Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. John Pughe

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)           Datganodd yr aelod canlynol ei fod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·        Y Cynghorydd Rhys Tudur yn eitemau 5  a 6.8 (C25/0204/41/LL) ar y rhaglen

·        Y Cynghorydd Elin Hywel, yn eitemau 6.1 (C23/0673/45/AM) a 6.2 (C23/0671/45/AM) ar y rhaglen

·        Y Cynghorydd Geraint Parry yn eitem 6.5 (C24/0804/03/DT) ar y rhaglen

·        Y Cynghorydd Gareth Williams, yn eitem 6.7 (C25/0361/30/LL) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Swyddog Monitro fyddai’n cyhoeddi canlyniad pleidleisiau’r ceisiadau.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Swyddog Monitro fyddai’n cyhoeddi canlyniad pleidleisiau’r ceisiadau.

 

5.

CYNNIG I GREU LLWYBR TROED CYHOEDDUS YNG NGHYMUNED LLANYSTUMDWY O DAN ADRAN 26 DEDDF PRIFFYRDD 1980 pdf eicon PDF 301 KB

 

Cynnig i greu Llwybr Troed cyhoeddus yng Nghymuned Llanystumdwy o dan Adran 26 Deddf Priffyrdd 1980,  dros ddarn o dir sydd yn rhan o eiddo preifat a elwir yn Fferm Afonwen, Glanllynnau a Tŷ’n Morfa i hwyluso Prosiect Llwybr Arfordir Cymru a buddiannau trigolion yr ardal.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Cymeradwyo cais ar gyfer:

 

a)    Gorchymyn Creu Adran 26 er mwyn sicrhau mynediad cyhoeddus dros ran sylweddol (2.63km) o dir mewn perchnogaeth breifat.

b)    Os na dderbynnir gwrthwynebiad ir gorchymyn, neu os derbynnir gwrthwynebiad sydd cael ei dynnu nôl ar ddyddiad hwyrach fod y Gorchymyn yn cael ei gymeradwyo.

c)    Os derbynnir gwrthwynebiad sydd ddim yn cael ei dynnu’n ôl bod y Cyngor yn cyflwyno`r gorchymyn creu i PCAC am ddyfarniad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd cynnig gan Swyddog Prosiect Llwybr Arfordir i greu llwybr cyhoeddus newydd yng Nghymuned Llanystumdwy dros ddarn o dir sydd yn rhan o eiddo preifat Fferm Afonwen, Glanllynnau a Tŷ’n Morfa fyddai’n hwyluso Prosiect Llwybr Arfordir Cymru a buddiannau trigolion yr ardal.

 

Nodwyd, pe byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r gorchymyn, bydd angen dilyn trefn statudol fyddai’n dechrau gyda chyhoeddi rhybudd bod gorchymyn wedi ei wneud a chynnal ymgynghoriad eang. Eglurwyd, os na ddaw gwrthwynebiadau i law, bydd y gorchymyn yn parhau, ond petai gwrthwynebiadau yn cael eu derbyn bydd y Cyngor yn cyflwyno’r holl dystiolaeth at Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) i benderfynu arno. Pwysleisiwyd nad y Cyngor fydd yn gwneud y penderfyniad -  bydd archwilydd annibynnol yn cael ei apwyntio gan PCAC.

 

Eglurwyd bod y cynnig yn amlygu bwriad i greu darn newydd o Lwybr Arfordir Cymru fydd yn rhoi mynediad ar droed rhwng ardal Afonwen a rhwydwaith llwybrau presennol yng nghyffiniau Ty’n Morfa.

 

Er yr ymdrech i sicrhau cytundeb gwirfoddol, amlygwyd nad oedd y tirfeddianwyr yn gweld angen am y llwybr ac felly rhaid oedd ystyried opsiynau posib a dilyn trefn creu drwy orfodaeth. Bydd y llwybr arfaethedig yn rhedeg oddeutu 2.63km ar ochr fewndirol y rheilffordd. Ystyriwyd bod y cynnig yn welliant i’r Llwybr Arfordir, yn welliant sylweddol i’r llwybr presennol (sydd wedi ei leoli ar hyn o bryd ar ffordd brysur iawn) ac yn cyfarch gofynion Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru - yr opsiwn yn un rhesymol gyda chefnogaeth yn lleol, gan yr Aelod Lleol, a’r Cyngor Cymuned. Os caiff y cynnig ei gymeradwyo, bydd y drws yn agored i’r tirfeddianwyr drafod opsiynau posib.

 

a)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·        Ei fod, mewn egwyddor yn croesawu’r cynllun

·        Bod diffyg llwybr cyhoeddus ar hyd yr arfordir rhwng Afonwen ac Afon Dwyfor

·        Braf fyddai gweld llwybr yn dilyn yr arfordir

·        Bod y dargyfeiriad (detour) yn sylweddol ar hyn o bryd - byddai dilyn yr arfordir yn fwy delfrydol

·        Braf fydd cael barn y tirfeddiannwyr os am lwybr amgen gwell

·        Bod hwn yn gam sylweddol - y bwriad yn un i’w ganmol

·        A oes ystyriaeth wedi ei roi i osod y llwybr ochr fewnol i’r rheilffordd neu ydy hyn i wneud efo erydiad tir ger y môr?

 

b)               Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r cais

 

ch)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:

·        Yn gobeithio bydd y tirfeddianwyr yn barod i drafod opsiynau amgen

·        Gwych gweld datblygiad o’r llwybr a gweld pobl yn gwneud defnydd ohono

·        Bod y ffordd, y mae’r llwybr yn rhan ohono ar hyn o bryd, yn eithriadol o brysur

·        Yn cefnogi’r cais ar gyfer cerddwyr yn unig

 

c)               Mewn ymateb i gwestiwn a fyddai modd gwneud y llwybr yn un ar gyfer ceffylau hefyd, nodwyd bod y llwybr yma yn ymuno â llwybr troed 54 ac oherwydd bod bwriad i’r llwybr redeg gyfochrog â rheilffordd swnllyd, ystyriwyd na fyddai’n rhesymol i ddefnydd ceffylau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

 

7.

Cais Rhif C23/0673/45/AM Tir ger Caernarfon Road, Eastern Plot, Pwllheli, LL53 5LF pdf eicon PDF 346 KB

Adeiladu tai annedd preswyl yn cynnwys mynedfa 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd ac i amodau:

 

1.     Amser o ran cychwyn y datblygiad

2.     Amser o ran cyflwyno cais materion gadwyd yn ôl

3.     Cyflwyno cais materion gadwyd yn ôl ar gyfer llunwedd, graddfa, golwg a thirweddu

4.     Unol a’r cynlluniau

5.     Llechi ar y to

6.     Deunyddiau

7.     Defnydd C3 i’r holl dai 

8.     Enw Cymraeg i’r stad a’r tai.

9.     Arwyddion Cymraeg neu ddwyieithog

10.  Cyflwyno a chytuno Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu / Datganiad Dull Adeiladu

11.  Oriau gwaith adeiladu 

12.  Lefelau sŵn a lleihau sŵn a dirgryniad cyfnod adeiladu

13.  Unol gyda’r Asesiad Trafnidiaeth

14.  Mynedfa i’w chwblhau yn unol gyda’r cynlluniau.

15.  Amodau priffyrdd o ran cwblhau ffordd a phalmentydd yr ystâd ynghyd a’r goleuadau stryd

16.  Parcio

17.  Atal dŵr wyneb rhag arllwys i’r briffordd

18.  Unol gyda Adroddiad Arolwg Ecolegol

19.  Cynllun goleuadau allanol

20.  Cyflwyno a chytuno cynllun rheoli ar gyfer y coetir 

21.  Amod cwblhau gwaith tirlunio fel a gytunwyd yn y manylion tirlunio.

22.  Unol gyda’r Adroddiad Coedyddiaeth

23.  Amod Dŵr Cymru i wneud asesiad modelu hydrolig cyn i’r datblygiad gychwyn

24.  Dim dŵr wyneb / draeniad tir i gysylltu i’r garthffos gyhoeddus.

25.  Sicrhau lefelau sŵn derbyniol yn y tai arfaethedig

26.  Cyflwyno a chytuno cynllun inswleiddio sŵn

27.  Cyflwyno a chytuno manylion ffens acwstig addas ar gyfer y gerddi

28.  Datblygiad i’w wneud yn unol gyda’r asesiad sŵn. 

29.  Amodau archeolegol 

30.  Amod i gyflwyno a chytuno manylion ar gyfer darparu 30% o dai fforddiadwy.

31.  Tynnu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer y tai fforddiadwy o ran estyniadau, adeiladau allanol ac ati.

32.  Cytuno a chyflwyno manylion o sut y bwriedir darparu llecyn agored yn rhan o’r datblygiad.

 

Nodiadau:

Nodyn Datblygiad Mawr

Nodyn SuDS

Cyfeirio at sylwadau Dŵr Cymru

Nodyn Gwaith Stryd

Nodyn sylwadau Gwasanaeth Tân

 

Cofnod:

Cais ar gyfer adeiladu tai annedd preswyl yn cynnwys mynedfa

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)           Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais amlinellol oedd dan sylw ar gyfer datblygiad preswyl 24 tŷ ym Mhwllheli ar ddarn o dir i’r  dwyrain o  safle archfarchnad Aldi. Atgoffwyd yr Aelodau mai penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ddiwedd Mawrth 2025 oedd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad swyddogion oherwydd diffyg tai fforddiadwy, diffyg gwybodaeth am y cymysgedd / cydbwysedd tai ac effaith niweidiol ar yr Iaith Gymraeg. Yn unol â chyfarwyddyd Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd, gan fod risg  sylweddol i’r Cyngor o ran y bwriad i wrthod y cais yn groes i’r argymhelliad, cafodd y cais ei roi mewn cyfnod cnoi cil.

 

Adroddwyd, bod y cais erbyn hyn, wedi ei ddiwygio i gynnwys 30% o dai fforddiadwy, ac felly’n cael ei ail gyflwyno i’r Pwyllgor am ystyriaeth bellach ar sail y newidiadau.

 

Nodwyd, er nad oedd cynlluniau manwl na thirlunio yn rhan o’r cais, bod angen ystyried egwyddor y bwriad ynghyd a manylion y fynedfa - pe byddai’r cais yn cael ei ganiatáu, byddai angen i’r ymgeisydd gyflwyno cais arall i gytuno ar y materion a gadwyd yn ôl.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, mynegwyd bod datblygu tai ar y safle yn dderbyniol gan ei fod yn dir sydd oddi fewn i ffin datblygu Pwllheli ac wedi ei glustnodi ar gyfer datblygiad preswyl o fewn y CDLl. Ystyriwyd bod y dwysedd datblygu a gynigiwyd yn dderbyniol o ystyried lefelau’r safle ond bod angen gwarchod bioamrywiaeth a darparu sustem draenio gynaliadwy a llecyn chwarae agored.

 

Eglurwyd, o safbwynt ffigyrau tai Pwllheli bod y bwriad yn dderbyniol oherwydd dynodiad y safle ar gyfer tai ble disgwylid 150 o dai newydd, er yn derbyn na fydd 150 yn bosib oherwydd cyfyngiadau ffisegol y safle a phresenoldeb archfarchnad Aldi. Tynnwyd sylw at Polisi TAI 15 sydd yn gofyn am gyfraniad tai fforddiadwy ar ddatblygiadau preswyl o 2 uned neu fwy. Ar gyfer Pwllheli, gofynnwyd am gyfraniad o 30% ac mae’r ddarpariaeth yn cael ei gynnig erbyn hyn - 30% ar gyfer y datblygiad yma yn gyfystyr a 7.2 uned ac yn unol â’r Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy byddai hyn yn golygu darparu 7 uned fforddiadwy a swm cymunedol ar gyfer y 0.2 sy’n weddill, neu ddarparu 8 uned fforddiadwy.

 

Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi nodi mai’r gobaith yw y bydd landlord cymdeithasol cofrestredig (RSL) a / neu ddatblygwr / adeiladwr tai yn rhan o’r datblygiad erbyn i gais materion a gadwyd yn ôl gael ei gyflwyno ac y gallai hynny gynnig ffordd ymlaen o ran darparu tai fforddiadwy trwy gymorth grant datblygu o bosib gan Lywodraeth Cymru; gyda’r bwriad bellach yn cynnig darparu 30% o dai fforddiadwy ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o ran Polisi TAI 15 CDLl.

 

Amlygwyd bod bwriad gosod amod i sicrhau fod yr unedau i gyd yn dai annedd i’w defnyddio fel unig neu brif breswylfa sef defnydd C3. Ategwyd, wrth sylweddoli naill ffordd neu’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C23/0671/45/AM Tir gerllaw Caernarfon Road, Western Plot, Pwllheli, LL53 5LF pdf eicon PDF 373 KB

Adeiladu tai annedd preswyl yn cynnwys mynedfa

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.     Amser o ran cychwyn y datblygiad

2.     Amser o ran cyflwyno cais materion gadwyd yn ôl

3.     Cyflwyno cais materion gadwyd yn ôl ar gyfer llunwedd, graddfa, golwg a thirweddu

4.     Unol a’r cynlluniau

5.     Llechi ar y to

6.     Deunyddiau

7.     Defnydd C3 i’r holl dai 

8.     Enw Cymraeg i’r stad a’r tai.

9.     Arwyddion Cymraeg neu ddwyieithog

10.  Cyflwyno a chytuno Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu

11.  Oriau gwaith adeiladu 

12.  Lefelau sŵn mewnol

13.  Lefelau sŵn allanol

14.  Unol gyda’r Adroddiad Effaith Sŵn 

15.  Manylion pympiau gwres ffynhonnell aer gan gynnwys lefelau sŵn ac unrhyw fesurau lliniaru angenrheidiol Amodau priffyrdd o ran cwblhau ffordd a phalmentydd yr ystâd ynghyd a’r goleuadau stryd

16.  Cwblhau gwelliannau ffyrdd a gytunwyd ar gais C22/0969/45/LL 

17.  Amodau priffyrdd o ran cwblhau ffordd a phalmentydd yr ystâd ynghyd a’r goleuadau stryd

18.  Parcio

19.  Atal dŵr wyneb rhag arllwys i’r briffordd

20.  Unol gyda Adroddiad Arolwg Ecolegol

21.  Cynllun goleuadau allanol

22.  Cyflwyno a chytuno manylion ar gyfer y ddôl / dôl gwlyb

23.  Cyflwyno a chytuno cynllun rheoli ar gyfer y coetir sy’n ffurfio rhan o’r Safle Bywyd Gwyllt Ymgeisiol.

24.  Amod cwblhau gwaith tirlunio fel a gytunwyd yn y manylion tirlunio.

25.  Unol gyda’r Adroddiad Coedyddiaeth

26.  Amod Dŵr Cymru i wneud asesiad modelu hydrolig cyn i’r datblygiad gychwyn

27.  Dim dŵr wyneb / draeniad tir i gysylltu i’r garthffos gyhoeddus.

28.  Amodau archeolegol

29.  Amod i gyflwyno a chytuno manylion ar gyfer darparu 4 o dai fforddiadwy.

30.  Tynnu hawliau a ganiateir ar yr unedau fforddiadwy o ran estyniadau, adeiladau allanol ac ati.

31.  Cytuno a chyflwyno manylion o sut y bwriedir darparu llecyn agored yn rhan o’r datblygiad.

 

Nodiadau:

Nodyn Datblygiad Mawr

Nodyn SuDS

Cyfeirio at sylwadau Dŵr Cymru a’r Gwasanaeth Tân

Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin

 

Cofnod:

Cais ar gyfer adeiladu tai annedd preswyl yn cynnwys mynedfa

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)           Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn un amlinellol ar gyfer codi 12 tŷ preswyl ym Mhwllheli ar ddarn o dir rhwng garej Glan y Don ac archfarchnad Aldi.

 

Fel y cais blaenorol, (6.1 Cais Rhif C23/0673/45/AM) penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ddiwedd mis Mawrth 2025 oedd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad swyddogion oherwydd diffyg tai fforddiadwy, diffyg gwybodaeth am y cymysgedd/cydbwysedd tai ac effaith niweidiol ar yr Iaith Gymraeg. Yn unol â chyfarwyddyd Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd, gan fod risg  sylweddol i’r Cyngor o ran y bwriad i wrthod y cais yn groes i’r argymhelliad, cafodd y cais ei roi mewn cyfnod cnoi cil. Erbyn hyn, mae’r cais wedi ei ddiwygio  i gynnwys 30% o dai fforddiadwy o fewn y datblygiad ac felly’r cais yn cael ei gyflwyno yn ôl i’r Pwyllgor am ystyriaeth bellach ar sail y newidiadau hyn.

 

Amlygwyd, er nad yw cynlluniau manwl na thirlunio yn rhan o’r cais bod angen ystyried egwyddor y bwriad ynghyd a manylion y fynedfa. Nodwyd, pe byddai’r cais yn cael ei ganiatáu, byddai angen i’r ymgeisydd gyflwyno cais arall i gytuno ar y materion a gadwyd yn ôl.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, mynegwyd bod datblygu tai ar y safle yn dderbyniol gan ei fod yn dir sydd oddi fewn i ffin datblygu Pwllheli ac wedi ei glustnodi ar gyfer datblygiad preswyl o fewn y CDLl. Ystyriwyd bod y dwysedd datblygu a gynigiwyd yn dderbyniol o ystyried lefelau’r safle ond bod angen gwarchod bioamrywiaeth a darparu sustem draenio gynaliadwy a llecyn chwarae agored.

 

Fel sydd wedi ei nodi uchod, o safbwynt ffigyrau tai Pwllheli bod y bwriad yn dderbyniol oherwydd dynodiad y safle ar gyfer tai ble disgwylid 150 o dai newydd, er yn derbyn na fydd 150 yn bosib oherwydd cyfyngiadau ffisegol y safle a phresenoldeb archfarchnad Aldi. Tynnwyd sylw at Polisi TAI 15 sydd yn gofyn am gyfraniad tai fforddiadwy ar ddatblygiadau preswyl o 2 uned neu fwy. Ar gyfer Pwllheli, gofynnwyd am gyfraniad o 30% ac mae’r ddarpariaeth yn cael ei gynnig erbyn hyn - 30% ar gyfer y datblygiad yma yn gyfystyr a 3.6 uned ac yn unol a’r Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy byddai hyn yn golygu darparu 4 uned fforddiadwy.

 

Mae’r ymgeisydd wedi nodi mai’r gobaith yw y bydd RSL a / neu ddatblygwr/adeiladwr tai yn rhan o’r datblygiad erbyn i gais materion a gadwyd yn ôl gael ei gyflwyno ac y gallai hynny gynnig ffordd ymlaen o ran darparu tai fforddiadwy trwy gymorth grant datblygu o bosib gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r math yna o grantiau yn rhoi gwell cyfle i faterion hyfywedd o ran datblygu’r safle gael cefnogaeth, o’u cymharu gyda’r gefnogaeth a fyddai ar gael i ddatblygwr yn y sector breifat. Rhaid cofio hefyd fod caniatâd cynllunio yn parhau am 5 mlynedd ac fe all y sefyllfa newid yn sylweddol o fewn y cyfnod hynny. Gyda’r bwriad erbyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C25/0186/11/LL Halifax, 243 - 245 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1PA pdf eicon PDF 240 KB

Datblygiad arfaethedig ar gyfer newid defnydd eiddo presennol i ffurfio 13no. fflat preswyl hunangynhaliol (defnydd C3) ar hyd y llawr gwaelod isaf, llawr gwaelod, llawr cyntaf, ail a thrydydd llawr. Mae'r cynnig hefyd yn ceisio cadw elfen o arwynebedd llawr masnachol ar y llawr gwaelod i'w gyflwyno at ddibenion manwerthu (A1). 

 

AELODAU LLEOL: Cynghorywr Dylan Fernley a Nigel Pickavance

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.     Amser 5 mlynedd

2.     Yn unol â’r cynlluniau

3.     Cyfyngu’r defnydd i anheddau preswyl dosbarth defnydd C3 yn unig

4.     Cyfyngu’r oriau adeiladu

5.     Rhaid cyflwyno a chytuno mesurau ynysu sŵn

6.     Rhaid gweithredu amcanion y Datganiad Seilwaith Gwyrdd

7.     Amod tai fforddiadwy

 

Nodiadau:

Nodyn Dŵr Cymru

 

Cofnod:

Datblygiad arfaethedig ar gyfer newid defnydd eiddo presennol i ffurfio 13 fflat preswyl hunangynhaliol (defnydd C3) ar hyd y llawr gwaelod isaf, llawr gwaelod, llawr cyntaf, ail a thrydydd llawr. Mae'r cynnig hefyd yn ceisio cadw elfen o arwynebedd llawr masnachol ar y llawr gwaelod i'w gyflwyno at ddibenion manwerthu (A1).

 

a)           Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais llawn ydoedd i newid defnydd adeilad presennol yn 13 fflat preswyl gyda chynllun i gadw elfen o arwynebedd llawr ar gyfer defnydd manwerthu ar y llawr gwaelod. Bydd y fflatiau wedi eu gosod dros y 5 llawr gyda mynediad i’r fflatiau drwy risiau yng nghefn yr adeilad a mynediad i’r ardal manwerthu o’r stryd fawr.  Bydd y datblygiad yn cynnwys storfa biniau a storfa beiciau ar y llawr gwaelod. Defnydd C3 fydd i’r fflatiau hunangynhwysol a defnydd A1 fydd i’r ardal manwerthu gyda blaen y siop yn aros yr un fath. Ni fydd y gwaith yn cynnwys unrhyw waith allanol.

 

Saif yr adeilad yng nghanol Stryd Fawr Bangor, o fewn ffin ddatblygu'r Ganolfan Isranbarthol fel y'i diffinnir gan y CDLl. Saif o fewn Ardal Gadwraeth ac o fewn y Canol Tref Diffiniedig a'r Brif Ardal Siopa.

 

Cyfeiriwyd at lefel cyflenwad dangosol o dai ar gyfer Bangor dros gyfnod y CDLl gan nodi bod y ddarpariaeth eisoes yn cael ei gyfarch trwy’r safleoedd yn y banc tir. Mewn amgylchiadau o’r fath fe fydd ystyriaeth yn cael ei roi i’r unedau sydd wedi eu cwblhau hyd yma o fewn yr haen y Prif Ganolfannau. Ystyriwyd, drwy ychwanegu 13 uned anheddol at y stoc dai, byddai'r datblygiad sy’n destun y cais hwn yn gymorth i gyfrannu tuag at dargedau tai'r CDLl mewn ffordd sy'n ymateb yn gadarnhaol i ofynion y farchnad dai lleol. Ategwyd bod maint a math yr anheddau a gynigiwyd yn gymysgedd priodol o ddarpariaeth tai ac yn cydymffurfio gyda Polisi TAI 8.

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan ei fod yn ddatblygiad o bum annedd neu fwy.

        

Ystyriwyd bod y defnydd arfaethedig yn dderbyniol ac yn bodloni gofynion polisïau. Roedd y swyddogion yn argymell caniatáu y cais gydag amodau.

 

b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Asiant y sylwadau canlynol:

·          Bod y cais yn ymwneud a throi adeilad gwag ar Stryd Fawr Bangor i ffurfio 13 fflat ac ardal manwerthu

·          Bod yr adeilad, oedd yn gyn fanc, yn wag ers Ebrill 2023 a dim defnydd ohono ers hynny

·          Bod y bwriad yn cynnig defnydd addas o’r adeilad fyddai yn cwrdd â gofynion tai yn lleol a hyfywedd y Stryd Fawr

·          Bod ymchwil marchnata gan arwerthwyr tai wedi amlygu bod galw pendant am fflatiau rhent gyda 1,2 a 3 stafell wely

·          Er bod tai llety myfyrwyr ar gael ym Mangor, bod diffyg anheddau ar gyfer unigolion proffesiynol, cyplau a theuluoedd bach, gyda rhai yn symud allan o’r ddinas i rentu yn Ynys Môn, Bethesda a Chaernarfon

·          Bydd maint y fflatiau yn fforddiadwy - ni fyddant allan o gyrraedd pobl leol

·          Bod yr uned manwerthu, er yn llai, ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C22/0579/03/LL Gwylfa Garage Ffordd Manod, Manod, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 4AR pdf eicon PDF 356 KB

Adeiladu 8 annedd (dosbarth defnydd C3)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Geraint Parry

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gytundeb 106 ar gyfer tŷ fforddiadwy ac amodau’n ymwneud a’r canlynol:

 

1.     Amser o ran cychwyn y datblygiad

2.     Unol a’r cynlluniau

3.     Llechi ar y to

4.     Deunyddiau

5.     Defnydd C3 i’r holl dai

6.     Enw Cymraeg i’r stad a’r tai.

7.     Arwyddion Cymraeg neu ddwyieithog

8.     Oriau gwaith adeiladu

9.     Carreg ddyddiad Capel Gwylfa i’w gosod yn ei lle yn unol gyda’r cynllun cymeradwy cyn meddiannu’r tai.

10.  Unol gydag Adroddiad Archwiliad Halogiad Tir.

11.  Amod CNC yn ymwneud gyda llygredd na chafodd ei ganfod.

12.  Cyflwyno a chytuno manylion draeniad dŵr budr.

13.  Amodau Adran Trafnidiaeth (Llywodraeth Cymru) yn ymwneud gyda’r fynedfa a diogelwch ffyrdd.

14.  Gwaith tirlunio yn unol gyda’r manylion gyflwynwyd yn y tymor plannu cyntaf yn dilyn meddiannu / cwblhau’r datblygiad ac ail blannu os oes unrhyw goeden / gwrych yn methu o fewn 5 mlynedd.

15.  Blychau adar ac ystlumod i’w gosod yn unol gyda’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd cyn i’r tai cael eu meddiannu am y tro cyntaf.

 

Nodiadau:

Nodyn SuDS

Cyfeirio at sylwadau Dŵr Cymru ac Adran Trafnidiaeth (Llywodraeth Cymru – cyflwyno.

 

Cofnod:

Adeiladu 8 annedd (dosbarth defnydd C3)

 

a)           Amlygodd Hyfforddai Proffesiynol Cynllunio mai cais llawn ydoedd i adeiladu 8 tŷ annedd gyda bwriad o ddarparu 1 tŷ fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad, ynghyd ag 18 o lefydd parcio o fewn y safle (2 ar gyfer pob eiddo a 2 ychwanegol ar gyfer ymwelwyr). Nodwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin ddatblygu Blaenau Ffestiniog, ac oddi fewn i Safle Treftadaeth y Byd a’r Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.  Eglurwyd bod y safle yn bresennol yn wag gydag adeiladau’r cyn fodurdy wedi eu dymchwel. I’r gogledd o’r safle mae cae chwarae, i’r dwyrain mae cae pêl droed, i’r gorllewin ceir cefnffordd yr A470 ac i’r de mae’r safle yn ffinio gyda thŷ annedd.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan ei fod yn gais am 5 neu fwy o dai.

 

Adroddwyd bod y datblygiad yn cael ei gefnogi yn erbyn y lefel cyflenwad dangosol ar gyfer Blaenau Ffestiniog.  Ystyriwyd fod y bwriad yn un derbyniol o ran dwysedd ac yn cwrdd gyda gofynion maen prawf (3) Polisi PCYFF 2 CDLl. Ategwyd y byddai’n briodol gosod amod i’r tai gael eu cyfyngu i ddosbarth defnydd C3 yn unig sef tai annedd i’w defnyddio fel unig neu brif breswylfa.

 

Ystyriwyd bod y cymysgedd a’r math o dai a fwriedir yn dderbyniol ac yn cwrdd gyda’r galw yn lleol - y bwriad yn dderbyniol o ran Polisi TAI 8 a’r CCA - Cymysgedd Tai. Yn unol â Pholisi TAI 15 disgwylir cyfraniad o 10% o dai fforddiadwy - 8 tŷ ac felly bydd disgwyl cyfraniad o 0.8 uned fforddiadwy.  Eglurwyd, pan fydd y gofyniad am dai fforddiadwy yn disgyn o dan 1 uned ar y safle, yna bydd darparu uned fforddiadwy yn parhau i fod yn flaenoriaeth ble’n bosibl.  Ategwyd bod y datblygwr wedi cadarnhau y bydd llain 1 o’r cynllun yn cael ei gynnig fel safle tŷ fforddiadwy.  O ganlyniad, byddai darparu'r un uned yma ar y safle yn cwrdd gyda’r gofynion o ran y nifer unedau fforddiadwy.

 

Yng nghyd-destun effaith ar yr iaith Gymraeg, ystyriwyd  mai effaith niwtral fydd gan y  bwriad arfaethedig ar yr Iaith. Amlygywd bod enwau Cymraeg wedi cael eu hargymell ar gyfer y stad yn y Datganiad Iaith a Chymunedol ac ystyriwyd y byddai’n briodol cynnwys amod i sicrhau enw Cymraeg i’r datblygiad yn unol gyda maen prawf 5 o Bolisi PS 1. 

 

Er bod nifer o ddatblygiadau llinellog gerllaw’r safle mae enghreifftiau o ystadau tai o’r math yma i’w gweld yn yr ardal ac ni ystyriwyd fod ystâd o’r dyluniad dan sylw allan o gymeriad yr ardal.  Byddai’r bwriad dan sylw yn cynnig amrywiaeth ym math a maint y tai ac ystyriwyd fod gosodiad, ymddangosiad, graddfa, uchder a mas y tai arfaethedig yn addas i’r safle.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol roedd y swyddogion yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau.

 

b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Bod y cais cynllunio yn un ar gyfer  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C24/0804/03/DT Glan Dwyryd Pencefn, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 4BW pdf eicon PDF 182 KB

Gosod llety efaill (twin lodge) arfaethedig fel anecs gyda decin. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.     5 mlynedd

2.     Unol a chynlluniau

3.     Cytuno unrhyw olau allanol

4.     Amod Datganiad Seilwaith Gwyrdd.

 

Cofnod:

Gosod llety efaill (twin lodge) arfaethedig fel anecs gyda decin.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)           Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer gosod siale ar ffurf uned ddeuol (twin lodge) i’w defnyddio fel anecs cysylltiol i’r prif eiddo, ynghyd a gosod llwyfan a ramp fydd yn mesur oddeutu 0.5m o uchder ar ei bwynt uchaf ac yn amgylchynu’r siale arfaethedig.  Ategwyd, nad yw’r siale, oherwydd ei wneuthuriad fel uned ddeuol, ei leoliad o fewn cwrtil yr eiddo a’i ddefnydd ( fyddai’n atodol i ddefnydd y prif eiddo), angen caniatâd cynllunio, ac felly amlinellwyd mai asesiad ar gyfer gosod y llwyfan a’r ramp yn unig oedd ei angen.

 

Adroddwyd bod safle’r datblygiad arfaethedig wedi ei leoli tu allan i unrhyw ffin datblygu, a thu mewn i Ardal Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol ac o fewn 500m o Heneb gofrestredig.

 

Eglurwyd bod y llwyfan a’r ramp bwriedig ar gyfer darparu mynediad hygyrch i’r siale ac ystyriwyd bod lleoliad y llwyfan yn dderbyniol gyda llystyfiant presennol yn lliniaru unrhyw effaith i’r de-orllewin. Ni ystyriwyd y byddai’r llwyfan yn cael effaith sylweddol andwyol ar fwynderau’r trigolion cyfagos, gan y byddai wedi ei leoli ar ochr y siale sy’n wynebu cwrtil yr eiddo sy’n destun y cais. Ategwyd bod yr annedd agosaf oddeutu 15m i ffwrdd o’r llwyfan arfaethedig, ac fe gyfeiriwyd at wrthwynebiad oedd wedi ei dderbyn ar sail gosod golau ychwanegol ar y safle. Cydnabuwyd y gall golau arwain at niwsans i drigolion cyfagos ac i’r perwyl hyn ystyriwyd mai priodol fyddai gosod amod ar gyfer cytuno unrhyw olau allanol ar y llwyfan.

 

Cydnabuwyd bod gwrthwynebiadau hefyd wedi eu derbyn gan drigolion cyfagos, a bod y sylwadau yn cynnwys cyfeiriad at y siale a’r effaith ar y system ymdrin gyda charthion presennol ar y safle, ond gan nad oedd angen caniatâd cynllunio ar y siale, roedd y materion hyn tu hwnt i’r hyn y gellid ei reoli drwy’r cais dan sylw.

 

Daethpwyd i’r casgliad bod modd gosod amod i gwblhau gwelliannau bioamrywiaeth.

 

         Roedd y swyddogion yn argymell caniatáu y cais

 

b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Mai’r unig reswm dros gyflwyno’r cais oedd anabledd ei dad a'r safle mae’n byw ynddo ar hyn o bryd yn anaddas - yn byw mewn un ystafell, yn methu cael cawod ac yn disgyn yn aml. 

·        Y sefyllfa yn dorcalonnus ac felly cyflwyno cais i wneud bywyd ei rieni yn haws, ei fywyd ef yn haws o fedru bod gerllaw a theulu i gefnogi’r teulu

·        Bydd gosodiad y siale yn golygu mynediad at ystafell ymolchi a mwy o le i symud – ar hyn o bryd gall ond fynd o’r gwely i’r gader

·        Nid yw’r grisiau i’r tŷ presennol yn addas ac mae anodd gorfod defnyddio offer gwahanol i’w gael i mewn ac allan hefo’r grisiau.

·        Nid yw’n benderfyniad ysgafn oherwydd bod y tŷ yn dŷ teulu sydd yn mynd yn ôl canrifoedd, sydd erioed wedi cael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais Rhif C25/0008/39/LL Berth Ddu Caravan Park, Bwlchtocyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7BY pdf eicon PDF 270 KB

Cynyddu nifer carafanau i gyfanswm o 15 uned symudol, adeiladu bloc toiledau/ cawod, tirlunio a gwaith cysylltiedig. 


AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod yn unol â’r argymhelliad

 

Rhesymau:

 

·       Ni ystyrir y byddai’r unedau arfaethedig yn cydweddu’n hawdd i’r dirwedd ac ni ystyrir fel lleoliad anymwthiol wedi'i guddio'n dda gan nodweddion presennol y dirwedd, felly byddai’r datblygiad yn niweidiol i ansawdd gweledol y dirwedd. Ni fyddai'r bwriad yn ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig Ardal o Harddwch Nat uriol Eithriadol Llŷn. Pryderir hefyd am greu safle carafanau newydd gryn bellter o’r prif rwydwaith ffyrdd ar lon wledig brysur ble ceir dwysedd uchel o safleoedd gwyliau ac eff aith y gwaith datblygu cysylltiedig ar nodweddion a chymeriad y dirwedd. Fe ystyrir felly fod y bwriad yn groes i ofynion perthnasol Polisïau TWR 5 ac AMG 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a Chanllawiau Cynllunio Atodol (CCA): Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid.

 

·       Ni chyflwynwyd tystiolaeth ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith o golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas. Ystyrir felly fod y cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau 3.58 a 3.59 o Bolisi Cynllunio Cymru.

 

Cofnod:

Cynyddu nifer carafanau i gyfanswm o 15 uned symudol, adeiladu bloc toiledau / cawod, tirlunio a gwaith cysylltiedig.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)       Amlygodd Hyfforddai Cynllunio mai cais llawn ydoedd yn ymwneud ag ymestyn safle carafanau presennol i gae amaethyddol cyfochrog ynghyd â chodi bloc toiledau a chawodydd newydd, thirlunio a gwaith cysylltiedig. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu allan i’r ffin datblygu, ac felly ystyriwyd bod y safle mewn cefn gwlad agored.

 

Tynnwyd sylw bod yr eiddo o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol cofrestredig Llŷn ac Enlli gyda’r safle wedi ei wasanaethu

gan ffordd ddi-ddosbarth wledig sengl. Ategwyd bod y tir dan sylw wedi ei raddio fel tiroedd dosbarth 2, sef tir amaethyddol o ansawdd da. Cyfeiriwyd at baragraff 3.58 o Bolisi Cynllunio Cymru (PC) sy’n nodi mai “tir amaethyddol gradd 3a yn ogystal â dosbarthiadau 1 a 2 yn y Dosbarthiad Tir Amaethyddol (ALC)16 sydd yn cael ei ystyried fel y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas, a dylid ei warchod fel adnodd y mae terfyn iddo ar gyfer y dyfodol”.

 

Wedi ymchwilio i hanes cynllunio’r safle, ymddengys nad oedd unrhyw ganiatâd Cynllunio yn bodoli ar gyfer carafanau ar y safle ac er bod arwydd lleoliad ardystiedig ‘Caravan and Motorhome Club’ yn cael ei arddangos yno, yn dilyn ymholiadau gyda’r Clwb eithriedig, derbyniwyd cadarnhad nad oedd tystysgrif ar gyfer y safle bellach. O ganlyniad, nid cais i ymestyn safle presennol oedd dan sylw, ond cais am safle carafanau teithiol (15 carafán) o’r newydd.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan ei fod yn ddatblygiad ar safle sydd yn 0.5 hectar neu fwy o ran maint.

 

Rhoddwyd ystyriaethau i bolisi TWR 5, AMG1 a PS6 o’r CDLl

 

Adroddwyd, er bod y cais yn datgan bod coed a gwrychoedd helaeth yn cuddio’r safle o bob gwelfan o archwilio’r safle, gwan oedd ansawdd tirlunio cloddiau terfyn y safle ar y cyfan. Ategwyd mai lled cae oedd yn gwahanu’r safle o’r ffordd sirol, gyda chloddiau cymharol foel ar y terfynau dwyreiniol, fyddai’n gwneud y safle yn amlwg o’r lon gyhoeddus sy’n rhedeg heibio’r eiddo ac o lwybr cyhoeddus sydd led cae i’r gorllewin o’r safle. Er bod  natur wastad i'r safle, cyfyngedig fydd y golygfeydd, ond bydd yn amlwg o’r ffordd gyfochrog ac o diroedd uwch Bwlchtocyn a rhai mannau ar lwybrau cyhoeddus yr ardal. Cydnabuwyd bod bwriad i atgyfnerthu sgrinio’r safle trwy wella ac ychwanegu tirlunio ar y cloddiau presennol, ond o ystyried lleoliad uchel ac agored y safle, nid oedd sicrwydd y byddai’r tirlunio yn sefydlu a phwysleisiwyd y byddai’n cymryd nifer o flynyddoedd i  sgrinio’r safle yn ddigonol, os o gwbl. Nodwyd bod dibyniaeth ar dirlunio i ffurfio sgrin ddigonol yn cynnwys elfen o risg gydag amheuaeth y byddai modd sicrhau sgrinio digonol yn y tymor byr.

 

Cyfeiriwyd at polisi AMG 1 sy’n nodi bydd angen i gynigion sydd o fewn neu’n effeithio ar osodiad / golygfeydd i mewn ac allan o’r AHNE  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cais Rhif C25/0361/30/LL Ael Y Bryn, Rhiw, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8AG pdf eicon PDF 261 KB

Cais llawn i ddymchwel tŷ (C3) a modurdy presennol a chodi tŷ newydd (C3) 3 ystafell wely yn eu lle  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio penderfyniad a chynnal ymweliad safle

 

COFNODION:

Cais llawn i ddymchwel tŷ (C3) a modurdy presennol a chodi tŷ newydd (C3) 3 ystafell wely yn eu lle.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)           Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais llawn ydoedd i ddymchwel tŷ deulawr presennol ac adeiladu tŷ newydd deulawr 3 ystafell wely yn ei le. Yn ogystal, bydd bwriad cynnal newidiadau allanol gan gynnwys gwaredu modurdy unllawr presennol a chreu mannau parcio. Byddai'r tŷ newydd, or un ôl troed yn cynnig lolfa, ystafell fwyta/cegin, ystafell gawod a chyntedd ar y llawr daear a tair ystafell wely ac ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau y bydd yr eiddo yn dŷ cymdeithasol gyda Tim Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd yn arwain ar y broses o glustnodi’r eiddo ar y cyd gyda Cynefin i ddefnyddwyr ar restr aros. Ategwyd bod bwriad ei osod fel eiddo rhent canolraddol, ar flaenroaeth fyddai edrych ar y ddeiliadaeth yma i gychwyn, ac os hynny ei hysbysebu drwy Tai Teg.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu gyfredol ac felly yng nghefn gwlad agored o fewn dynodiadau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Yn gyfochrog i’r safle ceir dau dŷ ar wahân a ffordd gyhoeddus ddi-ddosbarth yn rhedeg ar hyd ffin ddwyreiniol y safle. Nodwyd bod yr adeilad  presenol mewn cyflwr bresgus a ffens ddiogelwch yn gwarchod y safle.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio am benderfyniad yn dilyn derbyn sylwadau’r Aelod Lleol a gadarnhaodd ei fod yn gwrthwynebu’r bwriad.

 

Ystyriwyd bod y bwriad yn cydymffurfio gyda chanllawiau a pholisïau cynllunio ac felly roedd y swyddogion yn argymell caniatáu y cais gydag amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ynghyd ag amodau ychwanegol yn ymwneud a chytuno gorffeniadau, drysau, ffenestri a manylion triniaethau ffin.

 

b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Asiant y sylwadau canlynol

·        Y bwriad yw dymchwel yr eiddo presennol ac adeiladu tŷ newydd, 3 llofft fydd yn diwallu’r anghenion tai lleol

·        Bod Ael Y Bryn wedi bod ym mherchnogaeth Cynefin ers iddo gael ei adael iddynt mewn ewyllys

·        Yn cydnabod bod yr eiddo wedi bod yn wag ers tro, ond heriol oedd cael cynllun ar ei gyfer oedd yn hyfyw a chynaliadwy

·        Nid yw’r eiddo yn addas yn ei ffurf bresennol ar gyfer teulu

·        Nid yw’n cwrdd gyda safonau ansawdd tai Llywodraeth Cymru ac ni fuasai gwaith atgyweirio yn ei ffurf strwythurol bresennol yn bodloni’r safonau chwaith, e.e., yr adroddiad strwythurol yn amlygu bod y grisiau presennol yn creu risg i unrhyw breswylydd ac y byddai eu hail wneud yn golygu colli un stafell wely

·        Opsiwn gorau fyddai dymchwel a chreu eiddo newydd fydd yn cydymffurfio gyda gofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer tai newydd

·        Byddai Cynefin yn arwain ar y gwaith gyda chefnogaeth grant gan Lywodraeth Cymru fydd yn cael ei reoli drwy raglen datblygu Cyngor Gwynedd - bydd yn cyfarch Strategaeth Tai Cyngor Gwynedd

·        Bod Cynefin  ...  view the full COFNODION text for item 13.

14.

Cais Rhif C25/0204/41/LL Tir gerllaw Maes Llwyd, Llanystumdwy, LL52 0SQ pdf eicon PDF 281 KB

Cynnig i godi 5 tŷ fforddiadwy, gan gynnwys gwaith i ffurfio ffordd fynediad fewnol, gwaith tirweddu caled a meddal a darpariaethau draenio cysylltiedig ar dir ger Maes Llwyd, Llanystumdwy. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.     5 mlynedd.

2.     Yn unol â’r cynlluniau.

3.     Llechi

4.     Tynnu hawliau datblygu a ganiateir.

5.     Materion Fforddiadwy

6.     Defnydd C3 yn unig

7.     Cytuno Cynllun Rheoli Datblygu a’r Amgylchedd

8.     Enw Cymraeg i’r stad a’r tai.

9.     Materion bioamrywiaeth

10.  Materion Gwarchod y Cyhoedd

11.  Materion Priffyrdd:

-        Rhaid cyflwyno Cynllun Rheoli Trafnidiaeth Adeiladu (CTMP), Cynllun Rheoli Traffig (TMP) ac arolwg cyn-gyflwr o gyrbau ac arwyneb Maes Llwyd i'r Awdurdod Cynllunio a'u cytuno gydag ef cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle.

-        Rhaid cwblhau'r lle parcio ceir yn gwbwl unol fel y dangoswyd cyn preswylio yn yr uned(au) preswylio.

-        Rhaid cwblhau’r ffordd a’r palmentydd i’r cwrs sylfaen a hefyd y goleuadau’n gweithio cyn i unrhyw un o’r tai mae'r ffordd honno yn ei gwasanaethu cael eu meddiannu. Rhaid gosod cyrbiau wrth ochrau'r ffordd/ffyrdd stad gan gwblhau wynebau'r gerbydlon a'r droedffordd a'u goleuo cynbod preswylwyr yn yr annedd olaf ar y stad neu o fewn 2 f lynedd i ddyddiad cychwyn y gwaith ar y safle neu unrhyw gytundeb arall y cytunir arno mewn ysgrifen gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol, pa un bynnag fo gyntaf.

-        Rhaid i’r ymgeisydd gymryd pob gofal i atal dŵr wyneb o gwrtil y safle arllwys i'r briffordd.

 

Nodiadau:

Nodyn SuDS

Nodyn Dŵr Cymru

Cyfarwyddir yr ymgeisydd i ysgrifennu at y Rheolwr Gwaith Stryd i gael hawl o dan Adran 171/184 o’r Ddeddf Priffyrdd, 1980, i gario unrhyw waith allan o fewn y ffordd/palmant / ymyl glas sydd yn angenrheidiol i adeiladu’r fynedfa

 

COFNODION:

Cynnig i godi 5 tŷ fforddiadwy, gan gynnwys gwaith i ffurfio ffordd fynediad mewnol, gwaith tirweddu caled a meddal a darpariaethau draenio cysylltiedig ar dir ger Maes Llwyd, Llanystumdwy.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)           Amlygodd Hyfforddai Proffesiynol Cynllunio bod Polisi TAI 16 (‘Safleoedd Eithrio’) yn galluogi datblygu tai ar safleoedd sydd y tu allan ond yn ffinio â ffiniau datblygu ond bod rhaid sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio yn effeithiol â gofyniad y Polisi. Adroddwyd bod y  bwriad ar gyfer 100% o dai fforddiadwy canolradd ar ffurf  rhan - berchnogaeth. Cyflwynwyd aolwg anghenion tai gyda’r cais oedd yn datgan bod angen am y math yma o dai yn ardal Llanystumdwy ar sail fod y rhai sydd mewn angen ar gyfer tai fforddiadwy yn cael eu prisio allan o’r farchnad. Yn ogystal roedd yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau fod y bwriad yn cyfarch yr angen ar gyfer unedau fforddiadwy canolradd yn lleol a bod diffiniad lleol yn yr achos yma yn golygu pobl sydd mewn angen am dai fforddiadwy ac sydd â chysylltiad 5 mlynedd gyda Phentref Lleol Llanystumdwy neu ei gefnwlad wledig. O ganlyniad, ystyriwyd bod yr angen lleol wedi ei brofi am dai fforddiadwy, a byddai unrhyw ganiatâd yn destun amod cynllunio ar gyfer sicrhau’r ddarpariaeth fforddiadwy.

 

Yng nghyd-destun lleoliad y cais, ystyriwyd bod y safle yn addas ar gyfer datblygiad preswyl o’r fath gan ei fod yn cynnig estyniad i stad o dai presennol ac y byddai’n cyd-fynd gyda defnydd presennol y tir wrth ei ymyl, ac oherwydd natur fechan y datblygiad ar gyfer 5 tŷ. Nodwyd bod y datganiad cynllunio yn egluro bod yr unedau am gael eu datblygu gan Dŷ Gwynedd ac yna eu gwerthu ar sail model ecwiti sydd am alluogi i’r prynwr brynu’r eiddo am bris fforddiadwy. Ymgynghorwyd gyda’r Uned Strategol Tai oedd yn nodi bod 68 o bobl ar gofrestr tai cyffredin am eiddo cymdeithasol yn yr ardal, a bod 19 o ymgeiswyr ar gofrestr Tai Teg am eiddo canolradd gyda’r gofyn uchaf am dai dwy ystafell wely a thŷ tair ystafell wely'r ail fwyaf poblogaidd. Nododd yr Uned Strategol fod y cynllun arfaethedig yn cyfarch yr angen yn yr ardal ac yn nodi bod y cynlluniau yn cyfrannu’n uniongyrchol at nod Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd i ddarparu mwy o dai i gwrdd â’r galw uchel bresennol sydd yn bodoli yn y Sir.

 

Saif y safle o fewn 25m i ddau adeilad rhestredig gradd II, ac Ardal Cadwraeth Llanystumdwy. Adroddwyd mai tai cerrig sydd yn amgylchynu’r adeiladau hyn ar hyn o bryd, ac oherwydd bod elfennau o gerrig am fod yn bresennol yn edrychiadau’r tai arfaethedig a’i gysylltiad gyda stad Maes Llwyd, ystyriwyd nad yw’n debygol y bydd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol sylweddol ar yr adeiladau rhestredig nac Ardal Cadwraeth Llanystumdwy. Ystyriwyd felly bod y datblygiad yn cydymffurfio a pholisi AT1 a PS 20 y CDLl.

 

Tynnwyd sylw at yr Asesiad Effaith Iaith Gymraeg oedd wedi ei gyflwyno i gefnogi’r bwriad a’r  ...  view the full COFNODION text for item 14.