Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorydd Elin Hywel
a’r Cynghorydd Berwyn Parry
Jones; Cyng. Llio Elenid Owen (Aelod Lleol cais 5.7) Croesawyd y Cyng. Dyfrig Siencyn fel aelod newydd
i’r Pwyllgor |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd y Cynghorydd Cai
Larsen fuddiant yn eitem 5.2 (C25/0671/14/LL) oherwydd
ei fod ar
Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol
Syr Hugh Owen. Roedd yr Aelod o’r
farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu ac felly gadawodd
y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais. b)
Datganodd Iwan Evans (Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol – Swyddog Monitro) fuddiant
yn eitem 5.1 (C26/0238/15/LL)
oherwydd ei frawd oedd y pensaer
perthnasol. Roedd y swyddog o’r farn
ei fod yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu
ac felly gadawodd y Siambr yn
ystod y drafodaeth ar y cais. c)
Datganodd yr Aelod canlynol ei fod yn
Aelod Lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: Y Cynghorydd
Gwilym Evans (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C26/0238/15/LL) ar y rhaglen Datganodd yr Aelod canlynol ei fod
yn cynrychioli’r Aelod Lleol mewn perthynas
â’r eitem a nodir: Y Cynghorydd
Gareth Williams (nad
oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.4 C25/0777/39/LL ar y rhaglen |
|
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 18 o Fai 2026 fel rhai cywir
|
|
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y
Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i’w datblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac
agweddau o’r polisïau. |
|
|
Cais Rhif C26/0238/15/LL Tir gyferbyn a 10 Warden Street, Llanberis, LL55 4HP Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Codi tŷ annedd newydd a) Amlygodd yr
Uwch Swyddog Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar
gyfer codi annedd deuluol o ddyluniad deulawr ar wahân, gyda thalcen yr eiddo
yn wynebu’r ffordd gyhoeddus; y tŷ arfaethedig o ddyluniad to brig modern
wedi ei adeiladu i mewn i’r llethr. Byddai’n mesur oddeutu 7.2m o uchder i fan
uchaf y to, gyda balconi ar deras sylweddol yn cael ei osod i gefn yr eiddo
fydd yn ymestyn allan oddeutu 2.5m ac yn gwasanaethu'r llawr. Gwrthodwyd cais am eiddo unigol ar y safle
hwn (26.02.2026) o dan gyfeirnod C25/0927/15/LL. Er bod rhai newidiadau wedi’u
gwneud i gynlluniau’r cais presennol, gan gynnwys dileu dau agoriad llawr
cyntaf oedd yn wynebu’r eiddo drws nesaf a lleihau maint y balconi fel nad yw’n
ymestyn allan heibio edrychiad ochr y tŷ, roedd maint a gosodiad yr eiddo
yn parhau yn gyffredinol yr un fath o ran maint a graddfa. Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio am
benderfyniad ar gais yr Aelod Lleol. Cyfeiriwyd at Polisi TAI 15 o'r Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl) sy’n datgan y bydd Cynghorau yn
ceisio sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y cynllun. Dau neu fwy
o unedau tai yw'r trothwy, ond gan mai dim ond un uned sydd yn cael ei gynnig
yn yr achos hwn, nid yw Polisi TAI 15 yn berthnasol ac nid yw’n angenrheidiol
darparu elfen fforddiadwy. Mae Polisi PCYFF 3 yn ei wneud yn ofynnol i
ddatblygiadau fod o ddyluniad o ansawdd uchel sy’n parchu a chyd-fynd â
chymeriad a chyd-destun yr ardal. Yn yr achos hwn, ystyriwyd nad yw’r tŷ
arfaethedig yn adlewyrchu dyluniad traddodiadol y tai teras cyfagos ar Stryd
Warden. Er bod y dyluniad wedi cael ei addasu rhywfaint ers y cais blaenorol,
mae ei swmp, ei uchder a’i nodweddion mwy cyfoes yn parhau i ymddangos yn
anghymesur ac allan o gymeriad gyda’r amgylchedd lleol. Yn ogystal, oherwydd
bod y safle ar lethr, byddai’r annedd yn eistedd yn uwch na’r tai cyfagos ac
felly’n sefyll allan yn y dirwedd. O ganlyniad, ystyriwyd y byddai’r adeilad yn
creu effaith ormesol ac ni fyddai’n ymdoddi’n naturiol i’r strydwedd
na’r dirwedd o’i gwmpas. Nid yw’r bwriad felly yn ychwanegu na gwella cymeriad
na golwg yr ardal, ac mae’n groes i ofynion polisi PCYFF 3. Er bod rhai
deunyddiau’n ceisio cyfeirio at y dirwedd hanesyddol, ystyriwyd y gallai
dyluniad mwy sensitif i’r safle gael ei gyflwyno. O safbwynt mwynderau preswyl, cyfeiriwyd at
bryderon sylweddol ynghylch effaith y datblygiad ar eiddo cyfagos. Er bod y
balconi arfaethedig, wedi’i leihau, mae’n parhau’n nodwedd amlwg ar gefn yr
eiddo ac yn debygol o achosi problemau gor-edrych a
phreifatrwydd – y risgiau hyn yn effeithio’n benodol ar drigolion y capel
cyfagos a Rhif 10 Stryd Warden. Yn ogystal, ystyriwyd bod lleoliad a gosodiad yr eiddo yn golygu y bydd symudiadau i mewn ac allan o’r tŷ newydd yn digwydd mewn bwlch cul ger Rhif 10, yn hytrach na thuag at y stryd fel gweddill y tai. Byddai hyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Cais Rhif C25/0671/14/LL Ysgol Syr Hugh Owen Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1HW Codi ffens
newydd 2400mm o uchder ogwmpas rhan o ffin y cae chwarae. AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio i gynnal ymweliad safle Cofnod: Codi ffens newydd 2400mm o uchder o gwmpas
rhan o ffin cae chwarae. a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog Cynllunio mai
cais llawn ydoedd ar gyfer
codi ffens o amgylch rhan o ffin cae chwarae
Ysgol Syr Hugh Owen. Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio oherwydd bod
yr Aelod Lleol wedi datgan buddiant ac wedi darparu sylwadau
ar y cais. Amlygwyd bod sylwadau o’r ymgynghoriad statudol a chyhoeddus yn cyfeirio
fwyaf at bryderon yn deillio gan
gymdogion yn nodi ei fod yn
ddatblygiad di angen gan greu effaith
weledol, effaith ar fwynderau preswyl
ac effaith ar hawliau dynol. Derbyniwyd llythyr hefyd yn cefnogi'r
ffens oherwydd bod problemau gyda thaflu cerrig, tresmasu ar eiddo
preifat a sbwriel yn cael ei
daflu i mewn
i erddi. Cyfeiriwyd at Polisi ISA 2, sy’n ymwneud
gyda chyfleusterau cymunedol sy’n cynnwys ysgolion, ac yn nodi y bydd y CDLl yn cynorthwyo
i gynnal a gwella cyfleusterau cymunedol. Byddai’r bwriad yn cael
ei leoli ar ffiniau ysgol
bresennol a bod angen y ffens o gwmpas yr adeilad er mwyn gwella diogelwch o fewn tir yr ysgol. O ran yr egwyddor ystyriwyd bod y bwriad yn un rhesymol ac yn cyd-fynd gydag
egwyddor Polisi ISA 2 CDLl. Bydd y ffens bwriedig yn un “weldmesh” o liw gwyrdd, sydd
yn ffens lle mae modd
gweld drwyddi ac felly ystyriwyd na fydd
yn creu golwg
gaeedig na gormesol i’r ysgol
na’r tai cyfagos. Gan ei fod yn
cydweddu â ffensys presennol yr ysgol ac yn caniatáu gwelededd,
ni ystyriwyd y bydd yn creu
effaith weledol yn yr ardal, ac felly’n cydymffurfio â pholisi PCYFF 3. Adroddwyd bod rhai preswylwyr
cyfagos wedi gwrthwynebu ar sail effaith weledol a theimlad gormesol, ond nodwyd bod ffensys o’r math yma yn gyffredin
mewn ysgolion er mwyn diogelu staff a disgyblion. Gan fod ffensys tebyg eisoes
yn bodoli o amgylch y safle, nid yw’r cynnig
yn anghyson â’r amgylchedd. Bydd y ffens newydd
tua 4–5 metr o gefn y tai, gan ddarparu bwlch digonol fel nad
yw’n cael effaith sylweddol ar fwynderau preifat.
Ategwyd bod rhaid ystyried yr angen ar gyfer diogelu
disgyblion a thir yr ysgol ynghyd a’r
tir tu allan
i’r ysgol rhag difrod ac felly, ystyriwyd na fyddai’r
ffens o’r math yma’n achosi niwed
arwyddocaol sylweddol i fwynderau’r gymdogaeth
leol, ac felly yn cydymffurfio gyda Polisi
PCYFF 2 y CDLl. Yn ogystal,
tynnwyd sylw at goed sydd â gorchymyn
gwarchod ar hyd y ffin gydag
amod i’w osod i sicrhau
na chaiff unrhyw waith ar
y coed ei wneud heb ganiatâd ymlaen
llaw – byddai hyn yn diogelu’r
coed fel rhan o’r datblygiad. Nid oedd y bwriad arfaethedig yn cyrraedd y trothwyon ar gyfer cyflwyno
Datganiad Iaith Gymraeg neu Adroddiad
ar Asesiad Effaith Iaith Gymraeg, er hynny ni ystyriwyd byddai’n
niweidiol i’r iaith Gymraeg ac felly yn cydymffurfio a gofynion Polisi PS 1. Ystyriwyd bod y materion cynllunio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
Cais Rhif C26/0057/33/RC Rhan o gae ger Penboncyn, Boduan, Pwllheli, LL53 6DR Ail
gyflwyniad o gais a wrthodwyd yn flaenorol i ddiddymu cytundeb 106 yn ymwneud a
chodi tŷ fforddiadwy a ganiatawyd o dan gyfeirnod C10D/0017/33/LL ar rhan
o gae ger Penboncyn, Boduan, Pwllheli. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod Rheswm: Credir fod y Cytundeb 106 sydd
yn cyfyngu'r eiddo i dy fforddiadwy ar gyfer angen lleol yn parhau gyda diben
perthnasol ar gyfer defnydd cynllunio a'i fod o'r herwydd, yn parhau i sicrhau
defnydd angenrheidiol yn unol â chanllawiau a roddir yn rhan 'Oblygiadau
Cynllunio' Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 Cylchlythyr 13/97, Polisi Cynllunio
Cymru, Pennod 3 “Gwneud Penderfyniadau Cynllunio a’u Gorfodi” a Deddf Cynllunio
Gwlad a Thref (Diwygio a Dileu Rhwymedigaethau Cynllunio), 1992. Byddai
gwaredu'r gytundeb fel a nodir yn y cais hefyd yn tanseilio strategaeth y
Cyngor mewn perthynas â diogelu nifer derbyniol o dai fforddiadwy o fewn y sir,
fyddai yn groes i ofynion Polisi PCYFF 1 a TAI 15 o Gynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Mon, 2017 ynghyd a chanllawiau perthnasol a geir yng Nghanllawiau
Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy, Canllaw Cynllunio Atodol: Ymrwymiadau
Cynllunio a Nodyn Cyngor Technegol 2:
Cynllunio a Thai Fforddiadwy. Cofnod: Ail gyflwyniad o
gais a wrthodwyd yn flaenorol i ddiddymu cytundeb 106 yn ymwneud a chodi
tŷ fforddiadwy a ganiatawyd o dan gyfeirnod C10D/0017/33/LL ar ran o gae
ger Penboncyn, Boduan, Pwllheli. a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio mai cais ydoedd i ddileu cytundeb 106 ynghlwm a chaniatâd cynllunio
yn 2010 sydd yn sicrhau y byddai’r eiddo yn uned fforddiadwy gyda disgownt o
leiaf 40%. Cyflwynwyd y cais oherwydd nad yw'r perchnogion presennol yn
ystyried y tŷ i fod yn dŷ fforddiadwy hyd yn oed ar raddfa ostyngedig
oherwydd ei werth ariannol. Nodwyd nad oedd yr eiddo wedi ei adeiladau, ond bod
gwaith mewn cyswllt a’r caniatâd cynllunio, gan gynnwys y fynedfa, wedi cychwyn
ac felly’r caniatâd cynllunio yn parhau yn fyw. Bydd yr eiddo, petai yn cael ei
adeiladu yn unol â’r cynlluniau a ganiatawyd, yn dŷ unllawr
ar ben ei hun, 4 ystafell wely, ystafell fyw wedi ei leoli o fewn ardal wledig
Boduan sydd ymhell tu allan i unrhyw ffin ddatblygu gyfredol, ac felly yng
nghefn gwlad agored. O safbwynt hanes cynllunio, cafodd cais yr ymgeisydd gwreiddiol (nid yr
ymgeiswyr presennol) ei asesu a phrofwyd yr angen am dŷ fforddiadwy. Er
hynny, roedd maint yr eiddo yn sylweddol fwy na'r hyn fyddai'n arferol ar gyfer
tŷ fforddiadwy 4 llofft ac felly, yr argymhelliad a wnaed gan swyddogion
ar y pryd oedd gwrthod y cais. Trafodwyd y cais yn y pwyllgor cynllunio ar y
pryd ag fe benderfynodd yr aelodau fynd yn groes i'r argymhelliad a chaniatáu’r
cais yn ddibynnol ar gwblhau cytundeb 106 i sicrhau y byddai’r tŷ yn
fforddiadwy. Ategwyd nad yw Boduan wedi ei ddiffinio fel pentref gwledig erbyn
hyn ac felly, mae'r safle yng nghefn gwlad agored o safbwynt yr ystyriaeth
gynllunio berthnasol. Nodwyd fod cais blaenorol ar gyfer dileu’r 106 wedi ei wrthod o dan
hawliau dirprwyedig ac fe gyflwynwyd y cais i’r pwyllgor cynllunio am
benderfyniad ar gais yr aelod lleol. Cyfeiriwyd at y drefn ar gyfer asesu dileu cytundebau 106, y meini prawf
penodol a bod y cytundeb yn parhau i fod yn berthnasol - y cytundeb ar gyfer
sicrhau bod yr uned yn fforddiadwy am byth; Eglurwyd bod y safle yn wreiddiol
mewn lleoliad yn union gerllaw adeilad a oedd wedi ei liwio ar fap cynigion
Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd a oedd yn diffinio Boduan fel Pentref Gwledig
ac felly heb gydymffurfio gyda pholisi tai fforddiadwy ar y pryd ni fyddai wedi
cael caniatâd yn y lle cyntaf. Ategwyd bod yr angen yn parhau ar gyfer unedau
fforddiadwy yn ardal Boduan ac ardaloedd cyfagos sydd wedi ei dystiolaethu gan
sylwadau Uned Strategol Tai. Nid oes modd arall o sicrhau fod yr uned yn
fforddiadwy ac felly ystyriwyd fod y cytundeb yn parhau’r berthnasol. Amlygwyd bod gwybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn cyfeirio at brisiad, ond heb ei gynnwys, a bod yr ymgeiswyr o’r farn fod y pris yn rhy uchel i fod yn fforddiadwy ac felly ar gael i rai a fyddai’n gymwys ar ei gyfer. Nodwyd mai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
Cais llawn i ddymchwel
eiddo preswyl presennol (dosbarth C3) a chodi eiddo preswyl
newydd (dosbarth C3) yn ei le ynghyd
a gwelliannau i fynedfa bresennol AELOD
LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu, yn groes i‘r argymhelliad
Cofnod: Cais
llawn i ddymchwel eiddo preswyl presennol (dosbarth C3) a chodi eiddo preswyl
newydd (dosbarth C3) yn ei le ynghyd a gwelliannau i fynedfa bresennol a)
Amlygodd y
Rheolwr Cynllunio bod y cynnig yn golygu dymchwel adeilad gwag presennol (sydd
yn amlwg wedi cadw ei statws fel eiddo preswyl) a chodi adeilad deulawr 4
llofft yn rhannol dros ôl troed yr eiddo presennol ond fyddai fymryn yn uwch.
Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Sarn Bach gyda
ffordd gyhoeddus dosbarth 3 cyfochrog a llwybr cyhoeddus yn arwain oddi ar y
ffordd trwy’r safle. Ategwyd bod mynedfa gerbydol bresennol yn arwain heibio
talcen yr eiddo sydd yn gwasanaethu'r safle ac yn fynediad i safle gwersylla a
charafanau teithiol sefydledig ynghlwm a'r eiddo tu cefn i'r prif adeilad. Yr
adeiladau cyfagos i raddau yn gymysgedd o ran dyluniad a gorffeniadau, ond oll
yn cynnwys nodweddion cyffredin o ran ffurf a gorffeniadau megis toeau llechi a
gorffeniad o garreg naturiol a rendr. Cyflwynwyd
y cais i’r Pwyllgor am benderfyniad ar gais yr Aelod Lleol. Yng
nghyd-destun egwyddor y datblygiad ystyriwyd polisi TAI 13 (dymchwel ac
ail-godi tai) gan amlygu nad oedd polisi TAI 5 yn berthnasol oherwydd bod yr
eiddo presennol, o gysidro ei hawliau dirprwyedig i ymestyn, y tu hwnt i
ofynion y polisi. Nodwyd bod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisi TAI
13 ac nad oedd gwrthwynebiad i’r egwyddor o ddymchwel yr eiddo a chodi un arall
yn ei le. Fodd bynnag, ystyriwyd y byddai’r eiddo
arfaethedig, oherwydd ei ddyluniad, gorffeniadau a graddfa yn newid cymeriad y
safle yn llwyr ac yn denu’r llygaid i raddau annerbyniol. Ni fyddai’n parchu ei
gyd-destun safle a’i leoliad o fewn y pentref. Cydnabuwyd bod enghreifftiau
amrywiol o ddatblygiadau wedi eu caniatáu o fewn yr ardal, ond bod rhaid
ystyried bob cais ar ei haeddiant ei hun - yn yr achos yma, ni ystyriwyd fod y
bwriad wedi llwyddo yn gyfan gwbl i wella cymeriad ac ymddangosiad y safle gan
y byddai’r dyluniad yn creu nodwedd llawer fwy amlwg ac ni fyddai’n
integreiddio na chyfrannu’n gadarnhaol i’r strydlun lleol a phatrwm datblygu'r
ardal gyfagos. Cefnogwyd y farn gan sylwadau’r Uned AHNE. Derbyniwyd bod
ymdrech wedi ei wneud i newid dyluniad yr eiddo, ond ni lwyddwyd i oresgyn yr
holl bryderon o ran effaith weledol ac effaith ar yr AHNE. I’r perwyl hyn,
roedd y bwriad yn gwrthdaro â gofynion perthnasol polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 ac
AMG 1 y CDLl ynghyd a chyngor Nodyn Cyngor Technegol
12. Cyfeiriwyd
at faterion mwynderau preswyl, trafnidiaeth, iaith a bioamrywiaeth gan nodi eu
bod yn dderbyniol. Ystyriwyd bod y bwriad yn annerbyniol yn y ffurf
fel y cyflwynwyd gan ei fod yn methu bodloni gofynion polisïau a chanllawiau
perthnasol. Roedd y swyddogion yn argymell gwrthod y cais. b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y
sylwadau canlynol: · Y bwriad oedd dymchwel hen dý fferm a chodi tŷ newydd yn ei le - dim ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
Cais Rhif C25/0344/11/LL 219 - 231 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1NY Datblygiad arfaethedig ar gyfer newid defnydd hen Dafarn Waterloo Inn (defnydd A3) a rhan o hen unedau WH Smiths a USC (defnydd ategol A1) i ffurfio 13 o fflatiau preswyl hunangynhwysol (defnydd C3) ynghyd â newidiadau mewnol ac ail gyflunio i gyfuno dwy uned fanwerthu AELODAU
LLEOL: Cynghorydd Dylan Fernley a’r Cynghorydd Nigel Pickavance Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau: 1. Amser 5
mlynedd. 2. Yn unol
â’r cynlluniau 3. Cyfyngu'r
defnydd i anheddau preswyl dosbarth defnydd C3 yn unig 4. Cyfyngu’r
oriau adeiladau 5. Rhaid
gweithredu amcanion y Datganiad Seilwaith Gwyrdd 6. Amod tai
fforddiadwy 7. Enw
Cymraeg Nodyn : Dŵr Cymru Cofnod: Datblygiad arfaethedig ar gyfer newid defnydd hen
Dafarn Waterloo Inn
(defnydd A3) a rhan o hen unedau WH Smiths a USC
(defnydd ategol A1) i ffurfio 13 o fflatiau preswyl hunangynhwysol (defnydd C3)
ynghyd â newidiadau mewnol ac ail-gyflunio i gyfuno dwy uned fanwerthu
bresennol i ddarparu stondinau at ddibenion manwerthu ar y llawr gwaelod. a)
Amlygodd yr
Uwch Swyddog Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer eiddo sydd wedi ei leoli
oddi fewn ffin y Ganolfan Isranbarthol ac felly bod rhaid ystyried yr egwyddor
o ddatblygu’r safle yn erbyn Polisi TAI 1 y CDLl.
Adroddwyd mai’r lefel cyflenwad dangosol
o dai ar gyfer Bangor dros gyfnod y CDLl yw 969 uned.
Yn y cyfnod rhwng 2011 - 2025, nodwyd bod cyfanswm o 821 o unedau wedi eu
cwblhau yn y ddinas gyda’r banc tir ar hap h.y. safleoedd gyda chaniatâd
cynllunio presennol ar safleoedd nad sydd wedi eu dynodi ar gyfer tai, yn
Ebrill 2025 yn 164 uned. Er bod y ddarpariaeth eisoes yn cael ei gyfarch trwy’r
safleoedd yn y banc tir, mewn amgylchiadau o’r fath bydd ystyriaeth yn cael ei
roi i unedau sydd wedi eu cwblhau hyd yma o fewn yr haen Prif Ganolfannau. Mae
Polisi PS 17 y CDLl yn nodi bydd 53% o’r twf tai yn
cael ei leoli o fewn y Ganolfan Isranbarthol a Chanolfannau Gwasanaeth Trefol
gyda diffyg o 135 uned o safbwynt y ddarpariaeth ar hap o fewn yr haen hon. Drwy ychwanegu 13 uned anheddol at y stoc dai, byddai'r datblygiad yma yn gymorth i gyfrannu
tuag at dargedau tai'r CDLl mewn ffordd sy'n ymateb
yn gadarnhaol i ofynion y farchnad dai lleol ac felly fe ystyriwyd y gellid
derbyn y cynnig dan TAI 1 a PS 17 y CDLl. Nodwyd bod
Polisi TAI 9 o’r CDLl yn caniatáu rhannu eiddo
presennol yn fflatiau hunangynhaliol cyhyd a’u bod yn cydymffurfio a nifer o
feini prawf sydd yn cael ei drafod yn yr adroddiad. Credir bod y bwriad yn
dderbyniol ar sail gofynion polisi TAI 9. Cyfeiriwyd at yr asesiad Cymysgedd Tai, sy’n rhan
o’r Asesiad Effaith Iaith Gymraeg a gyflwynwyd, bod rhagamcanion Asesiad
Marchnad Tai Lleol Gwynedd 2018-2023 yn dangos twf parhaus yn nifer yr
aelwydydd 1 a 2 berson yn erbyn diffyg parhaus o eiddo addas. Amlygwyd bod yr
asesiad yn nodi, er bod darpariaeth dda ar gyfer y farchnad llety myfyrwyr ym
Mangor, bod prinder sylweddol yn y farchnad broffesiynol ifanc ar gyfer unedau
sydd o ansawdd uchel. Ystyriwyd bod tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno bod galw
lleol am unedau o’r maint a math a gynigwyd yma, ac
felly bod y gymysgedd dai yn briodol ac yn cydymffurfio gyda pholisi TAI 8. Lleolir y safle mewn ardal o ddefnyddiau tir cymysg, sy’n cynnwys defnyddiau preswyl ynghyd â defnyddiau masnachol a busnes. Ni ystyriwyd y bydd effaith sylweddol ar fwynderau preswyl eiddo cyfagos o ran gor-edrych na cholli preifatrwydd. Yn dilyn ymgynghori â’r Swyddog Cadwraeth ac addasu’r cynlluniau, daethpwyd i’r casgliad na fydd y datblygiad yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
Cais Rhif C26/0046/34/LL Cefn Graianog, Llanllyfni, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6SY Cais ar
gyfer gweithredu gwaith ailgylchu, sgrinio ac adfer deunyddiau gwastraff
anadweithiol AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd
gymeradwyo'r cais, gydag amodau'n ymwneud â'r canlynol: 1. Datblygiad i
ddechrau o fewn 12 mis o ddyddiad y caniatâd. 2. Daw'r gweithrediadau i ben erbyn
31/12/2028. Adfer y safle erbyn 30/06/2029 (i gyfateb i ganiatâd mwynau cyfeirnodC24/1126/34/AC).
3. Yn unol â'r
cynlluniau a gymeradwywyd. 4. Marcio ffiniau ardal y caniatâd ac
adeiladu pwynt casglu dŵr wyneb gan gynnwys bwnd i'w gadw ar y safle cyn
dechrau ar y datblygiad. 5. Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a
ganiateir, adeiladau, codi strwythurau, ffyrdd, llifoleuadau a ffensys. 6. Ni fydd unrhyw beth heblaw deunyddiau
gwastraff anadweithiol yn cael eu mewnforio i'r safle (Codau Gwastraff wedi eu
nodi yn yr Asesiad Cynllunio Gwastraff).
Dylai archwiliad o'r deunydd fod ar gael ar gais. 7. Ni chaniateir cludo mwy na 50,000
tunnell o ddeunyddiau gwastraff anadweithiol i'r safle fesul blwyddyn. Ni fydd
mwy na 20,000 tunnell yn cael ei storio ar y safle ar unrhyw un amser. 8. Oni chytunwyd fel arall yn
ysgrifenedig, bydd manylion lleoliad a manylebau unrhyw lifoleuadau yn cael eu
cyflwyno er cymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio Gwastraff cyn y gwaith gosod. 9. Oriau
Gweithio. (yn cyd-fynd â'r presennol). 10. Cyfyngiadau
sŵn (yn cyd-fynd â'r presennol). 11. Cynllun
Rheoli Sŵn i'w gyflwyno cyn pen 3 mis o gael caniatâd. 12. Bydd yr holl gerbydau, offer a
pheiriannau a weithredir yn y safle yn cael eu cynnal yn y fath fodd fel ag i
gyfyngu uchafswm lefelau allyriadau sŵn i'r rhai a nodir ym manyleb y
gweithgynhyrchwr. Ni fydd unrhyw
gyfarpar, offer na pheiriannau yn cael eu gweithredu ar y safle oni bai eu bod
wedi eu gosod gyda sgriniau atal sŵn, 'casework',
caeadau a distewyddion. 13. Ni fydd unrhyw weithrediadau yn digwydd
ar y safle yn y fath fodd fel ag i achosi i lwch dihangol godi a bydd system
chwistrellu dŵr neu system atal llwch yn cael ei chynnal ar y safle bob
amser ynghyd â chyflenwad digonol o ddŵr. Bydd deunyddiau stoc gaiff eu
pentyrru a'r ardaloedd ble mae cerbydau olwynion yn teithio arnynt neu ble
mae'r gwaith o drin neu symud deunyddiau yn digwydd yn cael eu dyfrio neu fel
arall yn cael eu trin ar adegau neu gyfnodau fel sydd angen i atal llwch o'r
fath rhag codi. 14. Dylid sicrhau bod arwyneb y fynedfa i'r
ffordd gyhoeddus yn cael ei chadw yn rhydd rhag llaid a malurion eraill a'i bod
yn cael ei chadw bob amser mewn cyflwr derbyniol i'r Awdurdod Cynllunio
Gwastraff gan sicrhau bod llaid yn cael ei atal rhag cael ei ddyddodi ar y
ffordd gyhoeddus. 15. Gosodir gorchuddion ar loriau sy'n gadael
ac yn cyrraedd y safle gyda cherrig neu ddeunydd sy'n llai na 500mm. 16. Cyfyngu ar
fynediad cerbydau i'r trefniadau mynediad presennol. 17. Bydd copi o'r penderfyniad hwn â'r cynlluniau a gymeradwyir sy'n dangos y dull a chyfeiriad y gweithio a'r gwaith adfer yn cael ei ddangos yn swyddfa gweithredwr y safle a thrwy'r amser ... view the full Penderfyniad text for item 11. Cofnod: Cais ar gyfer gweithredu gwaith
ailgylchu, sgrinio ac adfer deunyddiau gwastraff anadweithiol Tynnwyd sylw at y Ffurflen Sylwadau Hwyr oedd yn nodi nad oedd gan AHNE
wrthwynebiad. a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Mwynau mai’r
bwriad oedd ailgylchu ac adfer gwastraff anadweithiol drwy brosesau ffisegol
megis sgrinio, i gynhyrchu agregau eilaidd yn unol â safonau WRAP. Byddai’r
gweithgareddau’n digwydd ar y llain galed bresennol ac yn debyg eu natur i
waith presennol y safle. Bydd deunyddiau’n cael eu cludo drwy’r rhwydwaith
ffyrdd presennol, a bydd dŵr yn cael ei ailgylchu ar y safle drwy system
lagŵn, heb ei ollwng oddi ar y safle. Bydd yr oriau a’r amodau gweithredu
yn aros fel y rhai sydd eisoes wedi’u sefydlu ar gyfer y chwarel. Eglurwyd bod y cais wedi ei sgrinio o dan reoliadau
Asesiad Effaith Amgylcheddol ac ystyriwyd nad yw’r datblygiad yn debygol o gael
effeithiau sylweddol, ac felly nid oedd angen cyflwyno Datganiad Amgylcheddol. Yng nghyd-destun egwyddor y cais nodwyd bod y safle
eisoes wedi’i ddynodi ar gyfer rheoli gwastraff dan Bolisi GWA 1, ac felly’n
dderbyniol. Bydd y bwriad yn cynnwys trin hyd at 50,000 tunnell y flwyddyn drwy
brosesau ffisegol yn unig, er mwyn cynhyrchu agregau a deunyddiau wedi’u
hailgylchu; asesiadau wedi dangos na fydd effeithiau arwyddocaol ar yr
amgylchedd na mwynder lleol. Nodwyd bod polisïau cenedlaethol a lleol yn
cefnogi rheoli gwastraff cynaliadwy, ar yr amod nad oes effeithiau andwyol ar
yr amgylchedd na mwynder trigolion. Yn yr achos hwn, mae’r asesiadau yn dangos
na fydd effeithiau arwyddocaol o ran y dirwedd, yr amgylchedd na mwynder.
Ategwyd bod y cais yn cael ei gefnogi gan Asesiad Cynllunio Gwastraff oedd yn
amlygu’r angen am y cyfleuster, yn enwedig i brosesu deunydd o waith carthu,
ac yn galluogi’r safle i arallgyfeirio
ei weithgareddau. Yn gyffredinol, y bwriad yn cefnogi’r economi gylchol trwy
leihau gwastraff a’r angen am ddeunyddiau newydd, ac felly fe’i hystyriwyd yn
ffurf gynaliadwy o ddatblygiad sy’n cydymffurfio â pholisïau perthnasol PS 21, GWA 1 o’r CDLl
a Nodyn Cynllunio Technegol 21. Yng nghyd-destun Mwynderau Gweledol a’r dirwedd, nodwyd bod y cais wedi’i asesu yn erbyn polisïau PCYFF 3 a PCYFF 4, sy’n ymwneud ag effaith datblygiadau ar gymeriad y dirwedd a mwynder gweledol, ynghyd â pholisïau MWYN 3 a MWYN 9, sy’n ymwneud â datblygiadau mwynau a’u hadfer. Yn yr achos hwn, nodwyd bod y datblygiad yn cael ei leoli o fewn chwarel weithredol a'r ardal brosesu bresennol, heb unrhyw estyniad i ôl-troed y safle ac mai’r unig newid ffisegol yw bwnd cymharol isel ar hyd ffiniau’r safle. Ategwyd bod y peiriannau prosesu eisoes yn bresennol ac yn llai o ran graddfa na’r gweithgarwch mwynau presennol, ac felly ni fyddant yn cyflwyno effaith weledol newydd arwyddocaol. Mynegwyd bod yr asesiadau yn cadarnhau na fydd effaith annerbyniol ar y dirwedd ehangach nac ar ddynodiadau sensitif cyfagos, yn ogystal á’r datblygiad yn cael ei gyfyngu i oes y chwarel ac yn cael ei adfer yn unol â gofynion polisi MWYN 9 ac felly effeithiau gweledol a thirweddol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
|
Cais Rhif C21/0590/17/LL Fferm Grafog, Y Groeslon, Caernarfon, Gwynedd Cais ar gyfer newid defnydd tir ar gyfer creu
safle gwyliau teithiol ar gyfer carafanau, 'motor homes’ (25 uned) a pebyll
(10), dymchwel adeilad cyfleusterau presennol a chodi adeilad cyfleusterau o'r
newydd ynghyd a datblygiadau cysylltiol AELOD LLEOL: Cynghorydd Llio Elenid Owen Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: DECISION:
To approve with conditions 1. Time 2. In accordance with the amended plans. 3. Limit the number of touring units to 25
caravans and 10 tents only. 4. Holiday use only and keep a register. 5. Touring unit's holiday season - 1 March
to 31 October. 6. No storing of touring caravans on the
site. 7. Trunk Road Conditions 8. Natural Resources lighting condition 9. Biodiversity Conditions 10. Construction work hours 11. Welsh name 12. Welsh language Signs 13. Hard-standing condition 14. Footpaths Condition Notes: NRW letter
note SUDS note Licensing
Note PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag
amodau 1. Amser 2. Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig. 3. Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 25 carafán a 10 pabell yn
unig. 4. Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr. 5. Tymor gwyliau'r unedau teithiol - 1af Mawrth i 31 Hydref 6. Dim storio carafanau teithiol ar y safle. 7. Amodau Cefnffyrdd 8. Amod goleuo Cyfoeth Naturiol 9. Amodau Bioamrywiaeth 10. Oriau gwaith adeiladu 11. Enw Cymraeg 12. Arwyddion Cymraeg 13. Amod llawr caled 14. Amod Llwybrau Nodiadau: Nodyn llythyr CNC Nodyn SUDS Nodyn Trwyddedu Cofnod: Cais ar gyfer newid defnydd tir
ar gyfer creu safle gwyliau teithiol ar gyfer carafanau, 'motor (25 uned) a phebyll (10), dymchwel adeilad
cyfleusterau presennol a chodi adeilad cyfleusterau o'r newydd ynghyd a datblygiadau
cysylltiol; lledu a gwella’r fynedfa i Gefnffordd yr
A487, gan gynnwys gosod arwyddion rhybudd ffurfiol, fydd yn hwyluso llif
traffig diogel ac effeithlon rhwng y safle a’r A487 Tynnwyd sylw at y Ffurflen Sylwadau Hwyr a)
Amlygodd
y Swyddog Cynllunio bod y safle yn un cefn gwlad gyda’r fynedfa wedi ei lleoli
yn union oddi ar Gefnffordd A487. Eglurwyd, ar hyn o bryd, bod y fynedfa un
trac presennol yn gwasanaethu’r fferm a’r safle ardystiedig presennol, sy’n
caniatáu 5 carafán a 10 pabell drwy gydol y flwyddyn; y safle wedi ei leoli
mewn Safle Bywyd Gwyllt ac o fewn parth Llifogydd Dŵr Wyneb a Chyrsiau
Dŵr Bach 2 a 3. Eglurwyd, gan mai datblygiad ar gyfer
carafanau teithiol yw’r bwriad, y byddai’n cael ei ystyried o dan Bolisi TWR 5 CDLl, sy’n gosod cyfres o feini prawf ar gyfer caniatáu
datblygiadau o’r fath. Byddai’r datblygiad arfaethedig wedi’i leoli
mewn cae gwastad sydd wedi’i amgylchynu gan goed aeddfed ar ei derfynau, ac
felly’n guddiedig o leoliadau cyhoeddus; yn cynnwys cadw’r gwrych presennol o
fewn y safle ac yn atgyfnerthu’r sgrinio drwy gynnig plannu gwrych newydd
brodorol o amgylch y safle i wahanu’r cae carafanau o’r cae ehangach. Nodwyd y
byddai’r adeilad cyfleusterau presennol sy’n cynnwys toiledau a chawodydd, y
cael ei ddymchwel a’i ddisodli ag adeilad cyfleusterau modiwlaidd symudol o safon
uwch. Ategwyd bod y bwriad wedi ei ddylunio i gwrdd â gofynion trwyddedu o
safbwynt gofod a chyfleusterau ac felly derbyniwyd bod y datblygiad yn un
safonol ac felly yn cydymffurfio â
Pholisi TWR 5 gan ei fod yn bodloni’r meini prawf perthnasol. Adroddwyd bod y datblygiad o ansawdd uchel o
ran dyluniad, gosodiad ac ymddangosiad, wedi’i leoli mewn safle anymwthiol sydd
wedi’i guddio’n effeithiol gan nodweddion presennol y dirwedd. Nid yw’n arwain
at ormodedd o arwynebau caled, ac mae’r safle mewn lleoliad hygyrch o safbwynt
y prif rwydwaith ffyrdd, lle gellid darparu mynediad addas heb amharu’n
sylweddol ar gymeriad y dirwedd. Yn ogystal, gellid sicrhau, drwy amodau
cynllunio, fod y safle’n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwyliau yn unig, ar
gyfer defnydd carafanau teithiol yn unig, a bod unrhyw unedau’n cael eu symud
o’r safle yn y cyfnodau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Ategwyd bod y safle’n dibynnu ar fynediad uniongyrchol oddi ar Gefnffordd yr A487 ac fel rhan o’r cais, cynigiwyd gwelliannau i’r gyffordd er mwyn galluogi dau gerbyd i basio’n ddiogel wrth ymuno â’r gefnffordd neu ei adael, ynghyd â gosod arwyddion rhybuddio priodol. Yn wreiddiol, roedd Uned Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru wedi nodi gwrthwynebiad oherwydd diffyg gwybodaeth a phryderon am ddiogelwch y fynedfa, yn benodol bod y gyffordd yn culhau i oddeutu 3–4m o fewn 7m i’r gefnffordd. Fodd bynnag, yn ystod cyfnod y cais cyflwynwyd gwybodaeth a chynlluniau ychwanegol, gan gynnwys Nodyn Technegol Trafnidiaeth, i ymateb i’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |