Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr John Pughe Roberts a Dyfrig Siencyn

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)           Datganodd y Cynghorydd Cai Larsen fuddiant yn eitem 5.2 (C25/0671/14/LL) oherwydd ei fod yn Gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Syr Hugh Owen. Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac felly gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

Datganodd y Cynghorydd Huw Rowlands fuddiant yn eitem 5.4 (C24/0323/14/LL) a 5.5 (C24/0755/19/LL) oherwydd ei fod wedi cyflwyno sylwadau ar y ceisiadau. Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac felly gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau.

 

b)           Datganodd Dafydd Williams (Pennaeth Amgylchedd) fuddiant yn eitem 5.1 (C26/0238/15/LL) oherwydd ei fod yn byw yn yr un ardal. Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac felly gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

c)           Datganodd yr Aelodau canlynol eu bod yn Aelodau Lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

Y Cynghorydd Elwyn Edwards (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C24/1032/04/LL) ar y rhaglen

 

Y Cynghorydd Menna Trenholme (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C24/0323/14/LL) a 5.5 (C24/0755/19/LL) ar y rhaglen.

 

Y Cynghorydd Cai Larsen (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C24/0323/14/LL) a 5.5 (C24/0755/19/LL) ar y rhaglen.

 

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 247 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 15 o Fehefin 2026 fel rhai cywir

 

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i’w datblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

6.

CAIS RHIF C26/0238/15/LL TIir Gyferbyn a 10 Warden Street, Llanberis, LL55 4HP pdf eicon PDF 168 KB

Codi tŷ annedd newydd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gwilym Evans

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod y cais

 

Rhesymau:

 

  1. Nid yw dyluniad modern yr annedd arfaethedig, gyda’r balconi eang a’r drysau/ ffenestri gwydr ar y drychiad blaen a chefn, yn parchu cymeriad tai cyfagos na’r hyn sydd yn y cyffiniau a byddai’r nodweddion yn anghydnaws. Ni fyddai’r bwriad yn ychwanegu at na gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle na’r ardal. Nid yw’r bwriad wedi rhoddi ystyriaeth lawn i’w gyd-destun hanesyddol ac adeiledig a'i fod o ran ei osodiad, ymddangosiad, graddfa, uchder, mas a’r driniaeth i’r drychiadau yn cynnwys nodweddion anghydweddol, dominyddol ac estron nad ydynt yn parchu cyd-destun y strydwedd na’r safle. Ystyrir fod y bwriad felly, yn groes i feini prawf 1, 2 a 3 o Bolisi PCYFF 3:  Dylunio a siapio lle, Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011-2026).

 

  1. Oherwydd lleoliad, maint ac uchder y balconi a blaen yr annedd arfaethedig sy’n wynebu’r eiddo drws nesaf, ystyrir y byddai’r bwriad yn gor-edrych a chael effaith ddominyddol a gormesol ac effaith andwyol ar fwynderau’r trigolion cyfagos o ran sŵn ac aflonyddwch. Am y rheswm hwn, ystyrir fod y bwriad yn groes i ofynion polisi PCYFF2 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011-2026) sy’n ymwneud a diogelu mwynderau trigolion a’r ardal leol.

 

Cofnod:

 

         Codi tŷ annedd newydd

 

a)     Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod y cais wedi ei gyflwyno gerbron Pwyllgor Cynllunio 15fed Mehefin 2026, lle gohiriwyd penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle. Cynhaliwyd ymweliad safle ar yr 8fed o Orffennaf 2026.

 

Nodwyd mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi annedd deuluol o ddyluniad deulawr ar wahân, gyda thalcen yr eiddo yn wynebu’r ffordd gyhoeddus; y tŷ arfaethedig o ddyluniad to brig modern wedi ei adeiladu i mewn i’r llethr. Byddai’n mesur oddeutu 7.2m o uchder i fan uchaf y to, gyda balconi ar deras sylweddol yn cael ei osod i gefn yr eiddo fydd yn ymestyn allan oddeutu 2.5m ac yn gwasanaethu'r llawr.

 

Gwrthodwyd cais am eiddo unigol ar y safle hwn (26.02.2026) o dan gyfeirnod C25/0927/15/LL. Er bod rhai newidiadau wedi’u gwneud i gynlluniau’r cais presennol, gan gynnwys dileu dau agoriad llawr cyntaf oedd yn wynebu’r eiddo drws nesaf a lleihau maint y balconi fel nad yw’n ymestyn allan heibio edrychiad ochr y tŷ, roedd maint a gosodiad yr eiddo yn parhau yn gyffredinol yr un fath o ran maint a graddfa.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio am benderfyniad ar gais yr Aelod Lleol.

 

Cyfeiriwyd at Polisi TAI 15 o'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sy’n datgan y bydd Cynghorau yn ceisio sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y cynllun. Dau neu fwy o unedau tai yw'r trothwy, ond gan mai dim ond un uned sydd yn cael ei gynnig yn yr achos hwn, nid yw Polisi TAI 15 yn berthnasol ac nid yw’n angenrheidiol darparu elfen fforddiadwy.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd bod Polisi PCYFF 3 yn ei wneud yn ofynnol i ddatblygiadau fod o ddyluniad o ansawdd uchel sy’n parchu a chyd-fynd â chymeriad a chyd-destun yr ardal. Yn yr achos hwn, ystyriwyd nad yw’r tŷ arfaethedig yn adlewyrchu dyluniad traddodiadol y tai teras cyfagos ar Stryd Warden. Er bod y dyluniad wedi cael ei addasu rhywfaint ers y cais blaenorol, mae ei swmp, ei uchder a’i nodweddion mwy cyfoes yn parhau i ymddangos yn anghymesur ac allan o gymeriad gyda’r amgylchedd lleol. Yn ogystal, oherwydd bod y safle ar lethr, byddai’r annedd yn eistedd yn uwch na’r tai cyfagos ac felly’n sefyll allan yn y dirwedd. O ganlyniad, ystyriwyd y byddai’r adeilad yn creu effaith ormesol ac ni fyddai’n ymdoddi’n naturiol i’r strydwedd na’r dirwedd o’i gwmpas. Nid yw’r bwriad felly yn ychwanegu na gwella cymeriad na golwg yr ardal, ac mae’n groes i ofynion polisi PCYFF 3. Er bod rhai deunyddiau’n ceisio cyfeirio at y dirwedd hanesyddol, ystyriwyd y gallai dyluniad mwy sensitif i’r safle gael ei gyflwyno.

 

O safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl, cyfeiriwyd at bryderon sylweddol ynghylch effaith y datblygiad ar eiddo cyfagos. Er bod y balconi arfaethedig, wedi’i leihau, mae’n parhau’n nodwedd amlwg ar gefn yr eiddo ac yn debygol o achosi problemau gor-edrych a phreifatrwydd - y risgiau hyn yn effeithio’n benodol ar drigolion y capel cyfagos a Rhif 10 Stryd Warden.

 

Yn ogystal, ystyriwyd bod lleoliad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAIS RHIF C25/0671/14/LL Ysgol Syr Hugh Owen Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1HW pdf eicon PDF 168 KB

Codi ffens newydd 2400mm o uchder o gwmpas rhan o ffin y cae chwarae.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

Caniatáu gydag amodau

 

  1. 5 Mlynedd
  2. Unol a’r cynlluniau
  3. Lliw gwyrdd tywyll
  4. Gwelliannau Bioamrywiaeth

 

Nodyn

 

Nid yw’r caniatâd yma yn cynnwys unrhyw waith i goed wedi eu gwarchod o dan Orchymyn Gwarchod Coed.  Bydd angen caniatâd ar wahân ar gyfer unrhyw waith i’r coed sydd wedi eu gwarchod.

 

 

 

Cofnod:

Codi ffens newydd 2400mm o uchder o gwmpas rhan o ffin cae chwarae Ysgol Syr Hugh Owen

 

a)     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio oherwydd bod yr Aelod Lleol wedi datgan buddiant ac wedi darparu sylwadau ar y cais. 

 

Amlygwyd bod sylwadau o’r ymgynghoriad statudol a chyhoeddus yn cyfeirio fwyaf at bryderon yn deillio gan gymdogion yn nodi ei fod yn ddatblygiad di angen, fyddai’n creu effaith weledol, effaith ar fwynderau preswyl ac effaith ar hawliau dynol. Derbyniwyd llythyr hefyd yn cefnogi'r ffens oherwydd bod problemau gyda thaflu cerrig, tresmasu ar eiddo preifat a sbwriel yn cael ei daflu i mewn i erddi.

 

Cyfeiriwyd at Polisi ISA 2, sy’n ymwneud â chyfleusterau cymunedol sy’n cynnwys ysgolion, ac sy’n nodi y bydd y CDLl yn cynorthwyo i gynnal a gwella cyfleusterau cymunedol. Byddai’r bwriad yn cael ei leoli ar ffiniau ysgol bresennol a bod angen y ffens o gwmpas yr adeilad er mwyn gwella diogelwch o fewn tir yr ysgol.  O ran yr egwyddor ystyriwyd bod y bwriad yn un rhesymol ac yn cyd-fynd gydag egwyddor Polisi ISA 2 CDLl.

 

Bydd y ffens bwriedig yn un “weldmesh” o liw gwyrdd, sydd yn ffens lle mae modd gweld drwyddi - ystyriwyd felly na fydd yn creu golwg gaeedig na gormesol i’r ysgol na’r tai cyfagos. Gan ei fod yn cydweddu â ffensys presennol yr ysgol ac yn caniatáu gwelededd, ni ystyriwyd y byddai’n creu effaith weledol yn yr ardal, ac felly’n cydymffurfio â Polisi PCYFF 3.

 

Adroddwyd bod rhai preswylwyr cyfagos wedi gwrthwynebu ar sail effaith weledol a theimlad gormesol, ond nodwyd bod ffensys o’r math yma yn gyffredin mewn ysgolion er mwyn diogelu staff a disgyblion. Gan fod ffensys tebyg eisoes yn bodoli o amgylch y safle, nid yw’r cynnig yn anghyson â’r amgylchedd. Bydd y ffens newydd tua 4-5 metr o gefn y tai, yn darparu bwlch digonol fel nad yw’n cael effaith sylweddol ar fwynderau preifat. Ategwyd bod rhaid ystyried yr angen ar gyfer diogelu disgyblion a thir yr ysgol ynghyd a’r tir tu allan i’r ysgol rhag difrod ac felly, ystyriwyd na fyddai’r ffens o’r math yma’n achosi niwed arwyddocaol sylweddol i fwynderau’r gymdogaeth leol, ac felly’n cydymffurfio gyda Polisi PCYFF 2 y CDLl. Yn ogystal, tynnwyd sylw at goed sydd â gorchymyn gwarchod ar hyd y ffin gydag amod i’w osod i sicrhau na chaiff unrhyw waith ar y coed ei wneud heb ganiatâd ymlaen llaw - byddai hyn yn diogelu’r coed fel rhan o’r datblygiad.

 

Nid oedd y bwriad arfaethedig yn cyrraedd y trothwyon ar gyfer cyflwyno Datganiad Iaith Gymraeg neu Adroddiad ar Asesiad Effaith Iaith Gymraeg, er hynny ni ystyriwyd byddai’n niweidiol  i’r iaith Gymraeg ac felly’n cydymffurfio a gofynion Polisi PS 1.

 

Ystyriwyd bod y materion cynllunio wedi derbyn sylw teilwng gyda rhai sylwadau yn cyfeirio at faterion gweithredol. Ni ystyriwyd bod y dystysgrif perchnogaeth tir yn anghywir  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CAIS RHIF C24/1032/04/LL Tir ger LL23 7NR, Frongoch, LL23 7NR pdf eicon PDF 306 KB

Gweithrediad dros dro o fast meteorolegol a strwythurau ategol am gyfnod o hyd at bum mlynedd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Edwards

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod;

Amodau

  1. Rhaid i’r datblygiad ddechrau o fewn pum mlynedd i ddyddiad y penderfyniad hwn.
  2. Rhaid i’r datblygiad gael ei gyflawni yn unol â’r cynlluniau a’r dogfennau cymeradwy a ganlyn.
  3. Rhaid tynnu’r mast a ganiateir drwy hyn a rhaid adfer y tir i’w gyflwr blaenorol o fewn 5 mlynedd i ddyddiad ei gomisiynu. Rhaid i’r ymgeisydd hysbysu’r Awdurdod Cynllunio Lleol o ddyddiad y comisiynu o fewn 3 mis i’r dyddiad hwnnw.
  4. Cyn dechrau’r datblygiad (gan gynnwys gwaith tir a chlirio llystyfiant), rhaid cyflwyno Datganiad Dull manwl sy’n disgrifio sut y caiff y safle ei ddychwelyd i’w gyflwr gwreiddiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol, a rhaid ei gymeradwyo’n ysgrifenedig. Rhaid cadw at a gweithredu’r mesurau a gymeradwywyd yn llawn.
  5. Ni fydd unrhyw ddatblygiad, gan gynnwys clirio’r safle, yn dechrau nes bod Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CEMP) wedi’i gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i gymeradwyo’n ysgrifenedig ganddo.
  6. Ni fydd unrhyw ddatblygiad na cham o’r datblygiad yn dechrau nes bod Cynllun Diogelu Adar sy’n Magu (BBPP) wedi’i gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i gymeradwyo ganddo.
  7. Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad hyd nes y bydd cynllun gwella bioamrywiaeth wedi ei gyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol a'i gytuno'n ysgrifenedig ganddo. Bydd y datblygiad yn cael ei wneud yn unol â'r manylion a gymeradwywyd.
  8. Ni chaniateir unrhyw glirio llystyfiant, gwaith tir na gweithgareddau adeiladu yn ystod tymor nythu adar (1 Mawrth i 31 Awst yn gynhwysol) oni bai bod hynny wedi’i gytuno’n ysgrifenedig ymlaen llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Pan fo angen cynnal gwaith yn ystod y cyfnod hwn, rhaid cynnal arolwg o’r safle gan ecolegydd cymwys dim mwy na 48 awr cyn dechrau’r gwaith. Rhaid gweithredu unrhyw argymhellion a roddir yn llawn, ac os canfyddir nythod gweithredol, rhaid sefydlu parth gwarchod priodol a’i gynnal hyd nes i’r cywion ffoi.
  9. Rhaid gosod dyfeisiau gwyro adar ar bob gwifren gynhaliol allanol y mast ar bellter nad yw’n fwy na 2 fetr ar hyd eu hyd gyfan cyn i’r mast ddod yn weithredol. Rhaid cadw a chynnal y dyfeisiau hyn drwy gyfnod bywyd y datblygiad. Rhaid disodli unrhyw ddyfeisiau sydd wedi’u difrodi, wedi’u symud neu wedi datgysylltu o fewn un mis i’w canfod.
  10. Cyn dechrau adeiladu unrhyw fastiau meteorolegol, neu ddefnyddio unrhyw offer adeiladu neu strwythur(au) dros dro 50 metr neu fwy o uchder (uwchben lefel y ddaear), rhaid i’r datblygwr gyflwyno cynllun goleuo hedfan i’w gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd ar y cyd â’r Weinyddiaeth Amddiffyn, gan nodi sut y bydd y datblygiad yn cael ei oleuo drwy gydol ei oes er mwyn cynnal gofynion diogelwch hedfan sifil a milwrol fel y penderfynir yn angenrheidiol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Dylai hyn gynnwys:

a) Manylion unrhyw offer adeiladu a strwythurau dros dro sydd â chyfanswm uchder o 50 metr neu fwy (uwchben lefel y ddaear) a fydd yn cael eu defnyddio yn ystod adeiladu’r mast meteorolegol, ynghyd â manylion unrhyw oleuadau rhybudd hedfan a fydd yn cael eu gosod arnynt; a

b) Lleoliad ac uchder pob  ...  view the full Penderfyniad text for item 8.

Cofnod:

Gweithrediad dros dro o fast meteoroleg a strwythurau ategol am gyfnod o hyd at bum mlynedd.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys sylwadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cytuno gyda chasgliad yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

 

a)     Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio - Mwynau a Gwastraff bod y cais yn ymwneud â chodi a gweithredu mast anemometreg dros dro am gyfnod o bum mlynedd ar ucheldir ger copa Pen y Bwlch Gwyn. Bydd y mast yn strwythur delltog dur hyd at 100m o uchder, wedi’i gynnal gan wifrau tynhau ac wedi’i gyfarparu ag offer monitro meteoroleg, gan gynnwys anemomedrau a cheiliogod gwynt. Nodwyd bod nifer o ddynodiadau tirwedd a chadwraeth bwysig yn gymharol agos - Parc Cenedlaethol Eryri, ffin arfaethedig Parc Cenedlaethol Glyndŵr ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy; y safle hefyd o fewn cyffiniau sawl safle Ewropeaidd dynodedig, megis ACA, AGA a safleoedd RAMSAR - Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid, Migneint-Arenig-Dduallt a’r Berwyn.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y bwriad, nodwyd nad oedd polisi penodol yn y CDLl yn ymwneud â mastiau meteoroleg. Fodd bynnag, pwrpas y mast arfaethedig oedd casglu data meteoroleg i asesu hyfywedd datblygiad ynni gwynt posibl yn y dyfodol, ac felly ystyriwyd y cynnig fel math o seilwaith cysylltiedig i ddatblygiad ynni adnewyddadwy yn erbyn Polisi Strategol PS 7 y CDLl; polisi sy’n cefnogi technolegau ynni adnewyddadwy, ynghyd â Polisi ADN 1 sy’n ymwneud â datblygiadau ynni gwynt ar y tir.

 

Adroddwyd, ers mabwysiadu’r CDLl, bod yr Ardaloedd Chwilio Strategol a nodwyd yn TAN 8 wedi cael eu disodli gan yr Ardaloedd a Aseswyd Ymlaen Llaw a nodir yn Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040. Cyfeiriwyd at Polisi 17 o Cymru’r Dyfodol sydd yn sefydlu rhagdybiaeth o blaid datblygiadau ynni gwynt ar raddfa fawr o fewn yr ardaloedd hynny, tra bod Polisi 18 yn darparu’r meini prawf perthnasol ar gyfer asesu cynigion o’r fath.

 

Ategwyd bod y safle dan sylw wedi’i leoli y tu allan i’r Ardal a Aseswyd Ymlaen Llaw agosaf ar gyfer ynni gwynt. Fodd bynnag, nid yw Cymru’r Dyfodol na Polisi Cynllunio Cymru yn gwahardd datblygiadau ynni gwynt neu seilwaith cysylltiedig y tu allan i’r ardaloedd hynny. Yn hytrach, mae’r Ardaloedd a Aseswyd Ymlaen Llaw yn nodi lle mae Llywodraeth Cymru wedi asesu y gellid derbyn datblygiadau gwynt ar raddfa fawr mewn egwyddor, heb rwystro ystyriaeth i gynigion mewn lleoliadau eraill.

 

Yn ychwanegol, mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi bod prosiectau cynhyrchu ynni ar y tir â chapasiti rhwng 10MW a 350MW yn cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru drwy’r broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC/DNS) ac yn cael eu hasesu yn erbyn polisïau Cymru’r Dyfodol. Yn hyn o beth, nodwyd bod hysbysiad o fwriad wedi’i gyflwyno i Weinidogion Cymru ar gyfer fferm wynt bosibl ar yr un safle. Serch hynny, nid yw’r cais presennol yn ymwneud â’r fferm wynt ei hun ac ni ellid rhoi pwysau i egwyddor y datblygiad hwnnw wrth asesu’r cais. Rhaid ystyried y mast anemometreg ar ei rinweddau ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CAIS RHIF C24/0323/14/LL Tir ger Muriau Park Hotel, Ffordd Bont Saint, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2YS pdf eicon PDF 454 KB

Gorsaf betrol arfaethedig, hwb gwefru ceir trydan, adeilad manwerthu, chreu mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio. 

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Menna Trenholme a’r Cynghorydd Cai Larsen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

Rhesymau:

  1. Ystyriwyd fod y bwriad, oherwydd ei leoliad graddfa a’r defnydd yn annerbyniol o ganlyniad i’r lefel o aflonyddwch a chynnydd mewn gweithgaredd o’i gymharu â’r sefyllfa bresennol ac o ganlyniad, ystyrir fod y bwriad yn groes i faen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 sy’n diogelu mwynderau meddianwyr eiddo lleol.
  2. Mae’r prawf o effaith tebygol sylweddol yn awgrymu y gall y bwriad achosi effaith sylweddol ar rinweddau ACA Glynllifon, yn benodol yr ystlum pedol leiaf sy’n nodwedd o’r ACA yma, o ganlyniad i’w leoliad, y dystiolaeth fod ystlumod pedol leiaf yn defnyddio’r ardal a bod y bwriad yn amharu ar y gwrychoedd mae’r ystlumod yn ei ddefnyddio. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn i’r Awdurdod Cynllunio Lleol allu cwblhau Asesiad Priodol yn yr achos yma yn unol â gofynion yr Awdurdod o dan Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. Cesglir felly na ellir cael unrhyw sicrwydd na fydd y bwriad yn cael effaith sylweddol neu andwyol ar yr ACA oherwydd y diffyg gwybodaeth ac felly nid yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.
  3. Nid oes datganiad seilwaith gwyrdd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ac felly nid oes sicrwydd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru (2024) o ran y dull gam wrth gam a gwelliannau bioamrywiaeth.

 

  1. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ar hyn o bryd ar gyfer asesu effaith o ganlyniad i unrhyw halogiad yn y tir. I’r perwyl hyn ni ellir cadarnhau os yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 na polisi PS6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026.

 

  1. Mae'r safle'n cynnwys prif afon ddynodedig (Afon Rhosdican) ac mae pryderon ynghylch y datblygiad hwn a'r risg llifogydd yn y dyfodol i'r cynnig ac i drydydd parti. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn sicrhau mynediad addas a digonol i beiriannau er mwyn galluogi gwaith cynnal a chadw'r brif afon yn y dyfodol a darparu llwybr llif llifogydd/parth byffer i'r brif afon. Ystyrir heb y wybodaeth yma na ellir sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf rhif 4 polisi PS6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026.

 

  1. Ni chyflwynwyd tystiolaeth ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith o golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas. Ystyrir felly fod y cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau 3.58 a 3.59 o Bolisi Cynllunio Cymru.

 

  1. Nid yw’r datblygiad yn adlewyrchu dull sensitif na phriodol o ddylunio. Mae’n ymddangos yn anghydnaws ac yn ymwthiol o fewn ei gyd-destun, ac felly nid yw’n cydymffurfio â pholisïau PCYFF 3 a PCYFF 4  ...  view the full Penderfyniad text for item 9.

Cofnod:

Gorsaf betrol arfaethedig, hwb gwefru ceir trydan, adeilad manwerthu, creu mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio. 

 

 Roedd rhai o Aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle 8fed o Orffennaf 2026.

 

Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod cais, oedd wedi ei gefnogi gan lythyr, wedi dod i law gan asiant cais 5.4 yn gofyn i gais 5.4 a chais 5.5 gael eu gohirio oherwydd bod rhai materion angen sylw pellach.  Mewn ymateb i’r cais, nododd y Rheolwr Cynllunio bod yr Uned Priffyrdd bellach wedi cyflwyno sylwadau yn cadarnhau nad oeddynt yn gwrthwynebu'r cais a bod y bwriad felly yn cydymffurfio gyda maen prawf 3 o Polisi TRA 1 ynghyd a Polisi TRA 4 o safbwynt diogelwch ffyrdd. O ganlyniad, roedd rheswm gwrthod rhif 1 (fel roedd yn ymddangos yn yr adroddiad) yn cael ei ddileu. Ategwyd bod gwrthwynebiadau'r Awdurdod Cynllunio Lleol i’r cais yn amlygu nad oedd y lleoliad yn addas a bod gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno i’r Aelodau wneud penderfyniad ar y ddau gais.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys rheswm gwrthod ychwanegol i adlewyrchu effaith ymwthiol y datblygiad. Amlygwyd bod y rheswm yn nodi nad oedd y datblygiad yn adlewyrchu dull sensitif na phriodol o ddylunio ac yn ymddangos yn anghydnaws ac yn ymwthiol o fewn ei gyd-destun; nid oedd felly yn cydymffurfio â pholisïau PCYFF 3 a PCYFF 4 sy'n sicrhau fod cynigion a'r cynlluniau tirweddu yn parchu eu cyd-destun a'i leoliad yn y dirwedd leol.

 

a)     Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu gorsaf gwasanaethu fyddai’n darparu tanwydd i gerbydau ac yn cynnwys hwb gwefru ceir trydan, adeilad manwerthu ynghyd a chreu mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio.

 

Adroddwyd bod y safle yn eistedd tu allan i’r ffin datblygu fel y nodir yn y CDLl ac er nad yw’n eistedd o fewn unrhyw ddynodiadau tir arbennig, nodwyd bod y safle o fewn parth ymgynghori Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Gwyrfai ar sail effaith Ffosfforws. Fe’i lleolir yn union ger yr A487, sef rhan o’r rhwydwaith ffyrdd strategol, gyda natur y datblygiad yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth i ddefnyddwyr y ffordd yma. Aseswyd egwyddor y datblygiad drwy Polisïau TRA 1 ac PCYFF1 y CDLl.

 

Eglurwyd bod yr elfen siop wedi ei leoli o fewn yr un adeilad a’r man talu ar gyfer tanwydd ac o’r wybodaeth a gyflwynwyd bydd maint yr ardal manwerthu yn cael ei ddiffinio fel ‘siop fechan’, o fewn y CDLl. Ystyriwyd felly y byddai siop o’r maint yma yn elfen atodol i’r prif bwrpas o ddarparu tanwydd a seibiant wrth deithio, ac felly ni ystyriwyd y byddai’n debygol o danseilio darpariaeth manwerthu canolfannau cyfagos.

 

Mynegwyd y  gall datblygiadau arfaethedig sy’n arwain at gynnydd yn y llwyth ffosfforws o fewn y dalgylch arwain at effeithiau andwyol ar ansawdd dŵr ac felly ar gyflwr ecolegol yr ACA. Cyflwynwyd gwybodaeth fel rhan o’r cais yn cadarnhau bod bwriad cysylltu â Safle Trin Gwastraff Caernarfon gyda sylwadau Dwr Cymru yn cadarnhau bod hynny yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

CAIS RHIF C24/0755/19/LL Tir gyferbyn a Cylchfan Meifod, Meifod Farm, Pwllheli Road, Bontnewydd, LL55 2TY pdf eicon PDF 523 KB

Gwasanaethau ger ymyl ffordd a gwaith cysylltiedig.

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Menna Trenholme a’r Cynghorydd Cai Larsen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod yn groes i’r argymhelliad

Rhesymau:

 

  1. Nid yw’r bwriad yn gwbl cyd-fynd gydag egwyddorion cynaliadwyedd  - yn unol â pholisi PS6
  2. Bod y bwriad yn cael effaith andwyol ar fwynderau’r ardal a thrigolion cyfagos -  yn groes i maen prawf 7 polisi PCYFF 2
  3. Bod y bwriad yn cael effaith weledol andwyol  - yn groes i bolisi PCYFF 3
  4. Nid yw’r cynnig ar gyfer lliniaru effaith y bwriad o ran bioamrywiaeth na’r gwelliannau bioamrywiaeth yn ddigonol - yn groes i ofynion polisi PS19.

 

Cofnod:

Gwasanaethau ger ymyl ffordd a gwaith cysylltiedig.

 

Roedd rhai o Aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle ar yr 8fed o Orffennaf 2026.

 

a)     Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer gorsaf gwasanaethau fyddai’n darparu tanwydd i gerbydau gan gynnwys siop gysylltiedig ar safle ger cylchfan Meifod. Eglurwyd bod y  safle wedi ei leoli’n union ger rhwydwaith ffordd strategol A487 ac y byddai  mynediad i’r safle oddi ar y gylchfan ar Ffordd Pwllheli. Ategwyd bod y safle tu allan i’r ffin datblygu fel y nodir yn y CDLl; er nad yw’r safle yn eistedd o fewn unrhyw ddynodiadau tir eraill, mae o fewn parth ymgynghori Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Gwyrfai ar sail effaith Ffosfforws ac oddeutu 300m i ffwrdd o Safle Bywyd Gwyllt.

 

Ystyriwyd na fydd y datblygiad yn rhwystro symudiad traffig strategol a derbyniwyd cadarnhad bod y fynedfa yn ddiogel o ran diogelwch y briffordd. Yn ogystal, byddai’r siop sydd wedi ei lleoli o fewn yr un adeilad a’r man talu ar gyfer tanwydd yn elfen atodol i’r prif bwrpas o ddarparu tanwydd a seibiant wrth deithio ac felly ni ystyriwyd y byddai’r siop yn debygol o danseilio darpariaeth manwerthu canolfannau agos; yn cydymffurfio gyda Polisi TRA 1 y CDLl.

 

Ategwyd bod rhesymeg swyddogaethol a lleoliadol clir dros y safle arfaethedig, ac nad oedd safleoedd mwy priodol o fewn y ffiniau datblygu. Ystyriwyd bod y cynnig yn dderbyniol mewn egwyddor o dan ofynion Polisi PCYFF 1 – y  safle yn cynnig lleoliad addas o fewn y tirlun i ddarparu’r datblygiad, gan gyfyngu ei effaith weledol a pharchu’r dirwedd a’r amgylchedd lleol; o ganlyniad, yn cydymffurfio â gofynion perthnasol polisïau PCYFF 3 a PCYFF 4 y CDLl.

 

Nid oedd disgwyl i’r cynnig ychwanegu’n sylweddol at yr aflonyddwch presennol nac  amharu ar fwynderau preswyl i raddau annerbyniol, yn ddarostyngedig i amodau perthnasol. I’r perwyl hyn, ystyriwyd bod y datblygiad yn cydymffurfio gyda pholisïau PCYFF 2 a 3 y CDLl yn sgil materion cyffredinol a phreswyl.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth bryderon o ran lefelau traffig i mewn ac allan o’r safle, nac o ran y trefniadau mewnol. Ategwyd bod Uned Cefnffyrdd y Llywodraeth hefyd yn fodlon gyda’r cynnig. Adroddwyd y bydd amodau yn cael eu gosod i sicrhau bod y dŵr wyneb yn cael ei reoli’n briodol ac i warchod y ddarpariaeth rhannu ceir.

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, nodwyd bod safle’r bwriad wedi ei leoli o fewn parth ymgynghori Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Gwyrfai ar sail effaith Ffosfforws, ac yn benodol oherwydd bod bwriad cysylltu i’r brif garthffos (Safle Trin Gwastraff sy’n gwasanaethu’r ardal yw safle Llanfaglan sy’n allyrru i’r Afon Gwyrfai). Ategwyd bod  gwybodaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn cadarnhau bod bwriad cysylltu i Safle Trin Gwastraff Caernarfon yn lle Llanfaglan, ac roedd sylwadau Dŵr Cymru yn cadarnhau bod hynny yn dderbyniol, yn ddarostyngedig i gysylltu i bwynt penodol fydd angen ei sicrhau drwy amod cynllunio.

 

Lleolir y safle oddeutu 4.5km i ffwrdd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.