny sydd wedi eu dynodi
ym Mangor yn debygol o ddatblygu. · Pe byddai’r cais yn derbyn caniatâd cynllunio ynghyd a’r dynodiadau tai o fewn y banc tir yn cael eu gwireddu, byddai’r ffigwr cronnus o dai ddim ond yn cyfateb i 3.4% o gynnydd yn y ffigwr dangosol o fewn y CDLl ar gyfer Bangor. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif C21/0734/46/LL Tyddyn Isaf, Tudweiliog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8PB PDF 340 KB Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er
mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain, codi adeilad newydd i gynnwys
cawodydd/toiledau, holl lleiniau caled cysylltiedig, ail wynebu a mynediad AELOD
LLEOL: Cynghorydd Simon Glyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle Cofnod: Cais llawn i
newid defnydd tir amaethyddol er mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain,
codi adeilad newydd i gynnwys cawodydd/toiledau, holl leiniau caled
cysylltiedig, ail wynebu a mynediad Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y safle wedi ei leoli y tu allan
i unrhyw ffin ddatblygu mewn safle agored yng nghefn gwlad - y safle a'r ardal
gyfagos o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn yn
ogystal â Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Eglurwyd,
gan mai safle ar gyfer carafanau teithiol oedd testun y cais mai polisi TWR 5 y
CDLl oedd y polisi perthnasol a oedd yn gosod cyfres
o feini prawf ar gyfer caniatáu datblygiadau o’r fath. Nodwyd bod maen prawf 1 polisi TWR 5 yn datgan y dylai
unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd fod o ansawdd uchel o ran
dyluniad, gosodiad ac edrychiad ac y dylai fod wedi’i guddio’n dda gan
nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau
teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w
hansawdd weledol. Ystyriwyd
bod y bwriad arfaethedig wedi ei leoli mewn safle sy’n eithaf gwastad o fewn y
dirwedd, o fewn cae sydd wedi ei amgylchynu gan gloddiau a gwrychoedd
sefydledig gyda chyfres o adeiladau allanol ynghlwm a’r anheddiad fyddai’n
rhannol guddio’r safle o’r gogledd. Er hynny, nodwyd bod y safle’n hollol
agored tuag at y llwybr arfordir. Cydnabuwyd
fod bwriad i atgyfnerthu sgrinio’r safle trwy wella ac ychwanegu at y
gwrychoedd presennol yn ogystal â chreu clawdd gyda choed cynhenid ar ei hyd,
ond amlygwyd bod y polisi yn gofyn i safleoedd fod wedi’i guddio’n dda gan
nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau
teithiol yn hawdd i’r dirwedd. Fel y mae, ystyriwyd nad oedd y safle wedi cael
ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd ac na fyddai’r hawdd ei gydweddu
mewn i’r dirwedd. Disgrifiwyd y safle fel un mewn lle agored wrth yr arfordir
ac wrth ymweld â’r ardal leol mae’n amlwg mai ychydig o rywogaethau sy’n tyfu’n
llwyddiannus yn yr ardal yma oherwydd gwynt y môr. Ystyriwyd y
byddai’r cloddiau presennol ac arfaethedig yn sgrinio rhannau isaf yr unedau,
ond oherwydd uchder cerbydau a charafanau teithiol byddai’r safle yn weladwy yn
y dirwedd ehangach - annhebygol fydd y tirweddu yn cuddio’r safle yn ei
gyfanrwydd heb effaith sylweddol niweidiol i’r dirwedd. Oherwydd hyn, amlygwyd
pryder sylweddol ynglŷn â llwyddiant y cynllun tirweddu ynghyd a’r amser
sylweddol i’w sefydlu - o ganlyniad ystyriwyd y byddai effaith weledol y safle
yn niweidiol i’r dirwedd yn y cyfnod tyfu a all fodoli am flynyddoedd. Adroddwyd bod amryw o safleoedd teithiol eraill yn yr ardal i’w gweld o sawl man cyhoeddus dros y cloddiau a’r gwrychoedd presennol ac amlygwyd pryder y byddai’r datblygiad yma yn cyfrannu at effaith cronnus datblygiadau carafanau teithiol sydd eisoes yn cael effaith negyddol ar y dirwedd. O ganlyniad, ni ystyriwyd fod y bwriad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Cais Rhif C21/0931/23/LL Plas Tirion, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4PY PDF 503 KB Codi estyniad at uned ddofednod presennol er
mwyn cynnwys 16,000 o ieir ychwanegol (ar gyfer cynhyrchu wyau rhydd) ynghyd â
gwaith cysylltiol AELOD
LLEOL: Cynghorydd Berwyn Parry Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
Cofnod: Codi
estyniad at uned ddofednod presennol er mwyn cynnwys
16,000 o ieir ychwanegol (ar gyfer cynhyrchu wyau rhydd) ynghyd â gwaith
cysylltiol Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer
codi estyniad i uned amaethyddol i gadw ieir sy’n cynhyrchu wyau maes a gwaith
cysylltiedig ar Fferm Plas Tirion, Llanrug. Disgrifiwyd Plas Tirion fel daliad
amaethyddol sy’n cynnwys 521 acer o dir gyda chyfanswm o 200 o wartheg bîff, a dofednod - byddai’r
uned arfaethedig yn cyflwyno 16,000 o ieir ychwanegol i’r fenter gan greu
cyfanswm o 48,000 o ieir. Eglurwyd
bod y safle wedi ei leoli tu allan i unrhyw ffin datblygu fel y diffinnir gan y
CDLl ac felly yn safle cefn gwlad agored. Adroddwyd
nad oes polisi penodol yn y CDLl yn ymwneud a
datblygiadau amaethyddol, felly’r brif ystyriaeth oedd Polisi Cynllunio Cymru
(PCC) a Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig
Cynaliadwy. Amlygwyd y
byddai’r sied arfaethedig ynghlwm i’r sied ieir presennol, gyda’r estyniad yn
llai o faint a graddfa ond o’r un dyluniad a'r sied bresennol. Ystyriwyd fod y
sied yn rhesymol angenrheidiol ar gyfer diben amaethyddiaeth i ehangu’r busnes
ac nad oedd amheuaeth bod ei leoliad cefn gwlad yn hanfodol o fewn iard y fferm
sefydledig. Nodwyd fod y bwriad yn
cyd-fynd a polisi PCYFF 1 ac egwyddorion PCC a TAN 6 cyn belled nad oedd unrhyw
effeithiau annerbyniol yn sgil y bwriad. Yng nghyd-destun materion gweledol ystyriwyd nad oedd bwriad y datblygiad yn anarferol yng nghefn gwlad ac felly yn dderbyniol
ar sail gofynion Polisi CYF 6, PCYFF 3 a PCYFF 4 o’r CDLl. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, er bod y safle wedi
ei leoli yng nghefn gwlad nepell o ddaliad amaethyddol gweithredol, nodwyd bod
anheddau preswyl wedi eu lleoli yn nalgylch y safle ei hun. Lleolir yr anheddau
a adnabyddir fel Plas Tirion a Phlas Tirion Lodge
oddeutu 240m i’r gogledd o safle’r cais gydag anheddau/tyddynnod eraill wedi eu
lleoli dros 400m o safle’r cais. Bydd y bwriad yn golygu defnyddio 6 ffan
echdynnu (ar ben y 10 ffan echdynnu bresennol) ar do’r
adeilad er mwyn rheoli tymheredd oddi fewn i’r uned ei hun. Gan ystyried
lefelau sŵn y ffaniau ynghyd a chanlyniadau’r
Asesiad Sŵn a gyflwynwyd gyda’r cais roedd Uned Gwarchod y Cyhoedd yn
argymell cynnwys amod yn sicrhau fod yr unedau ffan yn cynnwys lefelau sŵn
trydydd wythfed. Ategwyd y byddai’r uned weithredu system aml-reng sydd yn galluogi i’r tail i ddisgyn i lawr i’r cludfelt yn gweithredu unwaith bob 5-7 diwrnod er mwyn gwaredu’r tail. Bydd hyn yn golygu mai ychydig iawn o dail fydd yn cael ei storio o fewn yr uned ac felly yn lleihau gweithgaredd pla. Ynghyd â’r cynnydd bwriededig yn y nifer o ieir ar y safle, er mwyn cydymffurfio gyda gofynion newydd Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (Cymru) 2021 lle nodi’r angen i ddaliadau amaethyddol gynnwys adeiladau neu ardaloedd ychwanegol i storio tail dan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |
|
Cais Rhif C22/0134/16/LL Plot C1, Parc Bryn Cegin, Llandygái, Bangor, LL57 4BG PDF 453 KB Datblygiad cyfleuster
tanwydd Bio - nwy naturiol wedi ei gywasgu ar gyfer cerbydau gan gynnwys
pympiau tanwydd, cwmpownd cyfarpar offer, creu mynedfeydd newydd, tirlunio a
datblygiad cysylltiedig AELOD LLEOL:
Cynghorydd Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle Cofnod: Datblygiad
cyfleuster tanwydd Bio - nwy naturiol wedi ei gywasgu
ar gyfer cerbydau gan gynnwys pympiau tanwydd, compownd
cyfarpar offer, creu mynedfeydd newydd, tirlunio a datblygiad cysylltiedig. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd y
Swyddog Rheolaeth Datblygu byddai’r cyfleuster yn gwasanaethu gweithredwyr
logisteg a dosbarthu ac yn gweithredu 24 awr y dydd, heb staff, gyda gyrwyr yn
actifadu'r pympiau trwy ffob awtomatig. Eglurwyd bod y safle’n gorchuddio arwynebedd o tua 0.7ha ac yn golygu
datblygu llain wag o fewn Stad Ddiwydiannol Parc Bryn Cegin sydd wedi’i ddynodi
a’i warchod o fewn y CDLl fel Safle Cyflogaeth Strategol a Ddiogelir
Rhanbarthol. Nodwyd bod defnydd y bwriad yn disgyn o dan dosbarth defnydd
unigryw, ac o ystyried fod nifer o blotiau gwag ar y safle, mai darpariaeth ar
gyfer trafnidiaeth busnes fydd y bwriad ac na fydd y cyfleuster ar agor i'r
cyhoedd, bod yr egwyddor o leoli’r orsaf
ym Mharc Bryn Cegin yn dderbyniol. Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol y bwriad gerbron yn golygu darparu cyfarpar ar
gyfer galluogi loriau HGV i godi tanwydd nwy o bympiau tanwydd cyffredinol - ystyriwyd
fod y bwriad yn cydymffurfio a gofynion polisïau PCYFF 2, 3 a 4 ynghyd ac PS20
ac AT1 o’r CDLl o ran effaith weledol. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl eglurwyd bod y safle
yn ffinio a chefnau 3 tŷ preswyl -
1 i 3 Rhos Isaf. Cydnabuwyd fod y tai ar lefel uwch a bod bwriad i lefelu
safle’r cais fel bod wal gynnal rhyngddo a’r tai ynghyd a ffens acwstig ar ei
ben. Amlygywd bod asesiad sŵn a chynllun goleuo
wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn nodi, ·
Bydd y pympiau yn cael eu goleuo yn
ystod oriau tywyll, ond dim ond yn ystod cyfnodau o waith bydd goleuadau’r compownd yn cael eu defnyddio. ·
Bydd effaith y golau yn lleiafrifol
oherwydd eu bod wedi eu canoli ar ardaloedd penodol (o dan y pympiau yn
bennaf). Bod triniaeth ffin bwriedig (ffens a
thir-weddu) ynghyd a graddfa a lleoli’r goleuadau yn golygu na fydd y gorlif
golau yn mynd heibio ffiniau’r safle - bydd y gorlif hynny yn llai na golau
lleuad. ·
Bod asesiad sŵn wedi ei wneud i ofynion BS4142/BS8233/Meini
Prawf WHO ac yn ystyried sŵn
gweithgareddau o ganlyniad i loriau ar y blaengwrt
ynghyd a’r holl gyfarpar ar y safle ·
Bod canlyniadau’r asesiadau yn dangos
na ddisgwylir i effeithiau sŵn gweithredol yr orsaf ail-lenwi â thanwydd
gael unrhyw effaith andwyol sylweddol, (er yn dibynnu ar y cyd-destun). Nodwyd bod Uned Gwarchod y Cyhoedd yn pwysleisio’r angen i weithredu
mesurau lliniaru sŵn ac os gellid gweithredu mesurau lliniaru pellach i
ostwng y lefel gradd ymhellach, fe'i cynghorwyd i wneud hynny fel nad yw’r
safle yn cynyddu'r lefel sŵn cefndir presennol ac felly yn cydymffurfio
gyda gofynion polisïau PCYFF 2 a 3 o ran mwynderau cyffredinol a phreswyl. Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad nodwyd bod y safle yn elwa o bwynt mynediad annibynnol trwy ffordd fynediad i'r gorllewin o'r plot. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14. |