Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: COFNODION: a) Datganodd yr aelodau
canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd
Paul Rowlinson (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 ar y rhaglen,
(C20/0805/13/LL) ·
Y Cynghorydd
Dewi Roberts (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau
5.2 a 5.9 ar y rhaglen,
(C21/0367/39/DT) a (C21/0277/39/DT) ·
Y Cynghorydd
Elfed Williams (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.3 ar y rhaglen, (C20/0485/18/AC) ·
Y Cynghorydd
Owain Williams (a oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau
5.5 a 5.6 ar y rhaglen,
(C21/0495/34/LL) a (C21/0376/34/LL) ·
Y Cynghorydd
Angela Russell (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.7 ar y rhaglen,
(C21/0337/38/DT) ·
Y
Cynghorydd Judith
Humphreys (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y
rhaglen (C19/1089/22/LL) ·
Y Cynghorydd
Menna Baines (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn) yn eitem
5.10 ar y rhaglen,
(C20/1056/25/LL) |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 12fed
o Orffennaf 2021 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 12fed o Orffennaf 2021 fel rhai cywir |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
Cais Rhif C20/0805/13/LL Tir ger Gwernydd, Bethesda, LL57 3TY PDF 469 KB Creu maes
parcio ar gyfer 30 o gerbydau, creu mynedfa gerbydol newydd, llwybrau troed
ynghyd a gosod 2 bae gwefru ceir trydanol a pheiriant talu ac arddangos AELOD LLEOL: Cynghorydd Paul Rowlinson Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i’r amodau canlynol; 1. 5
mlynedd 2. Cydymffurfio
a chynlluniau 3. Darparu
CEMP 4. Darparu
Cynllun Tirlunio 5. Darparu
Cynllun Traffig Adeiladu 6. Materion
archeolegol 7. Cydymffurfio
a gofynion awgrymiadau’r Asesiad Amgylcheddol Cychwynnol 8. Dim goleuo heblaw'r hyn sydd wedi ei gytuno 9. Triniaeth
ffin i’w gwblhau cyn defnyddio’r llecynnau parcio Nodiadau
COFNODION: Creu maes
parcio ar gyfer 30 o gerbydau, creu mynedfa gerbydol
newydd, llwybrau troed ynghyd a gosod 2 bae gwefru ceir trydanol a pheiriant talu ac arddangos a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio
ar gefndir
y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli gyferbyn ffin datblygu canolfan
wasanaeth lleol Bethesda. Nodwyd nad oedd unrhyw bolisi penodol o fewn CDLl yn cyfeirio’n arbennig tuag at ddarparu meysydd parcio
o’r newydd ond ystyriwyd bod polisïau PCYFF 2, PCYFF 3, TRA 2 a TRA 4 yn
berthnasol i’r achos yma. Eglurwyd mai pwrpas y
bwriad yw darparu llecynnau parcio cerbydol ar gyfer cymunedau Gerlan a
Gwernydd. Adroddwyd, oherwydd natur adeiledd a strydoedd cul yr ardal breswyl
yma, bod diffyg difrifol o lecynnau parcio (preifat a chyhoeddus) oddi ar y
rhwydwaith ffyrdd cyhoeddus. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol o
hyrwyddo neu arwain at gynnydd defnydd cerbydau preifat, ond yn hytrach yn
lleddfu trafferthion parcio presennol y gymuned. Nodwyd bod yr Uned
Drafnidiaeth wedi cadarnhau bod y bwriad yn cydymffurfio gyda safonau parcio ac
na fyddai’r fynedfa arfaethedig yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch ffyrdd.
Ystyriwyd fod
lleoliad, maint a gosodiad y safle yn un rhesymegol ac yn dderbyniol ar sail
egwyddor, dyluniad, graddfa, deunyddiau, ffurf adeiladu lleol, materion
priffyrdd a mwynderau preswyl. Y bwriad felly yn cydymffurfio gyda gofynion
polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol. b)
Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod
Lleol y pwyntiau canlynol: ·
Ei
fod yn cefnogi’r cais ·
Bod
gwir angen safleoedd parcio ychwaegol yn yr ardal - y
strydoedd yn gul a diffyg lle parcio yn achosi pryder i nifer ·
Bod
bysus yn cael trafferthion ·
Ei
fod yn diolch i’r Cyngor Cymuned (yr ymgeisydd) am gyflwyno’r cais ·
Bod
nifer wedi amlygu pryderon yn ymwneud a ymwelwyr i’r Carneddau yn parcio yn yr
ardal - hyn yn digwydd beth bynnag ·
Ni
fyddai creu'r safle parcio yn ychwanegu at bryderon llifogydd ·
Bydd
y wal garreg draddodiadol yn cael ei dymchwel ai hail ddefnyddio ·
Bydd
gwrychoedd yn cael eu plannu ar gyfer bywyd gwyllt ·
Croesawu
gosod pwyntiau gwefru ceir trydan - hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir ·
Bod
angen sicrhau bod y safle yn cael ei reoli yn dda ch) Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod parcio yn amlwg
yn broblem yn yr ardal ·
Pryder y bydd
preswylwyr yn gorfod talu am barcio, ond debyg
mai mater i’r Cyngor Cymuned yw trafod
a rheoli hyn ·
Awgrym bod angen cynnal asesiad
dichonoldeb - a fydd trigolion lleol yn fodlon talu
neu yn parhau i barcio ar
y lon? Os na fydd digon
yn talu am y safle parcio a fydd hyn yn
cael effaith ar gynllun y Cyngor Cymuned i ad-dalu
eu dyled? PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth
Cynorthwyol Amgylchedd i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol; 1. 5 mlynedd 2. Cydymffurfio
a chynlluniau 3. Darparu CEMP 4. Darparu Cynllun Tirlunio |
|
Cais Rhif C21/0367/39/DT Sandpiper, Lôn Rhoslyn, Abersoch, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7BD PDF 317 KB Estyniadau ac addasiadau AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dewi W Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthod y
cais Rhesymau: Gor-ddatblygiad
ac effaith andwyol ar eiddo cyfagos. COFNODION: Estyniadau
ac addasiadau Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais
yr Aelod Lleol a) Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi y byddai’r gwaith yn cynnwys : ·
Codi estyniad ochr deulawr
ar safle modurdy unllawr presennol - bydd yn ymestyn tua’r
dwyrain (ochr) yr un pellter a´r
modurdy presennol ond yn ymestyn
1.4m o flaen y tŷ presennol a 1.8m tua’r cefn ac o’r un uchder a tho’r tŷ presennol. Bydd modurdy, iwitiliti
ac ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
a llofft ac ystafell ymolchi ar y llawr
cyntaf. Bydd talcenni newydd ar flaen a chefn
y tŷ gyda balconi “Juliette” ar y llawr cyntaf yn
y cefn ·
Codi estyniad deulawr cefn ar ben gorllewinol
yr eiddo gydag ystafell ardd ar y llawr
gwaelod a llofft ar y llawr cyntaf.
Bydd yr estyniad
yn ymestyn 3.7m tua’r cefn ac yn
creu talcen newydd yn wynebu’r
cefn. ·
Bydd gan yr estyniadau deulawr doeau brig o lechi gyda’r to brig newydd ar y blaen a’r
cefn yn is na lefel to’r
prif dŷ. ·
Bwriedir codi porth newydd ar y blaen
ynghyd a tho llechi unllethr ar draws y porth ag estyniad unllawr presennol arall. Tynnwyd
sylw at y gwrthwynebiadau a
dderbyniwyd a oedd yn awgrymu
nad oedd y dyluniad yn gweddu’r
stryd ac yn orddatblygiad fyddai’n cysgodi eiddo cymdogion.
Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF
3 y CDLL sy'n ymwneud a'r agwedd lleoliad,
dyluniad ac effaith gweledol gan ddatgan
bod disgwyl i bob cynnig arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy'n rhoi
llawn ystyriaeth i gyd-destun yr
amgylchedd adeiledig o gwmpas. Ystyriwyd bod y cynnig yn cwrdd
gyda gofynion polisi PCYFF 3 y CDLl a rhestrwyd y rhesymau yn yr adroddiad. Yng nghyd-destun gor-edrych a chysgodi eiddo cymdogion, ystyriwyd natur drefol y safle a’r rhyng-welededd
sydd eisoes yn bodoli rhwng
y tai a’r gerddi'n lleol. Ni ystyriwyd y byddai’r estyniadau yn cael niwed
arwyddocaol ychwanegol ar breifatrwydd cymdogion nac y byddai niwed arwyddocaol
ychwanegol i fwynderau cymdogion, na’r ardal yn
gyffredinol, yn deillio o’r datblygiad.
Ystyriwyd bod y cynnig yn dderbyniol dan bolisi PCYFF 2 y CDLl. b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol: ·
Adeiladwyd Sandpiper yn 1967 fel
cartref gwyliau i'w Daid. ·
Yr eiddo mewn cyflwr enbyd – dim buddsoddiadau diweddar ·
Bod 2 ystafell wely i
fyny'r grisiau ac 1 ystafell wely i
lawr y grisiau gydag ystafell ymolchi; y tŷ yn cael ei
wresogi gan storage
heaters ond heb ei insiwleiddio - hyn yn anaddas
i'r amgylchedd. Angen uwchraddio systemau trydan a dwr yn llwyr
gan eu bod yn beryglus ac anaddas ·
Y bwriad
yw ymestyn uwchben y garej ac allan i’r cefn
i mewn i'r
ardd - yn debyg iawn i
estyniadau eraill yn y stryd. Bydd
hyn yn darparu
4 ystafell wely i fyny'r grisiau
sy'n flaenoriaeth oherwydd nifer plant a Nain sy'n aros yn
rheolaidd · Mae’r ... view the full COFNODION text for item 7. |
|
Cais Rhif C20/0485/18/AC Victoria Terrace, High Street, Deiniolen, Gwynedd LL55 3LT PDF 350 KB Diwygio amod 2
o ganiatâd cynllunio rhif C17/0438/18/LL ar gyfer datblygiad preswyl er mwyn
ymestyn y cyfnod o 3 mlynedd er mwyn galluogi cyflwyno cais caniatáu materion a
gadwyd yn ôl AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams Dolen
i'r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i
Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau perthnasol sy’n ymwneud a:-
Nodyn: Angen cyflwyno cais
system ddraenio cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor. COFNODION: Diwygio amod
2 o ganiatâd cynllunio rhif C17/0438/18/LL ar gyfer datblygiad preswyl er mwyn
ymestyn y cyfnod o 3 mlynedd er mwyn
galluogi cyflwyno cais caniatáu materion
a gadwyd yn ôl Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd
yn nodi bod ardal y cais erbyn
hyn wedi ei ddynodi’n statudol
gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi
Gogledd Orllewin Cymru. Er y dynodiad ni
ystyriwyd y byddai’r bwriad o’i ganiatáu
yn tanseilio’r dynodiad gan ystyried
sylwadau CADW. a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais
llawn ydoedd ar gyfer newid
amod 2 o ganiatâd cynllunio amlinellol rhif C17/0438/18/LL er mwyn ymestyn yr
amser a roddwyd i gyflwyno cais
materion a gadwyd yn ôl. Eglurwyd,
fel yn flaenorol,
bod y manylion sy’n ymwneud a graddfa, golwg, tirweddu a mynedfa i’r safle
wedi eu cadw’n
ôl i’w hystyried
yn y dyfodol trwy gyflwyno cais
materion a gadwyd yn ôl. Nodwyd
bod y bwriad yn parhau i olygu
datblygu’r safle ar gyfer 27 o dai
(gan gynnwys 5 tŷ fforddiadwy ar gyfer angen
lleol cyffredinol), creu mynedfa newydd
ynghyd a darparu llecyn amwynder. Ategwyd bod y cais gwreiddiol (C09A/0396/18/AM) yn destun cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 er mwyn darparu
elfen o dai fforddiadwy a bod y cytundeb cyfreithiol sydd wedi ei arwyddo
yn wreiddiol gan yr ymgeisydd
yn parhau i fod yn
ddilys. Adroddwyd bod yr egwyddor o ddatblygu’r
safle ar gyfer datblygiad preswyl eisoes wedi ei dderbyn
boed hynny yn 2014 a 2017, ond bod angen ystyried os yw’r amgylchiadau
neu’r sefyllfa gynllunio wedi newid ers caniatáu’r
ceisiadau blaenorol. Yn sgil polisïau lleol, penderfynodd yr Awdurdod Cynllunio Lleol y cais amlinellol
ar sail polisïau Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd a’r cais i ymestyn
y cyfnod o 3 mlynedd rhannol ar sail polisïau Cynllun Datblygu Unedol a rhannol ar sail y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn - Fersiwn Cyfansawdd. Erbyn hyn, y ddogfen polisi cynllunio lleol mabwysiedig yw’r CDLL ac fe gyfeiriwyd at y polisïau perthnasol yn yr
adroddiad. Nodwyd mai lefel cyflenwad dangosol Deiniolen dros gyfnod y Cynllun
yw 45 uned gyda disgwyl i’r
cyflenwad dangosol gael ei gyfarch
trwy safle dynodiad tai T65 a trwy safleoedd ar hap – o ganlyniad mae modd
cefnogi’r bwriad o dan Polisi TAI3. Bydd 5 tŷ fforddiadwy yn cael eu cynnwys
yn y bwriad sy’n gyfystyr ag 18% o’r
datblygiad. I’r perwyl hyn, mae’r
bwriad yn parhau i gwrdd
â throthwy tai fforddiadwy
a nodwyd o fewn Polisi TAI15. Bydd y bwriad
yn darparu cymysgedd ac amrywiaeth eang o dai i
gyfarch yr angen am y fath dai yn Deiniolen
yn unol ag Asesiad Angen Tai Gwynedd ac asesiad ar gyfer
pentref Deiniolen sy’n dangos yr
angen am dai fforddiadwy 2 a 3 llofft a thai marchnad agored
2, 3 a 4 llofft. Wedi ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys y gwrthwynebiadau, ni ystyriwyd fod y bwriad ... view the full COFNODION text for item 8. |
|
Cais Rhif C21/0546/00/LL Richmond House, Stryd Fawr, Abermaw, Gwynedd, LL42 1DW PDF 309 KB Trosi islawr a llawr isaf yr adeilad yn siop fferm gan
gynnwys bocs hysbysebu pren ar y cwrt flaen. AELOD LLEOL: Cynghorydd Gethin Glyn Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu gydag amodau
COFNODION: Trosi islawr a llawr isaf yr adeilad
yn siop fferm
gan gynnwys bocs hysbysebu pren ar y cwrt
blaen. Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn ymwneud
â throsi rhan o islawr a llawr daear yr adeilad
o ddefnydd preswyl i siop fferm. Byddai’r islawr yn cynnwys
dwy storfa ar gyfer y siop,
ystafell baratoi bwyd a thoiled gyda’r siop fferm
wedi ei lleoli
ar y llawr daear. Bydd defnydd
anheddol yn parhau i weddill
yr adeilad. Bydd ffenestr bresennol
ar yr edrychiad
gogledd dwyreiniol yn cael ei
disodli am ddrysau dwbl a blaen siop
bren newydd. Bwriedir fel rhan o’r
datblygiad hefyd osod bocs hysbysebu
pren yng nghwrt blaen yr
eiddo. Nodwyd bod y safle wedi ei
leoli oddi fewn i’r ffin
ddatblygu ac oddi fewn i ddynodiad
canol y dref. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod yr
ymgeisydd yn Gynghorydd Sir ac yn Aelod Lleol. Yn unol â Pholisi PS 15 a MAN 1 gwarchodir canol trefi ar gyfer
defnyddiau sydd yn gysylltiedig â chanol trefi megis
defnyddiau manwerthu, masnachol a hamdden cyn belled bod graddfa a math y datblygiad yn briodol
i faint, cymeriad a swyddogaeth y ganolfan a chyn belled fod y bwriad yn cydymffurfio
a’r meini prawf a restrir yn y Polisi. Ystyriwyd fod
egwyddor y bwriad yn dderbyniol o ran polisi PS 15 a MAN 1 CDLl o ran hyrwyddo bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi a bod yr addasiadau yn cydymffurfio
a gofynion y polisïau perthnasol. b) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol gyda chynlluniau. 3. Arwyddion Cymraeg a / neu ddwyieithog. |
|
Cais Rhif C21/0495/34/LL Penlon, Clynnog Fawr, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5PE PDF 419 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio er mwyn cynnal
trafodaethau pellach gyda’r asiant i drafod ffordd ymlaen e.e. oes bwriad
diwygio’r cynlluniau? COFNODION: Adeiladu tŷ newydd a) Amlygodd
yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu
bod cais gan yr asiant i’r
Pwyllgor ohirio’r cais fel bod modd
iddynt gael cyfle i ymateb
i faterion sydd wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad. b) Cynigiwyd
ac eiliwyd i ohirio’r cais PENDERFYNWYD:
Gohirio er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda’r asiant i drafod ffordd
ymlaen e.e. oes bwriad diwygio’r cynlluniau? |
|
Cais Rhif C21/0376/34/LL Tir ger Plas Beuno, Clynnog Fawr, Clynnog LL54 5BT PDF 342 KB Cais ar gyfer codi ty
deulawr gyda modurdy AELOD LLEOL: Cynghorydd
Owain Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthod
COFNODION: Cais ar gyfer codi tŷ deulawr gyda modurdy a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod safle’r cais o fewn ffin
datblygu pentref Clynnog Fawr ar lecyn o dir gwag wedi ei leoli yn gyfochrog a mynedfa
gerbydol safonol sydd yn arwain at dai preswyl sydd i gefn ac ochr lleoliad y
datblygiad arfaethedig hwn. Eglurwyd bod cais blaenorol ar gyfer y bwriad wedi ei wrthod o dan
C20/1049/34/LL oherwydd maint, graddfa, dyluniad a’i effaith ar eiddo gerllaw.
Cydnabuwyd fod y bwriad oddeutu 0.5m yn is na’r hyn a wrthodwyd o dan y cais
blaenorol, ac mae asiant y cais wedi darparu cynlluniau ychwanegol sy’n cynnwys
strydlun a chynllun lefelau presennol. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr
Aelod Lleol Gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor
12.07.2021 er mwyn cywiro cyfeiriad y safle ac ail-ymgynghori er mwyn sicrhau
fod ymgynghorwyr a chymdogion yn ymwybodol o safle’r cais. Wrth ystyried mwynderau cyffredinol, gweledol a phreswyl, nodwyd bod y safle wedi ei leoli
mewn man gymharol amlwg, yn gyfochrog gyda’r brif ffordd i mewn ac allan o’r
pentref ac wedi ei amgylchynu gan adeiladau o amrywiol faint, dyluniad ac
edrychiadau. Nid yw swyddogion wedi eu hargyhoeddi yn yr achos yma bod maint a
dyluniad yr adeilad yn addas ar gyfer y
safle. Ystyriwyd fod angen ystyried ei leoliad a’r lefelau tir yn well er mwyn galluogi’r datblygiad i gyfrannu tuag
at gymeriad yr ardal yn ogystal â’i alluogi i integreiddio i batrwm a chymeriad
yr ardal leol mewn modd derbyniol. Ni ystyriwyd fod y dyluniad yn cyfleu hyn ac
felly ni ellid cefnogi’r datblygiad yn y ffurf y’i cyflwynwyd. Ystyriwyd fod y
bwriad yn groes i ofynion polisïau PCYFF 2, 3 a 4 a PS5 o’r CDLl.
Nodwyd bod y bwriad yn osgoi cynnwys ffenestri o ffurf a nifer (ar
yr edrychiad gogleddol) a fyddai’n debygol o amharu ar drigolion yr eiddo
cyfochrog. Er hyn mae’r cynllun yn arddangos y byddai rhai o’r ffenestri wedi
eu cymylu ond ystyriwyd y byddai hyn yn cael effaith gwaeth na’r hyn a
gymeradwywyd yn y gorffennol gan gyfleu teimlad o oredrych
(oherwydd nifer a’u huchder) o safbwynt yr eiddo drws nesaf. Yn ogystal, adroddwyd bod y safle yn sylweddol uwch na’r eiddo
drws nesaf a byddai’r bwriad o godi eiddo deulawr llawn ar y lefel tir yma yn
achosi nodwedd anghydnaws yn yr ardal ynghyd ac achosi effaith ormesol
sylweddol ar yr eiddo drws nesaf. Ategywd y byddai’r
lefel tir hefyd yn cynyddu’r elfen o oredrych i mewn
i ardd gefn yr eiddo drws nesaf - er bod yr ardd yn weladwy yn bresennol o’r
safle, nid oes defnydd o’r safle ac felly mae unrhyw oredrych
presennol yn achlysurol. Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, ystyriwyd fod y bwriad yn annerbyniol yn nhermau graddfa, dyluniad, lleoliad a lefelau tir/llawr ar gyfer y safle hwn. Yn ogystal, ystyriwyd fod y bwriad yn cael effaith andwyol ar breifatrwydd a mwynderau'r eiddo drws nesaf o ran maint, uchder, lleoliad ... view the full COFNODION text for item 11. |
|
Cais Rhif C21/0337/38/DT Derwen Deg, Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7UA PDF 327 KB Dymchwel
modurdy unllawr. Codi modurdy dwbl gydag anecs trosodd at ddefnydd personol yr ymgeisydd
a theulu a ffrindiau yn achlysurol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthod Rhesymau: Gor-ddatblygiad
ac effaith gweledol niweidiol COFNODION: Dymchwel
modurdy unllawr. Codi modurdy dwbl gydag anecs trosodd at ddefnydd personol yr
ymgeisydd a theulu a ffrindiau yn achlysurol. Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu
bod y cais yn un ar gyfer dymchwel
modurdy presennol a chodi adeilad deulawr
yn ei le gyda modurdy dwbl
ar y llawr gwaelod ac anecs anheddol yn gysylltiedig
â’r prif dŷ. Lleolir y safle o fewn gardd
tŷ Derwen Deg sydd yn
eiddo ar wahân o fewn ffin
datblygu Llanbedrog Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais
yr Aelod Lleol. Adroddwyd bod nifer o wrthwynebiadau wedi eu derbyn gan
gynnwys un gan y Cyngor Cymuned yn datgan
pryder fod y bwriad yn orddatblygiad,
bod y safle yn anaddas ac y byddai cael ffenestri ar y llawr cyntaf
yn goredrych eiddo preifat gan
greu effaith niweidiol ar gymdogion
cyfagos Nodwyd bod yr egwyddor yn dderbyniol
ar y cyfan er bod y bwriad yn sylweddol fwy
o faint na’r hyn sydd yn bodoli
yn barod. Er hynny, ystyriwyd
bod y bwriad yn gweddu gyda’r ardal
drefol sydd o natur wasgaredig ac yn parchu cyd-destun
y safle. Ategwyd bod y dyluniad yn dderbyniol
ac nad oedd yn niweidiol i
gymeriad yr ardal nac yn
creu effaith arwyddocaol ar gymdogion - gellid gosod amod i
sicrhau bod y ffenestri sy’n goredrych yn cael eu
cadw’n afloyw yn barhaol ac y gellid rheoli’r deunyddiau y bwriedir eu defnyddio drwy
amod cynllunio priodol Defnydd y bwriad yw fel modurdy
ac anecs anheddol ac fe ellid rheoli’r
defnydd drwy osod amod i sicrhau mai dim ond at ddefnydd atodol i’r prif
dŷ y defnyddir yr anecs ac nid
at unrhyw ddiben arall. Byddai angen
caniatâd cynllunio ychwanegol ar gyfer
unrhyw newid defnydd materol o’r anecs. Ystyriwyd fod y
bwriad yn dderbyniol o agwedd mwynderau gweledol, yr effaith ar yr AHNE a
mwynderau cyffredinol. b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau
canlynol: ·
Nifer o bryderon wedi eu hamlygu gan drigolion lleol ·
Bod yr eiddo wedi ei leoli ar odrau Mynydd Tir y Cwmwd ·
Bod y system garthffosiaeth ar y lleoliad yn anaddas ·
Bod yr anecs yn bell o’r tŷ - potential i’r uned fod yn hunangynhaliol i’r dyfodol ·
Gosod cynsail beryg o greu ail dy yn yr
ardd ·
Estyniad fuasai’r syniad gorau os am
gael un stafell wely ychwanegol ·
Materion croesi'r ffordd yn achosi pryder – y ffordd yn anaddas
i’r tai ·
Bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cais ·
Y bwriad yn orddatblygiad
c) Cynigiwyd gwrthod y cais yn groes i’r argymhelliad am y rhesymau
canlynol: ·
Bod y bwriad yn orddatblygiad
o’r safle d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Byddai estyniad
ar y tŷ yn fwy naturiol ·
Er o fewn y ffin datblygu, y bwriad yn
ymddangos fel tŷ newydd yng nghanol cefn gwlad ·
Wedi ei leoli mewn safle amlwg o fewn y
pentref PENDERFYNWYD Gwrthod Rhesymau: Gor-ddatblygiad ac effaith gweledol niweidiol ... view the full COFNODION text for item 12. |
|
Cais Rhif C19/1089/22/LL Treddafydd Stryd Fawr, Penygroes, Gwynedd, LL54 6PW PDF 467 KB Cais llawn i
godi 12 annedd-dy gyda mynediad, parcio ac is-adeiledd cysylltiedig AELOD LLEOL:
Cynghorydd Judith Humphreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo'r
hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i
gytuno ar lefel y cyfraniad ariannol addysgol ac i gwblhau Cytundeb Adran 106 i
sicrhau’r cyfraniad ariannol tuag at fannau chwarae ac addysg ynghyd ag amod i
ddarparu 2 dŷ fforddiadwy a’r amodau canlynol:-
Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun
strategaeth ddraenio cynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y
Cyngor. Nodyn:
Hysbysu’r ymgeisydd o ymateb Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Nodyn:
Amrywiol nodiadau Priffyrdd COFNODION: Cais
llawn i godi 12 annedd-dy gyda mynediad, parcio ac isadeiledd cysylltiedig a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer; ·
Darparu 12 tŷ deulawr ar ffurf tai ar wahân, tai pâr a
thai teras gan gynnwys 8 tŷ 3 ystafell wely a 4 tŷ 2 ystafell wely. ·
Creu isadeiledd i gynnwys ffordd stad a llwybrau troed
cysylltiedig, ffensys/rheiliau a waliau cerrig. ·
Darparu llecynnau parcio ar gyfer pob tŷ, man cadw
biniau a chreu gerddi unigol i ochr a chefnau’r tai. ·
Darparu llecynnau amwynder o fewn y safle ynghyd a llecyn ar
gyfer crynhoi dŵr. ·
Diwygiwyd y cais o’i gyflwyniad gwreiddiol yn dilyn sylwadau
gan yr Uned Drafnidiaeth a’r Uned Bwrdeistrefol ynglŷn â materion mynediad
a lleoliad mannau casglu biniau. Eglurwyd bod
safle’r cais yn bresennol yn wag ond a fu yn y gorffennol yn safle masnachol
prysur fel warws gwerthu nwyddau a chyn hynny, yn safle gyda modurdy trin ceir
a gwerthu petrol. Nodwyd bod y safle, sydd wedi ei leoli o fewn ffin datblygu
Penygroes, yn weddol wastad ac wedi ei
amgylchynu gan dai preswyl. Atgoffwyd
yr Aelodau y caniatawyd cais llawn yn ddiweddar ym Mhenygroes ar gyfer darparu
24 o unedau preswyl gyda phob un ohonynt yn dai fforddiadwy. Eglurwyd bod y
safle hwnnw wedi ei gynnwys a’i ddynodi yn benodol ar gyfer datblygiad preswyl
ac nid yn safle ar hap fel yn yr achos yma. Ni ystyriwyd fod y caniatâd a’r
niferoedd ynghlwm yn newid y sefyllfa o ran niferoedd tai a adnabuwyd ar gyfer
Penygroes ac nid yw’n effeithio ar y trothwy sydd wedi ei adnabod ar gyfer y
pentref. Nodi’r Polisi TAI 15 o'r CDLl y bydd Cynghorau yn ceisio sicrhau lefel
briodol o dai fforddiadwy yn ardal y Cynllun. Ym Mhenygroes, dau neu fwy o
unedau tai yw'r trothwy gan nodi y dylai 20% o’r unedau fod yn fforddiadwy. Gan
fod y datblygiad arfaethedig yn cynnig 12 uned, mae hyn yn cyd-fynd â'r trothwy
a nodwyd ym Mholisi TAI 15 ar gyfer gwneud cyfraniad at dai fforddiadwy. Yng
nghyd-destun materion addysgol ac yn unol â gofynion CCA dylid ystyried
sefyllfa'r ysgol sydd yn gwasanaethu’r dalgylch ble lleolir y datblygiad. Mewn
ymateb i’r ymgynghoriad statudol dywed Swyddog Gwybodaeth yr Adran Addysg bod
Ysgol Gynradd Bro Lleu dros ei gapasiti. Yn arferol felly ac yn unol â gofynion
fformiwla berthnasol y CCA, bod cyfiawnhad i ofyn am gyfraniad o £50,480 er
mwyn diwallu’r diffyg capasiti yn yr ysgol gynradd. Ategwyd, yn unol â Polisi ISA5 o’r CDLL disgwylir i gynigion ar gyfer 10 tŷ neu fwy mewn ardaloedd ble na all llecynnau agored presennol fodloni anghenion y datblygiad tai arfaethedig gynnig darpariaeth addas o fannau agored yn unol â safonau meincnod Fields in Trust (FIT). Er bod y bwriad yn cynnwys llecynnau agored, nid ydynt yn cwrdd â’r angen ar gyfer llecynnau gydag offer. Er mwyn cydymffurfio a gofynion polisi ISA 5 o’r CDLl ynghyd a’r CCA: Llecynnau Agored mewn Datblygiadau Tai Newydd, derbyniwyd cadarnhad gan Uned Polisi ... view the full COFNODION text for item 13. |
|
Cais Rhif C21/0277/39/DT Ty Coed, Lôn Gwydryn, Abersoch, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7EA PDF 322 KB Estyniad
llawr cyntaf uwchben modurdy presennol ynghyd ag estyniad llawr cyntaf i greu
feranda AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dewi W Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthod Rhesymau: Gor-ddatblygiad, effaith gweledol niweidiol ac effaith niweidiol ar breifatrwydd tai cyfagos COFNODION: Estyniad llawr cyntaf uwchben modurdy presennol ynghyd
ag estyniad llawr cyntaf i greu feranda a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais
yn un ar gyfer
estyniad a newidiadau i eiddo anheddol presennol . Byddai’r newidiadau’n
cynnwys : ·
Estyniad llawr cyntaf dros ben modurdy presennol – byddai’r
estyniad terfynol yn 7.6m o uchder, 0.7m yn is na tho’r tŷ presennol, Bydd
talcen do o lechi gyda balconi “Juliette” ar flaen y llawr cyntaf. ·
Codi balconi ar hyd llawr cyntaf yr eiddo presennol,
(fyddai’n gweithredu fel feranda llawr gwaelod) – bydd sgrin preifatrwydd ar
ddau ben y balconi ·
Codi estyniad unllawr ar gefn yr eiddo gyda thalcen do o
lechi Cyflwynwyd
y cais i bwyllgor ar gais yr aelod lleol. Adroddwyd bod Polisi PCYFF 2 y
CDLl yn annog gwrthod cynigion fydd yn cael effaith niweidiol sylweddol ar
fwynderau eiddo lleol. Mynegwyd pryder gan gymydog y byddai creu balconi ar
flaen yr eiddo yn galluogi gor-edrych a fyddai'n niweidiol i'w preifatrwydd ac
yn sgil y sylwadau hynny fe ddiwygiwyd y cynlluniau i gynnwys sgriniau
preifatrwydd ar ochrau’r balconi blaen. Er bydd posib gweld ychydig o erddi
blaen eiddo cymdogion o’r balconi fel yr ail-ddyluniwyd, mae blaenau’r tai ar
Lôn Gwydryn eisoes yn agored i'r stryd ac yn weladwy o fannau cyhoeddus. Ni
ystyriwyd y byddai’r balconi’n ychwanegu’n arwyddocaol at niwed i breifatrwydd
yr eiddo sy'n wynebu'r stryd. Wedi asesu’r cais yn erbyn
gofynion y polisïau perthnasol ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o agwedd
mwynderau gweledol, yr effaith ar yr AHNE a mwynderau cyffredinol. b) Yn manteisio ar yr hawl i
siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol: ·
Bod adroddiad y Swyddog, sy'n cefnogi'r datblygiad
arfaethedig, yn mynd i'r afael â'r holl bryderon sydd wedi'u nodi yn yr
ymatebion. ·
Bod trafodaethau cyn cyflwyno cais wedi eu cynnal gyda
swyddogion cynllunio a bod y sylwadau wedi eu hymgorffori'n llawn yn y dyluniad
terfynol. ·
Bod rhai gwrthwynebiadau gan drigolion lleol yn cynnwys
materion nad ydynt yn seiliedig ar faterion cynllunio ac felly yn amherthnasol ·
Bod y pryderon a godwyd mewn perthynas â sŵn ac
aflonyddwch posibl o'r balconi arfaethedig yn rhagdybiaethau y bydd mwy o bobl
yn byw yn y tŷ - nid yw hyn yn gywir gan nad yw nifer yr ystafelloedd yn
newid. Yr un yw’r ymateb i bryderon cynnydd mewn traffig ·
Bod y gwrthwynebiadau i raddau helaeth yn nodi bod y
datblygiad yn ormesol ac y byddai eiddo cyfagos yn colli preifatrwydd ·
Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i ddyluniad yr ychwanegiadau gan
ddefnyddio'r ôl troed presennol i wella'r eiddo. Er derbyn bod y bwriad yn
creu'r argraff o faint mwy, byddai’r estyniad wedi'i leoli uwchben y garej
bresennol, sydd dros 5 metr i ffwrdd o'r
eiddo cyfagos ·
Bod modd ymateb i faterion goredrych drwy osod amod bod
ffenestri ychwanegol ar y cefn yn lleddfu pryderon - hapus i gydymffurfio â'r
amod yma ·
Ni dderbyniwyd sylwadau gan yr Uned Priffyrdd ac ni chodwyd
pryderon gan yr uned AHNE · Bod adroddiad y swyddogion yn cadarnhau bod graddfa'r bwriad yn briodol ar gyfer ... view the full COFNODION text for item 14. |
|
Cais Rhif C20/1056/25/LL Ty Menai, Ffordd Penlan, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4HJ PDF 430 KB Newid defnydd adeilad o ddefnydd Dosbarth B1 (swyddfeydd) i Ddefnydd
Dosbarth D1 (sefydliadau dibreswyl) ynghyd a newidiadau i edrychiadau allanol
yr adeilad, creu ffordd fynedfa, parcio bysus a llwybrau cerdded AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Argymell fod yr apêl yn
cael ei wrthod ar sail:-
nid oes tystiolaeth fod y safle'n annhebygol o gael ei
ddefnyddio yn y tymor byr na hir at y diben gwreiddiol neu'r diben a
ddiogelwyd, na chwaith nad oes defnydd busnes neu ddiwydiannol hyfyw ar gyfer y
safle. Yn ogystal, nid oes gorddarpariaeth o safleoedd cyflogaeth yn y
cyffiniau; byddai defnydd addysgol yn cael effaith andwyol ar ddefnydd
cyflogaeth yn y safleoedd cyfagos ac nid yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi'i
ddarbwyllo nad oes safleoedd amgen addas eraill yn bodoli at y diben a
gynigiwyd.
COFNODION: Newid
defnydd adeilad o ddefnydd Dosbarth B1 (swyddfeydd) i Ddefnydd Dosbarth D1
(sefydliadau dibreswyl) ynghyd a newidiadau i edrychiadau allanol yr adeilad,
creu ffordd fynedfa, parcio bysus a
llwybrau cerdded a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu bod cais i’r Pwyllgor gyflwyno barn ar yr
adroddiad sy’n ffurfio datganiad apêl i’r arolygiaeth cynllunio i argymell
gwrthod apêl cynllunio Derbyniwyd cais
llawn ar gyfer newid adeilad Tŷ Menai/Technium
sydd wedi ei leoli ar safle Cyflogaeth Parc Menai ac sydd ar hyn o bryd yn wag
o’i Ddosbarth Defnydd B1 (swyddfeydd) i Ddosbarth Defnydd D1 (sefydliad
dibreswyl addysg) ynghyd a chreu ffordd fynedfa, parcio bysus, llwybrau cerdded
a newidiadau i edrychiadau allanol yr adeilad. Adroddwyd bod y datblygiad ar raddfa sy'n
golygu y byddai wedi ei gyflwyno’r i bwyllgor cynllunio 6 Medi, 2021 ond bod yr
ymgeisydd wedi cyflwyno apêl i'r arolygiaeth gynllunio ar sail diffyg
penderfyniad. Eglurwyd, pan gyflwynir apêl am ddiffyg penderfyniad, mae cyfnod
ychwanegol i awdurdod cynllunio lleol benderfynu cais yn ystod y 4 wythnos
gyntaf o dyddiad cyflwyno’r apêl. Cyflwynwyd yr apêl ar 4 Awst 2021 ac felly
daeth 4 wythnos i ben ar 1 Medi 2021. O ystyried yr amserlen a’r ffaith nad
oedd cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn ystod mis Awst, nid oedd modd
penderfynu ar y cais o fewn y cyfnod 4 wythnos. O dan amgylchiadau o'r fath,
nid yw’r drefn yn caniatáu i’r Cyngor wneud penderfyniad ar y cais. Ategwyd, fel
rhan o’r broses apêl, mae’r arolygaeth cynllunio yn rhoi cyfle i'r awdurdod
cynllunio lleol cyflwyno datganiad apêl, lle gall yr awdurdod fynegi barn ac
argymell penderfyniad. Gan nad oes gan swyddogion hawl dirprwyedig i
benderfynu’r cais, cyflwynwyd y cais i bwyllgor er mwyn derbyn eu barn. Bydd y
farn yn cael ei gyflwyno i’r arolygiaeth cynllunio fel rhan o’r datganiad apêl.
Cyfeiriwyd at brif bryderon yr Awdurdod
Cynllunio ynghyd ac Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd a oedd yn cynnwys: 1.
Cynllun Adfywio Canol Dinas Bangor Bod dinas Bangor yn wynebu sawl her gyda
chyflwr a pherfformiad canol y ddinas yn tanseilio ei swyddogaeth fel canolfan
ranbarthol. Nodwyd bod siopau mawr fel Debenhams wedi
cau ac Aldi yn adleoli i Ffordd Caernarfon wedi cael effaith
andwyol ar hyfywedd canol y ddinas. Rhan o gynllun Adfywio’r ddinas yw cynyddu
gweithgareddau a defnydd yng nghanol y ddinas. Bod Coleg Menai
yn gyflogwr a darparwr gwasanaeth pwysig i’r ddinas. Mae’r safle presennol o
fewn cyrraedd canol y ddinas gyda mynediad a chysylltiadau hwylus. Mae pryderon
y byddai ail-leoli’r campws i gyrion y ddinas yn debygol o danseilio prysurdeb
a swyddogaeth canol y ddinas, a lleihau nifer o bobl yn ymweld â’r canol. O
ganlyniad, ystyrir y byddai’r cais yn tanseilio egwyddor ‘Canol Trefi’n Gyntaf’
2. Effaith ar Barc Menai Bod safle Parc Menai yn un o safleoedd cyflogaeth fwyaf llwyddiannus Gwynedd. Mae’n cynnig amgylchedd o safon ac yn darparu safleoedd ac eiddo i ystod eang o gyflogwyr. Dylid sicrhau na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar batrwm defnydd y stad a thrwy hynny ... view the full COFNODION text for item 15. |