Eitemau
| Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU
Dogfennau ychwanegol:
|
2. |
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL
I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol.
Dogfennau ychwanegol:
|
3. |
MATERION BRYS
Dogfennau ychwanegol:
|
4. |
COFNODION PDF 247 KB
Dogfennau ychwanegol:
|
5. |
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO
Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd.
Dogfennau ychwanegol:
|
5.1 |
CAIS RHIF C26/0238/15/LL TIir Gyferbyn a 10 Warden Street, Llanberis, LL55 4HP PDF 168 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod y cais
Rhesymau:
- Nid yw dyluniad modern
yr annedd arfaethedig, gyda’r balconi eang a’r drysau/ ffenestri gwydr ar
y drychiad blaen a chefn, yn parchu cymeriad tai cyfagos na’r hyn sydd yn
y cyffiniau a byddai’r nodweddion yn anghydnaws. Ni fyddai’r bwriad yn
ychwanegu at na gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle na’r ardal. Nid
yw’r bwriad wedi rhoddi ystyriaeth lawn i’w gyd-destun hanesyddol ac
adeiledig a'i fod o ran ei osodiad, ymddangosiad, graddfa, uchder, mas a’r
driniaeth i’r drychiadau yn cynnwys nodweddion anghydweddol, dominyddol ac
estron nad ydynt yn parchu cyd-destun y strydwedd na’r safle. Ystyrir fod
y bwriad felly, yn groes i feini prawf 1, 2 a 3 o Bolisi PCYFF 3: Dylunio a siapio lle, Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011-2026).
- Oherwydd lleoliad,
maint ac uchder y balconi a blaen yr annedd arfaethedig sy’n wynebu’r
eiddo drws nesaf, ystyrir y byddai’r bwriad yn gor-edrych a chael effaith
ddominyddol a gormesol ac effaith andwyol ar fwynderau’r trigolion cyfagos
o ran sŵn ac aflonyddwch. Am y rheswm hwn, ystyrir fod y bwriad yn
groes i ofynion polisi PCYFF2 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd
a Môn (2011-2026) sy’n ymwneud a diogelu mwynderau trigolion a’r ardal
leol.
|
5.2 |
CAIS RHIF C25/0671/14/LL Ysgol Syr Hugh Owen Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1HW PDF 168 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu gydag amodau
- 5 Mlynedd
- Unol a’r cynlluniau
- Lliw gwyrdd tywyll
- Gwelliannau
Bioamrywiaeth
Nodyn
Nid yw’r caniatâd yma yn cynnwys unrhyw
waith i goed wedi eu gwarchod o dan Orchymyn Gwarchod Coed. Bydd angen caniatâd ar wahân ar gyfer unrhyw
waith i’r coed sydd wedi eu gwarchod.
|
5.3 |
CAIS RHIF C24/1032/04/LL Tir ger LL23 7NR, Frongoch, LL23 7NR PDF 306 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu
Dirprwyo’r hawl i’r
Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod;
Amodau
- Rhaid i’r datblygiad ddechrau o fewn pum mlynedd i ddyddiad y
penderfyniad hwn.
- Rhaid i’r datblygiad gael ei gyflawni yn unol â’r cynlluniau a’r
dogfennau cymeradwy a ganlyn.
- Rhaid tynnu’r mast a ganiateir drwy hyn a rhaid adfer y tir i’w
gyflwr blaenorol o fewn 5 mlynedd i ddyddiad ei gomisiynu. Rhaid i’r
ymgeisydd hysbysu’r Awdurdod Cynllunio Lleol o ddyddiad y comisiynu o fewn
3 mis i’r dyddiad hwnnw.
- Cyn dechrau’r datblygiad (gan gynnwys gwaith tir a chlirio
llystyfiant), rhaid cyflwyno Datganiad Dull manwl sy’n disgrifio sut y
caiff y safle ei ddychwelyd i’w gyflwr gwreiddiol i’r Awdurdod Cynllunio
Lleol, a rhaid ei gymeradwyo’n ysgrifenedig. Rhaid cadw at a gweithredu’r
mesurau a gymeradwywyd yn llawn.
- Ni fydd unrhyw ddatblygiad, gan gynnwys clirio’r safle, yn dechrau
nes bod Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CEMP) wedi’i gyflwyno i’r
Awdurdod Cynllunio Lleol a’i gymeradwyo’n ysgrifenedig ganddo.
- Ni fydd unrhyw ddatblygiad na cham o’r datblygiad yn dechrau nes
bod Cynllun Diogelu Adar sy’n Magu (BBPP) wedi’i gyflwyno i’r Awdurdod
Cynllunio Lleol a’i gymeradwyo ganddo.
- Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad hyd nes y bydd cynllun gwella
bioamrywiaeth wedi ei gyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol a'i gytuno'n
ysgrifenedig ganddo. Bydd y datblygiad yn cael ei wneud yn unol â'r
manylion a gymeradwywyd.
- Ni chaniateir unrhyw glirio llystyfiant, gwaith tir na
gweithgareddau adeiladu yn ystod tymor nythu adar (1 Mawrth i 31 Awst yn
gynhwysol) oni bai bod hynny wedi’i gytuno’n ysgrifenedig ymlaen llaw
gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Pan fo angen cynnal gwaith yn ystod y
cyfnod hwn, rhaid cynnal arolwg o’r safle gan ecolegydd cymwys dim mwy na
48 awr cyn dechrau’r gwaith. Rhaid gweithredu unrhyw argymhellion a roddir
yn llawn, ac os canfyddir nythod gweithredol, rhaid sefydlu parth gwarchod
priodol a’i gynnal hyd nes i’r cywion ffoi.
- Rhaid gosod dyfeisiau gwyro adar ar bob gwifren gynhaliol allanol y
mast ar bellter nad yw’n fwy na 2 fetr ar hyd eu hyd gyfan cyn i’r mast
ddod yn weithredol. Rhaid cadw a chynnal y dyfeisiau hyn drwy gyfnod bywyd
y datblygiad. Rhaid disodli unrhyw ddyfeisiau sydd wedi’u difrodi, wedi’u
symud neu wedi datgysylltu o fewn un mis i’w canfod.
- Cyn dechrau adeiladu unrhyw fastiau meteorolegol, neu ddefnyddio
unrhyw offer adeiladu neu strwythur(au) dros dro 50 metr neu fwy o uchder (uwchben
lefel y ddaear), rhaid i’r datblygwr gyflwyno cynllun goleuo hedfan i’w
gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd ar y cyd â’r Weinyddiaeth Amddiffyn, gan
nodi sut y bydd y datblygiad yn cael ei oleuo drwy gydol ei oes er mwyn
cynnal gofynion diogelwch hedfan sifil a milwrol fel y penderfynir yn
angenrheidiol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Dylai hyn gynnwys:
a) Manylion unrhyw
offer adeiladu a strwythurau dros dro sydd â chyfanswm uchder o 50 metr neu fwy
(uwchben lefel y ddaear) a fydd yn cael eu defnyddio yn ystod adeiladu’r mast
meteorolegol, ynghyd â manylion unrhyw oleuadau rhybudd hedfan a fydd yn cael
eu gosod arnynt; a
b) Lleoliad ac uchder
pob ... view the full Penderfyniad text for item 5.3
|
5.4 |
CAIS RHIF C24/0323/14/LL Tir ger Muriau Park Hotel, Ffordd Bont Saint, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2YS PDF 454 KB
Gorsaf
betrol arfaethedig, hwb gwefru ceir trydan, adeilad manwerthu, chreu mynedfa
newydd a gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio.
AELODAU
LLEOL: Cynghorydd Menna Trenholme a’r Cynghorydd Cai Larsen
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Gwrthod
Rhesymau:
- Ystyriwyd
fod y bwriad, oherwydd ei leoliad graddfa a’r defnydd yn annerbyniol o
ganlyniad i’r lefel o aflonyddwch a chynnydd mewn gweithgaredd o’i gymharu
â’r sefyllfa bresennol ac o ganlyniad, ystyrir fod y bwriad yn groes i
faen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a
Môn 2011-2026 sy’n diogelu mwynderau meddianwyr eiddo lleol.
- Mae’r
prawf o effaith tebygol sylweddol yn awgrymu y gall y bwriad achosi
effaith sylweddol ar rinweddau ACA Glynllifon, yn benodol yr ystlum pedol
leiaf sy’n nodwedd o’r ACA yma, o ganlyniad i’w leoliad, y dystiolaeth fod
ystlumod pedol leiaf yn defnyddio’r ardal a bod y bwriad yn amharu ar y
gwrychoedd mae’r ystlumod yn ei ddefnyddio. Nid oes gwybodaeth ddigonol
wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn i’r Awdurdod Cynllunio Lleol
allu cwblhau Asesiad Priodol yn yr achos yma yn unol â gofynion yr
Awdurdod o dan Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.
Cesglir felly na ellir cael unrhyw sicrwydd na fydd y bwriad yn cael
effaith sylweddol neu andwyol ar yr ACA oherwydd y diffyg gwybodaeth ac
felly nid yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Rheoliadau Cadwraeth
Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.
- Nid oes datganiad seilwaith gwyrdd wedi ei
gyflwyno fel rhan o’r cais ac felly nid oes sicrwydd fod y bwriad yn
cydymffurfio gyda gofynion Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru (2024) o ran y
dull gam wrth gam a gwelliannau bioamrywiaeth.
- Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno
fel rhan o’r cais ar hyn o bryd ar gyfer asesu effaith o ganlyniad i
unrhyw halogiad yn y tir. I’r perwyl hyn ni ellir cadarnhau os yw’r bwriad
yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 na polisi PS6
y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026.
- Mae'r
safle'n cynnwys prif afon ddynodedig (Afon Rhosdican) ac mae pryderon
ynghylch y datblygiad hwn a'r risg llifogydd yn y dyfodol i'r cynnig ac i
drydydd parti. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r
cais er mwyn sicrhau mynediad addas a digonol i beiriannau er mwyn
galluogi gwaith cynnal a chadw'r brif afon yn y dyfodol a darparu llwybr
llif llifogydd/parth byffer i'r brif afon. Ystyrir heb y wybodaeth yma na
ellir sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf rhif 4
polisi PS6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026.
- Ni chyflwynwyd tystiolaeth ddigonol fel rhan
o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith o
golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas. Ystyrir felly fod y cais
yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau
3.58 a 3.59 o Bolisi Cynllunio Cymru.
- Nid
yw’r datblygiad yn adlewyrchu dull sensitif na phriodol o ddylunio. Mae’n
ymddangos yn anghydnaws ac yn ymwthiol o fewn ei gyd-destun, ac felly nid
yw’n cydymffurfio â pholisïau PCYFF 3 a PCYFF 4 ... view the full Penderfyniad text for item 5.4
|
5.5 |
CAIS RHIF C24/0755/19/LL Tir gyferbyn a Cylchfan Meifod, Meifod Farm, Pwllheli Road, Bontnewydd, LL55 2TY PDF 523 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod yn groes i’r argymhelliad
Rhesymau:
- Nid yw’r bwriad yn gwbl
cyd-fynd gydag egwyddorion cynaliadwyedd
- yn unol â pholisi PS6
- Bod y bwriad yn cael
effaith andwyol ar fwynderau’r ardal a thrigolion cyfagos - yn groes i maen prawf 7 polisi PCYFF 2
- Bod y bwriad yn cael
effaith weledol andwyol - yn groes
i bolisi PCYFF 3
- Nid yw’r cynnig ar
gyfer lliniaru effaith y bwriad o ran bioamrywiaeth na’r gwelliannau
bioamrywiaeth yn ddigonol - yn groes i ofynion polisi PS19.
|